Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Michelle Blakeley-Walker a
Huw Williams (Cadeirydd) - yr Is-gadeirydd. Yn absenoldeb y Cadeirydd
Llywyddwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Karen Edwards |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mynegodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol
yn eitem 6 a 7 ar y rhaglen fel Tenant i Gyngor Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr. Materion yn codi Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod yr ymholiad
ynghylch yr angen am ffynonellau gwres eilaidd mewn llety gyda Phympiau Gwres
yr Awyr wedi'i godi gyda'r Adran Rheoli Adeiladu ac nad oedd yn ofynnol. Mewn ardaloedd o'r sir oddi ar y grid ar
gyfer cyflenwad nwy lle'r oedd Pympiau Gwres yr Awyr wedi'u gosod, roedd rhai
tenantiaid wedi dewis cadw eu llosgwyr coed neu Stofau Charnwood i'w defnyddio
wrth gefn. Roedd y Gwasanaeth yn gweithio ar Bolisi
Gwresogi y gellid ei gyflwyno i'r Pwyllgor am adborth cyn ei weithredu yn y
dyfodol. PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUN BUDDSODDI MEWN MEYSYDD PARCIO DRAFFT 2024 – 2029 PDF 224 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi ynghlwm)
sydd yn ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar y Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio
Drafft ar gyfer cyfnod mis Ebrill 2024 tan fis Mawrth 2029. 10.10am – 10.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr
Amgylchedd a Chludiant, ynghyd â’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad a'r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd yr
adroddiad Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio Drafft (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Nod yr adroddiad oedd darparu manylion Cynllun Buddsoddi mewn
Meysydd Parcio drafft y Cyngor ar gyfer y cyfnod Ebrill 2024 i Fawrth 2029 i'r
Pwyllgor Craffu Cymunedau, er mwyn galluogi'r Pwyllgor Craffu Cymunedau i
archwilio cynnwys y Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio drafft, gan gynnwys y
rhaglen a awgrymwyd a gwneud sylwadau yn unol â hynny. Dywedodd Aelod Arweiniol yr
Amgylchedd a Chludiant wrth y pwyllgor fod cynnig o fewn y cynllun i’r prisiau
parcio gynyddu am y tro cyntaf ers 2016. Y prif reswm dros y cynnydd
arfaethedig oedd adlewyrchu'r cynnydd cyffredinol mewn costau cynnal a chadw. Atgoffwyd y Pwyllgor fod
penderfyniadau ynghylch codi prisiau parcio yn benderfyniadau dirprwyedig a
wnaed gan yr Aelod Arweiniol. Fodd bynnag, oherwydd yr effaith bosibl ar
drigolion roedd y mater wedi'i drafod gyda'r Tîm Gweithredol Corfforaethol, y
Cabinet a chraffu cyn ei weithredu. Wrth gloi dywedodd Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y byddai diweddaru system talu ac arddangos
y meysydd parcio yn costio tua £13-14,000 i'r awdurdod. Arweiniodd y swyddogion y
Pwyllgor drwy'r adroddiad a'r atodiadau gan amlygu meysydd allweddol. Dangoswyd
y cynllun 5 mlynedd gwreiddiol i’r aelodau, a gynhyrchwyd yn 2018 ynghyd ag
atodiadau B ac C yn cymharu gwaith a gynlluniwyd yn erbyn gwaith a gwblhawyd.
Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Ffyrdd wrth yr aelodau fod holl beiriannau talu ac
arddangos yr Awdurdod wedi'u diweddaru ers cyflwyno'r cynllun er mwyn caniatáu
amryfal ddulliau o dalu, gan gynnwys talu digidol. Dywedodd y swyddogion fod y
cynllun wedi bod gerbron y Grŵp Craffu Cyfalaf i'w drafod ac y byddai'n cael
ei gyflwyno i'r Cyngor llawn am y penderfyniad terfynol cyn ei weithredu. Gan ymateb i gwestiynau’r
Aelodau, dywedodd Swyddogion - ·
Gosodwyd pwyntiau gwefru
cerbydau trydan mewn naw maes parcio ledled y Sir – gan gynnwys pwyntiau gwefru
cyflym yn y canolbwynt yn y Rhyl a maes parcio Rhodfa'r Brenin ym Mhrestatyn. ·
Roedd cynyddu'r lleoedd
gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio'r Cyngor yn ddyhead gan y tîm. Ni
chasglwyd data i weld a oedd angen mwy o bwyntiau. Byddai pris trydan yn y
pwyntiau hyn yn gystadleuol. ·
Roedd gwaith cynllunio
diddosi arwyneb y maes parcio aml-lawr yn Ninbych wedi'i ohirio er mwyn gwneud
gwaith atgyweirio strwythurol ac adferol arall. Ni ragwelwyd y byddai effaith
sylweddol ar ddeiliaid trwydded pe bai'r deciau isaf yn cael eu cau tra bod
gwaith yn cael ei wneud. Gellid alinio agoriad y
deciau isaf gyda'r diwrnodau parcio am ddim a neilltuwyd gan y Cyngor Tref ar
gyfer digwyddiadau arbennig trwy gydol y flwyddyn. ·
Byddai angen ystyried
achos busnes ar gyfer unrhyw waith sylweddol ar feysydd parcio yn y Grŵp
Rheoli Asedau a’r Grŵp Craffu Cyfalaf ac ati. Gofynnodd y Pwyllgor i
adolygiad blynyddol o Gynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio 2024 - 2029 gael ei
gyflwyno i'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD –
I.
Bod y Pwyllgor yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les a
II.
Bod cynnwys yr adroddiad
ar y Cynllun Buddsoddi mewn Maes Parcio 2024 - 2029 yn cael ei nodi. |
|
RHEOLI TENANTIAETH TAI CYMUNEDOL PDF 221 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol (copi ynghlwm) sydd yn ceisio
sylwadau’r Pwyllgor ar ymagwedd y Cyngor tuag at reoli tai ac ystadau’r cyngor,
gan gynnwys y cymorth sydd ar gael i aelwydydd. 10.45am - 11.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr
Adroddiad Rheoli Tenantiaeth Tai Cymunedol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ochr
yn ochr â'r Pennaeth Tai a Chymunedau, y
Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol, a'r Rheolwr Cymdogaeth. Cyn i'r swyddogion roi manylion yr adroddiad, rhoddodd yr
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau gyflwyniad byr i'r pwyllgor. Nododd fod yr
adroddiad hwn a'r adroddiad Adborth Tenantiaid canlynol yn adlewyrchu’r ddwy
ochr, y landlordiaid a’r tenantiaid. Un o ochr rheoli tai Sir Ddinbych o dai
cymdeithasol, a’r nesaf (eitem 7) yn canolbwyntio ar farn y tenantiaid ynghylch
gweithredoedd y Gwasanaeth Tai. Diolchodd y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol i'r aelod arweiniol am
y cyflwyniad. Atgoffodd yr aelodau mewn cyfarfod blaenorol o'r pwyllgor craffu,
lle'r oeddent wedi trafod y Strategaeth Dai a'r Cynllun Gweithredu
Digartrefedd, y gofynnwyd a oedd yr awdurdod yn gorfodi amodau tenantiaeth yn
ddigon cadarn. Wrth gyflwyno'r Rheolwr Cymdogaeth eglurwyd bod y gwasanaeth
wedi symud i ffwrdd o rolau Tai arbenigol a fyddai’n delio’n unig gyda materion
Rheoli Incwm neu Gymdogaeth, i greu swyddogion
cyffredinol sy’n gallu darparu gwasanaeth mwy cyfannol i denantiaid sydd
yn cynyddu effeithlonrwydd i reoli llwyth gwaith. Roedd gwybodaeth am sut y
rheolwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu unrhyw ymddygiad a oedd yn effeithio
ar gymdogion, wedi'i darparu, a oedd yn cynnwys camau gweithredu ffurfiol ac
anffurfiol. Bu’r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth
ieuenctid a gwasanaeth dibyniaeth gymunedol yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru i
gefnogi a chyfryngu gyda thenantiaid. Roedd yr adroddiad yn darparu
ystadegau ac astudiaethau achos ar faterion a gododd yn eithaf aml a oedd yn
gofyn am ymateb ar unwaith gan y tîm tai. Gan ymateb i gwestiynau’r
Pwyllgor, dywedodd Swyddogion: ·
O ran y Cynllun Cefnogwr Digidol, roedd y tîm
cydnerthedd cymunedol yn parhau i weithio i sicrhau nad oedd tenantiaid yn cael
eu hallgáu’n ddigidol rhag cyfathrebu â’r gwasanaeth. · Roedd Contract Ymddygiad Derbyniol (ABC) yn ddull gweddol safonol o fynd
i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Lle mae’r ymddygiad yn ymwneud â
materion tenantiaeth yn unig (e.e. gerddi) anogwyd tenantiaid i gymryd rhan yn
y cytundeb gwirfoddol gyda’r gwasanaeth er mwyn newid yr ymddygiad hwnnw cyn
troi at gamau gorfodi. O bryd i'w gilydd, lle'r oedd gweithgarwch troseddol wedi digwydd byddai'r
ABC yn cael ei gymryd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru. · Roedd ABCs yn fwyaf effeithiol pan weithiodd y partïon dan sylw gyda’i
gilydd i lunio’r contract. Adolygwyd ABCs ar ôl 6 i 12 mis i gael mynediad at y
newid ymddygiad ac roeddent yn llwyddiannus ar y cyfan. Pe na bai materion yn
cael eu datrys, ystyriwyd ffyrdd eraill o weithredu megis gwaharddeb sifil gwrthgymdeithasol
- roedd achosion o'r fath yn brin. Diolchodd y Pwyllgor
i'r swyddogion am yr adroddiad llawn a thrylwyr. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn nodi
cynnwys yr adroddiad Rheoli Tenantiaeth Tai Cymunedol. |
|
AROLWG ADBORTH A BODLONRWYDD TENANTIAID TAI CYNGOR PDF 614 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol (copi ynghlwm) sydd yn cyflwyno
adborth i’r Pwyllgor gan denantiaid y Cyngor mewn ymateb i arolwg diweddar ar y
gwasanaeth maent yn ei dderbyn gan y Gwasanaeth Tai Cymunedol ac yn ceisio
safbwyntiau aelodau ar y canfyddiadau. 11.30am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau adroddiad
Adborth ac Arolwg Boddhad Tenantiaid Tai Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
ochr yn ochr â'r Pennaeth Tai a Chymunedau, y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol, a'r Rheolwr
Cymdogaeth. Atgoffodd y Pennaeth Tai a
Chymunedau y Pwyllgor fod yr adroddiad yn amlinellu Arolwg Safonol Tenantiaid a
Phreswylwyr (STAR) 2024, lle'r oedd tenantiaid yn rhoi adborth ar eu cartrefi,
eu cymunedau a'r gwasanaeth a ddarperir gan Sir Ddinbych. Yna cafodd y
wybodaeth honno ei meincnodi yn erbyn sefydliadau eraill ledled Cymru. Er ei
bod yn braf cael bod ar frig y tablau hynny, roedd y ffocws ar allu darparu
cartrefi diogel a chyfforddus a chefnogi tenantiaid i ffynnu yn y cymunedau yr
oeddent yn byw ynddynt. Tywysodd y Swyddog Arweiniol Tai
Cymunedol y pwyllgor drwy gyflwyniad yn amlygu meysydd allweddol o fewn yr
adroddiad a'r arolwg. Dywedodd ei fod:
Ym mis Rhagfyr 2023, cafodd arolwg STAR ei anfon i bob
tŷ cyngor yn Sir Ddinbych. O’r
3,277 arolwg a anfonwyd, derbyniwyd ymatebion gan 893 o aelwydydd sy’n gyfradd
ymateb o 28%. Yn flaenorol, roedd yr ymatebion gan y genhedlaeth
hŷn yn bennaf ond roedd cynnwys sianeli digidol wedi casglu adborth gan
bobl iau a theuluoedd. Dangosodd y prif ddeilliannau fod boddhad yn yr ystod 80%
uchaf. Nododd y dadansoddiad o sylwadau’r meysydd i’w gwella yr oedd y
tenantiaid wedi’u hamlygu fel a ganlyn:-
·
Gwella ansawdd yr eiddo
(54%) ·
Gwneud gwaith atgyweirio
yn gynt (14%) ·
Cwblhau gwaith atgyweirio
sy'n weddill (10%) ·
Lleihau ymddygiad
gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd (10%) ·
Gwrando mwy ar
denantiaid (9%) ·
Gwella cyfathrebu (7%) Wrth ymateb i ymholiadau aelodau ynghylch canran yr
adborth mewn rhai ardaloedd, dywedodd swyddogion ei fod yn dda ar y cyfan, gan
nodi bod pobl yn gyffredinol mewn arolygon yn codi materion yn hytrach na rhoi
canmoliaeth. Lle'r oedd ardaloedd gydag ymateb is byddai ymdrechion yn cael eu
gwneud i ymgysylltu ymhellach ar gyfer arolygon yn y dyfodol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod yna Gymdeithas Tenantiaid a
Phreswylwyr Sir Ddinbych yr oedd y gwasanaeth yn anelu at gysylltu â nhw i
wella cyfathrebu ac ymgysylltu wrth symud ymlaen. Dywedodd y swyddogion:
Canmolodd y Pwyllgor y gwasanaeth ar lefel y gwaith
adnewyddu a wnaed ar eiddo cyn iddynt gael eu hailosod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Amgylchedd, er y nodwyd bod y
cyfraddau ymateb yn anghyson, bod yr arolwg wedi derbyn 893 o ymatebion, a bod
28% yn drawiadol. Roedd y gyfradd ymateb yn llawer uwch. Bod 890 wedi’u
cyflwyno ar-lein a’r grŵp oedran â’r nifer fwyaf o ymatebion oedd y
grŵp oedran 65+, yn awgrymu bod cynhwysiant digidol ymhlith tenantiaid tai
cyngor yn gwella. PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn nodi cynnwys yr
arolwg Adborth a Boddhad Tenantiaid Tai Cyngor. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 12pm – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy adroddiad Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol y Pwyllgor Craffu Cymunedau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Ers y cyfarfod diwethaf cynhaliwyd cyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau
Arbennig ar 11 Ionawr a oedd yn trafod penderfyniad y cabinet yn ymwneud â
chynnig arbedion Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad, byddai cofnodion y cyfarfod hwnnw
ar gael yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar y Mawrth 14eg. Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi’i
drefnu ar gyfer 14 Mawrth 2024, a’r eitemau arfaethedig ar gyfer y cyfarfod
hwnnw oedd - ·
Rhaglen Adfywio a Llywodraethu Y Rhyl ·
Gweithredu Cyfleusterau Cyhoeddus CSDd yn y
dyfodol. Ychwanegwyd yr eitem gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu ar ôl cyhoeddi'r pecyn rhaglen. Anogodd y Cydlynydd Craffu Aelodau i nodi unrhyw
gwestiynau neu faterion ar y Ffurflen Cynigion Aelodau (Atodiad 2) i’w trafod
yng nghyfarfod nesaf y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 18 Mawrth
2024. PENDERFYNWYD: ymhellach i'r uchod, cytuno ar Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Craffu Cymunedau. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.20pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Alan James a oedd unrhyw gofnodion
o'r cyfarfod Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd yr oedd wedi'i
fynychu ar gael i'r aelodau, byddai'r Cydlynydd Craffu yn cysylltu â swyddogion
i weld a oedd rhai ar gael. Daeth y cyfarfod i
ben am 11.10am |