Agenda and draft minutes
Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiad personol na chysylltiad personol oedd yn peri rhagfarn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd
na’r Cydlynydd Craffu at unrhyw faterion brys cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023. Materion yn codi - Darparodd y
Cynghorydd Elson ddiweddariad ar lafar i’r Pwyllgor ar gofnodion y Grŵp
Craffu Cyfalaf blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023. Hysbysodd yr aelodau bod y grŵp wedi
derbyn diweddariad ar gyllid gan Bennaeth Cyllid. Trafododd y Grŵp y Cynnig
Cyfalaf mewn perthynas â’r Warchodfa Natur yn Fferm Green Gates yn
Llanelwy. Byddai’n cael ei ariannu yn
bennaf gan Grantiau SPF. Cyflwynwyd adroddiad hefyd ar
y Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a oedd yn darparu gwybodaeth gefndirol ar
gyfer aelodau. Trafododd y Grŵp Ffyniant
Bro a’r Cronfeydd Ffyniant Gyffredin, a rhestrwyd 8 achos busnes, ni ofynnwyd
cwestiynau ar yr achosion hynny. Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r
swyddogion am drefnu a chwrdd ag aelodau ar yr orsaf trosglwyddo gwastraff
newydd yn Ninbych. Teimlai bod yr
ymweliad safle wedi bod yn hynod o ddiddorol ac yn fuddiol i’w weld gyda llygaid
ei hun. Roedd yr aelodau'n edrych ymlaen at ymweliad yn y dyfodol i weld y safle ar waith. Gofynnodd y Cynghorydd
Merfyn Parry am ddiweddariad ar
y Grŵp Tasg a Gorffen Llifogydd, dywedodd y Cydgysylltydd Craffu bod cais yn cael ei
wneud ar hyn o bryd ym
mhob Grŵp Ardal Aelod i enwebu
cynrychiolydd i sefydlu'r grŵp a threfnu cyfarfodydd y grŵp gorchwyl a gorffen. Tynnodd y Cydlynydd Craffu
sylw at yr adolygiad o Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a oedd ar fin cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn ond roedd rhaid ei ohirio i gyfarfod y
pwyllgor nesaf yn Hydref 2023. Felly: PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
ddydd Iau, 29 Mehefin 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir o’r achos. |
|
YMGYSYLLTU Â FFORWM GOFAL CYMRU A DARPARWYR GOFAL YN SIR DDINBYCH PDF 296 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gwasanaeth Digartrefedd (copi ynghlwm) yn edrych ar y cynnydd a wnaed wrth annog Fforwm Gofal Cymru a darparwyr gofal cymdeithasol lleol i ymgysylltu â’r Cyngor mewn perthynas â darpariaeth gofal cymdeithasol a gosod ffioedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad (a
ddosbarthwyd o flaen llaw), gan atgoffa aelodau bod yr adroddiad yn dilyn i
fyny ar yr adroddiad brys ar benderfyniad y Cabinet i dderbyn argymhelliad y
grŵp ar gyfer Ffi Ranbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24 yn Rhagfyr 2022. Roedd y Pwyllgor wedi cwrdd i drafod y
penderfyniad yn gynharach yn y flwyddyn a gofynnwyd am adroddiad yn diweddaru
gan Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Digartrefedd ar eu hymrwymiad
gyda Fforwm Gofal Cymru a Darparwyr Gofal yn Sir Ddinbych. Nododd yr Aelod Arweiniol bod yr adroddiad yn gryno am
fod y broses gosod ffi ar gyfer 2024/24 dal yng nghamau cynnar y broses. Yn ei
barn hi roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiad yr Awdurdod i annog
perthnasau tryloyw a chyd-gynhyrchiol gyda darparwyr yn Sir Ddinbych. Byddai'r gwasanaeth yn parhau i weithio'n
agos gyda'r holl ddarparwyr ar gyfer y broses gosod ffioedd ar
gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Pwysleisiwyd i'r aelodau mai pwrpas
yr adroddiad oedd trafod y pryderon
a godwyd yn flaenorol ynghylch ymgysylltu â Fforwm Gofal Cymru a darparwyr gofal lleol. Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau i’r Aelod Arweiniol
am y cyflwyniad a pharhaodd
drwy bwysleisio bod ymgysylltu â darparwyr yn rhan o rôl
y swyddog o ddydd i ddydd. Roedd cyfathrebu
cyson rhwng yr Awdurdod a darparwyr.
Ar draws Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd roedd yr awdurdod yn
gweithio ochr yn ochr â nifer
o ddarparwyr ac yn comisiynu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi anghenion dinasyddion Sir Ddinbych ac yn aml unigolion sy'n
byw y tu allan i'r awdurdod. Darparodd yr adroddiad trosolwg o’r ymrwymiad ychwanegol yr oedd swyddogion
wedi’i gael gyda darparwyr yn dilyn yr adroddiad cynharach yn y flwyddyn. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y
darparwyr hynny sy’n cynnig gofal preswyl a gofal cartref. Diolchodd y Cadeirydd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion
am y cyflwyniad a’r adroddiad manwl. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau rhoddodd y swyddogion
a’r cynrychiolwyr fwy o fanylion am y canlynol:
·
Roedd y pryder yr oedd
aelodau wedi'i godi'n flaenorol yn ymwneud â diffyg
ymgysylltu gan ddarparwyr i drafod ffioedd a chostau. Pwysleisiodd swyddogion fod y gwasanaeth wedi ymgysylltu â darparwyr ynghylch y ffioedd, roedd swyddogion yn siomedig
â nifer y darparwyr a oedd wedi ymgysylltu'n
ffurfiol â'r adran yn y broses. Roedd swyddogion wedi ymrwymo i geisio cynyddu ymgysylltiad â darparwyr gofal wrth symud
ymlaen. Clywodd yr aelodau fod
swyddogion yn gweithio gyda darparwyr
yn rhanbarthol gan fod nifer
o ddarparwyr yn cynnig gwasanaethau ar draws nifer o awdurdodau. ·
Roedd ymateb ymgysylltu gan ddarparwyr yn hanesyddol isel,
ac roedd ceisio data ariannol yn aml
yn gwaethygu'r mater. ·
Yn yr adroddiad, amlygwyd
bod y Prif Reolwr - Gwasanaethau Gweithredol wedi bod yn rhan
o drafodaethau gyda Fforwm Gofal Cymru.
Dywedodd fod y cyfarfodydd a fynychodd wedi bod yn addysgiadol
a chadarnhaol. Pwysleisiwyd
bod y Prif Weithredwr ynghyd â'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg wedi cyfarfod â Fforwm Gofal Cymru. Cafodd yr Awdurdod ddeialog
agored gyda Fforwm Gofal Cymru ac roedd yn awyddus i feithrin
perthynas dda a chadarnhaol. · Yn ystod y pandemig Covid, bu swyddogion ar draws yr Awdurdod yn ymladd dros ddarparu offer amddiffynnol personol (PPE), brechiadau, ac ystyriaethau eraill ar gyfer gweithwyr gofal. Roedd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a FfGC, ar achosion o’r fath ac wedi parhau yn dilyn llacio’r cyfyngiadau. Mae’r achos i barhau gyda darpariaeth PPE i ddarparwyr gofal cymdeithasol am barhau ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 392 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy’r adroddiad
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Craffu Pwyllgorau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 19 Hydref 2023, yn cynnig
tair eitem ar gyfer y rhaglen.
I.
Adroddiad Cynnydd ar y
Model Gwasanaeth Gwastraff Newydd;
II.
Rhaglen Adfywio a
Llywodraethu Y Rhyl ac III.
Adolygiad o Asesiad
Llety Sipsiwn a Theithwyr. Anogodd y Cydlynydd Craffu aelodau os oedd ganddyn nhw
unrhyw broblemau neu bryderon eu bod nhw’n cwblhau a dychwelyd Ffurflen Cynnig
Aelodau (Atodiad 2) i’w trafod yn y cyfarfod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu nesaf ar 3 Hydref 2023. Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
petai’r Pwyllgor eisiau craffu ar unrhyw faterion sydd ar ddod. Felly, dyma’r Pwyllgor yn: PENDERFYNU: derbyn yr adroddiad a chadarnhau Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol y Pwyllgor, fel y nodir yn Atodiad 1 o’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd James
Elson adborth ar gyfarfod Grŵp Caffael Cyfalaf a gynhaliwyd ar 27
Gorffennaf 2023. Trafododd y grŵp 4
neu 5 eitem wahanol gan gynnwys eitem oedd yn adolygu llifogydd ym mynwent
Rhuddlan gyda’r grŵp yn gofyn am ymgynghoriad pellach. Darparodd y Cynghorydd Elson aelodau gyda
disgrifiad byr o adroddiadau eraill a gyflwynwyd i’r grŵp. Hysbysodd aelodau fod pont Llannerch ar
gyfnod 2 - cam cynllunio, ac roedd yn braf clywed bod Llywodraeth Cymru wedi
cytuno i gefnogi’r datblygiad hwn dros y 2 flynedd nesaf. Dywedodd y Cynghorydd Elson wrth yr aelodau fod
trafodaeth wedi bod ynglŷn â gwaith atgyweirio wal ardd Nantclwyd y Dre.
Roedd y prosiect wedi gorwario a byddai’n golygu gwaith atgyweirio a fyddai o
bosib yn costio £650,000 ac fe awgrymodd y byddai’n bwnc y dylai Caffael ei
drafod. Cytunodd i lenwi ffurflen cynnig
gan aelodau i Graffu. Cododd y Cynghorydd Cheryl Williams bryderon am y
rhaglen chwynnu sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Cynghorodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Williams
i ysgrifennu at y swyddog priodol a gofyn am adroddiad i’w Grŵp Ardal yr
Aelodau. |
|
Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r
Swyddogion am y gefnogaeth a’u presenoldeb yn y cyfarfod gan ddod â’r cyfarfod
i ben. Daeth y cyfarfod i ben am
10.55am. |