Agenda and draft minutes
Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN AND BY VIDEO CONFERENCE
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Delyth Jones. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd
y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer blwyddyn 2023/2024 y Cyngor.. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau gan Aelodau ar gyfer penodi
Is-Gadeirydd. Cafodd y Cynghorydd Karen Edwards ei chynnig a’i eilio ar
gyfer swydd yr Is-Gadeirydd. Ni chafwyd enwebiad arall ac felly - PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r
Cynghorydd Karen Edwards yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau am y
flwyddyn i ddod.
|
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 04 Mai 2023 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ddydd Iau 4 Mai 2023. Materion yn Codi - Holodd yr Aelodau os oedd dyddiad dechrau ar gyfer
cyfarfod y Grŵp Tasg a Gorffen Llifogydd. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth
Dros Dro ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol wybod i’r Aelodau eu
bod wrthi’n trefnu cyfarfodydd gyda Grwpiau Ardal yr Aelodau i ofyn am
enwebiadau ar gyfer eu meysydd priodol. PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau 4 Mai
2023 fel cofnod cywir. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT AILFODELU’R GWASANAETH GWASTRAFF PDF 239 KB Archwilio’r Polisi Casgliadau Gwastraff
Diwygiedig yn fanwl. Cynnydd o ran
cyflwyno’r gwasanaeth newydd - yn arbennig gweithredu’r Gwasanaeth AHP newydd a
diweddaru’r newidiadau i’r gwasanaeth gwastraff ar gyfer aelwydydd
ansafonol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Ailfodelu Gwastraff
i’r Aelodau. Roedd y gwaith o gynllunio Gwasanaeth Casglu Gwastraff
newydd ar y gweill ers blynyddoedd ac roedd yn cael ei gyflwyno fel bod Sir
Ddinbych yn gallu cyrraedd y targed statudol newydd o ailgylchu 70% o wastraff
cartrefi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn hanfodol bwysig bod y
gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno i gyfrannu at fynd i’r afael â newid yn
yr hinsawdd. Rhagwelir y bydd y gwaith o adeiladu depo
gwastraff newydd yn Ninbych wedi’i gwblhau erbyn diwedd hydref 2023 a byddai’r
Gwasanaeth Gwastraff newydd yn cael ei gyflwyno o fis Mawrth 2024 (yn amodol ar
gael y drwydded angenrheidiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’n galluogi ni i
weithredu pethau’n gyfreithlon yn y depo). Roedd manteision ariannol i
gyflwyno’r Gwasanaeth Gwastraff newydd hefyd oherwydd bod costau casglu
ailgylchu o finiau glas dan y gwasanaeth presennol wedi cynyddu’n
sylweddol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd fod yr adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi cyfle i Aelodau graffu ar y Polisi Casglu
Gwastraff diwygiedig. Hefyd, mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno
gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol newydd a’r newidiadau i aelwydydd
ansafonol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y
Gwasanaeth Gwastraff presennol a’r Gwasanaeth Gwastraff newydd. Cafodd aelodau wybod: · Mai’r dyddiad cyflwyno a
ragwelir ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff newydd yw mis Mawrth 2024. Fodd bynnag
mae hyn yn amodol ar gael y drwydded angenrheidiol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i
weithredu’n gyfreithlon o’r depo. · O hydref 2023 bydd y gwasanaeth
cynnyrch hylendid amsugnol newydd yn cael ei gyflwyno i ardal beilot, sef
ardaloedd cod post LL16 / LL17. Bydd yr ardal hon yn cynnwys oddeutu 1,000 o
danysgrifwyr, gan ddarparu cymysgedd o ardaloedd gwledig a threfol cyn
cyflwyno’r gwasanaeth i’r sir gyfan pan fyddai’r newid i’r prif wasanaeth yn
digwydd yn 2024. ·
Roedd gan Sir Ddinbych nifer o aelwydydd sy’n derbyn
‘gwasanaeth ansafonol’ h.y. naill ai gwasanaeth cymunedol neu sachau. Roedd hyn
oherwydd problemau mynediad i gerbydau neu ddiffyg lle i storio cynwysyddion.
Roedd yr aelwydydd ansafonol yn Sir Ddinbych yn cael eu hadolygu. · Byddai’r eitem ar y Model
Gwasanaeth Gwastraff yn dod gerbron y Pwyllgor Craffu Cymunedau eto ym mis
Hydref 2023 i drafod rhagor o fanylion am gyflwyno’r prif wasanaeth. Roedd Aelodau eisoes
wedi cael eglurhad manwl am y Gwasanaeth Gwastraff newydd, y cyflwyniad a’r
gwasanaethau newydd fyddai’n cael eu hymgorffori ynddo, felly agorodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol y drafodaeth i Aelodau, wedi cytuno â’r Cadeirydd. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:
yr Economi a’r Amgylchedd am y wybodaeth ddiweddaraf a chroesawodd gwestiynau
gan Aelodau’r Pwyllgor. Gofynnodd yr Aelodau os oedd Swyddogion yn
ymgysylltu â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned i ddangos sut y byddai’r bocsys
troli newydd yn gweithio. Teimlwyd y byddai hyn yn helpu preswylwyr i ddeall
pan fydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno. Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu
wrth Aelodau fod yr eitem rhaglen am y Gwasanaeth Gwastraff wedi cael ei
gynllunio ar gyfer cyfarfodydd pob Grŵp Ardal Aelodau ac yna byddai
trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r Tîm Prosiect. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth Aelodau y byddent yn gweithio ar fanylion y
gwaith ymgysylltu â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned a rhoi gwybod i Aelodau
maes o law. Holodd yr Aelodau am reolau a rheoliadau’r Gwasanaeth Gwastraff newydd a gofynnwyd a fyddai gorfodi cosb benodedig yn cael ei ddefnyddio os na fydd preswylwyr yn cydymffurfio. Gofynnodd yr Aelodau hefyd faint o rybuddion cosb a gyhoeddwyd dan y Model Gwasanaeth Gwastraff presennol. Dywedodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 236 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Cydlynydd Craffu yr Aelodau trwy adroddiad
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Craffu Cymunedau (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw). Roedd y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 7 Medi
2023, roedd tair eitem ar y rhaglen wedi’u cynnig.
I.
Adfywio’r Rhyl a Llywodraethu, eitem a drefnwyd yn
wreiddiol ar gyfer y cyfarfod heddiw, ond sydd wedi’i gohirio tan fis Medi i
aros am ganlyniad adolygiad llywodraethu’r Cynllun Corfforaethol newydd.
II.
Ymgysylltiad â Fforwm Gofal Cymru, cyfle i drafod yr
adroddiad cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Tachwedd ac
III.
Adolygiad o Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr. Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi o’r Ffurflen Cynnig
Aelodau. Anogwyd yr Aelodau i lenwi’r ffurflen gydag unrhyw eitemau yr oeddynt
yn credu y dylid eu hystyried. Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
petai’r Pwyllgor eisiau craffu ar unrhyw faterion sydd ar ddod. Atodiad 4 i'r adroddiad oedd rhestr o gynrychiolwyr y
Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau gwahanol. Wedi i’r Cynghorydd Pauline
Edwards sefyll i lawr o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, roedd angen cynrychiolydd
newydd ar gyfer Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad. Roedd y Cynghorydd Jon
Harland wedi mynegi diddordeb yn y Grŵp Herio Gwasanaeth hwn yn y
gorffennol felly cafodd ei gynnig, ei eilio a’i benodi fel cynrychiolydd y Pwyllgor
Craffu Cymunedau. PENDERFYNWYD: (i)
Penodi'r Cynghorydd Jon Harland yn gynrychiolydd y
Pwyllgor Craffu Cymunedau ar Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad a - (ii)
Derbyn a nodi’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchwyd i’r Cynghorydd Karen Edwards am
fynychu cyfarfod diweddar y gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad ar fyr rybudd. Dywedodd y Cynghorydd Edwards wrth yr Aelodau
fod y Grwpiau Herio Gwasanaethau yn addysgiadol iawn. Roedd y cyfarfodydd yn
gyfle i Aelodau gael sgyrsiau trylwyr â swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth a
gellid gofyn cwestiynau a chael ateb iddynt.
Roedd nodiadau camau gweithredu’r cyfarfod yn
cael eu rhannu â’r rhai oedd yn bresennol a chytunwyd y byddai cynrychiolydd
newydd y Grŵp Herio Gwasanaeth yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn y cyfarfod
nesaf. Dywedodd y Cynghorydd James Elson fod cyfarfod
o’r Grŵp Craffu Cyfalaf ar 7 Mehefin 2023 a byddant yn gofyn am gofnodion
y cyfarfod ac yn adrodd yn ôl i’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth yr Aelodau fod dau Grŵp Herio Gwasanaethau
wedi’u cynnal hyd yma ac roedd yn braf clywed bod Aelodau yn eu gweld yn
fuddiol. Daeth y
cyfarfod i ben am 10.50am |