Agenda and draft minutes
Lleoliad: yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Chris
Evans, llofnodwr y cais am alw i mewn – eitem rhif 5 ar y rhaglen wedi cyflwyno
ei ymddiheuriadau. Gan fod y Cadeirydd yn
mynychu'r cyfarfod o bell o dramor roedd wedi trefnu gyda'r Is-Gadeirydd ei bod
yn cymryd y cyfrifoldebau cadeirio ar gyfer y cyfarfod. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y Swyddog Monitro fod
gan aelodau'r Cabinet gysylltiad sy’n rhagfarnu yn eitem busnes rhif 5 ac felly
na allent fod yn bresennol yn y cyfarfod oni bai eu bod wedi cael gwahoddiad
gan y Pwyllgor. Roedd y Cynghorydd Elen Heaton, yr Aelod Arweiniol Iechyd a
Gofal Cymdeithasol, wedi’i gwahodd gan y Pwyllgor i fynychu’r cyfarfod yn
benodol ar gyfer y drafodaeth ar fusnes rhif 5 ac i ateb cwestiynau’r aelodau
mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet. Datganodd y Cynghorydd Alan James gysylltiad personol yn eitem rhif 6 ar y
rhaglen - Cam-drin Cŵn gan mai ei wraig, y Cynghorydd Win Mullen James
oedd yr Aelod Arweiniol ar gyfer yr adroddiad. Datganodd y Cynghorydd Mark Young
gysylltiad personol yn eitem rhif 5 ar y rhaglen - Adolygiad o Benderfyniad y
Cabinet yn Ymwneud ag Argymhelliad y Grŵp Gosod Ffioedd Rhanbarthol gan ei
fod wedi mynychu digwyddiadau lle'r oedd Cadeirydd a Phrif Weithredwr Fforwm
Gofal Cymru wedi bod yn bresennol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda Chadeirydd y cyfarfod cyn
cychwyn busnes. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 08 Rhagfyr 2022 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 i’w hystyried. Materion cywirdeb - Dim Materion yn Codi – Dim PENDERFYNWYD, y dylid
derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 fel
cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, i
adolygu’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm). 10.10 – 11.00 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y
swyddogion a'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Elen Heaton i'r cyfarfod. Rhoddwyd
gwybodaeth gefndir i'r aelodau a'r rhesymau dros y cais am alw i mewn. Rhoddodd
y Cadeirydd ddisgrifiad manwl i'r aelodau o'r weithdrefn galw i mewn. Atgoffwyd yr aelodau mai’r rheswm am yr alwad oedd fel y nodwyd yn yr
adroddiad: “Gofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad ar 13
Rhagfyr 2022 i dderbyn argymhellion y Grŵp Ffioedd o ystyried bod Gwynedd
ac Ynys Môn yn argymell talu llawer mwy i ddarparwyr gofal gyda golwg ar
sicrhau cynaladwyedd y sector gofal cymdeithasol yn eu hardaloedd yn y dyfodol.” Dywedodd y Swyddog Monitro
wrth yr aelodau mai atodiad B i’r adroddiad oedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r
Cabinet ym mis Rhagfyr 2022. Ystyriwyd bod yr adroddiad hwnnw’n cynnwys
gwybodaeth eithriedig o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972. Felly, roedd
y wasg a'r cyhoedd wedi'u heithrio rhag ystyried yr adroddiad hwnnw yng
nghyfarfod y Cabinet. Roedd yr eithriad wedi'i ganiatáu yn unol â pharagraff
14, rhan 4 o atodlen 12A o Ddeddf 1972 gan fod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn neu sefydliad,
gan gynnwys materion yr awdurdod lleol. Cynigiodd y Cynghorydd Alan
James bod y cyfarfod yn cael ei symud i fusnes cyfrinachol Rhan II ar gyfer y
drafodaeth ar weddill yr eitem fusnes ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd
Delyth Jones. Wrth ei gyflwyno i bleidlais roedd 6 aelod o blaid gwahardd y
wasg a'r cyhoedd a 3 yn erbyn. Felly: PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg
a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod
yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14
Rhan 4 o Atodlen 12A. Deddf Llywodraeth Leol 1972. GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD Rhoddodd y
Cynghorydd Merfyn Parry y rhesymeg dros alw penderfyniad y Cabinet i mewn ar
gyfer craffu manwl i’r aelodau. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Elen Heaton
nad oedd cam nesaf y drefn, sef ymgynghori â darparwyr, wedi dechrau eto
oherwydd bod penderfyniad y Cabinet yn cael ei alw i mewn i’w graffu.
Pwysleisiodd hefyd, er bod y Cabinet eleni wedi cytuno i dderbyn holl
argymhellion y Grŵp Gosod Ffioedd Rhanbarthol, mewn blynyddoedd blaenorol
ac o dan weinyddiaeth wahanol roedd y penderfyniad blynyddol hwn wedi'i wneud
trwy broses Penderfyniad Dirprwyedig yr Aelodau Arweiniol. Pwysleisiodd mai'r data a ddefnyddiwyd gan y
Grŵp Ffioedd wrth lunio'r argymhellion oedd y wybodaeth ddiweddaraf a
ddarparwyd i'r Grŵp gan y darparwyr hynny a oedd yn fodlon rhoi data
iddynt. Yn ogystal â defnyddio'r data oedd ar gael roedd y Grŵp Ffioedd
wedi dilyn methodoleg gadarn er mwyn cyfrifo'r lefelau ffioedd a argymhellir. Caniataodd y Cadeirydd i'r holl lofnodwyr a oedd yn
bresennol yn y cyfarfod gyflwyno eu rhesymau dros alw'r penderfyniad a rhoddwyd
amser i’r swyddogion a’r Aelod Arweiniol i ymateb hefyd. Yn ystod y drafodaeth:
|
|
Ystyried
adroddiad gan Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, yn archwilio i ba raddau y
caiff cŵn eu gwerthu’n gyfreithlon ac yn anghyfreithlon yn Sir Ddinbych
(copi ynghlwm). 11.00 – 11.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Eglurodd y Cydlynydd Craffu i'r aelodau gyda chytundeb yr Aelod Arweiniol,
y Cynghorydd Win Mullen-James a'r Cadeirydd, y cytunwyd i ohirio cyflwyno'r
adroddiad hwn tan gyfarfod diweddarach. |
|
Rhaglen Waith Craffu PDF 235 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 11.50 – 12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen
waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Roedd dwy eitem wedi’u rhestru
ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 9 Mawrth 2023: ·
Model Gwastraff ac Ailgylchu Newydd. ·
Ail gartrefi a Thai Gosod byrdymor. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys
yr adroddiad gohiriedig ar gam-drin cŵn ar y rhaglen waith ar gyfer
cyfarfod mis Mawrth. Roedd cyfarfod nesaf y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu i’w gynnal yn dilyn y cyfarfod ar 19
Ionawr 2023. Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi o
ffurflen Cynnig yr Aelodau. Atodiad 3 i’r adroddiad oedd
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Atodiad 4 – hysbyswyd yr
aelodau o'r argymhellion a wnaed yn y cyfarfod Craffu blaenorol. Amlygodd y Cydlynydd Craffu'r eitem safonol ar y rhaglen, sef - Adborth gan
Gynrychiolwyr Pwyllgorau. Dywedodd wrth yr aelodau y byddai gofyn yn y dyfodol
agos i bob pwyllgor craffu benodi cynrychiolwyr i'r grwpiau her gwasanaeth.
Cyfarfu’r grwpiau hyn yn flynyddol i adolygu perfformiad a chynnydd y
gwasanaethau wrth gyflawni eu hamcanion. Yn dilyn y cyfarfodydd byddai disgwyl
i gynrychiolwyr roi adborth yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor. Byddai'r aelodau'n
cael rhagor o wybodaeth drwy e-bost. Awgrymodd y Cynghorydd Merfyn
Parry adroddiad dilynol ymhen chwe mis ar y cynnydd a wnaed ar y Grŵp
Gosod Ffioedd Rhanbarthol. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu i’r aelod lenwi’r
Ffurflen Cynnig Aelodau, a fyddai’n cael ei chyflwyno i’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion i’w chynnwys ar raglen waith y pwyllgor. Penderfynodd y Pwyllgor: y
dylid cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor, fel y manylir yn Atodiad
1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.05 – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw adborth. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.40. Dogfennau ychwanegol: |