Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y
Cynghorydd Merfyn Parry. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad
personol a oedd yn rhagfarnu ei ddatgan yn unrhyw un o’r materion i’w trafod yn
y cyfarfod. Cyn dechrau trafod busnes y cyfarfod, rhoddodd y
Cadeirydd deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Brian Blakeley, aelod gwerthfawr o’r
Pwyllgor, a fu farw’n ddiweddar. Wrth
gydymdeimlo ar ran y Pwyllgor gyda’i ferch, y Cynghorydd Michelle
Blakeley-Walker sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor, a gweddill y teulu, fe
gyfeiriodd at wasanaeth ymroddedig y Cynghorydd Blakeley i breswylwyr Y Rhyl a
Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda
Chadeirydd y Pwyllgor cyn y cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ar 8 Medi 2022. Felly: Penderfynwyd: y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2022 fel cofnod cywir. Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y
cofnodion. |
|
YMDDIRIEDOLAETH GWASANAETHAU AMBIWLANS CYMRU Derbyn cyflwyniad a thrafod materion sy’n ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlansys yn Sir Ddinbych â chynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 10.05am – 11am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Prif Weithredwr
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST), ochr yn ochr â
Chyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru, gyflwyniad i’r aelodau gan dynnu sylw at faterion oedd yn
ymwneud ag amseroedd ymateb ambiwlans, yn cynnwys data ymateb ar gyfer galwadau
yn Sir Ddinbych. Yn ystod y cyflwyniad fe
dynnodd cynrychiolwyr WAST sylw at Berfformiad Gwasanaethau Meddygol Brys. Dim
ond ‘galwadau coch’ oedd â tharged dangosyddion perfformiad penodol, sef y
dylid ymateb i 69% o alwadau o fewn 8 i 10 munud. Dangosodd y graff ar gyfer y dangosydd
perfformiad yma fod perfformiad wedi gostwng yn gyffredinol ers mis Tachwedd
2020. Prif nod y Gwasanaeth oedd
sicrhau diogelwch cleifion. Gyda’r bwriad o sicrhau diogelwch cleifion yn wyneb
galw cynyddol ar wasanaethau WAST, roedd adolygiad annibynnol a chydweithredol
o alw a chapasiti, yn canolbwyntio ar alwadau lefel
Oren a phryderon am ddiogelwch cleifion wedi cael ei gychwyn. Mae’r adolygiad yma’n
sôn am y lefel o oriau a gollwyd wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai, sef 6,038
(Rhagfyr 2018), a oedd yn uchel ar y pryd.
Erbyn mis Hydref 2022, collodd yr Ymddiriedolaeth 28,937 o oriau yn aros
i drosglwyddo cleifion i ysbyty - 36% o’i gapasiti,
neu 65 sifft y dydd. Roedd y sefyllfa yma’n debygol o waethygu’n sylweddol yn y gaeaf. Pwysleisiwyd mai nad pryder am ddata o ran y
galw ymysg cleifion oedd y prif bryder ynglŷn â diogelwch cleifion; y
broblem sylfaenol oedd capasiti, yn enwedig y nifer o
oriau sy’n cael eu colli yn aros i drosglwyddo cleifion mewn i ysbyty, ac i
raddau llai, lefelau absenoldeb salwch ymysg personél WAST. Ym mis Hydref 2022, roedd y
nifer o staff ar gael i’w rhoi ar y rotas i lawr 40%
am nifer o resymau, e.e. absenoldeb salwch, Covid-19, gwyliau blynyddol,
hyfforddiant ac ati. Defnyddiodd yr
adolygiad rota feincod o
30%. Cyn Covid-19, roedd WAST wedi
dechrau darparu’r meincnod 30. Yn anffodus, er bod absenoldeb salwch yn dod i
lawr, roedd ymrwymiadau hyfforddi yn uchel ar hyn o bryd yn sgil symudiadau
mewnol yn gysylltiedig â recriwtio, a chafodd hyn effaith wael ar argaeledd rota. Mewn cysylltiad â’r data a Digwyddiadau Cenedlaethol y Dylid eu Hadrodd
(NRI) (marwolaethau osgoadwy/niwed difrifol osgoadwy), roedd WAST yn cael ei ystyried yn sefydliad oedd
yn cofnodi llawer. Roedd hyn yn cael ei
ystyried yn ddull da gan ei fod yn golygu diwylliant o fod yn agored a
thryloyw, agwedd hanfodol o ran diwylliant diogelwch cleifion. Roedd WAST yn
cyfeirio digwyddiadau am ddiogelwch cleifion i fyrddau
iechyd, a’r prif achosion oedd oriau oedd yn cael eu colli yn trosglwyddo
cleifion i ysbytai. Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd oedd adolygu ac adrodd y
digwyddiadau hyn pan fo’n hynny’n
briodol fel NRI. Cynhaliwyd adolygiad strategol
annibynnol o Ymchwil Gweithredol ym maes Iechyd ar ran Pwyllgor Gwasanaethau
Ambiwlans Brys (EASC). Roedd EASC yn cynnwys saith bwrdd iechyd, oedd â
chyfrifoldeb am gomisiynu ambiwlansiau. Y sail ar gyfer yr adolygiad oedd
cleifion Oren (difrifol, ond eu bywydau ddim mewn perygl). Roedd hyn yn cynrychioli’r categori mwyaf o
ddigwyddiadau cleifion, gan gyfrif am tua 70% o ddigwyddiadau cleifion, o’i
gymharu â Choch (eu bywyd mewn perygl) sydd tua 10% o ddigwyddiadau cleifion.
Teimlwyd bod amseroedd aros Oren yn rhy hir, ac roedd yna rywfaint o bryder am
nifer y digwyddiadau andwyol difrifol (SAI) i gleifion yn y categori Oren. Daeth canfyddiadau’r Arolwg i’r casgliad fod gan WAST fwlch rhwng y nifer staff cyfwerth â llawn amser i lenwi’r rotas ymateb a’r rhai cyfwerth â llawn amser sydd eu hangen i lenwi rotas 263 o rai cyfwerth â llawn amser. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYFLWYNO TERFYN CYFLYMDER 20MYA AR RWYDWAITH FFYRDD Y SIR PDF 223 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi’n amgaeedig) sy’n nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r terfyn cyflymder 20mya diofyn, y meini prawf ar gyfer gwneud eithriadau i’r terfyn diofyn a cheisio sylwadau’r Pwyllgor am y gwaith a wnaed hyd yma wrth baratoi ar gyfer ei weithredu. 11am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y
Cynghorydd Barry Mellor, ynghyd â Phennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethu Cefn Gwlad, y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd ac
Uwch Beiriannydd Diogelwch ar y Ffyrdd a Chludiant Cynaliadwy adroddiad
Cyflwyno Terfyn Cyflymder 20mya ar Ffyrdd y Sir (dosbarthwyd ymlaen llaw). Bwriad yr adroddiad yw egluro’r cefndir i’r terfyn
cyflymder o 20mya a fydd yn cael ei sefydlu cyn bo hir mewn trefi a phentrefi
ar draws Cymru, yn cynnwys meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer adnabod
eithriadau i’r terfyn cyflymder diofyn. Rhoi trosolwg o’r tasgau y mae’n
ofynnol i’r Cyngor ymgymryd â nhw i baratoi ar gyfer y dyddiad pan ddaw’r terfyn
cyflymder diofyn i rym, sef 17 Medi 2023. Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y
Ffyrdd gefndir am y polisi newydd gan ddweud yn 2020, derbyniodd Llywodraeth
Cymru bob un o’r 21 argymhelliad yn adroddiad y Tasglu a gomisiynodd i edrych ar
yr achos dros wneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn trefi a phentrefi ar
draws Cymru. Ym mis Gorffennaf 2022,
pasiodd y Senedd y prif Offeryn Statudol yn diwygio Adran 81 o Ddeddf
Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1988 fel y mae’n berthnasol i Gymru,
gan wneud 20mya yn derfyn cyflymder gorfodol ar ffyrdd cyfyngedig. ‘Ffyrdd
Cyfyngedig’ yw ffyrdd sydd â goleuadau stryd. Bydd y newid deddfwriaethol hwn
yn dod i rym ar 17 Medi 2023. Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y
Ffyrdd wrth y Pwyllgor bod LlC wedi datblygu meini
prawf eithrio i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn seiliedig ar y
tebygolrwydd y bydd ‘nifer sylweddol o gerddwyr a beicwyr yn teithio ar hyd neu
ar draws y ffordd”. I helpu awdurdodau lleol i wneud yr asesiad hwn, maen nhw wedi
datblygu’r ‘meini prawf lle’ canlynol: (i) A oes ysgol neu sefydliad addysgol arall o fewn 100 metr
i’r ffordd? (ii) A oes canolfan gymunedol o fewn 100 metr i’r ffordd? (iii) A oes ysbyty o fewn 100 metr i’r ffordd? (iv) A oes eiddo preswyl neu fanwerthu ar ymyl y ffordd, a mwy
nag 20 eiddo fesul cilomedr o ffordd (h.y. pum eiddo neu fwy ar bob 250 metr
o’r ffordd)? Fe amlinellodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y
Ffyrdd y rhestr o eithriadau arfaethedig i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya,
fel y rhestrir yn Atodiad C i’r Adroddiad. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol: ·
Gofynnodd y Pwyllgor a
oedd y terfyn 20mya yn gorfod cael ei gyflwyno yn Sir Ddinbych,
gan fod gan rhai aelodau brofiad o’r ardaloedd prawf yn ardal Bwcle ac roeddynt
yn bryderus am yr effeithiau y gallai ei weithredu ei gael. Fe eglurodd y
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd ei fod yn newid deddfwriaethol
gan LlC, a bod Sir Ddinbych
yn gorfod ei weithredu. O ganlyniad i’r
newid deddfwriaethol, bydd yn rhaid i bron holl ffyrdd 30mya presennol yn CSDd gael eu newid i 20mya.
Dywedodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y byddai yna
oblygiadau cost sylweddol os na fyddai’r gwaith yn cael ei wneud, gan y byddai
pob eithriad a gytunwyd ar ôl cyflwyno’r terfyn diofyn newydd yn gorfod cael ei
ariannu gan yr awdurdod lleol, tra bod gwaith sy’n ymwneud â chyflwyno terfyn
cyflymder diofyn yn cael ei ariannu gan LlC. Dywedodd
y Pwyllgor mai amcan gweithredu’r terfyn cyflymder diofyn newydd oedd lleihau
gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol.
Roedd data’n dangos drwy leihau cyflymder, gellir
lleihau gwrthdrawiadau. ·
Fe eglurodd swyddogion
mai’r Heddlu fyddai’n parhau i blismona a gorfodi’r terfyn cyflymder diofyn pan
fyddai’r newidiadau’n cael eu gweithredu. · Gofynnodd y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 238 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Cafwyd trafodaeth ar y
materion canlynol: – ·
Bydd adroddiad Cam-drin
Cŵn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 19
Ionawr. Nid oedd unrhyw eitemau eraill wedi cael eu trefnu i gael eu cyflwyno
ar hyn o bryd. ·
roedd yna ddwy eitem
sylweddol wedi’u rhestru i gael eu trafod yng nghyfarfod 9 Mawrth. Felly: Penderfynodd: y Pwyllgor y dylid
cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor, fel y manylir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm. |