Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Fideo-Gynadledda
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Anton Sampson a’r Cynghorydd
Glenn Swingler. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Anton Sampson a’r Cynghorydd Glenn Swingler. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitem 4 ar y rhaglen, ‘Cofnodion’
gan ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen, ‘Effaith
Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun’: Y Cynghorydd Huw
O Williams – mae’n rhiant i ddisgybl sy’n mynychu un o’r ysgolion Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – mae’n Rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras Y Cynghorydd
Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor Aelod
Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Borthyn Y Cynghorydd
Cheryl Williams – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Crist y Gair Y Cynghorydd
Emrys Wynne – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn Y Cynghorydd
Martyn Holland – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Bro Famau Y Cynghorydd Andrew Thomas – mae’n llywodraethwr yn un o ysgolion y sir Y Cynghorydd Tina Jones – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Melyd Y Cynghorydd Graham Timms – mae’n llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân,
Llangollen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad
personol ag eitem 4 ar y rhaglen, ‘Cofnodion’ gan ei fod yn aelod o Awdurdod
Tân ac Achub Gogledd Cymru. Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5
ar y rhaglen, ‘Effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun’: Y Cynghorydd Huw O Williams – mae’n rhiant i ddisgybl sy’n
mynychu un o’r ysgolion Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies – mae’n Llywodraethwr yn
Ysgol Cefn Meiriadog Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae’n Rhiant a
Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras Y Cynghorydd Merfyn Parry – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol
Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor Aelod Cyfetholedig Neil Roberts – mae’n Llywodraethwr yn
Ysgol Borthyn Y Cynghorydd Cheryl Williams – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol
Crist y Gair Y Cynghorydd Emrys Wynne – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol
Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn Y Cynghorydd Martyn Holland – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol
Bro Famau Y Cynghorydd Andrew Thomas – mae’n Llywodraethwr yn un o
ysgolion y sir Y Cynghorydd Tina Jones – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Melyd Y Cynghorydd Graham Timms – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran Gwaredu Tir
Wrth Ymyl Ysgol Pendref, Dinbych: Gwahoddodd y Cadeirydd yr Is-Gadeirydd i
annerch y Pwyllgor o ran ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei
archwiliad o’r penderfyniad uchod. Er
bod y Cabinet wedi trafod argymhellion y Pwyllgor yn fanwl ac roedd hanner
aelodau’r Cabinet wedi cefnogi argymhellion y Pwyllgor, roedd y Weithrediaeth
wedi cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd. Nododd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ei siom gyda’r
canlyniad, a holodd a allai’r Pwyllgorau Craffu fyth berswadio’r Cabinet i
adolygu eu penderfyniadau. Dywedodd aelodau
Gweithrediaethau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod presennol eu bod o’r farn
bod y Pwyllgor Craffu wedi dal y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif a’u
bod wedi creu trafodaeth adeiladol.
Roedd nifer o faterion wedi codi a oedd yn debygol o gael eu hystyried
wrth benderfynu ar bolisi cynllunio yn y dyfodol. Roedd defnyddio’r bleidlais fwrw wedi amlygu
bod Cabinet y Cyngor yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys aelodau â gwahanol
safbwyntiau.
Cofnodion: Adolygu Penderfyniad y Cabinet o ran Gwaredu Tir
Wrth Ymyl Ysgol Pendref, Dinbych: Gwahoddodd y Cadeirydd yr Is-Gadeirydd i
annerch y Pwyllgor o ran ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei
archwiliad o’r penderfyniad uchod. Er
bod y Cabinet wedi trafod argymhellion y Pwyllgor yn fanwl ac roedd hanner
aelodau’r Cabinet wedi cefnogi argymhellion y Pwyllgor, roedd y Weithrediaeth
wedi cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol, ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd. Nododd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ei siom gyda’r
canlyniad, a holodd a allai’r Pwyllgorau Craffu fyth berswadio’r Cabinet i
adolygu eu penderfyniadau. Dywedodd yr
aelodau gweithrediaeth a oedd yn bresennol yn y cyfarfod presennol eu bod o’r
farn bod y Pwyllgor Craffu wedi dal y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif
a’u bod wedi creu trafodaeth adeiladol.
Roedd nifer o faterion wedi codi a oedd yn debygol o gael eu hystyried
wrth benderfynu ar bolisi cynllunio yn y dyfodol. Roedd defnyddio’r bleidlais fwrw wedi amlygu
bod Cabinet y Cyngor yn gytbwys, a’i fod yn cynnwys aelodau â gwahanol
safbwyntiau. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 (copi ynghlwm). 10.05am – 10.10am Penderfyniad: Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd
pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei
erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais. Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2020. Materion sy’n Codi - Rhoddodd y Swyddog Craffu wybod i’r Pwyllgor bod Swyddog Rheoli Rhostiroedd
wedi cael ei benodi’n ddiweddar, fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth Tân wedi
cadarnhau eto na fyddent yn ariannu’r swydd ar y cyd gan y teimlwyd y byddai
darparu’r gefnogaeth ariannol hon yn golygu eu bod yn rhoi blaenoriaeth dros
eraill sy'n ceisio cyllid. Fodd
bynnag, byddai’n rhaid i’r Gwasanaeth barhau i ddarparu Cyngor a Chefnogaeth
lle bo angen. Mynegodd Aelodau eu siomedigaeth â’r penderfyniad hwn. Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd
pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei
erbyn ac ni ddywedodd unrhyw un eu bod eisiau atal eu pleidlais. Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar 3 Medi 2020 fel cofnod cywir. |
|
EFFAITH ADOLYGIAD ADDYSG GYNRADD RHUTHUN PDF 221 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr - Cefnogi Ysgolion (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor asesu effaith adolygiad addysg gynradd ardal Rhuthun yn erbyn nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.. 10.10am – 10.45am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1 ymatal. Penderfynodd y
Pwyllgor: ar ôl ystyried y
canfyddiadau yn yr adroddiad ac a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth - (i)
derbyn
y wybodaeth am effaith Adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun fel y’i haseswyd yn
erbyn saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; (ii)
cadarnhau,
fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1); (iii)
bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi
i’w ddosbarthu i aelodau am yr effaith economaidd ar Rhewl yn dilyn cau’r ysgol
fel rhan o adolygiad addysg gynradd Rhuthun; (iv)
bod
gwybodaeth yn cael ei darparu i aelodau sy’n cynnwys ystadegau’r Arolwg o’r
Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws Sir Ddinbych yn ddiweddar; a (v)
bod
diolchgarwch aelodau yn cael ei gyfleu i holl staff yr ysgol, y Gwasanaeth
Addysg a Gwasanaethau eraill y Cyngor am eu hymdrechion a’u hymrwymiad o ran
sicrhau darpariaeth addysg a chefnogaeth i ddisgyblion y sir trwy gydol
pandemig COVID-19.
Cofnodion: Roedd y
Pennaeth Addysg Dros Dro, Geraint Davies (GD), Prif Reolwr – Cefnogi Ysgolion, James
Curran (JC) yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts adroddiad yn darparu gwybodaeth ynghylch
effaith adolygiad Addysg Gynradd Rhuthun yn erbyn saith nod lles Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Cytunodd Cabinet Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012
i ddechrau ymgynghoriad anffurfiol ar adolygiad o Addysg Gynradd yn ardal
Rhuthun. Cytunwyd y byddai adolygiad yr ardal yn canolbwyntio ar yr amcanion
canlynol: sicrhau cynaliadwyedd
darpariaeth addysg o ansawdd uchel; gwella ansawdd adeiladau ysgol a
chyfleusterau a darparu’r nifer cywir o lefydd, o’r math cywir yn y lleoliad
cywir. Adolygodd y Cabinet ganfyddiadau’r ymgynghoriad anffurfiol a gwnaethpwyd
chwe argymhelliad a fyddai’n cael effaith ar ddarpariaeth ysgolion yn yr ardal.
Yn ei hanfod,
roedd y canlyniadau yn gadarnhaol ar gyfer y mwyafrif o bobl, roedd yr ardal
wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol, ond dysgwyd gwersi yn sgil rhai profiadau
hefyd h.y, yr ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanbedr D.C.
Ar y cyfan, roedd yr ymgynghoriad yn brofiad buddiol. Roedd plant yn derbyn
addysg mewn amgylcheddau da ac roedd cryn dipyn o arian wedi’i fuddsoddi yn
ardal Rhuthun. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal
hefyd. Roedd y
Pennaeth Addysg Dros Dro yn cytuno â’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y
buddsoddiad a wnaed i ysgolion wedi gwneud y profiad addysg yn llawer haws ac
yn llawer mwy cynhyrchiol i athrawon a disgyblion. Nodwyd hefyd bod canlyniad
cadarnhaol annisgwyl ac anfwriadol wedi deillio o’r buddsoddiad, sef fod yr
adeiladau mawr newydd yn yr ysgolion wedi ei gwneud yn haws i gadw at y rheolau
COVID. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor, yn dilyn ymgyrch
llwyddiannus i gadw Ysgol Llanbedr DC ar agor, roedd nifer y disgyblion wedi
parhau i gynyddu. ·
Gofynnodd Aelodau a oedd asesiad o effaith dilynol wedi
cael ei gynnal ers cau Ysgol Rhewl i weld yr effaith ar y gymuned a'r economi.
Dywedodd Swyddogion fod adroddiad gwybodaeth wedi cael ei rannu ar effaith y
penderfyniad i gau’r ysgol ar ddisgyblion. Gofynnodd yr aelod lleol i adroddiad
gael ei gynhyrchu ar yr effaith ar gymuned ac economi ardal Rhewl. ·
Amlygodd Swyddogion yr effaith ar y Gymraeg yn yr ardal.
Roedd cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng
Cymraeg ac roedd cynnig yr iaith Gymraeg wedi cynyddu. ·
Cadarnhawyd bod yr Adolygiad o Ardal Rhuthun wedi'i
ddarparu o fewn y gyllideb, ac er mai prif ffocws Llywodraeth Cymru ar
ddechrau'r adolygiad oedd lleihau lleoedd gwag, dros amser, rhoddwyd rhagor o
ffocws ar y cynnig addysg i ddisgyblion. Roedd adroddiadau Estyn diweddar ar
ysgolion a oedd yn rhan o’r adolygiad o ardal Rhuthun wedi amlygu canlyniadau
cadarnhaol i ddisgyblion a oedd yn deillio o’r adolygiad. ·
Nid oedd unrhyw un wedi mynegi pryderon mewn perthynas â
diogelwch yn sgil mannau agored mawr gyda staff ysgolion a’r Gwasanaeth Addysg
ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau negyddol gan Lywodraethwyr Ysgolion mewn
perthynas â materion o’r fath. Gellid ystyried yr agwedd o les ymhellach. Roedd ysgolion yn teimlo’n fwy diogel gan fod
angen ffobiau i gael mynediad at yr adeiladau ac yn sgil y ffensys diogelwch o
amgylch ysgolion. ·
Roedd gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau darpariaeth mannau
awyr agored ymarferol a theg ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos;
a ·
Chadarnhawyd y bydd atebion ynni adnewyddadwy yn cael eu
hystyried fel rhan o gynigion Band B Ysgolion yr 21ain ganrif Ar ddiwedd y drafodaeth, cymerwyd pleidlais: 10 o blaid, 0 yn erbyn, 1
ymatal Penderfynodd y
Pwyllgor: |
|
POLISI BUDDION CYMUNEDOL PDF 219 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr y Canolbwynt Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n gofyn am sylwadau a chefnogaeth y Pwyllgor i Bolisi Buddion Cymunedol y Cyngor a’r argymhellion mewn perthynas â’i ddefnydd. 10.45am – 11.15am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw
un eu bod eisiau atal eu pleidlais. Penderfynodd y Pwyllgor: - ar ôl ystyried y polisi - (i)
cefnogi ei nodau a’i amcanion; (ii)
cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2); ac (iii)
argymell o
ran tudalen 4 y polisi, dan yr adran ‘Mentrau Cynaliadwyedd Amgylcheddol’, bod
y geiriau “cyfyngu ar lygredd” yn cael eu disodli â “cyfyngu ar lygredd lle
bo’n bosibl”. Cofnodion: Roedd y Dirprwy
Arweinydd a'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, Julian
Thompson-Hill, y Rheolwr Buddion Cymunedol, Karen Bellis a Rheolwr y
Fframwaith, Tania Silva yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y polisi Buddion
Cymunedol arfaethedig a'i aliniad gyda chynlluniau corfforaethol a
blaenoriaethau'r Cyngor. Ym mis Mehefin 2019, cymeradwyodd Bwrdd Rhaglen Pobl Ifanc a Thai Cyngor
Sir Ddinbych y bwriad i greu Canolbwynt Buddion Cymunedol (Canolbwynt BC),
ynghyd â chynnwys buddion cymunedol ym mhob contract perthnasol. Byddai’r
Canolbwynt yn darparu cymorth ac yn galluogi Gwasanaethau i gynnwys BC mewn
contractau cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae proses y gylched gomisiynu yn ganolog i gyflawni gwerth gorau a
chanlyniadau ar gyfer gwariant CSDd a disgwylir y bydd defnyddio dull
gweithredu BC yn gynnar yn y broses yn cyfrannu at godi gwerth gwariant CSDd.
Penodwyd Swyddog Canolbwynt BC ym mis Chwefror 2020 a Rheolwr Canolbwynt BC ym
mis Mawrth. Byddai Polisi Buddion Cymunedol CSDd yn cefnogi gwaith a chamau
gweithredu’r Canolbwynt BC i gyflawni canlyniadau a thargedau a fwriadwyd. Gwariodd y Cyngor £116 miliwn yn 2017/18 felly gyda dychweliad cymedrol o
1% mewn BC gallai hyn gynhyrchu gwerth £1.16 miliwn o fuddion newydd bob
blwyddyn. Byddai’r Polisi hwn yn cefnogi gwaith y Canolbwynt BC a swyddogion y
cyngor y mae’n eu cefnogi i gael mynediad at gyllid a buddion tebyg i gryfhau
blaenoriaethau ein cynllun corfforaethol a fydd yn helpu ein cymunedau i fod yn
fwy annibynnol a chadarn. Mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau yn
uniongyrchol trwy ei weithlu ei hun a thrwy sefydliadau preifat a’r trydydd
sector. Mae hefyd yn caffael ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan
dros 4,500 o gyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a chontractwyr. Byddai’r Polisi BC yn darparu fframwaith ar gyfer budd-ddeiliaid mewnol ac
allanol i fod yn weithredol mewn ymgysylltiad parhaus sy’n datblygu gan ein
galluogi i fonitro a gwerthuso, dysgu gwersi, mesur effaith a dylunio
cynlluniau BC sy’n addas i’r diben yn y dyfodol. Byddai’r polisi hefyd yn
cefnogi’r Canolbwynt BC i olrhain, monitro ac adrodd am ganlyniadau buddion
cymunedol ar draws y cyngor a bod yn fodd o asesu cryfder, bywiogrwydd a
pherfformiad Cynllun Corfforaethol 2017-2022. Yn ei dro defnyddir hwn i ffurfio
strategaethau ar gyfer gwelliannau a dylanwadu ar benderfyniadau polisi. Byddai
hefyd yn darparu cyfleoedd i gynnwys cymunedau lleol yn narpariaeth buddion
cymunedol. Roedd y Canolbwynt drwy eu gwaith yn ceisio cynyddu buddion ac effaith pob
penderfyniad yn unol â'r dyletswyddau a roddir ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy sicrhau budd ariannol mewn contractau yn
ogystal ag effaith cadarnhaol hirdymor. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd i swyddogion y BC
gydweithio’n agos gydag aelodau etholedig, nododd swyddogion y byddent yn
cysylltu gydag aelodau lleol gan mai nhw sydd yn y lle gorau i ymgysylltu a
chyfathrebu â phobl leol ar faterion sydd o ddiddordeb i gymunedau. ·
Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor a fyddai modd newid y
geiriad o fewn y polisi o ‘gyfyngu ar lygredd’ i ‘atal llygredd'. Cynghorodd aelodau a swyddogion eraill bod
‘atal llygredd’ neu ddileu llygredd bron yn amhosibl ac awgrymwyd felly y dylid
diwygio’r geiriad i ‘gyfyngu ar lygredd lle bo’n bosibl’. Cytunodd y Pwyllgor
i’r diwygiad hwn. Cymeradwyodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd y gwaith a gwblhawyd gan y Swyddogion i ddatblygu’r Polisi a bwrw ymlaen â’i weithrediad. Roedd hefyd yn cytuno â barn y swyddogion y byddai diweddariadau rheolaidd ar y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ARCHIFAU GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU A CHARCHAR RHUTHUN PDF 219 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Trawsnewid Busnes (copi ynghlwm) sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am y prosiect archifau ac sy’n gofyn am farn yr aelodau am y cynigon ar gyfer defnydd Carchar Rhuthun i'r dyfodol. 11.30am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cafwyd pleidlais: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal. Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a
Charchar Rhuthun, gwnaeth y Pwyllgor: Benderfynu: (i)
nodi’r
cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar
Rhuthun yn y dyfodol; (ii)
cofnodi
pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer yr
Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i
Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Hyb yn yr
Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiannus; a (iii)
bod canlyniadau Ymgynghoriad Mynediad
presennol Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu dosbarthu i aelodau er
gwybodaeth. Cofnodion: Roedd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, Tony Thomas, Pennaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio, Alan Smith, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a
Threftadaeth, Huw Rees, Rheolwr y Tîm
Gwybodaeth Busnes, Craig Berry, yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Mae’r cyflwyniad yn dilyn adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor
Craffu Cymunedau ym mis Hydref 2019, yn amlinellu cynlluniau ar gyfer Archifau
Gogledd Ddwyrain Cymru a’r posibilrwydd o'i symud i'r Wyddgrug erbyn 2025 (yn
amodol ar Gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri). Yn ystod y cyfarfod hwn,
gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad yn ystod 2020 ar y defnydd o le gwag
posibl yng Ngharchar Rhuthun. Sefydlwyd gweithgor yn gynharach yn y flwyddyn i ddatblygu cynlluniau ar
gyfer y defnydd hirdymor o Garchar Rhuthun. Roedd y gweithgor yn cynnwys
Aelodau Lleol, swyddogion allweddol a chynrychiolydd o Gyngor Tref Rhuthun ac
wedi datblygu cynlluniau cyffrous ac arloesol i ymestyn yr atyniad treftadaeth
yn y Carchar, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Roedd y Gwasanaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio wedi clustnodi £65,000 o arian wrth gefn er mwyn
hwyluso’r gwaith ymestyn. Roedd y cynlluniau ar gyfer y Carchar yn unol â’r gyllideb a ddyrannwyd,
sef £65,000, byddai’r gyllideb yn cael ei defnyddio p’un a fyddai’r Gwasanaeth
Archifau yn symud neu beidio. Byddai’r estyniad arfaethedig i’r Gwasanaeth
Treftadaeth ar y safle yn ymgorffori’r adeilad sy'n wag ar hyn o bryd ar 46
Stryd Clwyd. Roedd ystod o ffrydiau cyllido allanol yn cael eu harchwilio
gyda'r bwriad o ddarparu'r prosiect cyfan. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Gofynnodd y pwyllgor pam fod yr eitem yn cael ei thrafod
cyn cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Cadarnhaodd swyddogion fod angen
ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer cam nesaf y cynnig am gyllid Cronfa Treftadaeth
y Loteri ar gyfer Canolfan y Gwasanaethau Archifau. Byddai’r ymgynghoriad yn
cael ei hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ymgysylltiad helaeth
â’r cyhoedd. ·
Byddai presenoldeb Archifol yn y Carchar p’un a fyddai’r
Gwasanaeth Archifau’n ail-leoli neu beidio. Byddai cofnodion ar gael ar-lein
neu byddai modd cael mynediad atynt yn ddigidol mewn llyfrgelloedd lleol.
Byddai presenoldeb corfforol ar y safle un neu ddau ddiwrnod yr wythnos yn
ogystal. Roedd angen cadarnhau’r manylion. ·
Roedd y bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Archifau Cyngor
Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint yn anffurfiol ar hyn o bryd, a gallai
unrhyw Gyngor adael y cytundeb ar unrhyw bryd. Fodd bynnag, roedd y
bartneriaeth yn gweithio'n dda ar hyn o bryd. ·
Roedd y cynigion ar gyfer y Carchar yn ddibynnol ar y
Gwasanaeth Archifau yn gadael y safle. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn gweithio
ar weledigaeth ehangach ar gyfer y cyfleuster. ·
Nodwyd y gwahaniaeth rhwng bolisïau iaith Gymraeg CSDd a
CSyFf, ac roedd aelodau yn gofyn am sicrwydd o ran pa bolisi fyddai’n cael ei
fabwysiadu pe bai Canolfan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei
hadeiladu. Cynghorwyd y pwyllgor y byddai'n rhaid pennu'r polisi iaith fel rhan
o'r broses o benodi 'partner arweiniol’ os, a phan fydd y cynnig am gyllid
Cronfa Treftadaeth y Loteri yn llwyddiannus. Cymerwyd pleidlais ar yr argymhelliad: 6 o blaid, 1 yn erbyn, 0 ymatal. Ar ôl rhoi ystyriaeth i’r adroddiad am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a
Charchar Rhuthun: Penderfynwyd: (i) nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a
chefnogi’r cynigion ar gyfer defnyddio Carchar Rhuthun yn y dyfodol; (ii) cofnodi pryderon nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y Gwasanaeth Archifau na’r cynnig treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun, pe na bai’r cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid i ddatblygu Canolfan yn yr Wyddgrug ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 239 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12pm – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw
un eu bod eisiau atal eu pleidlais. Penderfynwyd: ar ôl rhoi
ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar yr arsylwadau a’r
awgrymiadau uchod - (i)
cymeradwyo
rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a (ii)
bod
cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Chwefror 2021 i
ystyried materion sy’n ymwneud â Phrosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol – ·
Roedd Cyfrifoldebau Rheoli Llifogydd yng Nghyfoeth
Naturiol Cymru Sir Ddinbych wedi cadarnhau eu hargaeledd i fynychu'r cyfarfod
ym mis Rhagfyr, nid oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan Dŵr Cymru o
ran a oeddent yn gallu mynychu neu beidio. ·
Roedd Rhaglen Adfywio’r Rhyl a Pholisi Codi Tâl Meysydd
Parcio a Chynlluniau Parcio i Breswylwyr wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod Ionawr
2021, gydag adroddiad ar y Siarter Cydymffurfedd Cynllunio wedi'i drefnu ar
gyfer mis Mai yn dilyn cyfarfod diweddar y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu. ·
Roedd cais wedi’i wneud gan y Bwrdd Ailfodelu Gwastraff i
gyflwyno adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Penderfynwyd trefnu cyfarfod ychwanegol yn gynnar ym mis Chwefror 2021 i drafod
yr eitem. Atgoffodd y
Cydlynydd Craffu aelodau am y ffurflen cynnig craffu (Atodiad 2) a dywedodd y dylid anfon unrhyw
gynigion yn uniongyrchol ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i’w cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r
dyfodol. Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Dywedodd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni ddywedodd unrhyw
un eu bod eisiau atal eu pleidlais. Penderfynwyd: ar ôl rhoi
ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarparwyd, ac yn amodol ar yr arsylwadau a’r
awgrymiadau uchod - (i)
cymeradwyo
rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a (ii) bod cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu
ar gyfer dechrau mis Chwefror 2021 i ystyried materion sy’n ymwneud â Phrosiect
Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau
amrywiol y Cyngor. 12.20pm – 12.30pm Penderfyniad: Ni chafwyd
adborth. Cofnodion: Ni chafwyd
adborth. Daeth y cyfarfod
i ben am 1:17pm. |