Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun, LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y
Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor a Rachel Flynn. |
||
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol ag Eitem 5 – Polisi
Cludiant i Ddysgwyr Sir Ddinbych. Elfennau
Anstatudol, gan fod ganddo blant sy’n defnyddio’r ddarpariaeth cludiant i’r
ysgol. Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch Roberts gysylltiad personol ag Eitem 5
– Polisi Cludiant i Ddysgwyr Sir Ddinbych:
Elfennau Anstatudol, gan ei fod yn rhiant-lywodraethwr. Datganodd y Cynghorydd Brian Blakeley gysylltiad personol ag Eitem 6 -
adroddiad cynnydd ar argymhellion yn tarddu o adolygiad o dân mynydd
Llantysilio, gan ei fod yn aelod o Fwrdd Tân ac Achub Gogledd Cymru. Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol ag Eitem 5
– Polisi Cludiant i Ddysgwyr Sir Ddinbych:
Elfennau Anstatudol, gan ei fod yn rhiant-lywodraethwr. Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol ag Eitem 6
- adroddiad cynnydd ar argymhellion yn tarddu o adolygiad o dân mynydd
Llantysilio, gan ei fod yn aelod o Fwrdd Tân ac Achub Gogledd Cymru. |
||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim eitemau brys. |
||
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020 (copi
ynghlwm). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 23
Ionawr 2020. Cywirdeb – Tudalen 10 – roedd y
Cynghorydd Graham Timms yn Gadeirydd Llangollen 2020 a oedd yn fuddiolwr posibl
yn yr Ardal Gwella Busnes. Materion sy’n Codi - Tudalen 8 - Materion Sy'n Codi – roedd diweddariad
wedi cael ei gylchredeg i aelodau yn darparu’r ymateb a dderbyniwyd gan Gronfa
Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Tudalen 9 – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
mewn perthynas â Rheoli Perygl Llifogydd yn Sir Ddinbych – darparwyd cadarnhad
bod dau faes cyllid wedi cael eu canfod - Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cyngor.
Byddai Wayne Hope yn gallu cynorthwyo aelodau i gael cyllid grant ar gyfer
llifogydd mewn ardaloedd lleol. Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth
Cyhoeddus, tynnodd Graham Boase sylw at weithdy aelodau a fyddai’n cael ei
drefnu mewn ymateb i’r tywydd difrifol a gafwyd yn ddiweddar. Tudalen 13 – rhwydweithiau band eang a symudol mewn
ardaloedd gwledig – cafodd ymateb Llywodraeth Cymru ei gylchredeg i aelodau er
gwybodaeth. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020
fel cofnod cywir. |
||
POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH: ELFENNAU ANSTATUDOL PDF 312 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Addysg, Cynllunio ac Adnoddau sy'n
amlinellu'r broses a ddilynir gan y Gweithgor Cludiant i Ddysgwyr o ran
adolygu’r elfennau anstatudol ym Mholisi Cludiant i Ddysgwyr y Cyngor, a
chanlyniadau’r adolygiad. 10.10am – 10.40am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Plant a
Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, y Prif Swyddog Cyllid a
Sicrwydd, Martyn Dodd, Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau, Ian Land, Prif Rreolwr –
Moderneiddio Addysg, Geraint Davies a Rheolwr Adran Cludiant Teithwyr, Peter
Daniel i gyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â Pholisi Cludiant i Ddysgwyr Sir
Ddinbych: Elfennau Anstatudol. Dywedodd
bod yr adroddiad wedi ymddangos gyntaf fel testun dadlau ym Mhwyllgor Craffu
mis Mai 2019. Ers yr adroddiad dechreuol hwnnw roedd gwaith wedi cael ei
gwblhau gan Swyddogion a’r gweithgor i ddargadw cludiant ysgol i rai ôl-16.
Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth
bresennol, a allai arwain at orfod gwneud newidiadau ar ôl iddo gael ei
gwblhau. Clywodd aelodau gan y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau
(RhCA) am y rheoliadau newydd ar gyfer cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a’u heffaith ar y cludiant ysgol sy’n daladwy
yn ôl disgresiwn. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cadarnhad bod yr awdurdod yn
darparu cludiant i golegau. O fewn y polisi roedd
yr awdurdod yn darparu cludiant addas i’r ddarpariaeth addysg agosaf. Os yw
unigolion yn dewis darparwyr amgen, esboniwyd
y byddai’r gost yn cael ei hadolygu gan yr awdurdod a’r darparwr, i ganfod
pwy fyddai'n ariannu’r costau cludiant. ·
Trafodwyd pryderon ynglŷn
â gorwariant ar y gyllideb cludiant i ddysgwyr. Pwysleisiodd y RhCA bod
y ddeddfwriaeth yn datgan bod gofyniad statudol i ddarparu cludiant i ysgolion.
Gan hynny os yw plentyn yn gymwys i gael cludiant i’r ysgol, mae’n rhaid i ni
fel awdurdod ddarparu’r gwasanaeth hyd yn oed os yw’n fwy na’r gyllideb.
Clywodd aelodau bod cynnydd wedi’i gymeradwyo yn y gyllideb cludiant i
ysgolion. ·
Pe bai polisi’r Cyngor yn
newid ac yn codi tâl ar fyfyrwyr ôl-16 byddai'n rhaid adolygu’r ddarpariaeth
fflyd cludiant ysgolion i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio. Mae’n bosibl y gallai
achosi problemau o ran argaeledd cerbydau addas. ·
Roedd cyfarfodydd a drefnwyd i
aelodau o’r Gweithgor Cludiant i Ddysgwyr wedi darparu llawer o wybodaeth ac
wedi rhoi darlun o sefyllfa’r awdurdod i’r aelodau. Rhoddodd eglurder a
gwybodaeth i aelodau am gyllideb a pholisi cludiant i’r ysgol. ·
O fewn y polisi dylid darparu
rhywfaint o hyblygrwydd a disgresiwn o ran ffiniau tir. ·
Roedd trafodaethau wedi cael
eu cynnal gyda’r adran dai. Roedd cyfathrebiadau
â’r adran dai a’r tîm digartrefedd yn parhau. Roedd elfen disgresiwn y polisi
wedi caniatáu i blentyn barhau i dderbyn cludiant i’w hysgol hyd yn oed ar ôl
symud allan o’r ardal. Roedd pob achos unigol a'r holl opsiynau yn cael eu
harchwilio. Byddai penderfyniadau yn cael eu gwneud gan y Pennaeth Gwasanaeth i
gynnig cludiant i ysgolion a byddai pob achos yn cael ei asesu ar ei rinweddau
ei hun. Diolchodd y Cadeirydd i’r holl Swyddogion am yr
adroddiad manwl. Felly: Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau
uchod - (i)
ardystio argymhelliad y
Gweithgor na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r elfennau anstatudol yn y
Polisi Cludiant i Ddysgwyr; (ii)
yn unol ag awgrym Cadeirydd y Gweithgor, na
ddylid chwalu'r Gweithgor ac y dylai'r Awdurdod gadw briff gwylio dros y 12 mis
nesaf ar effaith y Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Cyhoeddus (PSVAR) ac
adolygiad Llywodraeth Cymru o Deithio gan Ddysgwyr Ôl-16, gan y bydd y ddau yn
cael dylanwad sylweddol ar drafodaethau cludiant ôl-16; a (iii)
darparu adroddiad i’r Pwyllgor faes o law ar effaith yr uchod ar bolisi
cludiant i ddysgwyr y Cyngor a’r gyllideb gysylltiedig.
|
||
YN Y FAN HON, CYTUNWYD AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN. Dogfennau ychwanegol: |
||
STRATEGAETH ARWYDDION TWRISTIAETH AR GYFER SIR DDINBYCH PDF 243 KB Ystyried adroddiad
(copi ynghlwm) gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd sy’n
ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar ddatblygu Strategaeth Arwyddion Twristiaeth ar
gyfer Sir Ddinbych, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y
cynlluniau arwyddion twristiaeth presennol. 11.30am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr Arweinydd, Cynghorydd Hugh Evans, Rheolwr
Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd, Mike Jones a’r Arweinydd Tîm – Twristiaeth,
Marchnata a Digwyddiadau a Peter McDermott yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd yr Arweinydd, Cynghorydd Hugh Evans yr
adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â
datblygu’r Strategaeth Arwyddion Twristiaeth, gan gynnwys adroddiad cynnydd ar
gynlluniau parhaus arwyddion twristiaeth.
Clywodd aelodau bod yr adroddiad yn amlygu’r angen
i fynd i’r afael ag Arwyddion Twristiaeth yn Sir Ddinbych. Mae twristiaeth yn
bwysig iawn i Sir Ddinbych ac mae swyddogion wedi buddsoddi llawer iawn o amser
a gwaith ynddo. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi dyddio gan fod y gyllid a oedd
yn weddill ar gyfer arwyddion Dyffryn Clwyd i’w gosod ar yr A55 wedi cael eu
cytuno gan y Grŵp Buddsoddi Strategol. Croesawodd yr Arweinydd sefydlu
gweithgor i ddatblygu Strategaeth Arwyddion Twristiaeth dilynol gyda’r bwriad o
gyfeirio twristiaid at bob rhan o’r sir. Codwyd pryderon ynglŷn â chyllid
ar gyfer y strategaeth, a fyddai disgwyliadau uchel yn gyraeddadwy gan y sector
preifat ac a fyddai’r strategaeth yn gydnaws â Ffordd Cymru? Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y
Ffyrdd esboniad i’r pwyllgor o gylch gorchwyl y Gweithgor. Roedd aelodau o bob
un o’r grwpiau ardal wedi cael eu gwahodd i fynychu’r grŵp. Bwriad y
grŵp oedd goruchwylio datblygiad y Strategaeth Arwyddion Twristiaeth.
Byddai pump amcan arfaethedig y strategaeth, a amlinellir yn yr adroddiad, yn
cael eu monitro gan y Gweithgor. Rhoddwyd trosolwg o Ffordd Cymru i Aelodau gan yr
Arweinydd Tîm – Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau. Cadarnhawyd bod Sir
Ddinbych yn gynwysedig yn Ffordd Gogledd Cymru ynghyd â phob Awdurdod arall yn
y Gogledd. Rhoddwyd pwyslais ar bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gydag
awdurdodau eraill. Roedd Cymru a’i hatyniadau yn cael eu hyrwyddo trwy
wybodaeth Ffordd Cymru er mwyn annog twristiaid i ymweld â Chymru. Cafwyd trafodaethau ynglŷn â’r arwyddion o’r
A55 tuag at y Rhyl. Cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y
Ffyrdd bod swyddogion wedi bod yn archwilio nifer o opsiynau. Esboniwyd bod
nifer o gwynion wedi’u derbyn gan drigolion Dyserth ynglŷn â thraffig.
Cytunodd swyddogion y byddai arwyddion ar gyfer y Rhyl o Gyffordd 31 yn cynyddu
traffig sy’n pasio trwy Dyserth gan arwain at gynnydd mewn cwynion. Esboniwyd
bod swyddogion wedi edrych ar ddatrysiadau eraill. Bydd yr arwyddion newydd
arfaethedig yn caniatáu i’r cyhoedd gyrraedd cyrchfan ac yna mynd ymlaen i
atyniad twristiaid. Nid oedd arwyddion ar gyfer pwyntiau gwefru mewn
meysydd parcio wedi cael eu cynnwys yn nyluniad yr arwyddion twristiaid newydd,
cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y gallai hynny
fod yn bwnc trafod yn y dyfodol. Roedd gorsafoedd gwefru ar gyfer ‘Smart Cars’
yn cael eu cefnogi gan dechnoleg ‘Smart’ a oedd yn cynnwys mapiau gorsafoedd
gwefru, teimlwyd bod hynny’n ddigonol ar gyfer y galw presennol. Cadarnhawyd mai dim ond newydd gymeradwyo'r cyllid
oedd y Cyngor. Clywodd aelodau nad oedd yr hysbysiad o gymeradwyaeth wedi cael
ei drafod gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned hyd yma. Byddai’r Cyngor yn
cyfathrebu gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn ag amserlenni gwaith er mwyn cael
amserlen mewn lle erbyn haf 2020. Datganodd y Cadeirydd bod y gefnffordd yn mynd trwy
nifer o wardiau lleol, awgrymwyd y dylai Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a
Chanolbarth Cymru fod yn rhan o’r Gweithgor ynghyd â’r aelodau. Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw bod y gweithgor
yn archwilio pryderon aelodau gan gynnwys cyllid a chyllidebau. Cefnogodd yr Arweinydd y gallai’r gweithgor edrych ar yr awgrym o ddefnyddio symbolau ar arwyddion twristiaid o’r Gefnffordd. Gellid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ... view the full Cofnodion text for item 6. |
||
Ar y pwynt hwn (11.35 a.m.) cafwyd egwyl o 15
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.50 a.m. |
||
ADRODDIAD CYNNYDD AR YR ARGYMHELLION SY’N DEILLIO O ADOLYGIAD TÂN MYNYDD LLANTYSILIO PDF 290 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth
sy'n amlinellu'r cynnydd a wnaed gan y Cyngor a'i asiantaethau/sefydliadau
partner mewn perthynas â gweithredu argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei
adolygiad o'r digwyddiad tân a'i effaith. 10.40am – 11.15am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd,
Emlyn Jones, Uwch Swyddog Cefn Gwlad, David Shiel a chynrychiolwyr Cyfoeth
Naturiol Cymru, Nick Thomas a Rhys Ellis, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Arweiniodd
y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau trwy’r adroddiad (a
ddosbarthwyd eisoes) gan ddarparu diweddariad am y cynnydd a wnaethpwyd yn
erbyn argymhellion a wnaethwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ynglŷn â’r
adolygiad o Dân Mynydd Llantysilio yn haf 2018.
Darparwyd yr adroddiad ar gais y Pwyllgor. Rhoddodd
Cyfoeth Naturiol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y gwaith yr oeddent
wedi’i gwblhau ar y safle a’r opsiynau ar gyfer gwaith pellach. Roedd adolygiad
o’r opsiynau i adfer yr ardal wedi’i gwblhau.
Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda pherchnogion tir. Roedd cyfarfod wedi’i
drefnu gyda phorwyr cyn i’r gwaith ddechrau yn y gwanwyn. Cytunwyd cyflogi swyddog rhostir a
chymeradwywyd cyllid gan Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru. Byddai deiliad
y swydd yn monitro gwaith ar y safle a gwaith gyda pherchnogion tir a phorwyr
lleol. Roedd aelodau am ddiolch i
Gyfoeth Naturiol Cymru am y bartneriaeth ariannu i recriwtio swyddog rhostir ar
gyfer y safle. Mynegodd yr aelodau siom nad oedd yr Awdurdod Tân ac Achub wedi
cytuno i gyfrannu’n ariannol at swydd y swyddog rhostir. Pwysleisiodd
swyddogion bod y Gwasanaeth Tân wedi gofyn am gael cymryd rhan yn yr
hyfforddiant a chefnogi deiliad y swydd newydd, ond na allai gyfrannu'n
ariannol at y swydd. Cadarnhawyd na chysylltwyd yn uniongyrchol ag unrhyw
awdurdodau lleol eraill am help i ariannu’r swydd. Cododd aelodau bryderon am ffensio ardaloedd ar y
safle. Pwysleiswyd bod angen cyfathrebu gyda'r porwyr. Mae’r berthynas gyda’r
porwyr yn hynod bwysig. Roedd cynnwys porwyr yn y gwaith o adfer y tir yn cael
ei ystyried yn hanfodol. Amlygwyd bod y problemau a wynebwyd gan y porwyr ar y
pryd ac yn dilyn y tân wedi bod yn eithriadol o heriol. Roedd y syniad o ffensio ardaloedd yn cael ei
gynnig ar gyfer rhannau o’r tir, ond ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad.
Esboniwyd yr anawsterau sy'n gysylltiedig â ffensio tiroedd comin gan y byddai
angen cael cytundeb Adran 194 gan Lywodraeth Cymru. Roedd Cyfoeth Naturiol
Cymru o’r farn y dylid osgoi ffensio ardaloedd o dir, yn ddibynnol ar
drafodaethau â’r porwyr. Trafodwyd pryderon am lefelau llystyfiant mewn rhannau
o’r mynydd. Cadarnhawyd bod rhai ardaloedd wedi gweld mwy o ddifrod nag eraill.
Roedd nifer o wahanol dechnegau a dulliau o adennill a meithrin y llystyfiant
yn cael eu cynllunio a byddent yn cael eu treialu. Byddai rhai ardaloedd yn
cymryd llawer o amser i’w trwsio a’u datblygu. Esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
bwysigrwydd y gweithgor i fonitro ac adolygu gwaith a wnaethpwyd ar y safle i
adfer a phori’r tir. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y gellid pori’r tir
ymhellach ymhen amser. Byddai swydd newydd y Swyddog Rhostir yn helpu i
feithrin perthynas dda gyda phorwyr a hwyluso gwaith gyda Sir Ddinbych ac
asiantaethau eraill. Byddai’r swydd newydd yn darparu dolen allweddol i’r
porwyr â Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cyfathrebu unrhyw
bryderon neu arsylwadau. Yn dilyn trafodaeth y Pwyllgor: Penderfynwyd: (i)
yn amodol ar yr
arsylwadau uchod, cydnabod y cynnydd a wnaethpwyd hyd yma i weithredu
argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad i’r tân ar Fynydd Llantysilio
a’i effaith; (ii)
cadarnhau fel rhan o’u
hystyriaeth eu bod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth yr Asesiad o
Effaith ar Les ar gyfer y Prosiect Rheoli Rhostir ac Atal Tanau Gwyllt (Atodiad
2 yr adroddiad); a (iii) y dylai sylwadau gael eu rhoi i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
||
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol sy’n cyflwyno canfyddiadau adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC)
o ddull y Cyngor mewn perthynas â gweithredu egwyddorion Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth
casglu gwastraff, ynghyd ag ymateb y Cyngor i ganfyddiadau Swyddfa Archwilio
Cymru. 12pm – 12.30pm
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gwastraff,
Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol, Tony Ward a chynrychiolydd o Swyddfa Archwilio
Cymru, Jeremy Evans, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd y
Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yr adroddiad (a
ddosbarthwyd eisoes) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r adroddiad gan
Swyddfa Archwilio Cymru am y camau yr oedd y Cyngor yn eu cymryd i adolygu
casgliadau gwastraff y cartref a sut oedd y camau hynny yn cefnogi’r
flaenoriaeth gorfforaethol o ddarparu amgylchedd deniadol a ddiogelir sy’n
cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Amlinellodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru rai
meysydd gwella, datganodd y Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol mai ei rôl oedd ymateb i’r meysydd hynny a amlygwyd. Roedd y
gwelliannau arfaethedig wedi cael eu hystyried ac roedd rhai elfennau eisoes ar
waith. Un pryder oedd y gyllideb bresennol, byddai’n anodd cael cyllid i wneud
y gwelliannau. Byddai gwaith yn cael ei gwblhau o fewn adnoddau a chyllideb
bresennol y gwasanaeth gwastraff. Esboniodd Jeremy Evans (Swyddfa Archwilio Cymru)
wrth yr aelodau pam yr oedd yr adroddiad wedi’i greu. Dywedodd eu bod wedi
sylwi ar nifer o bethau cadarnhaol yn ystod yr adroddiad gan gynnwys; buddion
ehangach posibl, cydweithio sefydledig a chynnwys trigolion lleol. Roedd y
meysydd gwella a awgrymwyd wedi cynnwys strategaeth mwy hirdymor. Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau
canlynol: ·
Roedd cyfathrebu yn hanfodol i
ddarparu newidiadau i’r gwasanaeth. Byddai cynnwys
preswylwyr a sefydliadau eraill yn bwysig er mwyn pontio yn esmwyth. ·
Cytunwyd bod addysgu plant o
oedran ifanc yn hanfodol er mwyn deall pwysigrwydd ailgylchu a defnyddio llai o
blastig ac ôl-troed carbon y Cyngor. Byddai angen gwneud
gwaith allweddol gydag ysgolion. ·
Roedd angen adolygu gwastraff
o ysgolion er mwyn gweithio’n fwy effeithiol gyda gwell lefelau ailgylchu. Cadarnhawyd bod gwefan
ar gael sy’n rhoi gwybod i ble mae gwastraff Sir Ddinbych yn mynd. Byddai’r
Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yn holi a yw’r
ddolen i’r wefan ar gael trwy wefan Cyngor Sir Ddinbych.
Nid oedd y strategaethau newydd wedi cael eu gwneud yn
glir hyd yma. Ar ôl cael eglurhad
byddent yn cael eu cynnwys yn y strategaeth. Roedd y model newydd wedi’i lunio
i fod yn fwy cynaliadwy gyda’r gallu i ymateb i strategaethau newydd. Roedd
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi annog y Cyngor i edrych ar gynaliadwyedd
y strategaeth yn y dyfodol a’i hadolygu fel rhan o’r adroddiad. Cafwyd
cadarnhad y byddai’r strategaeth newydd yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor
craffu yn y dyfodol. Diolchodd y
pwyllgor i swyddog Swyddfa Archwilio Cymru ac i’r Pennaeth Priffyrdd,
Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol am yr adroddiad positif a byddai’n
croesawu’r adroddiad am y strategaeth pan fyddai wedi’i gwblhau. Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor: Penderfynwyd: - Ar ôl ystyried
canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ac yn amodol ar yr arsylwadau uchod,
cadarnhau ei fod yn fodlon ag ymateb y Cyngor i'r cyfleoedd i wella a awgrymir
yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. |
||
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.30pm – 12.45pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar
faterion perthnasol. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol –
·
Yn y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer 7 Mai
2020, roedd 3 eitem ar y flaenraglen waith ar hyn o bryd. Roedd lle i ychwanegu un eitem arall yn y cyfarfod
nesaf. Byddai Aelodau Arweiniol yn cael gwahoddiad. ·
Byddai’r cyfarfod i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion yn
cael ei gynnal yr wythnos ganlynol ac mae’n bosibl y bydd eitem yn cael ei
gynnig ar gyfer agenda'r cyfarfod sydd ar ddod. Atgoffodd y Cydlynydd Craffu aelodau am y ffurflen cynnig craffu (Atodiad 2
a ddosbarthwyd eisoes) a dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion yn uniongyrchol
ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu i’w cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Gofynnodd y Cydlynydd Craffu i aelodau am geisiadau am sylw mewn cyfryngau
cymdeithasol, cytunodd y pwyllgor ar y canlynol -
PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod,
cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. |
||
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim adborth. |
||
Daeth y cyfarfod i ben am 1.05 p.m. |