Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Anton Sampson. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr canlynol gysylltiadau personol: Eitem 4 ar y
rhaglen, cofnodion y cyfarfod blaenorol:
Mae’r Cynghorwyr Brian Blakeley a Meirick Lloyd Davies yn cynrychioli’r
Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Eitem 5 ar y
rhaglen, Darpariaeth Safle Sipsiwn a Theithwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl) Newydd: Cynghorwyr Tina Jones a
Merfyn Parry.
|
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. Dywedodd y Cadeirydd mewn ymateb i
gais gan swyddogion, a gyda chytundeb pawb dan sylw, ei fod wedi caniatáu i
eitemau 6 a 7 ar drefn busnes y Pwyllgor gael eu hail-drefnu.
Gan hynny, ymdrinnir â Phrosiect Archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar
y cyd fel eitem rhif 6 a Dyluniad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd
Arfaethedig yn eitem rhif 7 ar y rhaglen. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 (copi
ynghlwm). 10.00am – 10.10am Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Cymunedau a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2019. Diolchodd y Cynghorydd Merfyn Parry i’r swyddogion am
adroddiad Tân Mynydd Llantysilio. Dywedodd y Cydlynydd Craffu (CC) bod yr Awdurdod Tân ac
Achub wedi gofyn i gael mynychu cyfarfod craffu cyn 2020 i drafod ei
ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu Strategaeth Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Dywedodd y byddent yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau,
ond roedd croeso i aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedol fynychu. PENDERFYNWYD: derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 5
Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
DARPARIAETH SAFLE SIPSIWN A THEITHWYR YN Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD PDF 299 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi amgaeedig) sy’n ceisio arsylwadau’r Pwyllgor am y
broses o symud ymlaen â darpariaeth safle Sipsiwn a Theithwyr trwy’r CDLl
newydd. 10.10am – 11.10am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau
Mwy Diogel adroddiad ac atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg) a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y broses a ddilynwyd er mwyn sicrhau bod
y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran darparu Safleoedd Sipsiwn
a Theithwyr yn y sir. Roedd yr adroddiad
hwn yn canolbwyntio’n benodol ar safleoedd a drafodwyd yng nghyfarfodydd y
Grŵp Rheoli Asedau a’r Grŵp Cynllunio Strategol i’w hargymell i’r
Cabinet i’w cynnwys ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd fel
safleoedd posibl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Yn ystod eu cyflwyniad, rhoddodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion drosolwg
i'r Pwyllgor o'r dyletswyddau statudol a osodir ar y Cyngor i ddarparu
safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr. Yng
ngoleuni’r ffaith bod angen wedi’i nodi yn y sir trwy’r Asesiad Llety Sipsiwn a
Theithwyr a gymeradwywyd yn ffurfiol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn
2017. Hefyd, cafwyd amlinelliad o’r
broses ddilynol i ddewis safleoedd posibl at ddibenion preswyl a thramwy, nifer
y lleiniau sy’n ofynnol i safleoedd preswyl a thramwy ac atgoffwyd aelodau bod
y Cabinet wedi penderfynu ym mis Mawrth 2019 mai'r lleoliad a ffefrir ar gyfer
y safle preswyl chwe llain fyddai Green Gates (dwyrain) ger Llanelwy. Wrth gytuno ar y safle hwn fel lleoliad a
ffefrir ar gyfer safle preswyl, roedd y cabinet hefyd wedi cytuno y dylid
dyrannu safleoedd posibl ar gyfer y safle tramwy pum llain fel rhan o broses y
CDLl newydd, ac na ddylid ystyried Green Gates (dwyrain) ar gyfer safle tramwy,
a dyna’r rheswm dros gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Pwyllgor. Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd copi o adroddiad a gyflwynwyd yng nghyfarfod
briffio’r Cabinet ar 9 Medi 2019 yn amlinellu’r broses y bwriedir ei dilyn er
mwyn symud ymlaen â safleoedd tramwy posibl i Sipsiwn a Theithwyr i’w cynnwys
yn y CDLl newydd, ynghyd â chopi o adroddiad yn nodi safleoedd tramwy posibl i
Sipsiwn a Theithwyr a gyflwynwyd i'r AMG ar 30 Medi 2019. Roedd yr ail adroddiad yn cynnwys manylion am
y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth a oedd yn gosod dyletswydd statudol ar y
Cyngor i asesu’r angen am ddarpariaeth fel hyn, a darparu safleoedd yn ôl yr angen. Atodiadau a gynhwyswyd gyda’r adroddiad hwnnw
oedd: ·
manylion
y meini prawf adolygu safleoedd dechreuol ·
gwybodaeth
yn gysylltiedig â’r dadansoddiad safle ac argymhellion o ganlyniad i hynny,
ynghyd â manylion yr ystyriaeth bellach a roddir i’r safleoedd hynny ar y
rhestr fer ac ymateb yr Adran Brisio ac Ystadau ynglŷn â'r posibilrwydd o
golli tir amaethyddol a phroblemau posibl yn ymwneud â chyflwyno hysbysiadau
terfynu i denantiaid Cadarnhaodd swyddogion bod yr holl safleoedd a ystyriwyd yn y gorffennol
fel rhan o’r ymarfer darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gwreiddiol, yn cael
eu hystyried eto. Gan nad oedd unrhyw
dirfeddianwr wedi dod ymlaen i gynnig tir ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr, fel rhan o broses y galwad dechreuol am dir ar gyfer safle Sipsiwn a
Theithwyr nac fel rhan o ymarfer tebyg o dan broses y CDLl newydd, roedd y
Cyngor wedi cyflwyno nifer o safleoedd yr oedd yn berchen arnynt i’r diben hwn,
gan fod angen iddo ddangos i Lywodraeth Cymru ei fod yn ymdrechu i gyflawni ei
rwymedigaethau statudol. Dyna pam y
cynhwyswyd tir amaethyddol a mannau agored cyhoeddus dynodedig fel safleoedd
posibl i’w cynnwys yn y CDLl newydd i’r diben hwn, gan fod proses y CDLl yn
gyfle i'r Cyngor newid dynodiadau tir presennol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Grŵp Rheoli Asedau yn ei gyfarfod ar 30 Medi wedi rhoi cefnogaeth i gynnwys y pedwar safle a gyflwynwyd i’w ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROSIECT ARCHIFAU AR Y CYD SIR DDINBYCH A SIR Y FFLINT PDF 665 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (copi
yn amgaeedig) sy’n ceisio arsylwadau'r Pwyllgor am gynigion i sefydlu un
gwasanaeth archifau ar y cyd rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint a'r model
arfaethedig ar gyfer darparu’r gwasanaeth newydd. 12.20pm – 1.05pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau’r adroddiad ac atodiadau
(eisoes wedi'u cylchredeg) a oedd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â phrosiect
ar y cyd ar gyfer archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, gyda ffocws arbennig ar
y model cyflenwi gwasanaeth newydd arfaethedig. Yn ystod ei gyflwyniad pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol y byddai darparu
Gwasanaeth Archifau ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint a datblygu gwasanaeth
‘gweithredu trwy bwynt canolog’, yn amodol ar gais llwyddiannus i Gronfa
Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn fuddiol i drigolion Sir Ddinbych gan y
byddai Gwasanaeth Archifau llawn amser ar gael yn hytrach na gwasanaeth tri
diwrnod sydd ar gael yn y sir ar hyn o bryd. Byddai hynny’n wir er gwaethaf y ffaith bod y
‘canolbwynt’ yn yr Wyddgrug gan y byddai holl lyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cael
mynediad at gofnodion digidol y gwasanaeth felly byddai trigolion yn gallu
gwneud unrhyw waith ymchwil o'u llyfrgell leol, yn hytrach na gorfod trefnu
apwyntiad i ymweld ag Archifdy’r Sir yn Hen Garchar Rhuthun fel sy’n digwydd ar
hyn o bryd. Pe baent eisiau cael gafael ar ddogfennau gwreiddiol, byddent yn
gallu gwneud hyn o dan y model newydd trwy fynychu â’r canolbwynt yn yr
Wyddgrug. Oherwydd eu hoedran a’u bregusrwydd, roedd yn rhaid i ddogfennau’r archifdy
gael eu cadw dan amodau amgylcheddol caeth er mwyn eu gwarchod a’u diogelu, fel
arall byddai’r Gwasanaeth mewn perygl o golli ei statws achrediad archif. Roedd cynghorau Sir
Ddinbych a Sir y Fflint yn awyddus i ddatblygu Gwasanaeth Archifau ar y cyd gan
fod Sir y Fflint eisoes wedi mynd y tu hwnt i’w gapasiti storio tra bod disgwyl
i Sir Ddinbych fod mewn sefyllfa debyg erbyn 2021. Hefyd, roedd y System
Rheoli Amgylcheddol yn Hen Garchar Rhuthun yn nesáu at ddiwedd ei oes a
disgwylir i’r gost o’i newid fod yn sylweddol, felly dyna pam y teimlwyd y
dylid ymchwilio i’r cyfle i ddarparu gwasanaeth ar y cyd, o bosibl mewn adeilad
pwrpasol o’r radd flaenaf.
Er
bod y Gwasanaeth Archifau presennol yn mynd â 70% o adeilad yr Hen Garchar,
roedd yn denu tua 800 o ymwelwyr y flwyddyn, gyda nifer ohonynt yn ail
ymweliadau gan yr un bobl. Mewn
cymhariaeth roedd y Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth yn denu oddeutu
11,000 o bobl y flwyddyn i’w gyfran o 30% o'r adeilad. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod gan y Cyngor ymrwymiad eisoes i
ddefnyddio’r Hen Garchar i ddarparu ei Wasanaeth Archifau tan 2025, pe bai’r model
cyflenwi gwasanaeth o bwynt canolog yn dwyn ffrwyth, gan y byddai’n cymryd
llawer iawn o amser i ddarparu’r prosiect hwn yn ei gyfanrwydd. Yn y cyfamser byddai’n
ymchwilio’n frwd i ddulliau posibl o gynyddu ystod y gwasanaethau treftadaeth a
allai gael eu darparu yno ar ôl i’r Gwasanaeth Archifau ymadael, ar y cyd â
safleoedd treftadaeth eraill y Cyngor, h.y. Nantclwyd y Dre a sefydliadau
allanol megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr Aelodau bod Cyngor Tref Rhuthun wedi cofrestru siom nad oedd wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad ynghylch y cynnig hyd yma, ond pe bai’r prosiect yn dwyn ffrwyth ni fyddai’r Gwasanaeth yn gadael yr Hen Garchar tan 2025, felly teimlwyd ei bod braidd yn rhy gynnar i ymgynghori â Chyngor y Dref ar hyn o bryd. Y flaenoriaeth fyddai sicrhau £11.5m o grant Heritage Horizons gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Byddai angen i unrhyw gynnig am swm mor sylweddol o arian fod ar gyfer prosiect arbennig a phwrpasol iawn. Dyna pam yr oedd Sir Ddinbych am weithio gyda Chyngor Sir y Fflint i adeiladu adeilad pwrpasol wrth ymyl Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug. Roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DYLUNIAD GWASANAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU NEWYDD ARFAETHEDIG PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu (copi amgaeedig) sy’n ceisio
barn y Pwyllgor am y gwasanaethau newydd arfaethedig, gan gynnwys dylunio’r
gwasanaeth, costiadau a chyllid dangosol, a strategaeth gyfathrebu arfaethedig
gyda phreswylwyr. 11.10am – 12.10pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd adroddiad y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu ac atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg). Pwrpas hynny oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am sefyllfa ariannol ddiweddaraf y prosiect ynghyd â rhoi gwybodaeth am amserlenni a phrosiectau cysylltiedig. Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol er bod Atodiad II yr adroddiad yn sôn y byddai amserlen darparu prosiect yn ymestyn hyd at 2022, cyfeiriai hyn at y flwyddyn ariannol 2021/22. Yn seiliedig ar y cynnydd hyd yma roedd ganddo bob ffydd y byddai’r gwasanaeth newydd yn weithredol erbyn mis Medi 2021. Ar gais y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd darparodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu fersiwn PowerPoint o Atodiad III i’r adroddiad a oedd yn darlunio gosodiad arfaethedig y Depo Canolog newydd a fyddai’n cael ei greu yn Ninbych. Rhoddodd drosolwg i’r Pwyllgor o’r gosodiad a swyddogaethau’r holl ardaloedd gwahanol a fyddai'n gynwysedig yn y safle chwe acer hwn a'r cyfyngiadau rheoliadol amgylcheddol, tân ac eraill y byddai'n rhaid cydymffurfio â nhw wrth eu dylunio a'u datblygu. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu: • ddweud nad oedd unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ynglŷn â dyluniad y cynwysyddion ‘Trollibocs’ a fyddai’n cael eu prynu a’u cyflwyno, gan fod nifer o gynhyrchwyr newydd wedi dod i’r farchnad yn ddiweddar. • cadarnhau nad oedd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref presennol yn ffurfio rhan o’r prosiect penodol hwn. Byddai unrhyw drafodaethau ynglŷn â’u dyfodol yn rhan o broses arall. Roedd angen adnewyddu’r contract ar gyfer gweithredu’r canolfannau hyn ym mis Mawrth 2021 felly byddai ymarfer ail-dendro yn dechrau yn y dyfodol agos. Fel rhan o’r broses ail-dendro, roedd modd ymchwilio i ddulliau o gynhyrchu incwm, gan gynnwys rhai ar gyfer cyrff elusennol o werthu ‘gwastraff’ y cartref sydd o safon dda. • dweud er gwaethaf y ffaith bod safle’r depo canolog arfaethedig yn arwynebedd chwech acer, ni fyddai’n ddigon mawr ar gyfer symud y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref bresennol yn Ninbych i'r un safle gan fod cynigion i gynnwys ardal i drin gwastraff priffyrdd ar safle'r depo canolog faes o law, yn amodol ar gymeradwyo achos busnes ar wahân. • dweud bod rheoliadau amgylcheddol yn golygu mai’r unig ddeunydd gwastraff y gellid ei ddadlwytho yn yr awyr agored oedd gwydr, byddai’n rhaid i bob gwastraff arall gael ei ddadlwytho dan orchudd mewn adeiladau pwrpasol. • cadarnhau y byddai angen i ardal y depo cyfan gydymffurfio â rheoliadau caeth o ran sŵn, arogl, llygredd a thân a byddai angen hawlenni gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn dechrau rhai ymarferion trin gwastraff, yn arbennig y rheiny sy’n gysylltiedig â Cham 2 y prosiect – trin gwastraff priffyrdd. • dweud o dan y system newydd ar gyfer casglu gwastraff y cartref, byddai gwastraff bwyd yn dal i gael ei gasglu ar yr un pryd â gwastraff arall ac yna byddai’n cael ei drosglwyddo o ddepo Dinbych i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Bwyd yn Rhuallt. • dweud, er bod lle i 90 o gerbydau yn y maes parcio i staff y depo arfaethedig, nid oedd y rhif hwn yn cymryd i ystyriaeth pobl a oedd eisoes yn rhannu ceir. Roedd yn Cyngor yn ymwybodol o’i ddyletswydd i ostwng allyriadau carbon a dyna pam y byddai nifer o bwyntiau gwefru cerbydau yn cael eu gosod yn y maes parcio ar gyfer cerbydau trydan. Hefyd ni fyddai staff y depo i gyd yn dechrau gweithio ar yr un amser a byddent yn amrywio rhwng 6am a 6.45am, gyda cherbydau casglu sbwriel yn gadael y depo ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 241 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i amgau) yn gofyn am adolygiad o raglen waith ymlaen llaw’r pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol. 1.05pm – 1.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu (CC) adroddiad rhaglen gwaith i'r dyfodol y pwyllgor ac
atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg) er mwyn ceisio cael y Pwyllgor i adolygu
ei raglen waith i’r dyfodol. Atgoffodd y CC
aelodau am y ffurflen cynnig craffu, dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion ati
hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu i’w cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Yng nghyfarfod y
Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion Craffu ym mis Medi, cytunwyd aildrefnu’r
rhaglen gwaith i’r dyfodol er mwyn gallu cynnwys yr eitemau ar ddarpariaeth
safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a Phrosiect Archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint
ar y cyd yn y cyfarfod presennol. PENDERFYNWYD: bod aelodau
yn cytuno â rhaglen gwaith i'r dyfodol y pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 1.20pm – 1.30pm Cofnodion: Nid oedd unrhyw
adborth. Daeth y cyfarfod
i ben am 2.25pm |