Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd
Merfyn Parry |
|
Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2019/20 (copi o
ddisgrifiad rôl yr Aelod Craffu a’r Cadeirydd/ Is-Gadeirydd ynghlwm). Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer
2019/20. Cynigiodd y
Cynghorydd Cheryl Williams y dylid
penodi'r Cynghorydd Graham Timms yn Is-Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Brian Blakeley. Gan nad oedd
unrhyw enwebiadau eraill ac o'i roi i'r bleidlais - PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Graham Timms yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn eitem rhif 8 ar y rhaglen;
Rheoli Gwylanod – Adroddiad Diweddaru gan ei fod yn gyfarwyddwr ar gwmni rheoli
plâu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019 (copi wedi’i
atodi). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019 fel
cofnod cywir. |
|
MABWYSIADU SIARTER GYDYMFFURFIO Â CHYNLLUNIO PDF 217 KB Ystyried
adroddiad oddi wrth y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn am farn yr aelodau ar Siarter Gydymffurfio â Chynllunio
drafft yn amlinellu sut yr ymdriniwyd â honiadau o dorri rheolaeth gynllunio a
sut y gallai cwynion a sefydliadau lleol fel Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
gynorthwyo gyda sicrhau cydymffurfio â chynllunio. 10.10 a.m. – 10.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod
y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a
Gwarchod Y Cyhoedd) (a ddosbarthwyd eisoes), a oedd yn amlinellu sut yr oedd y
Cyngor yn ymdrin ac yn gweithio i ddatrys achosion honedig o dorri amodau
rheoli cynllunio. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut
y gallai Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned, cwynion a sefydliadau lleol weithio
gyda’r Cyngor i sicrhau cydymffurfedd cynllunio. Ynghlwm i’r adroddiad oedd
copi o siarter cydymffurfio cynllunio drafft i’r Pwyllgor roi'i sylwadau arni. Lluniwyd y Siarter hon ar gais y Pwyllgor yn dilyn trafodaeth ar adnoddau
cydymffurfedd cynllunio yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2018. Darparodd Rheolwr
Datblygu’r Cyngor (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) drosolwg o’r Siarter ddrafft
yn canolbwyntio ar y broses tri cham a ddatblygwyd o fewn y Siarter, sef - ·
ymchwiliad
o achosion honedig o dorri amodau rheoli cynllunio ·
asesu’r
lefel o fuddsoddiad sydd ei hangen er mwyn ymchwilio i’r achosion honedig o
dorri amodau rheoli cynllunio; a ·
phenderfynu
ar y dull mwyaf addas i unioni unrhyw achos o dorri amodau rheoli cynllunio a
brofwyd. Dywedodd wrth yr
aelodau fod angen i'r Gwasanaeth gynnwys Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn y
broses gydymffurfio gan mai’r Cynghorau oedd y ‘llygaid a’r clustiau’ lleol a
oedd yn debygol o gael gwybod am achosion honedig o dorri amodau rheoli
cynllunio yn gyntaf, felly gallai eu cymorth â’r broses hon helpu’r Cyngor Sir i flaenoriaethau
gwaith cydymffurfio yn fwy effeithiol, yn enwedig o ystyried ei adnoddau hynod
gyfyngedig yn y maes arbenigol hwn. Pe bai’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
yn fodlon cytuno i'r Siarter byddai’n cynorthwyo â rheoli eu disgwyliadau eu hunain a disgwyliadau’r
cyhoedd ac mewn blynyddoedd i ddod fe allai arwain at Ardaloedd Gwella Busnes
yn dod yn rhan o’r broses. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, bu i’r Aelod
Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth
Cyhoeddus, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Rheolwr Datblygu a Swyddog
Cynllunio - ·
amlinellu’r
dull amlweddog tuag at flaenoriaethu’r ymchwiliad i achosion honedig o dorri
cydymffurfedd cynllunio, yn dibynnu ar y brys a oedd yn gysylltiedig â’r honiad, fel y gwelwyd ym mharagraff 2.4
o’r Siarter ddrafft. ·
cydnabod,
yn debyg i awdurdodau lleol, bod yr adnoddau ariannol sydd ar gael i Gynghorau
Dinas, Tref a Chymuned yn gyfyngedig iawn. Prif amcan y Siarter fyddai sicrhau
cymorth yr haen hon o lywodraeth leol i gynorthwyo’r Cyngor Sir â blaenoriaethu ei waith cydymffurfio drwy
ymgymryd ag archwiliadau lleol o faterion cynllunio sy’n digwydd yn eu
cymunedau ac i ganfod p'run ai oeddent wedi cael y caniatâd gofynnol ai peidio. ·
cadarnhau,
er i sawl aelod o staff cymorth a gorfodi’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd, wrth ymweld ag ardaloedd amrywiol o’r sir i gyflawni eu dyletswyddau,
roi gwybod i’r Swyddog Cynllunio am unrhyw achos posib o dorri amodau cynllunio
ac roeddent wedi’u hyfforddi i ymgymryd â gwaith ymchwiliol, nid oeddent yn
gymwys i ymgymryd â dyletswyddau gorfodi cynllunio mewn perthynas ag unrhyw
achos o dorri amodau cynllunio gan fod hon yn rôl arbenigol. Fodd bynnag, roedd
y berthynas waith agos hon rhwng swyddogion gorfodi amrywiol o gymorth i’r
Swyddog Gorfodi â blaenoriaethu ei waith. ·
cynghori
er bod y gwaith cydymffurfio cynllunio ar y cyfan yn dueddol o fod yn ymatebol,
gwnaed peth gwaith cydymffurfio rhagweithiol pan oedd achosion posibl o dorri
amodau rheoli cynllunio yn dod i’r amlwg ar y dechrau. · dweud eu bod o’r farn y byddai’r ddogfen Siarter hefyd yn ddefnyddiol i breswylwyr a busnesau lleol gan ei bod yn amlinellu pa safonau oedd yn ddisgwyliedig ganddynt a beth allai’r Cyngor ei wneud petaent yn torri ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGU A DIWEDDARIAD AR Y PROSIECT RHEOLEIDDIO CARAFANAU GWYLIAU PDF 293 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) oddi wrth y Rheolwr
Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn darparu diweddariad
ar reoleiddio meysydd carafanau gwyliau yn y sir ac i asesu effeithiolrwydd
ymagwedd y Cyngor tuag at sicrhau cydymffurfio ag amodau cynllunio a
thrwyddedu. 10.40 a.m. – 11.20 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod
y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd) (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau
ar gynnydd y gweithgareddau rheoleiddiol, ac archwilio a oedd y dull a gytunwyd
gan y Pwyllgor yn 2017 i reoleiddio parciau gwyliau ar sail ‘busnes fel arfer’
yn cael yr effeithiau dymunol. Yn ystod ei gyflwyniad
dywedodd y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) wrth y Pwyllgor
bod yr adroddiadau cynnydd mewn perthynas â’r prosiect hwn wedi cael eu
cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf gan
fod aelodau eisiau sicrwydd nad oedd unigolion yn defnyddio carafannau mewn
parciau gwyliau fel eu preswylfeydd parhaol ac o ganlyniad yn osgoi talu Treth
y Cyngor ac yn cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor. Rhoddodd drosolwg o’r broses a ddilynwyd i gyflawni’r prosiect i'r hyn a oedd nawr yn cael ei hystyried yn safon foddhaol lle’r oedd modd rheoleiddio parciau gwyliau ar sail ‘busnes fel arfer’. Roedd y cam cyntaf wedi cynnwys mynd drwy holl gronfeydd data gwasanaethau’r Cyngor i nodi unigolion a oedd yn cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor yn defnyddio cyfeiriadau parciau gwyliau. Ar ôl nodi achosion posibl o dorri amodau cynllunio a / neu drwyddedu ar safleoedd gwyliau, bu i’r swyddogion weithio gyda gweithredwyr y parc gyda’r bwriad o unioni unrhyw achos o dorri amodau, ac ar yr un pryd, sicrhau bod preswylwyr diamddiffyn yn cael eu diogelu ac nad oeddent yn cael eu gwneud yn ddigartref. Cam olaf y prosiect oedd ymgymryd â chamau gorfodi yn erbyn y gweithredwyr hynny a oedd yn anfodlon cydweithredu, neu gydymffurfio, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi cael y cyfle i wneud hynny. Roedd enghreifftiau o’r mathau o gamau gorfodi a ymgymerwyd â nhw wedi’u hamlinellu yn Atodiad 2 (cyfrinachol) i’r adroddiad. Sicrhaodd y Rheolwr Datblygu yr aelodau mai’r amcan o hyn allan fyddai monitro gweithgareddau parciau gwyliau’n rheolaidd drwy ymgysylltu’n rheolaidd â’r gweithredwyr a monitro mynediad at wasanaethau’r Cyngor o barciau gwyliau. Byddai camau gorfodi yn cael eu cymryd pan fo’r holl ddulliau eraill wedi methu. Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, bu i’r Aelod Arweiniol, y Rheolwr Datblygu a’r Swyddog Cynllunio - · hysbysu y gellid cymryd camau gorfodi yn unol â rheoliadau cynllunio a/neu drwyddedu. Fodd bynnag, mewn achos o ddiffyg cydymffurfedd cyson, roedd gan ddeddfwriaeth drwyddedu fwy o ddarpariaethau i’w defnyddio i sicrhau ataliad gan fod diffyg cydymffurfedd â deddfwriaeth drwyddedu yn golygu cosb ariannol neu gellid dirymu trwydded y gweithredwr a fyddai’n arwain at y gweithredwr yn colli’i fywoliaeth. Yn debyg i’r gwaith gorfodi cynllunio, roedd adnoddau’n gyfyngedig iawn yn y maes hwn ond pe bai'r holl gamau gweithredu eraill yn methu byddai’r uchod yn cael ei ddefnyddio. · cadarnhau nad oedd gan y Gwasanaeth unrhyw dystiolaeth o garafannau, cabanau, neu chalets wedi’u lleoli mewn ardaloedd o goetir anghysbell e.e. at ddibenion preswyl. · hysbysu mai un o’r prif resymau dros bobl yn byw mewn carafanau gwyliau drwy gydol y flwyddyn oedd bod rhai parciau yn cam-werthu ar ran gweithredwyr / perchnogion y parciau, a oedd yn hysbysu eu carafanau/ chalets/ cabanau fel eiddo preswyl yn hytrach nag eiddo at ddibenion gwyliau. · cadarnhau bod swyddogion gorfodi wedi ymweld â’r holl barciau gwyliau yn ystod eu ‘cyfnod cau’ i wirio a oedd tystiolaeth eu bod yn cael eu defnyddio at ddibenion preswyl. Os oedd cwyn yn cael ei derbyn o ran gweithrediad y parc ar unrhyw adeg o’r flwyddyn roedd yn cael ei harchwilio fel mater o drefn. · hysbysu y gallai amrywiaeth o swyddogion gorfodi ymweld â rhai o’r parciau gwyliau mwy yn ystod y flwyddyn, hynny yw, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU AR REOLI GWYLANOD PDF 227 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
diweddaru’r aelodau ar y cynnydd a wnaed ar y Cynllun Gweithredu Rheoli
Gwylanod ynghyd â chamau gweithredu pellach arfaethedig. 11.30 a.m. – 12 hanner dydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod
y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio a
Gwarchod Y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r
aelodau ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Gweithredu Rheoli Gwylanod, yn
canolbwyntio ar gamau gweithredu penodol a roddwyd ar waith yn Y Rhyl a
chynghori ar y camau gweithredu arfaethedig i’w rhoi ar waith yn y dyfodol. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod
Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ddweud - ·
yn y
Rhyl, ffocws y gweithgaredd rheoli gwylanod diweddar oedd storio gwastraff a
gweithgareddau Strydwedd. Roedd y cynnydd a gyflawnwyd yn y meysydd hyn o
ganlyniad i gydweithio effeithiol rhwng y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd a’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, a oedd yn gyfrifol am
wasanaethau rheoli gwastraff a Strydwedd. Roedd y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol
wedi llwyddo i drosglwyddo 700 eiddo ychwanegol yn y Rhyl i finiau gwastraff
bwyd o blastig caled, arferai’r tai hyn ddefnyddio sachau neu finiau cymunedol
mawr a oedd yn denu gwylanod a phlâu eraill. Roedd darparu biniau unigol wedi’i
gwneud yn anoddach i'r gwylanod fynd at
y gwastraff ac o ganlyniad roedd yn lleihau cyfanswm y sbwriel yn yr ardal.
Bu i’r Gwasanaeth Strydwedd gyflawni
gweithgareddau glanhau stryd yng nghanol tref Y Rhyl ac roedd hyn yn cynorthwyo
ag edrychiad yr ardal ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. ·
roedd
y gostyngiad mewn capasiti o fewn y Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a
Marchnata wedi effeithio rhywfaint ar ddarparu negeseuon i’r cyhoedd o ran
peidio â bwydo gwylanod ac ati gan yr oedd rhaid i’r Gwasanaeth flaenoriaethu
ei waith ar sail brys ac argaeledd staff. Fodd bynnag, roedd cyfathrebu’n dda iawn ac nid
oedd rhaid bod yn ddwys o ran adnoddau, hynny yw, gofyn i bobl a busnesau osod posteri yn eu ffenestri ac
ati, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon i’r cyhoedd. ·
ni
dderbyniwyd pob cwyn mewn perthynas â gwylanod a/neu bobl yn eu bwydo drwy
system Rheoli Cyswllt Cwsmer y Cyngor, derbyniwyd rhai yn uniongyrchol gan y
Gwasanaeth ei hun. Os oedd cwyn yn cael ei derbyn, y cam cyntaf oedd cyflwyno
llythyr rhybuddio (roedd copi ynghlwm wrth Atodiad 3 i’r adroddiad). Hyd yma,
roedd yr arfer o gyflwyno’r llythyr wedi bod yn ddigonol ac nid oedd rhybudd
cyfreithiol wedi’i gyflwyno i unrhyw unigolyn am fwydo gwylanod. Ni dderbyniwyd
cwynion mewn perthynas ag unrhyw un yn bwydo gwylanod mewn mannau cyhoeddus. ·
byddai
cymryd camau gorfodi yn erbyn unigolion am fwydo gwylanod yn anodd iawn ond, pe
bai angen, gallai swyddogion gorfodi’r Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd gymryd camau gorfodi yn erbyn troseddwyr cyson. Er hynny, hyd yma nid
oes wedi bod angen dilyn y trywydd hwn. Bu i’r mwyafrif o bobl ymateb yn
gadarnhaol i’r posteri a oedd yn cael eu harddangos mewn trefi arfordirol yn
gofyn yn garedig i bobl “fwydo’r bin gwastraff” ac nid y gwylanod (Atodiad 4
i’r adroddiad) ac i’r llythyrau rhybudd a gyflwynwyd. ·
roedd
gwylanod yn greaduriaid deallus ac er mwyn goroesi roeddent yn dilyn
cyflenwadau bwyd, dyna’r rheswm pam ei bod yn ymddangos bod nifer gynyddol
ohonynt yn nhrefi marchnad mewndirol y sir.
·
roedd
mesurau atal megis gosod baneri wedi’u treialu yn yr ardaloedd arfordirol.
Roedd hyn yn llwyddiannus i ddechrau
nes i’r gwylanod ddod i arfer â’r baneri a sylweddoli nad oeddent am eu
niweidio. · nid oedd y problemau a oedd yn cael eu hachosi gan wylanod yn unigryw i Sir Ddinbych, roedd problemau tebyg ar draws Gymru. Felly, roedd yn siomedig iawn nad oedd yr un o’r tri chorff cyhoeddus a gysylltwyd â nhw mewn perthynas â’r ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
MEYSYDD PARCIO YN SIR DDINBYCH PDF 214 KB Ystyried
adroddiad oddi wrth y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd (copi ynghlwm)
gan ddarparu diweddariad ynghylch gweithredu Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd
Parcio a materion meysydd parcio eraill, a chael barn yr aelodau arnynt. 12 hanner dydd –
12.30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant
a’r Amgylchedd adroddiad y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (a
ddosbarthwyd eisoes) er mwyn diweddaru'r aelodau ar y cynnydd a wnaed o
safbwynt rhoi'r Cynllun Buddsoddi Mewn Meysydd Parcio a mentrau cysylltiedig ar
waith. Yn ystod ei gyflwyniad, tynnodd sylw’r aelodau at y gwaith a wnaed yn
ystod 2018/19, blwyddyn gyntaf y cynllun buddsoddi pum mlynedd a’r gwaith a
wnaed hyd yma yn 2019/20. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod
Arweiniol, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Traffig, Parcio
a Diogelwch ar y Ffyrdd - ·
ddweud,
yn dilyn ail ymarfer tendro dylai’r contract ar gyfer datblygu hen safle
Swyddfa'r Post yn y Rhyl yn faes parcio arhosiad byr fod yn barod i’w osod yn
yr hydref 2019. ·
cadarnhau
bod y costau'n gysylltiedig â’r gwaith selio rhag dŵr ar loriau'r meysydd
parcio aml-lawr yn ddiogel rhag chwyddiant. ·
cadarnhau
fod Cyngor Tref Prestatyn yn rhoi cymhorthdal i feysydd parcio o fewn y dref ac
felly nid oedd y Cyngor yn derbyn unrhyw refeniw gan y meysydd parcio hynny, o
ganlyniad roedd gwasanaethau Strydwedd yn cael eu darparu yn y safleoedd hyn
dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng y Sir a Chyngor Tref. Yn y blynyddoedd
diwethaf, roedd mathau hyn o Gytundebau Lefel Gwasanaeth wedi datblygu’n llawer
mwy manwl mewn perthynas â pha wasanaethau fyddai’n cael eu darparu am y pris a
oedd yn cael ei godi. Roedd Cytundebau Lefel Gwasanaeth bellach wedi’u datblygu
ar gyfer amwynderau cymaradwy ar draws y sir, bu i’r dull hwn gynorthwyo’r
Gwasanaeth â monitro’r gwaith cynnal a chadw a wnaed yn effeithiol. ·
pwysleisio
bod meysydd parcio’r sir yn aml yn byrth ar gyfer ymwelwyr i’r sir a’i threfi,
felly roedd yn bwysig eu bod yn groesawgar yn esthetaidd oherwydd eu potensial
i gefnogi a datblygu’r economi leol, dyma’r rheswm dros bwysigrwydd cynnal y
rhaglen fuddsoddi; ·
hysbysu
bod y cynllun datblygu pum mlynedd wedi’i lunio ar sail flaenoriaeth gyda’r
bwriad o osgoi dirywiad pellach a fyddai’n gofyn am fuddsoddiad sylweddol i
unioni’r sefyllfa yn y tymor hir. Roedd y prosiectau buddsoddi strwythurol mawr
wedi’u trefnu ar gyfer blynyddoedd 1 i 4 gyda blwyddyn 5 yn canolbwyntio mwy ar
y gwaith estheteg llai. Wrth i amser fynd rhagddo byddai rhagor o fanylion am y
gwaith cynnal a chadw i’w gynnal mewn lleoliadau penodol a’r blynyddoedd
ariannol y byddai'r gwaith yn cael ei gynnal yn ymddangos yn y Cynllun
Buddsoddi. Disgwyliwyd yn y pen draw y byddai gwaith cynnal a chadw rheolaidd
yn ffurfio rhan o gynllunio ariannol ‘busnes fel arfer’ y Gwasanaeth ac yn cael
ei ariannu o fewn y refeniw yr oedd y Gwasanaeth yn ei gynhyrchu. ·
hysbysu
mai dim ond oddeutu 33% o feysydd parcio’r sir oedd yn derbyn dulliau gwahanol
o dalu di-arian ar hyn o bryd, y nod yn y pen draw oedd bod gan yr holl feysydd
parcio’r cyfleusterau i dderbyn taliadau di-arian ac i fod yn ddi-bapur drwy
system adnabod taliadau digidol. ·
cadarnhau
y byddai’r cyfleuster presennol a oedd yn caniatáu talu â ffôn symudol yn cael
ei ddisodli gan gyfleuster ap ffôn clyfar. ·
cydnabod
y byddai darparu arwyddion electronig yn nodi nifer y gofodau parcio sydd ar
gael yn gyfleuster defnyddiol yn nhrefi twristiaeth y sir, er roedd y rhain yn
ddrud iawn, felly byddai’n rhaid cynnal astudiaeth ddichonoldeb i gyfiawnhau’r
buddsoddiad. · cadarnhau bod camau gorfodi parcio yn cael eu rhoi ar waith yn ôl yr angen ym mhob un o’r 47 maes parcio a weithredir gan Wasanaeth Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor. Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor oedd yn gyfrifol am weithredu’r camau gorfodi ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion
perthnasol. 12.30 p.m. – 12.45 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn i’r Aelodau adolygu
Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. Canolbwyntiodd y
drafodaeth ar y canlynol - ·
neilltuwyd
y cyfarfod nesaf ar 5 Medi i drafod adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad a
gynhaliwyd i Dân Mynydd Llantysilio – o ganlyniad cytunodd yr aelodau y dylid
trafod yr eitemau y bwriadwyd eu trafod yng nghyfarfod mis Medi yng nghyfarfod
mis Hydref. Cymeradwyodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol y Cydlynydd Craffu ar yr adroddiad a luniwyd yn dilyn yr
ymchwiliad. ·
bod
yr holl eitemau eraill ar y rhaglen waith yn cael eu hail-gadarnhau yn cynnwys
yr ychwanegiad o’r wybodaeth ddiweddaraf am y Siarter Cydymffurfio Cynllunio a
gytunwyd arni yn gynharach yn y cyfarfod. ·
roedd
cylch gorchwyl drafft y Gweithgor Polisi Cludiant i Ddysgwyr wedi’i gynnwys yn
y briff gwybodaeth (a ddosbarthwyd eisoes) ac fe drafodwyd yr enwebiadau ar
gyfer y Gweithgor ynghyd â’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith o ystyried y
cyfnod arwain i mewn o 12 mis i weithredu unrhyw newid o fis Medi 2021. ·
anogwyd
aelodau i gyflwyno unrhyw ffurflenni cynnig mewn perthynas â phynciau ar gyfer
craffu cyn 21 Gorffennaf i’w cyflwyno i gyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 31 Gorffennaf – ychwanegodd y Cadeirydd y byddai
cynnig i ganiatáu Aelodau i arsylwi cyfarfodydd y Grŵp yn y dyfodol yn
cael ei drafod. PENDERFYNWYD – (a) yn amodol ar
yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. (b) y dylid penodi’r Cynghorwyr Brian Blakeley, Graham Timms, Cheryl Williams,
Huw Williams a’r Aelod Cyfetholedig Kathy Jones i fod yn rhan o’r Gweithgor
Polisi Cludiant i Ddysgwyr; ac, yn amodol ar ei gadarnhad, y dylid penodi Mabon Ap Gwynfor i fod yn rhan
o’r Grŵp hwnnw hefyd. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor 12.45 p.m. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Williams at ganlyniad da'r
broses Herio’r Gwasanaeth Cyllid yn
ddiweddar ac fe gymeradwyodd y Cyn-Bennaeth Cyllid, Richard Weigh, ar ei waith.
Adroddodd y Cynghorydd Brian Blakeley ar Herio’r
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol – roedd rhai o’r pynciau i’w trafod yn
cynnwys yn Model Gwastraff newydd a’r depo newydd posibl ynghyd â materion
eraill y parth cyhoeddus yn cynnwys glanhau’r strydoedd a sbwriel. Nododd yr Aelodau fod y Rhaglen Herio Gwasanaeth bellach
wedi’i chwblhau ac fe adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y camau i
adolygu’r trefniadau herio gwasanaeth gyda’r bwriad o addasu a gwella’r broses.
PENDERFYNWYD y dylid derbyn a nodi’r adroddiad au. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.37 p.m. |