Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Merfyn Parry, Huw Williams, Tina Jones, Rachel Flynn a Cheryl Williams. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Graham Timms,
Glenn Swingler, Meirick Lloyd Davies, Brian Blakeley, Anton Sampson a David
Lloyd i gyd gysylltiad personol yn eitem 5 gan eu bod i gyd yn Llywodraethwyr
Ysgolion. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019. Materion yn Codi - ·
Tudalen 8 – Eitem 5 – Polisi Dyledion Prydau Ysgol –
roedd yr aelodau’n bryderus ei bod yn ymddangos y dosbarthwyd y Polisi Dyledion
Prydau Ysgol diwygiedig i ysgolion cyn iddo gael ei ddosbarthu i gynghorwyr o
dan y Broses Penderfyniadau Dirprwyedig.
Roedd yr aelodau eisiau sicrwydd bod y newidiadau y gwnaethant eu
hargymell wedi'u cynnwys yn y polisi terfynol.
Dywedodd y Swyddogion y byddent yn holi a wnaed hyn ac a yw’r
Penderfyniad Dirprwyedig perthnasol wedi'i gyhoeddi. ·
Tudalen 11 – Eitem 6 – Darpariaeth Safleoedd Sipsiwn a
Theithwyr – roedd y ddau safle arfaethedig wedi mynd gerbron y Cabinet a
derbyniwyd y safle preswyl parhaol ond nid y safle tramwy yn yr un
lleoliad. Bydd lleoliad arall ar gyfer y
safle tramwy'n cael ei chwilio amdano yn ystod datblygiad y CDLl
newydd. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd
ar 14 Mawrth, 2019 fel cofnod cywir. |
|
POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH PDF 282 KB Ystyried adroddiad gan Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod y camau posibl i’r Cyngor eu hystyried mewn perthynas â chludiant anstatudol y mae’n ei ddarparu ar hyn o bryd. 10.05am – 10.45am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad y Rheolwr Addysg ac Adnoddau a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn rhoi manylion am yr elfennau anstatudol ym Mholisi Cludiant Dysgwyr Cyngor Sir Ddinbych 2018. Yn ystod ei gyflwyniad eglurodd yr Aelod Arweiniol y daeth Polisi Cludiant Dysgwyr presennol y Cyngor i rym ym mis Medi 2018 yn dilyn ymarfer ymgynghori gyda’r holl randdeiliaid y flwyddyn flaenorol. Mae’r polisi'n nodi sut y mae'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Fesur Teithio Gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Wrth adolygu’r polisi yn 2017 roedd sawl anghysonder wedi dod i’r amlwg e.e. llwybrau peryglus, ysgolion bwydo a phwysigrwydd eu perthynas â’r ysgolion uwchradd y maent wedi’u cysylltu â nhw ayyb. Cafodd yr anghysonderau hyn eu hunioni yn y polisi diwygiedig. Mae’r adolygiad hwn o’r polisi ynghyd â newidiadau perthnasol i gludiant ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion arbennig a darparwyr cludiant yn trosglwyddo costau chwyddiannol i’r Cyngor Sir wedi arwain at gynnydd o oddeutu £350k yng nghost cludiant ysgolion yn y sir yn ystod 2018/19. Ni fydd cynnydd fel hyn yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol mai’r Gwasanaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd sy’n dal y gyllideb cludiant ysgol ond mai’r Gwasanaeth Addysg sy’n pennu cymhwysedd disgybl i dderbyn cludiant am ddim. Er bod hyn o bosibl yn ymddangos yn od, mae’n gweithio’n dda gan fod swyddogion Addysg yn gyfarwydd â’r darnau o ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu cymhwysedd dysgwyr am gludiant am ddim, ond mae’r arbenigedd o ran tendro am, a chaffael cludiant, a gwybodaeth am argaeledd cludiant cyhoeddus yn bodoli o fewn tȋm cludiant y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd. Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr Aelodau bod darpariaeth cludiant ar gyfer dysgwyr er mwyn iddynt gael mynediad at elfennau addysg anstatudol yn fater cynhennus dros ben a bod sawl awdurdod lleol sydd wedi edrych ar y posibilrwydd o roi stop ar gludiant am ddim neu godi tâl am gludiant e.e. i ddarpariaeth addysg seiliedig ar ffydd neu'r iaith Gymraeg, wedi cael sylw anffafriol yn y wasg/cyfryngau, a hyd yn oed her gyfreithiol. Er ei bod yn bosib y byddai rhoi’r gorau i gynnig cludiant am ddim, neu godi tâl am gludiant er mwyn galluogi disgyblion i gael mynediad at addysg anstatudol, yn arwain at arbedion sylweddol i’r Cyngor, byddai'n bwysig dros ben asesu effaith unrhyw newidiadau ar addysg disgyblion y a'r gefnogaeth a roddir i’w galluogi i ennill y sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig o safbwynt addysg ôl-16. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gwario tua £1m bob blwyddyn ar gludo myfyrwyr i ddarpariaeth addysg ôl-16. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, a’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau:
|
|
EFFAITH CAU YSGOL RHEWL PDF 273 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr – Cefnogi Addysg (Copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r
gefnogaeth a ddarparwyd i Ysgol Rhewl yn ystod y broses cau ac adborth gan
fudd-ddeiliaid ar y gefnogaeth a dderbyniwyd. 10.45am – 11.15am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad y Prif
Reolwr, Moderneiddio
Addysg, (a ddosbarthwyd eisoes) yn amlinellu'r gefnogaeth a roddwyd i Ysgol
Rhewl yn ystod y broses o gau'r ysgol. Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd atodiadau’n crynhoi
ymatebion rhieni i’r holiaduron a roddwyd iddynt, sylwadau a gafwyd gan yr
ysgolion a fydd yn cymryd disgyblion Ysgol Rhewl yn ogystal â sylwadau’r Pennaeth
dros dro ar adeg cau’r ysgol.
Dywedodd
yr Aelod Arweiniol mai dim ond dau riant oedd wedi ateb yr holiadur ac o’r
saith ysgol a dderbyniodd ddisgyblion ysgol Rhewl, pump oedd wedi ymateb. Roedd rhai o’r sylwadau a gafwyd hefyd yn
gwrth-ddweud ei gilydd. Disgwyliwyd i ddechrau y byddai mwyafrif y disgyblion yn trosglwyddo i’r
ysgolion newydd yn Rhuthun ond ni ddigwyddodd hynny. Roedd nifer o’r plant wedi
trosglwyddo i ysgolion mewn rhannau eraill o’r sir, rhai oherwydd eu bod yn
byw'n agosach at yr ysgolion hynny ac eraill oherwydd dewis y rhieni. Cydnabu'r Aelod Arweiniol nad yw byth yn brofiad braf cau
ysgol ond roedd yn falch o allu dweud fod y disgyblion wedi setlo’n dda yn eu
hysgolion newydd. Dywedodd y Prif
Reolwr Moderneiddio Addysg wrth yr Aelodau bod swyddogion o Wasanaeth Addysg y
Cyngor wedi gweithio’n agos â Phennaeth Dros dro Ysgol Rhewl drwy gydol y
broses o gau’r ysgol a throsglwyddo’r disgyblion. Dywedodd hefyd bod y Pennaeth Dros dro wedi gweithio’n
ddiwyd gyda disgyblion a rhieni dan amgylchiadau anodd dros ben. Yn ogystal â rhoi
cefnogaeth i rieni (mewn cyfarfodydd un i un a chyfarfodydd grŵp),
disgyblion a'r corff llywodraethu roedd y Cyngor hefyd wedi darparu cefnogaeth,
naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy Gyrfa Cymru, i staff yr
ysgol - ffaith a nodwyd yn sylwadau'r Pennaeth Dros dro. Gofynnodd y Pennaeth
Addysg a Gwasanaethau Plant am i’r ffaith gael ei nodi, er bod y Cyngor yn
ymgymryd â phroses siomedig ac amhleserus iddyn nhw’n
bersonol, bod cymuned Ysgol Rhewl wedi ymddwyn yn broffesiynol, yn gwrtais ac
yn barchus tuag at swyddogion y Gwasanaeth Addysg. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r
swyddogion:
|
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Perfformiad a Chontractau - Cyllid (copi
ynghlwm) sy'n amlinellu effaith Credyd Cynhwysol ar wasanaethau'r Cyngor a
thrigolion y sir hyd yn hyn. Mae’r
adroddiad hefyd yn asesu effeithiolrwydd mesurau lliniaru hyd yn hyn, ac yn
amlinellu cynlluniau ar gyfer mesurau lliniaru effeithiau yn y dyfodol. 11.30am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
adroddiad y Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad - Cyllid (a ddosbarthwyd
eisoes) yn crynhoi effaith hyd yma symud drosodd i Gredyd Cynhwysol (CC) ar
drigolion y Sir ac effeithiolrwydd mesurau lliniaru, gan amlinellu’r cynlluniau
a sefydlwyd i liniaru’r effeithiau ar wasanaethau a thrigolion wrth i’r rhai
sy’n derbyn budd-dal gal eu symud drosodd
i CC. Croesawyd Prif
Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i'r cyfarfod
fel un o bartneriaid allweddol y Cyngor ar gyfer rhoi cefnogaeth gyda Chredyd
Cynhwysol. Eglurodd fod yr adroddiad yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr aelodau ar ôl ystyried adroddiad y
llynedd am y paratoadau yr oedd y Cyngor a’i bartneriaid yn eu gwneud yn barod
ar gyfer lledaeniad cychwynnol CC i’r rhan fwyaf o’r sir. Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol bod y wybodaeth
ddiweddaraf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi y dylai ‘ymfudo rheoledig’
pobl sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau drosodd i Gredyd Cynhwysol ddechrau yn
Sir Dinbych ddiwedd 2020. Nododd
aelodaeth y Bwrdd Credyd Cynhwysol amlasiantaeth yr
oedd y Cyngor wedi’i sefydlu mewn ymgais i liniaru’r risgiau i'r Cyngor a
phreswylwyr wrth gyflwyno CC.
Mae
ymdriniaeth Sir Ddinbych o ran sefydlu tȋm amlasiantaeth sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Adran Gwaith a
Phensiynau a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn
wahanol i ymdriniaeth awdurdodau lleol eraill,
sydd mae’n debyg wedi sefydlu Byrddau Cyllid neu Fyrddau
Refeniw a Budd-Dal. Ers i Gredyd
Cynhwysol ddod i rym yn Sir Ddinbych mae deddfwriaeth
newydd wedi’i chyflwyno sy’n berthnasol i fudd-dal tai a phrydau ysgol am ddim
ayyb. Mae hyn wedi creu
gwaith ychwanegol ar gyfer staff sy’n delio â’r
meysydd hynny a gyda hawliadau CC. Roedd penderfyniad y Cyngor a’i bartneriaid i gydleoli
staff yng Nghanolfan Waith y Rhyl wedi profi’n ddefnyddiol dros ben wrth fynd
i'r afael â'r newidiadau, tynnu sylw hawlwyr budd-dal
at hawliau eraill posibl a darparu gwasanaethau ymyrraeth mewn modd amserol er
mwyn rhwystro sefyllfaoedd o argyfwng. Roedd Atodiad 2 i’r adroddiad yn rhoi manylion camau penodol a gymerwyd
gan wasanaethau unigol a’r canlyniadau a gafwyd ac roedd Atodiad 3 yn nodi
astudiaethau achos dienw er mwyn dangos effeithiolrwydd ymdriniaeth y Cyngor
a'i bartneriaid. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol, Prif Weithredol CAB Sir Ddinbych,
y Rheolwr Contractau a Pherfformiad – Cyllid a’r Rheolwr Prosiect Contractau a
Pherfformiad - Cyllid:
|
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.15pm – 12.25pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn
gofyn barn yr aelodau ar y rhaglen waith gan roi diweddariad ar faterion
perthnasol. Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd 5 mater arwyddocaol dan sylw yn y cyfarfod ar 4 Gorffennaf. Cytunwyd y
dylid trafod yr adroddiad drafft ar dân mynydd Llandysilio mewn cyfarfod
preifat arbennig o’r Pwyllgor cyn 4 Gorffennaf a chyn ei anfon at sefydliadau
partner er ymgynghoriad yn barod ar gyfer ei gyhoeddi yng nghyfarfod mis Medi. Atgoffwyd yr aelodau mai'r cyfarfod nesaf fyddai cyfarfod cyntaf yn y
flwyddyn fwrdeistrefol newydd, felly bydd gofyn i’r Pwyllgor ethol ei
Is-Gadeirydd ar gyfer 2019/20. Gofynnir i aelodau sydd â diddordeb yn y swydd
hon anfon eu CV at y Cydlynydd Craffu erbyn 30 Mehefin. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod,
cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol - gweler Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.25pm – 12.30pm Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 1.06 a.m. |