Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod gan estyn croeso arbennig i gynrychiolwyr o Dîm
Cyfnewid Dysgu gan Gymheiriaid Cyngor Sir y Fflint sy’n arsylwi’r cyfarfod fel
rhan o Astudiaeth Gwella Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru. Er budd yr arsylwr,
bu i’r aelodau a’r swyddogion gyflwyno eu hunain ac egluro eu swyddi. |
|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu
Cymunedau a gynhaliwyd ar 17eg Ionawr 2013. Cofnodion: Dywedodd y Cyng.
Rhys Hughes bod y cofnod dan ‘materion brys’ yn ymwneud â darparu a gosod biniau graen (tudalen 5) yn
anghywir. Mewn gwirionedd tomenni graen yw’r ‘biniau graen’ ar Fwlch yr
Oernant. Dim ond ers yn ddiweddar mae Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol wedi cymryd y cyfrifoldeb dros
wasanaethau priffyrdd ac isadeiledd felly nid oedd modd iddo roi manylion
ynglŷn â’r penderfyniad i dderbyn argymhellion Asiantaeth yr Amgylchedd i
adael graen mewn mannau penodol. Cytunodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol i dderbyn mwy o fanylion ynglŷn â’r mater ac i adrodd yn ôl
i’r Grŵp Aelodau Ardal lleol. PENDERFYNIAD
– Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar 17 Ionawr
2013. |
|
ADOLYGU CYFLWYNIAD Y CYNLLUN AILGYLCHU X2 PDF 103 KB Derbyn adroddiad (copi’n amgaeëdig) gan y Pennaeth Priffyrdd
a Gwasanaethau’r Amgylchedd sy’n manylu’r problemau a gafwyd wrth gyflwyno’r
trefniadau ailgylchu newydd yn ne’r sir a’r mesurau a gymerwyd i ddelio â’r
problemau hyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol adroddiad (a
gafodd ei anfon at yr Aelodau ymlaen llaw) ar y problemau a welwyd yn ne’r Sir
ym mis Tachwedd 2012 wrth roi’r cynllun ailgylchu newydd (X2) ar waith. Roedd
ei adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y camau gweithredu i fynd i’r afael
â’r problemau. Cydnabuwyd bod rhai penderfyniadau allweddol a wnaethpwyd cyn
rhoi’r cynllun ar waith wedi cyfrannu tuag at y problemau – fel y penderfyniad
i roi’r system newydd ar waith ym mis Tachwedd yn hytrach nag aros tan y
gwanwyn. Ni ragwelwyd yr oedi gyda darparu offer hanfodol na’r problemau yn sgil
gweithio mewn ardaloedd gwledig a defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i bennu
llwybr y casgliadau. Bu i hyn oll arwain at ddryswch ac oedi gyda darparu’r
gwasanaeth newydd a bu i nifer o drigolion anfon cwynion trwy’r system Rheoli
Cysylltiadau Cwsmeriaid. O ganlyniad i hyn oll rhoddwyd cynllun ar waith i fynd
i’r afael â’r problemau a dosbarthwyd adnoddau ychwanegol i adfer y sefyllfa.
Er gwaethaf y problemau hyn, ystyriwyd bod y penderfyniadau i weithredu’r
cynllun ailgylchu mewn un sesiwn ac i ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol er
mwyn pennu’r llwybrau gorau ar gyfer y casgliadau yn benderfyniadau cywir. Cafwyd trafodaeth faith ar ba mor ddigonol oedd y trefniadau i weithredu’r
cynllun ailgylchu newydd. Canmolodd y Pwyllgor ymateb y Cyngor i’r problemau,
yn arbennig ymateb y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer. Serch hynny, penderfynwyd
bod y canlynol yn dal yn destun pryder: ·
Cyfathrebu
gwael gyda thrigolion ·
Dosbarthu
calendrau casglu anghywir i drigolion rhai ardaloedd ·
Colli
enw da’r Cyngor ·
Staff
y gwasanaeth a’r staff casglu yn anghyfarwydd â’r ardal Bu i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Ailgylchu a’r Rheolwr Rheoli
Gwastraff ac Ailgylchu ymateb i nifer o gwestiynau gan gadarnhau’r canlynol: ·
Bydd
cost y camgymeriadau, lle bo’n briodol, yn cael eu codi ar y contractwyr. ·
Mae
colli enw da yn destun pryder ond, er bod y gwasanaeth ailgylchu yn wasanaeth
pwysig a gweladwy, nid oedd cost ei roi ar waith ond canran bychan o gyllideb y
gwasanaeth cyfan. ·
Roedd y farchnad ar gyfer technoleg mapio gyfrifiadurol
yn gystadleuol dros ben. Er bod dewisiadau eraill ar gael, roedd y problemau yn
deillio o ddewis y llwybr casglu yn agos at ddyddiad gweithredu’r cynllun ac
felly nid oedd hynny’n gadael digon o amser i weld y problemau. ·
Roedd
y problemau gyda’r calendrau yn deillio o gamgymeriadau a wnaethpwyd wrth i’r
staff dosbarthu ddehongli’r system codau yn anghywir. Roedd modd ail-greu’r
calendrau ond byddai cost ynghlwm â hynny ac ystyriwyd bod y mater dan reolaeth
gan fod y Cyngor yn cysylltu â chynghorwyr i weld a oedd mater yn ymwneud â
chasgliadau hwyr angen eu datrys yn eu hardaloedd. Roedd gwaith hefyd yn cael
ei wneud i sicrhau bod y trefniadau casglu ar gael i’w gweld ar wefan Cyngor
Sir Ddinbych. ·
Y
gobaith oedd gweithredu gwasanaeth ailgylchu llawn ledled y Sir ond, oherwydd
yr anawsterau wrth yrru cerbydau casglu mawr yn yr ardaloedd gwledig, mae angen
amrywio lefel y gwasanaeth yn y Sir. ·
Cafwyd
yr offer/deunyddiau gan gyflenwyr o dramor yn dilyn proses dendro a oedd yn
ystyried ansawdd a phrisiau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid ei fod yn disgwyl i rai
problemau godi wrth weithredu prosiect mawr ond ychwanegodd ei fod yn siomedig
gyda nifer y problemau sydd wedi codi gyda’r cynllun hwn. Canmolwyd ymateb
swyddogion i’r sefyllfa. Mae’r swyddogion wedi cydnabod y camgymeriadau ac yn
gweithio’n galed iawn i adfer y sefyllfa. Dywedodd hefyd y gallai’r problemau
hyn fod yn wers bwysig i holl adrannau’r Cyngor o ran darparu gwasanaethau. Dywedodd y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Tir y Cyhoedd, ei fod wedi ymddiheuro am ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried adroddiad (copi’n amgaeëdig) gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid sy’n gwahodd barn yr aelodau ar sut mae’r Cyngor yn
symud ymlaen ar thema Dod yn Agosach at y Gymuned a sut orau i ymgysylltu gyda
thrigolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng. Hugh Irving,
Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau, adroddiad (a gafodd ei anfon at
yr Aelodau ymlaen llaw) ar y testun uchod gan ofyn i’r Pwyllgor roi sylwadau ar
sut mae’r Cyngor yn cysylltu â’r gymuned ac ar ailddiffinio agwedd y Cyngor
tuag at fod yn ‘Gyngor rhagorol sy’n agos at y gymuned’. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid
bod, yn y gorffennol, fforymau cymunedol wedi derbyn cyfle i fod yn rhan o
waith y Cyngor ond bod cyfranogaeth y cyhoedd wedi bod yn wan ac felly
daethpwyd â’r fforymau i ben heb sefydlu rhai newydd. Yn ddiweddar, fodd
bynnag, mae gwaith mwyaf llwyddiannus y Cyngor gyda chymunedau wedi digwydd
trwy gyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus ar faterion penodol fel yr ymgynghoriad
ar addysg gynradd. Cafodd yr Aelodau gyfle i wneud awgrymiadau ar sut i wella’r
cysywllt â chymunedau. Dyma’r awgrymiadau: ·
Rhoi
dewis i drigolion gofrestru i dderbyn e-byst ‘Sir Ddinbych Heddiw’ sy’n cael eu
hanfon at aelodau. ·
Cynnal
cyfarfodydd Arbennig Grŵp Aelodau Ardal naill ai cyn neu ar ôl y cyfarfod
arferol er mwyn i aelodau o’r cyhoedd drafod materion gyda’u haelodau
lleol. ·
Credwyd
bod ‘Llyfr Coginio Democratiaeth’ Cyngor Sir y Fflint ar gyfer clybiau
ieuenctid, sy’n egluro i bobl ifanc sut mae democratiaeth a gwleidyddiaeth yn
gweithio, yn enghraifft dda o sut i gynnwys pobl ifanc yng ngwaith awdurdodau
lleol. Credwyd y byddai modd i Sir Ddinbych ddysgu o hyn. ·
Meithrin
gwell cysylltiad rhwng swyddogion ac aelodau lleol i sicrhau bod cynghorwyr yn
ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ac yn effeithio ar eu ward. Roedd rhywfaint o
bryder nad yw pobl, ar adegau, yn cysylltu â’u haelod lleol yn gyntaf pan fo
materion yn ymwneud â’u ward yn codi. Dywedodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden bod y Cyngor wedi
mabwysiadu Strategaeth Cyfathrebu newydd a bod Camau Gweithredu’r Flwyddyn 1af yn edrych ar ffyrdd o’i
datblygu, yn arbennig o ran cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’r wasg.
Soniwyd hefyd bod fforwm ieuenctid wedi ei drefnu’n ddiweddar yn y Rhyl i
drafod y Cynllun MAWR. Roedd uwch arweinwyr y Cyngor a mudiadau eraill y Bwrdd
Gwasanaeth Lleol, fel yr Heddlu, hefyd yn bresennol. Roedd yr adborth yn
gadarnhaol iawn. Arweiniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid y
pwyllgor drwy ail hanner ei adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn bwriadu
adolygu ei ddiffiniad o fod yn Gyngor ‘sy’n agos at y gymuned’ i gyd-fynd â
blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol newydd. Mae’r cynnydd yn y gwaith o roi
Cynllun Gweithredu ‘Dod yn Agosach at y Gymuned’ ar waith yn y 18 mis diwethaf
wedi ei grynhoi dan dri phennawd - ‘Cynrychioli a Chyswllt’, ‘Darparu
Gwasanaeth’ a ‘Datblygu Cymunedol’. I ddatblygu’r gwaith yma ymhellach, mae
pedwar maes newydd wedi ei gynnig ac mae cyfle i’r Pwyllgor hwn anfon sylwadau
arnyn nhw cyn i’r Cyngor benderfynu eu cymeradwyo. Dyma’r pedwar maes
arfaethedig: 1)
Cynnwys
Cymunedau a Democratiaeth 2)
Rhoi’r
flaenoriaeth i’n cwsmeriaid 3)
Mapio
anghenion a dyheadau cymunedau a gwella cynhwysedd 4)
Gwella
gwasanaethau a)
Meithrin
y diwylliant cywir b)
Cynllunio
gwasanaethau yn agos at gymunedau Yn ystod y drafodaeth ddilynol, pwysleisiodd y
Cyng. Huw Williams bwysigrwydd dibynnu ar wybodaeth y Grwpiau Aelodau Ardal er
mwyn sicrhau bod cynghorwyr yn gwybod beth sy’n digwydd. Dywedodd y Cadeirydd y
gellir cytuno â’r meysydd ond ychwanegodd mai eu gweithredu fydd y gwaith
pwysicaf ac y byddai’n rhaid monitro hynny. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cwsmeriaid y byddai’r ‘camau gweithredu’ yn cael eu hegluro ac y
byddai’r trefniadau ar gyfer monitro llwyddiant yn cael eu gosod unwaith mae’r
meysydd wedi eu cymeradwyo. Ychwanegodd yr Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau bod gweithdy ar wasanaethau cwsmer ar 5 Mawrth i geisio ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Rhaglen Waith Craffu PDF 86 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y Pwyllgor ac yn
diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a gafodd ei anfon at yr Aelodau
ymlaen llaw) ar raglen waith y Pwyllgor ac ar ddatblygiadau diweddar yn ymwneud
â gwaith y Pwyllgor. Dywedodd y Cydlynydd Archwilio bod adroddiad ar y
Strategaeth Cefnogi Pobl, a oedd i fod i gael ei gyflwyno yn ystod y cyfarfod
hwn, wedi ei ohirio tan fis Gorffennaf oherwydd nad oedd digon o amser i asesu
effaith y strategaeth newydd a llunio dadansoddiad cynhwysfawr. Roedd y
Cadeirydd eisoes wedi cytuno â hyn. Cyfeiriwyd at y Brîff Gwybodaeth sy’n cynnwys manylion penderfyniad y
Cabinet ar 19 Chwefror ynglŷn ag amodau caniatáu cau ffyrdd ar gyfer ras
feicio Etape Cymru. Roedd y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wedi derbyn adroddiad
ar y trefniadau yn eu cyfarfod ar 17 Ionawr ac roedd sawl mater wedi ei godi ar
gyfer sylw’r Cabinet. Dywedodd y Cydlynydd Archwilio bod Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio wedi cyfeirio dau fater at y
Pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor i gael adroddiad ar ‘Asesiad Digonolrwydd Chwarae
a Chynllun Gweithredu’ yn ystod cyfarfod 18 Ebrill ac adroddiad ar ‘Rheoli
Safleoedd Carafannau’ ym mis Mai. Roedd ‘Mynediad i Gefn Gwald’ wedi ei gynnwys
yn y rhaglen waith gan aelodau’r pwyllgor cyn etholiadau Mai 2012 ac roedd y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio wedi gofyn a hoffai’r
Pwyllgor ddatblygu’r mater ymhellach. Cytunodd y Pwyllgor nad yw hwn, ar hyn o
bryd, yn fater ar gyfer y Pwyllgor Archwilio. Mae cais wedi dod i law gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r cynigion ar gyfer
datblygu’r cynlluniau tref yn gynlluniau ardal ehangach cyn iddyn nhw gael eu
cyflwyno i’r Cabinet ar 16 Ebrill. Cytunodd y Pwyllgor bod angen trefnu
cyfarfod arbennig i wneud hyn ac felly cytunwyd i gyfarfod ar 2 Ebrill.
Teimlwyd y byddai presenoldeb yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol o fudd i drafod
yr adroddiad. Mewn ymateb i gais llafar Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden,
cytunodd y Pwyllgor i gynnwys cyflwyniad ar gasgliadau’r Arolwg o
Gyhoeddiadau’r Cyngor yn rhaglen waith Mai 2013. Yn dilyn yr honiadau bod cig ceffyl mewn bwydydd, mae Grŵp Tasg a
Gorffen wedi ei ffurfio i adolygu’r trefniadau ar gyfer caffael a rheoli bwyd
sy’n cael ei ddarparu drwy wasanaethau’r Cyngor. Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn
adroddiad ar ganfyddiadau’r Grŵp yng nghyfarfod 23 Mai. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod angen cynrychiolydd o’r Pwyllgor Archwilio
Cymunedau ar Grŵp Her Gwasanaethau Cwsmer. Enwebwyd y Cyng. Carys
Guy-Davies. Soniodd y Cyng. Cefyn Williams am gyflwr rhai o ffyrdd y Sir, gan gynnwys
cyflwr rhai o’r ffyrdd yn ei ward ef. Bydd y mater yn cael ei drafod yng
nghyfarfod Grŵp Aelodau Ardal Dyffryn Dyfrdwy yr wythnos nesaf. Serch
hynny, mae’r Pwyllgor yn cytuno bod y mater yn berthnasol i’r Pwyllgor
Archwilio. Gofynnodd y Pwyllgor am gael adroddiad ar y mater yn ystod cyfarfod
4 Gorffennaf 2013. PENDERFYNIAD – Yn amodol ar y newidiadau uchod,
cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor. |
|
Dyrannu Symiau Gohiriedig a Ardoll Seilwaith Cymunedol PDF 111 KB Ystyried adroddiad ar y cyd (copi’n amgaeëdig) gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol,
yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried a chyflwyno sylwadau ar yr incwm a dderbyniwyd
trwy Gytundebau Adran 106 ar gyfer darparu a chynnal a chadw mannau agored, a
grantiau a gynigiwyd a’r taliadau a wnaed, a’r cynnydd hyd yma mewn perthynas
â’r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad, sydd wedi ei gynhyrchu ar y cyd â Phennaeth Tai a Datblygu
Cymunedol, ar y trefniadau presennol i ddyrannu symiau gohiriedig sy’n daladwy
yn lle neilltuo mannau agored (yn unol ag amod 106 Deddf Cynllunio Gwlad a
Thref 1990). Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar
reolau’r Ardoll Seilwaith Cymunedol a fydd yn caniatáu’r Cyngor i godi ardoll
swm sefydlog tuag at gostau gwella isadeiledd er mwyn cefnogi datblygiadau.
Byddai gweithredu’r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn dibynnu ar gymeradwyo’r
Cynllun Datblygu Lleol. Rhagwelir y bydd hyn yn golygu llai o alw am weithredu
amodau adran 106. Eglurwyd bod awdurdodau lleol gogledd Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri yn cydweithio i edrych ar ffyrdd o weithredu’r Ardoll Seilwaith
Cymunedol. Mae’r Cyngor wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd dros dro i ddatblygu’r
gwaith yma. Mae’r swydd wedi ei hariannu gan yr awdurdodau lleol. Oherwydd
cymhlethdod Rheolau’r Ardoll Seilwaith Cymunedol a’r newidiadau i’r canllaw
cysylltiedig, dywedwyd mai diben yr adroddiad, ar hyn o bryd, yw codi
ymwybyddiaeth gan fod ar y Cyngor angen penderfynu a ddylen nhw dderbyn yr
Ardoll Seilwaith Cymunedol yn Sir Ddinbych unwaith mae’r gwaith ymchwil i’w
effeithiau wedi ei gwblhau. Holodd y Cyng. Rhys Hughes a oes gan y Cyngor fesurau mewn grym i sicrhau
nad yw datblygwyr yn gallu osgoi eu rhwymedigaethau. Dywedodd y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y gellir gorfodi amodau adran 106 ond bu iddo
hefyd gydnabod bod rhai achosion wedi codi lle nad oedd modd gwneud hynny, fel
yn yr achos yn Llangollen. Cadarnhaodd hefyd y bydd Aelodau yn derbyn
hyfforddiant ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol cyn iddyn nhw benderfynu derbyn
yr ardoll neu beidio. Dywedodd hefyd y byddai Grwpiau Aelodau Ardal yn derbyn
adroddiad yn y misoedd nesaf ar y newidiadau posib. Cadarnhawyd y byddai’r Ardoll Seilwaith Cymunedol
yn cynyddu’r cyfle i wella isadeiledd – roedd amodau adran 106 yn ein cyfyngu i
wella mannau agored yn bennaf. Mae risg ynghlwm â hyn. Gallai mudiadau eraill
dderbyn y cynnydd ariannol posib a byddai hynny’n lleihau rheolaeth y Cyngor ar
yr arian y gellir ei godi drwy’r ardoll. Mae’r gwir swm y gellir ei godi drwy’r
Ardoll Seilwaith Cymunedol yn dibynnu ar y fframwaith codi tâl sydd, ar hyn o
bryd, yn dal heb ei ddatblygu. Felly, nid oes ffigyrau manwl ar gael. I gloi, dywedodd y Cadeirydd na fyddai modd penderfynu ar werth yr Ardoll
Seilwaith Cymunedol nes bod yr holl wybodaeth ariannol ar gael a chytunodd y
dylid rhoi’r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn rhaglen waith y Pwyllgor unwaith
mae’r prosiect ymchwil wedi ei gwblhau. PENDERFYNIAD: i)
Cydnabod y ffigyrau am yr incwm a gafwyd drwy
Gytundebau amod adran 106 ar gyfer mannau agored a chynnal a chadw, a’r
cynigion grant a’r taliadau sydd wedi eu gwneud; a ii)
nodi arwyddocâd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a
threfnu bod adroddiad ar y camau i weithredu’r ardoll yn Sir Ddinbych yn cael
ei gynnwys yn rhaglen waith y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu cyfarfod Bwrdd Rhaglen y Rhyl yn
Symud Ymlaen. Dywedodd fod y cyfarfod yn un diddorol a bod y ffordd y maen
nhw’n cydlynu’r holl ddatblygiadau yn y Rhyl fel un cyfanwaith yn gadarnhaol
iawn. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod gan gynnwys Tîm Cyfnewid Dysgu gan
Gymheiriaid Cyngor Sir y Fflint a oedd yn arsylwi’r cyfarfod. Daeth y cyfarfod i ben am 12:30pm. |