Agenda and minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Aelodau I ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes a nodwyd I’w drafod yn y cyfarfod yma. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau personol na rhagfarnus. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel
materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
I dderbyn cofnodion y Pwllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd lau, 25 Hydref 2012 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd
Iau 25ain Hydref 2012. Hysbysodd y Cynghorydd
Mullen James y Pwyllgor, mewn
perthynas â’r eitem “Adolygu Torri Gwair ar
Ochrau Priffyrdd 2012” bod cyfarfod i’w
gynnal ar 13eg Rhagfyr 2012, yng Nghaledfryn, Dinbych i drafod telerau’r
contract torri gwair. PENDERFYNWYD derbyn y Cofnodion a’u cymeradwyo
fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGIAD O ASEDAU TREFTADAETH A CHELFYDDYDAU PDF 84 KB Ystyried y cynnydd
hyd yma o ran sicrhau mesurau effeithlonrwydd mewn perthynas ag asedau
Treftadaeth a Chelfyddyd y
Sir a’r strategaethau a ddatblygwyd gyda golwg ar sicrhau
eu hyfywedd yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth yr Amgylchedd adroddiad i ystyried y
cynnydd hyd yma o ran cael arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas ag asedau
Treftadaeth a Chelfyddydau’r Sir a’r strategaethau a ddatblygwyd gyda golwg ar
sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol. Y nod oedd datblygu gwasanaeth a fyddai’n
cyflwyno’r manteision mwyaf i drigolion lleol, cymunedau, twristiaid a’r
cyngor. Ym mis Tachwedd 2010 cynhyrchwyd adroddiad cynhwysfawr o’r
enw “Adolygiad o Asedau Treftadaeth a chwmnïau hyd braich cysylltiedig”. Roedd
yr adroddiad yn dadansoddi’r opsiynau a oedd ar gael i’r cyngor, ac yn dod i’r
casgliad nad oedd opsiynau hawdd ar gael ar gyfer gwaredu neu gyflwyno’r asedau
i ffynonellau allanol. Nid oedd y ddogfen wedi ei chyhoeddi ond byddai ar gael
i’r Aelodau o wneud cais. Trosglwyddwyd y gwasanaeth i’r Gwasanaethau Amgylcheddol ar
1 Ebrill 2011. Cafwyd newidiadau
arwyddocaol ers y trosglwyddo ac roedd mwy o newidiadau wedi eu cynllunio ar
gyfer y dyfodol. Penderfynwyd bod angen agwedd mwy masnachol. Roedd angen cynhyrchu
mwy o incwm i wella’r gwasanaeth. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr y Rheolwr Masnachol
Treftadaeth a roddodd amlinelliad byr
o’i phrofiad a’i chefndir. Mae’r safleoedd canlynol yn cael eu rhedeg gan y Cyngor: Ø
Carchar Rhuthun Ø
Nant Clwyd y Dre (Rhuthun) Ø
Plas Newydd (Llangollen) Ø
Roedd y portffolio hefyd yn cynnwys perthynas y
Cyngor gydag Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan. Yn y gorffennol, roedd y safleoedd wedi eu rhedeg fel
amgueddfeydd ac yn dibynnu’n drwm ar dderbyn cyllid grant a oedd wedi lleihau’n
fawr dros y blynyddoedd. Cafwyd gwaith ymchwil dros y 12 mis diwethaf yn
archwilio twf posibl. Roedd y safleoedd i’w rhedeg fel atyniadau i ymwelwyr i
ddibenion addysgol, atyniadau i dwristiaid a chanolfannau treftadaeth, tra'n
cadw statws achrededig amgueddfeydd. Roedd priodasau nawr yn digwydd ar y
safleoedd ac roedd trefniadau wedi eu derbyn eisoes ar gyfer 2013. Roedd y farchnad oruwchnaturiol hefyd yn faes twf ac roedd
yr adeiladau hanesyddol yn rhai â diddordeb mawr i’r grwpiau archwilio. Nid
oedd y grwpiau hyn yn cael effaith ar weithgareddau a gynhelir ar y safleoedd
yn ystod y dydd. Maent yn cyrraedd am 8.00pm, ymgymryd â’u harchwiliadau dros
nos, ac yn gadael tua 5.00 neu 6.00 a.m.
Roedd yr incwm a godwyd gan y grwpiau goruwchnaturiol yn £17,000.
Pennwyd cynnydd targed mewn incwm o 10% ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd gwaith
ar y gweill i ddod â chostau i lawr a chynyddu incwm. Yn ystod 2010/11 cafwyd
rhyw £60,000 mewn incwm, ond yn 2011/12 roedd wedi cynyddu i £71,000. Roedd rotas staff nawr yn fwy effeithiol nag yn y gorffennol
e.e. yn ystod yr haf, byddai’r Hen Garchar yn cau am ddau ddiwrnod yr wythnos,
gan golli busnes ymwelwyr. Roedd hyn i newid i annog mwy o ymwelwyr. Roedd Sir Ddinbych yn gweithio gyda Chynghorau Conwy, Sir y
Fflint a Wrecsam i weld sut roedd Awdurdodau Lleol eraill yn monitro eu
cyllideb. Dim ond ystafell arddangos oedd Amgueddfa’r Rhyl, ac roedd
angen ei dwyn allan o’r llyfrgell. Roedd yr amgueddfa yn ddifyr iawn ond roedd
angen lleoliad gwahanol. Yn anffodus, ar hyn o bryd nid oedd cyllideb i
ganiatáu hyn. Roedd prosiect i gychwyn yn 2013 i gatalogio’r holl
arteffactau a ddelid yn y storfeydd ar hyn o bryd. Unwaith y byddai’r prosiect
hwn wedi ei gwblhau, gellid defnyddio mwy o’r arteffactau mewn arddangosfeydd. Dywedodd y Cadeirydd bod angen integreiddio’r gwasanaeth
mewn cynlluniau tref a rhoddodd grynodeb: Ø
Roedd y Gwasanaeth Treftadaeth ar hyn o bryd yn
costio mwy na’r incwm roedd yn ei gynhyrchu Ø
Roedd angen rhoi pwyslais ar ddarparu’r
gwasanaethau yr oedd ymwelwyr eu heisiau, a byddai hyn yn dibynnu ar gyfathrebu
cryf. Ø Byddai pob safle unigol angen cynllun ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
STRATEGAETH CEFNOGI POBL – DIWEDDARIAD PDF 142 KB Pwrpas cynnig
yr adroddiad yw ymgynghori â'r aelodau ar y newidiadau
arfaethedig i wasanaethau Cefnogi Pobl a dyrannu Grant newydd Rhaglen Cefnogi Pobl. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles
adroddiad ar y cynllun gwariant tair blynedd ar gyfer Cefnogi Pobl a’r
newidiadau i Strategaeth Cefnogi Pobl, gan gynnwys y goblygiadau i Gyngor Sir
Ddinbych o’r newidiadau i Raglen Cefnogi Pobl ledled Cymru. Roedd y Cabinet wedi gofyn bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried
effaith y newidiadau cenedlaethol ar y Cyngor. Byddai manylion pellach ar gael
yn 2013 wrth i oblygiadau’r trefniadau newydd ddod yn gliriach. Roedd Cefnogi Pobl yn rhaglen arwyddocaol yn rhoi
gwasanaethau cymorth “cysylltiedig â thai” i ystod eang o grwpiau agored i
niwed, gan gynnwys i bobl a oedd yn ddigartref, pobl ag anghenion iechyd
meddwl, anabledd dysgu, pobl ifanc a rhai agored i niwed, pobl ag anghenion
camddefnyddio sylweddau, cyn-droseddwyr, rhai’n dianc rhag trais domestig a
phobl hŷn. Y nod oedd eu gallugi i gadw llety sicr tra'n datblygu agweddau
eraill eu bywydau gan hybu annibyniaeth. Roedd Rhaglen Cefnogi Pobl wedi ei
gwerthuso ar lefel genedlaethol, a dangoswyd ei bod yn cyflawni manteision
ariannol ac an-ariannol cadarnhaol iawn. Yn Sir Ddinbych, roedd Cefnogi Pobl
wedi ariannu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys elfennau o dai gwarchod,
gofal ychwanegol, llochesi i ferched, cynlluniau byw yn y gymuned i bobl ag anabledd
dysgu a chynlluniau ar gyfer pobl ddigartref. Roedd newidiadau yng ngweinyddiaeth rhaglen Cefnogi Pobl yn
digwydd ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys fformiwla ddosbarthu newydd a
throsglwyddo’r cyfrifoldebau contractio ar gyfer rhai gwasanaethau o Lywodraeth
Cymru i awdurdodau lleol. At hyn, sefydlwyd trefniadau llywodraethu newydd, gan
gynnwys Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol, gyda chyfrifoldebau allweddol
dros raglen Cefnogi Pobl, wedi eu sefydlu ar draws Cymru. Roedd Sir Ddinbych i
golli £1.5 miliwn o gyllid dros 5 mlynedd. Roedd pob Awdurdod Lleol yng
Ngogledd Cymru yn wynebu colli arian o fewn Safon Llywodraeth Cymru. Byddai’r Pwyllgor Rhanbarthol yn edrych ar sut gwerir yr
adnoddau a sut gellid eu defnyddio yn fwy cost-effeithiol. Roedd yr adroddiad
yn nodi’r goblygiadau posibl, ac agwedd arall oedd rhoi gwybodaeth i aelodau ar
y newidiadau yn Strategaeth Cefnogi Pobl
2013/14 – Atodiad 1. Y peth mawr oedd faint o gyllid yr oedd Cyngor Sir Ddinbych
i’w golli dros gyfnod byr o amser. Roedd Llywodraeth Cymru yn gofyn am gynllun
gwario 3 blynedd. Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu cynllun gwario ar gyfer
2013/14 ond nid oedd yn barod i roddi gwybodaeth ar sut byddai £600,000 arall
yn cael ei dynnu o’r gyllideb dros 3 blynedd pellach. Roedd hyn yn risg ond
byddai’n rhoi mwy o amser i baratoi. Yn y bon, roedd arbedion i’w canfod o gynlluniau a redid gan
y cyngor, ond roedd cynlluniau yn cael eu rhedeg gan gyrff eraill hefyd. Yn
2014/15 roedd y toriadau i’w lledaenu ar draws y cyrff hyn hefyd. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod y Cyngor wedi mynd cyn
belled ag y gallai i wrthsefyll y gostyngiad mewn cyllid ac yn derbyn bod y
cynllun gwario 3 blynedd a diwygio’r Strategaeth Cefnogi Pobl yn ymateb priodol
i sefyllfa anodd. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Craffu Cymunedau yn derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod y cynllun gwario 3
blynedd a’r newidiadau yn Strategaeth Cefnogi Pobl ar gyfer 2013/14. |
|
CYFAMOD Y GYMUNED GYDA’R LLUOEDD ARFOG PDF 97 KB Ymgynghoriad, trafodaeth
a llunio telerau’r Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd Arfog, cyn ei
gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w lofnodi’n ffurfiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned adroddiad ar
Gyfamod gyda’r Lluoedd Arfog. Gofynnwyd i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru ac eraill, i lofnodi Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd
Arfog a oedd yn ceisio sefydlu ymrwymiad gofal i staff y Lluoedd Arfog, eu
teuluoedd a chyn-filwyr. Nodau’r cyfamod oedd annog cymunedau lleol i gefnogi
cymuned y Lluoedd yn eu hardaloedd a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
ymhlith y cyhoedd o faterion a oedd yn effeithio Cymuned y Lluoedd Arfog. Roedd
yr adroddiad yn cynnwys Cyfamod drafft yn diffinio’r hyn y gellid ei gynnig i
staff y Lluoedd Arfog i sicrhau nad oeddynt yn dioddef unrhyw anfantais wrth
gyrchu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Cyfamod Cymunedol yn ddatganiad gwirfoddol o gefnogaeth
rhwng cymuned sifilaidd a’r gymuned lluoedd arfog yn lleol. Y bwriad oedd ei
fod yn mynd gyda’r cyfamod cenedlaethol gyda’r Lluoedd Arfog, a oedd yn
amlinellu’r ymrwymiad moesol rhwng y genedl, y llywodraeth a’r lluoedd arfog ar
lefel leol. Roedd yr adroddiad wedi ei gymeradwyo’n unfrydol gan y
Cyngor ym Medi 2012 ac yn gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau fodloni ei hun ar
y mesurau yr oedd Sir Ddinbych eisiau eu mabwysiadu. Roedd yn bwysig rhoi sylfaen i’r ethos nad oedd y Lluoedd
Arfog yn cael eu hanfanteisio wrth ddefnyddio gwasanaethau Sir Ddinbych, er bod
angen i’r Cyngor hefyd fod yn ofalus peidio â gwahaniaethu’n gadarnhaol o’u
plaid gan ddifreintio grwpiau eraill mewn cymdeithas, oni fo camwahaniaethu
positif eisoes wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth. Roedd y mesurau i’w mabwysiadu gan Sir Ddinbych wedi eu
nodi’n llawn yn yr adroddiad (5.2). Roedd y cyngor wedi ei rwymo gan ddeddfwriaeth ac roedd
staff y lluoedd arfog yn derbyn pwyntiau tai ychwanegol o gymharu ag aelodau
eraill y gymuned. Byddai’n heriol gofalu am drigolion Sir Ddinbych a scirhau
cwrdd â’r ddeddfwriaeth. Roedd y rhan fwyaf o’r mesurau yn yr adroddiad, nid
oherwydd y byddai staff y lluoedd arfog yn cael blaenoriaeth, ond oherwydd eu
bod wedi eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth. Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned i gymryd y mater tai yn ôl, i
gael esboniad ar y ddeddfwriaeth. Unwaith y byddai wedi cael hyn, byddai’n
hysbysu’r Pwyllgor. Codwyd mater cyflogaeth fel mater tebyg i’r un tai. Cadarnhaodd y Rheolwr y byddai’n cael esboniad ar y mater.
Byddai trafodaethau hefyd gydag asiantaethau, a oedd yn rhoi cyngor ar yrfa ac
ati. Roedd yr holl asiantaethau cyflogaeth yn ymwneud â’r cyfamod. Ni fyddai’r gostyngiad a gynigid gan Gyngor Sir Ddinbych i
staff y lluoedd arfog yn anfanteisio grwpiau eraill. Roedd gostyngiad ar gael i
aelodau’r heddlu, a’r gwasanaeth tân a chytunwyd bod staff y lluoedd arfog yn
dod o fewn y categori hwn hefyd. Byddai’r gostyngiad ar gyfer milwyr a oedd yn
gwasanaethu ar hyn o bryd, nid cyn-filwyr neu deuluoedd staff y lluoedd arfog.
Cyfyngid y gostyngiad i’r pwll nofio a’r gampfa yn unig. Holwyd a oedd aelodau’r Fyddin Diriogaethol neu’r Cadetiaid
yn cael eu cynnwys. Dywedodd Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned nad oeddynt ond y
byddai’n gofyn am arweiniad ar y mater. Roedd union dempled y cyfamod wedi ei
gytuno, ac felly roedd llawer o’r ethos o ran sut y dylid ei fabwysiadu nawr yn
ei le. Roedd y Cyfamod yn ddogfen fyw, y gellid ei hadolygu.
Unwaith yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi cytuno gyda’r argymhellion, y bwriad
oedd mabwysiadu’r Cyfamod yn ffurfiol mewn cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol
gyda chynrychiolwyr y Lluoedd Arfog a chyrff allanol eraill yn bresennol. Awgrymodd Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned bod yr adroddiad yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor bob blwyddyn, ac os oedd angen ychwanegu mesurau
ychwanegol neu ddileu rhai, yna gellid gwneud hynny. Dywedodd y Cadeirydd, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 89 KB I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n amgaeedig) yn ceisio adolygiad o flaenraglen waith y pwllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar
Flaenraglen Waith y Pwyllgor. Dywedodd bod dau adroddiad: (a) Cynlluniau
Trefi (b) Etape
Cymru 2012 wedi eu gohirio tan fis Ionawr 2013. Hysbyswyd y Pwyllgor bod yr adroddiad gyda’r teitl “Gwerthu
Adeiladau, Eiddo a Thir y Cyngor” a oedd wedi ei drefnu ar gyfer y cyfarfod yn
wreiddiol wedi ei dynnu’n ôl, gyda chytundeb y Cadeirydd, ar ôl penderfyniad
mewn cyfarfod Herio Perfformiad Gwasanaeth y byddai’n fuddiol i’r cyngor
ymgymryd ag adolygiad o’i asedau. Cytunodd y Pwyllgor ychwanegu adroddiad ar
“Reoli Asedau Strategol” i raglen cyfarfod Ionawr 2013, a fyddai’n disodli ac
yn ymhelaethu ar yr adroddiad gwreiddiol. Cytunodd y Cadeirydd ychwanegu adroddiad ar weithredu’r
trefniadau ailgylchu newydd ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod Chwefror 2013,
gyda’r eitem ar Reoli Safleoedd Carafanau yn cael ei gohirio tan gyfarfod mis
Ebrill 2013. Adroddiad cludiant ysgol – gofynnwyd yn wreiddiol am
adroddiad gwybodaeth i’r cyfarfod hwn, ond cafwyd cais i’w ohirio tan y Gwanwyn
2013. Cytunodd y pwyllgor dderbyn yr
adroddiad gwybodaeth yn y cyfarfod ym mis Ebrill 2013. Hysbysodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y Pwyllgor y
byddai aelodau Tîm Cyfnewid Dysgu gan Gymheiriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam a chynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru yn mynychu cyfarfod Craffu
Cymunedau Chwefror 2013 i adolygu’r cyfarfod, fel rhan o brosiect arfarnu
craffu a gwella “Craffu Da? Cwestiwn Da!” Swyddfa Archwilio Cymru. PENDERFYNWYD yn amodol ar
y newidiadau uchod, cymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwllgor a Wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Hysbysodd y Cynghorydd
Huw Williams y Pwyllgor ei fod ef, ynghyd
â Chynghorwyr eraill fel rhan
o Dim Cyfnewid Dysgu gan Gymheiriaid, wedi mynychu digwyddiad
“Craffu Da? Cwestiwn Da!” Swyddfa
Archwilio Cymru yn Llandudno ar ddydd Mercher 5ed Rhagfyr. Yn bersonol
roedd yn meddwl bod Sir Ddinbych ar y blaen
o gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill ac yn gwneud
gwaith da iawn. Ychwanegodd y Cynghorydd
Gwyneth Kensler bod 4-5 Cynghorydd
yn mynychu fesul Awdurdod Lleol a bod Steve Price, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn bresennol. Byddai’r Rheolwr
Gwasanaethau Democraidd,
Steve Price, yn casglu ynghyd yr holl wybodaeth ac yn cyflwyno’r canfyddiadau i gyfarfod y Cadeiryddion
a’r Is-gadeiryddion Craffu. Daeth y cyfarfod i ben am 10.35 a.m. |