Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol
mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w drafod yn y cyfarfod yma. Cofnodion: NI ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na rhagfarnus. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol972. Cofnodion: NI chodwyd unrhyw eitemau y
dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
I dderbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd
ar ddydd Iau, Medi 13eg, 2012 (copi’n amgaeedig) Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 13eg Medi 2012. PENDERFYNWYD – derbyn y Cofnodion a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGU TORRI GWAIR AR YMYLON PRIFFYRDD 2012 PDF 83 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Seilwaith ar
y Cyd (copi’n amgaeedig) a oedd yn adolygu’r rhaglen dorri gwaith ar gyfer
2012, ac yn asesu effeithiolrwydd yr argymhelliad a roddwyd ger bron gan y
Pwyllgor ar gyfer tymor 2012. 9.35
a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith, a ddosbarthwyd
gyda’r rhaglen, yn adolygu rhaglen torri gwair 2012, asesu effeithiolrwydd yr
argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor ar gyfer 2012 ac yn galluogi llunio
argymgellion ar gyfer rhaglen y flwyddyn nesaf yn sicrhau bod cymunedau Sir
Ddinbych yn daclus a diogel ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Dosbarthwyd copi o “Life on the Edge”, Prosiect Ymylon
Ffyrdd, Amddiffyn Blodau Gwyllt Sir Ddinbych yn y cyfarfod. Bu i’r Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith, grynhoi’r adroddiad ac
amlinellodd raglen torri gwair y Cyngor, yn amlinellu problemau torri gwaith yn
2012 ac yn rhoi manylion a oedd yn berthnasol i’r Contract. Ymatebodd i
gwestynau’r Aelodau ac esboniodd bod y drefn torri gwair wedi ei chytuno a’i
mabwysiadu, lle byddai’r toriad cyntaf yn driniaeth lai ar ffyrdd gwledig o
fewn yr AHNE i sicrhau lefelau diogelwch, ac mewn mannau eraill byddai toriad
unffurf o ddarn 1 medr o led gyda thriniaeth ehangach mewn mannau megis cyffyrdd,
ymlediadau gwelededd ac ati, i sicrhau nad yw gwelededd yn cael ei beryglu.
Roedd ardaloedd a oedd wedi cynrychioli sialens yn 2012, a manylion problemau
torri gwair, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Esboniwyd bod sylwadau yn
mynegi pryderon wedi eu derbyn gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru,
a'r angen i gydbwyso cydymffurfedd gyda gofynion deddfwriaethol a
disgwyliadau’r cyhoedd. Cadarnhawyd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng
yr Aelod Arweiniol, swyddogion ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i
drafod y materion a godwyd. Roedd contract 2010 wedi ei ymestyn i gynnwys ffyrdd nad oedd yn
brif ffyrdd am y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r gwaith yn cael ei wneud gan un
contractwr allanol. Oherwydd problemau a amlygwyd y llynedd, ymgymerwyd â
gwaith gyda’r Contractwr i wella pethau. Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â
safon y torri, esboniwyd ar ôl toriad cyntaf llwyddiannus, bod safonau wedi
dirywio oherwydd yr haf gwlyb a’r cynnydd cysylltiedig yn nhwf y gwair, a bod
cwsmeriaid wedi eu hysbysu ynglŷn â’r cynnydd trwy’r adran Gwasanaethau
Cwsmeriaid, ond roedd hyn wedi dod yn anoddach wrth i'r rhaglen lithro. Gan nad oedd y contract safonol yn cynnwys cymalau cosbau ariannol i
gwblhau gwaith y tu allan i amserlenni a
gytunwyd, ni ellid cymryd camau. Gellid hysbysu’r contractwr o fethiant a rhoi
cyfle iddo ddelio â’r problemau mewn cyfnod a gytunwyd yn hytrach na dioddef
colli incwm. Mynegodd Aelodau’r farn y dylid adolygu’r contract a’i ail-dendro
ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond gallai hyn arwain at gynnydd mewn costau. Roedd
y Contractwr wedi ad-drefnu trefniadau rheoli a rhoddwyd sicrhad ynglŷn â
rheolaeth y contract yn y dyfodol. Nid oedd gwelliannau a gyflwynwyd ar ôl 2011
wedi gweithio cystal ag y rhagwelwyd, yn bennaf oherwydd y tywydd, ac
anawsterau pellach a gafodd y Contractwr yn cwrdd ag anghenion y Cyngor. Mewn
perthynas â’r angen i esbonio gofynion cyfreithiol y Cyngor a'r cyfyngiadau i
gydymffurfio â deddfwriaeth mewn perthynas â thorri gwair a gwrychoedd,
cytunodd y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith bod dalen ffeithiau yn manylu
dyletswyddau’r Cyngor yn cael ei dosbarthu i’r Aelodau, a chyhoeddi’r wybodaeth
ar y mewnrwyd. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd H O Williams, cadarnhaodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith, ar ôl ymgynghori ag Aelodau Lleol a Chymunedau lleol, bod rhaglen ar gyfer torri gwair ar ffyrdd yn yr AHNE wedi ei chytuno. Amlinellwyd y cyfraddau codi tâl ar gyfer torri gwair a gwrychoedd, a oedd yn cynnwys y cyfraddau gwahanol a godwyd ar gyfer ardaloedd megis cyffyrdd lle gellid cael anawsterau. Cadarnhawyd bod y meini prawf ar gyfer torri gwair mewn ardaloedd trefol y wahanol i ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PARATOI AR GYFER CYNNAL A CHADW YN Y GAEAF – TYMOR 2012-13 PDF 80 KB I ystyried adroddiad gang y Pennaeth Priffyrdd a Seilwaith
ar y Cyd (copi’n amgaeedig) a oedd yn nodi’r paratoadau ar gyfer Rhaglen Gynnal
Gaeaf 2012/2013.
10.10 a.m. Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith, yn manylu paratoi
Rhaglen Cynnal a Chadw Gaeaf 2012/2013, yn rhoi gwybodaeth ar gael llwybrau
diogelach i drigolion y Sir ac ar gadw’r Sir ar agor i fusnes yn ystod tywydd
drwg, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Rhoddodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith grynodeb manwl o’r
adroddiad a oedd yn cynnwys materion yn ymwneud â’r meysydd allweddol a’r
materion canlynol:- - Nid oedd newid wedi bod yn
agwedd y Cyngor tuag at baratoi ar gyfer gwaith cynnal a chadw’r gaeaf. - Cadw gwasanaethau
Contractwyr Amaethyddol. - Lefelau stociau halen yn y
Depos ym Modelwyddan, Corwen a Rhuthun. - Trefniadau ar gyfer
ail-gyflenwi tomenni a biniau halen. - Trefniadau rota ar gyfer
darogan a goruchwylio. - Manylion y strategaeth gyfathrebu a
ddatblygwyd ar y cyd â’r Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Gwasanaethau Cwsmeriaid. -
Trefniadau wrth gefn gyda swyddogion a staff yn y Gwasanaethau Cefn
Gwlad a’r Parth Cyhoeddus. Hysbysodd y swyddogion
y Pwyllgor eu bod yn hyderus bod trefniadau boddhaol ar gyfer gwaith cynnal a
chadw yn y gaeaf, a bod cyllideb arwyddocaol wedi ei dyrannu i sicrhau y
gallai’r gwasanaeth ymdopi â thywydd gwael. Roedd cronfa wrth gefn ar wahân
hefyd ar gyfer unrhyw broblemau anodd iawn, er nad oedd hon wedi ei defnyddio
mewn blynyddoedd diweddar. Roedd darparu gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf yn ofyniad
statudol dan Adran 41(1A)
Deddf Priffyrdd 1980 fel y’i diwygiwyd gan Adran 111 Deddf Diogelwch
Rheilffyrdd a Chludiant 2003. Roedd cwmpas y gofyniad i gwrdd â’r ddyletswydd
wedi bod yn destun trafodaeth. Fodd bynnag, derbyniwyd bod y llwybrau graeanu a
gyhoeddwyd gan y Cyngor wedi rhoi o leiaf y ddarpariaeth leiaf a ddisgwyliwyd.
Byddai darpariaeth ychwanegol yn dibynnu ar argaeledd adnoddau a chynhaliwyd
trafodaethau rheolaidd gyda rhanddeiliaid i ganfod yr agwedd orau i’w
mabwysiadu. - Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd R.M. Murray, esboniwyd bod
yr argymhelliad yn y cod ymarfer yn nodi na ddylai cerbydau fynd dros 30mya
wrth raeanu., Cadarnhaodd bod cerbydau wedi eu calibreiddio a bod offer tracio
ynddynt, a bod amrywiol osodiadau ar gyfer lledaenu mewn perthynas â lled y
ffordd. - Amlinellodd y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith Ddyletswydd
Statudol yr Awdurdod i drin ffyrdd mabwysiedig. Esbiniwyd bod Cyfarwyddiaethau
eraill, megis Dysgu Gydol Oes a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi gwneud
trefniadau mewn perthynas â’u gwasanaethau a’u safleoedd hwy, ond roedd cynllun
wrth gefn yn bodoli i ddelio ag argyfyngau. - Rhoddwyd amlinelliad o lefelau stoc halen y Sir, yn unol â’r
gofyniad gan Lywodraeth Cymru, gan y swyddogion. Sicrhaodd y swyddogion yr
Aelodau, oni fo tywydd difrifol iawn yn arwain at brinder halen cenedlaethol,
eu bod yn hyderus bod cyflenwadau digonol yn Sir Ddinbych. - Cadarnhwyd bod dau beiriant graeanu bychan wedi eu prynu i drin
ardaloedd yn y trefi. - Rhoddwyd manylion deddfwriaeth yn ymwneud ag oriau gwaith gyrwyr,
a rota gwaith gyrwyr gan y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith. Cytunwyd y gellid
rhoi manylion pellach y cytundeb gyda’r Undebau ynglŷn ag oriau gyrwyr. - Hysbyswyd yr Aelodau y gellid defnyddio contractwyr preifat i
ddibenion cynnal a chadw yn y gaeaf os oedd angen. - Cadarnhawyd na fyddai tâl i adnewyddu stociau halen mewn biniau
halen ar safleoedd ysgol. - Byddai palmentydd mewn trefi, megis mewn ardaloedd siopa, yn cael
eu trin ar ôl cwblhau’r gwaith i’r prif rwydwaith, a fyddai’n derbyn
blaenoriaeth. - O ran trin ffyrdd sy’n arwain i gartrefi yr henoed, ffyrdd nad ydynt wedi eu mabwysiadu, meysydd parcio a phalmentydd mewn trefi, cadarnhaodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith y byddai staff Parth Cyhoeddus yn cael ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNNYDD AR WAITH CYNNAL A CHADW CYFALAF PRIFFYRDD A GWAITH SEILWAITH CLUDIANT MAWR PDF 91 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Seilwaith ar
y Cyd (copi’n amgaeedig) a oedd yn nodi cynnydd y rhaglen gynnal priffyrdd, ac
yn amlinellu’r mecanwaith a’r ffrydiau ariannu potensial ar gyfer buddsoddiad
seilwaith ar raddfa fawr yn Sir Ddinbych.
10.55 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith, a oedd yn manylu'r
cynnydd hyd yma ar y rhaglen cynnal a chadw priffyrdd ac yn amlinellu’r
mecanwaith a’r ffrydiau ariannu posibl ar gyfer buddsoddiad seiliwaith mawr yn
Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd
adroddiad gwybodaeth yn manylu’r mecanwaith a’r ffrydiau ariannu posibl ar
gyfer buddsoddiad seilwaith mawr yn Sir Ddinbych wedi ei gynnwys fel Atodiad 1. Esboniodd y Rheolwr Adran – Rheoli
Rhwydwaith bod gwaith wedi cychwyn ar ddrafftio rhaglen ar gyfer y flwyddyn
nesaf ac y byddai’n mynychu cyfarfodydd Grwpiau Ardal i drafod y cynigion.
Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau bod y Grŵp Buddsoddi Strategol yn
ddiweddar wedi ystyried adroddiad ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a chylllid
mewn perthynas â phriffyrdd, ac yn gofyn am asesiad risg cyson ar draws y
seilwaith priffyrdd i alluogi blaenoriaethu gwariant. Roedd yr adroddiad yn manylu cynnydd Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf
2012/13. Roedd gwella cyflwr y ffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac roedd
Sir Ddinbych wedi ymrwymo £1,400,000 yn 2012/2013, gyda’r bwriad penodol o
dargedu ffyrdd y Sir a oedd wedi bod yn destyn cwyion neu risgiau posibl. Roedd
dyraniad o £2,022,000, cyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth
Cymru (LGBI), ac roedd hwn yn bennaf wedi canolbwyntio ar y ffyrdd A a B yn y
Sir. Roedd y rhaglen gyfan wedi ei chysylltu â delio â’r materion penodol a
nodwyd fel rhan o arolygon mwy technegol megis SCRIM, asesiad o atal sgidio. Roedd y rhaglen ail-arwynebu wedi ei
rhannu’n dri prif categori o ail-arwynebu traddodiadol â bitwmen, micro-asffalt
a Thrin Arwyneb. Roedd manylion y cynlluniau, ynghyd â rhaglen waith a
chynlluniau a oedd ar y gweill nawr, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Dros
fisoedd gweddillol y flwyddyn ariannol, roedd rhyw ddeuddeg cynllun wedi eu
cynnwys yn y rhaglen, a oedd o fewn y gyllideb ar hyn o bryd. Roedd tywydd gwael wedi effeithio gwaith ar rai pontydd a byddai’r
gwaith hwn nawr yn cael ei ohirio tan 2013/14. Roedd manylion gwaith a
chynlluniau a gwblhawyd yn y flwyddyn ariannol hon wedi eu hamlinellu yn yr
adroddiad, ynghyd â chynhwysiad rhestr o waith cryfhau ac ailwampio pontydd. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, esboniwyd y byddai Rhaglen
Cynnal a Chadw Cyfalaf 2013/14 wedi ei chytuno erbyn Ionawr, 2013. Byddai gwaith yn cael ei ariannu ar y cyd
rhwng LGBI ac adnoddau Sir Ddinbych ei Cyfeiriodd y Cynghorydd R M Murray at broblemau yn ymwneud â gwaith
ailarwynebu ar Ffordd yr Arfordir rhwng y Rhyl a Phrestatyn. Mynegodd hefyd ei
werthfawrogiad o’r gwaith a wnaed gan y Rheolwr Grŵp: Rhaglen Newid,
Cymorth Busnes a Thwristiaeth yn ei oruchwylio. Rhoddodd y Rheolwr Adran –
Rheoli Rhwydwaith fanylion y gwaith a wnaed a rôl oruchwylio’r Cyngor.
Cadarnhaodd y byddai’r contractwr yn delio ag unrhyw fethiant yn ymwneud â
safon neu ansawdd gwaith dan y warant, a chytunodd ymchwilio i’r meysydd pryder
a godwyd gan yr Aelodau. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd W ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
DOD A CHYNLLUNIO YN AGOSACH AT Y GYMUNED PDF 91 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Adfywio
a Gwasanaethau Rheoleiddiol (copi’n
amgaeedig) a oedd yn cyflwyno’r cynigion i sefydlu safonau ar gyfer ymgynghori
cynllunio ac ymgysylltu cymuned yn y broses gynllunio. 11.30
a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Rheoli Datblygu adroddiad ar sut roedd
y Tîm Rheoli Datblygu a Chydymffurfedd yn ymgynghori gyda ac yn cysylltu â’r
gymuned ar gynigion cynllunio.
Amlinellodd y Rheolwr y dull presennol o ymgynghori a chyfathrebu a dweud bod y
tîm nawr eisiau datblygu eu harferion ymhellach a’u bod wedi llunio safonau
gwasanaeth drafft ar gyfer ymgynghori ar gynllunio ac ymgysylltu â'r gymuned. Holodd y Cynghorydd Huw Williams a fyddai rhai aelodau
Cynghorau Tref a Chymuned yn elwa o hyfforddiant ar faterion cynllunio a
materion cysylltiedig cod ymarfer megis pryd i ddatgan buddiannau personol.
Adroddodd y Rheolwr y byddai hyfforddiant pellach ar y materion hynny yn
ddefnyddiol ac y byddai’r gwasanaeth yn cefnogi hynny. Awgrymodd y Cynghorydd
Martyn Holland y gallai Cynghorau Tref a Chymuned cyffiniol ymuno â’i gilydd ar
gyfer hyfforddiant ar y cyd, er enghraifft, gan awgrymu y gellid gwahodd y tri
chyngor cymuned yn ei ward ef i wneud hynny, awgrym yr oedd Pennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn ei gefnogi. Canmolodd aelodau’'r Pwyllgor yr adran am lefel a safon y
cysylltiad gyda Chynghorau Tref a Chymuned a gwell rhyngweithiad gyda’r
aelodau’n gyffredinol. Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd i’r Pwyllgor am eu sylwadau ond dywedodd bod y gwasanaeth yn bwriadu
sicrhau gwelliannau pellach. PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Craffu Cymunedau: (a) Yn cefnogi’r trefniadau a ddefnyddir ar
hyn o bryd gan y Gwasanaeth Cynllunio i gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned; (b) yn cefnogi’r canllaw gwybodaeth drafft
sy’n nodi’r safonau gwasanaeth arfaethedig ar gyfer ymgynghori ar gynllunio ac
ymgysylltu â’r gymuned, a (c) yn llongyfarch staff Cynllunio ar eu
hagwedd ragweithiol tuag at ymgysylltu â’r gymuned. |
|
RHAGLEN GWAITH CRAFFU PDF 90 KB I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n
amgaeedig) yn ceisio adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru
aelodau ar faterion perthnasol.
12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar
flaenraglen waith y Pwyllgor. Dywedodd bod adroddiad ar adolygiad o wasanaethau
gofal dydd yng ngogledd y sir wedi ei ohirio tan fis Ionawr pan fyddai’r
wybodaeth ariannol berthnasol ar gael. Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield bod aelodau yng
ngogledd y sir o’r farn bod angen yr adroddiad ar frys. Ymatebodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid trwy awgrymu y gellid derbyn yr adroddiad ym mis
Rhagfyr yn hytrach nag Ionawr, ac y gellid gohirio adroddiad ar Etape tan fis
Ionawr i wneud lle ar y rhaglen. Fodd bynnag byddai hyn yn dibynnu ar gael
gwybodaeth ddigonol i gyfiawnhau ystyried adroddiad gwasanaethau gofal dydd ym
mis Rhagfyr. Cytunodd y Pwyllgor gyda’r agwedd hon. Cytunodd yr Aelodau hefyd dderbyn adroddiad ar Strategaeth
Cefnogi Pobl ym mis Chwefror 2013 a fyddai’n dilyn cyhoeddi cynlluniau gwario 3 blynedd yr awdurdod. Cytunodd y Pwyllgor ystyried y Straegaeth Dai Leol ddrafft
ym mis Chwefror 2013, a byddai’r ddogfen strategaeth derfynol yn cael ei
hystyried gan y Pwyllgor o gwmpas Mehefin 2013. Fodd bynnag, gofynnodd y
Pwyllgor am gadarnhad y byddai digon o amser a chyfle iddynt awgrymu newidiadau
i’r strategaeth ddrafft os oeddynt yn meddwl bod angen hynny. Atgoffodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y pwyllgor bod
copi o’r llawlyfr tenantiaid drafft wedi ei ddosbarthu i aelodau’r pwyllgor
gyda gwahoddiad i wneud sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â’r cynnwys.
Adroddodd hefyd y disgwylid dosbarthu cytundeb tenantiaeth drafft i’r Pwyllgor
Craffu Cymunedau yn y man. Cyfeiriodd y Cynghorydd Butterfield at gyfranogiad
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a holodd a fyddai eu barn hwy yn cael ei
chymryd i ystyriaeth. Cafwyd trafodaeth ar fuddiannau posibl cyfeirio’r mater
at y Pwyllgor Craffu Partneriaethau gan yr aelodau, ond ni chytunwyd
atgyfeirio. Dywedodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y byddai
adroddiad ar gyfamod cymunedol gyda’r lluoedd arfog yn cael ei ddosbarthu i
aelodau’r pwyllgor ym mis Tachwedd. Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau anfon copi
o’u hymatebion at aelodau eraill y pwyllgor er gwybodaeth ac i osgoi dyblygu
diangen. PENDERFYNWYD – yn amodol
ar y newidiadau uchod, cymeradwyo Rhaglen Gwaith Craffu’r Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor
ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor Cofnodion: NI chyflwynwyd unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y
pwyllgor ar amrywiol fyrddau a grwpiau’r Cyngor. |