Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL PWYLLGOR 1b, NEUADD Y SR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fynegwyd
unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.
Mewn ymateb i
bryderon a godwyd gan Aelodau Cyfetholedig y Pwyllgor nad oeddynt wedi derbyn y
papurau perthnasol i eitem fusnes 5 ar yr agenda a oedd yn eitem Rhan II,
cadarnhaodd y Swyddog Craffu bod enwau’r Aelodau Cyfetholedig wedi’u cynnwys ar
yr agenda fel Aelodau’r Pwyllgor â phleidlais, ac y byddai’n edrych i mewn i’r mater. Esboniodd y Cynghorydd
W. Mullen-James nad oedd wedi derbyn unrhyw bapurau i’r cyfarfod. Gohiriwyd y
Pwyllgor am 15 munud er mwyn rhoi cyfle i Aelodau ddarllen y papurau
perthnasol. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar ddydd Iau, 14eg Mehefin 2012 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar Ddydd Iau, 14 Mehefin,
2012. Materion yn codi:- 9. Effeithiolrwydd Gweithredu Gorfodol - Baw Cwn
- Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd T.R. Hughes, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Dysgu a Chymunedau y byddai’n cyfarfod gyda’r Pennaeth Amgylchedd i drefnu
gweithdy i holl Gynghorwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth perthnasol i drafod
mabwysiadu a gweithredu ymagwedd gorfforaethol at ddelio gyda phroblem baw cwn
yn y Sir. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar yr uchod, bod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod
cywir. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD - yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y
Wasg a’r Cyhoedd rhag mynychu’r cyfarfod i’r eitem fusnes ganlynol ar y sail ei
bod yn ymdrin â’r posibilrwydd o ddatgelu gwybodaeth a eithriwyd fel y
diffinnir ym mharagraffau 14 & 15 o Ran 4 o Atodlen 12A Deddf Lywodraeth
Leol 1972. RHAN II |
|
DYRANNU ADNODDAU YCHWANEGOL I AAA MEWN YSGOLION CYNRADD Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Cyllid Addysg (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r cynnydd ar adolygu
dyrannu adnoddau ychwanegol i Anghenion Arbennig (AAA) mewn Ysgolion Cynradd.
9.35
a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Cyllid Addysg, a oedd yn manylu ar
y cynnydd a wnaed o ran adolygu dyraniad adnoddau ychwanegol i Anghenion
Addysgol Arbennig (AAA) mewn Ysgolion Cynradd, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau
i’r cyfarfod. Rhoddodd y Pennaeth
Gwella a Chynhwysiant Ysgol amlinelliad o’r adroddiad a oedd yn manylu ar y
cynnydd a wnaed o ran adolygu dyraniad adnoddau ychwanegol i Anghenion Addysgol
Arbennig (AAA) mewn Ysgolion Cynradd, a’r cynnydd a wnaed o ran adnabod
opsiynau ar gyfer ariannu AAA mewn Ysgolion Cynradd yn y dyfodol. Roedd yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn Rhagfyr 2011, a oedd yn amlinellu
cynlluniau ar gyfer proses o ddyrannu adnoddau i ysgolion ar gyfer AAA, wedi’i
gynnwys fel Atodiad 1 i’r adroddiad. Esboniodd y Pennaeth Gwella a Chynhwysiant Ysgol bod cynnydd sylweddol
wedi’i wneud a bod y cynlluniau yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, fel y
manylir yn y papur ymgynghori sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2. Darparwyd
amlinelliad o’r gwaith sy’n cael ei gynnal mewn perthynas â rheoli Newidiadau
Cytundeb Cyflogaeth i Gefnogaeth AAA 1 i 1 mewn Ysgolion, ac roedd hyn yn
cynnwys y broses ymgynghori, y gweithredoedd sydd eu hangen a’r amserlenni a
argymhellir. Cadarnhawyd y byddai’r model ariannu newydd yn adlinio adnoddau
sy’n bodoli eisoes i wneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’r gyllideb
AAA gyfredol ac y byddai’r lefel cyfredol o orwariant yn cael ei negyddu gan y
broses fonitro newydd. Byddai ariannu yn dryloyw a theg a byddai unrhyw
arbedion a wnaed yn erbyn y gyllideb yn cael eu dychwelyd i’r gyllideb
ddirprwyedig ysgol gydag unrhyw gynnydd yn y cyfanswm cost yn cael ei ddyrannu
o’r gyllideb ddirprwyedig. Mewn ymateb i gwestiynau, esboniodd y Pennaeth Gwella a Chynhwysiant
Ysgol y byddai cytundebau yn cael eu rheoli’n fewnol ac amlinellwyd manylion
o’r broses rheoli ariannol a’r meini prawf ar gyfer dyrannu adnoddau i’r
Pwyllgor. Cyfeiriwyd at arwyddocâd cyfansoddiad y Panel Safoni, ei rôl monitro,
penodiad Cadeirydd annibynnol - yr unig Banel o’r fath yng Nghymru i gael
cadeirydd annibynnol, a hysbyswyd Aelodau bod ymgynghori a chydlynu rheolaidd
yn digwydd gyda’r Awdurdod Iechyd, er bod gan Iechyd banel comisiynu ar
wahân. Rhoddwyd manylion ar
ddarpariaeth hyfforddiant i gynorthwywyr cefnogi ac Aelodau Panel i’r Pwyllgor.
Rhoddodd y Rheolwr Ariannu Addysg fanylion o’r broses weinyddu, gan roi sylw
penodol i’r agweddau ariannol, mewn perthynas â mecanweithiau ariannu i
Ysgolion Uwchradd a Chynradd. Esboniwyd bod yna risg
ynghylch safbwynt ysgolion unigol at benderfyniadau’r Panel a diffiniad lefelau
addas o gefnogaeth i’w ddarparu i ddisgyblion. Fodd bynnag, dylai meini prawf
cadarn y Panel Safoni ac annibyniaeth yr Aelodau Panel a benodir gyfyngu ar
hyn. Byddai’n rhaid i’r Panel sicrhau
bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella ac i effeithio’n gadarnhaol ar y
canlyniadau i blant ag AAA. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD – derbyn yr adroddiad a nodi cynnydd ac effaith y broses ddiwygiedig ar y
defnydd effeithiol o ariannu AAA mewn ysgolion. RHAN I |
|
ADOLYGIAD O WASANAETHAU DYDD YNG NGOGLEDD Y SIR PDF 87 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (copi’n amgaeëdig) yn rhoi
diweddariad ar adolygu Gwasanaethau Dydd yng Ngogledd y Sir, ac yn cynghori ar
yr opsiwn a ffefrir er mwyn darparu gwasanaethau yn y dyfodol, ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol. 10.10a.m. Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes, a
oedd yn rhoi diweddariad ar adolygiad Gwasanaethau Dydd yng Ngogledd y Sir, ac
yn cynnig yr opsiwn dymunol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r dyfodol ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod angen, fel rhan
o foderneiddio gwasanaethau cymdeithasol, adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau
dydd arunig i bobl hŷn, Hafan Deg yn Rhyl a Llys Nant ym Mhrestatyn, i
sicrhau bod y gwasanaeth a gynigiwyd yn gyson gyda’r polisi ail-alluogi.
Darparwyd disgrifiadau manwl o’r canolfannau i Aelodau. Roedd adolygiad o’r
gwasanaethau wedi’i gomisiynu yng Ngorffennaf 2011 ac roedd yr argymhellion a
wnaed wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Oherwydd mesurau oedd eisoes wedi’u
gweithredu, roedd y gofyniad arbedion bellach wedi gostwng i £60,000, i’w
gyflawni o’r argymhellion a amlinellwyd ar gyfer 2013/14. Amlinellwyd yr egwyddorion yn yr adroddiad, a thynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes sylw
at yr angen i wneud newidiadau i gyflawni anghenion y bobl fwyaf bregus yn y
Sir yn y dyfodol. Aeth ati i gydnabod yr
angen am ddarparu gwasanaethau gofal dydd yn Rhyl, Prestatyn ac ardaloedd
eraill, a bod mynediad rhwydd at yr adeiladau a ddefnyddiwyd yn
hollbwysig. Mewn ymateb i gwestiwn
ynghylch y gwahaniaeth rhwng ymyriad tymor byr a gofal tymor hir, esboniwyd bod
y GIG a’r Ddeddf Gofal Cymdeithasol 1990 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol
i asesu anghenion gofal cymdeithasol.
Roedd Deddf Cymorth Gwladol 1948 a Deddf Cleifion Cronig a Phersonau
Anabl 1970 yn darparu ar gyfer darparu gwasanaethau i gyflawni unrhyw anghenion
cymwys. Roedd modd cyflawni hyn trwy
drefniadau trydydd person fel sy’n bodoli ar hyn o bryd gyda gofal yn y cartref
a gwasanaethau preswyl. Cododd Aelodau'r pwyntiau canlynol wrth gefnogi cadw’r Canolfannau dan
sylw:- -
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd
sicrhau cyfranogiad Aelod Lleol ymhob cam o’r broses ymgynghori. Mynegwyd pryder
bod dileu’r cymhorthdal i ffioedd wedi eithrio nifer sylweddol o ddefnyddwyr
gwasanaeth potensial o’r broses ymgynghori a allai effeithio yn y pen draw ar
yr adborth a geir o’r ymgynghoriad, ac na fyddai darparu gwasanaethau trwy’r
sector preifat yn cwrdd â’r safonau a oedd yn cael eu darparu ar hyn o bryd.
Roedd y cynnydd mewn ffioedd hefyd wedi rhwystro defnyddwyr rhag defnyddio’r
cyfleusterau ac roedd hynny’n rhoi’r argraff nad oedd angen y
gwasanaethau. -
Codwyd pryderon hefyd bod rhai gofalwyr nawr yn talu am
ofal dydd i’w hanwyliaid o’u lwfansau gofalwyr eu hunain. -
Cyfeiriwyd at y staff a’r cyfleusterau ardderchog sydd ar
gael ar hyn o bryd, y colli swyddi posibl pe byddai’r gwasanaethau’n cael eu
preifateiddio, pwysigrwydd yr ysbryd cymunedol a’r gwmnïaeth y mae’r sefydliadau
hyn yn eu cynnig, a’r angen i’r Awdurdod barhau i ddarparu gwasanaethau lefel
uchel. -
Wrth ystyried yr Opsiynau,
roedd y Cynghorydd J. Butterfield yn teimlo
y byddai’n bwysig cymryd i ystyriaeth y tanwariant o £713k o fewn y
Gyfarwyddiaeth. Esboniodd y byddai’n bwysig cadw’r gwasanaethau o fewn y
Canolfannau dan sylw a oedd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Teimlwyd hefyd na
fyddai’r cyhoeddiadau a ddisgwyliwyd ynghylch Adolygiadau Gwasanaeth y GIG yn
cael dylanwad mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth hwn. -
Cwestiynwyd y prosesau asesu ac ymgynghori, gyda
chyfeiriad arbennig at faterion yn ymwneud â ffioedd. -
Mynegwyd
pryderon bod nifer y llefydd gofal dydd ar gael ym Mhrestatyn wedi gostwng yn
sylweddol ar ôl i Llys Nant gau. -
Codwyd pryderon gan y Cynghorydd D. Simmons ynghylch Cyfeiriodd y Pennaeth
Gwasanaethau Oedolion a Busnes at y materion allweddol canlynol wrth ymateb i
Aelodau:- · Roedd Aelodau Lleol wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori ac wedi cael eu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
PROSIECTAU SEILWAITH MAWR: DYRANNU ADNODDAU AC YMGYSYLLTIAD CYMUNEDOL PDF 94 KB To consider a
report by the Planning Officer: Renewable Energy Schemes (copy enclosed) which
seeks guidance on the resource commitment and level of community engagement for
major infrastructure projects. 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Cynllunio: Cynlluniau Ynni
Adnewyddadwy, a oedd yn ceisio arweiniad
ar yr ymrwymiad o ran adnoddau a lefelau ymgysylltiad cymunedol gyda
phrosiectau seilwaith mawr, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod. Roedd prosiectau seilwaith mawr yn gynigion datblygu ar raddfa fawr sydd
angen caniatâd a elwir yn ‘ganiatâd datblygu’ dan weithdrefnau a nodir gan
Ddeddf Gynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011). Roedd angen i ddatblygwyr oedd am adeiladu
prosiectau seilwaith mawr ymgeisio am ganiatâd cynllunio i’r Arolygaeth
Gynllunio ac roedd yn rhaid ymgynghori’n statudol ag Awdurdodau Lleol. Roedd
Adroddiad yn nodi’r cyd-destun ar gyfer prosiectau seilwaith mawr wedi’i
ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio ym Mai 2012, ac mae Atodiadau 1 a 2 i’r
adroddiad yn cynnwys manylion am rôl yr Awdurdod Cynllunio yn y broses
gynllunio. Roedd y goblygiadau o ran
arian ac adnoddau ac effeithiau/risgiau potensial yn gysylltiedig â phob opsiwn
wedi’u cynnwys yn Atodiad 3, ac roedd costau allanol dangosol i ymateb i
brosiectau seilwaith mawr wedi’u cynnwys yn Atodiad 4. Nid oedd unrhyw
reidrwydd statudol ar yr Awdurdod Lleol i gyfranogi yn y broses o asesu
cynlluniau o’r fath. Fodd bynnag, gan fod i rai prosiectau seilwaith mawr
effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol ar y Sir a
chymunedau lleol, rhoddwyd ymateb
casgliadol i’r Arolygaeth a chyfranogodd y Cyngor, i ryw raddau, yn y broses.
Roedd gofyn am arweiniad gan Aelodau ynghylch lefel y dyraniad adnoddau ac i ba
raddau y dylid cael ymgysylltiad cymunedol gyda phrosiectau seilwaith mawr yn y
dyfodol, yn enwedig o gofio dyhead yr Awdurdod i ddod yn agosach at y
gymuned. Rhoddodd swyddogion grynodeb o’r prif bwyntiau yn yr adroddiad a oedd yn
ymdrin â dyrannu adnoddau, yr opsiynau ar gael i’r Cyngor yn nhermau sut y
mae’n ymateb i brosiectau seilwaith mawr, ac yn nhermau ymgysylltiad cymunedol
mewn perthynas â phrosiectau mawr o’r fath. Roedd rheidrwydd statudol i
ymgynghori ag Awdurdodau Lleol ar brosiectau seilwaith mawr, ac roedd ganddynt
rôl bwysig i’w chwarae pe byddent yn dewis ymgysylltu â’r broses. Fodd bynnag,
nid oedd unrhyw daliad cynllunio yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath i dalu
am unrhyw gostau fyddai’n codi. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gofynion
allweddol o fewn y broses, a phwysleisiwyd bod y ceisiadau yn cynnwys dogfennau
cymhleth, hirfaith, ac y byddai’n rhaid neilltuo cryn dipyn o amser i’w hasesu
cyn ffurfio ymateb i unrhyw ymgynghoriad. Mae amserlenni ar gyfer ymgynghori
wedi’u nodi’n statudol, ac felly byddai’n rhaid cydymffurfio â hwy. Esboniodd y Cynghorydd J.S. Welch nad oedd trigolion yn ei ward ef wedi bod yn
ymwybodol o gynigion diweddar a
gyflwynwyd yn yr ardal honno, ac awgrymodd y dylai’r Awdurdod Lleol fabwysiadu
ymagwedd mwy rhagweithiol i gynyddu ymwybyddiaeth yn lleol. Cyfeiriodd hefyd at yr effeithiau y gallai
cynigion mewn rhannau amrywiol o’r sir eu cael ar gymunedau ar hyd yr A5 o
safbwynt materion cysylltiedig â thraffig. Roedd y Cynghorydd C.H. Williams yn teimlo
bod gan yr Awdurdod ddyletswydd i sicrhau nad oedd unrhyw effaith niweidiol ar
drigolion y Sir, beth bynnag oedd maint y datblygiadau a gynigiwyd. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau
Rheoleiddio y byddai’n rhaid cyflwyno’r cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA)
pe byddai’r rhifau yn gostwng fel bod y cais islaw trothwy penodol. Byddai’r
LPA wedyn yn gallu derbyn taliad penodol gyda’r cais, gan olygu bod gwell
adnoddau ar gael i ymdrin â’r cais.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J.M. Davies ynghylch ariannu a goblygiadau ariannol pob un o’r opsiynau a gyflwynwyd, cyfeiriodd y Pennaeth Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio at Ddatganiad y Prif Swyddog Ariannol ynghylch y goblygiadau o ran adnoddau a chyllid, a’r ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
DYRANIAD CRONFA AELOD ARDAL PDF 88 KB Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi trosolwg ar y
cyllid a ddyrannwyd i alluogi i Grwpiau Aelodau Ardal gefnogi prosiectau
blaenoriaeth yn eu hardaloedd ac yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu llwyddiant y
gronfa.
11.25 a.m.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Ymgysylltiad Cymunedol, a oedd yn rhoi
trosolwg o’r arian a ddyrannwyd i alluogi Grwpiau Aelod Ardal i gefnogi
prosiectau a oedd yn cael blaenoriaeth yn eu hardaloedd, ac yn adolygu ei
lwyddiant, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod. Ym Mawrth 2012, roedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar y dyraniad o
£50,000 i bob un o’r chwe Grŵp Aelod Ardal gyda manylion o’r meini
prawf ar gyfer y dyraniad a sut y dylid
ei ddefnyddio er budd y cymunedau. Gan nad oedd llawer o’r prosiectau wedi’u
cwblhau ar y pryd, cytunwyd y dylid cyflwyno adroddiad pellach gyda
dadansoddiad o’r buddion a gafwyd.
Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes grynodeb o’r
adroddiad a oedd yn cynnwys manylion o’r cefndir i’r dyraniad arian, sut
ddosbarthwyd yr arian, adolygiad o’r broses, y buddion a gafwyd a’r gwersi a
ddysgwyd o’r broses, a manylion o’r argymhellion ar gyfer dyrannu arian yn y
dyfodol. Roedd ffurflen ar gyfer cynnig
prosiect (Atodiad 1) i gyd-fynd â’r canllawiau, a oedd yn esbonio’r egwyddorion
wrth wraidd y broses ddyrannu a’r amserlen debygol ar gyfer dosbarthu’r arian.
Roedd copi o’r ddogfen ‘Trosolwg o’r Gwariant Hyd Yma’, yn manylu ar bob
prosiect unigol, wedi’i ddosbarthu yn y Papurau Gwybodaeth i’r cyfarfod. Esboniodd y Cynghorydd J.M. Davies y byddai’n haws mewn Trefi, lle mae
Cynlluniau Tref, i weithio tuag at, a chyflawni prosiectau a chynlluniau
penodol gan fod materion yn ymwneud â ffiniau daearyddol a dylanwadau allanol
eraill yn gallu cymhlethu’r broses o ddyrannu arian i ardaloedd gwledig. Cytunodd y Cynghorydd C.H. Williams gyda’r
safbwynt hwn a thynnodd sylw at y problemau a brofwyd wrth ddyrannu arian i
gynlluniau mewn ardaloedd gwledig.
Tynnodd sylw arbennig at y broses ddyrannu arian i drefi a phentrefi yn
ardal Dyffryn Dyfrdwy. Mynegodd nifer o Aelodau bryder ynghylch dyrannu arian mewn ardaloedd
penodol o’r sir. Cyfeiriwyd yn benodol at yr arian a ddyrannwyd i roi
cymhorthdal i gynnal maes parcio yn Rhuthun;
honnwyd bod hyn wedi mynd yn groes i Bolisi Cytunedig y Cyngor parthed
taliadau parcio ceir. Cyfeiriwyd at gael y pentrefi yn y cyffiniau i ddod yn rhan o’r Cynlluniau
Tref a phwysigrwydd cwmpasu anghenion y cymunedau gwledig yn y Cynlluniau Tref.
Nodwyd y dylid cydnabod bod gan wahanol ardaloedd o fewn y sir anghenion,
blaenoriaethau a gofynion gwahanol. Roedd yn bwysig sicrhau bod y Cynlluniau
Tref yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol yn ogystal â blaenoriaethau sirol, a’u
bod felly’n ddogfennau gweithio byw allai gael eu diwygio ar unrhyw adeg.
Cefnogodd Aelodau’r safbwynt y dylai dyrannu arian cymunedol yn y dyfodol fod
yn gysylltiedig gyda datblygiad y Cynlluniau Tref. Esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes y byddai dyrannu
arian i gefnogi Cynlluniau Tref, yn enwedig mewn ardaloedd lle'r oedd adfywiad
yn flaenoriaeth, yn bwysig. Cefnogodd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Dysgu a
Chymunedau y farn y gellid rheoli’r broses o ddyrannu arian yn fwy strategol yn
y dyfodol, yn dilyn datblygiad y Cynlluniau Tref, ac y dylai ymgynghori ar
unrhyw brosiectau i’r dyfodol fod mor gynhwysol â phosibl. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor:- (a) yn derbyn yr adroddiad
ac yn nodi’r dyraniad untro o arian heb unrhyw ymrwymiad y byddai’r broses yn
cael ei hail-adrodd; (b) yn argymell bod yn
rhaid i unrhyw gynllun(iau) yn y dyfodol gael eu cyflwyno i gyfarfod Grŵp
Aelod Ardal a’u cymeradwyo’n llawn yn y cyfarfod hwnnw yn hytrach na chael eu
dirprwyo i Aelodau Ward unigol; (c) yn cytuno y dylai holl gynlluniau yn y dyfodol gyd-fynd â, a chefnogi’r Cynlluniau Tref/Rhyl Ymlaen neu brosiectau gwledig y cytunodd y Grŵp Aelod Lleol arnynt; ac ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 91 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor i’r dyfodol ac yn
diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.05p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Craffu, a oedd yn adolygu
Blaen-raglen Waith Ddrafft y Pwyllgor ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion
perthnasol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth yr Aelodau bod ymatebion i faterion a
godwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi’u cynnwys yn y Briff Gwybodaeth a
ddosbarthwyd cyn y cyfarfod. Roedd Blaen-raglen Waith y Cabinet wedi’i chynnwys
fel Atodiad 2 i’r adroddiad, ac roedd tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y
Pwyllgor, ac yn hysbysu aelodau ar hynt eu gweithrediad, wedi’i gynnwys yn
Atodiad 3. Yn ei gyfarfod ar 5
Gorffennaf 2012, roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi
ystyried rhaglenni gwaith y tri phwyllgor craffu ochr yn ochr â rhaglenni’r
Cabinet a’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Roedd wedi ystyried a chytuno
y dylid cynnwys eitem a oedd yn ymwneud â sefydlu safonau gwasanaeth ar gyfer
ymgynghori ac ymgysylltu cymunedol mewn perthynas â’r broses gynllunio yn y
Blaen-raglen Waith i gyfarfod mis Hydref 2012 y Pwyllgor. Yn dilyn penodi cynrychiolwyr y Pwyllgor
ar Grwpiau a Byrddau’r Cyngor yn y cyfarfod diwethaf, nodwyd bod un sedd wag yn
parhau i gynrychiolydd ar y Grwpiau Herio Perfformiad Gwasanaeth. Cytunodd y
Pwyllgor y dylid penodi’r C.L. Williams i wasanaethu ar y Grŵp Herio Gwasanaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes. Roedd copi o’r rhestr ddiweddaraf o gynrychiolwyr craffu ar y Grwpiau Herio
Perfformiad Gwasanaeth wedi’i gynnwys fel Atodiad 4 i’r adroddiad. Esboniodd y Cydlynydd Craffu bod cais am
wybodaeth bellach wedi’i dderbyn mewn perthynas ag eitem yn ymwneud â rheoli rhandiroedd. Cytunodd y Pwyllgor y dylid dosbarthu diweddariad ar y
mater hwn i holl Gynghorwyr pan fydd ar gael.
Ystyriodd y Pwyllgor y Blaen-raglen Waith ddrafft i gyfarfodydd yn y
dyfodol fel y manylwyd yn Atodiad 1. O ystyried y nifer gorau o eitemau agenda
i’w cynnwys mewn un cyfarfod, cytunodd yr Aelodau y dylid cynnwys y newidiadau
canlynol ym Mlaen-raglen Waith y Pwyllgor:- Cyfarfod Medi 2012: Atgoffwyd
Aelodau y byddai cyfarfod Medi y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael ei gynnal yn
Rhyl gan y byddai’n ystyried tair ffrwd waith yn y rhaglen a oedd yn
gysylltiedig â Phrosiect Rhyl Ymlaen. Byddai taith o amgylch y safleoedd a’r
ardaloedd allweddol yn cael ei threfnu a chytunwyd y gallai’r daith gynnwys
ymweliad â Chanolfan Gofal Dydd Hafan Deg. Cyfarfod Hydref 2012:- ·
Eitem Etape Cymru
i’w had-drefnu ar gyfer Rhagfyr 2012 ·
Gohirio’r Rhaglen Nesáu at y Gymuned, ac o bosibl ei chynnwys yn y
Cynllun Corfforaethol a fyddai’n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu
Perfformiad maes o law. ·
Ardaloedd Risg Llifogydd o fewn Sir Ddinbych i’w d ·
drosglwyddo i’r Pwyllgor
Craffu Partneriaethau. ·
Cynnal a Chadw Gaeaf 2012/13 ac Adolygiad o Dorri Gwaith
Priffyrdd 2012 i’w cyfuno a’u trafod fel un eitem fusnes. ·
Adolygiad o Wasanaethau Dydd i’w gynnwys yn y
Blaen-raglen Waith i gyfarfod Hydref. Mewn ymateb i gais bod y
pwyllgor yn penodi cynrychiolydd i’r Grŵp Monitro Safonau Ysgol (SSMG),
cytunodd y Pwyllgor y dylid penodi’r Cynghorydd J.S. Welch fel ei
gynrychiolydd, gyda’r Cynghorydd W.
Mullen-James fel dirprwy aelod. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD:- (a) yn amodol ar y
newidiadau uchod, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel
y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad; (b) y dylid penodi’r
Cynghorydd C.L. Williams i wasanaethu ar y
Grŵp Herio Gwasanaeth Cynllunio a Pherfformio Busnes, ac (c) y dylid penodi’r
Cynghorydd J.S. Welch fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Monitro
Safonau Ysgol, gyda’r Cynghorydd W. Mullen-James fel ei ddirprwy. Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m. |