Rhaglen
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 - GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FYNYCHU RHAN HON Y CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer y
flwyddyn i ddod. |
|
DATGAN DIDDORDEB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes sydd i’w drafod yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a
gynhaliwyd ar ddydd Iau 12fed Ebrill 2012 (copi’n amgaeëdig) |
|
ARCHWILIAD ADDYSG GYMUNEDOL OEDOLION ESTYN PDF 98 KB Ystyried adroddiad
gan y Swyddog Perfformiad Effeithlonrwydd Ysgol: Uwchradd (copi’n amgaeëdig)
sy’n manylu darganfyddiadau Archwiliad Estyn o Bartneriaeth Addysg Gymunedol
Oedolion Conwy a Sir Ddinbych ac yn gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar
argymhellion yr Arolygwyr. |
|
GWASANAETHAU BWS A GOSTYNGIADAU PDF 464 KB Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Adran: Cludiant Teithwyr (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi gwybodaeth
ac yn gofyn am sylwadau ar newidiadau i sut ariennir gwasanaethau bws, a fydd
yn cael effaith sylweddol ar brisiau a lefelau’r gwasanaeth a ddarperir. |
|
EGWYL |
|
EFFEITHIOLRWYDD CAMAU GORFODI – BAW CWN PDF 116 KB Ystyried adroddiad
gan yr Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi
manylion dulliau hanesyddol, presennol a dulliau o rwystro a chanfod baw
cŵn yn y dyfodol, ac sy’n gofyn am farn y Pwyllgor ar faterion sy’n
ymwneud â chamau gorfodi mewn perthynas â baw cŵn. 11 a.m. |
|
LLWYBR MYNEDIAD SENGL I DAI (SARTH) PDF 124 KB Ystyried adroddiad
ar y cyd gan y Swyddog Prosiect a’r Swyddog Strategaeth Tai (copi’n amgaeëdig)
sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda phrosiect cydweithredol Llwybr
Mynediad Sengl i Dai (SARTH), ac sy’n gofyn am farn y
Pwyllgor ar Fframwaith Cyffredin Dyrannu Tai cyn cychwyn ar ymgynghoriad
cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 94 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn am adolygu rhaglen waith y Pwyllgor i’r dyfodol ac yn
diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
|
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor. |
|
RHAN II Dim eitemau |