Agenda and draft minutes
Lleoliad: via video conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Hugh
Irving. Roedd y Cynghorydd Melvyn Mile, un o lofnodwyr y cais
galw i mewn, hefyd wedi anfon ei ymddiheuriadau oherwydd bod ganddo apwyntiad
blaenorol, felly hefyd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau. Roedd cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru a Waterco wedi
anfon eu hymddiheuriadau am fethu â bod yn bresennol ar gyfer eitem fusnes 6:
‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Glannau
Afonydd’ o ganlyniad i ymrwymiadau
blaenorol. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad ag unrhyw eitem. Cynghorwyd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies nad yw
cynorthwyo cymydog â materion yn ymwneud â llifogydd yn rhinwedd ei swydd fel
aelod ward yn fater y mae angen i ddatgan fel budd personol yn eitem 6. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi’u codi gyda’r
Cadeirydd cyn y cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau
a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022. Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. Ni chodwyd unrhyw fater cysylltiedig â chynnwys y
cofnodion. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu i adolygu penderfyniad y Cabinet (copi
ynghlwm). 10.10 a.m. – 11.00 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyn i’r drafodaeth ar yr eitem hon o fusnes ddechrau
gadawodd y Cynghorydd Huw Williams y Gadair oherwydd ei fod yn un o lofnodwyr y
cais galw i mewn ac am y rheswm hwnnw roedd yn ofynnol iddo gyfrannu at y
drafodaeth. Cymerodd yr Is-gadeirydd, y
Cynghorydd Graham Timms, y Gadair ar gyfer yr eitem hon o fusnes. Dywedodd yr Is-gadeirdd wrth y Pwyllgor bod rhybudd
o ‘alw i mewn’’ wedi’i gyflwyno gan 6 chynghorydd nad ydynt yn aelodau o’r
Cabinet yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor. Roedd y rhybudd yn galw am adolygiad
gan un o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor o benderfyniad a wnaeth y Cabinet ar 14
Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun gwneud penderfyniadau dirprwyedig
arfaethedig ar gyfer caffael tir i dibenion amgylcheddol ac ecolegol. Aeth ymlaen i egluro y cyhoeddwyd
penderfyniad y Cabinet ar 17 Chwefror 2022. Mae’r weithdrefn ‘galw i mewn’ yn
caniatáu 5 diwrnod gwaith i gynghorwyr nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet
gyflwyno rhybudd o ‘alw i mewn’ yn gofyn bod Craffu’n adolygu’r
penderfyniad. Unwaith y derbynnir rhybudd
galw i mewn nid oes gan y gwneuthurwr penderfyniadau hawl i roi’r penderfyniad
ar waith hyd nes bod Craffu wedi adolygu’r penderfyniad ac wedi adrodd yn ôl
i’r gwneuthurwr penderfyniadau ar ganlyniad yr adolygiad. Mae disgwyl i Craffu gynnal cyfarfod i
adolygu’r penderfyniad o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn hysbysiad dilys o alw
i mewn. Fodd bynnag oherwydd nad oedd
unrhyw frys uniongyrchol i weithredu’r penderfyniad, roedd y Cabinet, sef y
gwneuthurwr penderfyniad, wedi cytuno y
gellid oedi’r adolygiad tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Craffu, sef y
cyfarfod hwn. Cyflwynodd y Cynghorydd
Merfyn Parry rybudd o ‘alw i mewn’ yn electronig ar 23 Chwefror. Cefnogwyd y cais (drwy e-byst unigol) gan 5
cynghorydd arall nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet, sef y Cynghorwyr David G
Williams, Melvyn Mile, Huw O Williams, Rhys Thomas a Peter Evans, gyda phob un
ohonynt wedi’u gwahodd i fynychu’r cyfarfod Pwyllgor i amlinellu eu rhesymau
dros gefnogi’r cais galw i mewn. Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu, Rhian Evans, yr
adroddiad a’r atodiadau (wedi’u dosbarthu eisoes) a oedd yn egluro’r cefndir i
benderfyniad y Cabinet a’r sail dros ei alw i mewn am adolygiad gan Bwyllgor
Craffu. Aeth ymlaen wedyn i sôn am y
drefn a fyddai’n cael ei dilyn yn y cyfarfod i ystyried y penderfyniad a alwyd
i mewn am adolygiad. Gwahoddwyd y Cynghorydd Merfyn Parry, fel llofnodwr
arweiniol y galw i mewn, i gyflwyno rhesymau’r llofnodwyr dros y cais am
adolygiad o’r penderfyniad. Yn ei
anerchiad dywedodd bod gan y llofnodwyr bryderon y byddai’r Cyngor, pe
cadarnhawyd y penderfyniad, mewn sefyllfa i ‘gipio tir’ mewn ocsiwn drwy o
bosibl gynnig mwy amdano na ffermwyr a pherchnogion tir lleol. Er yn deall na
fyddai gan y Cyngor ddiddordeb mewn prynu’r tir amaethyddol gorau, roeddent
fodd bynnag yn teimlo bod angen trafod penderfyniadau i brynu tir i ddibenion
dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol gydag aelodau lleol a’r Grwpiau
Aelodau Ardal Lleol cyn gwneud unrhyw gais, gan ei bod yn bwysig i’r Awdurdod
ddeall y wybodaeth leol ac angen lleol cyn gwneud cais am barsel o dir. Yna gwahoddwyd yr Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, i grynhoi’r drafodaeth a
gafwyd a’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet at 15 Chwefror 2022. Rhoddodd amlinelliad o’r ymgynghori a oedd
wedi digwydd hyd yma a chadarnhaodd nad oedd unrhyw gynlluniau i brynu tir
amaethyddol Gradd 1 i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau
ecolegol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol mai pwrpas y broses gwneud penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig i’r diben ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GRŴP TASG A GORFFEN RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD A PHERCHNOGAETH GLANNAU AFONYDD PDF 261 KB Ystyried adroddiad gan
y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd i ddiweddaru'r Pwyllgor Craffu ar
weithgareddau'r Grŵp Tasg a Gorffen (copi ynghlwm). 11.10 a.m. – 11.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor yr adroddiad (eisoes wedi’i ddosbarthu) yn
rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl
Llifogydd a Pherchnogaeth Glannau Afonydd a oedd yn rhoi diweddariad i’r
Pwyllgor ar weithgareddau’r Grŵp.
Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd adroddiad terfynol y Grŵp Tasg a
Gorffen a oedd yn rhoi manylion ei gasgliadau a’i argymhellion ac yn ceisio
cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer yr argymhellion hynny. Ar y pwynt hwn, diolchodd y Cynghorydd Huw Williams (Cadeirydd) i holl
aelodau mewnol ac allanol y grŵp am eu gwaith diwyd. Diolchodd hefyd i Karen Evans, Swyddog
Gwasanaethau Democrataidd, am y gwaith yr oedd wedi’i wneud ac am yr adroddiad
rhagorol a ddrafftiwyd ar ran y Grŵp. Amlinellodd y Cadeirydd gefndir sefydlu’r y Grŵp Tasg a Gorffen gan y
Pwyllgor, a sefydlwyd yn bennaf i
archwilio dulliau i gryfhau ymhellach y rhyngweithio a’r berthynas waith rhwng
awdurdodau rheoli perygl llifogydd cyhoeddus a pherchnogion glannau
afonydd. Dywedodd bod holl aelodau’r
Grŵp wedi dysgu cryn dipyn am swyddogaethau, cyfrifoldebau ac arferion
gwaith y naill a’r llall yn ystod y gwaith.
O ganlyniad i hyn roedd pawb yn cytuno bod cydweithio a chyd-ymddiriedaeth
wedi cryfhau o ganlyniad i fodolaeth y Grŵp. Roedd y Grŵp hefyd wedi chwalu sawl myth
cysylltiedig â chyfrifoldebau am, a’r caniatâd a geisir am waith cynnal a chadw
afonydd a glannau afonydd, megis gwir nifer y ceisiadau a dderbynnir am
Hawlenni Gweithgaredd Atal Perygl Llifogydd gan berchnogion tir,
cyfrifoldebau o ran perchnogaeth glannau
afonydd yn nalgylch Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn ac ati, sydd i gyd wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad. Mae gwaith y
Grŵp hefyd wedi tynnu sylw at yr ystod eang o wybodaeth sydd ar gael i’r
cyhoedd ar wefannau pob awdurdod rheoli perygl llifogydd yn cynnwys adran
cwestiynau cyffredin hynod ddefnyddiol ar wefan Dŵr Cymru. O ganlyniad i hyn, un o argymhellion y
Grŵp Tasg a Gorffen oedd, er mwyn hwyluso mynediad at wybodaeth i’r
cyhoedd, y dylid ail-lansio tudalen Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y
Cyngor ei hun ac y dylai gynnwys dolenni at we-dudalennau perthnasol Cyfoeth
Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Dylai’r
tudalennau newydd hefyd gynnwys
gwybodaeth am gyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd a chyfrifoldebau
perchnogion glannau afonydd. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd y Cadeirydd, aelodau’r
Grŵp Tasg a Gorffen a swyddogion: ·
bod dealltwriaeth yr holl randdeiliaid
o gyfrifoldebau’r naill a’r llall a’u
perthynas waith wedi gwella yn ystod gweithrediad y Grŵp Tasg a
Gorffen. ·
gwnaed yr argymhelliad i
weithio mewn partneriaeth i gynhyrchu a chyflwyno taflen wybodaeth gyffredinol
ar rolau a chyfrifoldebau awdurdodau rheoli risg a pherchnogion eiddo ar hyd
Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn o ganlyniad i’r cymhlethdodau cysylltiedig â
pherchnogaeth luosog glannau afon mewn ardal boblog dros ben, a chamsyniad eang
mai CNC sy’n gyfrifol am ffiniau preifat sy’n cyffinio â chyrsiau
dŵr. Bernir nad oes angen
ymarferion tebyg mewn rhannau eraill o’r sir lle mae perchnogion tir mwy yn
gyfarwydd â’u cyfrifoldebau; ·
mae gan yr awdurdod lleol
bwerau o dan y Ddeddf Draenio Tir i ymyrryd mewn rhai amgylchiadau. Fodd bynnag er bod y pŵer hwn i ymyrryd
gan yr Awdurdod Lleol, nid oes dyletswydd arno i wneud hynny. ·
mae gan berchnogion tir
glannau afonydd gyfrifoldebau penodol o ran peidio â rhwystro cyrsiau dŵr
ac ati, ac mae hawl ddigolledu am dorri cyflenwadau dŵr naturiol yn ôl y
gyfraith gyffredin. · mae’n rhaid gwasanaethu datblygiadau newydd gyda systemau draenio dŵr wyneb a dŵr budr ar wahân, nid dyma’r achos gyda datblygiadau preswyl hŷn lle ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
SIARTER CYDYMFFURFIAETH CYNLLUNIO PDF 232 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
a’r Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio i ddarparu gwybodaeth mewn perthynas ag
effeithiolrwydd y Siarter Cydymffurfiaeth Cynllunio (copi ynghlwm). 11.40 a.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau
Mwy Diogel yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes), a oedd yn gofyn
bod y Pwyllgor yn adolygu effeithiolrwydd y Siarter Cydymffurfiaeth Cynllunio
hyd yma. Roedd hefyd yn ceisio
cefnogaeth yr aelodau ar gyfer newidiadau arfaethedig i’r Siarter a/neu i
gynyddu’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwaith cydymffurfiaeth cynllunio ar
draws y sir. Cyn gwahodd cwestiynau, tynnodd y Swyddog Cynllunio a Chydymffurfiaeth
sylw’r aelodau at y newidiadau arfaethedig i’r Siarter, fel y’u hamlygwyd yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. Dywedodd yr aelodau pa mor ddefnyddiol yr oedd y Siarter wedi bod iddyn nhw
o ran delio ag ymholiadau cydymffurfiaeth cynllunio preswylwyr a’r broses o
flaenoriaethu mynd i’r afael â chwynion o’r fath. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau am y Siarter a’r newidiadau arfaethedig,
dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion: ·
tra bo’r Gwasanaeth yn dal
i ddelio ag ôl-groniad o ymholiadau cydymffurfiaeth cynllunio, yn deillio’n
bennaf o’r cyfnod clo Covid-19 cyntaf, mae’r llwyth achosion bellach yn
lleihau. mae penodiad ail Swyddog Cynllunio
a Chydymffurfiaeth ym mis Awst 2021 wedi helpu i leddfu’r pwysau. ·
roedd rhai achosion yn
hanesyddol ac yn hynod o gymhleth felly bydd angen cryn amser ac adnoddau i’w
datrys; ·
mae amgylchiadau lle gall y
Cyngor ddatgelu enwau achwynyddion ac ati wedi’u nodi’n glir yn y rheoliadau
e.e. Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac ati
Fodd bynnag nid ydynt yn gwahardd y Cyngor rhag rhoi gwybod i gynghorwyr
neu gynghorwyr dinas, tref neu gymuned eu bod y ymchwilio i doriadau honedig. Rydym ar hyn o bryd yn edrych sut y gallwn,
gan ddefnyddio’r feddalwedd sydd ar gael, roi diweddariadau rheolaidd i aelodau
lleol ac aelodau cynghorau dinas, tref a chymuned am doriadau yn eu hardaloedd;
·
bod cyfarfodydd rheolaidd
yn cael eu cynnal gydag aelodau newydd os codwyd pryderon am ddatblygiadau
diawdurdod mewn gwlad agored a choetiroedd. ·
bod llawer o ymholiadau’n
cael eu cyfeirio i’r broses cyn cyflwyno cais cynllunio am gyngor perthnasol
ynghylch pa bryd y mae angen caniatâd cynllunio. ·
bod y Siarter wedi gweithio
mewn dwy ffordd wahanol, sef cyfeirio preswylwyr at y mathau o ddatblygiadau
sydd neu sydd ddim angen caniatâd cynllunio, a hefyd tynnu sylw’r rhai sy’n
torri’r rheoliadau at ganlyniadau posibl datblygu anheddau diawdurdod neu nad
ydynt yn cydymffurfio â’r amodau a bennwyd pan roddwyd caniatâd cynllunio ·
mae perygl y gallai
unigolion nad ydynt wedi ceisio cyngor ar gydymffurfiaeth cynllunio ac wedi
datblygu neu adnewyddu eu heiddo heb y caniatâd angenrheidiol fod mewn
trafferthion yn ddiweddarach os ydynt yn ceisio gwerthu eu heiddo a bod y
broses chwiliadau eiddo’n dwyn materion diffyg-cydymffurfiaeth i sylw darpar
brynwyr ·
mae angen rheoli
disgwyliadau pobl am orfodaeth ac am unioni achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth
yn briodol. ·
mae’r Siarter ddiwygiedig
yn gwneud darpariaethau ar gyfer rhoi blaenoriaeth uchel i doriadau honedig
sy’n agosáu at imiwnedd rhag camau gorfodi oherwydd bod gormod o amser wedi
mynd heibio; ·
bod y broses flaenoriaethu
wedi’i hanelu at ddelio â thoriadau posibl mewn ffordd ymarferol. Rhoddodd swyddogion enghreifftiau o sut y
bydd hyn yn cael ei wneud; ·
bod y Cyngor yn gweithredu
system ‘tynnu sylw’ sy’n amlygu achosion gydag amodau â chyfyngiad amser arnynt
er mwyn rhoi rhybudd i swyddogion am yr angen i wirio bod ceisiadau preswylwyr
yn parhau i gydymffurfio â’r amodau a bennwyd ar gyfer yr eiddo cyn y dyddiad
dod i ben; ·
bod hyfforddiant
Cydymffurfiaeth Cynllunio’n cael ei baratoi ar gyfer y Cyngor newydd; a · bod cynghorwyr yn cael eu cynghori i weithredu fel canfyddwyr ffeithiau yn hytrach na chyfryngwyr rhwng cymdogion ar eu wardiau. Roedd yn beth doeth iddynt gyfeirio unigolion at Wasanaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio’r Cyngor am gyngor technegol ar ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 12.15 p.m. – 12.30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad ac atodiadau
(eisoes wedi’u dosbarthu) yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor
yn barod ar gyfer ei throsglwyddo i’w olynydd-Bwyllgor ar ôl etholiadau’r awdurdod lleol ym mis Mai
2022. Penderfyniad y pwyllgor newydd
wedyn fyddai symud ymlaen â’r eitemau a restrwyd yn barod neu beidio. Dywedwyd wrth yr aelodau bod yr adroddiad ar Gam-drin
Cŵn a oedd yn wreiddiol i fod i’w roi gerbron y cyfarfod hwn heddiw,
wedi’i aildrefnu ar gyfer hydref 2022 oherwydd bod Staff Diogelu’r Cyhoedd yn
dal yn ymgymryd â dyletswyddau Profi, Olrhain a Diogelu. Serch hynny, er mwyn rhoi tawelwch meddwl
i’r aelodau ar y mater hwn paratowyd a dosbarthwyd adroddiad er gwybodaeth fel
rhan o’r ddogfen friffio cyn y cyfarfod presennol. Fel rhan o’i adolygiad rheolaidd o raglenni gwaith i’r
dyfodol y pwyllgorau craffu, roedd y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi aildrefnu rhai eitemau ar
bob un o raglenni gwaith i’r dyfodol y Pwyllgorau Craffu er mwyn osgoi trafod
eitemau dadleuol yn y cyfnod yn arwain at y cyfnod cyn-etholiad. Roedd y rhain i’w gweld yn Atodiad 1. Bydd yr adroddiad dilynol y gofynnwyd amdano yn ystod y
drafodaeth ar eitem y Grwp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth
Glannau Afonydd yn cael ei gynnwys yn rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer gwanwyn
2023. Dywedwyd wrth yr aelodau y gallant barhau i gyflwyno
pynciau i’w hystyried gan Craffu ar y ffurflen yn Atodiad 2. Oni bai bod y pynciau o natur frys, byddai’r
GCIGC yn ystyried y cais ar ôl etholiadau’r awdurdod lleol. Roedd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet (Atodiad 3) a
thabl yn dangos cynnydd hyd yma gyda’r argymhellion a wnaeth y Pwyllgor yn ei
gyfarfod diwethaf (Atodiad 4) wedi’u cynnwys er gwybodaeth. Mae gwaith yn awr ar y gweill i baratoi ar gyfer cynhyrchu adroddiad er
gwybodaeth ar Asesiad o Effaith Cymunedol ar gymunedau’r Rhewl a Llanynys ar ôl
cau’r ysgol leol. Dylai’r adroddiadau
fod ar gael yn ystod yr haf. Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol
ar gynnwys yr eitem y cytunwyd arni yn ystod y cyfarfod, gadarnhau rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor i’w gyflwyno i’r Pwyllgor newydd ar ôl
etholiadau’r awdurdod lleol ym mis Mai 2022 |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12.30 p.m. – 12.40 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Cyn cau'r cyfarfod estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch diffuantaf i’r
Is-gadeirydd am ei holl gefnogaeth, i aelodau’r Pwyllgor am eu gwaith diwyd ac
adeiladol ac i’r staff am eu holl gefnogaeth yn ystod tymor y Cyngor
presennol. Dymunodd yn dda i bawb ar
gyfer y dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 12:55pm |