Agenda and draft minutes
Lleoliad: TRWY GYNHADLEDD FIDEO.
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb
gan y Cynghorydd Alan Hughes. |
|
Ethol
Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/2022 (gweler ynghlwm
gopi o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Craffu a Chadeirydd / Is-gadeirydd). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor
2021/22. Enwebwyd y Cynghorydd Graham
Timms gan y Cynghorydd Brian Blakeley ar gyfer y swydd Is-Gadeirydd y
Pwyllgor. Eiliodd y Cynghorydd Merfyn
Parry enwebiad y Cynghorydd Timms. Ni
dderbyniwyd enwebiadau eraill, a gyda mwyafrif y bleidlais: PENDERFYNWYD: penodi’r Cynghorydd Graham Timms yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2021/22. Diolchodd y Cynghorydd Timms i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 7 fel
tenant eiddo’r Cyngor. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 (copi
ynghlwm). 10:10am – 10:15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 13 Mai
2021. Ni chodwyd unrhyw
fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion. Felly: Penderfynwyd: y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 fel
cofnod cywir. |
|
ADRAN 19 ADRODDIAD YMCHWILIAD AR LIFOGYDD CHWEFROR 2020 YN SIR DDINBYCH PDF 229 KB Ystyried Adran 19 o Adroddiad Ymchwiliad i’r Llifogydd (copi ynghlwm)
gan Bennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Pheiriannydd Perygl
Llifogydd ar lifogydd 2020 yn Sir Ddinbych. 10.15am – 11am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn ei gyflwyniad,
amlygodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r
Amgylchedd, bod y llifogydd a brofwyd ar draws Sir Ddinbych yn Chwefror 2020
wedi bod yn ddigwyddiad arwyddocaol.
Cyflwynodd y Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd (TW) Adran 19 Adroddiad
Llifogydd (rhannwyd yn flaenorol) mewn perthynas â’r llifogydd a ddigwyddodd o
ganlyniad i Storm Ciara. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd
Lleol Arweiniol, ddyletswydd o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a
Dŵr i archwilio llifogydd a chyhoeddi’r canfyddiadau. Roedd mwyafrif y
llifogydd wedi digwydd o’r prif afonydd – Ceidiog, Clwyd, Elwy a’r Ystrad – a
oedd yn dod o dan gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer
ymchwiliad. Hefyd Cyngor Sir Ddinbych oedd â chyfrifoldeb i ymchwilio i
lifogydd dŵr wyneb. Roedd yr
adroddiad yn ceisio ateb 3 cwestiwn mewn perthynas â phob ardal yr oedd
llifogydd: 1.
Pam
ddigwyddodd y llifogydd? 2.
Pa mor
debygol y bydd llifogydd o’r raddfa honno yn digwydd eto? 3.
Pa
welliannau oedd eu hangen i sicrhau bod risg llifogydd y Sir yn cael ei reoli’n
briodol yn y dyfodol? Roedd mwyafrif y camau
gwella a argymhellwyd yn gyfrifoldeb ar CNC (tudalennau 33 i 35) gan mai nhw
sydd gan yr awdurdod a’r pwerau i weithredu ar y prif afonydd. Mynegodd aelodau
eu siom bod y mwyafrif o’r wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â
chyfrifoldebau yng nghylch gwaith CNC, ond nid oedd cynrychiolydd CNC yn y
cyfarfod i ymateb i’r cwestiynau oedd yn codi.
Dywedodd y Swyddogion bod yr adroddiad ei hun yn cynnwys canfyddiadau o
ymchwiliad y Cyngor i’r llifogydd a’r achosion, y bwriad oedd cyflwyno’r
adroddiad, ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor i’r Cyngor Sir ym Medi 2021. Os oedd yr
aelodau yn dymuno, gall gynrychiolwyr o CNC gael eu gwahodd i’r cyfarfod
hwnnw. Cytunwyd gwneud cais am
ddiweddariad gan CNC o ran eu bwriad mewn perthynas â’u camau gweithredu a’r
terfynau amser, er mwyn eu cynnwys yn yr adroddiad i’r Cyngor llawn a gwahodd
cynrychiolwyr CNC i fynychu hefyd. Gwnaeth yr
aelodau gais bod adroddiad neu gyflwyniad hanesyddol yn cael ei ddarparu gan
CNC ar fesuriadau glawiad dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf (o fewn Sir
Ddinbych), ynghyd â dadansoddiad ar ansawdd a dibynadwyedd y data o’u
mesuryddion glaw. Gall hyn gynorthwyo’r
Awdurdod i ddeall effaith posibl newid hinsawdd ar lifogydd yn lleol. Gall y wybodaeth hon ffurfio rhan o’r eitem
busnes yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym Medi, neu ei gyflwyno i’r Grŵp Tasg
a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogion Glannau Afonydd. Cadarnhawyd bod
CNC eisoes wedi’u gwahodd i gyflwyno canfyddiadau eu gwaith modelu mewn
perthynas â Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 9
Medi 2021. Wrth ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y Swyddogion: ·
Roedd
mesuryddion glaw a gorsafoedd lefel afonydd yn eiddo i CNC. Rhaid cael eglurder
o ran eu cywirdeb. ·
O ran
casglu data, roedd gan CSDd delemetreg mewn lleoliadau allweddol, a’u pwrpas
oedd hysbysu’r Awdurdod o lefelau uchel mewn afonydd er mwyn ymateb i rwystrau
posibl. Roedd CSDd yn chwilio i ychwanegu telemetreg i gyrsiau dŵr llai yn
y dyfodol. ·
Cylch
gwaith yr Awdurdod oedd deall y patrwm o ran y risg o lifogydd o fewn y Sir. ·
Gall y derminoleg asesu risg a fabwysiadwyd gan CNC e.e.
1 mewn 100, fod yn ddryslyd a gall arwain at y gred ei fod yn risg llifogydd
lefel isel. · Roedd datblygiadau tai newydd wedi’u cynnwys o dan ganllawiau cynllunio TAN15 sy’n ceisio cyflawni amddiffyniad o 1 i 1000 mewn tebygolrwydd gormodiant blynyddol. Nid oedd unrhyw safonau cenedlaethol ar gyfer datblygiadau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
AROLWG TENANTIAID TAI CYNGOR PDF 239 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Prif
Arweinydd – Tai Cymunedol, ar adborth o’r arolwg STAR ar denantiaid y Cyngor a
chynigion Gwasanaeth Tai Cymunedol y Cyngor i Arolygu’r darganfyddiadau. 11am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad (rhannwyd yn
flaenorol) yn hysbysu’r pwyllgor bod 381 o ymatebion (11%) wedi cael eu derbyn
o’r 3277 o arolygon Tenantiaid a Phreswylwyr Safonol (STAR) a anfonwyd. Byddai canlyniadau’r arolwg hefyd yn cael eu
rhannu gyda Ffederasiwn Tenantiaid Sir Ddinbych. Er bod gofyniad statudol i gyflawni’r arolwg bob 2 flynedd, roedd rhai
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cyflwyno data a gasglwyd cyn
Covid-19. Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflawni’r arolwg yn ystod
hydref/gaeaf 2020/2021 ac fe nodwyd gan Lywodraeth Cymru bod yr ymateb wedi
cael ei effeithio gan y pandemig. Roedd cyfraddau
boddhad cyffredinol yn llai na’r canlyniadau arolwg 2019 gan adlewyrchu’r cynnydd
mewn ymatebion nad oeddynt yn fodlon nac yn anfodlon – gan ddynodi nad oedd
tenantiaid yn gallu sgorio’r gwasanaeth yn llawn yn sgil cyfnod clo’r pandemig. Mynegodd y
Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol (GD) ei siom o ran y cyfraddau bodlonrwydd
cyffredinol llai, ond roeddent yn ddisgwyliedig yn sgil y gwasanaeth cyfyngedig
(argyfyngau yn unig yn ystod y cyfnod clo). Yn flaenorol, roedd preswylwyr yn
blaenoriaethu safonau gwasanaeth ar gyfer eu cartrefi eu hunain, ond yn ystod y
pandemig, roedd y canolbwynt wedi newid i ddiogelwch eu cymdogaeth a’u cymuned. Roedd meysydd ar
gyfer gwella wedi’u nodi gan gynnwys ail-redeg yr arolwg STAR ar ddiwedd y
flwyddyn er mwyn ailosod y data mewn trefn fel bod yr holl gynghorau a’r
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gallu eu cymharu gyda data o fewn yr
un ystod data. Gan ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd Swyddog Arweiniol – Tai
Cymunedol: ·
roedd
yn bwysig bod tenantiaid landlordiaid cymdeithasol yn derbyn gwasanaeth tebyg
am y rhent roeddent yn ei dalu. Roedd data meincnodi wedi ei gyhoeddi gan
Lywodraeth Cymru. Byddai’r wybodaeth yn cael eu rannu i aelodau. ·
Bod
perthynas weithio da yn bodoli rhwng y Cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig yn y sir. ·
Roedd
mwy o ymatebion iau ac ar-lein i’r arolwg na’r blynyddoedd blaenorol. ·
Ymdrechwyd
i sicrhau bod sampl cynrychioladol yn ymateb i’r arolwg. Cynhaliwyd arolygon
deinamig yn ystod y flwyddyn hefyd. ·
Y
pryder cadw a chynnal mwyaf ar gyfer preswylwyr oedd materion
damprwydd/cyddwysiad yn y stoc dai hŷn, tra bod problemau mewn perthynas â
baw cŵn yn bodoli ymysg y nifer uchaf o gwynion yn barhaus. ·
Roedd
safon y gwaith ar brosiectau cyfalaf wedi derbyn cyfradd boddhad uchel yn
gyson, tra bod cyfathrebu gyda thenantiaid ar y lefel isaf o foddhad, er gwaethaf
pob ymdrech i wella ac addasu rhyngweithiad a dulliau cyfathrebu gyda
thenantiaid y Cyngor. ·
Roedd
cyfle i fynd ymlaen o dan y rhaglen effeithlonrwydd carbon i newid systemau
gwresogi i ran arbed ynni - pympiau gwres yr awyr a phaneli solar ac ati. ·
Roedd
tenantiaid yn gyfrifol am gynnal a chadw eu gerddi eu hunain. Roedd arfer
archwiliad rhagweithiol gan y Swyddogion Tai. Rhoddwyd ystyriaeth i fentrau
megis ‘no mow May’. Lle bod angen, gall
y Cyngor helpu tenantiaid i gynnal a chadw eu gerddi trwy roi’r offer
angenrheidiol iddynt. ·
Cafodd
tenantiaid Cymdeithas Tai Adra yn y datblygiad newydd yn Trefnant oll eu dewis
o’r gofrestr tai cyffredin – a ddefnyddir gan y Cyngor a holl Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig, sy’n gorfodi tenantiaid posibl i roi tystiolaeth o’u
cysylltiad i’r ardal leol. Penderfynwyd: yn
amodol ar y sylwadau uchod - (i)
cefnogi’r
Cynllun Gweithredu Tenantiaid a Phreswylwyr Safonol Tai Cymunedol 2021 a
luniwyd er mwyn ymateb i ganfyddiadau arolwg Hydref 2020 o denantiaid tai y Cyngor
a chefnogi’r ddarpariaeth o flaenoriaethau corfforaethol Tai a Chymunedau
Gwydn; a (ii) gwneud cais bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei ddarparu i aelodau’r Pwyllgor yn nodi canlyniadau arolwg boddhad ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
THEMA ADFER COVID-19 – ADEILADAU’R CYNGOR PDF 235 KB Derbyn adroddiad yn diweddaru (copi ynghlwm) gan
y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y cynnydd gyda’r Isadeiledd – thema
adfer Adeiladau’r Cyngor. 11.45am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor o’r Thema Adferiad Covid-19 ar
gyfer Adeiladau’r Cyngor ers Medi 2020. Dywedodd wrth y Pwyllgor nad oedd cylch
gwaith yr adroddiad yn cynnwys deiliadaeth ysgolion neu’r stoc dai. Roedd yr Awdurdod
yn dal i weithredu o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru i gynghori staff a all
weithio o gartref, barhau i wneud hynny. Roedd presenoldeb yn y swyddfa yn cael
ei reoli gan reolwyr atebol a’r Uned Rheoli Cyfleusterau i sicrhau
cydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau presennol. Unwaith fydd yr
amodau yn caniatáu a phan fydd staff yn symud yn ôl i’r swyddfeydd, bydd hyn yn
cael ei reoli yn ôl trefn rota, er mwyn cyfyngu ar y nifer o staff mewn unrhyw
adeilad ar un adeg, gydag uchafswm deiliadaeth o 50%. Yn yr hirdymor,
rhagwelwyd y byddai system hybrid yn cael ei ddefnyddio, lle byddai presenoldeb
yn yr adeiladau ar gyfer cyfarfodydd yn hytrach na dibenion trafodaethol. O ran cynnal a
chadw adeiladau, roedd lleihad mewn gwaith cynnal a chadw rhagweithiol dros y
12 mis diwethaf, ond roedd hynny wedi rhoi cyfle i waith ar brosiectau mawr
gael eu cwblhau. Nid oedd unrhyw ymyrraeth sylweddol i’r rhaglen waith. Gan ymateb i
gwestiynau gan aelodau, cafodd y Pwyllgor wybod gan yr Aelod Arweiniol a’r
Pennaeth Cyllid ac Eiddo: ·
Y
llynedd roedd tanwariant o ganlyniad i staff yn gweithio o gartref e.e. llai o
wresogi, teithio a chostau argraffu, ad-daliadau Trethi Annomestig
Cenedlaethol. Roedd cau adeiladau ysgolion am gyfnodau hir hefyd wedi lleihau
costau. Fodd bynnag, wrth symud ymlaen
bydd costau a ysgwyddir ar gyfer buddsoddiadau TGCh, Iechyd a Diogelwch ac
argraffu yn cynyddu eto. ·
Rhagwelwyd
y byddai ffyrdd newydd o weithio yn arwain at ddeiliadaeth llai, ond nid yn
angenrheidiol llai o adeiladau swyddfa. Mae gofodau a rennir yn dal i gael ei
ymchwilio gyda sefydliadau partner. ·
Er bod canllawiau cyffredinol wedi cael eu rhannu gyda
Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned ar reoli eu hadeiladau ar ddechrau’r
pandemig, nid oedd gan yr Awdurdod ddigon o adnoddau i helpu gyda rheoli a
chynnal a chadw eiddo. ·
Roedd
gweithgor hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio ar gyfer aelodau
etholedig. Gobeithir cwblhau a gweithredu’r
gwaith mewn amser ar gyfer yr etholiadau lleol nesaf. Roedd bob aelod etholedig wedi cael cyfle i
roi mewnbwn i’r gwaith trwy holiadur/arolwg. Felly: Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn y wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran trefniadau adeiladau swyddfa’r Cyngor a’r gwaith cynnal a chadw a gyflawnwyd trwy gydol y cyfnodau clo a’r pandemig. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 12:15pm – 12:30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn
â materion perthnasol. Rhoddwyd gwybod
i’r Pwyllgor bod cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi’i drefnu
ar gyfer 26 Gorffennaf i ystyried adroddiad gan y grŵp tasg a gorffen a
sefydlwyd i gefnogi a monitro’r broses o ddatblygu Asesiad o Lety Sipsiwn a
Theithwyr statudol. Bydd y cyfarfod
nesaf ar 9 Medi. Yr unig eitem ar y rhaglen oedd ar Gyfrifoldebau Rheoli
Llifogydd mewn perthynas â Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn. Roedd y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu yn cyfarfod ar brynhawn 1 Gorffennaf ac
fe allai arwain at eitemau eraill i gael eu hychwanegu ar y rhaglen waith ar
gyfer cyfarfod Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Medi. Gwnaed cais am adroddiad
gwybodaeth ar feincnodi gyda’r Arolygon Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
ar gyfer y cyfarfod nesaf. Felly: Penderfynwyd:
cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar yr uchod. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
fyrddau a grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Huw Williams bod y Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd
a Pherchnogion Glannau Afon yn barhaus, a bod cynnydd yn cael ei wneud. Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott bod nifer o gyfarfodydd wedi cael eu
cynnal o’r Grŵp Tasg a Gorffen Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, a oedd
hefyd yn gwneud cynnydd da, ac roedd y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun , 5
Gorffennaf. Felly: Penderfynwyd: derbyn y wybodaeth a ddarparwyd ar waith
y grwpiau amrywiol gan gynrychiolwyr y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 12:30pm |