Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Hugh Irving (Cadeirydd) a Paul Keddie.

 

Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd trafodion y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, a estynnodd ddymuniadau gorau’r Pwyllgor i’r Cadeirydd am wellhad buan.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol ag eitem fusnes 6. ‘Strategaeth Economaidd a Chynllun Gweithredu Sir Ddinbych’, yn ei rôl fel cynrychiolydd Cyngor Tref y Rhyl ar Fwrdd Partneriaeth Twristiaeth Sir Ddinbych.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 434 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2025 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2025.

 

Penderfynwyd:  derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2025 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

Materion yn codi:  Tudalennau 14 - 15, ‘Trefniadau ar gyfer Adolygu Cyflwyniad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd’.  Gan ymateb i ymholiad ar y cynnydd a wnaed o ran sefydlu’r grŵp tasg a gorffen i gynnal yr adolygiad, dywedodd y Cydlynydd Craffu fod swyddogion wedi dechrau’r broses o goladu adroddiadau perthnasol a gwybodaeth gefndir i gefnogi gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen.  Roedd y Cydlynwyr Craffu i fod i gwrdd â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr wythnos ganlynol i adolygu'r dogfennau a gafwyd hyd yma a'u trefnu'n gronolegol er hwylustod y Grŵp.  Yn y cyfamser, oherwydd y newid diweddar yng nghydbwysedd gwleidyddol y Cyngor, ymgynghorwyd ag Arweinwyr Grwpiau ynghylch a oedd y penodiadau a wnaed i’r Grŵp Tasg a Gorffen yn dal yn dderbyniol ganddynt.  Ar ôl cwblhau'r gwaith paratoi hwn, byddai dyddiad cyfarfod cyntaf y Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei gyhoeddi.     

 

5.

CYNLLUNIO’R GWEITHLU, RECRIWTIO A CHADW STAFF, AC ABSENOLDEB SALWCH pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol (copi ynghlwm) sy’n gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor mewn perthynas â chynllunio’r gweithlu, recriwtio, cadw staff a rheoli absenoldeb salwch ar draws yr Awdurdod.

10.10am – 10.50am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth a chynnydd ar gynllun y gweithlu a’r cynllun gweithredu cysylltiedig (gan gynnwys gweithgareddau recriwtio a chadw staff) a hefyd yn darparu data mewn perthynas â throsiant ac absenoldeb salwch ar gyfer 2024.

 

Roedd cynllunio'r gweithlu yn weithgaredd strategol pwysig a gynhyrchodd wybodaeth a data i gefnogi'r broses o sicrhau bod y Cyngor yn cyflogi'r bobl gywir, gyda'r sgiliau cywir, ac yn helpu i nodi hyfforddiant gan ddarparu gwybodaeth hanfodol am iechyd a lles staff.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth, data a chynnydd cyfredol. Roedd Atodiad 1 yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa trosiant staff y Cyngor. Roedd Atodiad 2 yn cynnwys data absenoldebau salwch ar gyfer 2023/2024, a oedd yn cynnwys absenoldebau byrdymor, canolig a hirdymor. Roedd Atodiad 3 yn cynnwys manylion am gynllun gweithredu’r gweithlu.

 

Byddai ymarfer Cynllunio’r Gweithlu 2024 ar gyfer y Cyngor yn cychwyn ym mis Mawrth 2025 a byddai gan y Cyngor gynllun gweithlu corfforaethol newydd a chynllun gweithredu cysylltiedig ym mis Mai 2025. Roedd y gwaith ar y meysydd allweddol hyn yn cyfrannu at thema 6 y Cynllun Corfforaethol, sy’n sicrhau bod Cyngor Sir Ddinbych yn Gyngor effeithlon sy’n perfformio’n dda, gan ddarparu a mewnosod polisi lles staff, cefnogi hyfforddiant a datblygiad y gweithlu, hyrwyddo tegwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a gweithio ar y cyd ledled y Cyngor, a chyda partneriaid i liniaru problemau gyda recriwtio a chadw staff.  

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl fwy o fanylion am yr adroddiad.

 

Roedd Archwilio Mewnol wedi cadarnhau bod gan y Cyngor gynllun recriwtio a chadw staff cadarn ar waith, a oedd yn cynnwys yr elfennau sylfaenol yr oedd eu hangen ac a oedd yn gweithio'n dda.

 

Y bwriad oedd i Gynllun y Gweithlu fod yn ddogfen fyw, yn gweithio ochr yn ochr â gwybodaeth o gyfarfodydd un-i-un a gynhelir yn rheolaidd gyda'r holl weithwyr, a fyddai'n darparu deialog barhaus ar ddata. Roedd yr ymarfer cynllunio’r gweithlu yn canolbwyntio ar bocedi o feysydd recriwtio a chadw staff yn hytrach na chyffwrdd â phethau’n ysgafn fel o’r blaen. Yr ymarfer cynllunio gweithlu newydd fyddai'r ymarfer ffurfiol cyntaf ers ffurfio strwythur rheoli newydd y Cyngor yn 2023.

 

Roedd trosiant staff yn 2022/23 ar ei gyfradd uchaf o 12.4%. Fodd bynnag, o 2023/24 ymlaen bu gostyngiad mewn trosiant staff, 11.40% ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, a 9.12% rhwng mis Ebrill 2024 a mis Rhagfyr 2024. Fel rheol, byddai sefydliad yn anelu at gyfradd trosiant o 10% neu lai. Roedd yn bwysig nodi bod cyfradd trosiant Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn is na chyfartaledd y DU o 16%.

 

Roedd absenoldeb salwch yn cael ei fonitro'n fisol ac roedd yr adroddiad yn cynnwys data’r gorffennol er mwyn galluogi aelodau i nodi unrhyw dueddiadau. Yn 2023/2024, y diwrnodau gwaith cyfartalog a gollwyd oherwydd salwch oedd 9.12 diwrnod, sy'n ostyngiad ers y flwyddyn flaenorol (9.56 diwrnod). Roedd yr adroddiad yn cynnwys y 5 prif reswm dros absenoldeb, a oedd yn gyffredinol gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd cynnydd yn y rhesymau anhysbys dros absenoldeb ac roedd y tîm yn gweithio gyda'r holl wasanaethau i weld sut y gellid mynd i'r afael â hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr aelodau.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ar y data ar gyfer y diwrnodau a gollwyd ar gyfartaledd. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl fod y data yn cael ei gasglu fesul gweithiwr. Yn 2023/2024 roedd cyfartaledd o 9.12 diwrnod wedi eu colli oherwydd salwch  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

STRATEGAETH ECONOMAIDD A CHYNLLUN GWEITHREDU SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad gan y Tîm Datblygu Economaidd a Busnes (copi ynghlwm) sy’n gofyn am farn y Pwyllgor ar y Strategaeth Economaidd newydd ddrafft a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.

10.50am – 11.25am

 

 

EGWYL      11.25am – 11.35am

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

INCWM MEYSYDD PARCIO pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig a Chludiant (copi ynghlwm) sy’n gofyn am farn y Pwyllgor ar gynhyrchu incwm meysydd parcio ers gweithredu’r taliadau diwygiedig yn 2024/25 a’r camau gweithredu arfaethedig wrth symud ymlaen.                                                             

                                                                                                                    11.35am – 12.10pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth a’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar Incwm Meysydd Parcio i’r Aelodau.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth am yr incwm ychwanegol o feysydd parcio a ragamcanwyd y byddai’n deillio o gynyddu’r prisiau parcio, ymestyn yr oriau codi tâl am barcio a chodi tâl mewn meysydd parcio a oedd am ddim yn flaenorol. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd fwy o fanylion i'r aelodau, a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Fel rhan o’r gwaith i gyflawni arbedion a chynyddu incwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, cafodd y mesurau canlynol eu rhoi ar waith ar gyfer ein meysydd parcio, a rhagwelwyd y byddai’r rhain yn cynhyrchu £699 mil o incwm ychwanegol:

 

·       Cynyddu’r holl brisiau mewn meysydd parcio talu ac arddangos.

·       Ymestyn yr oriau codi tâl yn y meysydd parcio tan 11pm (5pm yn flaenorol)

·       Cynyddu prisiau trwyddedau meysydd parcio.

·       Codi tâl ar gyfer rhai meysydd parcio am ddim.

Roedd y cynnydd a ragwelwyd o £699 mil yn cynnwys £591 mil o’r cynnydd yn y prisiau, £60 mil o barcio min nos, £30 mil o godi tâl mewn meysydd parcio am ddim, a £18 mil o gynyddu’r pris am drwydded.  Mae eglurhad o ran cyfrifo’r ffigyrau unigol hyn yn Atodiad A yr adroddiad.  Fodd bynnag, mae’r rhagamcanion presennol yn amcangyfrif y bydd yr incwm ychwanegol o feysydd parcio ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 yn sylweddol is na’r targed a ragwelwyd yn wreiddiol.  Byddai cymhwyso cynnydd o 19.2% am weddill y flwyddyn ariannol yn arwain at £295 mil o incwm ychwanegol o gymharu â blwyddyn ariannol 2023/24.  Byddai hyn yn cynrychioli diffyg o £404 mil yn is na’r targed cynnydd incwm o £699 mil. 

 

Roedd yr hen dariffau a’r tariffau newydd i’w gweld yn Atodiad B. Mae’r tabl yn Atodiad C yn cymharu incwm talu ac arddangos fesul tref, ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Tachwedd 2024, gan gynnwys y misoedd hynny, ac ar gyfer yr un cyfnod yn 2023.  Dangoswyd gwahaniaeth mawr yn y cynnydd o ran incwm parcio mewn rhai trefi o gymharu â rhai eraill.

 

Mae’r polisi presennol o osod prisiau parcio yn ôl y math o faes parcio (h.y. boed yn arhosiad hir neu arhosiad byr) yn anhyblyg ac yn trin pob tref / pentref fel pe baent yr un fath, ac nid yw hyn yn wir.  Cynigiwyd creu system newydd i sicrhau bod tariffau yn seiliedig ar y galw. Byddai hyn yn golygu codi tariffau uwch ar feysydd parcio y mae galw mawr amdanynt a thariffau is ar gyfer meysydd parcio gyda llai o alw.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Roedd yr aelodau'n anghyfforddus ynglŷn â chodi tâl ar feysydd parcio di-dâl yn y Sir. Teimlwyd nad oedd digon o leoedd parcio am ddim yng nghanol trefi i alluogi ymwelwyr i ymweld a gwario arian. Eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd fod llawer o barcio am ddim ar ymyl y ffordd mewn trefi a phentrefi, ac y byddai data yn dangos hyn yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod yn y dyfodol. Roedd yn bwysig cael y cydbwysedd cywir rhwng parcio am ddim a pharcio am dâl.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd trwyddedau parcio'n cael eu hysbysebu, gan nad oedd llawer o drigolion yn ymwybodol ohonynt. Eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd fod hawlenni parcio yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor ac ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.  Roedd Canolfan Alwadau’r Cyngor hefyd yn eu hyrwyddo mewn ymateb i ymholiadau a gafwyd. Bu cynnydd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

12.10pm - 12.20pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r cyfarfod i drafod y rhaglen waith ar gyfer y Pwyllgor.

 

Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi’i drefnu ar gyfer 1 Mai 2025.  Roedd tair eitem ar y Rhaglen Waith.

·       Cofrestr Risgiau Corfforaethol: Adolygiad mis Chwefror 2025

·       Prosesau a Gweithdrefnau'r Cyngor ar gyfer gwneud cais am arian grant gwerth uchel

·       Cysylltedd y Rhyngrwyd a Theleffoni yn Sir Ddinbych

Mewn cyfarfod o’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu yn gynharach yn yr wythnos, roedd y Grŵp wedi cymeradwyo cais gan aelod am adroddiad ar faterion yn ymwneud â ‘Meddalwedd System Gynllunio’ i’w archwilio gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2025.  Yn ogystal, roedd cais brys yn debygol o ddod i law i’r Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Mai 2025, i archwilio’r cynigion a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth Addysg ar gyfer defnyddio’r £500K ychwanegol a ddyrannwyd iddo fel rhan o broses gosod cyllideb 2025/26. Roedd cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi'i drefnu ar gyfer 28 Ebrill ac anogwyd yr aelodau i gyflwyno Ffurflen Cynnig Aelodau os oedd ganddynt eitem yr hoffent iddi gael ei hystyried.

 

Roedd Rhaglen Waith y Cabinet ynghlwm yn Atodiad 3 er gwybodaeth ac roedd Atodiad 4 yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd penderfyniadau’r Pwyllgor. 

 

Penderfynwyd:

 

yn amodol ar gynnwys yr adroddiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, y pwnc a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu yn ei gyfarfod yn gynharach yr wythnos honno, ynghyd â’r posibilrwydd o gynnwys adroddiad ar ddefnyddiau posibl ar gyfer y cyllid ychwanegol a glustnodwyd ar gyfer y Gwasanaeth Addysg fel rhan o broses gosod cyllideb 2025/26 i’w gyflwyno yng nghyfarfod mis Mai 2025, i gadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

Oherwydd natur gyfrinachol y wybodaeth a fyddai’n cael ei thrafod o dan yr eitem ganlynol, cynigodd y Cynghorydd Bobby Feeley y dylid symud y cyfarfod i Ran II, eiliodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y cynnig.  Fodd bynnag, cwestiynodd rhai aelodau etholedig a oedd hyn yn briodol ac yn angenrheidiol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a’r Swyddog Monitro, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol yn ymwneud â busnes a materion ariannol y Cyngor a phartïon eraill, na fyddai’n briodol trafod cynnwys yr adroddiad mewn fforwm cyhoeddus ar hyn o bryd. Ar ôl derbyn y cyngor hwn, rhoddwyd pleidlais ar y cynnig i gynnal y drafodaeth mewn sesiwn breifat, a thrwy benderfyniad mwyafrif y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

10.

HAMDDEN SIR DDINBYCH CYF.

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) mewn perthynas â Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

12.25pm – 1pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a’r Swyddog Monitro yr aelodau drwy adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn manylu ar strwythur amgen arfaethedig ar gyfer Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. 

 

Bu'r Aelodau'n trafod yn fanwl amrywiol agweddau ar y dull amgen arfaethedig.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd cwestiynau ar faterion yn amrywio o:

·       gynigion y cyfranddalwyr

·       gwerth ariannol cyfredol pob agwedd ar fusnes Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig

·       graddau’r gwaith diwydrwydd dyladwy a wnaed ar y darpar fuddsoddwr a’i Gynllun Busnes arfaethedig

·       telerau ac amodau gweithwyr a hawliau pensiwn

·       rheoli cymhorthdal ​​a dadreoleiddio

·       dyfodol Fframwaith Hamdden y DU

·       effaith y cynigion ar y contract presennol rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, a threfniadau rheoli contract arfaethedig yn y dyfodol. 

Cafwyd atebion gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a’r Swyddog Monitro, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a Swyddog Adran 151 y Cyngor.

Cyn gadael y cyfarfod, cadarnhaodd Rheolwr-gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ei fod wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd staff i amlinellu'r cynigion ac ateb eu cwestiynau.  Roedd hefyd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr undebau llafur staff i drafod y cynigion.

 

Gadawodd cynrychiolwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor drafod y cynigion ymhellach gyda swyddogion y Cyngor ac ystyried ei argymhellion. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a’r Swyddog Monitro wrth yr aelodau fod cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir wedi'i drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2025 er mwyn trafod y cynigion yn fanwl cyn rhoi cyfle i bob aelod bleidleisio arnynt. 

 

Hyd yma, cynhaliwyd dau weithdy i'r holl aelodau i egluro'r cynigion a gyflwynwyd.  Yn ogystal, roedd cynrychiolwyr o Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig wedi cyfarfod â grwpiau gwleidyddol y Cyngor i ateb eu cwestiynau ar y cynigion.  Nod cyflwyno'r cynigion i'r Pwyllgor Craffu oedd ei alluogi i nodi pa wybodaeth bellach yr oedd angen ei chynnwys yn yr adroddiad i'r Cyngor Sir, er mwyn galluogi aelodau etholedig i wneud penderfyniad ar y cynigion. 

 

Ar ddiwedd trafodaeth ddwys, drwy bleidlais fwyafrifol:

 

Penderfynwyd: er mwyn galluogi’r Cyngor Sir i wneud penderfyniad gwybodus mewn perthynas â strwythur cwmni arall ar gyfer darparu gwasanaethau hamdden, y dylid darparu’r wybodaeth ganlynol i gynghorwyr sir cyn cyfarfod arbennig y Cyngor ar 26 Mawrth 2025 –

 

(i)             eglurhad ar ddiben a gwerth cynigion y cyfranddalwyr (gan gynnwys beth fyddai’n digwydd i gyfranddaliadau a ddychwelir i’r cwmni pan fyddai gweithiwr yn gadael ei swydd, ac a fyddai gweithwyr yn cael taliad am gyfranddaliadau a ddychwelwyd)

(ii)           manylion wedi’u gwirio am werth cyfredol asedau, benthyciadau a rhwymedigaethau Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, ynghyd â gwybodaeth am beth fyddai’n digwydd i’r rhain ar drosglwyddo pe bai strwythur y cwmni arall yn cael ei gymeradwyo

(iii)         darparu adroddiad prisio cyfredol ar Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ynghyd â mantolenni / cyfrifon cyfredol ar gyfer y busnes

(iv)         darparu adroddiad diwydrwydd dyladwy ar y darpar fuddsoddwr, gan gynnwys maint y gwaith diwydrwydd dyladwy a wnaed

(v)           darparu Cynllun Busnes arfaethedig y cwmni amgen posibl yn y dyfodol

(vi)         eglurhad ar Delerau ac Amodau gweithwyr yn y dyfodol o dan drefniadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth, gan gynnwys eu hawliau pensiwn a ddiogelir a’u hawliau pensiwn yn y dyfodol

(vii)        eglurhad o’r sefyllfa o ran rheoli cymhorthdal ​​a'r gofynion dadreoleiddio pe bai’r strwythur cwmni amgen arfaethedig yn cael ei gymeradwyo

(viii)      cadarnhad ar berchnogaeth a hawliau sy'n gysylltiedig â Fframwaith Hamdden y DU pe bai'r strwythur cwmni amgen arfaethedig yn cael ei gymeradwyo

(ix)         gwybodaeth am ymrwymiadau’r cwmni / buddsoddwr amgen posibl i fesurau lleihau carbon a chefnogi uchelgais y Cyngor i ddod yn ddi-garbon net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030

(x)           manylion y newidiadau sydd eu  ...  view the full Cofnodion text for item 10.