Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol a oedd wedi cael gwahoddiad i fynychu ar gyfer eitem fusnes 6.  Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis:  Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad hwnnw.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem fusnes 5, ‘Cefnogi a Monitro Darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref’, yn eu rôl fel Llywodraethwyr Ysgol:

 

Y Cynghorydd Ellie Chard            Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol Tir Morfa

Y Cynghorydd Bobby Feeley        Llywodraethwr AALl yn Ysgol Stryd Rhos

Y Cynghorydd Martyn Hogg         Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy

Y Cynghorydd Carol Holliday       Llywodraethwr Cyngor Tref/Cymuned ar gyrff llywodraethu Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa

Y Cynghorydd Alan Hughes         Llywodraethwr yn Ysgol Caer Drewyn

Y Cynghorydd Paul Keddie          Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Collen

Y Cynghorydd Diane King            Llywodraethwr yn Ysgol Christchurch

Neil Roberts                                 Llywodraethwr yn Ysgol y Parc

Y Cynghorydd Gareth Sandilands   Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa

 

 

Datganodd y Cynghorydd Andrea Tomlin gysylltiad personol yn yr un eitem fusnes gan ei bod yn gydnabod agos i unigolyn sy’n mynd trwy’r broses addysg ddewisol yn y cartref ar hyn o bryd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 406 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024.

 

 

 

Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

5.

ADDYSG DDEWISOL YN Y CARTREF pdf eicon PDF 399 KB

I ystyried a thrafod adroddiad am bolisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod mewn cysylltiad â chefnogi a monitro darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref.

 

10.10am – 11am

 

~~~~ EGWYL (11am – 11.15am) ~~~~

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German, adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor i dawelu meddwl yr Aelodau fod Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer Addysg Ddewisol yn y Cartref o fewn y Sir.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o’r gweithdrefnau sydd ar waith a chyfrifoldebau diogelu’r Cyngor.

 

Arweiniodd y Pennaeth Addysg yr Aelodau drwy’r adroddiad (a dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd addysgu gartref yn derm a ddefnyddiwyd pan fo rhieni yn dewis addysgu eu plant yn y cartref yn lle eu hanfon i’r ysgol. Roedd addysgu gartref yn adlewyrchu amrywiaeth o ddulliau ac roedd yn caniatáu ymagwedd unigol i blant sydd wedi'i deilwra i anghenion a diddordebau penodol pob plentyn.  Roedd nifer o rieni sy’n addysgu gartref yn teimlo eu bod yn gallu diwallu anghenion a steiliau dysgu eu plant yn fwy effeithiol nag mewn ystafell ddosbarth.

 

Nid oedd disgwyl i blant sy’n cael eu haddysgu gartref ddilyn y Cwricwlwm i Gymru nac unrhyw gwricwlwm penodol arall na bodloni meini prawf ar gyfer y nifer o oriau dysgu.  Gall y dull addysgu gartref amrywio ar gontinwwm o ddull addysgu ffurfiol, strwythuredig wedi’i seilio ar amserlen, drwodd i addysg awtonomaidd neu sy’n cael ei arwain gan blentyn.

 

Cyfrifoldeb y rhiant oedd darparu addysg addas, effeithlon, llawn amser, yn unol ag oedran, gallu a doniau’r plentyn.

 

Rôl yr Awdurdod Lleol oedd canfod plant neu bobl ifanc nad oeddent yn derbyn addysg addas, effeithlon, llawn amser.  Nid rôl yr awdurdod oedd darparu’r addysg, fodd bynnag, roedd cymorth gan yr ALl ar gael ac yn cael ei ddarparu pan ofynnir amdano. Gal yr awdurdod ymgymryd â’r rôl hon mewn sawl ffordd wahanol.  Y peth pwysicaf oedd ymgysylltu â’r teuluoedd mewn modd cadarnhaol a chefnogol a meithrin perthynas i sicrhau y gellir adnabod fod dysgu yn digwydd, ei fod yn addas ac yn gynaliadwy.

 

Cyn i ddysgwyr gael eu tynnu oddi ar gofrestr yr ysgol, dylid rhannu Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru gyda theuluoedd er mwyn iddynt wybod beth a ddisgwylir ganddynt er mwyn addysgu gartref.  Ar ôl i deuluoedd symud i Addysg Ddewisol yn y Cartref, byddai protocol Sir Ddinbych, a ddiweddarwyd ym mis Chwefror 2024 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw yn Atodiad 1), yn cael ei anfon at deuluoedd i’w cefnogi nhw i ddechrau arni.

 

Roedd ymweliad â’r cartref yn cael ei gynnig i bob teulu sy’n cynnig Addysg Ddewisol yn y Cartref i drafod y ddarpariaeth a ddarperir.  Roedd hyn yn ffordd effeithiol o gysylltu â phob teulu ac roedd yn gyfle gwych i gyfarfod â’r dysgwyr a chlywed eu safbwyntiau nhw.  Roedd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr egluro’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn eu geiriau eu hunain.  Nid oedd yn rhaid i deuluoedd dderbyn ymweliad â’r cartref ac roedd yn well gan rai teuluoedd anfon adroddiad addysgiadol neu adroddiad cefnogi gan drydydd parti i’r awdurdod addysg lleol (AALl).

 

Ar hyn o bryd, roedd gan Sir Ddinbych 158 o ddysgwyr ar y gofrestr Addysg Ddewisol yn y Cartref.  Bu cynnydd amlwg ers mis Awst 2016 pan mai 94 o ddysgwyr oedd ar gofrestr Addysg Ddewisol yn y Cartref yr ALl. Gall niferoedd y dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref amrywio yn ystod y flwyddyn ysgol.

 

Bob blwyddyn roedd yr ALl yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith dysgu teuluoedd sy’n Addysgu Gartref.  Ym mis Hydref 2023, dangosodd 76 o’r 141 o deuluoedd ar y gofrestr bryd hynny ddiddordeb a chawsant eu cefnogi’n ariannol.

 

Yn anffodus, yn unol ag Awdurdodau Lleol eraill, roedd gan Sir Ddinbych nifer fechan o  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

A YW SWYDDOGAETHAU CYMORTH CORFFORAETHOL Y CYNGOR YN EFFEITHIOL? pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad am gynnydd a wnaed hyd yma i fynd i’r afael â’r ddau argymhelliad a wnaed gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad ym Mai 2023 ynghyd â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer darparu digon o adnoddau ar gyfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymorth corfforaethol ehangach.

11.15pm – 12pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd adroddiad gwreiddiol Archwilio Cymru wedi archwilio trefniadau’r Cyngor ar gyfer ei Wasanaethau Corfforaethol o dan bedair adran, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol, Gwasanaethau Digidol ac Archwilio Mewnol. Roedd canlyniadau’r adolygiad yn gadarnhaol gyda dim ond dau argymhelliad, roedd ymatebion y Cyngor i’r argymhellion ynghlwm â’r adroddiad.  Roedd yr adroddiad yn edrych ar y weledigaeth a chyfeiriad strategol y swyddogaethau cymorth corfforaethol i ystyried os ydynt yn cefnogi amcanion y Cyngor yn effeithiol ac yn ddigonol. Bu i’r adolygiad hefyd ystyried os yw swyddogaethau cymorth corfforaethol y Cyngor yn cymryd ystyriaeth o’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl fanylion pellach i’r Aelodau o ran yr adroddiad a’i argymhellion.

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ymwneud ag Adroddiad Archwilio Cymru ar ‘A yw Swyddogaethau Cymorth Corfforaethol y Cyngor yn Effeithiol?’ dyddiedig Mai 2023 ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn yr adroddiad. Roedd yr adroddiad er mwyn i’r Pwyllgor ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma i ymdrin â’r ddau argymhelliad a wnaed gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad ym Mai 2023 ynghyd â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer darparu digon o adnoddau ar gyfer ei swyddogaethau Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol ehangach.

 

Bu i’r adolygiad ganfod fod gan swyddogaethau cymorth corfforaethol y Cyngor ddealltwriaeth dda o’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ond nid oedd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystyried yr egwyddor yn gyson yn ei holl waith archwilio, roedd rhai Polisïau Adnoddau Dynol wedi dyddio ac er bod gan y Cyngor drefniadau monitro priodol ar waith, nid oedd eto wedi ystyried amcanion strategol y dyfodol ac anghenion o ran adnoddau’r swyddogaethau a archwiliwyd.

 

Roedd yr adroddiad Archwilio yn gwneud dau argymhelliad a chafodd copi o ymateb Rheolwyr gwreiddiol y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Gorffennaf 2023 a gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGA). Ers cyhoeddi’r adroddiad roedd cynnydd sylweddol wedi ei wneud ar y camau gweithredu a nodwyd i ymdrin â’r argymhellion.  Cyfeiriwyd yr Aelodau at dabl o’r argymhellion o’r adroddiad a chynnydd y camau gweithredu hyd yma.  Allan o’r pedwar cam gweithredu, roedd dau o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau, un wedi’i gwblhau’n rhannol, ac roedd un cam gweithredu eto i’w gwblhau. 

 

Yn ymwneud ag argymhelliad un (R1) - adolygu polisïau sydd wedi dyddio, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl wrth yr Aelodau bod 50% o bolisïau'r Cyngor bellach wedi’u hadolygu ac yn gyfredol.  Roedd polisïau'n cael eu diweddaru pan oedd datblygiadau newydd o fewn y ddeddfwriaeth.  Roedd yr holl bolisïau'n cael eu hadolygu bob tair blynedd yn unol â Pholisi’r Cyngor, wrth symud ymlaen roedd yn bwysig bod adolygiadau anffurfiol o fewn y tair blynedd yn cael eu cofnodi’n rheolaidd. 

 

Yn ymwneud ag argymhelliad dau (R2) - cysondeb Archwilio Mewnol o ystyried yr egwyddor datblygu cynaliadwy, roedd Archwilio Mewnol bellach yn cynnwys cwestiynau i ganfod sut oedd gwasanaethau yn cydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy ac Allyriadau Carbon wrth ddatblygu’r cwmpas ar gyfer bob archwiliad a gynhelir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at baragraff 4.5 yr adroddiad yn ymwneud â bod gan Adnoddau Dynol 51 o bolisïau gwahanol a chwestiynwyd a oes angen cymaint ohonynt ac a ellir cyfuno rhai ohonynt.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl bod y 51 polisi sydd ar waith yn cynnwys cylch bywyd cyfan y gweithiwr, o recriwtio i adael neu ymddeol, roedd polisi ar gyfer bob agwedd o gyflogaeth gweithiwr gyda’r sefydliad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

12pm – 12.20pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen gwaith i’r dyfodol. 

 

Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi’i drefnu ar gyfer 18 Ebrill 2024.  Mewn ymateb i geisiadau gan swyddogion roedd y Cadeirydd wedi caniatáu i ddwy eitem fusnes gael eu gohirio o raglen fusnes y cyfarfod presennol i gyfarfodydd yn y dyfodol. Sef:

·       Argymhellion Arolwg Estyn 2018, gohiriwyd tan y cyfarfod ym mis Mehefin 2024; a

·       Strategaeth Datblygu Economaidd a Busnes, gohiriwyd tan gyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2024.  

Caniatawyd bod y ddwy eitem yn cael eu gohirio er mwyn rhoi mwy o amser i swyddogion ymgymryd â gwaith manwl mewn perthynas â’r testunau cyn eu cyflwyno ar gyfer Craffu.

Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi o ffurflenni Cynnig ar gyfer Craffu yr Aelodau ac anogwyd Aelodau i gwblhau’r ffurflen os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr oeddent yn meddwl y byddai’n haeddu eu craffu. 

 

Ers cyhoeddi’r papurau Pwyllgor, derbyniwyd cais i ohirio cyflwyno Strategaeth Ddiwygiedig Ddrafft ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/22 – 2029/30 o’r cyfarfod ym mis Ebrill i’r cyfarfod ym mis Mehefin, oherwydd newidiadau mewn personél.  Os oedd y Pwyllgor yn fodlon caniatáu'r aildrefnu hwn, byddai angen iddo symud eitem fusnes o’i gyfarfod ym mis Mehefin 2024 i ddyddiad arall.  Cytunwyd bod Adroddiad Perfformiad Cefndy 2023/2024 yn cael ei aildrefnu i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2024 i fodloni’r cais hwn.

 

Roedd Rhaglen Waith y Cabinet yn Atodiad 3 er gwybodaeth.

 

Roedd Atodiad 4 yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ar argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfodydd blaenorol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar gynnwys yr adroddiad gwybodaeth ar Addysg Ddewisol yn y Cartref ar gyfer mis Mawrth 2025, ac aildrefnu Strategaeth Ddiwygiedig Ddrafft ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/22–2029/30 o gyfarfod mis Ebrill i fis Mehefin ac Adroddiad Perfformiad Cefndy 2023/24 o gyfarfod mis Mehefin i fis Gorffennaf, cadarnhau ei raglen waith fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

12.20pm – 12.30pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor nad oedd wedi gallu mynychu cyfarfod diweddaraf Bwrdd Prosiect Marchnad y Frenhines ond cafodd wybod bod adeilad Marchnad y Frenhines bellach wedi’i drosglwyddo i’r Cyngor.   Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:   Llywodraethu a Busnes bod hynny’n wir.   Aelodau:

 

Penderfynwyd:  nodi’r wybodaeth a ddarperir.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm