Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelod Cyfetholedig Addysg, David Lloyd.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor fod Mr Lloyd hefyd wedi penderfynu’n ddiweddar na fyddai’n ail sefyll i’w ail-ethol i Gorff Llywodraethu un o ysgolion uwchradd y Sir. Felly, byddai ei gyfnod fel rhiant- lywodraethwr ac fel eu cynrychiolydd cyfetholedig ar bwyllgorau craffu’r Cyngor hefyd yn dod i ben ddiwedd mis Ionawr 2024. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Lloyd am ei gyfraniadau yn ystod ei gyfnod fel cynrychiolydd cyfetholedig rhiant-lywodraethwr cynradd ac uwchradd ar bwyllgorau Craffu. 

 

Croesawodd y Pwyllgor Colette Owen i’w chyfarfod cyntaf o’r pwyllgor craffu fel aelod cyfetholedig newydd yr Eglwys Gatholig ar bwyllgorau craffu’r Cyngor.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 5, ‘Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad mewn Addysg’, yn eu rôl fel llywodraethwyr ysgol:

 

Y Cynghorydd Ellie Chard              Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol Tir Morfa.

Y Cynghorydd Bobby Feeley         Llywodraethwr AALl yn Ysgol Stryd Rhos

Y Cynghorydd Martyn Hogg           Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol VP Llanelwy

Y Cynghorydd Carol Holliday        Llywodraethwr Cyngor Tref/Cymuned ar gyrff llywodraethu Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa

Y Cynghorydd Alan Hughes          Llywodraethwr yn Ysgol Caer Drewyn

Y Cynghorydd Paul Keddie           Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Collen

Y Cynghorydd Diane King             Llywodraethwr yn Ysgol Christchurch

Neil Roberts                                      Llywodraethwr yn Ysgol y Parc

Y Cynghorydd Gareth Sandilands Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa

 

 

Datganodd y Cynghorydd Andrea Tomlin gysylltiad personol yn yr un eitem gan ei bod yn adnabod aelod o’r tîm sy’n darparu’r gwasanaeth. 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 372 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023.

 

Materion yn codi

Eitem 6, y Diweddaraf ar Hunanasesiad Perfformiad y Cyngor - wrth ymateb i ymholiad a godwyd am argaeledd gwybodaeth ar fesurau cyrhaeddiad ysgol a sut yr adroddir arnynt yn y dyfodol, cytunodd y Pennaeth Addysg i holi swyddogion Llywodraeth Cymru.   

 

Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

5.

HYRWYDDO PRESENOLDEB YSGOL AC YMGYSYLLTIAD MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r sefyllfa bresennol i aelodau o ran presenoldeb ysgol ac ymgysylltiad mewn addysg.  Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio barn y Pwyllgor ar y dull a ddefnyddir gan yr awdurdod addysg lleol i gynyddu ymgysylltiad disgyblion mewn addysg.

10.10 am – 11.00 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German adroddiad ar Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad Mewn Addysg (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Eglurodd nad oedd lefelau presenoldeb yn yr ysgol wedi cyrraedd y lefelau cyn y pandemig, felly roedd angen mwy o waith i wella ymgysylltiad a lefelau presenoldeb.

 

Rhoddwyd gwybodaeth ac eglurwyd y mesurau i gefnogi disgyblion diamddiffyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg a dyfnhau dealltwriaeth o’r cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol wrth ymdrin â’r lefel gyfredol o bryder yn genedlaethol. 

 

Roedd cyfraddau presenoldeb dros y tair blynedd ddiwethaf wedi gostwng ar hyd a lled Cymru a’r cyfartaledd cyffredinol ar draws awdurdodau oedd 88.9% Cynradd/Uwchradd wedi’u cyfuno. Roedd dadansoddiad manylach o’r patrwm presennol yn Atodiad 3 ac roedd y ffigurau hyn yn dangos bod ffigurau presenoldeb cyfartalog Sir Ddinbych yn 90.1% yn ystod tymor yr hydref 2023 o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 91.3%.

 

Roedd Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddod â Chymru yn unol â Lloegr ble mae absenoldeb cyson yn cael ei ddiffinio fel colli 10% o sesiynau hanner diwrnod (30 sesiwn) yn hytrach na’r gyfradd absenoldeb gyfredol o 20% o absenoldeb cyson sy’n gyfwerth â 60 sesiwn hanner diwrnod y flwyddyn. 

 

Roedd Sir Ddinbych wedi cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol i ymdrin ag addysg ac ysgolion a’u cefnogi.

 

Roedd gwaith wedi bod yn cael ei wneud gydag ysgolion ar yr agwedd allweddol o deuluoedd oedd mewn trafferthion â thai gwael, byw mewn tlodi neu’n ei chael yn anodd gyda’r argyfwng costau byw, gan y byddai hyn yn cael effaith ar y plant.   Byddai ymgysylltu ag ysgolion a theuluoedd yn hollbwysig i wella presenoldeb.   Roedd swyddogion yn ymweld â theuluoedd mewn ymgais i ddeall pam nad oedd disgyblion yn mynd i’r ysgol ac yn ymgysylltu â’u haddysg, roedd cefnogaeth yn cael ei chynnig er mwyn annog ail-ymgysylltu a gwella lefelau presenoldeb.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd a’r swyddogion:

 

·         Roedd ymyriadau’n hanfodol, ond y prif anawsterau oedd nad oedd lefelau staff yn cynyddu i ymdopi â chynnydd mewn galw a phwysau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol ond roedd wedi bod yn anodd penodi.  

·         Roedd ymyriadau’n amrywio o un ysgol i’r llall hefyd gan fod presenoldeb da mewn rhai ysgolion, oedd cystal os nad gwell na’r lefelau cyn y pandemig, ond roedd ar eraill angen cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol i wireddu gwelliannau.   

·         Roedd gwaith ar y gweill gyda theuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol, rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, ffoaduriaid, teuluoedd Sipsi, Roma a theithwyr, plant sy'n derbyn gofal ac ati gan eu bod yn ddisgyblion â nodweddion diamddiffyn.

·         O ran y rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, yn aml roedd gan y plant a theuluoedd hyn anghenion tai ac roedd yn bwysig bod y plant yn dod i’r ysgol i fod mewn amgylchedd diogel ac i gael un pryd poeth y dydd o leiaf. 

·         Roedd gan lawer o blant anghenion lles ac iechyd meddwl, ond nid oedd hyn yn esgus iddynt beidio â dod i’r ysgol. Roedd rhai plant hefyd yn gofalu am aelodau’r teulu, felly roedd yn bwysig bod eu hanghenion yn cael eu bodloni i’w galluogi i fynd i’r ysgol i wella eu canlyniadau i’r dyfodol. Mae pob plentyn ar ei ennill o fynd i’r ysgol. Roedd dull Un Cyngor ar waith er mwyn annog presenoldeb, ymgysylltiad a lles disgyblion. Roedd hyn yn cael ei ymestyn i sefydliadau allanol hefyd, hynny ydi ymarferwyr iechyd sy’n rhan o fywydau plant a’u teuluoedd/gofalwyr.

·         Roedd strategaeth gyfathrebu wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

 

Ar y pwynt hwn (11.30am), cafwyd egwyl o 15 munud. 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45am.

 

6.

SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELLOEDD pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) sy’n amlygu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn erbyn Safonau Cenedlaethol a cheisio sylwadau’r Pwyllgor mewn perthynas â chynnwys yr adroddiad.

11.15 am – 12.00 pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, y Cynghorydd Emrys Wynne, adroddiad Safonau a Pherfformiad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd (dosbarthwyd ymlaen llaw).  Fel rhan o’i gyflwyniad, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol fod y gwasanaeth wedi perfformio’n dda yn ystod 2022-23 ond cydnabu fod ganddo bryderon am allu’r Gwasanaeth i gynnal y perfformiad uchel hwn yn y tymor canolig oherwydd y sefyllfa ariannol yn y dyfodol. 

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 (wedi’i ymestyn i 21-23) a’r cynnydd a wnaed i ddatblygu llyfrgelloedd fel mannau lles a chadernid unigol a chymunedol.

 

Roedd yr adroddiad yn ymwneud â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23, oedd yn dal o fewn y cyfnod Covid. Ni ddisgwylir y bydd effaith y newidiadau arfaethedig ar berfformiad y gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad yn glir tan fis Ebrill 2024 ar y cynharaf.

 

Disgwylir y bydd Safonau Cenedlaethol Newydd yn cael eu sefydlu gyda chyhoeddiad 7fed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, sydd â dyddiad gweithredu arfaethedig o 1 Ebrill 2025.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Tai a Chymunedau, Liz Grieve y Prif Lyfrgellydd newydd, Deborah Owen i’r Pwyllgor. 

 

Cyn y trafodaethau, eglurodd y Pennaeth Tai a Chymunedau nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at y toriadau i oriau’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych. Yna aeth ymlaen i amlinellu’r broses a ddilynwyd i gynnal yr asesiad, gan bwysleisio bod y Cyngor yn perfformio’n dda dan y safonau presennol. Roedd perfformiad wedi gwella’n fawr wedi i’r cyfyngiadau Covid ddod i ben, er nad oedd y cyhoedd yn defnyddio cymaint ar gyfrifiaduron yn y llyfrgelloedd ers y pandemig.   Roedd darpariaeth gwasanaeth eraill wedi cael eu haddasu i ymateb i anghenion y cyhoedd wedi’r pandemig.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

  • Nad oedd Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn cymharu gwasanaeth llyfrgelloedd awdurdodau lleol unigol yn erbyn ei gilydd.
  • Roedd y gwasanaeth yn cynnig ehangu ymgysylltiad digidol yn y gwasanaeth llyfrgelloedd, o bosibl drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr i helpu i wella sgiliau digidol preswylwyr a chefnogi sefydliadau i gael cyllid i helpu i gefnogi rhai nad ydynt yn deall TG i gael a gwella eu sgiliau TG mewn amgylchedd ‘cyfeillgar/cefnogol’.   
  • Nid oedd y gwasanaeth yn defnyddio llawer ar wirfoddolwyr ar hyn o bryd.
  • Yn y dyfodol, byddai’r gwasanaeth yn archwilio cyfleoedd i greu mwy o incwm gan sefydliadau allanol er mwyn cynnal a gwella gwasanaethau er gwaetha’r toriadau i gyllidebau. Byddai hefyd yn gofyn am wybodaeth gan Wasanaethau Llyfrgell eraill ar ba gamau oeddent wedi eu cymryd i geisio cynnal gwasanaethau er gwaetha’r toriadau i gyllidebau.
  • Er nad oedd Gwasanaeth Llyfrgell Ysgolion bellach, roedd staff y llyfrgelloedd yn gweithio’n agos gydag ysgolion y sir ac roeddent wedi ymgysylltu â disgyblion blwyddyn 7 ac 8 yn ddiweddar er mwyn eu hannog i ymweld â’u llyfrgell leol a’i defnyddio fel cyfleuster ymchwil. Roedd disgyblion yn ystyried eu llyfrgelloedd ysgol fel mannau diogel ac roedd yn galonogol gweld cymaint o ddisgyblion yn gwirfoddoli i helpu ynddynt.
  • Fel rhan o’i waith cynllunio i’r dyfodol, bydd y gwasanaeth yn cynnal arolwg yn gofyn am farn y cyhoedd a’u syniadau am y math o wasanaethau yr hoffent weld eu llyfrgelloedd lleol yn eu darparu.
  • Nid oedd gan y gwasanaeth wybodaeth fanwl am faint o bobl oedd yn defnyddio’r gwasanaeth llyfrgelloedd a pha wasanaethau’n benodol, ond gellid rhoi data ar nifer yr aelodau o ward oedd yn aelodau gweithredol o lyfrgell.

 

Cadarnhawyd y byddai effaith y newidiadau i oriau agor llyfrgelloedd yn cael eu cynnwys yn adroddiad 2024/25, roedd adroddiad 2023/24 yn seiliedig ar yr oriau agor a’r defnydd presennol. Holodd yr aelodau pam bod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 243 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer 7 Mawrth 2024, gyda phedair eitem, a chyfarfod ar 18 Ebrill 2024 gyda 3 eitem.

 

Roedd yr Atodiad yn cynnwys copi o ffurflenni Cynigion Craffu’r Aelodau ac anogwyd yr aelodau i’w cwblhau os oedd ganddynt unrhyw eitemau fyddai’n addas i graffu arnynt. Byddai’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGC) yn cyfarfod yr wythnos ganlynol i ystyried unrhyw geisiadau a gafwyd. Yn eu cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd 2023, roedd y GCIGC wedi ychwanegu un eitem at y rhaglen waith i’w hystyried ym mis Tachwedd 2024, oedd yn ymwneud â ‘phrosesau a gweithdrefnau’r Cyngor ar gyfer ymgeisio am gyllid grant gwerth uchel’.

 

Roedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn Atodiad 3 er gwybodaeth.

 

Roedd Atodiad 4 yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ar argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfodydd blaenorol.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at baragraff 4.8 yr adroddiad oedd yn dangos y rhesymeg dros beidio â chyflwyno adroddiadau Monitro Perfformiad y Cynllun Corfforaethol mor aml i’r Pwyllgor o hyn ymlaen. Pwysleisiwyd mai dim ond adroddiadau Chwarter 1 a 3 oedd yn cael eu tynnu’n ôl. Lluniwyd yr adroddiadau hyn er gwybodaeth i’r Pwyllgor ac nid oeddent yn cael eu cyflwyno’n ffurfiol i’w trafod.   Byddai adroddiadau Chwarter 2 a 4 / adroddiadau Perfformiad Blynyddol yn parhau i gael eu cyflwyno i’w trafod yn ffurfiol. Yn y cyfamser, pe bai’r aelodau’n dymuno gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain ar berfformiad y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau neu olrhain cynnydd prosiectau penodol, gallent wneud hynny drwy ddefnyddio’r system rheoli perfformiad corfforaethol, Verto. Gallai pob aelod ofyn am fynediad at system Verto.  

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar gynnwys yr eitemau a ychwanegwyd yn ystod y trafodaethau yn y cyfarfod, i gadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel roedd wedi’i nodi yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

8.

ADBORTH GAN CYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd, y cynrychiolydd Craffu ar Fwrdd Prosiect Marchnad y Frenhines, nad oedd y Bwrdd wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Holliday, cynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Her Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gwasanaeth Digartrefedd, drosolwg o’r trafodaethau a gynhaliwyd yn y cyfarfod Her Gwasanaeth diweddar. Roedd amodau llety a’r costau cynyddol i gartrefu teuluoedd digartref yn rhan allweddol o’r trafodaethau. 

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd nad oedd y Grŵp Craffu Cyfalaf wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Roedd ei gyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer y diwrnod canlynol a chytunodd y Cynghorydd Sandilands i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y trafodaethau yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm