Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Diane King.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitemau 6 a 7 ar y rhaglen:

 

Cynghorydd Ellie Chard - Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol Tir Morfa.

Cynghorydd Chris Evans - Llywodraethwr AALl yn Ysgol Tir Morfa

Cynghorydd Martyn Hogg - Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol VP Llanelwy

Cynghorydd Carol Holliday - Llywodraethwr yn Ysgol Penmorfa

Cynghorydd Alan Hughes - Llywodraethwr AALl yn Ysgol Caer Derwyn

Neil Roberts - Llywodraethwr yn Ysgol y Parc

Cynghorydd Gareth Sandilands – Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa

 

Hefyd datganodd y Cynghorydd Gareth Sandilands gysylltiad personol yn eitem busnes 8 gan ei fod yn ymddiriedolwr annibynnol y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda'r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 422 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 (copi ynghlwm).

 

10.05am – 10.10am

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023.   .

 

Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

5.

RECRIWTIO, CADW A CHYNLLUNIO’R GWEITHLU pdf eicon PDF 238 KB

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Dros Dro Gwasanaeth Adnoddau Dynol am Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu (copi ynghlwm).

 

10.10am – 10.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth a chynnydd cynllun y gweithlu, gan gynnwys gweithgareddau recriwtio a chadw staff, a data mewn perthynas â throsiant ac absenoldeb salwch ar gyfer 2022/2023.

 

Cytunodd y Cyngor ar gynllun gweithlu ym mis Ionawr 2022, ynghyd â Chynllun Gweithredu i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt. Cyflwynwyd y cynllun a’r cynllun gweithredu i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Mawrth 2022. Roedd yr adroddiad cyfredol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y cynllun gweithredu.

 

Atodwyd nifer o atodiadau i’r adroddiad gan gynnwys adroddiad archwilio mewnol ar gynllunio’r gweithlu i hysbysu’r Aelodau o gapasiti a gwytnwch. Roedd yr archwiliad yn cadarnhau bod yna fentrau a strategaethau cadarn ar waith i gefnogi’r Cynllun Gweithlu Corfforaethol. 

 

Croesawodd yr Aelod Arweiniol y Swyddogion a oedd yn bresennol i amlinellu prif bwyntiau’r adroddiad.

 

Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro:  Datganodd Adnoddau Dynol bod tri phwnc wedi’u hamlygu oddi fewn yr adroddiad, a’r rhain oedd Recriwtio, Cadw ac Absenoldeb Salwch. Diolchwyd i’r Tîm Archwilio Mewnol am eu Harchwiliad o’r Cynllun Gweithlu a chroesawyd argymhellion o’r Archwiliad.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r adroddiad i’r Aelodau:-

 

·       Darparwyd ystadegau trosiant yn atodiad 2 o’r adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr ystadegau trosiant ar sail y nifer o adawyr sydd yn gadael y sefydliad. Roedd ffigwr trosiant y sefydliadau'r uchaf yr oedd wedi bod yn y 6 blynedd diwethaf ac yn 11.6%. Fodd bynnag, roedd hyn dal yn unol â’r ffigurau cyfartaledd cenedlaethol y DU.

·       Roedd y tueddiadau yn unol ag ystadegau’r DU.

·       Roedd trosiant staff mewn adrannau benodol yn uwch ac roedd y rhain yn cael eu hymdrin drwy’r dulliau a restrir o fewn yr adroddiad.

·       Roedd y sefydliad yn recriwtio mwy o staff na 12 mis yn ôl.

·       Roedd recriwtio yn digwydd yn y mwyafrif o adrannau, fodd bynnag, roedd rhai swyddi a hysbysebir yn cymryd amser hirach i recriwtio nag eraill.

·       Y maes fwyaf o ffocws ar gyfer recriwtio oedd mewn Gofal Cymdeithasol.

·       Roedd y sefydliad wedi cynnal gweithdai recriwtio ac yn edrych ar gynnydd graddfa gyrfa i staff presennol a lle bo’n bosibl y diwygiadau yn cael eu hystyried mewn perthynas â thelerau ac amodau.

·       Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro:  Roedd AD yn gweithio gyda Chynghorau eraill ar sail genedlaethol i fynd i’r afael â phroblemau tâl gyda staff asiantaeth.

·       Roedd y tîm AD yn teilwra eu cefnogaeth i fodloni anghenion y rolau a oedd yn cynnwys llenwi ffurflenni gais a defnyddio’r adnoddau marchnata cywir i hysbysebu.

·       Roedd yr arfer gorau'r awdurdod lleol a’r DU yn cael ei adolygu i sicrhau bod y sefydliad yn gwneud y gorau o gyfleoedd recriwtio.

·       Y ddau rwystr sy’n wynebu recriwtio o fewn y sefydliad yw gweithio hyblyg a thâl.  Roedd cyfraddau cyflog awdurdod lleol ar gyfer rhai swyddi yn is na’r rheiny ar gyfer swyddi tebyg o fewn cyrff cyhoeddus eraill.  Fodd bynnag, cytunwyd bod cyfraddau tâl yn cael eu cytuno ar lefel cenedlaethol a ddim ar sail leol, felly roedd pwerau’r Awdurdod mewn perthynas â chyfraddau tâl amrywiol yn eithaf cyfyngedig. 

Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro:  Parhaodd AD i roi trosolwg o absenoldeb o ran salwch i Aelodau:-

·       Y cyfartaledd diwrnodau a gollwyd oherwydd salwch yn 2022/2023 oedd 9.5, a oedd yn ychydig o leihad ar y flwyddyn flaenorol.

·       Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fod yn un o’r cynghorau arweiniol yng Nghymru o ran rheoli absenoldeb.

·       Roedd polisi monitro absenoldeb cadarn mewn lle.

·       Roedd straen personol gweithwyr wedi lleihau.

·       Roedd absenoldeb oherwydd Covid wedi parhau yn un o’r prif resymau dros absenoldeb yn ystod y 12  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CWRICWLWM I GYMRU pdf eicon PDF 224 KB

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru (copi ynghlwm).

 

10.45am – 11.15am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf o Gwricwlwm Cymru  (a ddosbarthwyd o flaen llaw)  i’r Aelodau.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed gan ysgolion ers i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn statudol i holl ddysgwyr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd hynny a ddewisodd ddechrau ym Mlwyddyn 7, ym Medi 2022.  Hefyd, mae’r adroddiad yn cynnig gwybodaeth ar sut mae ysgolion uwchradd a lleoliadau wedi bod yn paratoi i gychwyn addysgu’r Cwricwlwm i Gymru ym Mlynyddoedd 7 ac 8 o Fedi 2023 yn unol â’r amserlen cyflwyno cenedlaethol.

 

Arweiniodd y Prif Reolwr Addysg yr Aelodau drwy drosolwg o’r adroddiad.

 

Ym mis Medi 2022, daeth y Cwricwlwm i Gymru yn statudol i holl ddysgwyr o’r Meithrin i Flwyddyn 6. Rhoddwyd y cyfle i ysgolion uwchradd i ddechrau gyda Blwyddyn 7 ym Medi 2022.  Dewisodd un ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych dderbyn y cynnig.  Bydd bob ysgol uwchradd a lleoliad yn dechrau gyda’r Cwricwlwm i Gymru ym mlynyddoedd 7 ac 8 ym Medi 2023.

 

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn fframwaith cenedlaethol gyda’r Pedwar Diben fel y weledigaeth a rennir. Mae’r fframwaith yn seiliedig ar yr egwyddorion o ddilyniant i holl ddysgwyr ac yn gofyn i ysgolion ddylunio eu cwricwlwm lleol eu hunain yn seiliedig ar eu dysgwyr a’r gymuned.

 

Roedd nifer uchel o waith wedi’i gyflawni gan bob ysgol gynradd yn Sir Ddinbych i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Roedd yr holl ysgolion cynradd wedi bodloni’r gofynion statudol i’w galluogi i ddarparu cwricwlwm newydd. Roedd hyn yn bosibl oherwydd y gwaith cydweithio ar draws pob ysgol o fewn y rhanbarth, yn rhannu arferion da ac ymgysylltu dealltwriaeth gyffredin.

 

Mae gwaith cydweithio gan ysgolion uwchradd wedi bod yn ffactor sylweddol wrth gefnogi athrawon i ddeall y galw am gwricwlwm newydd a’r lefel o hyblygrwydd oddi fewn. 

 

Mae Cwricwlwm Cymru yn ffocysu ar ddysgu parhaus i blant o 3 oed a hŷn, yn caniatáu dysgwyr fod yn rhan o’u haddysg. 

 

Mae nifer o agweddau o’r cwricwlwm yn cael eu hadolygu megis addysgu, dysgu a chynnydd, ac roedd ysgolion o fewn y rhanbarth wedi bod yn eglur iawn am eu llwyddiannau hyd yma.

 

Roedd 9 ysgol cynradd wedi cael eu harchwilio yn ystod y flwyddyn ysgol ac roedd llawer yn cael eu cydnabod am ddangos gweledigaeth cryf ar gyfer y cwricwlwm, ac yn adnabod pan fo dysgwyr yn ffynnu yn yr amgylchedd.

 

Dywedodd y Prif Reolwr Addysg bod holl ysgolion o fewn y rhanbarth wedi gweithio’n galed iawn i groesawu’r cwricwlwm newydd ac wedi parhau i ddatblygu a diffinio eu darpariaeth cwricwlwm i fodloni anghenion holl ddysgwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Addysg ac Aelod Arweiniol am eu hadroddiad a chroesawyd cwestiynau.

 

Gofynnodd Aelodau sut oedd yr ysgolion yn cynllunio ar gyfer trosglwyddiad o ddysgwyr o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 heb ddarparu unrhyw ddata.

 

Hysbysodd y Prif Reolwr Addysg  yr Aelodau bod ysgolion cynradd yn defnyddio asesiadau darllen a rhifedd wedi ei bersonoli i hysbysu gallu dysgwyr ysgolion uwchradd. Mae ysgolion cynradd wedi bod yn gweithio yn eu clwstwr yn edrych ar ystod holistaidd ehangach o wybodaeth y gellir ei roi i ysgolion uwchradd, megis agweddau tuag at ddysgu a lles i gynorthwyo’r trosglwyddiad o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.

 

Cadarnhaodd yr Aelodau eu cefnogaeth lawn i’w cwricwlwm newydd, fodd bynnag, gofynnwyd a oedd pwysau sy’n berthnasol i weithredu’r cwricwlwm newydd yn dylanwadu athrawon i adael y proffesiwn.

 

Dywedodd arweinydd craidd cynradd GwE Sir Ddinbych bod llawer iawn o waith o fewn yr Awdurdod Lleol ac o fewn ysgolion i helpu rheoli’r newid i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, Fodd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY) pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg am drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (copi ynghlwm).

 

11.30am – 12pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad ar y (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Aelodau.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y camau a gymerwyd i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn barod i fodloni’r gofynion statudol sydd arnynt o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a ddechreuodd ym mis Medi 2021 ac sydd ar waith tan 2025.  Roedd y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi caniatau estyniad ar y cyfnod gweithredu oherwydd yr adborth a ddaeth i law gan ysgolion.

 

Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn disodli Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (2002), sydd mewn grym ar hyn o bryd. Bydd y Ddeddf newydd yn cael ei chefnogi gan reoliadau a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r Ddeddf yn disodli’r termau ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’ (AAD). Bydd hyn yn disodli cynlluniau presennol, megis Cynlluniau Addysg Unigol, Datganiadau AAA a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau.

 

Aeth y Swyddog Cynhwysiant drwy’r adroddiad ar drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gyda’r Aelodau.

 

Mae hyfforddiant ar ddiwygiadau ADY yn parhau i gael ei ddarparu i dimau’r awdurdod lleol (ALl) pan fo angen. Mae’r ALl yn parhau i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion lle bo’r angen. Yng nghyfarfodydd diweddar Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mae systemau a phrosesau ysgolion wedi eu trafod, eu rhannu a’u harchwilio, a chafwyd gweithdy ar ysgrifennu Cynlluniau Datblygu Unigol.

 

Mae cyllid Cynhwysiant Ysgolion wedi’i ddirprwyo’n llawn i ysgolion fel y cytunwyd yn y fforwm cyllideb ysgolion.

 

Mae Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam bellach wedi rhoi’r system TG ranbarthol (system ADY Eclipse) ar waith sy’n eu galluogi i reoli'r prosesau ADY newydd. Mae TG Sir Ddinbych, ynghyd â chydweithwyr rhanbarthol, yn parhau i weithio ar fireinio’r system.

 

Mae’r Tîm o Amgylch yr Ysgol wedi ei sefydlu er mwyn parhau i fodloni gofynion presennol y broses Asesu Statudol a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 mewn perthynas ag ymyrraeth gynnar ac atal, a nodi anghenion dysgu ychwanegol yn gywir ac yn brydlon.  Yr ydym yn parhau i weithio gydag ysgolion i lunio eu darpariaeth, gan gynnwys ymyraethau a strategaethau y maent yn eu defnyddio i gefnogi dysgwyr gydag ADY a dysgwyr heb ADY.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu diweddariad a chroesawyd cwestiynau gan yr aelodau.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd gan ysgolion adnoddau ac amseroedd digonol i gynllunio’n effeithiol i ADY a gofynnwyd a yw’r cyllid cyfredol ar gyfer trawsnewid yn cael ei weithredu.  Hysbysodd y Swyddog Cynhwysiant wrth yr Aelodau bod ychydig o gyllid gan Lywodraeth Cymru o ran grantiau i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu’r trawsnewid. Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd bod y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi ymateb i bryderon a godwyd mewn ysgolion mewn perthynas â’r gyllideb, a dyraniad o £12 miliwn wedi’i wneud i gefnogi adnoddau a buddsoddiad £1 miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i Ysgolion Arbennig i alluogi’r trawsnewid gael ei weithredu’n llwyddiannus.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd adborth gan y Penaethiaid a gyfeiriwyd at yn yr adroddiad, yn datgan bod cyllid yn cael ei amlygu i gynghorwyr lleol fel prif bryder i ysgolion yn yr ardal pryd bynnag yr oeddynt yn siarad gyda phenaethiaid lleol.

 

Gofynnodd Aelodau am eglurhad ar y system ADY Eclipse newydd a gofynnwyd a oedd y system ar gyfer athrawon i wneud diagnosis o blant gydag ADY.  Hysbysodd y Swyddog Cynhwysiant yr Aelodau bod y System TG Eclipse yn cael ei weithredu i gofnodi prosesau statudol a oedd yn cymryd lle. Os  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 310 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm).

 

12pm – 12.30pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Aelodau.

 

Mae’n rhaid bob Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru lunio adroddiad blynyddol sy’n crynhoi eu safbwynt ar effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod a gwelliannau i’w blaenoriaethu.  

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau, Moderneiddio a Lles wrth yr Aelodau drwy’r Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd bod yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf ynghyd â chynnydd Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion  a Phlant.

 

Roedd y galw ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol wedi cynyddu ac roedd gweithwyr Gofal Cymdeithasol wedi gweithio’n galed iawn i fodloni anghenion eu cymunedau lleol. Fodd bynnag, roedd yn bwysig nodi nad oedd y gwasanaeth gofal cymdeithasol wedi datblygu mor dda ac yr oeddynt wedi’i ddymuno, roedd hyn oherwydd heriau cenedlaethol a chyfyngiadau cyllideb. Roedd recriwtio a chadw yn parhau i fod yn anodd o fewn y Sector Gofal Cymdeithasol.

 

 

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd Aelodau am fanylion ar sut mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ceisio recriwtio gweithwyr yn y sector.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth yr Aelodau bod recriwtio a chadw yn un o’r heriau mwyaf y mae’r sector yn ei wynebu. Rhoddwyd manylion ar y Gweithgor Recriwtio a Chadw Gofal Cymdeithasol sydd yn cyfarfod yn rheolaidd. Roedd cynnydd yr heriau oedd yn berthnasol i recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, a’u heffaith posibl ar allu’r Cyngor i ddarpar wasanaethau i breswylwyr, ac roedd Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn amlygu’r ffocws cynyddol gan yr uwch dîm rheoli’r Awdurdod i’w faes o waith.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd bod recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol rheng flaen yn un o’r heriau mwyaf y Gwasanaeth ar hyn o bryd, gyda ffactorau allanol megis cyflogau uwch yn cael eu talu gan sefydliadau cyhoeddus eraill mewn swyddi tebyg neu swyddi llai o straen o fewn y sector masnachu yn gwaethygu’r sefyllfa.  Roedd sefydliadau cenedlaethol yn gweithio ar hyn o bryd ar ddatrysiadau posibl i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal awdurdod lleol a hefyd edrych ar bosibilrwydd o ddefnyddio recriwtio dramor. Roedd swydd wag yn cael eu hysbysebu’n gyson ac roedd agweddau o’r broses recriwtio wedi eu hymlacio i’w wneud yn broses ar sail asesiad yn hytrach na phroses ar sail cyfweliad. Roedd y tîm wedi ymweld ag ysgolion a cholegau i atynnu pobl iau i mewn i’r sector.

 

Gofynnodd Aelodau os oedd unrhyw gynlluniau i gael gwasanaeth seibiant mewnol i ofalwyr.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Plant wrth yr Aelodau bod achos busnes yn cael ei ddatblygu ar gyfer gwasanaeth seibiant ac roedd yn angen a nodwyd ac wedi ymrwymo i weithredu hyn yn y dyfodol.

 

Roedd yr Aelodau yn teimlo nad oedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar agweddau o wasanaeth gofal cymdeithasol nad oedd yn perfformio’n dda. Hefyd gofynnodd yr Aelodau am ddata ar y nifer o bobl oedd wedi cael eu recriwtio a nifer o swyddi gwag o fewn y sector. Teimlwyd bod y wybodaeth hon yn galluogi Aelodau a’r cyhoedd i ddeall cyd-destun yr anawsterau yr oedd y sector gofal cymdeithasol yn ei wynebu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yr adroddiad a gyflwynwyd yn dilyn strwythur penodol o ran y wybodaeth oddi fewn a’r gynulleidfa yr oedd wedi ei baratoi ar ei chyfer. Roedd y ffigurau a’r nifer y bobl oedd yn cael eu recriwtio a’r nifer o swyddi gwag yn newid yn gyson.

 

Cyfeiriodd Aelodau ar y Cynllun Micro-Ddarparwyr a gofynnwyd beth oedd effaith y cynllun ar ofal a oedd yn cael ei ddarparu o fewn y gymuned.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

12.30pm – 12.45pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen gwaith i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth yr aelodau y byddai’n rhesymol i ddod adroddiad Cwricwlwm Cymru ac adroddiad Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ôl i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Medi 2024. Dilynwyd hyn gyda’r Aelodau yn gofyn i Benaethiaid ddod i’r cyfarfod nesaf i gael adborth ganddynt.

 

Cynhelir y Pwyllgor Craffu Perfformiad nesaf ar 28 Medi 2023, mae pedwar eitem arfaethedig ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.       Darparu darpariaeth cwricwlwm ac allgyrsiol cyfrwng Cymraeg yn ysgolion y sir.

2.       Adroddiad Cynnydd Crist y Gair

3.       Ymagwedd yr Ysgol Gyfan tuag at Les

4.       Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai a Digartrefedd Sir Ddinbych.

Trefnwyd cyfarfod o Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 25 Gorffennaf, ac atgoffwyd Aelodau i lenwi’r ffurflen berthnasol os oedd ganddynt bynciau yr oeddynt yn dymuno eu hystyried.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at atodiad 4 a oedd yn cynnwys cynnydd ar argymhellion y Pwyllgor o’r cyfarfod blaenorol. Hysbysodd y Cydlynydd Craffu'r Aelodau bod cama gweithredu gan yr Hunanasesiad Perfformiad y Cyngor mewn perthynas â Chynllun Cludiant Cynaliadwy i Sir Ddinbych yn datblygu ac roedd ymholiadau wedi cael eu gwneud mewn perthynas â phryd y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y diwygiadau a’r ychwanegiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac a gytunwyd yn ystod y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12.45pm – 1pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd yr Is-gadeirydd yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Herio Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad grynodeb i’r aelodau o drafodaethau a oedd wedi digwydd yn y cyfarfod hwnnw, yn egluro ei fod wedi ei gael yn gyfarfod llawn gwybodaeth ac adeiladol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, yn ei swydd fel cynrychiolydd y Pwyllgor Craffi ar y Bwrdd Prosiect Queen’s Building, wrth y Pwyllgor bod yr adeilad bron â gorffen a bydd yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor yn y dyfodol agos.  Yn y cyfamser, mae gweithredwr wedi ei benodi ar gyfer y cyfleuster a fyddai’n dechrau ar y gwaith yn fuan o recriwtio busnesau i weithredu oddi fewn y cyfleuster.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am eu presenoldeb yn y cyfarfod ac am eu cyfraniadau.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.05pm.