Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gyfarfod 4, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Huw Jones (Cadeirydd), Martyn Holland, Bob
Murray, Peter Scott a Geraint Lloyd Williams. Yn absenoldeb y
Cadeirydd, cadeiriodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Hugh Irving y cyfarfod hwn. Gwnaeth y Pwyllgor
anfon eu cofion cynnes a’u dymuniadau am adferiad buan i’r Cynghorydd Huw
Jones. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater
a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Derbyniwyd datganiadau o gysylltiad personol ar gyfer eitem 6 ar y rhaglen,
Canlyniadau Arholiadau Allanol a Wiriwyd. ·
Ellie
Chard, Llywodraethwr yn Ysgol Tir Morfa ·
Anne
Davies, Llywodraethwr yn Ysgol y Castell ·
Arwel
Roberts, Llywodraethwr yn Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant ·
Hugh
Irving, Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: None |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 470 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd
2019. Materion yn Codi
- Hafan Deg, y Rhyl –
cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod y daflen newydd i hyrwyddo’r gwasanaeth
wedi’i dosbarthu drwy’r ardal. Ymweliad aelodau
Gofal Iechyd Cefndy – gofynnodd y Cydlynydd Craffu am gadarnhad mai un ymweliad
ar gyfer yr holl aelodau oedd hwn, yn hytrach nag ymweliadau unigol, a
chytunodd y Pwyllgor. Penderfynwyd y dylid derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir. |
|
ADOLYGIAD O WASANAETHAU CYFLE GWAITH A DYDD PDF 218 KB Ystyried
adroddiad diweddaru (copi ynghlwm) ar gasgliadau a chanlyniadau'r adolygiad i
wasanaethau Cyfle Gwaith a Dydd mewnol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer oedolion
gydag Anableddau Cymhleth. 10:05 – 10:45 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Mewnol
Gofal Cymdeithasol i Oedolion (oherwydd rhesymau personol), cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes). Roedd yr adroddiad yn
cyflwyno canfyddiadau’r adolygiad o’r Gwasanaethau Gweithgareddau Cyfleoedd
Gwaith a Chyfleoedd Dydd i oedolion ag anableddau cymhleth. Dywedodd fod y Grŵp
Tasg a Gorffen wedi rhoi ystyriaeth yn ddiweddar i ganfyddiadau’r adolygiad ac
roeddent yn cytuno â’r casgliadau a luniwyd a’r argymhellion a gyflwynwyd. Yn ystod yr adolygiad, daeth yn amlwg fod defnyddwyr gwasanaeth, eu
teuluoedd a’u gofalwyr yn rhoi gwerth ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl ag
anableddau dysgu cymhleth, a bod nifer ohonynt am weld y gwasanaethau yn gwella
a datblygu. Daeth yr
Adolygiad i’r casgliad:
Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth: ·
roedd y Grŵp Tasg a Gorffen yn cefnogi’r cynigion ar
ôl cael sicrwydd y byddai’r unigolion hynny sy’n gweithio yng nghwmni Popty yn
parhau i allu cwrdd a chymdeithasu gyda chydweithwyr eraill sy’n gweithio gyda
nhw ar hyn o bryd yng Nghanol y Dre, gan fod nifer ohonynt yn cymryd rhan mewn
gwasanaethau cyfleoedd gwaith eraill ar ddiwrnodau eraill; ·
amcangyfrifwyd y byddai gwaith ailwampio i ddarparu ar
gyfer ad-leoli gwasanaethau i Neuadd y Sir ac i Ddinbych yn costio tua £120K -
£150K. Rhagwelwyd y
gellid ariannu’r gost hon yn rhannol trwy gais llwyddiannus i’r Gronfa Gofal
Canolraddol ac i Grŵp Buddsoddi Strategol y Cyngor ei hun. Dylai fod digon o
gyllid ar gael i osod yn erbyn y gost trwy’r derbyniad cyfalaf a fyddai ar gael
wrth werthu adeilad Canol y Dre hefyd; ·
ni fyddai bwlch o ran darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr
gwasanaeth presennol yn ystod y cyfnod pontio, mae’n bosibl y bydd gorgyffwrdd
oherwydd byddai’r pontio’n raddol gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu
cyflwyno i’w hamgylchedd newydd gan ddefnyddio dull ymgyfarwyddo fesul cam; ·
byddai penseiri ac arbenigwyr eraill yn cael eu
hymgysylltu i ddylunio cyfleusterau ystafell ymolchi a gorffwys priodol yn
Neuadd y Sir i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth, a ·
byddai datblygu Meifod Wood a Garden Control yn fentrau
cymdeithasol yn agor cyfleoedd i’r ddau wasanaeth a helpu i sicrhau y byddai
digon o staff ar gael dros gyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch ac ati. Roedd aelodau’r pwyllgor yn awyddus i ymweld â’r gwasanaethau presennol a
ddarperir o Ganol y Dre, Meifod Wood a Garden Control a chytunodd y Pennaeth
Gwasanaeth i hwyluso’r ymweliadau. Penderfynodd
y Pwyllgor adrodd i’r Cabinet
I.
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 1) yn rhan o’i ystyriaethau; II. yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU ALLANOL A DDILYSWYD PDF 304 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi ynghlwm) ar berfformiad asesiadau
athrawon a chanlyniadau arholiadau allanol yng Nghyfnod allweddol 4 ac ôl-16 yn
ysgolion Sir Ddinbych. Mae'r adroddiad hefyd yn darparu canlyniadau yn erbyn gwybodaeth
a pherfformiad cenedlaethol. 10:45 – 11:15 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd
eisoes) gan bwysleisio mai un o’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth ar hyn o bryd
oedd eu bod yn darparu gwasanaethau mewn cyfnod lle roeddent yn aros i gwricwlwm
newydd gael ei gyflwyno yn fuan. Roedd
hynny’n golygu eu bod yn darparu’r gwasanaeth ar hyn o bryd heb wybod pa
ddangosyddion y byddent yn cael eu hasesu yn eu herbyn, gan nad oeddent wedi’u
cytuno eto. Er bod ymarferwyr addysg yn
cydnabod bod y set gul o ddangosyddion a ddefnyddiwyd o’r blaen i fesur
cyrhaeddiad addysgol disgyblion wedi cael effaith andwyol ar ddisgyblion ac
ysgolion, nid oedd y data a gyflwynwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf
yn cyflwyno darlun gwir a chyfannol o gyrhaeddiad pob disgybl unigol. Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, gwnaeth yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth
Gwasanaeth, y Pen Reolwr Addysg a chynrychiolwyr GwE ddweud: ·
er bod elfen o gydberthyniad rhwng amddifadedd, tlodi a pherfformiad
addysgol gwael, roedd ffactorau cyfrannol eraill fel iechyd meddwl a materion
lles. Iechyd Meddwl oedd yr her fwyaf a
wynebir gan Addysg a Gwasanaethau Plant ar hyn o bryd; ·
Roedd Sir Ddinbych yn llwyr ymwybodol o lle roedd eu
disgyblion Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn cael eu haddysgu ac roedd ganddynt
broffil addysg a lles ar bob un, felly roedd swyddogion yn gwybod yn union beth
oedd eu hanghenion a’u galluoedd; ·
roedd llawer o waith yn ardaloedd o amddifadedd y sir yn
canolbwyntio ar drawsnewid plant ifanc i mewn i addysg; ·
roedd staff addysg y Sir a GwE yn olrhain cynnydd
ysgolion a disgyblion unigol yn rheolaidd ar bob Cyfnod Allweddol (CA) ac felly
gallent deilwra eu rhaglen gymorth i anghenion penodol pob ysgol unigol; ·
oherwydd gwaith arbrofol sy’n cael ei wneud yng ngham
CA3, ni ddylai’r gostyngiad mewn perfformiad ar y cam hwn beri pryder, oherwydd
roedd lleihad o ran cyrhaeddiad ar sail genedlaethol yn 2019; ·
roedd yn anodd cymharu perfformiad yn CA4 yn 2019 gyda
blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau sylweddol yn y rhaglen addysg yng
Nghymru a’r ffaith fod y cipio data cenedlaethol ar gyfer ysgolion unigol yn
seiliedig ar ganlyniadau mynediad cyntaf nawr.
Er hynny, bu gwelliant mewn canlyniadau Gwyddoniaeth; ·
roedd cyrhaeddiad disgyblion ar gyfer cymwysterau’r
Gymraeg yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yn nhri o’r pedwar cyfnod
allweddol. Roedd hynny’n adlewyrchiad ar
y buddsoddiad a wnaed yn y blynyddoedd diweddar mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn
y Sir; ·
nod y Gwasanaeth Addysg oedd i bob disgybl ac ysgol
gyflawni’r gorau a allent, a hynny’n gymesur â’u gallu, dyna pam mae pwyslais
yn Sir Ddinbych ar ddarparu gwybodaeth ansoddol glir a thryloyw ar gyrhaeddiad; ·
roedd canlyniadau arholiadau yn dangos un agwedd benodol
ar addysg ac roedd adroddiadau arolygu Estyn yn darparu darlun mwy cyfannol o
lawer a dadansoddiad o ansawdd addysg, gofal ac arweinyddiaeth a ddarperir gan
yr ysgolion a’r Awdurdod Addysg, oherwydd roeddent yn ystyried agweddau eraill
ar y cwricwlwm a gweithgareddau allgyrsiol a’u heffaith ar les cyffredinol
disgybl; ·
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych oedd
Cadeirydd presennol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. Felly roedd yn gallu
rhannu gyda Chyfarwyddwyr Addysg eraill profiad Sir Ddinbych o gyfuno Addysg a
Gwasanaethau Plant dan un pennaeth gwasanaeth a’r manteision roedd hynny’n eu
cyflwyno i ddyfeisio dull plentyn cyfan o ddarparu gwasanaethau; · nid oedd Ysgol Crist y Gair, sy’n ysgol pob oed, mewn sefyllfa i elwa o’r trefniadau ‘clwstwr’ effeithiol iawn sydd ar gael i ysgolion eraill yn y sir. Fodd bynnag, roeddent yn gallu gweithio gyda phenaethiaid ac ysgolion eraill i rannu profiadau ac arferion. Yn ddiweddar, roedd cynrychiolwyr o’r ysgol wedi mynychu cyfarfod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion ac er ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
FERSIWN DDRAFFT POLISI ENWI A RHIFO STRYDOEDD PDF 213 KB Ystyried
adroddiad adolygu (copi ynghlwm) gan y Gweinyddwr Perfformiad a Systemau
Rhaglen ar bolisi enwi a rhifo strydoedd Sir Ddinbych. 11:30 – 12:00 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad
Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) a chasgliadau’r adolygiad, a
oedd wedi’i gynnal ar gais y Pwyllgor Craffu yn dilyn eu pryderon nad oedd y
polisi yn adlewyrchu gofynion polisi Iaith Gymraeg y Cyngor yn iawn. Gwnaeth y Gweinyddydd Systemau Perfformiad a Rhaglen amlinellu’r camau a
gymerwyd fel rhan o’r adolygiad, a oedd yn cynnwys ceisio arweiniad a chyngor
gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Hysbyswyd yr aelodau:
Soniodd Aelodau fod Sir Ddinbych wedi mabwysiadu polisi o ddisodli pob
arwydd enw stryd gydag arwyddion dwyieithog, adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym
1996, fodd bynnag nid oedd y rhaglen ddisodli hon wedi’i chyflawni’n llawn. Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts am i’r ffaith ei fod yn anghytuno â’r
polisi o beidio disodli arwyddion enwau stryd Saesneg, fel roedd angen eu
disodli, gydag arwyddion dwyieithog, gael ei chofnodi. Penderfynwyd: - yn amodol ar yr
arsylwadau uchod a’r gwrthwynebiad a nodwyd,
i.
bod strydoedd newydd yn cael eu henwi yn Gymraeg yn
unig;
ii.
bod y dewis i enwi strydoedd ar ôl unigolion yn
cael ei dynnu o’r polisi;
iii.
diwygio’r polisi i adlewyrchu hyn a’i gyflwyno i’r
Cabinet ei gymeradwyo; a
iv.
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 5) yn rhan o’i ystyriaethau |
|
SAFONAU GWASANAETH LLYFRGELL 2018-19 A STRATEGAETH DDRAFFT Y GWASANAETH LLYFRGELL PDF 222 KB Ystyrid
canlyniadau gwerthusiad blynyddol LlC o Wasanaeth Llyfrgell y Cyngor ac
archwilio’r Strategaeth ddrafft newydd ar gyfer y Gwasanaeth. 12:00 – 12:30 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd eisoes) gan bwysleisio bod Sir Ddinbych wedi bodloni’r 12 hawl
craidd a osodwyd gan Is-adran Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd (MALD) Llywodraeth Cymru
(LlC), yn ystod 2018-19. Hefyd, roedd
wedi cyrraedd 8 allan o 10 targed cyfansoddol o’r Dangosyddion Ansawdd yn
llawn, wedi cyrraedd un yn rhannol, ac wedi methu â chyrraedd y targed a oedd
yn ymwneud â chaffael deunydd darllen cyfredol fesul 1,000 o’r boblogaeth. Dywedodd y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid a’r Pen Lyfrgellydd wrth yr
Aelodau fod Gwasanaeth Llyfrgell y Sir yn hynod o boblogaidd gyda phreswylwyr a
bod llawer o ddefnyddwyr yn ymweld â’r llyfrgelloedd, fel roedd yr ystadegau yn
dangos. Y rheswm dros
hyn oedd fod y Gwasanaeth Llyfrgell yn darparu’r gwasanaethau oedd eu heisiau
ar breswylwyr ac roedd yn helpu preswylwyr i gael mynediad i wasanaethau’r
Cyngor a gwasanaethau eraill wrth eu cartrefi. Roedd y gwasanaeth llyfrgell modern yn fwy o lawer na gwasanaeth benthyca
llyfrau, roedd yn helpu i gyflawni Strategaeth Wirfoddoli’r Sir, cefnogi
darparu’r agenda iechyd a lles a chynnal cyfarfodydd cymdeithasol i bob grŵp
oedran, yn amrywio o fabis i’r henoed, a oedd yn helpu i leddfu arwahanrwydd
cymdeithasol. Canmolodd Aelodau’r Gwasanaeth a’i staff am yr amrywiaeth eang o
wasanaethau roeddent yn eu darparu ac am yr adroddiad MALD rhagorol a’r ffordd
effeithlon roeddent wedi gweithredu’r gwasanaeth adnewyddu cerdyn bws. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth
Gwasanaeth a’r Pen Lyfrgellydd: ·
cadarnhawyd mai bwriad y Gwasanaeth oedd sicrhau bod y
‘pecynnau cof dementia’ ar gael i ddefnyddwyr pob llyfrgell maes o law, drwy
gyllid a sicrhawyd gan gynllun Ymwybodol o Ddementia Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC). ·
nodwyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio’n agos â chynghorau
tref mewn ymgais i gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r llyfrgell ymhellach, yn
enwedig i ddenu pobl o bentrefi cyfagos heb lyfrgell eu hunan i ddod i
ddefnyddio’u llyfrgell agosaf . ·
cadarnhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i adleoli
Llyfrgell y Rhyl i hen safle Marchnad Queen’s yn y dref fel rhan o ailddatblygu’r
ardal, er nad oedd penderfyniad pendant wedi’i wneud eto. Penderfynwyd: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod ar berfformiad yn
erbyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, derbyn yr
adroddiad, canmol y Gwasanaeth a’i staff am eu gwasanaeth a pherfformiad
rhagorol, a gofyn bod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis
Ionawr 2021. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 235 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12:30 – 12:45 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn
i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
ar faterion perthnasol. Atgoffwyd yr Aelodau y dylai’r ffurflen cynnig ar gyfer
y rhaglen gwaith i'r dyfodol craffu (atodiad 2) gael ei llenwi ar gyfer y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i’w hadolygu a’i dyrannu.
Roedd amser o hyd i gyflwyno unrhyw ffurflenni brys ar gyfer cyfarfod y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu y prynhawn hwnnw, a byddai’r
cyfarfod nesaf wedyn ar 19 Mawrth. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor mai dim ond dwy eitem oedd ar
agenda cyfarfod mis Mawrth, ond roedd y ddwy ohonynt yn bynciau mawr ac
awgrymodd na ddylid ychwanegu unrhyw eitemau eraill. Cytunodd y pwyllgor a
gofynnwyd bod yr aelodau arweiniol perthnasol yn cael eu gwahodd. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, nodi cynnwys Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Craffu Perfformiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12:45 Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Ellie Chard ac Arwel Roberts am fynychu cyfarfod
Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn Ysgol Uwchradd Dinbych y prynhawn hwnnw. Daeth y cyfarfod i ben am
12:35 |