Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Ann Davies, Geraint Lloyd-Williams, Peter Scott a David Williams, ynghyd â’r Aelod Arweiniol y Cynghorydd Bobby Feeley.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Amherthnasol

 

Roedd y Cadeirydd yn canmol y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau’r Amgylchedd a’i dîm am y gwaith a wnaed ganddynt yn ystod y tywydd gwael diweddar a hefyd drwy gydol y flwyddyn.   Roedd y Pwyllgor a’r Prif Weithredwr yn ategu ei werthfawrogiad.  

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 50 KB

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2019/20 (copi o ddisgrifiad rôl yr Aelod Craffu a’r Cadeirydd- Is-Gadeirydd ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd yn gofyn am enwebiadau gan y Pwyllgor ar gyfer swydd Is-Gadeirydd. Roedd y Cynghorydd Hugh Irving wedi mynegi diddordeb mewn bod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor am dymor arall ac wedi cyflwyno CV a ddosbarthwyd i aelodau’r Pwyllgor.  Cafodd y Cynghorydd Irving ei enwebu a'i eilio ar gyfer y swydd, ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill ac roedd y Pwyllgor yn unfrydol:

 

PENDERFYNWYD:  - penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.

 

Diolchodd y Cynghorydd Hugh Irving i’r aelodau am eu cefnogaeth. 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 405 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 (copi ynghlwm).

 

10.05am – 10.10am

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu ar Berfformiad a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019.

 

Materion yn Codi - 

 

Tudalen 10 - Cyrff Llywodraethu Ysgolion – cadarnhaodd y Cadeirydd bod adroddiad ar Reoli Cyrff Llywodraethu Ysgolion wedi’i drefnu ar gyfer cyflwyniad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu ar Berfformiad.  


Tudalen 13 – Adolygiad Gwasanaethau Tai – tynnodd y Cadeirydd sylw'r aelodau at y rhifyn diweddaraf o’r Newyddlen Gwasanaethau Tai a anfonwyd at bob aelod.   Roedd yn canmol y Gwasanaeth am gynhyrchu gohebiaeth mor ddiddorol a defnyddiol i denantiaid.  

 

PENDERFYNWYD:- y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu ar Berfformiad a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

 

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2018/19 pdf eicon PDF 227 KB

Gofyn i’r Pwyllgor i graffu ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (copi ynghlwm) ar berfformiad y Cyngor o ran darparu gwasanaethau gofal plant a gofal cymdeithasol yn ystod 2018-2019, cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).  Mae’r adroddiad hefyd yn darparu'r Cyngor gyda chyfle i amlygu unrhyw faterion neu bryderon o ran perfformiad a allai elwa o gael eu craffu ymhellach.

 

10.10am – 11am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau yr adroddiad drafft (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi trosolwg gonest i’r cyhoedd o ddarpariaeth gwasanaeth gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn ystod 2018-19 ac yn gofyn am farn y Pwyllgor ar asesiad y Cyfarwyddwr o ddarpariaeth gwasanaeth a'r heriau gerbron cyn cyflwyno'r adroddiad i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).  Roedd yr adroddiad, a luniwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, yn ofyniad statudol o dan Rhan 8 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a fwriadwyd i ddangos i'r cyhoedd fod gan y Cyngor ddealltwriaeth glir o’i gryfderau, ac yn bwysicach na dim ei wendidau a’r heriau o’i flaen.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad roedd y Cyfarwyddwr yn talu teyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad staff ar bob lefel o fewn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant.    Er bod pob ymdrech wedi’i wneud i gadw’r adroddiad yn fyr ac yn hawdd i'w ddarllen, oherwydd yr ystod eang o wasanaethau a ddarperir i bob grŵp oedran gan y Gwasanaeth roedd hyn yn hynod anodd i'w gyflawni.   Diolchodd y Cyfarwyddwr i aelodau etholedig am y gefnogaeth barhaus a ddarparwyd i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir a sicrhau nad oedd y gwasanaethau pwysig hyn yn cael eu defnyddio fel arf gwleidyddol gan unrhyw un o’r grwpiau gwleidyddol. 

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yn methu bod yn bresennol yn anffodus oherwydd ymrwymiad portffolio arall):

 

  • hysbyswyd, o ran yr ‘Arolwg Dweud eich Dweud’ roedd 71% o blant yn yr arolwg wnaeth ddweud eu bod yn hapus gyda’r bobl yr oeddent yn byw gyda nhw yn cyfateb i 7 o blant.  

Tra ar yr olwg gyntaf, nad oedd hyn yn ymddangos yn gadarnhaol iawn roedd yn bwysig cofio bod y rhain yn blant oedd wedi eu symud oddi wrth eu rhieni a’i rhoi mewn gofal maeth ar gyfer eu diogelwch eu hunain.    Roeddent felly yn mynd drwy brofiad trawmatig oedd yn achosi gofid sylweddol iddynt.   Roedd lle yr oedd plant yn cael eu lleoli ar ôl cael eu symud oddi wrth eu rhieni yn dibynnu ar yr amgylchiadau dros eu symud.    Weithiau byddai’n briodol eu lleoli gydag aelodau o’r teulu neu gyda ffrindiau’r teulu, ar adegau eraill byddai er eu budd pennaf i gael eu lleoli gyda gofalwyr maeth.   Roedd pob achos yn cael ei asesu yn ôl ei deilyngdod, a’r penderfyniad yn cael ei wneud gyda budd pennaf y plentyn mewn golwg.    Nid oedd goblygiadau cost eu lleoliad byth yn ffactor.    Er nad oedd gan y Cyngor unrhyw gartrefi plant ei hun, roedd yna nifer o gartrefi preifat yn gweithredu yn y sir ac roedd un arall oedd yn bwriadu mabwysiadu dull newydd a ffres i ofalu am blant sy'n derbyn gofal yn aros i weithredu ei drwydded; 

  • dywedwyd er bod y Cyngor yn anelu i gael ei blant sy'n derbyn gofal wedi eu cofrestru gyda deintydd o fewn tri mis ohonynt yn symud i ofal nid oedd hyn bob amser yn bosibl, gan fod ganddynt anghenion eraill mwy dwys o bosibl oedd angen eu diwallu o fewn tri mis o fod yn blentyn sy'n derbyn gofal;  

        dywedwyd ei bod yn galonogol dweud bod cyllid trawsnewid Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau yn rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru at ddiben sefydlu canolfan asesu plant a datblygu gwaith Anableddau Dysgu.   

Roedd Gogledd Cymru yn unigryw o ran nodi a sicrhau cyllid ar gyfer datblygu gwaith anableddau dysgu;

        cadarnhawyd bod proffil ‘diogelu’ ar draws y Cyngor wedi codi’n eithaf sylweddol yn y blynyddoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

COFRESTR RISG GORFFORAETHOL pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y diwygiadau a wnaed i Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor.

 

11am – 11.30am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn cyflwyno Cofrestr Risg Gorfforaethol i’r Pwyllgor yn dilyn ei adolygiad diweddar gan y Cabinet a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol. . Ynghlwm i’r adroddiad oedd copi o’r gofrestr ddiwygiedig ynghyd â manylion y newidiadau a wnaed fel rhan o’r adolygiad diweddar a’r fethodoleg sgôr risg.  Eglurodd yn ystod yr adolygiad diweddar y penderfynwyd bod angen ystyried risgiau oedd yn gysylltiedig â Brexit.   Hefyd nodwyd bod ambell gam angen ei gwblhau.  Rhagwelir erbyn adeg cynnal yr adolygiad nesaf byddai nifer o risgiau newydd neu rai wedi cynyddu wedi eu hychwanegu at y gofrestr. Roedd y rhain yn cynnwys risgiau oedd yn ymwneud â lefel iawndal a allai fod yn daladwy i gyn-berchennog safle Ysbyty Gogledd Cymru a’r risgiau i’r Cyngor oedd yn ymwneud â’r dyletswyddau statudol arno o dan ddeddfwriaeth newydd sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, roedd y risg ddiwethaf hon yn ymddangos ar y Gofrestr Risg Gwasanaeth ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

 

        gadarnhau y byddent yn gwirio os oedd gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymestyn i gynnwys aelodau corff llywodraethu ysgol ac os oedd y nifer o staff oedd wedi cwblhau’r modiwl e-ddysgu Diogelu, Trais yn Erbyn Menywod a Diogelu Data gorfodol wedi cynyddu o’r 59.8% a gofnodwyd yn Chwefror 2019. 

        dywedwyd bod Cytundebau adran 106 yn y Gofrestr Risg Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd ac roedd gwaith ar y gweill yn dilyn adroddiad Archwilio mewnol i integreiddio Cytundebau Adran 106 mewn Prosiectau Cynllun Corfforaethol; a

        dywedwyd bod darpariaeth cyrbau isel ar draws y sir yn ymddangos yn y Gofrestr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd.  

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:  - Ar ôl ystyried y newidiadau i’r Gofrestr Risg Corfforaethol, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaeth y wybodaeth uchod, i dderbyn fersiwn diwygiedig o’r gofrestr. 

 

8.

EFFEITHIOLRWYDD ASESIADAU EFFAITH AR LES (WIA) pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy'n adolygu effeithiolrwydd dull y Cyngor i asesu effaith ei benderfyniadau a gofyn am farn y Pwyllgor ynghylch sut gall Aelodau gefnogi herio a chraffu'r asesiadau effaith hyn yn effeithiol.

 

11.40am – 12.15pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar weithredu ac effeithiolrwydd dull y Cyngor ar asesu effaith ei benderfyniadau, gan ddefnyddio ei Asesiad o Effaith ar Les ar y wefan.  Yn ystod ei gyflwyniad hysbysodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi bod mewn bodolaeth ers peth amser, fodd bynnag nid oeddent bob amser wedi bod yn effeithiol neu’n ddarostyngedig i her neu archwilio digonol.   Gyda chyflwyniad y Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, roedd Sir Ddinbych wedi gwneud penderfyniad rhagweithiol i ddatblygu Asesiad o Effaith ar Les i gynnwys pob agwedd o ofynion y Ddeddf tra'n parhau i ddiwallu gofynion deddfwriaethol eraill, er enghraifft yr angen i gynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.   Wrth fabwysiadu’r dull hwn, roedd y Cyngor wedi datblygu pecyn gwefan ar gyfer arwain adran i hwyluso cynnal Asesiad o’r Effaith ar Les, dull a ystyriwyd yn arfer da gan Swyddfa Archwilio Cymru.    Drwy gynnal yr Asesiad o’r Effaith ar Les yn defnyddio’r pecyn hwn, roedd gwybodaeth wedi’i chyflwyno i’r cynghorwyr mewn ffurf hawdd i’w deall fyddai’n helpu’r broses gwneud penderfyniad, tra byddai’n ofynnol i’r holl swyddogion ystyried yr effeithiau ar holl amcanion lles a'r egwyddor datblygu cynaliadwy.  Roedd hyn yn sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio i gynnal yr Asesiad o’r Effaith ar Les bob tro.    Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw’r Pwyllgor at y gwahaniaethau a sylwyd drwy ymgymryd â’r dull hwn, gan gynnwys penderfyniadau gwell a her mwy effeithiol yr Asesiadau o Effaith ar Les.    Er hynny, roedd yna le i wella ymhellach, ac o ganlyniad y rheswm dros adolygu eu heffeithiolrwydd.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddog Cynllunio a Pherfformiad bod yr Asesiadau o’r Effaith ar Les a archwiliwyd fel rhan o’r adolygiad wedi bod o ansawdd amrywiol, rhai yn dioddef rhagfarn gan yr awdur ac eraill yn amlwg ddim yn dechrau’n ddigon buan yn y camau cynllunio ar gyfer y cynigion i’w hystyried.     Roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd gyda swyddogion i bwysleisio’r angen i ddechrau’r Asesiad o’r Effaith ar Les yn fuan tra’n ffurfio cynnig neu brosiect ac i barhau i’w ddiweddaru yn ystod ei oes.    Roedd hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â phrosiectau mawr yr oedd y Cyngor yn bwriadu ymgymryd â nhw.  Roedd y broses Grŵp Cyfaill Beirniadol ar gyfer herio Asesiadau o’r Effaith ar Les wedi profi’n arbennig o ddefnyddiol ac roedd yna gynlluniau i adfer y broses hon yn ffurfiol wrth symud ymlaen.    Roedd cefnogaeth aelodau etholedig ar gyfer y broses yn allweddol ar gyfer llwyddo yn ogystal â’u rôl i herio’r Asesiadau o’r Effaith ar Les a gyflwynwyd iddynt. 

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddog Perfformiad:

 

        gadarnhau nad oedd pob Asesiad o’r Effaith ar Les yn cael eu gwirio o ran ansawdd.  

Roedd y Gwasanaeth Moderneiddio a Gwella Busnes yn dibynnu ar swyddogion i gysylltu â nhw am gymorth a chyngor os oeddent yn cael anhawster cwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Les.   Fodd bynnag, mewn rhai gwasanaethau e.e. y swyddogion yn delio gyda’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) roedd yna lefel uchel o arbenigedd cwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Les ac roedd swyddogion o bob gwasanaeth arall yn cael eu hannog i weithio gyda’i gilydd lle bo’n bosibl i lunio Asesiadau o’r Effaith ar Les o ansawdd uchel. 

        cadarnhawyd bod hawlfraint pecyn gwefan Asesiad o’r Effaith ar Les yn eiddo i Gyngor Sir Ddinbych.

Roedd nifer o awdurdodau lleol eraill wedi dangos diddordeb ynddo ac roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018/19 pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio a Pherfformiad Strategol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2018-2019 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir, a gofyn i’r Pwyllgor benderfynu ac a oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach i ymateb i unrhyw faterion sy’n ymwneud â pherfformiad a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

12.15pm – 12.45pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (dosbarthwyd eisoes) oedd yn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor o ran cynnydd y Cyngor i gyflawni canlyniadau ei Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd Chwarter 4, 2018-19.  I gydymffurfio â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 roedd yr adroddiad hefyd yn manylu'r prosiectau Cynllun Corfforaethol a restrwyd ar gyfer eu cyflawni yn ystod y flwyddyn 2019-20.   Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i aelodau ychydig yn gynt na’r blynyddoedd blaenorol, roedd hyn oherwydd nad oedd cynghorau wedi eu gorfodi eleni gan yr angen i gyhoeddi ystadegau’r Uned Data Llywodraeth Leol.   Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol yr aelodau bod y ddogfen cyflawniad blynyddol wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, canlyniadau’r arolwg preswylwyr, y wybodaeth ddiweddaraf ar raglenni a phrosiectau a gyflawnwyd, ynghyd â chyfeiriadau at ddatblygiad cynaliadwy, amrywiaeth a chynnydd gwybodaeth cydraddoldeb ac astudiaethau achos.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Prif Weithredwr, Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad:

 

        bod y graffiau yn Atodiad 3 wedi eu hailgynhyrchu o’r System Rheoli Perfformiad Verto ac felly nid oeddent yn hawdd i’w dilyn na’u darllen mewn fformat printiedig;

        cytunwyd nad oedd data ar gysylltedd band eang, yn arbennig o ran etholaeth Gorllewin Clwyd yn galonogol, felly dyna'r rheswm bod y Cyngor wedi dynodi fel un o’i flaenoriaethau corfforaethol bod cymunedau wedi eu cysylltu a mynediad i nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau trafnidiaeth da.   

Roedd gan holl awdurdodau lleol Gogledd Cymru bryderon o ran cysylltedd band eang a’i effaith posibl ar dwf economaidd, ffaith yr oedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi’i gydnabod.    Oherwydd hynny, roedd wedi’i nodi fel y prif flaenoriaeth o dan Fargen Dwf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.   Roedd yr Aelod Arweiniol a swyddogion yn cydnabod bod cysylltedd band eang a chyflymder, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig yn bryder mawr gan fod nifer o fusnesau bach wedi eu lleoli yn yr ardaloedd hyn oedd yn dibynnu ar gysylltedd digidol a di-wifr;

        ymgymryd â darparu gwybodaeth i aelodau ar sut fyddai llyfrgelloedd y Cyngor yn gallu cefnogi preswylwyr, yn arbennig pobl hŷn a diamddiffyn, i ymgeisio am fathodyn glas, a gwasanaethau eraill yn ddigidol. 

Roeddent hefyd yn cytuno i ddarparu gwybodaeth i’r pwyllgor ar y prosiect Ynysiad Digidol.

        cadarnhawyd er bod y Gofrestr Prosiect yn dangos ‘Gweithrediadau Ailfodelu Gwasanaeth Gwastraff yn oren, roedd hyn oherwydd ei fod yn cynnwys gwaith cyfalaf i’w wneud yn y depos.   

Roedd swyddogion yn hyderus y byddai’r prosiect hwn yn cael ei ddarparu; a

        dywedwyd bod gan y Cyngor bolisi clir o ran absenoliaeth mewn ysgolion a’r mater o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer absenoldeb anawdurdodedig.  

Er hynny, roedd gwahanol ysgolion yn defnyddio’r polisi mewn ffyrdd gwahanol.   Roedd Addysg a Gwasanaethau Plant yn monitro’r sefyllfa hon yn agos. 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Tîm Cynllunio Strategol ar lunio dogfen wedi’i hysgrifennu’n dda oedd yn hawdd i’w darllen ac yn llawn gwybodaeth.   Hefyd gofynnodd gan fod enillydd y gystadleuaeth i ysgolion i ddylunio logo ar gyfer Statws Cyfeillgar i Wenyn y Sir wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar, i’r logo gael ei ddefnyddio yn y ddogfen derfynol cyn ei chyhoeddi. 

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD:  - yn ddarostyngedig i’r sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol, i dderbyn a chymeradwyo perfformiad y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau a dyletswyddau cysylltiol fel y manylwyd yn yr adolygiad perfformiad blynyddol 2018-19.    

 

 

10.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i’r cais i ohirio cyflwyno’r adroddiad Enwi a Rhifo Stryd tan fis Tachwedd 2019 gan nad oedd swyddogion yn gallu mynychu ym mis Medi.

 

Hysbysodd y Cydlynydd Craffu yr aelodau na fyddai canfyddiadau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Defnyddio Plastig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi.   Roedd hyn oherwydd bod y Rheolwr Prosiect ar gyfer y prosiect yn gadael y Cyngor yn y dyfodol agos a byddai angen swyddog newydd i reoli’r gwaith a’i yrru ymlaen.   

 

Cododd y Cynghorydd Hugh Irving fater arall ynglŷn â gwaredu plastig.  Mewn ymateb amlygodd y Cydlynydd Craffu bod yna fodel gwastraff newydd yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Craffu ar Gymunedau ar gyfer mis Medi.  

 

Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi cytuno y dylai adroddiad ar Reoli Cyrff Llywodraethu Ysgolion gael ei gynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer Gorffennaf 2019.

 

Roedd copi o “ffurflen gynnig Aelodau” wedi ei chynnwys yn Atodiad 2.  Roedd y Cydlynydd Craffu wedi gofyn i unrhyw gynnig gael ei gyflwyno iddi hi.

 

PENDERFYNWYD:  - yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. 

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei bod yn bleser mynychu’r cyfarfod Gwasanaethau Cyfreithiol, HR a Democrataidd ac roedd yn canmol y Pennaeth Gwasanaeth am ei waith.  

 

Tynnodd y Cynghorydd Hugh Irving sylw’r aelodau at yr adroddiad gwybodaeth ‘Eich Llais’ diweddaraf ar berfformiad y Cyngor yn delio gyda chwynion, oedd wedi’i gynnwys yn y ddogfen ‘Briff gwybodaeth’ a ddosbarthwyd i Aelodau’r Pwyllgor.  

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm