Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus, Graham Boase, yn bresennol fel dirprwy ar gyfer y Prif Weithredwr, Judith Greenhalgh, a oedd yn methu â dod i’r cyfarfod.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 323 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2018 (copi ynghlwm).

10.05 a.m. – 10.15 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2018.

 

Materion yn Codi:

 

Tudalen 6 – Eitem 6 – Cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Huw Jones, ei fod wedi mynd i’r cyfarfod yng Nghyngor Sir y Fflint, lle’r oedd cynrychiolwyr o Kingdom yn bresennol.  Roedd adroddiad pellach i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet a oedd i’w gynnal ym mis Medi.  Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’n mynychu i ddiweddaru aelodau’r Cabinet yn dilyn y cyfarfod yn Sir y Fflint.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts am nodi ei fod yn siomedig iawn nad oedd Kingdom wedi dod i’r cyfarfod Craffu.

 

PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo Cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd 7 Mehefin 2018 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DATBLYGU STRATEGAETH CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Ased a Risg Priffyrdd (copi ynghlwm) yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 7 Rhagfyr 2017 a thrafod materion cyllid cyfalaf rhwydwaith priffyrdd gyda chynrychiolwr o Lywodraeth Cymru.

10.15 a.m. – 11.00 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Briffyrdd, Cynllunio a Chludiant Cynaliadwy adroddiad y Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Risg (a gylchredwyd yn flaenorol).  Roedd hwn yn adroddiad dilynol i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn Rhagfyr 2017 am Strategaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd y Sir.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth am y Strategaeth yng nghyfarfod Rhagfyr 2017, rhoddodd y Pwyllgor wahoddiad i Ysgrifennydd Cabinet Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, i ddod i gyfarfod yn y dyfodol o’r Pwyllgor, i drafod cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau priffyrdd.  Yn anffodus, nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu derbyn y gwahoddiad, ond fe roddodd gynnig bod un o'i swyddogion yn cael gwahoddiad i drafod y mater gyda'r pwyllgor.  Roedd Mr Dewi Rowlands, Pennaeth Cynllunio Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi derbyn gwahoddiad y Pwyllgor, a chroesawyd ef i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.  Mynegodd yr Aelod Arweiniol ei ddiolch i adran Mr Rowlands a Llywodraeth Cymru am ddyfarnu'r Grant Ailwampio Ffyrdd gwerth £1.2m i Sir Ddinbych, yn ogystal â £100K ychwanegol i helpu i roi sylw i rai o'r gwaith cynnal a chadw ychwanegol sy'n ofynnol ar ffyrdd y sir yn dilyn tywydd garw difrifol.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol y Pwyllgor, bod priffyrdd wedi bod yn un o flaenoriaethau corfforaethol Cynllun Corfforaethol 2012-17.  Roedd hyn wedi arwain at swm mawr o fuddsoddiad yn cael ei wneud yn rhwydwaith ffyrdd y sir, a oedd wedi gweld cyflwr y ffyrdd yn gwella’n fawr.  Yr her yn ystod tymor cyfredol y Cyngor fyddai buddsoddi adnoddau ariannol sy’n parhau i leihau, a hynny’n ddoeth, yn y rhwydwaith priffyrdd, mewn ymgais i sicrhau na chollwyd buddion y buddsoddiad blaenorol, ac nad oedd ffyrdd eraill yn dirywio i bwynt lle nad oedd modd eu defnyddio mwyach.  Cadarnhaodd bod derbyn y £1.2m ychwanegol o’r Grant Ailwampio Ffyrdd wedi’i werthfawrogi’n fawr, ac wedi'i glustnodi ar gyfer y pedwar prosiect a nodwyd yn yr adroddiad.  Fodd bynnag, oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â phrosiectau cynnal a chadw ffyrdd tra byddai’r pedwar cynllun a restrir yn yr adroddiad yn cael eu gwireddu, roedd nifer o gynlluniau eraill na fyddai’n elwa o’r grant untro hwn.

 

Diolchodd Pennaeth Cynllunio Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y Pwyllgor am y gwahoddiad i ddod i’r cyfarfod i drafod materion cyllid cyfalaf priffyrdd, ac fe fynegodd ymddiheuriadau Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn gallu bod yn bresennol.   Yn ystod ei gyflwyniad, amlinellodd weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd yng Nghymru, gan bwysleisio ei fod yn bwysig myfyrio ynghylch beth oedd wedi digwydd yn y gorffennol i ddeall y cyd-destun o beth a argymhellwyd ar gyfer y dyfodol.  Roedd arolwg diweddar Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dangos yn gadarnhaol bod graddfa rhwydwaith priffyrdd Cymru mewn cyflwr gwael wedi bod yn lleihau flwyddyn ar flwyddyn rhwng 2011/12 a 2016/17, sef y data mwyaf diweddar a oedd ar gael.  Roedd cydnabyddiaeth o fewn tystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod yr hwb ariannol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru wedi cyfrannu at wella ansawdd y rhwydwaith priffyrdd yn genedlaethol.  Eglurodd fod Menter Benthyca Llywodraeth Leol, a oedd yn gweithredu am y tair blynedd ariannol rhwng 2012/13 a 2014/15 yn cynrychioli dyraniad ychwanegol o fewn Grant Cynnal Refeniw pob awdurdod lleol, a oedd yn cynyddu potensial y cynghorau i fenthyca arian i ariannu prosiectau cyfalaf.  Pwysleisiwyd nad oedd y fenter hon wedi dod i ben, ond bu newid mewn dull gyda Llywodraeth Cymru nawr yn gwasanaethu costau benthyca awdurdodau lleol, a byddai’n parhau i wneud hynny tan y flwyddyn ariannol 2034/35, yn amodol ar gynghorau'n rhoi ymrwymiad i wella eu hasedau priffyrdd.

 

O ran y Grant Ailwampio Ffyrdd o £1.2m, a’r arian ychwanegol a ddyrannwyd i roi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

 

Ar yr adeg hon (11.30 am) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.50 a.m.

 

 

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 4 - 2017/18 pdf eicon PDF 203 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n monitro cynnydd y Cyngor o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-22.

11.00 a.m. – 11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (a gylchredwyd yn flaenorol), a gyflwynodd yr adroddiad diweddaru cyntaf i Aelodau ar ddarparu Cynllun Corfforaethol 2017-22. 

 

Yn amgaeedig i’r adroddiad cafwyd Crynodeb Gweithredol a oedd yn manylu ynghylch y llwyddiannau hyd yn hyn, ynghyd ag eithriadau allweddol (Atodiad 1), a’r adroddiad perfformiad chwarterol llawn ar gyfer pedwerydd chwarter 2017-18 a gynhyrchwyd gan System Rheoli Perfformiad Verto (Atodiad 2). Yn ystod ei gyflwyniad, tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw'r Pwyllgor at y prif wahaniaeth yn y dull a gymerwyd tuag at adrodd ar berfformiad wrth ddarparu'r Cynllun Corfforaethol newydd o’i gymharu â’i ragflaenydd, sef cynnwys dau ddarn o sylwebaeth:

 

·         Statws Perfformiad :  a roddodd naratif ac asesiad ynghylch beth roedd y dangosyddion perfformiad yn ei ddweud ar hyn o bryd am y cymunedau; a

·         Statws Cynnydd Rhaglen:  a amlinellodd sut yr oedd prosiectau’n cefnogi pob blaenoriaeth yn datblygu

 

Roedd y rhaglen o waith i ddarparu’r Cynllun Corfforaethol yn dal yn ei gamau cynnar, felly byddai’r ‘statws cynnydd rhaglen’ yn adlewyrchu hyn.   Wrth i brosiectau a sefydlwyd ddechrau gwireddu’r blaenoriaethau yn y Cynllun, byddai’r ‘statws cynnydd rhaglen’ yn yr adroddiad yn adlewyrchu hyn yn y pen draw, gyda lliw'r golofn yn troi'n 'wyrdd'.  Roedd y golofn ‘statws perfformiad’ yn dangos perfformiad y Cyngor hyd yn hyn yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer darparu bob blaenoriaeth.  Er ei bod yn bosibl cael statws perfformiad ‘gwael’, ond statws cynnydd rhaglen cryf yn ystod cyfnod y Cynllun Corfforaethol, fe ragwelwyd, wrth i dymor y Cyngor fynd rhagddo, y byddai’r ddau statws yn cyfateb yn gadarnhaol i ddangos y byddai’r Cynllun yn cael ei ddarparu’n llwyddiannus.  Byddai adroddiadau Crynodeb Gweithredol y dyfodol yn adroddiadau eithriadau, yn hytrach na naratif llawn ar berfformiad yn erbyn pob targed a dangosydd. 

 

Aeth yr Aelod Arweiniol ymlaen i egluro bod dau fwrdd rhaglen, yr oedd eu haelodaeth yn cynnwys Aelodau Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth, wedi’u sefydlu at y diben o symud ymlaen â darparu’r pum blaenoriaeth gorfforaethol, a’r Cynllun ei hun yn y pen draw.  Cafodd y ddau Fwrdd, y Bwrdd Cymunedau a’r Amgylchedd, a’r Bwrdd Pobl Ifanc a Thai, eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Corfforaethol gydag un Bwrdd yn gyfrifol am symud ymlaen â darparu dwy o'r blaenoriaethau corfforaethol, tra bod yr un arall yn symud ymlaen â darparu'r tair. O’r pum blaenoriaeth gorfforaethol, roedd gan y statws perfformiad ar gyfer dwy o’r blaenoriaethau statws ‘coch’ ar gyfer gwella ar hyn o bryd.  Dyma’r blaenoriaethau a oedd yn ymwneud â ‘Chymunedau Cryf' a ‘Phobl Ifanc’ a oedd yn cynnwys darparu amrediad eang o brosiectau, rhai mewn partneriaeth â sefydliadau allanol, os oeddent am gael eu gwireddu.  Felly nid oeddent yn gyfan gwbl o fewn rheolaeth y Cyngor i’w cyflawni.  Rhoddwyd trosolwg o’r prosiectau a oedd yn sail i bob blaenoriaeth gorfforaethol i’r Pwyllgor, gan yr Aelod Arweiniol.  Rhoddwyd gwybod i Aelodau gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol, yn ychwanegol at yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Verto, bod y sylwebaeth Statws Perfformiad a'r Statws Cynnydd Rhaglen yn wybodaeth bwysig i Graffu ganolbwyntio arni wrth archwilio adroddiadau perfformiad Cynllun Corfforaethol y dyfodol, a phenderfynu ar ei raglen gwaith i'r dyfodol.  Cadarnhaodd hefyd, os nad oedd aelodau’n gyfarwydd â'r system Verto, y byddai'n fodlon dangos iddynt sut y gallent ei defnyddio ar gyfer eu gwaith craffu.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd dynnu sylw aelodau at y ffaith bod nifer o bynciau a gynhwyswyd yn y Cynllun Corfforaethol eisoes ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor, roedd y rhain yn cynnwys y cynllun teithio cynaliadwy drafft a’r strategaeth rheoli fflyd drafft.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2017-18 pdf eicon PDF 285 KB

Ystyried Adroddiad gan y Prif Reolwr: Gwasanaethau Cynnal (copi ynghlwm) i alluogi'r Aelodau i graffu ar yr adroddiad blynyddol drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru.

11.40 a.m. – 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau'r adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a gyflwynodd Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor ar gyfer 2017-18. Eglurwyd ei fod yn ofyniad statudol i bob Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru gynhyrchu adroddiad blynyddol yn crynhoi eu hasesiad o effeithiolrwydd y Gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, ac amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer gwelliant a nodwyd yn ystod y flwyddyn, a fyddai angen canolbwyntio arnynt yn y dyfodol.

 

Yn ystod ei chyflwyniad, talodd y Cyfarwyddwr deyrnged i ymrwymiad y gweithlu, y gwirfoddolwyr di–dâl a’r rhai a dalwyd, yr oedd eu hymroddiad wedi arwain at Adroddiad Blynyddol cadarnhaol yn gyffredinol.  Tynnodd sylw aelodau at lwyddiannau allweddol y Gwasanaethau yn ystod y flwyddyn, a thynnwyd sylw at y meysydd a oedd angen rhagor o waith.  Fe nododd y canllawiau ar gyfer cyflwyno Adroddiadau Blynyddol na ddylent ragori ar nifer benodol o eiriau, o ganlyniad, nid oedd wedi bod yn bosibl cynnwys pob agwedd ar waith gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant yn yr adroddiad.  Er hynny, ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth, roedd y Cyfarwyddwr yn hyderus bod Sir Ddinbych yn parhau i roi gwasanaethau cymdeithasol o ansawdd da i blant, oedolion a gofalwyr o’r crud i’r bedd, ac wrth wneud hynny, wedi cyflawni perfformiad rhagorol mewn meysydd a oedd yn bwysig i breswylwyr a chymunedau.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod, tra bod deddfwriaeth yn ymwneud â gofal cymdeithasol wedi newid yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf, roedd egwyddorion y ddeddfwriaeth yr hyn yr oedd gwasanaethau gofal cymdeithasol Sir Ddinbych yn ceisio eu cyflawni mewn gwirionedd, gan ddarparu canlyniadau cadarnhaol i unigolion yn seiliedig ar beth oedd yn bwysig iddyn nhw, a rhoi ymyrraeth ac ataliaeth gynnar ar yr adeg gywir i liniaru yn erbyn risg yr anghenion yn dwysáu a gofyn am wasanaethau mwy dwys.  Er gwaethaf y pwysau sylweddol a wynebwyd gan wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion yn ystod y flwyddyn, roedd y Gwasanaeth wedi perfformio’n dda, ond fel bob amser, roedd mwy i’w wneud, yn enwedig yn sgil y demograffig cynyddol, yr heriau ariannol a’r pwysau a oedd o’u blaenau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad rhagorol gan Estyn a ddaeth i law yn gynharach eleni, ar Wasanaethau Addysg a Phlant y sir.  Cyfeiriodd hefyd at y ffaith y byddai adroddiad ar ‘Ddarparu Gofal Seibiant ar draws Sir Ddinbych’, sy’n canolbwyntio'n bennaf ar argaeledd y cyfleusterau seibiant i ysgafnhau'r baich ar ofalwyr, yn unol ag amcanion Strategaeth Gofalwyr y Cyngor, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym Medi 2018.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth y Cyfarwyddwr a’r Pen Reolwr:  Gwasanaethau Cymorth:

·         roi gwybod bod cefnogaeth i ofalwyr yn cael ei rhoi mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar eu hanghenion h.y. pan fyddant gartref, mewn cartref preswyl/nyrsio, mewn gwesty neu mewn lleoliad arall oddi wrth eu hamgylchedd arferol.  Roedd gofalwyr â’r hawl i gael asesiad anghenion gofalwyr, ond nid yn gorfod cael un.  Roedd yr Awdurdod yn gweithio’n agos iawn gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS), mewn ymgais i ddeall pryderon gofalwyr, y mathau o wasanaethau sy’n ofynnol ganddynt a sut y gellid gwella gwasanaethau i ofalwyr;

·         rhoddwyd gwybod bod gwybodaeth am amcanion a goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi’i chyflwyno i ofalwyr drwy amrywiaeth o sianeli gwahanol e.e. hyfforddiant/gweithdai, digwyddiadau rhannu gwybodaeth a chyfathrebu grwpiau gwirfoddol a chymunedol, gan fod y Cyngor wedi sylweddoli nad oedd pob gofalwr yn gallu dod i ddigwyddiadau oherwydd eu dyletswyddau gofalu;

·         cadarnhawyd bod y Cyngor yn gweithio’n agos gydag asiantaethau gofal cartref i archwilio’r canlyniadau unigol i’w cyflawni wrth gomisiynu pecynnau gofal  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12.15 p.m. – 12.25 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol.

 

Roedd copi o “ffurflen gynnig Aelodau” wedi’i chynnwys yn Atodiad 2. Gofynnodd y Cydlynydd Craffu i unrhyw gynigion gael eu cyflwyno iddi hi.  Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl gyda chrynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a gwybodaeth am y cynnydd eu rhoi ar waith wedi ei gynnwys yn Atodiad 4.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol pam ei bod yn bwysig i aelodau fynychu pob cyfarfod o’r Grwpiau Herio Gwasanaethau yr oeddent wedi eu penodi gan y Pwyllgor fel ei gynrychiolydd arnynt, ynghŷd â phwysigrwydd adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau’r cyfarfodydd hynny.  Os nad oedd y cynrychiolydd yn gallu mynychu’r cyfarfod dylent ddwyn hyn i sylw Cadeirydd y Pwyllgor mor fuan a phosib er mwyn i aelod arall gael ei benodi  i fynychu yn eu lle.  Er gwybodaeth i aelodau roedd rhestr o gynrychiolwyr y Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau, ynghyd a chopi o amserlen cyfarfodydd y Grwpiau ar gyfer 2018-19 wedi ei anfon at aelodau’r Pwyllgor fel rhan o’r ddogfenDiweddariad Gwybodaeth’.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Cael diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

12.25 p.m. – 12.30 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw adborth i’w gyflwyno.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem fusnes nesaf yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol ac yn dilyn hynny:

 

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL A CHYNLLUN BUSNES GOFAL IECHYD CEFNDY 2017/18

Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan Reolwr Gwasanaethau Masnachol a Rheolwr Cynhyrchu (copi ynghlwm) o berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn 2017 – 18 a Chynllun Busnes 2018-22.

12.30 p.m – 1.00 p.m.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth wedi gallu dod i’r cyfarfod, ond fe wnaeth yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol ddod yn ei lle.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Gwasanaeth Masnachol - Cefndy a'r Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol (a gylchredwyd yn flaenorol), a gyflwynodd y Pwyllgor gyda gwybodaeth am berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn ystod 2017-18 a’i gynllun busnes ar gyfer 2018-22.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor er mwyn iddo archwilio perfformiad Gofal Iechyd Cefndy, a'r cyfeiriad strategol yn y dyfodol, yn dilyn diddymiad y Bwrdd Ymgynghorol a oedd wedi goruchwylio ei waith yn y gorffennol.  Rhoddwyd gwybod i Aelodau mai pwrpas y busnes oedd “darparu cyflogaeth ystyrlon a oedd yn talu’n dda, i aelodau dan anfantais y gymuned”.   Byddai colli cyllid Dewis Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau 31 Mawrth 2019, yn effeithio ar sefyllfa ariannol Cefndy yn y dyfodol.  Gyda’r bwriad o leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â cholli cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau, roedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor wedi ysgwyddo rheolaeth o Wasanaethau Cyfarpar Cymunedol Integredig Ledled Gwent (GWICES0, menter gymdeithasol a oedd yn cynnwys pum awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ardal Casnewydd, a weithredodd ar sail debyg i Ofal Iechyd Cefndy.  Drwy weithredu’r ddwy fenter, gallai’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol leihau costau gweinyddu diangen wrth ehangu ei gynnyrch a photensial i gynhyrchu digon o incwm i barhau i ddarparu cyflogaeth werthfawr, ystyrlon, sy’n talu’n dda i unigolion dan anfantais ar sail niwtral o ran cost.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Rheolwr Gwasanaethau Masnachol Cefndy:

·         ddisgrifio’r farchnad gystadleuol y gweithredodd Cefndy o’i mewn, yn enwedig yr anawsterau a brofwyd wrth gystadlu yn erbyn mewnforion rhatach o economïau sy’n datblygu ar draws y byd;

·         cadarnhawyd bod costau gweithredu Cefndy fymryn yn uwch na nifer o’i gystadleuwyr, gan mai ei flaenoriaeth oedd cadw pobl dan anfantais mewn cyflogaeth gynhyrchiol yn hytrach na hawlio budd-daliadau;

·         rhoddwyd gwybod bod Gofal Iechyd Cefndy yn adran o fewn Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, o ganlyniad, ni chaniatawyd iddo wneud elw sylweddol neu ymgeisio am gyllid/buddsoddiad menter gymdeithasol;

·         rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw weithiwr wedi'i wneud yn ddi-waith yn ystod 2017-18, roedd y gostyngiad mewn niferoedd gweithwyr oherwydd ymddeoliad, gadael ar gyfer cyflogaeth arall ac ati;

·         cadarnhawyd bod Gofal Iechyd Cefndy’n tendro ar gyfer contractau newydd bob mis;

·         rhoddwyd gwybod bod nifer o weithwyr Cefndy wedi bod gyda’r ‘cwmni’ am 30 mlynedd neu fwy, a oedd yn destament i werth cymunedol y busnes.   Yn debyg i bob gweithiwr y Cyngor, roedd y rhai a weithiodd yng Nghefndy yn destun telerau ac amodau cyflogaeth staff llywodraeth leol, ac felly, â’r hawl i gynllun pensiwn a salwch, sydd yn eu tro yn rhoi diogelwch ariannol tymor hir iddynt;

·         rhoddwyd gwybod bod cyfranogiad Cefndy gyda GWICES wedi agor cyfleoedd marchnata newydd a mynediad at fforymau marchnata, a fyddai gobeithio o fudd i’r busnes yn y tymor hwy, drwy ei alluogi i ehangu ac amrywio ei fusnes, gyda’r bwriad o ddiogelu ei gynaliadwyedd tymor hwy; 

·         cadarnhawyd bod y buddsoddiad a wnaed bum mlynedd yn ôl mewn peirianneg plygu arbenigol wedi gwella gallu gweithgynhyrchu’r busnes, a byddai o fudd i’r gwaith a gynhaliwyd mewn partneriaeth â GWICES;

·         amlinellwyd aelodaeth y bwrdd ymgynghorol blaenorol, gan roi gwybod bod y busnes wedi’i sefydlu'n wreiddiol gan yr hen Gyngor Sir Clwyd, a’i drosglwyddo i Gyngor Sir Ddinbych wrth adsefydlu llywodraeth leol, oherwydd bod lleoliad ei ffatri yn y Rhyl.  Fe sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y bwrdd ymgynghori i fonitro perfformiad y busnes ac  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.00pm.