Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor
2016/17. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau i Aelod wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar
gyfer blwyddyn gyngor 2016/17. Cafodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei
enwebu gan y Cynghorydd Raymond Bartley, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Gareth Sandilands. Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill ac felly; PENDERFYNWYD y
dylid penodi'r Cynghorydd Arwel Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2016/17. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 167 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad (copi ynghlwm) a gynhaliwyd ar: · 12 Ebrill 2016 a · 28 Ebrill 2016 9.40 a.m. – 9.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Ebrill
2016 a 28 Ebrill 2016. 12 Ebrill 2016 Dywedodd y
Cynghorydd Arwel Roberts nad oedd y pwynt roedd wedi’i godi yn ystod y cyfarfod
ynghylch nifer o Aelodau Pwyllgor Archwilio Perfformiad a oedd yn aelodau o'r
Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei gynnwys yn y cofnodion. Gofynnodd y
Cynghorydd Gareth Sandilands i gael gwybod pryd y byddai'r Pennaeth
Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yn mynychu Pwyllgor Archwilio Perfformiad i roi
diweddariad i'r Aelodau o'r Gwasanaethau Gofal Mewnol. Cadarnhaodd y
Cadeirydd nad oedd dyddiad wedi ei osod, ond ei bod yn debygol y byddai pob
preswylfa yn cael ei gyflwyno yn unigol. 28 Ebrill 2016 Tudalen 19 Eitem
4 Cofnodion y cyfarfod diwethaf - Cludiant Ysgolion Cynradd. Dywedodd
y Cynghorydd Arwel Roberts nad oedd mater ynghylch llwybr Rhuddlan i Ysgol Dewi
Sant wedi cael ei ddatrys eto. Mynegodd yr Aelodau eu pryderon a dweud
fod diogelwch y plant yn hollbwysig. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Archwilio y byddai'r Adolygiad o Gludiant Ysgol yn cael ei gyflwyno
i'r Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 30
Mehefin 2016. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai'r adroddiad gynnwys problem
Rhuddlan i Ysgol Dewi Sant ar gyfer trafodaeth bellach. Roedd arbenigwyr
y Cyngor wedi asesu'r llwybr o Ruddlan i Ysgol Dewi Sant ac wedi cadarnhau ei
fod yn llwybr diogel. Roedd aelodau a thrigolion lleol wedi
anghytuno â'r asesiad. Dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd y
trefniadau cludiant ysgol dros dro yr oedd wedi’u trefnu i fynd â phlant o
Ruddlan i'r ysgol, yn gynaliadwy yn y tymor hir. Tudalen 20 Eitem
4 Cyflwyno Cyflymu Cymru BT yn Sir Ddinbych - cytunwyd y dylid cadw’r eitem ar
y Rhaglen Waith i'r Dyfodol a'n bod yn aros am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru
ynghylch "mannau gwan".
Awgrymodd y Prif Weithredwr y
dylai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad anfon llythyr at Lywodraeth
Cymru os nad ydym yn derbyn gwybodaeth am "mannau gwan". PENDERFYNWYD – y
dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo Cofnodion y cyfarfod Pwyllgor
Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2016 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 4 2015/16 PDF 85 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n gofyn i’r
Pwyllgor fonitro perfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei Gynllun Corfforaethol,
a nodi meysydd neu wasanaethau penodol a fyddai'n elwa o archwilio manwl er mwyn
gwella canlyniadau i ddinasyddion. 9.45 a.m. – 10.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y
Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a
oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2012-17
fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 4 2015-16. Yn y fan hon,
cyflwynodd yr Aelod Arweiniol y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a benodwyd yn
ddiweddar, Vicki Robarts a chroesawodd hi i'w chyfarfod Pwyllgor Archwilio cyntaf. Pwysleisiodd yr
Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor fod y gwelliant neu ddirywiad mewn perfformiad
o un chwarter i'r llall fel arfer yn fach iawn oherwydd natur hirdymor y
Cynllun. Rhoddodd grynodeb o'r negeseuon perfformiad
allweddol ar gyfer Chwarter 4 2015-16 fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad,
gan ddweud: ·
roedd
tri "canlyniad" o dan flaenoriaeth datblygu'r Economi lleol a gafodd
eu dosbarthu fel "derbyniol", fodd bynnag, byddai angen gwelliant ym
mherfformiad y canlyniadau hyn. Serch hynny, roedd ffactorau allanol sy'n
lliniaru yn erbyn gwelliant yn y dangosyddion hyn ar hyn o bryd; ·
roedd
canran y plant rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na
hyfforddiant (NEET) yn faes arall yr oedd angen ei wella ymhellach. Roedd yn
braf nodi bod y duedd tair blynedd o ran y nifer o bobl ifanc oedd wedi’u
dosbarthu fel NEET yn dod i lawr; ·
tra
bu gwelliant (lleihad) yn nifer yr oedolion sydd angen gofal preswyl, mae angen
gwella perfformiad o ran y dangosydd perfformiad sy’n ymwneud â chanran y
boblogaeth nad ydynt yn gallu byw yn annibynnol (18 oed a throsodd); ·
mae’r
sefyllfa economaidd bresennol a diffyg hyder yn y farchnad dai yn golygu nad
oedd datblygwyr yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau tai
maint canolig i fawr. Yn ei dro, mae hyn yn cael effaith ar y dangosydd
perfformiad (DP) sy'n ymwneud â nifer yr unedau tai fforddiadwy a gafodd
ganiatâd cynllunio; a ·
gan
nad yw Nwy Prydain, darparwr ynni'r Cyngor wedi gallu darparu dadansoddiad o
allyriadau carbon y Cyngor, nid oedd modd i’r Cyngor adrodd yn erbyn y DP hwn.
Roedd y Cyngor wedi newid darparwr ynni ers mis Ebrill, felly yn y dyfodol,
byddai modd adrodd yn erbyn y DP hwn. Wrth ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion: ·
er y
bu llithriad mewn perfformiad o ran nifer y dyddiau calendr a gymerwyd i
ail-osod eiddo stoc tai cyngor, roedd rhesymau dilys dros hyn yn gysylltiedig â
sicrhau bod yr eiddo o safon uchel wrth gael eu hail-osod (cafodd adroddiad ar
berfformiad yn y maes hwn ei drefnu i’w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar
14 Gorffennaf 2016); ·
ar y
cyfan roedd yr adborth gan y gymuned fusnes o ran y gefnogaeth sydd ar gael
iddynt gan y Cyngor wedi bod yn gadarnhaol. Fodd bynnag, bu angen gwella
perfformiad ymhellach mewn perthynas â'r flaenoriaeth hon a gwella cyfathrebu
rhwng y gwahanol fudd-ddeiliaid. Roedd angen hefyd i fusnesau fod yn fwy craff,
e.e. addasu eu horiau agor i gyd-fynd â gofynion a disgwyliadau'r cyhoedd; ·
byddent
yn dilyn pryderon ynghylch glendid strydoedd a'r oedi wrth dorri gwair ym
mynwentydd y sir o ganlyniad i broblem gyda'r contractwr. Byddent yn edrych sut
y gallai cyfathrebu gydag aelodau lleol o ran oedi neu broblem gyda materion
parth cyhoeddus gael eu cryfhau. Mewn perthynas
â'r flaenoriaeth "Moderneiddio'r Cyngor i Gyflenwi Effeithlonrwydd",
gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion holi am y nifer o broblemau a dderbyniwyd
gan Gynghorwyr mewn perthynas â rhyngweithio rhwng Microsoft Outlook a'u i-pads
cyngor i ganfod a oedd yn fater arwyddocaol a oedd yn haeddu ateb hirdymor cyn
etholiadau awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf a derbyn Cynghorwyr newydd. Ar ddiwedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD CORFFORAETHOL, DIOGELWCH A LLES 2015/16 PDF 330 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi ynghlwm) i ddarparu diweddariad blynyddol ar Reoli Iechyd a Diogelwch o fewn Cyngor Sir Ddinbych. 10.15 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y
Cynghorydd Julian Thompson Hill, adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi
diweddariad blynyddol ar reoli Iechyd a Diogelwch yng Nghyngor Sir Ddinbych o
safbwynt y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Amlinellodd y
Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol y gwahanol ffurfiau i gyflwyno
ystadegau Iechyd a Diogelwch. Roedd y fformatau amrywiol hyn a’r
manylion a gynhwysir ynddynt yn hynod o ddefnyddiol i Swyddogion Iechyd a
Diogelwch wrth ymgymryd â'u gwaith.
Wrth ymateb i gwestiynau'r
Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Rheolwr: ·
Bod y
Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol yn monitro ystadegau damweiniau
bob chwarter a byddai unrhyw fater o bryder a godwyd yng nghyfarfodydd y
Pwyllgor yn cael eu harchwilio ac adrodd yn ôl ar hyn mewn cyfarfodydd yn y
dyfodol; ·
Roedd
ystadegau a digwyddiadau Sir Ddinbych yn debyg i'r rhan fwyaf o awdurdodau
lleol ar draws y DU, ond roedd yna duedd cenedlaethol i dan-adrodd ystadegau
iechyd a diogelwch; ·
yn
gorfforaethol, roedd pob digwyddiad yn cael eu cofnodi a'u cynnwys yn yr
adroddiadau ystadegol. Mewn ysgolion, nid yw mân ddigwyddiadau ar y cae chwarae yn cael eu hadrodd i'r ganolfan
gorfforaethol, dim ond achosion o natur fwy difrifol sy’n cael eu hadrodd; ·
roedd
tueddiadau blynyddol yn y nifer o achosion a gofnodwyd yn ogystal â thueddiadau
tymhorol h.y. llai o achosion yn cael eu cofnodi yn yr ysgolion yn ystod yr haf
oherwydd gwyliau haf yr ysgol; ·
gwnaed
pob ymdrech i liniaru risg gynyddol o ddigwyddiadau iechyd a diogelwch yn y
gwasanaethau a oedd wedi bod yn destun toriadau staffio drwy sicrhau bod yr
holl reolwyr yn y gwasanaethau hynny yn cael eu hyfforddi'n llawn wrth reoli
materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.Ni fu unrhyw gynnydd yn nifer y
digwyddiadau a gofnodwyd yn y gwasanaethau a oedd wedi bod yn destun
gostyngiadau staffio; ·
yn
ystod blwyddyn 2016/17, byddai'r Gwasanaeth yn edrych ar sut i wella rheolaeth
iechyd a diogelwch ar gyfer unigolion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain; ·
roedd
y cyngor yn dal i aros am ganlyniadau'r ymarfer monitro radon mewn eiddo sy'n
eiddo i'r cyngor. Gallai canlyniadau'r gwaith monitro fod yn broblem bosibl i’r
cyngor yn dibynnu ar y canlyniad, oherwydd os yw unrhyw eiddo wedi’i gofnodi ar
lefel radon o 10% neu uwch, byddai angen monitro pob eiddo o fewn radiws o 1 filltir ar gost o tua £30 fesul
eiddo. Ar ddiwedd y
drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol
a'i dîm am eu holl waith diwyd, a: PENDERFYNWYD yn
amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad blynyddol ar
weithgareddau a sylwadau'r tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. |
|
EGWYL RHWNG 11.05 A.M. A 11.15 A.M. |
|
Yn y fan hon,
cytunodd y Cadeirydd i newid trefn y busnes a nodir yn y Rhaglen. |
|
ADRODDIAD EICH LLAIS – CHWARTER 4 2015/16 PDF 95 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi ynghlwm) i geisio barn y
Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor wrth ddelio â chwynion, ac iddo nodi meysydd
i'w harchwilio’n fanwl yn y dyfodol. 11.30 a.m. – 12.00 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Hugh Irving,
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu trosolwg o’r sylwadau da,
awgrymiadau a chwynion y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi eu derbyn dan ‘Eich
Llais’ (polisi adborth cwsmeriaid y cyngor) yn ystod Chwarter 4 2015/16. Eglurodd Y Prif
Reolwr: Gwasanaethau Cefnogi, nad oedd y targed corfforaethol o 95% wedi cael
ei gyrraedd oherwydd natur gymhleth rhai o'r cwynion, cafodd manylion y
cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â rhai o'r cwynion eu crynhoi yn yr adroddiad. Gosodwyd
y targed yn flaenorol ar drothwy uchel gyda’r bwriad o sicrhau y gallai’r
cyngor wneud pob ymdrech yn gorfforaethol i'w gyrraedd a cheisio gwella ei
berfformiad a gwasanaethau i'r trigolion. Wrth
ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Prif Reolwr: ·
o
ddechrau'r flwyddyn adrodd 2016/17, byddai cwynion yn ymwneud â gwasanaethau
sy’n cael eu cyflwyno gan y Cyngor a gwasanaethau a gomisiynwyd gan y Cyngor
gan ddarparwr allanol, yn cael eu cofnodi ar wahân; ·
cadarnhaodd
bod cwynion a chanmoliaeth ar gyfer Gwasanaethau Amgylcheddol Priffyrdd yn cael
eu cofnodi fel un ffigur. Nid yw’n cael ei wahanu mewn i ffigurau adrannol, gan
fod y Gwasanaeth yn un Gwasanaeth sy’n cael ei reoli gan un Pennaeth
Gwasanaeth; ·
cytunodd
bod y nifer o ganmoliaethau a dderbyniwyd gan y cyngor wedi bod yn arbennig o
galonogol; ·
dywedodd
fod y ffigurau a nodwyd yn yr adroddiad yn gysylltiedig â "cwynion",
nid oedd yn cynnwys "ceisiadau am wasanaeth" a dderbyniwyd gan
Gynghorwyr gan eu bod yn "geisiadau" nid "cwynion"; ·
gofynnodd
i'r Aelodau, wrth wneud ceisiadau am wasanaethau ar ran preswylwyr, dylent
gyfeirio’r ymholiadau hynny trwy'r system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM)
a pheidio â chysylltu â swyddogion yn uniongyrchol, fel arall byddai’r
wybodaeth ystadegol am niferoedd o geisiadau am wasanaeth yn anghywir; ·
dywedodd
fod y cyngor wrthi’n edrych ar y dull gorau o ddarparu gwasanaethau i
gwsmeriaid – bydd trafodaeth yn digwydd gydag Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor
(UDA) ar ddulliau arfaethedig o ddarparu gwasanaeth. O ran y
drafodaeth sydd i ddod ar ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid, gofynnodd yr
Aelodau a oedd modd cynnwys system EMMA o fewn cwmpas yr adolygiad gan eu bod
yn teimlo nad oedd yn arbennig o hawdd i'w ddefnyddio. Er
bod y cysyniad y tu ôl iddo yn ardderchog, a bod Aelodau yn deall yr angen i
ddiogelu gwybodaeth bersonol trigolion, roeddynt yn teimlo ei bod yn feichus ac
yn cymryd llawer o amser i lywio er mwyn dilyn yr ymholiadau a godwyd. Yn dilyn
trafodaeth fanwl: PENDERFYNODD y Pwyllgor yn
amodol ar y sylwadau ac ymholiadau uchod a wnaed mewn perthynas â'r ymholiad yn
ymwneud â'r system EMMA, derbyn yr adroddiad a'i gynnwys. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL: 2015/16 PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Pen Reolwr: Cymorth i Fusnesau (copi ynghlwm) i alluogi'r
Aelodau i archwilio’r adroddiad drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). 11.00 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant), y
Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn galluogi'r
Aelodau i graffu ar yr adroddiad drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Pwysleisiodd yr
Aelod Arweiniol nad oedd darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i drigolion y
sir, a newid moderneiddio’r gwasanaethau
hynny, yn destun cyfyngiadau cyllidebol yn unig. Mae gofynion y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Lles (Cymru) 2014 yn golygu bod angen nifer o newidiadau i'r ffordd y cafodd
gwasanaethau eu cyflwyno yn y gorffennol. Yn y dyfodol byddai mwy o bwyslais ar gefnogi pobl
i fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd ag y bo modd, gydag ymagwedd fwy
rhagweithiol, ataliol, ymyrryd at ddarparu gwasanaeth yn hytrach na chreu
diwylliant o ddibyniaeth ar wasanaethau
math gofal preswyl. Yn ei rôl yn
Gyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, manylodd ar gynnwys ei hadroddiad, gan
bwysleisio, er bod yr adroddiad yn ei henw, roedd y gwaith a grynhowyd oddi
mewn yn ffrwyth y gwasanaeth gofal cymdeithasol cyfan. Mynegodd
ddiolch arbennig i Bennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Leighton Rees a
ymddeolodd yn ddiweddar, ac i’r Pennaeth Addysg, Karen Evans am eu holl
ymdrechion i baratoi'r ffordd ar gyfer uno Gwasanaethau Addysg a Gwasanaethau
Plant a sicrhau trosglwyddiad mor esmwyth i un Gwasanaeth Plant ac Addysg. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wrth yr Aelodau: ·
bod
ei hadroddiad ar gyfer 2015/16 wedi cael ei gyflwyno mewn fformat diwygiedig er
mwyn cydymffurfio â newidiadau deddfwriaethol a darparu fframwaith newydd er
mwyn mesur perfformiad gofal cymdeithasol; ·
roedd yn ofynnol i'r Cyfarwyddwr ddynodi cryfderau a
gwendidau'r Gwasanaeth yn yr adroddiad, ac amlinellu cynlluniau i gryfhau'r
gwendidau a nodwyd; ·
roedd
y Gymraeg yn bwysig i'r Gwasanaeth a derbyniwyd fod darparu gwasanaethau trwy
gyfrwng dewis iaith y defnyddwyr gwasanaeth yn egwyddor ganolog o wasanaeth
gofal cymdeithasol da; ac ·
roedd
ei ffocws ar wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chadw pobl yn annibynnol am gyn
hired ag y bo modd. Gwella ansawdd bywydau yw’r nod yn y pendraw, osgoi'r angen
am wasanaethau statudol am gyhyd ag y bo modd yn amodol ar sicrhau diogelwch y
defnyddwyr gwasanaethau. Llongyfarchodd yr
Aelodau waith yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ymdrechu i ddarparu
gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i oedolion. Fodd bynnag, roedd ganddynt bryderon mewn perthynas
â gwasanaethau tebyg ar gyfer plant, yn enwedig gan fod Twf wedi ei dynnu'n ôl. Wrth ymateb i'r
pryderon hyn, dywedodd y Cyfarwyddwr mai dim ond yn ardal Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy roedd Twf yn gweithredu yn y gogledd erbyn hyn. Roedd Dechrau'n
Deg yn brosiect blynyddoedd cynnar arall oedd yn cael ei fygwth gan doriadau
cyllid. Serch hynny, roedd Sir Ddinbych yn hyderus y byddai
ei ddull o ran dwyn Gwasanaethau Addysg
a Phlant ynghyd yn cynorthwyo gydag ymgorffori sgiliau ieithyddol drwy gydol
addysg y blynyddoedd cynnar, addysg prif ffrwd a gwasanaethau ieuenctid. Wrth ymateb i bwyntiau eraill a godwyd gan Aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr: ·
mewn perthynas â'r adolygiad o wasanaethau gofal i
oedolion yn fewnol, byddai'r manylion y gofynnodd y Pwyllgor Archwilio a’r
Cabinet amdanynt mewn perthynas â phob sefydliad yn cael eu cyflwyno i’r
Pwyllgor Archwilio cyn gynted ag y bo modd, unwaith y byddai’r gwaith a’r
dadansoddi sydd ei angen yn cael ei gwblhau. Roedd yn debygol na fyddent yn
cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu gyda'u gilydd, ond rhagwelir y byddai pob
un yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr; · bod angen cydbwysedd yn yr adroddiad rhwng cyfleu negeseuon pwysig a chynnwys y lefel briodol o fanylder, h.y. gwybodaeth am nod adolygiad darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn fewnol yn y ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.00 p.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o
dempled ‘ffurflen cynnig Aelodau” wedi’i gynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen
Waith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i
gynnwys fel Atodiad 3, ac roedd tabl yn crynhoi datrysiadau diweddar y Pwyllgor
ac yn cynghori am gynnydd wrth eu
gweithredu wedi’i atodi yn Atodiad 4. Ystyriodd y
Pwyllgor ddrafft o’i Raglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol
fel a ganlyn: 14 Gorffennaf
2016 Cynnwys baw
cŵn. Gwahodd Aelodau
Arweiniol i fynychu'r cyfarfod. 29 Medi 2016 Gohirio Tai
Fforddiadwy tan gyfarfod 29 Medi. Trafodwyd
cynrychiolaeth y Pwyllgor ar Grwpiau Herio Gwasanaethau ac fe awgrymwyd bod y
Cynghorydd Joe Welch a'r Aelod newydd, pan y caiff ei b/phenodi, yn cael ei
g/wahodd i gynrychioli'r Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith fel y caiff ei hamlinellu yn
Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 12.15
p.m. – 12.20 p.m. Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorwyr Geraint Lloyd Williams a Dewi Owens eu bod wedi mynychu cyfarfod y
Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, ond nid oedd gan y Pwyllgor gworwm. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei fod wedi mynychu cyfarfodydd herio
gwasanaeth Priffyrdd a Chynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Cafwyd
trafodaeth ynghylch, Taliadau Parcio, Cludiant Ysgol, Asiantaeth Cefnffyrdd a
Gwastraff ac Ailgylchu. Adroddodd y
Cynghorydd Dewi Owens yn ôl ar gyfarfod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion
diweddar (GMSY) roeddynt wedi’i fynychu ac roedd cynrychiolwyr o ysgolion yn
Llangollen wedi bod yn bresennol.
Roedd yn ymddangos bod yna
bryderon ynghylch diffyg posibl o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion
sy'n gadael Ysgol y Gwernant a throsglwyddo i Ysgol Dinas Brân. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chofnodi’r adborth. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm. |