Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr
Geraint Lloyd-Williams a Peter Owen ynghyd â’r Aelod Cyfetholedig Gill
Greenland |
|
DATGANIAD CYSYLLTIAD PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitemau 6, 7 ac 8 ar yr agenda – Y Cynghorydd
Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant Y Cynghorydd
Richard Davies – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Plas Brondyffryn Y Cynghorydd Dewi
Owens – Llywodraethwr Ysgol Glan Clwyd a St. Asaph VP Infants Y Cynghorydd
Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant Y Cynghorydd
Gareth Sandilands – Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa Datganodd yr
aelodau cyfetholedig canlynol gysylltiad personol fel a ganlyn – Debra Houghton –
eitemau 7 ac 8 yr agenda – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol
Pendref Dawn Marjoram –
eitem 8 yr agenda – Llywodraethwr Ysgol Plas Brondyffryn John Piper –
eitemau 6 ac 8 yr agenda – Llywodraethwr Ysgol Tremeirchion ac mae ei blentyn
yn defnyddio cludiant ysgol am ddim |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn y cyngor 2015/16. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau am Is-gadeirydd i’r Pwyllgor am weddill
blwyddyn fwrdeistrefol 2015/16. Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Sandilands,
eiliodd y Cynghorydd Meirick Davies i’r Cynghorydd Arwel Roberts fod yn
Is-gadeirydd. Yn absenoldeb unrhyw enwebiadau eraill ac o gael ei roi i bleidlais
- PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Arwel Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad
ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol 2015/16. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 271 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2015 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2015. Materion yn Codi – Tudalen 11 –
Eitem 6 y Cynllun Corfforaethol (Chwarter 2 2015/16) – Mewn ymateb i gwestiynau
a godwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, cadarnhaodd y swyddogion, er gwaethaf
ymdrechion gorau’r cyngor, nad oeddent yn gallu darparu gwybodaeth am
ollyngiadau carbon ar hyn o bryd oherwydd problem yn ymwneud â system anfon
biliau’r darparwr ynni. Byddai’r mater yn cael ei ddatrys pan fyddai’r cyngor
yn newid ei ddarparwr ynni ym mis Ebrill. O ran dangosyddion a bodloni
targedau, rhoddwyd sicrwydd y gallai’r cyngor ddangos gostyngiad yn ei
allyriadau carbon. Cytunwyd rhoi rhagor o wybodaeth i’r Cynghorydd Owens yn
hynny o beth. PENDERFYNWYD
derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2015 fel
gwir gofnod. |
|
CLUDIANT YSGOLION CYNRADD PDF 103 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn darparu eglurder ar y polisi ynghylch
Cludiant Ysgolion Cynradd. 9.40 a.m. - 10.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi eglurhad ar y polisi’n ymwneud â Chludiant
Ysgolion Cynradd a’i ddefnydd. Gofynnwyd am yr adroddiad gan y Cynghorydd Arwel
Roberts yng ngoleuni’r newidiadau diweddar i’r ddarpariaeth cludiant yn
ardaloedd Rhuddlan a Diserth ac roedd yn cynnwys cyfeiriad at y sail
ddeddfwriaethol i ddarparu cludiant ysgol fel y manylir yn y Mesur Teithio gan
Ddysgwyr (Cymru) 2008. Rhoddwyd gwybod i’r aelodau nad oedd y polisi ar Gludiant Ysgolion
Cynradd wedi newid yn ystod adolygiad diweddar Medi 2015. Fodd bynnag, yn dilyn
yr adolygiad hwn, sicrhaodd y Gwasanaeth fod y cludiant Cynradd ac Uwchradd i’r
‘ysgol addas agosaf’ yn cael ei roi ar waith yn gywir. Canlyniad y defnydd
cywir o’r polisi oedd y sefyllfa sydd wedi codi yn Rhuddlan. Roedd niferoedd y
disgyblion oedd yn mynychu Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl o Ddiserth wedi cwympo yn
sgil y disgyblion yn mynychu Ysgol y Llys yn gywir. Felly, ailaseswyd y gwasanaeth o
Ddiserth i Dewi Sant gan fod y cerbyd yn
llawer gormod o faint ar gyfer y niferoedd oedd yn teithio arno. Roedd y
gwasanaeth hwn yn dod trwy Ruddlan lle’r oedd rhai rhieni’n talu consesiwn bach
i ddefnyddio’r bws; fodd bynnag, wrth newid maint y cerbyd, ni fyddai teithio
am gonsesiwn bellach ar gael ac felly, cynhaliwyd asesiad o lwybrau cerdded
diogel i’r ysgol o Ruddlan. Cynhaliwyd asesiad diogelwch newydd o’r llwybr yn
ystod mis Rhagfyr 2015. Casglodd yr asesiad, oherwydd y cynnydd yng nghyfaint y
traffig sy’n defnyddio’r A547 a achoswyd yn sgil cyflwyno traffig un lôn ar
draws y bont yn Rhuddlan ei hun, na allai’r llwybr gael ei ystyried yn llwybr
diogel i’r ysgol ar hyn o bryd. Gyda’r bwriad o leihau unrhyw risg i’r dyfodol yn yr ardal hon, roedd gwaith gwella’n cael
ei gomisiynu i groesfan y ffordd. Yn dilyn cwblhau’r gwaith hwn, byddai
diogelwch y llwybr yn cael ei ailasesu. Tan i’r gwaith gael ei wneud a’r llwybr
ei ailasesu, bydd cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu
i’r disgyblion sy’n cael eu heffeithio o ardal Rhuddlan. Dyfynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts o Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru diweddar i’r Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg a gyfeiriodd at bwerau disgresiwn awdurdodau lleol i
“ddarparu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg ni waeth beth yw’r meini
prawf pellter er mwyn hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y
Gymraeg” ac i’w “dyletswydd gyffredinol i hyrwyddo mynediad i addysg trwy
gyfrwng y Gymraeg wrth ymarfer eu swyddogaethau dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr
2008.” Cododd yr aelodau’r pwyntiau canlynol – ·
dylai’r
Awdurdod ddefnyddio’i bwerau disgresiwn yn yr ardal hon, oherwydd, er gwaetha’r
gwelliannau arfaethedig i’r groesfan wrth Fryn Cwybr, byddai’r llwybr yn parhau
i fod yn beryglus yn y fan honno a hefyd ym Mryn Cwnin ·
gallai
problemau tebyg ddigwydd mewn perthynas â llwybrau ysgolion cynradd eraill ·
holwyd
a oedd y polisi’n gyson â chanllawiau’r
Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau ·
cwestiynon
nhw a oedd y defnydd o’r polisi yn yr achos penodol hwn yn gosod polisi cyn
diogelwch y plant ·
holwyd a oedd yr holl bolisïau
ym maes addysg yn cyd-fynd â’i gilydd, oherwydd yn yr achos hwn, ymddengys bod
y polisi cludiant ysgolion cynradd yn groes i’r Polisi Cymraeg mewn Addysg. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, gwnaeth yr Aelod Arweiniol dros
Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg - · bwysleisio nad oedd y polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer Ysgolion Cynradd wedi newid, ond roedd yn cael ei roi ar waith yn fwy trwyadl nag a wnaed yn y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU CYFNOD ALLWEDDOL 4 AC ÔL 16 PDF 292 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE (copi
ynghlwm) yn manylu ar berfformiad wedi'i ddilysu o ganlyniadau arholiadau
allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16 gyda
dadansoddiad o ganlyniadau yn erbyn gwybodaeth wedi’i feincnodi a pherfformiad
yn erbyn awdurdodau lleol eraill. 10.15 a.m.– 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd
Her GwE (Porth Conwy/Sir Ddinbych) (dosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion
perfformiad wedi’i wirio canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych
yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16 gyda dadansoddiad o’r canlyniadau yn erbyn
gwybodaeth a pherfformiad wedi’u meincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill.
[Ystyriwyd canlyniadau arholiadau dros dro gan y pwyllgor ym mis Hydref 2015]. Cyflwynodd y Pennaeth Addysg ac Uwch Ymgynghorydd
Her GwE yr adroddiad a rhoesant esboniad manwl o’i gynnwys i aelodau. Yn ystod
eu cyflwyniad, pwysleision nhw – ·
mewn
perthynas â Throthwy Lefel 2 (5 TGAU
A*-C), roedden nhw wedi gobeithio y byddai pob ysgol yn chwarteli 1 neu 2, ond
yn anffodus roedd 3 ysgol yn y 4edd chwartel oedd yn hynod siomedig ·
ystyriodd y gwaith
cenedlaethol o gategoreiddio ysgolion, a ddisodlodd y fethodoleg flaenorol o
roi ysgolion mewn bandiau, ystadegau presenoldeb yr ysgolion. Roedd hi’n
ddymunol adrodd na chwympodd ysgolion Sir Ddinbych i’r 4ydd categori ·
bod
gwefan ‘Fy Ysgol Leol’ Llywodraeth Cymru ar gael o’r dyddiad presennol a oedd
yn rhoi cyfoeth o wybodaeth am berfformiad, cefnogaeth ysgol a gwybodaeth
gysylltiedig arall i rieni a gwarcheidwaid ·
er
bod presenoldeb Sir Ddinbych mewn ysgolion uwchradd wedi parhau’n sefydlog yn
2014 ar 93%, a raddiodd yr awdurdod lleol yn yr 21ain safle yng
Nghymru o gymharu ag awdurdodau addysg leol eraill, roedd yr ardal hon yn
gwella. Roedd y ffigurau presenoldeb cyfredol dros 94% ·
ar
hyn o bryd, roedd bechgyn a merched y sir yn perfformio ychydig yn ia na
chyfartaledd Cymru ar gyfer Lefel 2 oedd yn cynnwys Saesneg/Cymraeg neu
fathemateg, wrth i’r bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched fod yn unol
â chyfartaledd Cymru ·
mewn ymgais i osgoi amrywiaeth
y llynedd rhwng y perfformiad amcanol a gwir berfformiad yr arholiadau,
rhoddwyd nifer o fesurau ar waith yn lleol ac yn rhanbarthol - roedd y rhain yn
cynnwys ysgolion unigol yn gosod eu targedau eu hunain, aseswyd a heriwyd y
targedau hyn ar hyd y flwyddyn i sicrhau eu bod yn rymus ac yn debygol o gael
eu bodloni; roedd strategaeth ranbarthol ar waith ar gyfer ‘ysgolion mewn
perygl’ at y diben o dargedu’r gefnogaeth angenrheidiol i’r ysgolion hynny;
ffurfiodd trafodaethau ar dargedau a pherfformiad ran o’r busnes ym mhob
cyfarfod Fforwm y Penaethiaid a chafodd ei gynnwys hefyd mewn trafodaethau
rheolaidd rhwng cynrychiolwyr Porth GwE a’r Penaethiaid Adrannau; nodwyd
ysgolion sampl i gydweithio ar draws y
rhanbarth, Cymru ac ymhellach i ffwrdd gydag adolygiad i rannu arfer gorau a
byddai cynhadledd ranbarthol yn cael ei chynnal ar 12 Chwefror ar osod
targedau, arfer gorau ac ati. ·
ynghlwm
â’r adroddiad roedd copi o nodau ac amcanion Cynllun Busnes GwE mewn perthynas
â’r canlyniadau addysgol i fyfyrwyr Sir Ddinbych – manylodd hyn ar y gwaith
oedd yn cael ei wneud ac yn cael ei gyflawni yn Sir Ddinbych i sicrhau gwell
perfformiad a chanlyniadau ·
y prif amcan cyffredinol ar
gyfer 2015/16 oedd gwella perfformiad cynhwysol Lefel 2 o ffigur blwyddyn ddiwethaf
o 56.1%, oedd yn siomedig, i 60.8%. Pe
cyflawnir hyn, byddai’r swyddogion yn hynod bles. Nododd y wybodaeth gyfredol y
byddai hyn yn cael ei gyflawni ·
yn ystod blwyddyn academaidd
2014/15, roedd nifer o ysgolion unigol yn Sir Ddinbych wedi cofrestru cwymp sylweddol mewn perfformiad. Gyda’r
bwriad o gefnogi gwelliant yn yr ysgolion hyn, sefydlwyd ‘bwrdd adfer’ i
fonitro’u perfformiad a nodi unrhyw bryderon yn gynnar. Cyflwynwyd rhybudd
swyddogol i un ysgol wella. Rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg wybod i’r Pwyllgor fod Aelodau Bwrdd Gwaith GwE yn siomedig gyda pherfformiad arholiadau 2014/15 ac o ganlyniad, rhoesant gyfarwyddyd i’r swyddogion weithio ar wella ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
LLYWODRAETHWYR YSGOLION A CHYRFF LLYWODRAETHU YSGOLION PDF 112 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn manylu ar rôl a chyfrifoldebau
llywodraethwyr ysgol a chyrff llywodraethu ysgolion. 11.00 a.m.– 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion rôl a chyfrifoldebau’r llywodraethwyr
ysgol a chyrff llywodraethu’r ysgolion, gan gynnwys y gefnogaeth a’r
hyfforddiant sydd ar gael iddynt gan yr
awdurdod lleol, GwE a sefydliadau eraill. Esboniodd fod elfen o gyfrifoldeb ar
gyfer dyletswyddau’r llywodraethwyr ysgol yn sefyll gyda’r awdurdodau addysg
lleol, a chyfrifoldeb GwE oedd yr elfennau eraill. Rhoddwyd gwybod i’r aelodau
– ·
bod
yna bryderon mewn perthynas ag ymgysylltiad rhai llywodraethwyr unigol yn y
rhaglen hyfforddiant a defnwyd gan yr Awdurdod. Ymddengys nad oedd rhai llywodraethwyr
yn ymwybodol na allent ddiwallu’u rolau’n llawn os nad oeddent yn cymryd
rhan yn y cyrsiau hyfforddiant gorfodol ·
darparwyd
amryw ddulliau hyfforddiant ar gyfer
llywodraethwyr e.e. pecynnau hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein ·
bu gan Sir Ddinbych Gymdeithas
Cadeiryddion Llywodraethwyr. Mynychodd y Pennaeth Addysg gyfarfodydd y Fforwm i
drafod gydag aelodau faterion cyfredol cysylltiedig ag addysg. Er gwaetha’r
ffaith y cafodd y gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd Fforwm eu hymestyn i bob
llywodraethwr ysgol, ni chafwyd nifer dda iawn yn y Fforwm. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, rhoddodd yr
Aelod Arweiniol dros Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Rheolwr Adnoddau a
Chynllunio Addysg bod – ·
presenoldeb
mewn cyfarfodydd llywodraethwyr ysgol yn broblem mewn rhai ysgolion fel ag yr
oedd diffyg cyflwyno ymddiheuriadau ·
roedd
lleoedd gwag ar rai cyrff llywodraethu. Gyda’r bwriad o oresgyn rhai o’r
problemau a achoswyd gan leoedd gwag a maint bach rhai cyrff llywodraethu
ysgolion, hysbysebodd y sir am gronfa o lywodraethwyr ac ymdrechodd i’w gosod
mewn ysgolion ·
cofnodion
presenoldeb wedi’u cadw ar gyfer pob sesiwn hyfforddiant ac roedd y rhain yn
cael eu harchwilio gyda chofnodion y sir ar lywodraethwyr ysgolion i sicrhau
bod pob un ohonynt wedi mynychu eu digwyddiadau hyfforddiant gorfodol. Yn
ogystal, cysylltwyd â chyrff llywodraethu gyda chais eu bod yn gwneud
archwiliad sgiliau, wedyn gallai canlyniadau’r archwiliad hwn gael ei
ddefnyddio gan y Cyrff Llywodraethu i sicrhau eu bod yn gweithredu’n effeithiol ·
mewn cyfarfod Cadeiryddion
Llywodraethwyr diweddar, trafodwyd y posibilrwydd o gyfethol ymgynghorwyr nad
oeddent yn pleidleisio ar gyrff llywodraethu ysgolion ·
roedd gan gyrff llywodraethu
ysgolion ystod eang o gyfrifoldebau’n amrywio o gynnal a chadw adeiladau,
iechyd a diogelwch, diogelu a chyllidebu. Monitrodd Grŵp Monitro Safonau
Ysgolion y Cyngor yn agos gyfrifoldebau’r cyrff llywodraethu mewn perthynas â’r
rhain. Gwahoddwyd cadeiryddion cyrff llywodraethu ysgolion i fynychu
cyfarfodydd y Grŵp pan oeddent yn monitro’u hysgol benodol. Yn ogystal,
astudiodd gyfarfod rheolaidd yr awdurdod addysg lleol gyda GwE yr un meysydd ·
o’r Pasg 2016 ymlaen, byddai
Llywodraethwyr Cymru’n disodli’r Cynllun Gwobr Efydd blaenorol gyda gwobr debyg
arall ·
rhoddwyd
gwybod i’r Cyngor os oedd clerc i gorff llywodraethu ysgol yn absennol o
gyfarfod am unrhyw reswm ·
gwiriodd
a heriodd yr awdurdod addysg lleol aelodaeth cyrff llywodraethu i sicrhau eu
bod yn dryloyw ac yn deg ·
cafwyd canllawiau cyhoeddedig
i gynorthwyo llywodraethwyr mewn perthynas â’u gwaith ar gyrff llywodraethu
ysgolion ac i ddeall y fframwaith moesegol yr oedd disgwyl iddynt lynu wrthynt ·
rhoddwyd
gwybod i’r awdurdod addysg lleol yn awtomatig petai llywodraethwr ysgol neu
glerc yn ymddiswyddo er mwyn iddynt gychwyn proses recriwtio/penodi ·
roedd
gan yr awdurdod lleol bwerau ymyrryd hefyd i gymryd dros y gwaith o redeg ysgol
os ystyrid bod y corff llywodraethu yn methu. Rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg wybod ei fod o’r farn y dylai’r
holl gynghorwyr sir fod yn aelodau o un corff llywodraethu ysgol o leiaf, yn ei
farn ef, dylai hyn fod yn ofyniad gorfodol ar gyfer cynghorydd sir oherwydd
byddai’n sicrhau bod ganddynt well dealltwriaeth o faterion cysylltiedig ag
addysg ar lefel bersonol a chorfforaethol. Canmolodd yr aelodau’r gefnogaeth a roddwyd gan y Cyngor i lywodraethwyr ysgol. ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
EICH LLAIS – ADRODDIAD CHWARTER 2 2015/16 PDF 114 KB Ystyried
adroddiad gan Brif Reolwr – Cefnogaeth Busnes (copi ynghlwm) sy’n darparu
trosolwg o’r sylwadau da, awgrymiadau a chwynion y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi
eu derbyn dan bolisi adborth cwsmeriaid y Cyngor ‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter
2 2015/16. 11.30 a.m. - 12 hanner dydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Reolwr - Cymorth Busnes (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) yn darparu trosolwg o’r canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion a
ddaeth i law dan bolisi adborth cwsmeriaid y Cyngor
‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter 2 2015/16. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd yr
adroddiad a rhoddodd y Prif Reolwr - Cymorth Busnes fanylion ar ei gynnwys,
gyda phwyslais penodol ar y graffau tuedd dadansoddi 4 blynedd. Yn ystod ei
gyflwyniad, esboniodd - ·
fod y
gwasanaeth wrthi’n gweithio ar ddiwygiadau i system Rheolwr Perthynas â
Chwsmeriaid a fyddai’n hwyluso’r gwaith o lunio adroddiadau a data ystyrlon ·
bod y
staff cwynion wedi bod yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau dros y misoedd
diwethaf gyda’r bwriad o sefydlu’r ffeithiau y tu ôl i’r ffigurau, yn enwedig
mewn perthynas â’r rhesymau am golli’r targedau gosod ·
byddai
nifer o gwynion drwy’r amser a fyddai’n colli’r dyddiadau targed gosod ar gyfer
delio â chwynion. Fel arfer, byddai’r rhain yn gwynion cymhleth, weithiau’n
amlwynebog, a fyddai oherwydd eu hunion natur yn gofyn am broses penderfyniadau
manwl ·
amrywiodd
perfformiad mewn perthynas â Chwynion Cam 2 yn fwy yn ystod y flwyddyn
bresennol na’r blynyddoedd blaenorol ·
daeth
12 cwyn i law gan un unigolyn. Roedd y math hwn o gŵyn a chwynion yn erbyn
uwch swyddogion yn ddrud iawn i’w hymchwilio oherwydd hynafedd y swyddog yr
oedd ei angen i’w hymchwilio a’r cyfnod amser y byddai’n rhaid i’r swyddog
hwnnw ymroi i’r broses. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, cynghorodd y
swyddogion ar y canlynol – ·
cydnabuwyd pob cwyn o’u
derbyn, gan roi manylion yr amserlen ddisgwyliedig i ymateb i’r gŵyn ·
roedd
data ar gael ar sail Cymru gyfan sy’n cymharu perfformiad awdurdodau lleol wrth
ddelio â chwynion ·
cynigiwyd
hyfforddiant i swyddogion ym mhob adran mewn perthynas â delio â chwynion a’r
weithdrefn i’w dilyn ·
weithiau gallai cwynion o
natur weithredol gymryd mwy o amser i’w datrys yn sgil yr angen i ymweld â
safleoedd penodol ac ati ·
mewn perthynas â chwynion
trallodus, gallai’r Cyngor ddefnyddio’i bolisi ar gyfer delio ag ymddygiad
annerbyniol gan gwsmeriaid, gallai’r swyddogion hefyd gysylltu â Swyddfa
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am gymorth gyda chwynion o’r fath ·
er
bod mwyafrif y gwasanaethau wedi bod yn destun toriadau yn ystod y blynyddoedd
diwethaf, roedd nifer y cwynion a ddaeth i law ar duedd am i lawr yn
gyffredinol. Fodd bynnag, gallai effeithiau toriadau effeithlonrwydd gyniwair
eu hunain mewn ffordd wahanol h.y. gostyngiad mewn perfformiad gwasanaethau ·
bydden nhw’n archwilio a
gafodd yr holl ganmoliaethau a ddaeth i law gan y Penaethiaid Gwasanaeth, boed
y rheiny’n uniongyrchol gan y cyhoedd neu drwy gynghorwyr, eu cofnodi ar y
system ·
cadarnhau bod y dyddiadau
targed ar gyfer delio â chwynion wedi’u gosod gan y Cyngor fel rhan o’i waith
wrth lunio’r Cynllun Corfforaethol. ·
roedd hi’n llawer gwell gosod
targedau uchel ac uchelgeisiol yn hytrach na rhai isel a fyddai’n hawdd eu
bodloni ·
bydden nhw’n gofyn i’r Uwch
Dîm Arweinyddiaeth drafod y potensial i ostwng y trothwy ar gyfer cofrestru
cwyn fel un ‘trallodus’ er y gallai hynny godi’r risg o fod yn groes i
safbwyntiau’r Ombwdsmon ·
byddai cwynion a ddaeth i law
gan y Cyngor am bartner neu sefydliadau’n cael eu hailgyfeirio i’r sefydliad
dan sylw. Serch hynny, rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r aelodau y byddai am wybod am gwynion am sefydliadau
partner oedd yn cyflwyno gwasanaethau ar ran y cyngor, megis GwE, Civica ac
ati. · er bod cymhlethdodau penodol ynghlwm â delio â chwynion iechyd a gofal cymdeithasol integredig, h.y. wrth ymateb, roedd dulliau i ddelio â’r mathau hyn o gŵynion h.y. mewn ymateb, roedd angen i’r ddau barti ystyried sut roedd yr ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion
perthnasol. 12.00 - 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am adolygiad yr aelodau o raglen
waith y pwyllgor a darparu diweddariad ar faterion perthnasol. Ymhelaethodd y Cydlynydd Craffu ar eitemau sydd ar ddod i’w hystyried yng
nghyfarfodydd y dyfodol ac ymatebodd i gwestiynau’r aelodau wedi hynny.
Adroddodd ar y trefniadau craffu arfaethedig ar gyfer GwE a’r adroddiadau
cysylltiedig i’w hymgorffori yn y rhaglen waith ynghyd â chynnwys aelodau
cyfetholedig yn hynny o beth. Nododd y pwyllgor hefyd fod y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi rhoi cyfarwyddyd i’r pwyllgor
graffu cynlluniau BT i ymestyn band eang ar draws y sir yn dilyn cais gan y Prif
Weithredwr sydd wedi’i threfnu ar gyfer mis Ebrill. Yn olaf, gofynnwyd am
fynegiannau o ddiddordeb i gael cynrychiolydd pwyllgor i ddisodli’r Cynghorydd
Colin Hughes ar y Grŵp Cydraddoldebau Corfforaethol. PENDERFYNWYD– (a) cymeradwyo’r blaenraglen waith fel y
manylir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a bod yr Aelodau Arweiniol perthnasol yn
cael eu gwahodd i fynychu ar gyfer eu heitemau penodol hwy yn y cyfarfod nesaf
ym mis Mawrth, a (b) phenodi’r Cynghorwyr Arwel Roberts a
Colin Hughes yn gynrychiolwyr ac yn
ddirprwy gynrychiolwyr Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldebau Corfforaethol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau
Cyngor. 12.15 Cofnodion: Adroddodd cynrychiolwyr y pwyllgor ar eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd fel a ganlyn – Rhoddodd y Cynghorydd Richard Davies wybod am newidiadau
i’r Gwasanaeth Cefnogi Cwsmeriaid ac Addysg o ganlyniad i’r ad-drefnu
gweithredol diweddar a’r trefniadau dilynol ar gyfer cyfarfod y Grŵp Her
Perfformiad Gwasanaeth newydd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Gareth Sandilands at gyfarfod
diwethaf y Grŵp Buddsoddi Strategol ac yn ystod hwnnw, cytunwyd eu
hargymhellion ar gyfer prosiectau cyfalaf i’w cyflwyno i’r Cabinet. Adroddodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar y Grŵp
Monitro Safonau Ysgolion diwethaf oedd yn cynnwys Ysgol Bryn Hyfryd ac Ysgol
Emmanuel a fu’n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Crynhodd y Cynghorydd Meirick Davies y prif bwyntiau
trafod a gododd yn y cyfarfod Her Perfformiad Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Gwasanaethau Democrataidd diwethaf. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiadau geiriol gan aelodau a fynychodd
y cyfarfodydd. Daeth y cyfarfod i ben am 1.10 p.m |