Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Geraint Lloyd Williams a Martyn Holland gysylltiad personol ag Eitem
5, 6 a 7. Datganodd Aelodau
Cyfetholedig Addysg, G. Greenland, D. Houghton, Dr. D. Marjoram a J. Piper
ddiddordeb personol yn eitemau 5, 6 a 7. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIAD DROS DRO PDF 97 KB Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon (Tudalennau 15-34) Ystyried
adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi ynghlwm) ar adolygu asesiadau
athrawon ac arholiadau allanol. Canlyniadau Safon Uwch Chweched Dosbarth y Rhyl (Tudalennau 35-42) Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr, Coleg Llandrillo, y Rhyl (copi ynghlwm) sy’n
darparu gwybodaeth i Aelodau am berfformiad Chweched Dosbarth y Rhyl. 9.35 a.m. – 10.15 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon Cyflwynodd Aelod
Arweiniol dros Addysg, y Cynghorydd Eryl Williams, adroddiad Arholiadau Allanol
Dros Dro ac Asesiadau Athrawon (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Cyflwynwyd
yr adroddiad hwn i roi gwybodaeth i Aelodau am berfformiad asesiadau athrawon
ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yn seiliedig ar y data terfynol
sydd wedi ei ddilysu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2/3 ac
arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16. Cyflwynwyd Dr
Alwyn Jones, Pennaeth Safonau, GwE, a Marc Berw Hughes, Uwch Ymgynghorydd Her –
Hwb Conwy/Sir Ddinbych, GwE i'r Pwyllgor, gan y Pennaeth Addysg, Karen Evans. Cadarnhaodd y
Pennaeth Addysg bod yr holl ganlyniadau yng Nghyfnod Allweddol 4 yn rhai dros
dro ac y byddai canlyniadau wedi’u gwirio ar gael ym mis Tachwedd a data
meincnodi ar gael ym mis Rhagfyr 2015. Roedd yr Awdurdod
Lleol wedi dewis gyda GwE bod datblygiad mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen wedi
bod yn faes oedd yn haeddu ffocws gyda'r bwriad o wella. Er gwaethaf
gwelliant yng nghanlyniadau Cyfnod Allweddol 2 (CA2) yn 2015 o gymharu â'r
flwyddyn flaenorol, mae safle Sir Ddinbych wedi gostwng gan fod canlyniadau
wedi gwella mewn Awdurdodau Lleol eraill. Ar
lefel CA2 daeth yn amlwg y byddai angen ymyrraeth yn gynt yn siwrnai addysg
disgyblion, o bosibl yn y Cyfnod Sylfaen. Byddai
hyn yn rhoi cefnogaeth i'r disgyblion yn ystod rhan gyntaf eu haddysg ac yn eu
helpu i gyflawni eu potensial yn CA2.
Bu gwelliant yng
nghanlyniadau Cyfnod Allweddol 3 (CA3) am y seithfed flwyddyn, a oedd yn
galonogol iawn. Roedd canlyniadau
arholiadau allanol heb eu gwirio ar gyfer 2015 yn siomedig wrth i ganlyniadau
lefelau 1 a 2 aros yr un fath, neu bu cwymp cyffredinol mewn perfformiad o
gymharu â blynyddoedd blaenorol. Roedd canlyniadau
Cyfnod Allweddol 5 (CA5) yn debyg i'r graddau a gyflawnwyd yn y flwyddyn
flaenorol. Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Pennaeth Addysg a Swyddogion
GwE: ·
Yn y
Cyfnod Sylfaen, roedd Sir Ddinbych, yn debyg i Awdurdodau Lleol eraill,
roeddynt wedi bod yn canolbwyntio ar lythrennedd, ac o ganlyniad, roedd sgiliau
mathemategol wedi dioddef. Dyma oedd y rheswm dros ganolbwyntio ar ddatblygiad
mathemategol yn y dyfodol ac i adnabod anghenion addysgol arbennig (AAA) yn
fuan yn natblygiad disgybl er mwyn targedu'r ymyrraeth gywir a rhoi cefnogaeth
iddynt. Heb gymorth wedi'i dargedu yn gynnar, gallai'r disgyblion
gael trafferth â phob pwnc Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemategol
(STEM) yn y pendraw; ·
Roedd
wedi bod yn siomedig nodi bod ysgolion uwchradd sy’n perfformio'n dda wedi
llithro eleni yn erbyn perfformiad blaenorol, gan fod yr ysgolion hynny wedi
derbyn cefnogaeth allanol dwys tan yn ddiweddar. Cafodd hyn ei briodoli i'r
ffaith bod GwE, yn ystod ei gyfnod cychwynnol ers ei sefydlu, wedi canolbwyntio
llawer o'i adnoddau a’i waith ar y sector cynradd, er anfantais i’r sector
uwchradd. Roedd canlyniadau Ysgol Uwchradd y Rhyl yn
arbennig o siomedig gan fod ei ganlyniadau eleni wedi bod ar yr un lefel â'r
canlyniadau a gyrhaeddwyd pan oedd dan fesurau arbennig. Byddai
hyn yn achos brys ar gyfer ymyrraeth a gwelliant. Roedd
Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi gofyn i nifer o bapurau arholiad ei disgyblion gael
eu hail-farcio. Swyddogion y Cyngor a GwE wedi cwrdd â
chynrychiolwyr Estyn, y Pennaeth a'r Llywodraethwyr i drafod y canlyniadau a'r
pryderon cysylltiedig. Cytunwyd y byddai Bwrdd Adfer bychan yn
cael ei sefydlu, sy'n cynnwys yr Awdurdod Lleol, yr Ysgol a chynrychiolwyr
Annibynnol, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r problemau (rhai ohonynt wedi
cael eu nodi gan Estyn ddwy flynedd yn gynharach) ac i wella deilliannau i
ddisgyblion; · Mewn cyfarfod diweddar gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC), GwE a chynrychiolwyr ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
PERFFORMIAD MYFYRWYR A*-A AR LEFEL TGAU A SAFON UWCH PDF 185 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Addysg Arweiniol – Uwchradd ac Ôl-16 (copi ynghlwm)
sy’n darparu gwybodaeth i aelodau ynglŷn â pherfformiad myfyrwyr graddau
A*-A Sir Ddinbych mewn arholiadau allanol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16. 10.15 a.m. – 10.45 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg adroddiad ar Berfformiad myfyrwyr A*-A lefel TGAU a Lefel
"A" (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i roi gwybod i Aelodau am
berfformiad graddau A*-A Sir Ddinbych mewn arholiadau allanol yng Nghyfnod
Allweddol 4 ac Ôl 16. Yn ystod ei
chyflwyniad, dywedodd eu bod wedi nodi angen i ganolbwyntio ar anghenion
addysgol arbennig (AAA), prydau ysgol am ddim (PYD) a disgyblion mwy galluog a
thalentog yn y dyfodol. Dywedodd hefyd: ·
Mae
mesurau i fynd i'r afael â'r gostyngiad mewn perfformiad yn Ysgol Brynhyfryd yn
cael eu rheoli drwy Gynllun Gweithredu Estyn yr ysgol; ·
Mae
angen trafodaeth mewn perthynas ag adrannau sy'n perfformio’n dda o fewn
Partneriaeth Dyffryn Clwyd a sut y gellid eu defnyddio i gefnogi a chyflwyno eu
pynciau i bob myfyriwr yn yr ardal i’w galluogi i wireddu eu canlyniadau gorau posibl. Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Pennaeth Addysg a Swyddogion: ·
Er
bod rhai ysgolion wedi cyflawni canlyniadau ardderchog, byddai angen ei herio
bob amser er mwyn sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal a'u gwella yn barhaus.
Byddai angen cefnogi ysgolion eraill er mwyn gwella eu canlyniadau cyfredol o
un flwyddyn i’r llall; ·
Dylid
defnyddio canlyniadau da fel meincnod ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod a
dylai ysgolion ymdrechu i wella arnynt o flwyddyn i flwyddyn; ·
Roedd
angen codi dyheadau’r ysgol a’r disgyblion o’r hyn y gallant ei gyflawni; ·
Roedd
angen hefyd i symud y myfyrwyr mwyaf dawnus ymlaen i lefel uwch; ·
Roedd
perfformiad Ysgol Uwchradd Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Uwchradd y Rhyl yng nghanlyniadau
TGAU eleni yn siomedig, yn enwedig o gofio lefel y gwelliant yn y blynyddoedd
blaenorol. Roedd yn ymddangos unwaith roedd y cymorth dwys yn
cael ei dynnu'n ôl, roedd perfformiad disgyblion wedi llithro’n sylweddol. Mae
dadansoddiad wedi dangos bod y ddwy ysgol wedi dioddef o set gymhleth o
ffactorau cyfrannol. O ganlyniad, byddai cefnogaeth yn cael ei adfer ar gyfer y
ddwy ysgol mewn ymgais i atal y dirywiad a byddai Grŵp Monitro Safonau
Ysgolion yn darparu lefel ychwanegol o her i'r ysgolion. Awgrymodd Aelodau
y gallai fod yn fuddiol i lywodraethwyr ysgolion roi cefnogaeth i ysgolion sydd
mewn trafferthion yn y dyfodol. Ar ddiwedd y
drafodaeth: PENDERFYNWYD: (i)
Nodi perfformiad ysgolion yn erbyn
perfformiad blaenorol a'r meincnodau allanol; (ii)
Argymell bod mwy o gymorth a her wedi’i
dargedu yn cael ei roi i ysgolion yn y sir i sicrhau bod perfformiad yn gwella;
a (iii)
Bod cydbwysedd priodol o gymorth, her
ac atebolrwydd yn cael ei gynnig i bob
ysgol i anelu at welliant o un flwyddyn i’r llall. |
|
RHAN II GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD- dan
ddarpariaethau Adran 100a(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol
y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym
mharagraff 13 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
EFFEITHIOLRWYDD Y CYMORTH PRESENNOL A GYNIGIR I YSGOLION O FEWN Y SIR SYDD ANGEN MEWNBWN YCHWANEGOL Ystyried
adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi ynghlwm) sy’n darparu
gwybodaeth am y gefnogaeth a'r her a gyflwynir i ysgolion sydd angen mwy o
gymorth ac ymyrraeth er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr. 10.55 a.m. – 11.30 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg, Pennaeth Safonau ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE, i gyflwyno eu
hadroddiad ar effeithiolrwydd y gefnogaeth bresennol sy’n cael ei chynnig i
ysgolion yn Sir Ddinbych a nodwyd rhai sydd angen cefnogaeth ac ymyrraeth
ychwanegol. Hysbyswyd yr
Aelodau fod GwE, yn ystod y cyfnod cychwynnol ers ei sefydlu, yn unol â'r
Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG), wedi canolbwyntio ar y sector cynradd yn Sir
Ddinbych, oherwydd ar y pryd, roedd mwy o ysgolion yn y categori oren neu goch
yn y sector cynradd yn y sir. Roedd hyn wedi talu ar ei ganfed, oherwydd erbyn
hyn, nid oedd unrhyw ysgol gynradd yn y categori coch, ac roedd llai yn y
categori oren ar gyfer y Sir. Fodd bynnag, roedd mwy o ysgolion cynradd yn awr
yn y categori melyn a dwy ysgol yn uchel yn y categori coch, ac roedd hyn yn
achos pryder. O ganlyniad, byddai ffocws y Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd ar
ddarparu ymyrraeth a chefnogaeth i'r sector addysg uwchradd. Mewn
ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion GwE yn- ·
Cadarnhau
y rhagwelwyd y byddai un ysgol uwchradd, yn symud o'r categori coch i'r
categori oren yn y dyfodol agos, wrth i weithrediad y camau yng Nghynllun
Gweithredu Estyn symud ymlaen; ·
Dywedasant
er gwaetha’r ffaith y byddai ffocws GwE yn y dyfodol ar y sector uwchradd, ni
ddylai’r sector cynradd ddioddef, gan y byddai ymgynghorwyr her y sector
cynradd yn parhau i weithio gydag ysgolion cynradd; ·
Cafodd
y Pwyllgor wybod, yn rhan o gynllunio gwasanaeth GwE, roeddynt yn bwriadu
adeiladu gallu a gwytnwch o fewn y sefydliad i gwrdd â’r galw yn y dyfodol, er
enghraifft roeddynt wedi comisiynu athrawon a phrifathrawon o du allan i Sir
Ddinbych ac athrawon/penaethiaid oedd wedi ymddeol yn ddiweddar, oedd ag enw
da, i ddod mewn a herio ysgolion ar agweddau amrywiol o’u gwaith; ·
Cafodd
yr aelodau wybod y byddai GwE yn llunio rhaglen gwella sgiliau gyda’r bwriad o
gefnogi a datblygu prifathrawon a rheolwyr y dyfodol; ·
Cadarnhawyd,
er mwyn i'r uchod fod yn llwyddiannus, roedd angen adeiladu lefel uchel o
gyd-ymddiriedaeth rhwng y sefydliad, athrawon a staff yr ysgol, a chyrff
llywodraethu; ·
Cawsant
wybod y bydd modd defnyddio meddalwedd system tracio newydd yr wythnos nesaf a
fyddai'n helpu’r awdurdod lleol a GwE i adnabod unrhyw lithriadau’n ddigon buan
er mwyn gallu cymryd camau ymyrraeth a lliniaru’r risg o ganlyniadau gwael a
chanlyniadau anfoddhaol ar gyfer dysgwyr; ·
Wedi
rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd GwE yn hunanfodlon ac ni allai fforddio
gadael i’r ysgolion sydd yn y categorïau melyn a gwyrdd i lithro; ·
Er
mwyn i ysgol fod yn llwyddiannus, roedd angen dod o hyd i’r cydbwysedd priodol
rhwng cefnogaeth ac atebolrwydd i’r staff a’r corff llywodraethu. ·
Pwysleisiodd
bod disgwyl i GwE gael ei herio'n drwyadl gan Aelod Arweiniol pob awdurdod
lleol ar gyfer Addysg a LlC am elfen gwerth am arian ar ei waith. O ran y lefel
uchel o absenoldeb, dywedodd y Pennaeth Addysg bod y Cyngor wedi cynnal llawer
o waith yn y maes hwn. Byddai ailstrwythuro'r Tîm Gwaith
Cymdeithasol Addysg (GCA) hefyd yn cefnogi gwaith ar leihau absenoldeb. Fodd
bynnag, roedd caniatâd y rhieni yn cyd-fynd â'r mwyafrif o achosion absenoldeb
hy, tynnu disgyblion allan o’r ysgol i fynd ar wyliau. Roedd
Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ei Rhybudd Cosb Benodedig cyntaf (HCB) ar gyfer
absenoldeb yn ddiweddar. Mynegodd Aelodau
eu pryderon ynghylch: ·
Nifer
yr athrawon oedd yn gwneud cais am hyfforddiant prifathro a swyddi
prifathrawon; ·
Nifer
o athrawon da iawn a oedd yn gadael y proffesiwn addysgu i fynd i weithio i GwE
a sefydliadau addysg eraill; · Mae'r potensial i ysgol fod yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAN I – GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL AR GYFER Y RHAN HON O’R CYFARFOD |
|
Cyfeiriodd y
Cydlynydd Archwilio at y Cyfansoddiad ac eglurodd nad oedd gan y Pwyllgor gworwm
bellach. Cytunodd yr Aelodau i fwrw ymlaen â'r cyfarfod ar
sail anffurfiol a bod unrhyw gamau a gymerir yn cael eu cadarnhau yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Rhagfyr, 2016. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 168 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2015 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 16
Gorffennaf 2015. PENDERFYNWYD yn
dilyn cadarnhad yn y cyfarfod nesaf, cymeradwyo a derbyn cofnodion y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2015 fel cofnod cywir. |
|
“EICH LLAIS" CHWARTER 1 2015/2016 PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi ynghlwm) sy’n darparu
gwybodaeth i'r Pwyllgor am faterion perfformiad ac yn gwneud argymhellion i
ymdrin â'r rhain yn unol â hynny. 11.30 a.m. – 12.00 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd adroddiad "Eich Llais” Chwarter
1 2015/2016 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am
unrhyw faterion perfformiad ac i wneud argymhellion i ymdrin â'r rhain yn unol
â hynny. Wrth ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Prif Reolwr: Swyddog Cefnogi Busnes a'r
Cwynion Corfforaethol: ·
Efallai
y bydd yn ddefnyddiol i'r Pwyllgor ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol, i gynnwys
sylwebaeth fer ar y rhesymau pam fod rhai perfformiad gwasanaethau yn erbyn
gweithdrefn gwyno "Eich Llais" yn cofrestru’n "goch", ac i
gynnwys graff yn yr adroddiad er mwyn dangos y duedd ar hyn o bryd mewn
perthynas ag ymdrin â chwynion; ·
O ran y chwe chwyn cam 2 a dderbyniwyd gan yr un cwsmer,
daeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r casgliad bod rhaid i’r Cyngor
ymdrin â phob cwyn a wneir gan y cwsmer hwn yn briodol. Roedd
y Pwyllgor yn cydnabod y gallai hyn gael goblygiadau adnoddau sylweddol i'r
Cyngor, gan nodi y gallent ddefnyddio Polisi ar "Ymdrin ag ymddygiad
annerbyniol gan gwsmeriaid" os yw'n briodol. ·
Cafodd
perfformiad y Cyngor wrth ymdrin â'r nifer uchel o gwynion a dderbyniwyd gan
Adran y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, a'r amser a gymerwyd i'w datrys
ei gymhlethu gan natur y gwasanaeth a'i gwelededd i'r holl breswylwyr, ynghyd
â'r amser a'r goblygiadau ariannol o ddatrys materion yn foddhaol. PENDERFYNWYD (i)
I dderbyn yr wybodaeth am berfformiad
gwasanaethau wrth ddelio â chwynion; ac (ii)
Dylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys
naratif ar y rhesymau pam roedd gwasanaethau yn cofrestru’n "goch" yn
eu perfformiad wrth ymdrin â chwynion a pha fesurau roeddynt yn eu cymryd mewn
ymgais i ddatrys cwynion. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.00 p.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynghylch y
Perfformiad Rhaglen Waith i'r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Perfformiad. Cytunwyd ar gyfer
y cyfarfod 10 Rhagfyr i wahodd: ·
Aelod
Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad: ·
Aelod
Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd; ac ·
Aelod
Arweiniad dros Ofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Plant ac Oedolion Cyfarfod 28 Ionawr 2016 - dwy eitem bellach i'w hychwanegu at y Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol: ·
Llywodraethwyr
Ysgolion a Chyrff Llywodraethu Ysgolion; ac ·
Arholiadau
Allanol wedi’u Gwirio ac Asesiadau Athrawon PENDERFYNWYD -
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad, fel y caiff ei hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 12.15
p.m. – 12.20 p.m. Cofnodion: Dim. |
|
Cyn diwedd y cyfarfod, mynegodd y Prif Weithredwr ei siom mai dim ond pedwar
o'r deg aelod etholedig posibl y Pwyllgor oedd yn bresennol ar gyfer y
cyfarfod, roedd hyn yn golygu nad oedd y Pwyllgor yn gwneud cworwm er mwyn
trafod yr eitemau nad oedd yn ymwneud ag addysgu ar y rhaglen fusnes. Diolchodd aelodau Cyfetholedig Addysg am
eu presenoldeb a'u cyfraniad i'r drafodaeth ac am sicrhau bod gan y Pwyllgor
gworwm ar gyfer y rhan fwyaf o'r eitemau busnes. Roedd y ffaith nad oedd unrhyw
aelodau etholedig o ardal y Rhyl yn bresennol
yn hynod siomedig yn ei farn o, yn enwedig o ystyried y pryderon a
fynegwyd yn yr adroddiadau a gyflwynwyd ar berfformiad Ysgol Uwchradd y Rhyl
mewn arholiadau allanol eleni. Dywedodd y byddai'n trafod y mater gyda'r
Arweinyddion Grwpiau, gan bwysleisio pwysigrwydd presenoldeb mewn cyfarfodydd
wrth i’r Cyngor baratoi ar gyfer
Arolygiad Corfforaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn 2016. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:40pm. |