Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Roedd y
Cynghorwyr Meirick Lloyd Davies, Arwel Roberts, Huw Hilditch-Roberts a David
Simmons yn datgan cysylltiad personol yn yr eitemau galw i mewn. Roedd yr Aelodau
Cyfetholedig John Piper a Gareth Williams yn datgan cysylltiad personol yn yr
eitemau galw i mewn. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16. Cofnodion: Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i ohirio ethol Is-Gadeirydd nes cyfarfod y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad Arbennig a gynhelir ar 22 Mehefin 2015. PENDERFYNWYD bod
ethol Is-Gadeirydd yn cael ei ohirio tan 22 Mehefin 2015. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD PDF 114 KB Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r Cadeirydd wedi caniatau i’r eitemau canlynol gael eu
hystyried fel eitemau busnes brys: (4i) Penderfyniad
y Cabinet ar 2 Mehefin 2015 yn gysylltiedig ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac
Ysgol Pentrecelyn (adroddiad yn atodedig) (9:35am – 10:35am) (4ii) Penderfyniad y Cabinet ar 2 Mehefin 2015 yn
gysylltiedig ac Ysgol Rhewl (adroddiad yn atodedig) (10:45am – 11:45am) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd bod penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin
2015 i gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llanfair Dyffryn
Clwyd (Llanfair DC) ac Ysgol Pentrecelyn wedi'i alw i mewn ar gyfer adolygiad. Hefyd
roedd y penderfyniad i gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Rhewl
wedi'i alw i mewn ar gyfer adolygiad.
O ganlyniad, er mwyn
cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, a oedd yn nodi bod
pwyllgor archwilio i ystyried galw i mewn penderfyniad o fewn pum niwrnod
gwaith, roedd wedi cytuno i ystyried y materion fel eitem o fusnes brys yn
rhaglen y cyfarfod cyfredol. Roedd pob aelod o’r Pwyllgor, gan gynnwys
aelodau cyfetholedig wedi derbyn copïau o'r adroddiadau a'r atodiadau oedd wedi
eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin 2015. Gan fod
penderfyniad y Cabinet ar 2 Mehefin 2015 yn ymwneud â darpariaeth addysg y
Cyngor, caniatawyd i Aelodau cyfetholedig addysg statudol yr Awdurdod ar y
pwyllgor archwilio i gyfrannu’n llawn wrth ystyried y penderfyniadau oedd wedi
eu galw i mewn fel aelodau pleidleisio llawn o'r Pwyllgor. Galw i mewn y penderfyniad i gyhoeddi hysbysiadau
statudol ar gyfer y cynnig i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn. Cymeradwyodd
Cabinet Sir Ddinbych yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin 2015 yr argymhelliad canlynol: “(a) nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar
gyfer cau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol ardal newydd ar
y ddau safle presennol; (b) cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i
Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2016;
ac i’r Eglwys yng Nghymru sefydlu Ysgol Ardal Wirfoddol a Reolir newydd ar y
safleoedd presennol o 1 Medi 2016, a (c) nodi’r opsiwn i rieni wneud cais i anfon eu
plant i Ysgol Pen Barras fel ysgol arall pe baent yn dymuno i’w plant aros o
fewn ysgol Categori 1.” Cyhoeddwyd y
penderfyniad uchod ar wefan y Cyngor ar 3 Mehefin 2015, ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn
Galw i Mewn y Cyngor, nid oedd y penderfyniad wedi cael ei weithredu ar unwaith
fel bod aelodau nad oedd yn aelodau o’r Cabinet yn gallu galw’r penderfyniad i
mewn i’w archwilio, os oeddent o'r farn bod angen ei archwilio. Derbyniwyd
ffurflen "Hysbysiad galw i mewn", a lofnodwyd gan y nifer gofynnol o
Gynghorwyr nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet, ar 5 Mehefin 2015. Y rhesymau dros y
penderfyniad i alw i mewn oedd: (i)
Diffyg
esboniad ynglŷn â beth oedd Categori 1 a 2 yn ei olygu; (ii)
A ddilynwyd
y canllawiau ar gyfer cau ysgolion gwledig? (iii)
A
roddwyd y data cywir ynghylch yr ysgolion – niferoedd data disgyblion?; a (iv)
Ni
ddilynwyd y broses yn gywir yn erbyn blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Gofynnwyd i
Aelodau’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad benderfynu, yn seiliedig ar y
wybodaeth a gyflwynwyd iddynt, os oedd y Pwyllgor yn credu y dylai'r Cabinet
adolygu ei benderfyniad gwreiddiol, ac os felly ar ba sail. Cyflwynodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y cais i alw i mewn a dechreuodd y drafodaeth drwy
amlinellu’r pedwar pwynt a oedd yn sail ar gyfer y galw i mewn. Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg a swyddogion oedd yn bresennol i'r pwyntiau a
godwyd ac i gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor fel a ganlyn: (i)
Roedd
y Cyngor yn categoreiddio ei ddarpariaeth addysg yn unol â Dogfen Wybodaeth
Rhif 023/2007 Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2007.
Roedd disgwyl i bob Cyngor yng Nghymru i gadw at y canllawiau wrth
gategoreiddio eu darpariaeth addysg. Roedd ysgolion cynradd Categori 1 yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Roedd y ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Ar y pwynt hwn (1.25pm) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 1.35pm. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 139 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2015 (copi yn amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Ebrill
2015. PENDERFYNWYD – y
dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2014/15 PDF 87 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr: Cefnogi Busnes (amgaeir copi) sy'n cyflwyno drafft o Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2014/15 ar gyfer sylwadau’r Pwyllgor cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant, y
Cynghorydd Bobby Feeley, Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol (eisoes wedi'i ddosbarthu).
Dywedodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol er bod gwasanaethau gofal cymdeithasol
y Sir yn gwella roedd yna bob amser le i wella ymhellach. Ymhlith
yr heriau sydd o'n blaen oedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, a fyddai'n dod i rym yn llawn yn Ebrill 2016. Mewn ymateb i gwestiynau
aelodau, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol: ·
Bod
yr heriau ar gyfer y flwyddyn i ddod wedi eu manylu o fewn yr adroddiad. ·
Amlinellodd
ymrwymiad y Gwasanaeth i drigolion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n dymuno
cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mynychodd deilydd portffolio
iaith Gymraeg y Cyngor, y Cynghorydd Huw Ll Jones Grŵp Monitro Iaith
Gymraeg y Gwasanaeth a byddai’r Cynghorydd Arwel Roberts yn bresennol yn y
dyfodol agos. Roedd y Grŵp yn monitro cydymffurfiaeth y
Gwasanaeth gyda'r cynllun gweithredu "Mwy Na Geiriau". ·
Rhoddodd
fanylion y broses i sicrhau bod y gwasanaethau a gomisiynir yn ateb anghenion
defnyddwyr y gwasanaeth a’r Cyngor, a’r newidiadau i’r broses gwynion a anelwyd
at hwyluso datrys cwynion. ·
Eglurodd
y talwyd taliadau uniongyrchol i gyfrif o ddewis y defnyddiwr gwasanaeth i
ganiatáu iddynt dalu am eu gofal.
Gall y cyfrif fod yn un
swyddfa bost, banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd. ·
Roedd
Sir Ddinbych yn perfformio'n dda o ran y dangosydd "oedi wrth drosglwyddo
gofal". Bu rhai problemau o ran oedi wrth drosglwyddo
gofal yn ne’r sir, a oedd yn bennaf oherwydd natur wledig yr ardal. Roedd
y problemau’n fwy cyffredin pan oedd angen dau ofalwr yn bresennol ar yr un
pryd. Roedd y Cyngor a'r Gwasanaeth Iechyd yn
cydweithio'n agos i ddatrys y mater hwn. ·
Roedd
risgiau sy'n gysylltiedig â chyfuno Gwasanaethau Addysg a Phlant o dan un
Pennaeth Gwasanaeth yn cael eu rheoli'n dda, ac roedd aelodau etholedig yn cael
eu briffio’n rheolaidd ar gynnydd y prosiect. ·
Roedd
y posibilrwydd o gau cartrefi gofal preswyl wedi'i nodi fel her yng nghynllun y
llynedd, roedd gwaith yn cael ei wneud ar y rhain ar hyn o bryd. Roedd
yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol wedi pwysleisio'r angen i
aelodau etholedig gyfathrebu'n glir i drigolion y rhesymau tu ôl i'r cynigion i
leddfu eu pryderon o ran newidiadau arfaethedig yn y dyfodol i ddarparu
gwasanaethau. ·
Eglurodd
beth oedd yn cael ei ystyried fel "symud" ar gyfer plentyn mewn
gofal. Roedd y rhain wedi cynnwys symudiadau cadarnhaol
e.e. yn ôl i rieni, rhyddhau o'r ysbyty neu fabwysiadu. O
ganlyniad roedd gan yr ystadegau sy'n ymwneud â’r dangosydd perfformiad penodol
hwn y potensial o beidio â rhoi’r darlun llawn. Roedd
y Cyngor wedi'i ddewis fel un o'r awdurdodau peilot ar gyfer treialu mesurau
"canlyniad" ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Diben
y cynllun peilot hwn oedd dyfeisio set ddata ystyrlon ar gyfer plant sy’n
derbyn gofal a fyddai'n cynorthwyo awdurdodau i wella gwasanaethau ar eu cyfer. ·
Er
gwaethaf cofrestru cyfradd uchel o absenoldeb oherwydd salwch o'i gymharu â
gwasanaethau eraill y cyngor, roedd perfformiad yr adran Gwasanaethau
Cymdeithasol yn gwella ac yn cymharu’n dda yn erbyn cyfartaledd Cymru a'r DU ar
gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. · Briffio'r Aelodau am ddatblygiadau sy'n ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’r Bwrdd yn destun mesurau arbennig. Byddai'r Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn mynychu cyfarfod y prynhawn hwnnw gyda'r Swyddog Atebol sydd newydd ei benodi ar y Bwrdd, Mr Simon Dean. Byddai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weithredwr yn cyfarfod y Swyddog Atebol yr wythnos ganlynol. Roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 4 2014/15 PDF 83 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad Strategol (amgaeir copi) sy'n gofyn i’r Pwyllgor fonitro perfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol, a nodi meysydd penodol neu wasanaethau a fyddai'n elwa o graffu manwl er mwyn gwella canlyniadau i ddinasyddion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol y Cynllun Corfforaethol – Adroddiad Chwarter 4
2014/15 (dosbarthwyd eisoes) oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed gyda'r modd y
darperir y Cynllun Corfforaethol a chytundebau canlyniadau hyd at ddiwedd
Chwarter 4 yn y flwyddyn ariannol 2014/2015. Roedd
adroddiadau rheolaidd yn ofyniad monitro angenrheidiol y Cynllun Corfforaethol
er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu eu dyletswydd i wella. Yn ystod
trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: (i)
Ni
achoswyd unrhyw niwed i Bont y Ddraig yn y Rhyl ar ôl i gar gael ei yrru
drosti. Roedd archwiliad strwythurol wedi'i gynnal i asesu
unrhyw ddifrod. (ii)
Byddai
disgwyl i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg gyflawni gostyngiad yn y nifer o
ystafelloedd dosbarth symudol a ddefnyddir yn y sector cynradd ac uwchradd. Byddai
cynnydd o ran cyflawni'r rhaglen a gwella presenoldeb yn yr ysgol uwchradd yn
cael ei fonitro drwy gyfrwng y broses herio gwasanaeth. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad, a bod yr Adroddiad Perfformiad
Blynyddol yn cael ei ddefnyddio i nodi meysydd ar gyfer archwilio manwl er mwyn
gwella canlyniadau i ddinasyddion a hwyluso’r Cyngor i gyflawni ei Gynllun Corfforaethol. |
|
ADRODDIAD EICH LLAIS – CHWARTER 4 2014/15 PDF 88 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (amgaeir copi) sy'n ceisio barn y Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor wrth ddelio â chwynion, ac iddo nodi meysydd ar gyfer gwaith craffu manwl yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd y
byddai’r Adroddiad Eich Llais– Ch4 2014/15 yn cael ei ohirio tan y cyfarfod
Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar 16 Gorffennaf 2015. PENDERFYNWYD y
byddai’r Adroddiad “Eich Llais” – Ch4 2014/15 yn cael ei ohirio tan y cyfarfod
Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar 16 Gorffennaf 2015. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 106 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (amgaeir copi) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. PENDERFYNWYD
- cymeradwyo’r Rhaglen
Waith fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 2.30pm. |