Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw Aelod gysylltiadau personol neu ragfarnus mewn unrhyw fater a oedd i’w
ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau a ddylai, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried
yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth
Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 182 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 26 Chwefror, 2015 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau, 26
Chwefror, 2015. Materion
yn codi:- 4. Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf - Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd M.Ll. Davies, cytunodd y Cydlynydd Archwilio ddosbarthu copi o’r
e-bost a anfonwyd i’r Aelodau gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ynghylch
arddull y cofnodion. PENDERFYNWYD
– yn amodol ar yr uchod, fod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel
cofnod cywir. |
|
DYFODOL LLWYDDIANNUS - ADRODDIAD DONALDSON PDF 85 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) ar yr Adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru gan yr Athro Graham Donaldson.
9.35 a.m. 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Addysg wedi’i anfon
gyda phapurau’r cyfarfod. Ym mis Mawrth 2014
comisiynwyd yr Athro Graham Donaldson gan y Gweinidog Addysg i gynnal adolygiad
annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru o’r Cyfnod Sylfaen
hyd at Gyfnod Allweddol 4. Cynhwyswyd canfyddiadau’r adolygiad yn Atodiad 1 yr
adroddiad - Dyfodol Llwyddiannus, Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a Threfniadau
Asesu yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn manylu ar gwmpas yr Adolygiad, ac yn
ystyried y goblygiadau i addysg a gwasanaethau sy’n gysylltiedig ag addysg yn
Sir Ddinbych pe bai argymhellion yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu gan
Lywodraeth Cymru (LlC). Roedd yr adroddiad
yn tynnu sylw at ddiffygion y cwricwlwm presennol ac yn gwneud cyfres o
argymhellion i daclo’r rhain a gwella sut mae plant yng Nghymru’n cael eu dysgu
a’u hasesu. Roedd y cynigion yn rhai radical a phellgyrhaeddol. Amlinellwyd y
prif benawdau yn yr adroddiad, a rhestrwyd yr argymhellion yn Atodiad 2. Eglurwyd fod yr
adolygiad, yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd, yn awgrymu newidiadau radical i’r
ffordd y cyflwynir addysg yng Nghymru. Hwn fyddai’r newid mwyaf ers cyflwyno’r
cwricwlwm cenedlaethol, a byddai addysg yn cael ei chyflwyno drwy chwe maes
dysgu a phrofiad - celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; dyniaethau;
ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; a gwyddoniaeth a
thechnoleg. Byddai’r adolygiad
yn cyflwyno tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a
chymhwysedd digidol. Byddai pob athro’n gyfrifol am y rhain, a byddent yn rhoi
sylw ar y deiliannau i’r dysgwyr, i’w paratoi a’u cymhwyso ar gyfer marchnad
waith yr G21ain. Byddai’r broses asesu yn llai biwrocrataidd na’r un bresennol
a byddai mwy o ryddid o ran cyflwyno’r cwricwlwm. Cafwyd cadarnhad,
pe bai’r weledigaeth a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei mabwysiadu’n
llwyr, neu elfennau ohoni, byddai yna heriau o safbwynt cynnal a chyflwyno’r
cwricwlwm presennol wrth gynllunio a pharatoi i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yr
un pryd. Roedd y Pennaeth
Addysg o blaid y newidiadau arfaethedig ac yn awyddus i’w gweld yn cael eu
mabwysiadu’n llwyr, nid fersiwn hybrid o’r model presennol a’r model newydd.
Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau:- ·cytunodd hi i holi pam na fu unrhyw bennaeth
cynradd yn rhan o dîm cynghorwyr allanol yr Adolygiad a faint o gynghorwyr o
ddiwydiant, busnes a’r sector preifat a gafodd ran mewn datblygu canlyniadau’r
Adolygiad; ·pwysleisiodd fod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Aelodau yn amlinellu’r
weledigaeth i’r cwricwlwm addysg yng Nghymru yn y dyfodol. Byddai manylion y
cymorth ariannol a sut byddai’n cael ei weithredu yn dilyn unwaith i LlC gytuno
ar y polisi terfynol; ·cadarnhaodd nad oedd bwriad i gael gwared â phrofion PISA, gan eu bod yn
fesur oedd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Fodd bynnag, pe bai’r cwricwlwm
newydd yn cael ei gyflwyno, dylai baratoi’r myfyrwyr i berfformio’n well yn y
profion PISA; ·byddai cynlluniau i hyfforddi ac uwchsgilio athrawon yn barod i’r
cwricwlwm newydd yn cael eu llunio unwaith y byddai’r polisi terfynol wedi’i
gytuno. Byddid yn ymgynghori â’r undebau athrawon ayb. ar hyn ac ar bob agwedd
arall o weithredu’r polisi yr adeg honno; ·cadarnhaodd, mewn ymateb i sylwadau ysgrifenedig a anfonwyd gan yr Aelod
Cyfetholedig Dr Dawn Marjoram nad oedd yn gallu bod yn bresennol, ei bod wedi
siarad â swyddogion LlC ddwywaith am ysgolion arbennig a’u bod nhw wedi
cadarnhau y byddai’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion arbennig yn parhau fel rhan
o gynllun gweithredu adroddiad Donaldson. Dywedodd y swyddogion fod angen parhau â datblygiad parhaus sgiliau’r Iaith Gymraeg rhwng addysg ysgol a’r gweithle drwy wella’r defnydd o’r iaith yn y gymuned. Roedd angen trafodaeth genedlaethol ar ddiffiniad economaidd a manteision sgiliau ieithyddol, opsiynau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL PDF 106 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n rhoi manylion am yr adolygiad ffurfiol ar Ebrill 2015 i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. 10.10 a.m. 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd copi gan y
Rheolwr Cynllunio Strategol, ar y diwygiad ffurfiol yn Ebrill 2015 i’r Gofrestr
Risg Corfforaethol (CRC) ei ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod. Cytunwyd ar y fersiwn a ddiweddarwyd yn ffurfiol o’r CRC mewn sesiwn
Friffio’r Cabinet. Roedd yn galluogi’r Cyngor i reoli tebygrwydd ac effaith y
risgiau roedd yn eu hwynebu drwy werthuso effaith unrhyw gamau lliniaru sy’n
bodoli’n barod, a chofnodi terfynau amser a chyfrifoldebau dros gamau pellach a
ddylai olygu rheolaeth fwy llym. Pwrpas y Gofrestr Risg Corfforaethol oedd
adnabod y digwyddiadau posibl yn y dyfodol a allai gael effaith andwyol ar
allu’r Cyngor i gyflawni ei amcanion, yn cynnwys ei Flaenoriaethau
Corfforaethol. Roedd y rheolaethau a’r camau a nodwyd yn allweddol ar gyfer
cyflawni’r Blaenoriaethau Corfforaethol. Cyflwynodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol yr adroddiad a dywedodd fod yna rai mân newidiadau
i eiriad rhai o’r risgiau a restrwyd yn Atodiad 1, yn dilyn cyfarfod Briffio’r
Cabinet yn gynharach yn yr wythnos. Gan ateb cwestiynau’r Aelodau, adroddodd y
swyddogion fel a ganlyn:- ·o safbwynt risg DCC007 byddai’r 9% o’r
gweithlu oedd yn dal heb wneud modiwlau e-ddysgu diogelu data yn gwneud hynny eleni.
Yn gyffredinol aelodau o staff oedd y rhain nad oedd â mynediad hawdd at
gyfrifiaduron, felly byddai sesiynau dosbarth ayb. yn cael eu cynnig iddynt; ·
roedd geiriad DCC013 wedi’i newid bellach a’i ehangu o sefydliadau hyd
braich i gynnwys y gwasanaethau hynny yr oedd y Cyngor yn eu comisiynu gan
ddarparwyr eraill neu’n eu contractio allan i eraill i’w cyflwyno ar eu rhan
e.e. Civica. Byddai hyn yn fwy pwysig yn y dyfodol gan fod mwy o wasanaethau’n
debygol o gael eu contractio allan. ·
roedd tebygolrwydd risg DCC017 wedi’i ostwng bellach yn dilyn y
gostyngiad mewn swyddi yn yr Adran TGCh, ac ail-gynllunio gwaith yr Adran i
edrych yn fwy tuag allan. Byddai cyflwyno system e-bost Microsoft Outlook yn
raddol yn lle’r system Lotus Notes hefyd yn cyfrannu tuag at y gostyngiad yn y
sgôr risg; ·
dylai risg DCC019 gael ei gostwng erbyn diwygiad nesaf y Gofrestr Risg
oherwydd erbyn hynny dylai fod mwy o wybodaeth ar gael ar argaeledd arian
cyfatebol Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru ; · mewn
ymateb i bryderon yr Aelodau am ostwng y sgôr risgiau anodd cael gwared arnyn
nhw o ‘tebygol’ i ‘posibl’, eglurodd y swyddogion fod y penderfyniad hwn wedi’i
wneud yn seiliedig ar yr wybodaeth fod strwythur rheoli newydd yn ei le bellach
o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ardal y sir, a bod y
ffaith fod Aelod Arweiniol Sir Ddinbych dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau
Oedolion a Phlant) a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar fwrdd BIPBC.
Felly roedd y risg na allai’r Cyngor asesu a chynllunio ar gyfer effaith bosibl
penderfyniadau’r Bwrdd Iechyd ar y Sir wedi gostwng; ·
gallai fod o fudd i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Torri’r Gôt yn ôl y
Brethyn’ fel rhan o’i waith, ystyried yr effaith ar wasanaethau yn sgil colli
sgiliau oherwydd toriadau’r gyllideb. Yn ddiweddar
gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio edrych yn fanwl ar raglenni blaen gynllunio’r Cyngor er mwyn gallu
egluro wrth eu Pwyllgorau y materion pwysig a fyddai’n dod i’r fei yn y misoedd
nesaf. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, gofynnodd am i gofnodion y Grŵp
hwn fod ar gael yn hawdd mewn lleoliad hygyrch i’r Aelodau Etholedig i gyd. PENDERFYNWYD
– fod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad:- (a) yn amodol ar y sylwadau uchod, yn nodi’r pethau
a ddilëwyd, a ychwanegwyd ac a ddiwygiwyd yn y Gofrestr Risg Corfforaethol; ac (b) yn gofyn i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Torri’r Gôt yn ôl y Brethyn’ asesu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD GWASANAETH AWDURDOD LLEOL 2013/14 PDF 92 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi manylion am Adroddiad Perfformiad Gwasanaeth Awdurdod Lleol 2013/2014. 10.55 a.m. 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio
Strategol, a oedd yn gofyn am ystyried yr adroddiad cenedlaethol ar berfformiad
Awdurdodau Lleol (ALlau) a pherfformiad Sir Ddinbych o’i gymharu ag ALlau eraill
yn 2013/14, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod. Eglurwyd fod Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Awdurdod Lleol
2013/2014, Atodiad 1, yn gyhoeddiad blynyddol a oedd yn cyfuno perfformiad
gwasanaethau allweddol ALlau yng Nghymru. Roedd yn tynnu ar ffynonellau
gwybodaeth a oedd yn bodoli’n barod i dynnu sylw ac ychwanegu cyd-destun at yr
amrywiad perfformiad drwy Gymru ac yn amlinellu’r hyn y gallai’r dinasyddion ei
ddisgwyl gan brif wasanaethau ALl. Y meysydd gwasanaeth yn yr adroddiad oedd
Gofal Cymdeithasol, Addysg, Hamdden a Diwylliant, Tai, Amgylchedd,
Trafnidiaeth, Diogelwch Cymunedol a Lles. Amlinellwyd proses fonitro’r Cyngor, a darparwyd Adroddiad Perfformiad
Blynyddol i werthuso cynnydd. Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ymdrin â holl
Berfformiad Gwasanaeth ALl yn 2013/2014. Roedd yn defnyddio Dangosyddion
Strategol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu a
ffynonellau ystadegol swyddogol eraill fel ag yr awgrymwyd gan arbenigwyr
polisi ac ystadegau. Roedd sefyllfa gymharol Sir Ddinbych o ran y Dangosyddion
Strategol Cenedlaethol yn 2013/14 i’w gweld yn Atodiad 2. Yn 2013/14 cadwodd Sir Ddinbych ei safle fel y Cyngor sy’n perfformio
orau yng Nghymru am bedwaredd flynedd, a rhoddwyd crynodeb o’r dangosyddion yn yr
adroddiad, ynghyd â’r sefyllfa bresennol ar ddiwedd Chwarter 3. Dywedwyd wrth yr
Aelodau y gallent ddefnyddio’r ddogfen hanesyddol fel sail i’w gwaith monitro
perfformiad yn y dyfodol, a gofynnwyd am eu barn ar ba mor ddefnyddiol oedd
Atodiad 2 fel offeryn i grynhoi siwrne berfformiad y Cyngor yn erbyn gwahanol
ddangosyddion perfformiad (DP). Credai’r Aelodau
fod hwn yn ddarlun hawdd ei ddilyn ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol. Gan
ymateb i gwestiynau’r Aelodau:- ·
cadarnhaodd y swyddogion fod y Cyngor yn ei fesur ei hun yn erbyn
Awdurdodau eraill y tu hwnt i Gymru h.y. absenoldeb salwch a chyrhaeddiad
addysgol. Serch hynny, roedd mwyafrif y DP yn cael eu cymharu ar sail Cymru; ·
roedd canran yr unedau tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych yn isel o’i
gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill. Ond, roedd mesurau yn eu lle mewn ymgais i
wella perfformiad yr Awdurdod; ·
pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd casglu a chofnodi’r dangosyddion cywir
h.y. roedd dangosydd cenedlaethol gorfodol ar ‘gyfradd y bobl hŷn oedd yn
cael cymorth yn y gymuned yn ôl 1000 y pen o’r boblogaeth’ – roedd perfformiad
Sir Ddinbych yn wan iawn yn erbyn y DP arbennig hwn oherwydd ei fod yn dilyn
gweledigaeth a pholisi LlC ei hun, sef cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl
a pheidio â bod yn rhy ddibynnol ar gymorth gofal cymdeithasol Wedi ystyried yr
adroddiad cenedlaethol ar berfformiad Awdurdodau Lleol, a pherfformiad Sir
Ddinbych o’i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yn 2013/14:- PENDERFYNWYD
– (a) derbyn yr adroddiad a’i
ddefnyddio fel sail wrth ystyried adroddiadau perfformiad y Cynllun
Corfforaethol yn y dyfodol; a (b) bod yr Offeryn Cyfeiriad Teithio yn
Atodiad 2 yn cael ei gyflenwi yn y dyfodol i fynd gyda phob adroddiad ar
berfformiad y Cynllun Corfforaethol. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 103 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
11.30 a.m. 11.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Waith, ac a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi’i
ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod. Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei Raglen Waith ddrafft ar gyfer y cyfarfodydd
nesaf, Atodiad 1, a gwnaed y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 11 Mehefin, 2015:-
Cytunodd yr Aelodau y dylid ail-drefnu’r eitem fusnes, Adroddiad Blynyddol
Iechyd a Diogelwch Corfforaethol i 16 Gorffennaf, 2015, a gwahodd yr Aelod
Arweiniol, y Cynghorydd J. Thompson-Hill, i fod yn bresennol. Cytunwyd y dylid
gwahodd yr Aelodau Arweiniol perthnasol i fod yn bresennol ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol ar 11 Mehefin:- -
Cynghorydd R.L. Feeley ar gyfer Adroddiad Blynyddol
Drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2014/15. -
Cynghorydd
Julian Thompson-Hill i’r Cynllun Corfforaethol (Ch4) 2014/15. Roedd Rhaglen Waith
y Cabinet wedi’i chynnwys fel Atodiad 3. Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnwys yr
eitem fusnes ar Ddyfodol Gofal Mewnol i’w ystyried gan y Cabinet ar 28
Gorffennaf, 2015, yn rhaglen waith y Pwyllgor Archwilio Perfformiad i’w
ystyried ar 16 Gorffennaf, 2015. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cyfarfod Cabinet a
restrwyd ar 26 Mai, 2015 wedi’i ad-drefnu ar gyfer prynhawn 2 Mehefin,
2015. Roedd tabl yn
crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd o ran eu gweithredu,
wedi’i atodi fel Atodiad 4. Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Perfformiad wedi cyfarfod ar 2 Ebrill, 2015 ac ni chyfeiriwyd unrhyw eitemau
i’r Pwyllgor eu hystyried. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd G. Sandilands, eglurodd y Cydlynydd Archwilio fod y
Pennaeth Gwasanaeth wedi dweud y byddai diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhoi
ar fater CCTV fel rhan o’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar ddyfodol y
gwasanaeth. Byddai adroddiad ar yr opsiynau’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau ar 25 Mehefin, 2015. Eglurodd y
Cynghorydd A. Roberts y byddai’n cysylltu â Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd ynghylch
pryderon am y ddarpariaeth rheoli plâu. Gofynnodd y Cydlynydd i’r Cynghorydd
Roberts lenwi ac anfon ffurflen cynnig gan Aelod os oedd yn dymuno i’r Pwyllgor
ystyried y mater, yn dilyn ei drafodaethau â’r swyddog dan sylw. Eglurodd y
Prif Weithredwr, yn dilyn ystyried cynigion y gyllideb, ac o ganlyniad i’r
cyfyngiadau ariannol, nad oedd y Cyngor bellach yn cynnig gwasanaeth rheoli
plâu. Fodd bynnag, mewn ymgais i helpu cwsmeriaid, roedd un o’r rhifau ffôn a
roddwyd yn cyfeirio cwsmeriaid i’r Ganolfan Rheoli Plâu Genedlaethol a oedd
wedi’i lleoli yn Birmingham. Cadarnhaodd hefyd nad oedd darpariaeth yn y
gyllideb i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â gwylanod. Cytunodd yr Aelodau
gynnwys eitem fusnes yn gysylltiedig ag adroddiad Donaldson yn rhaglen waith y
Pwyllgor ar ddyddiad i’w gadarnhau. Eglurodd y
Cydlynydd, gan mai cyfarfod nesaf y Pwyllgor fyddai’r cyfarfod cyntaf ar ôl
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, y byddai angen i’r Pwyllgor benodi Is-Gadeirydd
i’r flwyddyn sy’n dod. Roedd disgrifiad y swydd i Gadeirydd Archwilio a’r
Is-Gadeirydd wedi’u cynnwys yn y Nodiadau Briffio ar gyfer y cyfarfod. Eglurodd
y Cydlynydd y byddai’n gofyn am CV gan Aelodau a oedd yn dymuno anfon
enwebiadau i’r swyddi, ac y byddai angen y rhain erbyn 2 Mehefin, 2015.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu cymorth a’u cefnogaeth
yn ystod y flwyddyn. PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, fod y Rhaglen
Waith fel ag y’i gosodwyd allan yn Atodiad 1, yn cael ei chymeradwyo. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau Cyngor
11.40 a.m. 11.50 a.m. Cofnodion: Roedd y Cynghorydd A.
Roberts wedi mynychu cyfarfod o’r Grŵp Monitro Safonau Ysgolion ar 24
Chwefror, 2015. Cyfeiriodd at dair ysgol a drafodwyd, a thynnodd sylw at y
pryderon a oedd yn gysylltiedig ag un o’r ysgolion dan sylw. Roedd y Cynghorydd M.Ll. Davies wedi mynychu’r cyfarfod
Herio Gwasanaethau Tai a’r Gymuned ar 4 Mawrth, 2015. Rhoddodd amlinelliad byr
o’r trafodaethau ac eglurodd fod y materion a ystyriwyd yn cynnwys y
Strategaeth Dai a Thai Fforddiadwy. Teimlai fod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol
ac adeiladol iawn. Nid oedd y
Cynghorydd R.J. Davies wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod Herio
Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg. Fodd bynnag, roedd wedi cael
nodiadau’r cyfarfod a chytunodd y Cydlynydd eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD
– derbyn yr adroddiadau a nodi’r cynnwys. Daeth y cyfarfod i ben am 12.45 p.m. |