Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Roedd y Cynghorydd A Roberts wedi
cylchredeg ei CV i aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Enwebwyd y Cynghorydd Roberts ac fe’i eiliwyd ar
gyfer swydd yr Is-Gadeirydd, ni dderbyniwyd enwebiadau eraill a: PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r
Cynghorydd A. Roberts fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad am y
flwyddyn nesaf. Yn absenoldeb y
cadeirydd, y Cynghorydd D. Simmons, yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd A. Roberts
gadeiriodd y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw Aelod
unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnllyd ag unrhyw fusnes oedd am gael ei
ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd am eitemau y mae’r Cadeirydd yn credu y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 158 KB Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 11 Ebrill, 2013 (mae copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd Ddydd Iau 11 Ebrill,
2013. Materion yn codi:- 5. Adroddiad Cynnydd
Chwarterol y Cynllun Corfforaethol: Chwarter 3 2012/13 – Yn dilyn y sesiwn friffio a
gynhaliwyd cyn y cyfarfod am Adroddiadau Chwarterol Perfformiad y Cyngor,
cytunodd y Pwyllgor bod y broses sydd wedi’i gosod yn addas ac yn briodol o
heriol. Cadarnhaodd
Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad i’r Aelodau y byddai’r adroddiadau
chwarterol perfformiad yn cael eu cyflwyno i archwilio cyn eu cyflwyno i’r
Cabinet er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei herio’n drylwyr ymhob lefel.
Cadarnhaodd
y Cydlynydd Archwilio byddai adroddiad cynnydd mewn perthynas â gostwng ymyl
palmentydd yn cael ei gylchredeg pan fo wedi’i orffen. Eglurodd bod nodyn briffio’n
manylu’r cynnydd a wnaed yn y cyfarfodydd grŵp craidd cychwynnol yn ystod
deg diwrnod cyntaf cynhadledd gyntaf amddiffyn plant wedi’u cynnwys yn y Briff
Gwybodaeth a gafodd ei gylchredeg cyn y cyfarfod. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Owens, eglurodd y Cydlynydd Archwilio bod
eitem yn ymwneud â chynnydd datblygiad TCC yn Sir Ddinbych wedi’i chynnwys yn
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Hydref 2013. Byddai’r
arddodiad yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu TCC y Cyngor yn
dilyn peidio â pharhau a’r prosiect Cydweithio Rhanbarthol. Byddai’n amlygu’r lleihad mewn costau a’r dulliau o greu
incwm gan ddarparu TCC yn deg ledled y Sir. Cytunodd y
Cydlynydd Archwilio i holi a all yr adroddiad roi manylion am gyfraniad
ariannol yr Heddlu at y gwasanaeth a dadansoddiad o’r buddion ariannol/adnoddau
a wireddwyd o ganlyniad i ddefnyddio’r gwasanaeth. [RE
i holi] PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo’r
Cofnodion fel cofnod cywir. RHAN II EITHRIO’R WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran
100a(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth
eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraff 14 Atodlen 12a
Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
MENTRAU CEFNDY Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (mae copi ynghlwm) o ran Mentrau
Cefndy.
10.10 – 10.45 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad cyfrinachol gan Reolwr Gwasanaeth Gofal
Iechyd/Datblygiad Busnes Cefndy, oedd yn manylu ar berfformiad Cefndy yn y
gorffennol ac yn amlygu’r anghenraid am fuddsoddiad yn y dyfodol, wedi’i
gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Darparodd y Cynghorydd
R.L. Feeley fanylion i’r
Pwyllgor am berfformiad Cefndy yn y gorffennol a’r presennol, targedau ar gyfer
y dyfodol a’r prif sialensiau fydd o’u blaen o ganlyniad i golli cyllid Adran
Gwaith a Phensiynau. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes
er bod perfformiad ariannol a’r gwasanaeth wedi bod yn dda roedd cyflawni
targedau Cefndy yn golygu ei fod wedi rhwystro’r gwasanaeth rhag buddsoddi yn
isadeiledd y ffatri. Eglurodd y byddai’r Cabinet yn ystyried cynnig i dynnu arian wrth gefn
cyfalaf y Cynllun Corfforaethol i lawr i fuddsoddi mewn offer/peirianwaith i
gymryd lle’r hen offer cyfredol ym mis Gorffennaf. Mae Sir Ddinbych wedi
ffurfio ymrwymiad yn ei Gynllun Corfforaethol i gefnogi ei fodolaeth yn y
dyfodol drwy gymeradwyo buddsoddiad cyfalaf. Gofynnwyd i Archwilio ystyried y canlynol am y sefydliad:- -
Eu perfformiad wrth gyflawni eu Cynllun Busnes ar gyfer
2012/13; -
Eu Cynllun Busnes ar gyfer 2013/14; -
Y risgiau a ganfuwyd mewn perthynas â lleihad cymhorthdal
a chyllid Adran Gwaith a Phensiynau a’r effaith o ganlyniad ar y gweithlu a’r
Cyngor; a -
Materion iechyd a diogelwch Gweledigaeth Cefndy ar gyfer y dyfodol oedd bod
yn hunangynhaliol a chadarn yn eu trefn lywodraethol. Roedd Gofal
Iechyd Cefndy yn fusnes wedi’i gefnogi gan Sir Ddinbych oedd yn darparu
cyflogaeth a hyfforddiant i dros 60 o bobl, ac roedd gan 45 ohonynt anabledd. Roedd manylion
am hanes a chyfraniad Cefndy i gyflogaeth a hyfforddiant lleol wedi’u cynnwys
yn yr adroddiad. Yn y 5 mlynedd diwethaf mae Cefndy wedi gwrthdroi’r
duedd o gynyddu dibyniaeth ar gefnogaeth ariannol Sir Ddinbych, drwy ddarparu
twf masnachol ac effeithlonrwydd ariannol ac mae copi o’r Cynllun Busnes wedi’i
gynnwys fel Atodiad 1. Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf roedd Cefndy
wedi: ·
Cynyddu perfformiad gwerthiant o dros £1 miliwn i £3.8
miliwn erbyn hyn. ·
Lleihau eu dibyniaeth ar Gyngor Sir Ddinbych o £225 mil. ·
Wedi bod ar darged i gyflawni’r amcan allweddol o gostio
dim i’r Cyngor. ·
Wedi
cael cofnod ardderchog o reoli Iechyd a Diogelwch, drwy weithio gydag Iechyd a
Diogelwch Corfforaethol a gyda phrosesau mewnol cadarn yn unol â’r gofynion
cyfreithiol. Mae’r sialensiau sydd o flaen y sefydliad yn awr yn effeithio ar
gynaladwyedd y busnes/gwasanaeth a gallai fygwth bodolaeth Cefndy onid ydynt yn
delio â hyn yn y dyfodol agos. Mae’r sialensiau hyn wedi gwaethygu’n dilyn
newidiadau lles Llywodraeth y DU yn ddiweddar. Nodwyd tri opsiwn i’w
hystyried gan y Pwyllgor gyda’r bwriad o ddiogelu dyfodol y busnes. Bu’r Aelodau’n ystyried
yr opsiynau a phenderfynwyd argymell y dylid cefnogi Opsiwn C – oedd yn cynnig
tynnu buddsoddiad cyfalaf i lawr sydd wedi’i amlinellu yng Nghynllun
Corfforaethol y Cyngor fyddai’n galluogi’r busnes ddelio â’r risgiau o’u
blaenau a’u galluogi i fod yn fwy effeithlon a delio â cholli cyllid yr Adran
Waith a Phensiynau ac yn y diwedd byddai’n arwain at gynaladwyedd ariannol heb
gyllideb gan Sir Ddinbych. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles ei bod wedi trafod goblygiadau tynnu cyllid ‘Dewis
Gwaith’ gyda’r AS a’r AC lleol. Eglurodd y swyddogion bod y staff sy’n cael eu
cyflogi yng Nghefndy yn dod o wahanol ardaloedd yn y Sir a thu hwnt iddi. Darparwyd
manylion am hysbysebu’r busnes a gwerthiant ar y we i’r Pwyllgor. Yn
dilyn trafodaeth fanwl: (a)
(b)
PENDERFYNWYD
– (c)
(d) nodi cynnwys yr
adroddiad; ac (e) argymell i’r Cabinet bod Opsiwn C – tynnu arian wrth gefn cyfalaf y Cynllun Corfforaethol i lawr i fuddsoddi ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD GWELLIANT BLYNYDDOL: CYNGOR SIR DDINBYCH PDF 74 KB I ystyried Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar y Cyngor a dynodi unrhyw weithrediadau angenrheidiol.
10.45 – 11.15 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o Adroddiad Gwelliant Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer
Sir Ddinbych wedi’i gylchredeg gyda’r papurau cyn y cyfarfod. Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Gwelliant
Corfforaethol yr adroddiad oedd yn darparu gwybodaeth am yr Adroddiad Gwelliant Blynyddol
diweddaraf ar gyfer Sir Ddinbych a hwn oedd yr adroddiad rheolaethol allanol
allweddol oedd yn cael ei dderbyn yn y Cyngor bob blwyddyn. Bob blwyddyn, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn
adrodd ynghylch pa mor dda y mae Cynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub a Pharciau
Cenedlaethol Cymru’n cynllunio ar gyfer gwelliant a darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio
gwaith yr arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, yn ogystal â gwaith a wnaed ar
ran Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno darlun o welliant
dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae tair
prif ran yr adroddiad yn cynnwys darpariaeth a hunanwerthuso gwasanaethau
Sir Ddinbych mewn perthynas â 2011-12, a’r trefniadau cynllunio ar gyfer
gwelliant 2012-13. Yn gyffredinol, casglodd yr Archwilydd Cyffredinol bod y
Cyngor wedi gwneud cynnydd da yn gweithredu eu rhaglen welliant a ni wnaeth
unrhyw argymhellion newydd eleni. Ond roedd cwmpas i
wella ansawdd rhai mesurau perfformiad a'r dystiolaeth y mae'r Cyngor yn ei
defnyddio i benderfynu ar ei effeithlonrwydd. Eglurwyd bod yr
adroddiad yn nodi’r cynnydd y mae’r Cyngor yn ei wneud i fynd i’r afael â’r
argymhellion a’r cynigion i wella a wnaed mewn adroddiadau blaenorol. Hysbyswyd y Pwyllgor bod copi drafft o’r Adroddiad
Gwelliant Blynyddol wedi’i gyflwyno a’i drafod gyda’r Prif Weithredwr a bod
adborth wedi’i ddarparu cyn i’r adroddiad gael ei orffen yn derfynol. Byddai’r
Adroddiad Gwelliant Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar 22 Mai 2013, ac i’r Cyngor ar 4 Mehefin 2013. Gyda chymorth
cyflwyniad PowerPoint (copi wedi’i
gylchredeg yn y cyfarfod) darparodd y Cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru
grynodeb manwl o’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol oedd yn cynnwys Cyfranwyr
Asesu Perfformiad 2011-12, Canfyddiadau, Casgliadau, Canfyddiadau Perfformiad,
Canfyddiadau Gwella Perfformiad a Chasgliadau Cyffredinol Asesu Perfformiad. Amlygodd
y Cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru'r prif feysydd canlynol yn yr
adroddiad:- ·
Perfformiad wedi parhau i wella yn y rhan fwyaf o
agweddau o waith y Cyngor i addasu darpariaeth gwasanaeth i ddelio â newid
demograffig. ·
Uchelgais y Cyngor wedi’i phwysleisio drwy osod targedau
heriol. ·
Estyn wedi penderfynu bod y Cyngor yn darparu
gwasanaethau addysg o ansawdd da i blant a phobl ifanc, gyda rhagolygon da ar
gyfer gwella ymhellach ·
Rhaglen y Cyngor i wella ffyrdd wedi gwneud cynnydd. ·
Trefniadau rheoli perfformiad corfforaethol wedi bod yn
ddigonol. Ond, roedd cwmpas i wella ansawdd ychydig o’r dystiolaeth
er mwyn pennu ei effeithiolrwydd. ·
Y Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth ddarparu rhaglen
welliant. ·
Roedd y trefniadau i gefnogi gwelliant yn dda gyda
chysylltiadau da rhwng Cynllun Ariannol Tymor Canolog y Cyngor a’r Cynllun
Corfforaethol. Ar sail y canfyddiadau
a’r casgliadau hyn ni wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol unrhyw argymhellion
newydd eleni. Cynghorodd y
Cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru bod cynnydd y Cyngor wrth ddarparu tai
cyngor o Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn dyddiad terfyn Llywodraeth Cymru wedi’i
hadrodd yn dda yn fewnol, ond ddim yn allanol. Ychydig o adrodd a fu am
berfformiad gwaith ar y cyd hefyd. Byddai mwy o adrodd am
berfformiad yr ardal, yn enwedig y gwersi a ddysgwyd, yn gymorth i awdurdodau
eraill wrth ystyried dechrau trefniadau ar y cyd. Un maes lle yr oedd Sir
Ddinbych ar ei hôl hi o gymharu â rhai awdurdodau lleol eraill oedd derbyn
taliadau uniongyrchol, ond roedd y Cyngor yn ceisio gwella eu perfformiad yn y
maes hwn. Eglurodd Rheolwr y Tîm Gwelliant Corfforaethol nad oedd yr holl ddangosyddion cenedlaethol wedi’u hadrodd gan eu bod wedi canolbwyntio’n benodol ar ddangosyddion oedd yn berthnasol i ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CWYNION PERFFORMIAD EICH LLAIS – CHWARTER 4 PDF 96 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (mae copi ynghlwm) a oedd yn cyflwyno dadansoddiad o’r polisi adborth cwsmeriaid ‘Eich Llais’ ar gyfer Chwarter 4 2013/14.
11.30 – 12.00 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan Bennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg, oedd yn darparu
dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir
Ddinbych ‘Eich Llais’ ar gyfer Chwarter 4 2012/13, wedi’i gylchredeg gyda
phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd Pennaeth
Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg yr adroddiad ac eglurodd y cynnwys yn fanwl. Roedd perfformiad cyffredinol y Cyngor wedi gwella yn y
chwarter diwethaf gyda dim maes gwasanaeth wedi’u hamlygu’n GOCH yn chwarter 4.
O’r 9 maes gwasanaeth oedd wedi derbyn cwynion yn chwarter 4, roedd 5 wedi
ymateb i’r holl gwynion yn y targed corfforaethol. Roedd ymatebion i gwynion
Eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor ym mis
Chwefror 2013, bod sampl o'r adborth a gafwyd yn ystod Chwarter 4 o’r
Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd wedi’i gymryd a bod manylion y
canfyddiadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Amlinellwyd manylion y gwaith a’r materion a
ystyriwyd gan Is-Grŵp Gwasanaeth Cwsmer wrth ddadansoddi’r data a’r ffigyrau
yn ymwneud â phroses cwynion ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor. Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd W.E. Cowie, cytunodd y
swyddogion y dylid ailgylchredeg e-bost a anfonwyd i’r holl Aelodau yn dilyn
trafodaeth yn y Pwyllgor Archwilio Cymunedau am gynhyrchu a dosbarthu calendrau
dyddiadau casglu biniau. [JW i gadarnhau] Amlinellodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth
Addysg gynnig i ddatblygu fframwaith cwynion newydd i’r Aelodau a bydd yr
Aelodau Arweiniol yn gallu ei ddefnyddio yn ystod eu cyfarfodydd un i un gyda’r
Penaethiaid Gwasanaeth i nodi manylion y cwynion, y rhesymau pam y’u gwnaed a’r
oedi a fu wrth eu datrys. Roedd
yr aelodau’n cefnogi’r ymagwedd hon ac yn llongyfarch y swyddogion am yr
adroddiad a’r gwelliant perfformiad wrth ymateb i’r cwynion yn ystod 2012/13. PENDERFYNWYD – yn amodol ar gefnogi’r cynnig uchod, i dderbyn yr
adroddiad a nodi perfformiad gwasanaethau wrth ddelio â chwynion. [JW/CO’G i nodi’r penderfyniad uchod] |
|
FFRAMWAITH ADRODD BLYNYDDOL Y CYNGOR PDF 103 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (mae copi ynghlwm) a oedd yn nodi hunanasesiad drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o berfformiad y gwasanaeth yn 2012/13, a meysydd ar gyfer datblygiad a gwelliant. 12.00 – 12.30 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles oedd yn
darparu crynodeb o effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod
a blaenoriaethau gwelliant, wedi’u cylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Bwriad copi drafft o’r adroddiad blynyddol ar gyfer 2012/2013, yn Atodiad
1, oedd darparu darlun gonest o’r gwasanaethau yn Sir Ddinbych ac arddangos
dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r sialensiau a fu, a byddai’n amodol ar
ymgynghoriad pellach a gorffeniadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn erbyn mis
Gorffennaf, 2013. Roedd crynodeb o bedair elfen y Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor wedi’u
hamlinellu yn yr adroddiad:- -
Hunanasesiad
a dadansoddiad manwl o effeithiolrwydd -
Trywydd
tystiolaeth -
Integreiddio
gyda chynllunio busnes -
Cyhoeddi
adroddiad blynyddol Roedd yr adroddiad yn ffurfio rhan allweddol o werthusiad perfformiad yr
AGGCC Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ac roedd y gwerthusiad yn rhoi
gwybodaeth i asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Sir Ddinbych fel rhan o’r
Adroddiad Gwelliant Blynyddol. Roedd yr asesiad cyffredinol yn nodi bod
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych wedi llwyddo i wneud gwelliannau yn
nhermau perfformiad ac ansawdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd manylion
meysydd cynnydd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Roedd sialensiau mawr o
flaen Gwasanaethau Oedolion a Busnes a Gwasanaethau Plant ac mae Atodiad 2 yn
darparu trosolwg o’r sialensiau a sut y mae’r Cyngor yn bwriadu ymateb iddynt. Hysbyswyd yr Aelodau bod y farn a’r sialensiau
ar ddrafft yr adroddiad wedi’u derbyn gan swyddogion Cyngor Sir y Fflint a
BIPBC. Roedd blaenoriaethau gwelliant yn yr adroddiad blynyddol yn adnabod yr
angen i barhau i addasu a moderneiddio gwasanaethau er mwyn ymateb i
ddisgwyliadau a gofynion Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Llywodraeth
Cymru. Roedd manylion nodweddion allweddol i ymagwedd y
Cyngor i ailfodelu a datblygu patrymau gwasanaeth newydd i wella gwasanaethau
lleol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Amlygwyd y meysydd
gwelliant oedd yn cynnwys Gwasanaethau Plant, gweithio ar y cyd a sicrwydd
ansawdd. Byddai ymrwymiad y Cyngor i foderneiddio yn cynnwys buddsoddiad mwy mewn
gwasanaethau ataliol ac ymyriad cynnar er mwyn galluogi dinasyddion i fod yn
annibynnol, yn wydn ac yn alluog. Bydd angen cefnogi’r
ymagwedd gydag amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau a rhwydweithiau cefnogi
y gall pobl gael mynediad atynt yn eu cymunedau eu hunain, a byddai darparu’r
rhaglen yn gofyn am ddatrysiadau ar draws y cynghorau/gwasanaethau ac ar draws
sectorau gan gynnwys mentrau wedi’u harwain gan y cymunedau. Hysbyswyd yr Aelodau mai canlyniad anochel ailfodelu a datblygu
gwasanaethau newydd ac ymagweddau fyddai newidiadau amhoblogaidd. Byddai canolbwynt ar wneud newidiadau sy’n
darparu gwasanaethau cost effeithiol a chynaliadwy i sicrhau bod pobl
ddiamddiffyn yn cael eu diogelu ac yn derbyn gwasanaethau o’r safon orau gan
ddarparu urddas mewn gofal a chanlyniadau da. Roedd y blaenoriaethau a fanylwyd yn Fframwaith Adrodd Flynyddol y Cyngor
yn cyfrannu at flaenoriaeth 4 Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor: mae pobl
ddiamddiffyn yn cael eu diogelu a gallant fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl. Bydd gweithgarwch
sydd wedi’i amlygu yn yr adroddiad blynyddol yn parhau i gyfrannu’n
uniongyrchol, ac yn elwa o gyflawni’r Uchelgais Economaidd a Moderneiddio
rhaglenni’r Cyngor. Ymatebodd y CC:MLl i gwestiwn gan y Cynghorydd W.E. Cowie a darparu manylion am y broses tâl am ddarpariaeth Gofal Cartref Preswyl fyddai’n cael ei gytuno’n flynyddol ac yn amodol ar ofynion rheolaethol. Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Owens at y cynnydd o 58% o blant sydd o dan ofal yr Awdurdod ac eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth: Ansawdd a Datblygu Systemau bod y cynnydd wedi bod ar lefel genedlaethol, ac yn rhannol oherwydd y dulliau gweithredu newydd oedd ar waith yn y llysoedd. Darparwyd amlinelliad o raglen ail sefydlu Sir Ddinbych i’r Pwyllgor. Roedd manylion proses monitro’r Cyngor ar gyfer Cartrefi Gofal, ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 83 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (mae copi ynghlwm) sy’n gofyn am adolygiad
o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i
aelodau am faterion perthnasol.
12.30 – 12.50 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar
Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac yn darparu diweddariad ar faterion perthnasol,
wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i
ddrafft eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, fel y
manylir yn Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- Eglurodd Rheolwr y Tîm Gwelliant Corfforaethol y byddai adroddiad
ynglŷn â’r Gofrestr Risg Corfforaethol yn cael ei gyflwyno ddwywaith y
flwyddyn, ym mis Mehefin 2013 ac Ionawr 2014, a chytunodd yr Aelodau i dynnu’r
eitem o raglen waith mis Hydref. Eglurodd bod
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi y dylid cyflwyno’r
Gofrestr Risg Corfforaethol i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, ac y bydd
eglurhad o rôl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a rôl y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad mewn perthynas â’r Gofrestr Risg yn cael eu hystyried gan y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio yn eu cyfarfod ar 27
Mehefin 2013. Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at Adroddiad Gwybodaeth am broses newydd
Her y Gwasanaeth oedd wedi’i gynnwys yn y Briff Gwybodaeth a gafodd ei
gylchredeg i holl aelodau’r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau’r enwebiadau a’r penodiadau canlynol, yn amodol ar
gadarnhad Aelodau unigol:- Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd – Y Cynghorydd D. Owens Gwasanaethau Plant a Theuluoedd –
Y Cynghorydd A. Roberts Cynllunio Busnes a Pherfformiad –
Y Cynghorydd D. Owens Gwasanaethau Oedolion a Busnes- Y
Cynghorydd D. Simmons Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg –
Y Cynghorydd R. J. Davies Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd –
Y Cynghorydd M. Ll. Davies Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden –
Y Cynghorydd G. Lloyd-Williams Adnoddau Dynol Strategol – Y
Cynghorydd R. J. Davies Addysg – Y Cynghorydd A. Roberts Tai a Datblygu Cymunedol – Y
Cynghorydd W. E. Cowie Cyllid ac Asedau – Y Cynghorydd
A. Roberts (eilydd: Y Cynghorydd D. Owens) Amgylchedd a Phriffyrdd – Y
Cynghorydd W. E. Cowie (eilydd: Y Cynghorydd M. Ll. Davies) PENDERFYNWYD - yn
amodol ar y newidiadau a’r cytundebau
uchod, eu bod yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y caiff ei
hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad. [RE i hysbysu Busnes, Cynllunio a
Pherfformiad am y penodiadau] |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Cael unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am amryw Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.
12.50 – 13.00 Cofnodion: Eglurodd Rheolwr
y Tîm Gwelliant Corfforaethol bod y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol wedi
gofyn yn eu cyfarfod bod y tri manylyn gwybodaeth canlynol yn cael eu rhannu
â’r Pwyllgorau perthnasol:- ·
Asesiadau
Effaith ar Gydraddoldeb (EqIA)- Dylid cyflwyno’r holl
adroddiadau i’r Cyngor a’r Cabinet a’r Penderfyniadau Dirprwyol gan
ddefnyddio’r templed adroddiad newydd a dylid atodi’r Asesiad Effaith ar
Gydraddoldeb i’r adroddiad priodol. ·
Llyfryn
Parch – Bod y llyfryn, sy’n codi ymwybyddiaeth mewn perthynas â materion
amrywiaeth, yn orfodol i’r holl staff. ·
Hyfforddiant
Cydraddoldeb i Aelodau – Roedd y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol wedi
mynegi’r farn y dylid gwneud yr hyfforddiant Cydraddoldeb ar gyfer Aelodau
Etholedig yn orfodol. Mynegodd y Cynghorydd M.Ll. Davies y farn y dylid cynnwys eglurhad am bwrpas
a rheswm dros ddarparu’r sesiynau hyfforddi, gan nodi a oedd eu presenoldeb yn
orfodol, ar y gwahoddiad sy’n cael ei anfon i’r Aelodau. PENDERFYNWYD- y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. [SP/EW i nodi’r wybodaeth uchod] Daeth y cyfarfod i ben am 12:45pm. |