Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, Y RHYL
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid ddatganwyd
unrhyw gysylltiadau personol na chysylltiadau sy'n rhagfarnu gan unrhyw Aelodau
mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS GYDA CHYTUNDEB Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 211 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau, 12 Rhagfyr,
2013. Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 12 Rhagfyr
2013. Materion yn codi: - 5. Adeiladau
Rhestredig mewn Perygl - Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio bod copi o'r llythyr
cefnogi a anfonwyd gan y Cadeirydd at y Gweinidog dros Chwaraeon a Diwylliant,
yn cymeradwyo'r safbwyntiau a fynegwyd gan swyddogion mewn ymateb i'r
ymgynghoriad ffurfiol ar y Bil Treftadaeth Newydd, a oedd yn tynnu sylw at y
risgiau sy'n gysylltiedig â'r agwedd gorfodi'r ddeddfwriaeth, wedi cael eu
cynnwys yn y Diweddariad Gwybodaeth 8.
Adroddiad
Perfformiad Cynllun Corfforaethol – Chwarter 2 2013/14 – Mewn ymateb i gwestiwn
oddi wrth Dr D. Marjoram ynglŷn â darparu adroddiad cynhwysfawr ar gyflwr
adeiladau ysgolion ac Ystâd yr Ysgol yn gyffredinol, eglurodd y Cydlynydd
Archwilio byddai’r adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor ynglŷn â Data Llefydd
Ysgol yn cychwyn y broses o archwilio cyflwr Ystâd yr Ysgol. 9.
Rhaglen Waith
Archwilio - Cytunodd y Pwyllgor dylid penodi’r Cynghorydd C. Hughes fel
cynrychiolydd wrth gefn y Pwyllgor ar y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a
Chymunedol. PENDERFYNWYD:- (A) cymeradwyo'r
cofnodion fel cofnod cywir, a (B) bod y Cynghorydd Colin Hughes
yn cael ei benodi fel Aelod wrth gefn y Pwyllgor ar y Bwrdd Uchelgais
Economaidd a Chymunedol. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU ESTYN PDF 76 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi'n amgaeedig) sy'n rhoi diweddariad ar y
cynnydd a wnaed mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Estyn yn dilyn arolwg
2012. 9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Addysg (PA), a oedd yn manylu ar y
cynnydd a wnaed mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Estyn yn dilyn arolwg
2012, eisoes wedi'i ddosbarthu. Rhoddodd y PA grynodeb o'r adroddiad a chadarnhaodd fod prif ganfyddiadau
Adroddiad Estyn yn dangos bod yr Awdurdod wedi cyflawni 'Da' ar gyfer y tri
chwestiwn allweddol a oedd yn cynnwys Pa mor dda yw deilliannau, darpariaeth ac
arweinyddiaeth a rheolaeth. Roedd yr holl ddangosyddion eraill hefyd wedi
derbyn safon ‘Da’ gydag 3.1 ‘Arweinyddiaeth’ a dderbyniodd safon
‘Ardderchog’. Atgoffwyd yr
Aelodau bod Estyn wedi gwneud dau argymhelliad: - -
Argymhelliad
1: Gwella cywirdeb Asesiadau Athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3; ac -
Argymhelliad
2: Mewn perthynas â’r Rhaglen Partneriaeth ac adnabod pob gwasanaeth plant a phobl
ifanc yn Sir Ddinbych a sefydlu system effeithiol i fesur effaith y
gwasanaethau hyn i gynorthwyo’r Awdurdod a’i bartneriaid i benderfynu a yw’r
gwasanaethau hyn yn cynnig gwerth am arian. Roedd y cynnydd hyd yma
yn erbyn y ddau argymhelliad, wedi’i nodi yn yr atodiadau i'r adroddiad. Roedd yr Awdurdod ar hyn
o bryd ar groesffordd wrth ymateb i'r argymhellion o ganlyniad i gyfuniad o'r
rhaglen effeithlonrwydd, y gwaith
cydweithio rhanbarthol a chynlluniau ar gyfer asesiad Estyn yng nghyd-destun y newidiadau
sydd ar y gweill yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Yn ystod y chwe mis nesaf
byddai'r swyddogion yn gwerthuso'r gwaith a wnaed hyd yn hyn, asesu ei
effeithiolrwydd ac adolygu ymagwedd yr Awdurdod tuag at gyflawni'r argymhellion
yn ôl yr adnoddau sydd ar gael, ac eglurwyd bod rhai o'r gwasanaethau ar gyfer
plant a phobl ifanc a holwyd gan Estyn yn 2012 yn awr yn ddarostyngedig i'r
rhaglen arbedion effeithlonrwydd. Amlygwyd pwysigrwydd yr
angen i gydnabod y newid yn y broses arolygu gan y PA, gan gyfeirio'n benodol
at rôl y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol. Cafwyd cadarnhad bod gwella
perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ysgolion yn un o Flaenoriaethau
Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2012-17, a thrwy fonitro cyflwyno'r Cynllun
Gweithredu gallai'r Pwyllgor gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni rhan o'r uchelgais
uchod. Er mwyn lleihau unrhyw risgiau i gefnogaeth a her
ysgolion yn ysgolion Sir Ddinbych, byddai swyddogion yn monitro ac asesu
ansawdd y gefnogaeth ranbarthol oddi wrth GwE. Byddai
cyfle i gryfhau'r broses safoni ar gyfer Asesiadau Athrawon CA3, a dylai hyn
wella ansawdd y safoni allanol, sicrhau dilyniant a chydraddoldeb Asesiadau
Athrawon ar draws Gogledd Cymru. Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, awgrymwyd bod yr adroddiad monitro
nesaf yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar ddiwedd tymor yr haf 2014. Cytunodd y
Pwyllgor a gofynnodd i’r adroddiad gynnwys manylion am y camau a gymerwyd gan
yr Awdurdod i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â gwella cywirdeb asesiadau
athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3 a'u heffeithiolrwydd o ran cyrraedd y nod
hwn, ynghyd â thystiolaeth bod GwE yn defnyddio Moodle i gynnal deunyddiau
enghreifftiol (PDF) â lefelau yn yr holl bynciau a lefelau, a hefyd canlyniadau'r
archwiliad sy’n mynd rhagddo o’r holl wasanaethau sydd ar gael i blant a phobl
ifanc yn y Sir ac effeithiolrwydd y system a sefydlwyd i fesur effaith a gwerth
am arian y gwasanaethau hynny ar blant a phobl ifanc y Sir. Atebodd y PA i gwestiynau gan Dr Marjoram ac eglurodd y byddai manylion o'r gwelliannau i fynd i'r afael â'r diffygion yng nghywirdeb Asesiadau Athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad nesaf, a byddai hyn yn cynnwys mesuriadau ar gyfer gwella a pherfformiad ym mhob un o'r Cyfnodau Allweddol. Rhoddodd hefyd sicrwydd na fyddai ardaloedd gwledig yn ysgwyddo baich y toriadau arfaethedig yn y gyllideb, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU CA4 PDF 148 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Effeithiolrwydd Perfformiad Ysgol: Uwchradd (copi
amgaeedig) sy’n manylu ar berfformiad canlyniadau arholiadau allanol ysgolion
Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16. 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Swyddog Effeithiolrwydd Perfformiad Ysgol: Uwchradd (SEPO: S), a
oedd yn manylu ar berfformiad canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir
Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau
ar gyfer y cyfarfod. Darparodd y SEPO:S grynodeb o'r adroddiad a
oedd yn dadansoddi canlyniadau yn erbyn gwybodaeth a pherfformiad a feincnodwyd
yn erbyn Awdurdodau Lleol eraill (ALl) ac yn darparu gwybodaeth ynglŷn â
pherfformiad asesiadau athrawon ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych. Roedd y rhan fwyaf o'r
dangosyddion allweddol yn CA4 ar gyfer cymwysterau allanol wedi gwella. Fodd bynnag, mae'r
trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg, Cymraeg a Mathemateg wedi gostwng ychydig
oedd wedi effeithio ar y Dangosydd Pwnc Craidd (DPC). Roedd Safleoedd Asesiadau
ac Arholiadau ar gyfer 2011/13 wedi eu cynnwys yn yr adroddiad Eglurodd mai un o'r dangosyddion perfformiad
allweddol ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 oedd y Trothwy Lefel 2 gan gynnwys
Saesneg, Cymraeg a Mathemateg ac roedd data a gwybodaeth briodol wedi eu
cynnwys yn Atodiad 1. Roedd manylion yr ystadegau Trothwy Lefel 2 yn ymwneud ag
ysgolion unigol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â chanlyniadau dros dro
Lefel 2 ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych. Roedd manylion y Bandiau Uwchradd wedi cael eu
darparu a chadarnhaodd y SEPO:S nad oedd unrhyw ysgolion Sir Ddinbych ym
mandiau is 4 a 5 yn 2013. Roedd sgôr bandio gyfartalog yr ALl yn rhoi Sir
Ddinbych y pumed yng Nghymru yn 2013 i lawr o ail yn 2012. Y dangosydd
perfformiad ar gyfer ôl-16 oedd Trothwy Lefel 3, a oedd wedi parhau'n
ddigyfnewid ar 96.8% am y tair blynedd diwethaf, yn uwch na chyfartaledd Cymru
o 96.5% ac yn rhoi Sir Ddinbych y nawfed yng Nghymru. Roedd canlyniadau
Lefel A wedi gwella yn ysgolion uwchradd Sir Ddinbych fel y manylir yn Atodiad
2 i'r adroddiad. Roedd nifer disgyblion Sir
Ddinbych a oedd wedi’u cofrestru ar gyfer cymwysterau ôl-16 wedi cynyddu yn
2013 i 463 o’u cymharu â 439 yn 2012. Roedd y gwelliant yng nghanlyniadau CA4 a
gwaith partneriaeth ôl-16 wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Roedd myfyrwyr
Chweched y Rhyl wedi cyflawni 94% ar gyfer Trothwy Lefel 3 o’u cymharu â 97% o
ddisgyblion o ysgolion uwchradd Sir Ddinbych. Fodd bynnag, nid oedd y canlyniadau hyn wedi cyfrannu at
ddangosyddion yr ALl. Darparwyd yr ymatebion canlynol gan y swyddogion i gwestiynau a materion a
godwyd gan Aelodau:- -
Ymatebodd y SEPO:S a’r
PA i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd G. Sandilands ac esboniodd y rhesymau
dros y dirywiad mewn cyrhaeddiad yn Ysgol Uwchradd Prestatyn. Cadarnhawyd bod
gostyngiad wedi’i ragweld, a bod cymorth ychwanegol wedi ei ddarparu i'r ysgol
i liniaru'r risg. Fodd bynnag, roedd y dirywiad wedi bod yn fwy na'r
disgwyl. Serch hynny roedd y swyddogion yn hyderus y byddai
gwelliannau o ran canlyniadau yn cael eu cyflawni drwy weithio'n agos gyda'r
Pennaeth. -
Hysbyswyd yr Aelodau bod y dull Her Llundain yn cael ei
ddefnyddio o fewn ysgolion y sir fel ag yr oedd ymgynghorwyr, gyda'r bwriad o
weithio gyda Phenaethiaid a Phenaethiaid Adrannau i gyflawni gwelliannau
cyflym. -
Cyfeiriodd y
Cynghorydd D. Owens at y gwelliannau yn Ysgol Uwchradd y Rhyl. Eglurodd y PA fod yr Ysgol wedi bod yn
uchelgeisiol a bod llawer o'r llwyddiant a gyflawnwyd wedi deillio o
arweinyddiaeth y Pennaeth a gwaith effeithiol yr Ysgolion Cynradd yn ardal y
Rhyl. - Esboniodd SEPO:S bod y problemau a gafwyd yn St Ffraid, Dinbych, gan arwain at ostyngiad o 7%, wedi deillio o faterion yn ymwneud â mathemateg:. Cyfeiriodd at y gwaith cymwys a wnaed gan y Pennaeth Dros Dro a'r gefnogaeth a ddarparwyd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi amgaeedig) sy'n
rhoi gwybodaeth am leoedd i ddisgyblion, rhagamcanion y dyfodol, cyflwr ac
addasrwydd ysgolion a'r nifer o unedau symudol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o
bryd. 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (HCES),
a oedd yn rhoi gwybodaeth am leoedd i ddisgyblion, rhagamcanion y dyfodol,
cyflwr ac addasrwydd ysgolion a'r nifer o unedau symudol sy’n cael eu defnyddio
ar hyn o bryd, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Eglurodd Rheolwr y Rhaglen: Moderneiddio Addysg ( PM: ME) bod defnyddio’r Fframwaith Polisi
Moderneiddio Addysg wedi arwain y Cyngor i wneud nifer o benderfyniadau anodd
ynglŷn â dyfodol nifer o ysgolion. Cymeradwyodd y Cyngor ei Gynllun Corfforaethol ym mis Hydref, 2012, a oedd
yn cynnwys yr ymrwymiad i "Wella Perfformiad mewn Addysg ac Ansawdd ein
Adeiladau Ysgolion". Roedd yr ymrwymiad hwn yn cynnwys cynigion cyllid i
fuddsoddi tua £96m yn ystâd yr ysgol i wella ansawdd adeiladau ysgol. Sefydlwyd
Rhaglen Moderneiddio Addysg glir ym mis Rhagfyr 2012 gyda'r nod o gyflwyno’r
uchelgais hwn. Roedd manylion am sut byddai'r Rhaglen yn cael ei
chyflwyno, y sefyllfa bresennol o ran lleoedd gwag a niferoedd mewn ysgolion,
gwybodaeth am brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif a ariennir a meysydd
blaenoriaeth eraill wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a'r atodiadau cysylltiedig. Byddai'r Cynllun Corfforaethol o bosibl yn caniatáu i £23miliwn pellach
gael ei fuddsoddi tuag at weithredu canfyddiadau adolygiadau ardal a
phrosiectau adeiladau ysgolion eraill a gwaith gwella. Nid oes unrhyw
benderfyniadau wedi eu gwneud ynghylch lle y byddai’r buddsoddiad hwn yn cael
ei wneud. Darparwyd yr ymatebion canlynol gan y PM:ME i gwestiynau a materion a
godwyd gan Aelodau:- -
Darparwyd manylion ar y defnydd a chael gwared yn y
dyfodol ar ystafelloedd dosbarth symudol ac unrhyw oblygiadau ariannol
cysylltiedig. Eglurodd y Cynghorydd E.W. Williams fod LlC wedi
nodi ei fwriad i gosbi awdurdodau am ddefnyddio ystafelloedd dosbarth symudol. -
Dwedodd y PM:ME nad oedd y ddwy ysgol arbennig wedi eu
rhestru oherwydd y gwahanol fethodoleg a'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer
asesu lleoedd i ddisgyblion yn yr ysgolion hynny. -
Awgrymodd y Cynghorydd E.W. Williams bod yr Aelodau yn gofyn am eglurhad
gan y AC priodol ynghylch dynodi ysgolion arbennig rhanbarthol, gan gyfeirio'n
benodol at effaith bosibl yr adolygiadau ffiniau arfaethedig a'r goblygiadau
posibl ar gyfer darparu gwasanaeth yn Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych. -
Eglurodd y PM:ME byddai’r rhagamcanion cyfradd
genedigaethau yn cael eu hadolygu gan gynnwys yr heriau a gyflwynir gan y duedd
bresennol ar i fyny a ffactoreiddio yn natblygiad y Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl). -
Amlinellodd y Cynghorydd E.W. y ffactorau a'r ystadegau a
ystyriwyd mewn perthynas â maint ysgolion gwledig. Cyfeiriodd at
strategaeth ariannu’r Awdurdod y byddai'n rhaid ei dilyn pe byddai darpariaeth
gyllid yn cael ei sicrhau gan LlC yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sydd ar y
gweill. -
Amlygwyd yr anawsterau mewn perthynas â dosbarthu
ysgolion Saesneg, Cymraeg a dwyieithog gan y Cynghorydd E.W. Williams. Cyfeiriodd y
PM:ME at y gwaith a wnaed gan Grŵp Strategol Cymru mewn perthynas â
darparu sicrwydd ansawdd o ran dosbarthiad ysgolion. -
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd
C. Hughes ynghylch â’r capasiti arfaethedig yn ardal Dinbych, cyfeiriodd y
Cynghorydd E.W. Williams at y Cynllun Cyfalaf a oedd yn darparu potensial ar
gyfer buddsoddi ar gyfer darparu cyfleusterau addysg gwell ym mhob ardal. -
Mewn ymateb i faterion a godwyd, cytunodd y Pwyllgor y
byddai adroddiad gwybodaeth pellach yn cael ei ddarparu yn manylu ar gyflwr
ystâd ysgolion y Sir. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- (A) derbyn yr
adroddiad, yn amodol ar sylwadau'r Aelodau yn nodi'r sefyllfa a'r camau sy'n
cael eu cymryd fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol i wella cyflwr cyffredinol yr
ysgolion yn Sir Ddinbych, a (B) bod adroddiad gwybodaeth ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
PERFFORMIAD SIR DDINBYCH AR FATERION TIPIO ANGHYFREITHLON PDF 153 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (copi'n
amgaeedig) sy'n nodi sut y rhoddir gwybod am dipio anghyfreithlon ac ymdrin ag
o yn Sir Ddinbych. 11.25 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (HHES), a oedd
yn nodi sut caiff tipio anghyfreithlon ei adrodd a'i drin yn Sir Ddinbych, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Darparodd y Rheolwr Prosiect: Canolbwynt Gogledd Ddwyrain
(PMNEH) gyflwyniad ac esboniodd y rhesymau am yr adroddiad fel y nodwyd yn yr
adroddiad ei hun. Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC) oedd yn gweinyddu’r gronfa ddata 'Flycapture' yr oedd holl
Gynghorau Cymru yn bwydo eu hystadegau tipio anghyfreithlon iddi. CNC oedd yn rhagnodi’r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno'r
data, gan gynnwys beth ddylid, ac na ddylid, gael ei gyfrif fel digwyddiad
tipio anghyfreithlon. Fodd
bynnag, roedd cynghorau unigol yn parhau i ddefnyddio gwahanol ddulliau i
gasglu a phrosesu eu hystadegau eu hunain, ac roedd hyn yn effeithio ar
gymaroldeb y data a gyhoeddwyd. Mae enghreifftiau o'r ffyrdd gwahanol y mae
cynghorau unigol yn cofnodi eu digwyddiadau tipio anghyfreithlon wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Troseddau Amgylcheddol (SECO) i
gwestiynau gan Aelodau ac eglurodd mai dim ond y gwahanol ddulliau casglu a
phrosesu data a ddefnyddir gan gynghorau allai egluro’r amrywiadau enfawr yn
nifer y digwyddiadau a gofnodwyd, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Ni ellid egluro’r amrywiadau hyn gan wahaniaethau
demograffig na gwahaniaethau ymddygiad a arsylwyd. Cadarnhaodd fod y
Tîm Troseddau Amgylcheddol wedi cydnabod y ffenomenon ac wedi pwyso ar CNC am
drefn adrodd fwy cyson. Os nad yw
cynghorau yn casglu data mewn modd cyson, ni fyddai adroddiad blynyddol CNC yn
dangos cymariaethau tebyg, ac efallai byddai’r defnydd o ystadegau fel mesur
perfformiad yn ddiffygiol. Roedd
cymhariaeth â chynghorau eraill Gogledd Cymru wedi cael eu hymgorffori yn yr
adroddiad. Roedd digwyddiadau Sir Ddinbych ar gyfartaledd
tua 2 i 2.5 gwaith yn uwch na'r niferoedd a oedd yn cael eu hadrodd gan
gynghorau eraill Gogledd Cymru gan fod Sir Ddinbych yn fwriadol ceisio nodi pob
un digwyddiad o wastraff sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon, bod hynny ar dir cyhoeddus neu breifat, a prun a’i pheidio
yr oedd yn cael ei adrodd gan aelod o'r cyhoedd. Roedd cyfraddau adrodd uchel yn cael ei ystyried fel
rhagofyniad ar gyfer lleihau gweithgaredd tipio anghyfreithlon gwirioneddol a
oedd yn egwyddor bwysig. Roedd
manylion yn ymwneud â thueddiadau hanesyddol Sir Ddinbych wedi ei gynnwys yn yr
adroddiad. Eglurodd
y SECO byddai'r Tîm Gorfodaeth tipio anghyfreithlon yn hoffi symud o system CRM
y Cyngor i symud gofnodi ddaearyddol.
Byddai hyn yn symleiddio'r dulliau o brosesu’r holl faterion strydlun ac yn
helpu gyda'r dadansoddiad o ddigwyddiadau yn ôl lleoliad, a fyddai'n darparu ar
gyfer targedu gorfodaeth yn fwy effeithiol. Roedd CNC hefyd
wedi mynegi awydd i symud i system ddaearyddol ac ar hyn o bryd yn datblygu
'ap' i gynorthwyo gyda hyn. Amlygodd
y SECO yr angen i wella categoreiddio digwyddiadau ac i ynysu achosion o dipio
anghyfreithlon gwirioneddol, a'r rhai yr oedd gan y Cyngor ddyletswydd i’w
glanhau. Roedd hyn ar hyn o bryd yn cael ei wneud drwy
ddadansoddiad eilaidd unigol, y teimlwyd y dylai fod yn rhan o brosesau CRM
arferol y Cyngor. Amlinellwyd
pwysigrwydd Strategaeth Gorfodaeth Sir Ddinbych ac roedd yr ymchwiliadau a/ neu
erlyniadau dilynol wedi arwain at effaith ataliol sylweddol, a gafodd ei
ystyried i fod yn ffactor hollbwysig wrth wneud Sir Ddinbych yn sir lân a
dymunol. Llongyfarchodd a
diolchodd y Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor i’r Tîm Amgylchedd am y gwaith a
wnaed ac yna: PENDERFYNWYD
- yn amodol ar sylwadau’r
Aelodau, bod y Pwyllgor: - (a) yn cefnogi dull
cyfredol y Cyngor o gofnodi digwyddiadau tipio anghyfreithlon; (b) cefnogi parhau â
pholisi’r Cyngor o orfodaeth drylwyr ar faterion tipio anghyfreithlon: (c) cefnogi’r cynnig ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi'n amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru'r aelodau ar faterion
perthnasol. 11.55 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd Rhaglen Waith i'r Dyfodol y
Cabinet wedi'i chynnwys fel Atodiad 2 ac roedd tabl yn crynhoi penderfyniadau
diweddar y Pwyllgor, a chynghori ar eu cynnydd â'u gweithredu, wedi’i atodi yn
Atodiad 3 i'r adroddiad. Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod ar
9 Ionawr 2014 ac wedi cael cais i ystyried adroddiad mewn perthynas â'r Rhaglen
Moderneiddio Addysg. Cytunodd yr Aelodau bod yr eitem hon yn cael ei
chynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor i'w hystyried yng nghyfarfod mis Chwefror
2014, a bod yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd E.W. Williams, yn cael gwahoddiad
i fod yn bresennol. Ar ôl ystyried ei Raglen Gwaith i’r Dyfodol ddrafft ar gyfer cyfarfodydd yn
y dyfodol, cytunodd y Pwyllgor y dylid gwneud y diwygiadau ac ychwanegiadau
canlynol: - Mawrth 20, 2014: - Sefydliadau Hyd Braich - Cytunodd yr Aelodau, o ystyried y gwaith a
wneir gan Archwilio Mewnol bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor ym mis Mawrth 2014, gydag adroddiad pellach yn cael ei gynnwys yn y
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Mehefin neu Orffennaf 2014. Cyfeiriodd y Cynghorydd C. Hughes at Dudalen 2 o'r
Diweddariad Gwybodaeth, Datblygu'r Economi Lleol. Eglurodd, o ran Canlyniad 5, bod gwybodaeth
fwy diweddar ar gael mewn perthynas â ffigyrau incwm canolrif a'r ffigurau
cyfrif hawlwyr (data ar gyfer canran y LSOA). Gofynnodd yr Aelodau hefyd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi
i gynnal cyfarfodydd yn y dyfodol mewn lleoliadau ar draws y Sir. PENDERFYNWYD -
yn amodol ar y newidiadau a chytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau’r Cyngor.
12.10 p.m.
Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cadeirydd ei fod ef a'r Cynghorydd D. Owens wedi mynychu cyfarfodydd y
Grŵp Monitro Safonau Ysgolion (SSMG). Eglurodd y
Cynghorydd G. Lloyd-Williams ei fod wedi mynychu Her Gwasanaeth ar gyfer y
Gwasanaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden yn ddiweddar. Gorffennodd
y cyfarfod am 12.35pm. |