Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL BWLLGORA 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater y nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Nid ddatganwyd unrhyw gysylltiadau personol na chysylltiadau sy'n rhagfarnu gan unrhyw Aelodau mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS GYDA CHYTUNDEB Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 169 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Hydref, 2013.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd Ddydd Iau 24 Hydref, 2013.

 

PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADEILADAU RHESTREDIG DAN FYGYTHIAD pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) ar gyflwr stoc adeiladau rhestredig y Sir.

                                                                                                             9.35 a.m

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (PCGC), ar gyflwr y stoc adeiladau rhestredig yn Sir Ddinbych, wedi’i gylchredeg yn flaenorol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd D.I. Smith grynodeb byr o'r adroddiad a luniwyd yn sgil sefyllfa hen Ysbyty Gogledd Cymru.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys dealltwriaeth glir o raddfa’r adeiladau rhestredig sydd dan fygythiad yn Sir Ddinbych a’r goblygiadau i’r Awdurdod, ynghyd â manylion Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a chyfrifoldebau Awdurdodau Lleol (ALl) dan y Ddeddf.

 

Nododd adroddiad gan Cadw yn 2009 fod 1812 o adeiladau rhestredig yn Sir Ddinbych, a dangosodd arolwg yn 2011 fod 148 o adeiladau Sir Ddinbych yn y categori “dan fygythiad”.  Roedd 35 o adeiladau Sir Ddinbych yn y categori gwaethaf o ran y bygythiad. Darparwyd tablau’n crynhoi nifer a chanran yr eiddo dan fygythiad yn Sir Ddinbych, ac yn genedlaethol.

 

 Eglurodd y PCGC fod nifer o adeiladau yn y categori gwaethaf yn adeiladau neu adeileddau lle'r oedd y siawns y byddent yn ased ariannol i’r perchnogion yn isel iawn.   Byddai perchenogion yn fwy tebygol o ystyried yr adeileddau’n faich ariannol yn hytrach nag yn ased a byddent yn gyndyn i wario arian ar atgyweirio a allai arwain at ddadfeilio.  O’r 35 adeiledd gyda sgôr o 1 pwynt, roedd 13 yn y categori hwn.  Roedd camau gorfodi’n debyg o arwain at gyflawni gwaith yn ddiofyn a cheisio adennill y gost gan y perchennog neu gyflawni pryniant gorfodol ar yr adeilad/adeiledd.  Ni fyddai’r naill opsiwn na’r llan yn ddeniadol i’r Awdurdod Lleol.

 

Cadarnhaodd y Pensaer Rheoli Adeiladu a Chadwraeth (PRhACh) bod grantiau yn mynd yn fwyfwy prin.  Yr unig gorff cyllido mawr sydd â chyllideb gynyddol ar gyfer grantiau yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac yn y gorffennol maent wedi ariannu cynlluniau grant ymbarél ac nid unigolion preifat.   Roedd rhai adeiladau rhestredig yn cynnig cyfleoedd i ychwanegu gwerth drwy roi caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig i newid defnydd, a llwybr arall posibl oedd rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad galluogi.  Gweithio gyda pherchennog i helpu gwella cyflwr adeiladau dan fygythiad oedd y dewis a ffafriwyd, ond mewn rhai achosion, y perchennog yn hytrach na’r adeilad fyddai’n achosi problemau.

 

Eglurodd y PCGC a’r PRhACh fod pwerau gorfodi yn cynnwys Hysbysiad Gwaith Brys a Hysbysiad Atgyweirio.  Mae elfen o risg i’r pwerau hyn i ALl o ran costau cynnal y gwaith brys yn ddiofyn neu’r costau sy'n gysylltiedig â phrynu gorfodol a’r cyfrifoldeb o fod yn berchennog ar adeilad adfeiliedig yn sgil hynny.  Roedd y pwerau’n ddewisol a dylid bod yn ofalus wrth eu defnyddio, fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle nad oedd unrhyw opsiwn arall, a lle gallem fod yn agos i golli’r adeilad yn llwyr, gallai penderfyniad i beidio â defnyddio pwerau gorfodi fygwth enw da’r Awdurdod . 

 

Cyfeiriodd y PRhACh at y broses ymgynghori oedd yn cael ei chynnal mewn perthynas â newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru (LlC) i’r ddeddfwriaeth.  Mynegodd bryder nad yw’r pwerau dan y ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’w pwrpas ac nad ydynt yn rhoi’r awdurdod sydd angen i ymyrryd yn briodol.   Cytunodd yr aelodau y dylai’r Cadeirydd gyflwyno llythyr o gefnogaeth yn ategu’r farn a fynegwyd gan y PRhACh yn ei ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol, a oedd yn amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig ag agwedd gorfodi'r ddeddfwriaeth.

 

Ymatebodd y PRhACh i gwestiynau gan nifer o Aelodau a rhoddodd fanylion yn ymwneud ag adeileddau wedi’u lleoli yn yr ardaloedd unigol. 

 

Roedd manylion y risgiau posibl wedi’u hymgorffori yn yr adroddiad.   Mae goblygiadau ariannol ac o ran adnoddau wrth fynd i’r afael ag adeiladau dan fygythiad ac roedd rhaid eu rheoli fesul achos.  Mewn achosion eithriadol lliniarwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

EICH LLAIS – ADRODDIAD CHWARTER 2 2013/14 pdf eicon PDF 81 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg (copi ynghlwm) sy’n cynnig trosolwg o’r adborth a dderbyniwyd dan Bolisi Adborth Cwsmeriaid Cyngor Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter 2 2013/14.

                                                                                                          10.10 a.m

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg (PCChA), oedd yn cynnig dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ ar gyfer Chwarter 2 2013/14, wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd HC Irving yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â materion perfformiad.  Eglurodd y PCChA fod Penawdau ar gyfer Chwarter 2 wedi’u cynnwys yn Atodiadau’r adroddiad ac amlygwyd crynodeb o’r pwyntiau perthnasol canlynol:-

 

·                        Roedd y Cyngor wedi derbyn 149 o gwynion.  

·                             Roedd dros chwarter (26%) y cwynion yn ymwneud â Chynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.  Roedd hwn yn gynnydd o 488% o’i gymharu â Chwarter 1. Roedd bron i hanner y cwynion (44%) yn ymwneud â Gorfodi Diogelwch Cymunedol.

·                        Roedd y Cyngor wedi derbyn 261 o ganmoliaethau yn Chwarter 2, cynnydd o 264% o’i gymharu â Chwarter 1.

·                         Gwasanaethau Oedolion a Busnes dderbyniodd y nifer fwyaf o ganmoliaethau – 97 (37%).

 

Perfformiad

    

·                             Ymatebwyd i 97% o’r cwynion o fewn terfynau amser ‘Eich Llais'.  Roedd hyn yn cyfateb â pherfformiad Chwarter 1 ac yn rhagori ar y targed corfforaethol o 95%.

·                               Ymatebwyd i bob cwyn cam 2 a cham 3 o fewn terfynau amser ‘Eich Llais’, a oedd yn welliant ar Ch1.

·                                   Llwyddwyd i ddelio ag 87% o’r cwynion yn ystod cam 1, gwelliant ar Chwarter 1 (86%).

·                                  Amlygwyd fod gan ddau faes gwasanaeth statws OREN; sef Cyllid ac Asedau a Phriffyrdd ac Isadeiledd.

·                        Amlygwyd fod gan TGCh statws COCH.

 

Clywodd y Pwyllgor fod y cynllun Eich Llais yn cyfrannu’n uniongyrchol at y nod corfforaethol o fod yn “Gyngor gwych, sy’n agos at y gymuned”.  Roedd yr holl gostau sydd ynghlwm wrth adborth cwsmeriaid wedi’u cynnwys yn y cyllidebau presennol.

 

Dywedodd y Swyddog Cwynion Corfforaethol (SCC) wrth yr Aelodau bod y cyfeiriad yn Nhabl 1: Amseroedd ymateb cyffredinol i gwynion ar gyfer Chwarter 2 at “arall” 67%, ond yn berthnasol i ddwy gŵyn a dderbyniwyd mewn perthynas ag AD ac un yn ymwneud â TG.  

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, cadarnhaodd y PCChA mai Polisi’r Cyngor oedd darparu ymatebion Cymraeg i gwynion a dderbyniwyd yn y Gymraeg, a dylid anfon unrhyw achosion o anghysondeb at y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol.  Cadarnhawyd hefyd y dylid darparu ymatebion ysgrifenedig i gwynion a gyflwynwyd gan Aelodau, ac os oedd yr Aelodau’n anfodlon gyda’r ymateb a dderbyniwyd, dylid cyfeirio hyn at y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i sicrhau y targedwyd ardaloedd problemus.   Dywedodd y PCChA wrth y Pwyllgor y byddai Gweithdy Aelodau’n cael ei gynnal ar y 13 Rhagfyr, 2013 pan fyddai arddangosiad o’r newidiadau i’r system Rheoli Cyswllt Cwsmer RhCC yn cael ei roi.  Pwysleisiodd y PCChA bwysigrwydd sicrhau bod Aelodau’n defnyddio’r system RhCC hyd yn oed wrth gysylltu â swyddogion penodol. 

 

Ymatebodd y SCC i gwestiwn gan y Cynghorydd R.J. Davies ac eglurodd bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gyda llywodraethwyr ysgolion ar y newidiadau i’r broses bresennol o gwyno am ysgolion.  Cytunodd y PCChA y dylid dosbarthu’r ddogfen ymgynghori, a gylchredwyd yn ddiweddar i Lywodraethwyr Ysgol, i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, llongyfarchodd Aelodau’r Pwyllgor y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg a’i staff am y gwaith a wnaed.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod, fod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a nodi perfformiad gwasanaethau wrth ddelio â chwynion.

 

Llongyfarchodd yr Aelodau’r Tîm Cwynion ar weinyddu’r broses gwynion yn effeithiol.

 

 

7.

ADOLYGU’R GOFRESTR RISGIAU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 125 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) ar adolygiad ffurfiol o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

                                                                                                          10.55 a.m 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad ynglŷn â’r diwygiad ffurfiol i’r fersiwn ddrafft ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ym mis Tachwedd, 2013 wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gwella Corfforaethol (SGC) yr adroddiad a oedd yn cynnwys y fersiwn diweddaraf o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, fel y cytunwyd mewn Sesiwn Friffio’r Cabinet.  Yn flaenorol, cyflwynwyd yr adroddiad i’r TGC yn unig.  Fodd bynnag, roedd yn ddoeth i gynnwys Aelodau wrth ei ddatblygu a’i reoli.  Ystyriwyd mai’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn oedd cynnwys Aelodau Arweiniol yn Sesiwn Friffio’r Cabinet.

 

Darparodd y SGC grynodeb fanwl i’r Aelodau o’r prif faterion i'w nodi ar gyfer y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G. Sandilands, esboniodd y SGC y rhagwelwyd y byddai’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cael ei hadolygu nesaf ar ôl cytuno ar y gyllideb, ym mis Chwefror neu fis Mawrth, 2014.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Owens ynglŷn â lefel y risg mewn perthynas â diwygio DCC021: ‘Y risg nad oes partneriaeth a rhyngwyneb effeithiol yn datblygu rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd), gan arwain at gam-alinio sylweddol rhwng cyfeiriad strategol a gweithredol BIPBC a CSDd’.  Rhoddodd y SGC fanylion y proses farcio cyfraddau Risg Cynhenid a Gweddillol a sut oeddent yn berthnasol i DCC021.  

 

Ymatebodd y CC:UECh i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch unrhyw oblygiadau posibl i Gyfarwyddiaethau o ganlyniad i ostyngiad yn lefel y gefnogaeth a ddarperir gan AD.  Eglurwyd bod cynnwys AD ar y Gofrestr Risgiau’n dangos cydnabyddiaeth fod pryderon ynglŷn â lefel y cymorth sydd ar gael ar draws yr Awdurdod.  Cadarnhaodd y CC:UECh fod Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella ar waith gan AD, ac roedd y mater hwn wedi’i amlygu yn dilyn Adolygiad Archwiliad Mewnol a’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.  Roedd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd, a oedd yn cynnwys lefel y cymorth a ddarparwyd i reolwyr a’r modd y byddai’n cael ei ddarparu.  Eglurwyd fod yr Awdurdod wedi penderfynu newid y ffordd y darparwyd cymorth AD gydag AD yn darparu rôl gefnogol i reolwyr.  Clywodd Aelodau y byddai adolygiad yn cael ei gynnal, ar ôl gweithredu’r gwelliannau, i werthuso’r canlyniadau. Roedd Her Gwasanaeth wedi’i drefnu ar gyfer y Gwasanaeth AD yn y dyfodol agos a gofynnwyd i gynrychiolydd y Pwyllgor, y Cynghorydd RJ Davies, fynegi pryderon y Pwyllgor yn y cyfarfod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar y sylwadau uchod, fod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r hyn a ddilëwyd a’r hyn a ychwanegwyd i'r Gofrestr Risg Corfforaethol.

 

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 2 2013/14 pdf eicon PDF 86 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd Chwarter 2 2013/14.

                                                                                                          11.30 a.m 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o’r adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad, a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd Chwarter 2 2013/14, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gwella Corfforaethol (SGC) a Rheolwr Swyddfa’r Rhaglen Gorfforaethol (RhSRhG) yr adroddiad a dywedodd fod adroddiadau rheolaidd yn un o ofynion monitro angenrheidiol y Cynllun Corfforaethol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn arfer ei ddyletswydd i wella.   Mae’r Atodiad i’r adroddiad yn cyflwyno crynodeb o bob canlyniad yn y Cynllun Corfforaethol.  Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn nodi fod cynnydd derbyniol wedi’i wneud wrth gyflwyno’r Cynllun Corfforaethol.  Cydnabuwyd y byddai’n cymryd hirach i wella rhai meysydd nag eraill.  Fodd bynnag, byddai’n bwysig deall sut y dylai’r daith tuag at welliant edrych ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o agweddau perfformiad allweddol y Cynllun Corfforaethol yn chwarter 2, a darparodd y SGC grynodeb manwl o bob un o’r canlyniadau yn yr Adroddiad Perfformiad.  Cydnabu’r Pwyllgor ei bod yn dal yn gynnar yn oes y Cynllun Corfforaethol i gyflawni cynnydd sylweddol o ran cyflawni elfennau o rai o'r blaenoriaethau.  Fodd bynnag, amlygodd yr Aelodau'r pryderon canlynol yn ymwneud â phedwar o’r blaenoriaethau canlynol: -

 

Datblygu’r Economi Leol

 

·  Canlyniad 5, ‘Trefi a Chymunedau Llewyrchus’, awgrymodd y Pwyllgor y dylid ystyried defnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael fel dangosyddion ar gyfer mesur ein llwyddiant i ‘Fynd i’r afael ag Amddifadedd a Thlodi, yn enwedig mewn rhannau o’r Rhyl a Dinbych Uchaf’.  I sicrhau cywirdeb efallai y byddai felly’n ddefnyddiol i ddefnyddio’r ffigyrau incwm canolrif 2012 ar gyfer y dangosyddion hyn.

 

·  Canlyniad 6, ‘Sir Ddinbych wedi’i hyrwyddo’n dda’:  gan ystyried nifer y tai newydd a gwblhawyd yn ystod hanner cyntaf 2013/14, roedd y Pwyllgor yn bryderus ynglŷn â gallu’r Cyngor i gyflawni ei CDLl o fewn yr amserlen ddisgwyliedig

 

Gwella Perfformiad mewn Addysg ac Ansawdd Adeiladau ein Hysgolion

 

·  roedd gan y Pwyllgor nifer o bryderon ynglŷn â’r defnydd o ystafelloedd dosbarth symudol ar draws y Sir.  O ganlyniad, gofynnwyd i adroddiad cynhwysfawr gael ei gyflwyno i’w ystyried ym mis Ionawr ar nifer, lleoliad, oed a chyflwr yr ystafelloedd dosbarth symudol yn ogystal ag ar gyflwr adeiladau ysgol yn gyffredinol ac ar ragolygon niferoedd disgyblion a lleoedd i ddelio â’r nifer o ddisgyblion a ragwelwyd yn ysgolion y sir.

 

Strydoedd Glân a Thaclus

 

·  Canlyniad 11: roedd perfformiad yn erbyn y dangosydd ar glirio achosion o dipio anghyfreithlon wedi bod yn achos pryder i’r Pwyllgor ers mis Medi 2013. Roedd gan y Pwyllgor bryderon hefyd ynglŷn â chywirdeb adroddiadau ystadegol yr Awdurdod ar y DP hwn ac wedi gofyn i adroddiad gael ei gyflwyno i’r aelodau ar y mater hwn yng nghyfarfod mis Ionawr ac y dylai’r adroddiad hefyd gynnwys diffiniad o ran sut y byddai “rhagoriaeth mewn perthynas â lleihau tipio anghyfreithlon” yn edrych.

 

·  Mynegodd yr Aelodau bryderon hefyd ynglŷn â’r nifer o  Rybuddion Cosb Benodol (RhCB) a roddwyd a’r camau gorfodi a gymerwyd mewn perthynas â baw cŵn ar draws y sir, yn enwedig o’u cymharu â’r camau a’r nifer o RhCB a roddwyd am achosi ysbwriel.  Codwyd pryderon tebyg gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wrth ystyried yr adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Atal Baw Cŵn yn ei gyfarfod ar 25 Tachwedd.

 

Sicrhau Mynediad at Dai o Ansawdd Da

 

·  Cwestiynodd y Pwyllgor berfformiad y Cyngor yn erbyn y mesur perfformiad yn ymwneud â % y ceisiadau cynllunio gan ddeiliaid tai a benderfynwyd o fewn 8 wythnos.  Roedd Swyddogion eisoes wedi adrodd ar y mater i'r Pwyllgor ym mis Hydref ac er  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ynglŷn â materion perthnasol.

                                                                                                          12.05 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac yn darparu diweddariad ar faterion perthnasol, wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.   

 

Roedd 'ffurflen gynnig’, Atodiad 2, wedi’i derbyn i'w hystyried yn y cyfarfod a oedd yn ymwneud â’r Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.  Roedd y cais yn deillio o risg a nodwyd mewn adroddiad Archwilio Mewnol diweddar yn ymwneud â'r diffyg eglurder ynghylch y trefniadau llywodraethu Iechyd a Diogelwch.   Cytunodd yr aelodau y dylid cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mai, 2014.

 

          Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar ac a oedd yn hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd gyda’u gweithrediad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 4 yr adroddiad. 

 

Ym mis Medi, roedd y Pwyllgor wedi gwneud cais i dderbyn adroddiad gwybodaeth ar ddefnydd yr Awdurdod o staff addysgu llanw.  Oherwydd natur gymhleth y gwaith sydd ei angen i dynnu’r wybodaeth hon ynghyd eglurwyd na fyddai adroddiad ar gael tan dymor yr haf 2014.

 

 Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod ar 24 Hydref, 2013 a 5 Rhagfyr, 2013. Gwahoddodd y Cydlynydd Craffu sylwadau gan Aelodau ar Atodiad 2 y ddogfen Briffio Gwybodaeth a oedd yn cyfeirio at y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol.  Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i’r wybodaeth a ddosbarthwyd, a oedd yn nodi y dylid penodi cynrychiolydd Pwyllgor i eistedd ar y Bwrdd, a chytunwyd y dylid penodi’r Cynghorydd G. Sandilands i eistedd ar y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol.  Rhoddwyd cadarnhad y byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i Aelodau a benodwyd i’r Bwrdd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd C. Hughes, rhoddodd y CC:UECh fanylion am aelodaeth y Bwrdd a chytunodd i ddarparu manylion pellach ynglŷn â hawl rhai nad ydynt yn aelodau i fynychu cyfarfodydd.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd C. Hughes ynghylch y diffyg cyllideb gynnal a chadw ar ôl cyfnod o chwe mis i ymgymryd â mathau penodol o waith cynnal a chadw tiroedd, Eglurodd y CC:UECh bod Rhaglen Wella’n cael ei chynnal yn y Gwasanaethau Tai ar hyn o bryd.  Cytunodd Aelodau y dylid cynnwys adroddiad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella, a allai helpu mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd, ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Chwefror, 2014.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft ar gyfer cyfarfodydd i ddod, fel y manylir yn Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd canlynol:-

 

Dylid cynnwys adroddiad ar Leoedd Mewn Ysgolion ac Ystafelloedd Dosbarth Symudol ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer 16 Ionawr, 2014.

PENDERFYNWYD:-

         

a)         y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn amodol ar y newidiadau a’r cytundebau uchod, ac

b)         y dylid penodi’r Cynghorydd Gareth Sandilands yn gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol

 

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor sy’n aelodau o Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

                                                                                                          12.15 p.m.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd C. Hughes ei fod wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod Cyllid ac Asedau diweddar, ac yr amlygwyd y meysydd canlynol: -

 

-               Pryderon yn ymwneud â statws COG.

-               Y nifer a oedd yn bresennol ar gyrsiau hyfforddiant caffael perthnasol, a oedd yn is na’r targed ar gyfer ymyrraeth.   Rhoddwyd sicrwydd fod y mater hwn yn cael sylw, ynghyd â mater tebyg yn ymwneud â thendrau a dyfynbrisiau electronig.

-               Roedd Cyllid ac Asedau wedi syrthio islaw eu targedau o safbwynt cwynion.

-               Problemau a brofwyd mewn perthynas â gwybodaeth reoli o’r system TRENT.

 

Eglurodd y Cynghorydd D. Owens ei fod ef a’r Cynghorydd C. Hughes wedi bod i gyfarfod Eiddo ac Archwilio ar yr 11 Rhagfyr, 2013 ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd WL Cowie wrth y Pwyllgor fod cyfarfod gyda’r Rheolwr Adran: Rheoli Rhwydwaith wedi’i ohirio tan fis Ionawr, 2014.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams ei fod wedi bod i gyfarfod paratoadol cyn yr Her Gwasanaeth ym mis Tachwedd i ddewis cwestiynau i’w cyflwyno i’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden.        Mynegodd y Cynghorydd Lloyd-Williams ei syndod at rai o’r cwestiynau a ddewiswyd ar gyfer yr Her Gwasanaeth.  Eglurodd ei fod wedi cwrdd â’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden yn ddiweddar, a dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod yn galonogol i weld yr amrywiaeth eang o ddigwyddiadau chwaraeon newydd a gynlluniwyd yn Sir Ddinbych. Cyfeiriwyd at y rhaglen tair blynedd ar gyfer Rali Cymru Prydain a rhoddwyd cadarnhad y byddai Sir Ddinbych yn flaenllaw mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Cynghorydd R.J. Davies fod cyfarfod wedi’i drefnu ynglŷn ag Ymholiadau ar gyfer AD ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Roedd y Cynghorydd G. Sandilands wedi bod i gyfarfod Grŵp Buddsoddi Strategol, lle y cytunwyd i ddarparu cyllid ar gyfer bwnd Glasdir.

 

PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a nodi cynnwys yr adroddiadau.

 

Daeth y Cyfarfod i ben am 12.25p.m.