Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Ian Armstrong a Peter Owen. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 187 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a
gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2013 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad
a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2013. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2013 fel cofnod cywir. |
|
SAFONAU PERFFORMIAD A DDATGELWYD TRWY’R BROSES GWYNION PDF 168 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) yn cyflwyno dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd trwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ ar gyfer Chwarter 3 2012/13. 10.05 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth
Addysg adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno dadansoddiad o’r
adborth a dderbyniwyd trwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir Ddinbych ‘Eich Llais’
ar gyfer Chwarter 3 2012/13. Amlygwyd – ·
Bod y
Cyngor wedi ymateb i 89% (160/179) o gwynion o fewn yr amserlen o gymharu â
tharged o 95%, a oedd yn welliant o 4% ar chwarter blaenorol 2 ·
Derbyniwyd
210 o gwynion yn ystod chwarter 3 ac roedd dadansoddiad yn ymwneud â
gwasanaethau unigol wedi ei roddi dros y flwyddyn hon, a ·
Chynhwyswyd
yn yr adroddiad berfformiad manwl yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ar
gyfer y flwyddyn hon o ran amserau ymateb i’r nifer o gwynion a dderbyniwyd. Gyda golwg ar wella perfformiad ymhellach,
roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid wedi cysylltu â Phenaethiaid
Gwasanaeth yn gofyn am dalu sylw i sut caiff cwynion eu trin. Ymhelaethodd
y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg
ar berfformiad gwasanaethau unigol gan ddweud bod y Pennaeth Gwasanaeth newydd
yn delio â’r gostyngiad mewn perfformiad a welwyd yn achos Priffyrdd a
Seilwaith, a bod perfformiad wedi gwella ers mis Ionawr. Ystyriodd y pwyllgor eu gofynion adrodd at y
dyfodol er mwyn darparu data mwy ystyrlon i’w graffu, ac adnabod meysydd gwella
i gyflwyno’r gwasanaethau gorau posibl i gwsmeriaid. Nodwyd bod data cyfredol
yn canolbwyntio ar nifer y cwynion ac awgrymodd y Pennaeth Cwsmeriaid a
Chymorth Addysg y dylai adroddiadau yn y dyfodol ganolbwyntio ar natur y
cwynion ac adnabod tueddiadau a phatrymau, ac a yw’r gwasanaethau yn delio â’r
materion hynny er mwyn gwella gwasanaethau. Yn groes i’r nod yn y Cynllun
Corfforaethol i leihau nifer y cwynion, teimlai’r Pennaeth y dylid annog
cwynion a’u trin er mwyn cael gwelliannau. Roedd yn gobeithio newid y syniad
bod cwynion yn adlewyrchu’n wael ar y gwasanaethau a’u amharodrwydd i gofnodi
cwynion yn briodol er mwyn sicrhau eu bod yn eu trin yn effeithiol. Cytunodd yr
aelodau gyda’r agwedd honno a chyfeirio at yr anawsterau wrth adnabod y
rhesymau y tu ôl i’r amrywiadau yn y nifer o gwynion a dderbynnir a pha mor dda
yr oedd gwasanaethau yn perfformio heb y dadansoddiad hwnnw. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr
aelodau y materion canlynol – ·
Holwyd
ynglŷn â lefel yr amddiffyniad ac anhysbysrwydd a roddwyd i achwynwyr a
dywedodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg, tra bod cwynion yn erbyn
staff yn cael eu trin ar wahân trwy’r adran Bersonél, ei bod yn annhebygol y
byddai cwynion cwsmeriaid yn cael eu cuddio, a bod angen newid agwedd tuag at
gwynion er mwyn gweld cwyn fel dull cadarnhaol o gael gwelliannau ·
Mewn
ymateb i bryderon ynglŷn â pherfformiad gwael y Gwasanaethau Cymdeithasol,
hysbyswyd yr aelodau bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddo a Lles yn
delio â’r mater gyda golwg ar wella perfformiad. Cydnabu’r Aelodau y cwynion
anodd a chymhleth yn y maes hwn a chadarnhaodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth
Addysg bod y cwynion hyn, oherwydd hynny, yn dod dan feini prawf gwahanol.
Ychwanegodd bod ffigurau canrannol
weithiau yn gwyro canlyniadau pan roeddynt yn seiliedig ar nifer llai o gwynion ·
Cadarnhaodd
y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg bod trafodaeth barhaus ynglŷn ag a
oedd rhai cwynion mewn gwirionedd yn geisiadau i’r gwasanaeth gan gydnabod nad
oedd rhai cwynion efallai yn cael eu cofnodi yn iawn oherwydd y syniad y
byddant yn adlewyrchu’r wael ar y gwasanaeth. Dylid cydnabod bod rhai
gwasanaethau yn denu mwy o gwynion oherwydd natur y gwasanaeth a ddarperid. · Roedd yr aelodau’n falch o nodi’r nifer o ganmoliaethau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn a thra na fedrai’r Pennaeth roddi manylion y tu cefn i’r ffigurau, dywedodd y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
AROLWG COFRESTR RISG GORFFORAETHOL, CHWEFROR 2013 PDF 142 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) yn cyflwyno fersiwn diweddaraf y Gofrestr Risg Gorfforaethol. 10.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Cynhaliwyd sesiwn briffio cyn y cyfarfod ar
gyfer aelodau’r pwyllgor ar Reoli Risg er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith craffu
ar yr eitem hon] Cyflwynodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno fersiwn diweddaraf y
Gofrestr Risg Gorfforaethol, a oedd yn manylu’r risgiau mawr sy’n wynebu’r
Cyngor ar hyn bryd, ynghyd â chamau i
ddelio â’r risgiau hynny. Fel cefndir, roedd yr adroddiad yn manylu’r broses ar
gyfer adlygu’r Gofrestr a rôl y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn monitro cynnydd.
Cyfeiriwyd hefyd at rôl Archwilio Mewnol yn rhoi sicrhad annibynnol ar fesurau
lliniaru a rheoli risg. Ymhelaethodd y Rheolwr Gwelliannau
Corfforaethol a’r Swyddog Gwelliannau Corfforaethol ar y prif newidiadau i’r
Gofrestr Risg Gorfforaethol a grybwyllwyd yn yr adroddiad, gan esbonio materion
ac ymateb i gwestiynau’r aelodau ar risgiau penodol, fel a ganlyn – ·
DCC005 ‘Y risg bod yr amser a’r ymdrech
a fuddsoddir mewn prosiectau cydweithredu mawrion yn anghymesur â’r manteision
a wireddir’– esboniwyd bod y risg wedi ei dileu oherwydd roedd y prosiectau
bron wedi eu cwblhau ac roedd gwaith rheoli prosiect wedi ei gryfhau. Y ddau
brif brosiect cydweithredu dan sylw oedd y Prosiect Gwastraff Rhanbarthol a’r
Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwelliannau Ysgolion Rhanbarthol. Byddai’r ddau
brosiect yn cael eu cynnwys ar eu Cofrestri Risg Gwasanaeth perthnasol ·
DCC006 ‘Y risg bod yr amgylchedd
economaidd yn gwaethygu y tu hwnt i ddisgwyliadau presennol, gan arwain at alw
pellach ar wasanaethau a llai o incwm’ – mynegodd y Cynghorydd Colin Hughes
beth pryder ynglŷn ag israddio’r risg hwn oherwydd bod y cymhorthdal gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer Budd-dal y Dreth Gyngor ond wedi ei warantu am
flwyddyn gyda’r tebygolrwydd y byddai'r risg yn cynyddu. Cadarnhaodd swyddogion
bod yr hinsawdd ariannol yn newid trwy’r amser a’i bod yn aros yn risg bwysig a
fyddai’n cael ei hadolygu’n barhaus ·
DCC007 ‘Y risg bod gwybodaeth hollbwysig
neu gyfrinachol yn cael ei cholli neu ei datgelu’ – holodd y Cynghorydd
Gwyneth Kensler a oedd aelodau etholedig â’r rhagofalon priodol i ddibenion
prosesu gwybodaeth bersonol dan y Ddeddf Diogelu Data. Cytunwyd bod y Cydgysylltydd
Craffu yn holi ynglŷn â hyn ac adrodd yn ôl ·
DCC013 ‘Risg atebolrwydd ariannol
arwyddocaol a risg i enw da yn deillio o reoli cyfundrefn Hyd Braich’ – nodwyd
absenoldeb Aelod Arweiniol a ddyrannwyd ar gyfer y risg hon a chadarnhaodd y
swyddogion mai amryfusedd oedd hyn, gan ddweud y byddai’r Cynghorydd Huw Jones,
Aelod Arweiniol Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid mwy na thebyg yn cael ei
ddyrannu i’r risg honno. ·
DCC017 ‘Risg bod effaith diwygiadau lles
yn fwy arwyddocaol na’r hyn a ragwelir’ – Holodd y Cynghorydd Meirick
Davies os oedd DCC017 yn bodloni diffiniad risg o fewn meini prawf y Cyngor.
Cytunodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol nad oedd y risg hon yn syrthio’n
llwyr o fewn y diffiniad ond ei fod yn fater o bwysigrwydd arwyddocaol ac roedd
y Tîm Gweithredol Corfforaethol wedi gofyn am ei chynnwys ynghyd â DCC018 ‘Y risg nad yw prosiectau newid /
moderneiddio yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd, gan lesteirio sylweddoli
manteision.’ Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei gyfarfod yn ddiweddar gyda Mr Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru a chyfeiriodd at y Llythyr Asesu Gwelliannau cadarnhaol a gyflwynwyd. Roedd un o’r ddau gynnig ar gyfer gwelliannau yn amlygu’r angen i gynnwys mwy o wybodaeth ar statws a chanlyniadau prosiectau cydweithredu’r Cyngor a mynegwyd pryder ynglŷn â diffyg methodoleg ar gyfer llywodraethu corfforaethol prosiectau o’r fath. O ganlyniad, holodd y Cadeirydd a ddylid ystyried yr agwedd hon yn risg, yn gysylltiedig â DCC015 ‘Y risg na fedr y cyngor ddylanwadu ar yr agenda gydweithredu, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012 – 17 – ADRODDIAD GWAELODLIN PDF 243 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) yn cyflwyno adroddiad gwaelodlin ar gyfer y Cynllun Corfforaethol 2012-17. 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried adroddiad
gwaelodlin drafft ar gyfer y Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 gan gynnwys
mesurau i’w defnyddio i fonitro cyflwyniad y Cynllun a’r sefyllfa waelodlin ar
1 Ebrill 2012. Wrth arwain yr aelodau trwy’r adroddiad,
rhoddodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol wybodaeth gefndir ar y broses o
reoli perfformiad ac adrodd ar y gwaith a wnaed hyd yma yn diffinio
blaenoriaethau corfforaethol a phenderfynu pa ddangosyddion a mesurau
perfformiad i’w defnyddio. [Roedd y blaenoriaethau yn ymwneud â ‘Datblygu’r
Economi Lleol’ a ‘Moderneiddio’r Cyngor’ yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a
byddant yn ymddangos yn yr adroddiad perfformiad nesaf.] Ymgymerid â chymhariaeth o’r adroddiadau
perfformiad o gymharu â’r waelodlin er mwyn gwerthuso cynnydd o ran cyflawni
canlyniadau yn y Cynllun Corfforaethol. Roedd esboniad o strategaeth y Cyngor i
bennu “trothwy rhagoriaeth” ac “ymyraethau” ar gyfer pob dangosydd a mesur
perfformiad er mwyn rhoi perfformiad yn ei gyd-destun. Cydnabu’r Aelodau yr anawsterau o ran
penderfynu pa ddangosyddion a mesurau perfformiad y dylid eu defnyddio, yn
enwedig lle na ellid meincnodi mesurau perfformiad yn erbyn cynghorau eraill
yng Nghymru. Roeddynt hefyd yn derbyn y rhesymeg i ddefnyddio dangosyddion
perthnasol yn unig ac i ddefnyddio gwahanol grwpiau meincnodi pe tybid nad
Cymru oedd y cymharydd mwyaf priodol ar gyfer dangosydd neu fesur perfformiad
penodol er mwyn darparu data ystyrlon. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd
Gwyneth Kensler, cadarnhaodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol bod y Cyngor
wedi ymateb i’r ymgynghoriad blynyddol ar y setiau dangosyddion cenedlaethol o ran
perthnasedd a defnyddioldeb ond dim ond mân newidiadau a wnaed i’r dangosyddion
o ganlyniad. Mewn ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd y
Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol a’r Swyddog Gwelliannau Corfforaethol ar rai
o’r enghreifftiau a feincnodwyd a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad, gan nodi bod yr
amrywiadau yn adlewyrchu’r newidiadau yn sefyllfa’r Cyngor o gymharu ag
awdurdodau eraill Cymru dros flynyddoedd blaenorol. Sefyllfa ddiofyn y Cyngor
oedd bod dod yn y chwarter uchaf o gynghorau yng Nghymru yn “rhagorol” a bod
dod yn yr hanner gwaelod yn mynd yn “flaenoriaeth i wella” a bod statws wedi
cael cod lliw yn unol â hynny yn yr adroddiad er hwylustod cyfeirio. Ychwangodd
y Swyddog Gwelliannau Corfforaethol y byddai trefn newydd awdurdodau Cymru ar
gael ym mis Awst a fyddai’n galluogi i’r Cyngor ailasesu ei sefyllfa bryd
hynny. Holodd y Cynghorydd Arwel Roberts ynglŷn
â’r ymchwil a oedd yn cael ei wneud gan Brifysgol Glyndŵr ar y dangosyddion i’w defnyddio ar gyfer y
flaenoriaeth i sicrhau bod tai o ansawdd da ar gael. Dywedodd y Rheolwr
Gwelliannau Corfforaethol bod y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r Brifysgol i
ddatblygu setiau data er mwyn darparu’r dangosddion angenrheidiol. Y bwriad
oedd darparu mesur o’r cyflenwad presennol o dai cymdeithasol, tai fforddiadwy
a thai ar y farchnad ynghyd â mesur o’r angen am dai a galw cronedig.
Crybwyllodd y Cadeirydd y gwaith yr oedd y brifysgol yn ei wneud yn ei ward ef
lle’r oedd crynodiad uchel o dai cymdeithasol, yn ystyried cyfleusterau
cymunedol, mannau agored, maint gerddi, ac adroddodd ar gyfarfodydd y byddai’n
ei fynychu ar 4 Mawrth. Ystyriodd y pwyllgor drefniadau adrodd at y
dyfodol a chytuno sefydlu Is-grŵp Rheoli Perfformiad y Cynllun
Corfforaethol i ystyried adroddiadau perfformiad yn fanwl cyn y prif gyfarfod
pwyllgor. Cytunodd yr aelodau hefyd y dylid trefnu sesiwn briffio cyn y
cyfarfod, cyn eu cyfarfod nesaf ar 11 Ebrill ar y fframwaith rheoli perfformiad
a throthwyon dangosyddion. PENDERFYNWYD – (a) derbyn a chydnabod yr adroddiad gwaelodlin
drafft ar gyfer y Cynllun Corfforaethol 2012-17; (b) sefydlu Is-grŵp Rheoli Perfformiad y Cynllun ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
PROSIECT PEILOT DYFAIS CYFYNGU CYFLYMDER A CHFYRIF CYLCHDROADAU PDF 72 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr y Fflyd (copi’n amgaeëdig) yn
gofyn am gefnogaeth yr aelodau mewn egwyddor i ymgymryd â phrosiect peilot i
ystyried yamrferoldeb gosod dyfeisiau cyfyngu cyflymder/cyfrif cylchdroadau
mewn cerbydau llai na 3.5 tunell. 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Fflyd adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn am gefnogaeth yr aelodau mewn egwyddor i
weithredu prosiect peilot i ystyried ymarferoldeb gosod dyfeisiau cyfyngu
cyflymder / cyfrif cylchdroadau i gerbydau’r Cyngor islaw 3.5 tunnell. Roedd
enghreifftiau o gyfundrefnau a oedd wedi gweld gwelliannau arwyddocaol mewn
arbed ynni o ddefnyddio dyfeisiau o’r fath ynghlwm wrth yr adroddiad (Atodiad
1) Hysbyswyd yr aelodau bod y systemau rheoli
tanwydd a chardiau tanwydd newydd wedi galluogi dadansoddiad o fanteision
mentrau newydd yn ymwneud â defnyddio tanwydd. O ganlyniad, cynigiwyd prosiect
peilot yn cynnwys dyfais ym mhob cerbyd i reoli’r cyflymder uchaf a pha mor
gyflym y gallai’r injan gylchdroi er mwyn lleihau defnydd tanwydd, cost ac
allyriad carbon. Byddai’r peilot yn
cynnwys croestoriad o gerbydau mewn gwahanol wasanaethau a byddai angen rhaglen
hyfforddi i’r gyrwyr hefyd. Roedd cyllid o £3000 am 10 uned wedi ei adnabod i
dalu am gost y dyfeisiau am y cyfnod prawf chwe mis. Croesawodd y pwyllgor y fenter a chefnogi
gweithredu cyfnod prawf i asesu manteision defnyddio dyfeisiau o’r fath ond
gofynnodd am sicrhad o ran yr effaith a gawsai ar gerbydau a gyrwyr a sut
byddai problemau yn cael eu rheoli o ganlyniad. Teimlai’r aelodau hefyd y dylid
ystyried cynllunio llwybrau effeithiol er mwyn cael arbedion tanwydd pellach,
Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, bu i’r Rheolwr Fflyd – ·
Esbonio
sut byddai’r cyfyngwr cylchdro yn gweithio’n ymarferol i sicrhau nad oedd
tanwydd yn cael ei wastraffu a chadarnhaodd y gellid trosglwyddo’r dyfeisiau
heb lawer o gost; ni fyddai gwarant y cerbyd yn cael ei effeithio ·
Byddai
angen rhoi hyfforddiant er mwyn addasu ymddygiad gyrwyr i sicrhau bod y cerbyd
yn cael ei yrru’n effeithiol a bod gyrwyr yn ymwybodol o effaith y ddyfais ar
eu harferion gyrru ·
Byddai’r
hyfforddiant yn cael ei ddarparu’n fewnol yn ystod y peilot ac felly byddai’r
gost yn isel; pe byddai’r peilot yn llwyddiannus ac yn cael ei gyflwyno ledled
yr awdurdod, mae’n debyg y byddai angen darpariaeth hyfforddi allanol. Yn ystod y drafodaeth, sefydlwyd bod dyfais
olrhain ar bob cerbyd Cyngor ond mai cyfrifoldeb y rheolwyr gwasanaeth unigol
yw rheoli eu fflydau cludiant eu hunain. Mynegodd yr aelodau bryder nad oedd
rheolwyr yn cael eu gweld yn rheoli gwybodaeth ar y fflyd yn effeithiol ac
amlygu pwysigrwydd monitro cyflymder cerbydau a chynllunio llwybrau i leihau
gwastraffu tanwydd ac amser teithio anghynhyrchiol. Canmolodd y Cynghorydd Richard Davies yr
hyfforddiant a ddarparwyd gan y Rheolwr Fflyd yn ddiweddar a roddodd gipolwg ar
waith rheoli’r fflyd. Holodd sut yr oedd trafodaethau rhagarweiniol gyda
defnyddwyr penodol wedi mynd a dywedodd y Rheolwr Fflyd bod pryderon wedi eu
mynegi, y dylid eu goresgyn gan yr hyfforddiant. Wrth drafod y camau nesaf,
dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r cynnig mwy na thebyg yn cael ei
gyflwyno i’r Uwch Dîm Arwain i’w gymeradwyo. Ystyriodd yr aelodau yr
argymhelliad a gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies bod y dyfeisiau a
grybwyllwyd yn cael eu eglurhau yn y penderfyniad. O ganlyniad, fe - BENDERFYNWYD cefnogi mewn egwyddor brosiect peilot i ystyried ymarferoldeb
cyflwyno dyfeisiau cyfyngu cyflymder / cyfyngu cylchdro ym mhob un o gerbydau’r
Cyngor dan 3.5 tunnell. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 86 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y Pwyllgor a diweddaru’r
Aelodau ar faterion perthnasol. 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Cydgysylltydd Craffu (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu
rhaglen waith y pwyllgor i’r dyfodol a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.
Roedd atodiadau amrywiol hefyd ynghlwm wrth yr adroddiad a oedd angen sylw’r
aelodau. Adroddodd y Cydgysylltydd
Craffu ar ddatblygu’r rhaglen waith ddrafft yn manylu mân newidiadau ers ei
pharatoi ynghyd â manylion dyddiadau cyfarfod dros dro ar gyfer y deuddeg mis
nesaf. Trafododd yr aelodau newidiadau posibl i’r rhaglen waith ac amrwiol
eitemau busnes gyda swyddogion ac ar ôl ystyried y materion, bu i’r pwyllgor -
PENDERFYNWYD yn amodol ar y newidiadau
a’r cytundebau a grybwyllwyd uchod, cymeradwyo’r flaenraglen waith fel y
manylwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at
ymweliad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o Astudiaeth Gwelliannau
Swyddfa Archwilio Cymru ar Waith Craffu. Roedd y broses yn cynnwys adolygiad
cymheiriaid gydag aelodau a swyddogion yn ymwneud â chyfarfodydd pwyllgor
cyngor arall a rhoi adborth. Roedd Pwyllgor Craffu Cartrefi, yr Amgylchedd a
Chymunedau Wrecsam wedi trafod cau llyfrgelloedd ac ar wahân i beidio ag
alinio’r adroddiad gyda’u hadolygiad o asedau, cafwyd ei fod yn gweithredu’n
dda yn gyffredinol a ddim yn rhy wahanol i Sir Ddinbych. Ychwanegodd y
Cydgysylltydd Craffu y byddai ymweliad arall â chyfarfod pwyllgor yr wythnos
ganlynol, ac y byddai dirprwyaeth o Gyngor Sir y Fflint hefyd yn ymweld â
chyfarfod nesaf Pwyllgor Craffu Cymunedau Sir Ddinbych, Roedd yr astudiaeth yn
digwydd trwy’r holl gynghorau ledled Cymru gydag adroddiad ar y darganfyddiadau
yn cael ei gyflwyno i’r SAC yn yr haf. PENDERFYNWYD cydnabod yr adroddiad llafar
gan y Cadeirydd mewn perthynas â’r ymweliad â Phwyllgor Craffu Cartrefi, yr
Amgylchedd a Chymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 p.m. |