Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGORA 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu niweidiol
mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw Aelod unrhyw fuddiannau personol na
rhagfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: NI chodwyd unrhyw eitemau y dylid,
ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 188 KB I dderbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a
gynhaliwyd ar Dachwedd 29ain 2012 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 29ain Tachwedd 2012. Materion yn codi:- 5. Cofrestr Risgiau Corfforaethol – Esboniodd y Cynghorydd H.
Hilditch-Roberts, o ran risg gorfforaethol, iddo godi mater goblygiadau
cyfreithiol ac ariannol posibl i’r Cyngor ar ôl y tywydd drwg yn Rhuthun. 8. Safonau Gwasanaeth Llyfrgell: Adroddiad Blynyddol 2011/12 – Hysbysodd
y Cadeirydd y Pwyllgor bod Cyngor Cymuned Henllan mewn cyfarfod yn ddiweddar
wedi canmol y Gwasanaeth Llyfrgell ar lefel a safon y ddarpariaeth yn yr ardal. 10. Rhaglen Waith Craffu – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd A.
Roberts ynglŷn â’r problemau a gafwyd gyda chyflwyno’r cynllun biniau ar
olwynion x2, cyfeiriodd y Cydgysylltydd Craffu at dudalen 5 y Nodiadau Briffio
ac esboniodd y byddai adroddiad ar hyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwylgor
Craffu Cymunedau ar 28ain Chwefror 2013. Cyfeiriodd hefyd at Atodiad 4
Blaenraglen Waith y Pwyllgor, a oedd yn manylu cynnydd mewn perthynas â
phenderfyniadau’r Pwyllgor, a chadarnhawyd bod y sefyllfa wedi gwella ac yn
parhau i wella. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
COLEG LLANDRILLO A DYSGWYR SIR DDINBYCH I ystyried cyflwyniad gan gynrychiolydd Coleg Llandrillo
Cymru sy’n nodi perfformiad myfyrwyr 16-19 oed Sir Ddinbych sydd wedi eu
cofrestru yng Ngholeg Llandrillo Cymru.
9.35 a.m. Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad
PowerPoint gan Jackie Doodson, Pennaeth Coleg Llandrillo a Celia Jones,
Cyfarwyddwr Coleg Llandrillo – y Rhyl, yn manylu ar berfformiad myfyrwyr 16-19
Sir Ddinbych a oedd wedi eu cofrestru yng Ngholeg Llandrillo Cymru. Amlygodd y cyflwyniad y pwyntiau perthnasol a’r meysydd canlynol:- ·
Strwythur
Grŵp – Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Llandrillo. ·
Strwythur
Llandrillo – amlygwyd Campws y Rhyl a Chweched y Rhyl. ·
Ffeithiau
a Ffigurau Coleg Llandrillo – Amlygwyd amcangyfrifon. ·
Myfyrwyr
Sir Ddinbych (llawn-amser (FT): 16-19) - Yn Rhos, Campws Dinbych, Chweched y
Rhyl, Campws y Rhyl a Champws Abergele. Cynnydd yn y niferoedd yn y Rhyl a
gostyngiad yn Rhos. ·
Dewis
Pynciau – ar gampysau heb fod yn Sir Ddinbych. ·
Darpariaeth
14-16 (Sir Ddinbych) – Llwybrau Galwedigaethol 14-16 a 14-16 FT (EPIC) ar gyfer
2011/12 a 2012/13. ·
Llwyddiant
Myfyrwyr – Cyfanswm mewn perthynas â Choleg Dinbych, Coleg Abergele, Chweched y
Rhyl, Coleg y Rhyl a Llandrillo. ·
Y Rhyl
mewn Cyd-destun – lefelau cyrhaeddiad ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl, Bendigaid
Edward Jones, Abergele, Cyfartaledd Pwysedig Ysgolion y Rhyl a Chweched y Rhyl. ·
Partneriaeth
Chweched y Rhyl a Phrestatyn – Cyrsiau a gynigir ar y cyd ôl-16 a dewis
ehangach. ·
Sgiliau
Llythrennedd a Rhifedd – Myfyrwyr Sir Ddinbych FT 2011/2012. ·
Gwelliannau
parhaus – manylion gwella Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, roedd Coleg y Rhyl,
myfyrwyr a staff, wedi derbyn nifer o wobrau a llwyddiannau nodedig, gan
gynnwys:- Ø
Prentis
Modurol Ifanc y Flwyddyn yn y DU (2009). Ø
Terfynwr
DU Sefydliad Diwydiant Modurol Canolfan Peirianneg Fodurol y Flwyddyn (2009) Ø
Academi
Genedlaethol Sgiliau Manwerthu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (2010) Ø
Colegau
Cymru Athro AB y Flwyddyn (2012) Ø
Partneriaeth
unigryw Ysgolion/Colegau Cymru gyfan – Uwchradd Prestatyn a Chweched y Rhyl –
yr unig bartneriaeth lle mae myfyrwyr coleg yn astudio mewn lleoliad ysgol Ø
Terfynwyr
– Menter Ieuenctid (Subo Soux) ac enillwyr y categorïau stondin fasnach orau a
gwasanaeth cwsmeriaid gorau (2012) Ymatebwyd fel a ganlyn i gwestiynau a materion
a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:- -
Mewn
ymateb i bryderon a fynegwyd gan Ms C. Burgess, esboniodd Cyfarwyddwr Coleg
Llandrillo y Rhyl (CLDR) bod amserlen mwy strwythuredig wedi ei chyflwyno a
bysus ychwanegol wedi eu darparu i ddelio â phroblemau cludiant a brofwyd gan
fyfyrwyr. Esboniodd y Cydgysylltydd Rhwydwaith Addysg 14-19 (ENC) bod dolen
wedi ei dodi ar Facebook y gellid ei defnyddio gan fyfyrwyr i gyflwyno manylion
problemau, megis materion cludiant, a oedd yn bodoli. -
Mewn ateb
i gwestiwn gan y Cynghorydd A. Roberts ar gysylltiadau ag Ysgol Glan Clwyd,
esboniodd y CLDR eu bod yn gweithio’n agos â Phartneriaeth Dyffryn Clwyd, a
oedd yn cynnwys Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Dinbych a Choleg Dinbych.
Amlygodd waith a oedd yn cael ei wneud gan Goleg y Rhyl mewn perthynas â’r
cwricwlwm 14-16 a oedd yn caniatáu
ymestyn y cwricwlwm, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg. -
Ymatebodd
y CLDR fel a ganlyn i gwestiynau gan y Cynghorydd D. Owens:- Ø
Darparwyd manylion materion ariannu yn ymwneud
â phryderon mewn perthynas â chyllid grant 14-19, cyllid Ewropeaidd a gwaith
partneriaeth mewn ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â dirywiad mewn
cymwysterau galwedigaethol. Amlinellodd Pennaeth Coleg Llandrillo (PCL) y
gwaith a oedd yn cael ei wneud gan yr ENC i oresgyn a chwalu, trwy gyfathrebu
da a gwaith partneriaeth, unrhyw rwystrau a oedd yn codi. Ø Esboniwyd bod diffyg cynrychiolaeth o Sir Ddinbych ar y Bwrdd wedi ei gydnabod ond y byddai’n anodd delio â hynny nes byddai swydd wag yn codi. Darparwyd amlinelliad o’r broses o benodi aelodau a chadarnhawyd bod llythyr wedi ei anfon at Sir Ddinbych ar y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU CA4 PDF 142 KB I ystyried adroddiad gan y Swyddog Effeithiolrwydd
Perfformiad Ysgolion: Uwchradd (copi’n atodol) a oedd yn gwirio perfformiad
canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4
ac Ôl-16, ac yn darparu dadansoddiad o ganlyniadau yn erbyn gwybodaeth a feincnodwyd a pherfformiad yn erbyn
awdurdodau lleol eraill.
10.10 a.m. Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd a oedd yn
dilysu perfformiad arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod
Allweddol 4 ac ôl-16, ac yn darparu dadansoddiad o ganlyniadau o gymharu â
gwybodaeth a pherfformiad a feincnodwyd yn erbyn awdudordau lleol eraill, wedi
ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd
(SEPO:S) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ar berfformiad asesiadau
athrawon ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych. Roedd yr holl
ddanogsyddion allweddol yn CA4 ar gyfer cymwysterau allanol wedi gwella yn
ystod y flwyddyn i fod yn y deg a oedd yn perfformio orau yng Nghymru. Bu
gwelliant arwyddocaol ym mhob dangosydd ers 2010, yn enwedig Trothwy Lefel 2 a
Lefel 2 gan gynnwys Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Cynhwyswyd crynodeb o
Safleoedd Asesiadau ac Arholiadau yn yr adroddiad. Esboniwyd
mai’r dangosydd perfformiad allweddol ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 oedd
Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Roedd manylion
canran disgyblion yn cyflawni Lefel 2, a pherfformiad ysgolion unigol, wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. Roedd Trothwy Lefel 2 yn nodi nifer y disgyblion a
oedd yn cael 5 TGAU A*-C neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, ac
roedd hyn yn disodli’r dangosydd 5A*-C a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd
blaenorol. Canran disgyblion yn cael Trothwy lefel 2 oedd 83%, a oedd 10% yn
uwch na’r flwyddyn flaenorol. Dyma’r bedwaredd flwyddyn yr oedd dangosydd Lefel
2 wedi cynyddu yn ysgolion uwchradd Sir Ddinbych ac roedd yn dodi Sir Ddinbych
yn gyntaf yng Nghymru yn 2012, ac roedd hyn wedi bod yn welliant mawr wrth
symud o 18fed yn 2010. Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg bwysigrwydd canolbwyntio
ar welliannau a gafwyd mewn perthynas â Throthwy Lefel 2, a chyfeiriwyd yn
benodol ar broffil cyrhaeddiad disgyblion, y llwyddiant a gafwyd mewn ysgolion
arbennig a'r gwelliannau a welwyd yn ysgolion y Rhyl. Pwysleisiodd ei bod yn
bwysig peidio â mynd yn hunanfodlon, er mwyn sicrhau cynnal lefelau gwella. Cadarnhaodd y SEPO:S bod yr holl
ysgolion wedi gwella eleni gyda’r Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Uwchradd y
Rhyl yn gweld y cynnydd uchaf, sef 22% a 25% yn eu tro ar gyfer Trothwy
Lefel 2. At hyn roedd Ysgol Uwchradd Prestatyn (91.%), Ysgol Dinas Bran (98.%),
Ysgol Glan Clwyd (91%) ac Ysgol Santes Ffraid (96%) oll wedi cyflawni dros 90%
ar gyfer Trothwy Lefel 2. Gadawodd deg disgybl (0.8%) yr ysgol heb gymhwyster
cydnabyddedig yn 2012 ac roedd hyn wedi gosod Sir Ddinbych y 18fed yng Nghymru.
Nodwyd manylion llwyddiannau canlyniad arholiadau disgyblion o Ysgol Plas
Brondryffyn ac Ysgol Tir Morfa yn yr adroddiad. Roedd Llywodraeth Cymru yn
defnyddio Bandiau fel ffordd o ddefnyddio data cenedlaethol ar berfformiad
ysgolion mewn cyd-destun i grwpio ysgolion yn ôl lle ‘roeddynt ar eu taith tuag
at wella o gymharu ag ysgolion eraill yng Nghymru. Roedd ysgolion Band 1 yn
dangos perfformiad a chynnydd cyffredinol da, a rhai ym Mand 5 yn dangos
perfformiad a chynnydd gwael o gymharu ag ysgolion eraill. Roedd proffil
bandiau ysgolion Sir Ddinbych yn 2012 wedi gwella ac roedd pob ysgol ym Mand 2
ac eithrio Ysgol Dinas Bran, a oedd yn aros ym Mand 1 ac Ysgol Uwchradd
Dinbych, a oedd wedi gwella o Fand 4 i Fand 3. Y dangosydd perfformiad ar gyfer
ôl-16 oedd Trothwy lefel 3, a oedd yn cyfateb â 2 Lefel A neu gymwysterau
galwedigaethol cyfatebol, ac roedd canlyniadau ôl-16 wedi aros fwy neu lai yn
sefydlog. Roedd canran ymgeiswyr yn cael Trothwy Lefel 3 wedi gwella 3% i 99% yn 2012 ac roedd hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 97%. Roedd sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU ESTUN PDF 88 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi’n atodol)
sy’n nodi’r cynnydd a wnaethpwyd mewn ymateb i’r argymhellion a wnaethpwyd gan
Estyn yn dilyn Archwiliad 2012.
11.00 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Addysg, a oedd yn manylu'r cynnydd a wnaed mewn ymateb
i argymhellion a wnaed gan Estyn ar ôl archwiliad 2012, wedi ei ddosbarthu
gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Esboniodd y Pennaeth Addysg bod prif ddarganfyddiadau adroddiad
Estyn wedi dangos bod yr Awdurdod Lleol wedi cael ‘Da’ ar gyfer y tri chwestiwn
allweddol:- ·
Pa mor dda yw’r canlyniadau ·
Pa mor dda yw’r ddarpariaeth ·
Pa mor dda yw arweiniad a rheolaeth. Roedd yr holl ddangosyddion eraill hefyd yn ‘Dda’ ac eithrio
3.1 ‘Arweinyddiaeth’ a farnwyd yn ‘Rhagorol’. Roedd adroddiad Estyn, Adroddiad
ar Ansawdd Gwasanaethau Addysg Awdurdod Lleol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Sir
Ddinbych, wedi ei gynnwys fel Atodiad 1. Er mwyn gwella ymhellach, gwnaed yr
argymhellion canlynol gan Estyn:- Argymhelliad
1: Gwella cywirdeb Asesiadau Athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. Argymhelliad
2: Adnabod yr holl wasanaethau i blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych a sefydlu
system effeithiol i fesur effaith y gwasanaethau hyn i helpu’r Awdurdod a’i
bartneriaid wybod os ydynt yn cynnig gwerth da am arian. Roedd
copi o Gynllun Gweithredu Estyn, Drafft Mai 2012, wedi ei gynnwys fel Atodiad 2
i’r adroddiad. Gwnaed
cynnydd yn erbyn yr holl gamau a nodwyd dan Argymhelliad 1 yng Nghynllun
Gweithredu Estyn, ac eithrio 1.4. Y
dyddiad cwblhau ar gyfer gweithgaredd dan 1.4 oedd Gorffennaf 2014. Roedd
Atodiad 3 – Ffurflen Monitro Cynllun Gweithredu Estyn ac Atodiad 4 – Cyfnod
Allweddol 3 – Pynciau Craidd – Asesiadau Athrawon 2012 yn cynnwys yr wybodaeth
berthnasol mewn perthynas ag Argymhelliad 1. Gwnaed
cynnydd hefyd mewn perthynas â chamau a nodwyd dan Argymhelliad 2 ac a
gynhwyswyd yng Nghynllun Gweithredu Partneriaethau, Atodiad 5 i’r adroddiad. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Pennaeth Archwilio Mewnol, amlinellodd y Pennaeth
Addysg y broses ddilynol a fabwysiadwyd gan Estyn wrth ystyried y cynnydd a
wnaed o ran yr argymhellion. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd A. Roberts, rhoddodd y Pennaeth Addysg
fanylion y dyraniad ariannol a’r broses ar gyfer disgyblion unigol mewn
ysgolion cynradd ac uwchradd. Esboniodd y bu arolwg mawr o’r fformiwla ariannu
a chrynhodd y gyllideb ddirprwyedig o ran y mecanwaith ariannu. Cadarnhaodd y
Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd (SEPO:S) bod cymedroli’r broses safonau yn gadarn gydag
athrawon yn gweithio mewn clystyrau. Ymatebodd
y SEPO:S i gwestiwn gan y Cynghorydd R.J. Davies mewn perthynas â rhoi
hyfforddiant i athrawon i ddefnyddio Moodle. Esboniodd bod hyn wedi ei amlygu
mewn coch oherwydd effaith gwaith rhanbarthol a'r ansicrwydd o ran pa staff a
fyddai yn y pen draw yn gweithio i’r sir a phwy a fyddai’n gweithio i’r
gwasanaeth rhanbarthol. Cadarnhaodd
y Pennaeth Addysg bod gwella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ysgol
yn un o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2012-17. Esboniwyd y
gallai’r Pwyllgor, wrth fonitro’r Cynllun Gweithredu, gynorthwyo’r Cyngor i
gyflawni rhan o’r uchelgais uchod. Yn
ystod y drafodaeth a ddilynodd, diolchodd y Cadeirydd a’r aelodau i’r
swyddogion am safon ragorol y gwaith a ymgymerwyd, ac fe:- BENDERFYNWYD – bod
y Pwyllgor:- (a)
Yn derbyn yr adroddiad a chydnabod
y cynnydd a wnaed hyd yma wrth ddelio ag argymhellion Estyn, a (b)
Yn cytuno bod adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gynnwys ar
flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer mis Gorffennaf, 2013. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 85 KB I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n
amgaeedig) yn ceisio adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor a diweddaru
aelodau ar faterion perthnasol.
11.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydgysylltydd
Craffu, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ei Flaenraglen Waith, ac
yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau
ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o flaenraglen waith y Cabinet wedi ei gynnwys
fel Atodiad 3, ac roedd tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac
yn hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd ar eu gweithredu, wedi ei gynnwys fel Atodiad
4 i’r adroddiad. Roedd ffurflen gynnig, a gynhwyswyd fel
Atodiad 2, yn gofyn am gael ystyried eitem yn ymwneud ag Adroddiad Gwella Blynyddol
Swyddfa Archwilio Cymru. Cytunodd yr Aelodau bod yr eitem hon yn cael ei
chynnwys ar y flaenraglen waith ar gyfer Ebrill, 2013. Cyfarfu
Grŵp y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 20fed Rhagfyr, pan
benderfynwyd y dylid trosglwyddo adroddiad ar deledu cylch cyfyng o raglen
waith y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer Mawrth 2013, i flaenraglen
waith y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer Ebrill, 2013. Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ddrafft ar
gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, fel y manylwyd yn Atodiad 1, a chytunwyd y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- Cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 21ain
Chwefror, 2013:- Arfarniad
Perfformiad Blynyddol Cyngor AGGCC 2011/12 – cytunodd yr Aelodau, gan fod yr
eitem hon wedi ei hystyried a’i derbyn gan y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol fel adroddiad cadarnhaol, ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad fel Adroddiad er Gwybodaeth. Cyflwyno
Cyfyngwyr Cyflymder a Rhifyddion Cylchdro yng Ngherbydau’r Cyngor – Ar gais
Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, cytunwyd bod adroddiad ar
fanteision posibl a chostau cyflwyno dyfeisiau cyfyngu cyflymder/rhifydd
cylchdro yng ngherbydau’r Cyngor ar flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer
Chwefror,
2013. Cynllun
Corfforaethol 2012/13 (Chwarter 3) - Esboniodd y Rheolwr Gwella Corfforaethol y
byddai’r adroddiad yn manylu’r dangosyddion a’r mesurau mewn perthynas â’r
sefyllfa Waelodlin mewn cysylltiad â’r Cynllun Corfforaethol. Cytunodd yr
Aelodau y dylid cynnwys eitem ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar
Flaenraglen Waith y Pwyllgor i’w hystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf y
Pwyllgor. Cytunwyd hefyd gofyn i Grŵp y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y
Pwyllgor ystyried cydgysylltu eitem yn ymwneud â pherfformiad Menter Cefndy. PENDERFYNWYD - yn amodol ar y newidiadau a’r cytundebau
uchod, cymeradwyo’r Flaenraglen Waith fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR I dderbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd R J Davies
grynodeb manwl o’r materion a drafodwyd ac a ystyriwyd yng nghyfarfod Herio
Perfformiad Gwasanaeth – Gwasanaethau’r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 28ain
Tachwedd 2012, a oedd yn cynnwys materion yn ymwneud â:-. ·
Contract Parc Ailgylchu
ac arbedion Cyfleusterau Ailgylchu Deunyddiau. ·
Trafodaeth gyda
Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Gwastraff Ailgylchadwy Cymysg. ·
Contract Prosesu
Gwastraff Bwyd. ·
Prosiectau Gwastraff
Gweddillol. ·
Cydgysylltu Gwaith
Glanhau Strydoedd. ·
Amodau Gwaith Hyblyg
Staff. ·
Gwasanaethau Prydau
Bwyd Ysgol. ·
Materion Iechyd a
Diogelwch. PENDERFYNWYD –
derbyn yr adroddiad a chydnabod y sefyllfa. Esboniodd y Cadeirydd y byddai Tîm
Cyfnewid Dysgu gan Gymheiriaid Sir Ddinbych yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor
Craffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o ymarfer Astudiaeth Gwella
Gwaith Craffu Swyddfa Archwilio Cymru. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 p.m. |