Agenda and minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fater a nodwyd i gael ei
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fynegwyd
unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 152 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2012 (copi’n
amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf
2012. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a
chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir.
|
|
TRAWSNEWID ADDYSG ÔL 16 PDF 184 KB Derbyn adroddiad
gan y Cydlynydd Addysg 14 - 19 (copi’n amgaeëdig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor
ystyried effeithiolrwydd cyflenwi addysg ôl 16 yn y Sir a’r costau
cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Rhwydwaith 14-19 (14 -19 NC) adroddiad (a
ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r Pwyllgor
ystyried effeithiolrwydd
darpariaeth addysg ôl 16 yn y Sir a’r costau cysylltiedig. Dyma oedd y
diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau ers 2009 ac roedd yn arddangos bod y
cynllun trawsnewid yn gweithio’n dda trwy roi addysg ôl 16 mewn fformat
gwahanol, a ddechreuwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru. Roedd y
bartneriaeth yn gweithio mewn tair ardal ddaearyddol:- (a)
Dyffryn
Clwyd (b)
Rhyl/Prestatyn
a (c)
Dyffryn
Dyfrdwy Roedd cyfradd gyfranogi'r disgyblion sy’n parhau yn y Chweched Dosbarth
neu’n mynd i Goleg Addysg Bellach yn Sir Ddinbych wedi codi i 89.9%, sef ail
agos iawn i Sir Fynwy. Yn ardal Dyffryn
Clwyd, roedd cyfradd gyfranogi'r disgyblion sy’n parhau yn y Chweched Dosbarth
wedi codi i 63.2% yn 2011. Roedd dadansoddiad wedi’i gynnal o’r myfyrwyr a oedd yn mynychu eu
hysgolion “cartref” a hefyd rhai a oedd yn teithio i ysgolion partner. Roedd wedi dangos bod y myfyrwyr a oedd yn
teithio i ysgolion partner yn ennill ar gyfartaledd un chwarter gradd yn uwch
na’r myfyrwyr a oedd wedi aros yn eu hysgol “cartref”. Prif reswm y myfyrwyr
hyn dros symud ysgol oedd cael mynediad at gyrsiau ychwanegol neu mwy o
amrywiaeth o ran cyfuno pynciau. Yn nhermau cost, roedd system o
drosglwyddiadau ariannol yn digwydd yn ganolog gyda phob ysgol yn derbyn incwm
i bob myfyriwr yn seiliedig ar faint y dysgu a nifer y pynciau a oedd yn cael
eu hastudio. Mae’r system yn gadael i
ysgolion gadw 20% o’r arian a delir i’w cyllidebau craidd i’r ddarpariaeth ôl
16. Roedd costau cludiant ysgol a choleg
yn broblem botensial gan nad oedd dim cyfle o fewn y gyllideb bresennol i
ariannu codiadau yng nghostau cludiant. Risg potensial arall i ddarpariaeth
addysg ôl 16 yn y dyfodol oedd adolygiad cenedlaethol y Gweinidog Addysg a
Sgiliau o’r System Gyllido. Mewn ymateb i faterion amrywiol a godwyd gan Aelodau, ymatebodd y 14 -19 NC
fel a ganlyn: Ø
i
ymchwilio a oedd bobl ifanc gydag anableddau neu Syndrom Asperger dan anfantais
yn y system. Roedd yr ymateb i’w anfon ymlaen i’r Cydlynydd Craffu. Ø
i drafod gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol y gost o
gludiant myfyrwyr i'r Chweched Dosbarth a cholegau, ac a fyddai’n ymarferol
cyflwyno polisi taliadau i fyfyrwyr ôl-16.
Ø
cadarnhaodd bod cyllid ar gael hyd haf 2014 o’r gyllideb
addysg 14-19 i dalu costau cludiant, ond roedd y Gweinidog hyd yma ond wedi
gwarantu cyllid grant hyd at fis Mawrth 31, 2014. Ø
bod llwybrau dysgu 14-19 yn llwyddiant digamsyniol ar
draws Cymru. Roedd safonau a chyfranogiad
myfyrwyr wedi codi ac roedd mwy a mwy o bobl ifanc yn ennill cymwysterau
sgiliau. Roedd posibilrwydd y byddai’r Llywodraeth yn parhau i ariannu ar ôl
2014 ond o bosibl ddim ar ffurf grant yn benodol i’r ddarpariaeth hon; byddai’n
fwy tebygol o ffurfio rhan o Grant Cefnogi Refeniw'r Cyngor (RSG) ac felly ni
fyddai’n rhaid ei gylch-ffensio. Trafodwyd
taliadau cludiant ymhellach, ac awgrymwyd pe byddai myfyrwyr yn talu am
gludiant y byddai’n rhaid cynnal prawf modd. Roedd hyn oherwydd yr effaith
fyddai taliadau cludiant yn ei gael ar gyllideb teuluoedd ar incwm isel. Soniodd 14-19 NC
hefyd am bartneriaethau ysgol/coleg pellach i’r dyfodol a oedd yn cael eu
trafod ac y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal yn fuan gyda Chyngor Sir
Bwrdeistref Wrecsam gyda golwg ar weithio partneriaeth yn ardal Dyffryn
Dyfrdwy. Gan fod llawer o’r sir yn wledig ei natur, roedd Aelodau’n teimlo bod dyletswydd yn dal i fod ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau addysg i bobl ifanc. Awgrym pellach oedd newid amseroedd bysiau mewn ardaloedd gwledig ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
MONITRO SEFYLLFA ARIANNOL YSGOLION PDF 98 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Archwiliad Mewnol (copi’n amgaeëdig) i
graffu ar y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma gan yr ysgolion hynny y nodwyd eu bod
mewn anhawster ariannol wrth gyflawni eu cynlluniau adfer a lleihau eu
diffygion ariannol, a’r effaith bosibl ar eu perfformiad addysgol. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol (HIA) adroddiad (a ddosbarthwyd o
flaen llaw) i’r Pwyllgor graffu ar y prosesau sydd ar waith i gynorthwyo
ysgolion sydd wedi’u hadnabod fel rhai sy’n cael anhawster ariannol i gynnal eu
cynlluniau adfer, lleihau eu diffyg a lliniaru’r effaith posibl ar eu
perfformiad addysgol. Yn dilyn cyfarfod
blaenorol o’r Pwyllgor Craffu, roedd gwaith archwilio wedi’i gynnal fel y
gofynnwyd. Roedd Tîm y Rheolwr Cyllid
Addysg wedi monitro ysgolion ac wedi cynorthwyo yn fuan i reoli cyllid
problemus ysgolion. Cadarnhaodd y HIA bod cynlluniau gweithredu a gweithdrefnau
grymus yn eu lle. Darganfu
Archwilio Mewnol bod gwelliant sylweddol wedi digwydd o ran monitro perfformiad
ariannol ysgolion a bod gwaith rhagweithiol ar y gweill i wella’r gwasanaeth
ymhellach a delio gydag unrhyw feysydd gwella a ganfuwyd. Rhoddodd y HIA grynodeb byr o’r canlyniadau
allweddol o adolygiad archwilio mewnol. Mewn ymateb i
gwestiynau a gyflwynwyd gan Aelodau, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Addysg:- Ø
mai un opsiwn a drafodwyd gyda’r Fforwm Cyllideb Ysgol
(SBF) oedd cael polisi lleol yn seiliedig ar % o gyllid yr ysgol ac unrhyw
adfachiad yn mynd i bot canolog i’w
ddefnyddio i gefnogi ysgolion mewn trafferthion ariannol lle'r oedd y sefyllfa
wedi’i hachosi gan ffactorau allanol.
Byddai’r opsiwn hwn yn cael ei archwilio ymhellach yn ystod 2013/14.
Roedd eisoes polisi yn ei le, sef polisi a oedd yn gweithio, a oedd yn annog
ysgol i gynilo o flaen llaw yn hytrach na benthyg. Roedd yn rhaid i ysgolion â diffyg ariannol
wneud cais am ddiffyg trwyddedig. Roedd
yn rhaid i holl ysgolion a oedd wedi’u categoreiddio fel “ysgol mewn trafferth
ariannol” gynhyrchu cynllun adfer ariannol gan ddefnyddio templed a ddarperir gan
Gyllid Addysg. Roedd y Tîm Cyllid yn archwilio’r cynlluniau adfer ac yn eu
trafod gyda’r Rheolwr Cyllid ysgol. Ø
tra bod gan awdurdodau addysg lleol y pŵer i adfachu
gweddillion ysgol dros ben, nid oedd Sir Ddinbych, fel y mwyafrif o awdurdodau
addysg lleol eraill, yn gweithredu’r pŵer hwn os oedd yn derbyn achosion
busnes dilys a oedd yn arddangos y rhesymau pam yr oedd y gweddillion yn cael
eu cronni. Roedd sylwadau hefyd wedi’u hanfon i Lywodraeth Cymru trwy
Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) mewn perthynas â hyn ac roedd
trafodaethau yn parhau. Penderfynwyd – derbyn
sicrwydd y Pennaeth Archwilio Mewnol bod gweithdrefnau cadarn yn eu lle a bod
unrhyw welliannau a adnabuwyd yn cael eu rhoi ar waith. |
|
FFORMIWLA CYLLIDO YSGOLION SIR DDINBYCH PDF 86 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cyllid Addysg (copi’n amgaeëdig) i adolygu’r cynigion
ar gyfer y fframwaith ar gyfer y Fformiwla Cyllido newydd mewn Ysgolion Prif
Ffrwd ac Arbennig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cyllid Addysg (EFM) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i Aelodau’r
Pwyllgor adolygu’r cynigion i’r fframwaith ar gyfer y Fformiwla Cyllido newydd
mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig.
Roedd Sir
Ddinbych ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o gyllido ysgolion o
fewn y sir. Nid oedd adolygiad
cynhwysfawr wedi digwydd ers cyflwyno Rheolaeth Leol ar Ysgolion (LMS) yn 1990. Roedd y Cyngor yn
mynd yn ôl at drefniadau
sylfaenol ynghylch sut roedd ysgolion yn cael eu hariannu ac yn edrych at roi
mwy o hyblygrwydd i ysgolion o ran sut oeddynt yn gwario eu cyllideb
flynyddol. Yn ôl y fformiwla cyllido newydd arfaethedig, byddai
ysgolion yn y dyfodol yn derbyn cyllidebau cwricwlwm, a’r hawl i ddewis sut i
wario’r arian, h.y. athrawon, gweithgareddau cwricwlaidd. Roedd y Tim Rheoli
Gwasanaeth Addysg ac ysgolion yn cydweithio ar y prosiect hwn. Roedd y fformiwla
flaenorol yn gymhleth iawn, ond byddai’r fformiwla newydd yn canolbwyntio ar 2
brif faes:- Ø
Cyfuno’r 3 fformiwla prif ffrwd presennol i’r Cynradd,
Uwchradd ac Arbennig yn un fformiwla brif ffrwd. Ø
Lleihau
nifer yr elfennau sy’n bodoli o fewn y fformiwla i nifer bach o “Elfennau
Gweithgaredd Strategol” a fyddai’n canolbwyntio mwy ar “Sbardun Cost Gweithgaredd” yn hytrach na
chostau gwirioneddol. Roedd yn bwysig
canolbwyntio ar egwyddorion craidd yr adolygiad yn hytrach nag ar yr effaith ar
ysgolion unigol. Byddai trefniadau
trosiannol yn eu lle, ond pwrpas yr adolygiad oedd creu tryloywder,
unffurfiaeth a thegwch o ran ariannu yn hytrach na chreu enillwyr a
chollwyr. Cynlluniwyd i’r fformiwla newydd ddechrau gweithredu ar 1 Ebrill 2013 gyda
gwarant ddiogelu o ddwy flynedd greiddiol i’r ysgolion hynny fyddai’n cael eu
heffeithio’n negyddol gan y newidiadau. Roedd hyfforddiant yn fater a oedd dan sylw a byddai ymweliadau wedi’u
trefnu ag ysgolion unigol yn digwydd.
Byddai Llywodraethwyr a Phenaethiaid yn elwa o ddysgu sut i wneud
penderfyniadau ynghylch ariannu. Roedd gwaith yn
digwydd ynghylch clybiau allan tu allan i’r ysgol (clybiau ar ôl ysgol a chlybiau brecwast). Nid oedd y
clybiau hyn yn swyddogaethau addysg statudol. Er nad oedd gan y Cyngor rôl o fewn y clybiau hyn, byddai’n ymgymryd â gwaith gyda golwg ar lunio canllawiau
ynghylch sut i’w rheoli’n effeithiol ac osgoi problemau posibl. Roedd
canllawiau ynghylch diogelu i fod i gael eu cwblhau. Mynegwyd pryder
ynghylch nifer y galwadau ffôn posibl y gallai Cynghorwyr lleol eu derbyn oherwydd bod rhai ysgolion yn
colli allan ar arian. Roedd trefniadau trosiannol yn cael eu rhoi ar waith i
unrhyw ysgol a allai golli allan dan y fformiwla newydd. Byddai’r fformiwla
newydd yn seiliedig ar faint o arian y derbyniodd ysgolion Ebrill diwethaf. Cadarnhawyd bod
Swyddogion Ariannol Clystyrau Ysgol wedi bod yn eu gwaith am fwy na wyth mis ac
wedi’u derbyn yn dda. Cytunodd yr EFM
adrodd nôl i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad ar 18 Hydref 2012 gyda fersiwn derfynol y ddogfen ymgynghorol ar y
fformiwla ddiwygiedig arfaethedig. Penderfynwyd:-
(a)
yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y
Pwyllgor yn derbyn y byddai’r cynigion yn darparu model fformiwla ariannu
effeithiol a grymus i ysgolion prif ffrwd ac arbennig fel ei gilydd yn Sir
Ddinbych; a (b)
y dylid cyflwyno’r ddogfen ymgynghori derfynol
i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod mis Hydref cyn ei chyflwyno i’r Cabinet. Cafwyd egwyl am 10.45 y.b. Gwnaeth y cyfarfod ail-ymgynnull am 10.55 y.b. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 83 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o
flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (a ddosbarthwyd o flaen llaw) yn gofyn i’r
Pwyllgor adolygu blaen-raglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Roedd atodiadau amrywiol ynghlwm wrth yr
adroddiad er ystyriaeth yr aelodau. Adroddodd y
Cydlynydd Craffu ar y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a oedd
i’w gynnal ar 20 Medi 2012 i drafod Cynllun Corfforaethol drafft y Cyngor.
Roedd y Cynllun i’w drafod mewn cyfarfod anffurfiol yn dilyn cyfarfod llawn o’r
Cyngor ar 11 Medi, ac felly’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad
ar 20 Medi. Adolygiad Ysgolion Rhuthun wedi’i osod ar Flaen-raglen Waith y Cabinet
naill ai i Hydref neu Dachwedd. Dylai eglurhad
ynglŷn ag ariannu fod ar gael cyn diwedd yr wythnos a bryd hynny byddai
cadarnhad ynghylch y dyddiad y byddai’r eitem yn cael ei thrafod. Ysgol seiliedig
ar Ffydd – roedd briff ynghylch cyd-ddarpariaeth addysg ffydd wedi’i gynnwys yn
y ddogfen Briff Gwybodaeth a ddosbarthwyd i aelodau. Roedd dyddiadau 17 Medi a
27 Medi wedi’u clustnodi ar gyfer hyfforddiant i aelodau etholedig ac aelodau
cyfetholedig ar y rhaglen moderneiddio addysg. Roedd modd trefnu sesiynau
pellach neu sesiynau un i un i aelodau nad oedd yn gallu mynychu unrhyw un o’r
digwyddiadau hyn. Mae Atodiad 1 o’r ddogfen Briff Gwybodaeth yn cynnwys adroddiad gwybodaeth
ar Safonau Gwasanaeth Llyfrgell. O ran y Pwyllgor
Craffu Cymunedau a gynhelir ar 13 Medi 2012, bydd y pwyllgor cyfan wedi’i
neilltuo i Raglen y Rhyl yn Symud Ymlaen.
Archwiliadau Allanol ar Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 10
Ionawr 2013. Estynnir gwahoddiad i gynrychiolwyr Chweched Dosbarth Prestatyn
Rhyl (PR6) fynychu’r cyfarfod hwn. Penderfynwyd - yn amodol ar y newidiadau a’r cytundebau y cyfeirir
atynt uchod, y dylid cymeradwyo’r blaen-raglen waith fel y manylir yn Atodiad 1
i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 11.20 y.b. |