Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a wahoddwyd i gyflwyno eitem 8 ar y rhaglen, gan ei fod eisoes wedi ymrwymo i fynychu cyfarfod arall.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

10.05 – 10.10 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023/24 (copi o Swydd Ddisgrifiad Aelod Craffu, Cadeirydd/Is-Gadeirydd yn amgaeëdig).

10.10 – 10.20 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn gyngor 2023/24.  Enwebodd y Cynghorydd Ellie Chard y Cynghorydd Gareth Sandilands ar gyfer rôl Is-Gadeirydd, eiliodd y Cynghorydd Carol Holliday yr enwebiad hwnnw.   Ni chyflwynwyd unrhyw enwebiadau eraill. Felly:

 

Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Peter Scott yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn gyngor 2023/24.

 

Diolchodd y Cynghorydd Sandilands i aelodau’r Pwyllgor am eu cefnogaeth ac am ymddiried tymor arall yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor iddo.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023 (copi ynghlwm).

 

10.20 – 10.30 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023.   Felly:

 

Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:   Llywodraethu a Busnes bod sesiwn wedi cael ei chynnal yn ddiweddar gydag Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor i drafod y dull cydlynol ar gyfer rheoli risgiau ar draws yr Awdurdod, gyda phwyslais arbennig ar y risgiau hynny a oedd y tu hwnt i barodrwydd y Cyngor i dderbyn risg.

 

Roedd ymholiadau’n mynd rhagddynt mewn perthynas â sut gallai’r Cyngor fonitro bod bob un o’u darparwyr gofal a gomisiynwyd yn talu’r ‘cyflog byw gwirioneddol’ fel lleiafswm i’w staff.   Roedd hwn yn fater cymhleth a oedd yn cynnwys nifer o fudd-ddeiliaid, felly roedd angen cadarnhad o’r opsiynau posibl.  Cytunodd y Cydlynydd Craffu i olrhain yr ymholiad.  

 

Roedd gwybodaeth mewn perthynas â’r oedi gyda chyflwyno’r adroddiad ‘Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu’ wedi’i chynnwys yn adroddiad y ‘Rhaglen Gwaith Craffu’ a oedd yn rhan o becyn rhaglen y cyfarfod.   Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes wybod i aelodau, yn sgil y broses recriwtio barhaus i swyddi’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a fyddai’n mynd rhagddo tan ddiwedd mis Gorffennaf, y byddai’n anodd iawn i swyddogion baratoi a chyflwyno’r adroddiad dan sylw i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf o ganlyniad i faterion difrifol yn ymwneud â chapasiti.   Er eu bod yn cydnabod y gwaith ychwanegol a oedd ynghlwm â’r prosesau recriwtio i swyddi lefel uwch, mynegodd aelodau bryderon am yr oedi parhaus mewn perthynas â chyflwyno’r adroddiad hwn i’r Pwyllgor, yn arbennig o ystyried bod recriwtio a chadw staff yn rhoi pwysau sylweddol ar ddarpariaeth gwasanaethau ar draws y Cyngor.   Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:   Llywodraethu a Busnes i ofyn i’r Gwasanaeth AD ddarparu adroddiad mor gynhwysfawr â phosibl i’r Pwyllgor gan ystyried y llwythi gwaith a’r blaenoriaethau presennol.     

 

6.

CYSYLLTEDD RHYNGRWYD GWAEL YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Digidol sy’n cynghori aelodau ar faterion cysylltedd rhyngrwyd a theleffoni yn Sir Ddinbych ac sy’n ceisio barn y Pwyllgor amdanynt.

10.30 – 11.10 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod Arweiniol ar gyfer y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, a oedd yn cynnwys cyfrifoldeb am y Strategaeth Ddigidol, ynghyd â swyddogion, i gyflwyno adroddiad ar gysylltedd rhyngrwyd gwael yn Sir Ddinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw). Croesawodd Martin Williams o Openreach ar ran y Pwyllgor.

 

Diolchodd Mr Williams i’r Pwyllgor am y gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. Esboniodd mai fo oedd Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru. Ei dîm oedd yn gyfrifol am gyflwyno band eang ffibr llawn ledled Cymru, gan ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid allweddol a chymunedau ar y wybodaeth ddiweddaraf ar adeiladau masnachol a dewisiadau ar gyfer cymunedau. Roedd y tîm yn gofalu am y contract cyfredol sy’n cael ei ariannu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth yr aelodau bod gwybodaeth gyfredol ar lefelau band eang yn eiddo yn y gymuned wedi’i chynnwys yn y papurau. Pwysleisiodd mai cyfrifoldeb Openreach oedd gosod yr isadeiledd i hwyluso darpariaeth band eang ffibr yn Sir Ddinbych. Nid oedd gofyniad cyfreithiol ar Openreach i gysylltu aelwydydd i’r ffibr hwnnw. Nid oedd gan Gyngor Sir Ddinbych y pŵer i ddylanwadu ar sut mae Openreach yn gweithredu. Clywodd aelodau am y cynlluniau niferus, gan gynnwys cynllun talebau gyda darparwyr asiantaeth, yn amodol ar gymhwysedd. Roedd y broses ar gyfer grŵp i ddod ynghyd a gwneud cais am y cynllun talebau yn cymryd amser. Roedd Llywodraeth y DU wedi llunio Prosiect Gigabit, a oedd yn effeithio ar y daleb Gigabit. Clywodd aelodau am dechnolegau amgen megis cysylltiadau di-wifr, lloeren a 4G ar gael ond nid oeddent y datrysiad gorau ar gyfer trigolion bob amser. Roedd yn dibynnu ar leoliad yr eiddo.

Gobeithiwyd y byddai’r ddarpariaeth grant fferm wynt yn Sir Ddinbych yn gallu helpu i bontio unrhyw fylchau mewn cyllid rhwng y cynllun Taleb Gigabit a chostau gosod ffibr.  Serch hynny, roedd hon yn faes cymhleth i’w drin.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro, ynghyd â’r Swyddog Digidol bod Sir Ddinbych wedi cyflwyno swydd Swyddog Digidol i ymgysylltu gyda chymunedau, busnesau a phreswylwyr i gynnig cysylltiad rhyngrwyd rhesymol i’w heiddo. Esboniwyd mai ‘rhesymol’ oedd cyflymder o 30 mbps, ffibr yn ddelfrydol. Roedd angen i swyddogion weithio gydag Openreach a mynd drwy eu cynlluniau partneriaeth ffibr i ddefnyddio cyllid y Llywodraeth i’w gyllido. Ar hyn o bryd, roedd cyfyngiad ar yr awdurdod ar le y gellir cwblhau’r gwaith oherwydd rhaglenni uwchraddio sy’n mynd rhagddynt. Clywodd aelodau bod y cynllun taleb Gigabit wedi’i atal yng Nghymru ar hyn o bryd oherwydd bod Menter Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU dan dendr. Pwysleisiwyd fod gan swyddogion berthynas gwaith da gydag Openreach.

 

Un broblem a arsylwyd oedd swm yr arian yn y cynllun talebau. Daeth cefnogaeth Llywodraeth Cymru o ran y daleb Gigabit i ben llynedd, ac yn ei dro, fe’i gostyngwyd o 50%; roedd Llywodraeth y DU wedi cynyddu gwerth y daleb i £4500 ers hynny. Y gobaith oedd y byddai’n helpu cyrraedd ardaloedd gwledig. Byddai angen cyllid pellach ar ardaloedd anodd eu cyrraedd i gyflawni rhyngrwyd ffibr.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i’r holl swyddogion a’r Aelod Arweiniol am y cyflwyniad manwl, a chafwyd gwahoddiad i aelodau godi unrhyw bwyntiau am eglurhad pellach.  Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder:

·         Pwysleisiwyd bod cyswllt rhyngrwyd gwell wedi’i gynnwys fel blaenoriaeth yn y Cynllun Corfforaethol o Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu’n well, a’r angen i weithio mewn partneriaeth gydag Openreach i gyflawni targedau a osodwyd dan y thema honno.

·         Teimlwyd bod yr angen am gysylltedd gwell yn Sir Ddinbych yn fuddiol ar gyfer preswylwyr a busnesau.

·         Clywodd aelodau bod dros 100 o ddarparwyr rhwydwaith yn y DU, gydag  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

HUNANASESIAD Y CYNGOR O'I BERFFORMIAD, 2022 I 2023 pdf eicon PDF 293 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Digidol sy’n cynghori aelodau ar faterion cysylltedd rhyngrwyd a theleffoni yn Sir Ddinbych ac sy’n ceisio barn y Pwyllgor amdanynt.

 

11.10 – 11.50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol ynghyd â Phennaeth Gwasanaeth Dros Dro’r Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, a’r Swyddog Cynllunio a Pherfformiad yr aelodau drwy’r adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod yr hunan-asesiad hwn yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol newydd. Gwnaed llawer o waith ar yr adroddiad, a’r atodiadau gan swyddogion, y Cabinet, y Tîm Arwain Strategol, ac ati.

Bu gofyniad statudol bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i ddarparu cyfle i’r aelodau asesu a oedd yr awdurdod yn cyflawni ei nodau, yn unol â’r Cynllun Corfforaethol.

 

Cadarnhaodd swyddogion bod atodiad 1 a 2, yr adroddiad perfformiad chwarterol yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol, a’r Crynodeb Gweithredol a oedd yn rhoi trosolwg o’r meysydd llywodraethu, yn ddogfennau statudol, a oedd yn ymateb i ddyletswyddau’r awdurdod dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau.  Derbyniodd y Pwyllgor, ynghyd â’r Cabinet, ddiweddariad ar yr adroddiad perfformiad 4 gwaith y flwyddyn; derbyniwyd adroddiadau chwarter 1 a chwarter 3 fel adroddiadau gwybodaeth, ac roedd adroddiadau chwarter 2 a 4 yn y rhaglen i’w trafod mewn cyfarfod.

 

Pwysleisiwyd mai dyma oedd adolygiad perfformiad cyntaf y Cynllun Corfforaethol a byddai’n cael ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer hunan-asesiadau yn y dyfodol.  Roedd swyddogion yn ymwybodol bod nifer o dangosyddion a mesurau yn goch yn atodiad 2 - blaenoriaeth i wella. Cafodd aelodau eu hatgoffa mai dyma’r cyntaf mewn cynllun pum mlynedd, ac awgrymwyd bod y themâu a’r amcanion yn dangos yr heriau roedd y gymuned yn ei hwynebu, yr oedd yr awdurdod eisiau gwella. Y gobaith wrth symud ymlaen gyda'r cynllun oedd y byddai'r dangosyddion coch hynny yn gwella i sefyllfa fwy cadarnhaol.

 

Gobeithiwyd bod yr aelodau wedi canfod yr adroddiad yn fuddiol ac yn ddefnyddiol wrth nodi meysydd i’w craffu ymhellach.

 

Amlygodd swyddogion y nifer o ddangosyddion allweddol a oedd yn cyfeirio at Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Cafodd ei gasglu gan Lywodraeth Cymru, ac adroddwyd arno unwaith bob tymor, a disgwyliwyd adroddiad yn y flwyddyn neu ddwy nesaf. Roedd ‘rhain yn adlewyrchu'r lefelau o amddifadedd ledled y sir.

 

Atodiad 1 oedd yr hunan-asesiad. Cafodd y ddogfen honno ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn flynyddol, ynghyd â’r Cyngor Sir a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd yr adroddiad yn cymryd stoc o berfformiad yr awdurdod yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a'r amcanion a osodwyd yn y cynllun, ac i ba raddau yr oedd ein perfformiad yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol a pha mor dda yr oedd ein llywodraethu yn cefnogi gwelliant parhaus.

 

 

Pwysleisiwyd bod y dogfennau hyn yn ddogfennau byw ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth ym mis Gorffennaf 2023. Roedd mwy o ddata a feincnodwyd yn genedlaethol yn cael ei fesur, gyda swyddogion yn teimlo fod hyn yn bwysig. Roedd angen gwaith pellach i gytuno sut beth fyddai rhagoriaeth yn rhai o’r mesurau hynny.  Ym marn y swyddogion, roedd y ddau adroddiad yn cynrychioli dadansoddiad teg o safle’r awdurdod ar gam hwn y Cynllun Corfforaethol. Roedd swyddogion yn gofyn am adborth gan aelodau, gan eu hannog i ystyried yr adroddiadau a nodi meysydd a oedd angen gwaith pellach i fynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â pherfformiad.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Aelod Arweiniol am y cyflwyniad manwl a’r adroddiadau cynhwysfawr.  Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion gynghori:

·         Bod Cludiant Cynaliadwy yn addewid a gariwyd ymlaen o’r Cynllun Corfforaethol diwethaf. Deallwyd bod y polisi yn cael ei gymryd drwy broses y Cabinet ar hyn o bryd. Disgwyliwyd diweddariadau yn nhermau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADOLYGU AC ADFYWIO STRATEGAETH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL CYNGOR SIR DDINBYCH (2021/22-2029/30) pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Reolwr Rhaglen Newid Hinsawdd, cynghori’r Pwyllgor ar adolygu ac adfywio Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor sy’n cael ei gynnal yn ystod 2023/24 a cheisio cefnogaeth yr aelodau i ymgymryd â’r dull hwnnw.

12.00 – 12.40 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Strategaeth a Pherfformiad, Prosiectau, Newid Hinsawdd yr adroddiad i’r aelodau (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cafodd aelodau eu hatgoffa fod gan yr awdurdod Fwrdd Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol mewn ymateb i’r datganiad o Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019. Roedd llawer o waith wedi’i gwblhau i ddatblygu strategaeth. Roedd ymrwymiad i adolygu’r strategaeth bob tair blynedd o fewn cylch gorchwyl y strategaeth. Roedd hyn yn arfer da yn nhermau rheoli’r rhaglen a’r strategaeth, gan ganiatáu iddi ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd allanol, a’u cynnwys yn y cynllun. 

 

Darparodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fanylion a gwybodaeth bellach i’r aelodau. Dywedodd wrth y Pwyllgor mai dyma fyddai adolygiad cyntaf y strategaeth, i’w gynnal mewn tair blynedd - 2026/7.

 

Arweiniwyd yr aelodau drwy’r adolygiad fel yr adroddwyd yn yr adroddiad eglurhaol fel a ganlyn -

a) cwmpas y strategaeth gyfredol.

b) y llwybrau targed i gyflawni targedau 2030 o Gyngor Di-garbon Net ac

Ecolegol Gadarnhaol

c) y camau gweithredu o fewn y strategaeth - beth oedd angen ei newid a beth sydd angen ei ychwanegu.

d) mesurau llwyddiant - a oes angen ychwanegu neu newid unrhyw rai.

e) y wybodaeth a ddarperir am gyllid, llywodraethu, gweithio mewn partneriaeth a rhannu dysgu.

 

Pwysleisiwyd i’r aelodau bod swyddogion yn awyddus i ymgysylltu gydag ystod eang o’r boblogaeth ar gamau cynnar yr adolygiad, ac eto ar ddiwedd yr adolygiad. Clywodd aelodau bod yr adolygiad wedi cychwyn ar 18 Mai 2023 gyda dyddiad cau o 2 Gorffennaf 2023. Hyd yma, roedd swyddogion wedi derbyn 59 ymateb.  Roedd yr asesiad annibynnol wedi cael ei dderbyn. Cafodd ei gwblhau a’i ddychwelyd, ac roedd yn cael ei adolygu a’i adlewyrchu.

 

Roedd y gwaith o ail-sefydlu’r gweithgor trawsbleidiol Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol wedi cychwyn, gyda chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yn cael eu cyrchu.

 

Nod yr adolygiad oedd bod y strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chymeradwyo gan y Cyngor Sir a’r Cabinet ym mis Chwefror a Mawrth 2024. Y gobaith oedd y byddai’r Pwyllgor yn cytuno bod adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar ddechrau 2024 cyn y Cyngor Sir a’r Cabinet.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad manwl.  Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, trafodwyd y pwyntiau canlynol yn fanylach:

·         Byddai’r arolwg ar gael ar gyfer preswylwyr i’w gwblhau a’i ddychwelyd ar-lein, a byddai copïau caled ar gael hefyd. Cytunwyd ar ohebiaeth gyda grwpiau amgylcheddol i ddosbarthu copïau caled hefyd. Cydnabu’r swyddogion yr her o ymgysylltu gyda phreswylwyr ac roeddent yn cynllunio cynnal sesiynau ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn ystod yr haf.

·         Y gobaith oedd y byddai cyfarfod personol gyda’r cyhoedd ar fabwysiadu’r strategaeth ddiwygiedig yn cael ei gynnal. Roedd swyddogion yn croesawu unrhyw awgrymiadau a chefnogaeth gan aelodau mewn perthynas ag ymgysylltu gyda’r cyhoedd.

·         Roedd aelodau’n cefnogi’r gweithgor yn llwyr. Byddai’n hollbwysig i aelodau’r grŵp adrodd yn ôl i’r pleidiau gwleidyddol ar unrhyw negeseuon neu wybodaeth sy’n dod o’r grŵp. 

·         Roedd Cyfansoddiad y Cyngor wedi cael ei ddiweddaru mewn perthynas â chaffael tir at ddibenion atafaelu carbon a gwella ecolegol yn 2022. Roedd angen i unrhyw bryniant tir fynd drwy broses gadarn i sicrhau ei fod yn addas prynu’r tir at y dibenion hynny.

·         Roedd darpariaeth wedi cael ei chynnwys yn y Cyfansoddiad dan egwyddorion gwneud penderfyniadau a oedd yn gofyn bod unrhyw benderfyniad gan y Cyngor yn ystyried newid hinsawdd a newid ecolegol.  Byddai nifer o awdurdodau dirprwyedig yn derbyn gwybodaeth am unrhyw bryniant arfaethedig, gan gynnwys y Grŵp Rheoli Asedau.

·         Byddai nodyn i atgoffa yn cael ei anfon i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

12.40 – 12.55 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (dosbarthwyd ymlaen llaw)

a’r pwrpas oedd ceisio’r Pwyllgor i adolygu ei

raglen gwaith i’r dyfodol.

 

Cafodd Aelodau eu harwain trwy’r rhaglen gwaith i’r dyfodol drafft yn Atodiad 1.  Cadarnhawyd y byddai adroddiad ar recriwtio a chadw staff yn cael ei gynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf, wedi’i drefnu ar gyfer 20 Gorffennaf 2023. Wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod hwnnw hefyd oedd adroddiad ar Gwricwlwm i Gymru a Thrawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol, a byddai aelodau cyfetholedig yn cael gwahoddiad i fynychu. Yn ychwanegol at hynny, roedd Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf.  

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, penderfynwyd cynnwys 5 adroddiad dros y 12 mis nesaf ar Gynllun Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor, a oedd yn eitemau addysgol i gyd. Roedd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 25 Gorffennaf 2023.

 

Roedd aelodau o’r Pwyllgor Craffu’n cael eu hannog i gwblhau ffurflen cynnig pwnc craffu

(Atodiad 2) mewn perthynas ag unrhyw bwnc a fyddai’n elwa ar

archwiliad manylach gan y Pwyllgor Craffu. Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu y byddai’n trafod gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gwblhau cynnig am adroddiad ar Gynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft.

 

Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet er gwybodaeth i’r aelodau.

 

Atodiad 5 yr adroddiad oedd tabl o aelodau a oedd yn cynrychioli’r Pwyllgor ymhob un o gyfarfodydd y Grŵp Herio Gwasanaeth. Amlygwyd i’r aelodau bod swydd wag yn y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau. Awgrymwyd yn y cyfarfod diwethaf efallai fod gan y Cynghorydd Paul Keddie ddiddordeb mewn mynd i’r cyfarfod hwnnw. Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu ei bod wedi trafod y swydd gyda’r Cynghorydd Keddie, a ddywedodd ei fod yn fodlon cynrychioli’r Pwyllgor ar y grŵp hwnnw os oedd yr aelodau’n cytuno.  Oherwydd newid yn aelodaeth y Pwyllgor, roedd angen cynrychiolydd i wasanaethau ar y grŵp Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl. Cytunodd y Cynghorydd Martyn Hogg i fynd i’r Grŵp Gwasanaeth Cefnogi Corfforaethol: Pobl. Roedd yr holl aelodau yn gytûn.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd y Cydlynydd Craffu i ymchwilio i b’un a oes cysylltiad rhwng yr adroddiad ‘Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)’, a oedd wedi’i oedi ar hyn o bryd ac wedi’i restru dan ‘Faterion y Dyfodol’ gan fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn ceisio rhagor o wybodaeth gan awdurdodau ar draws Cymru mewn perthynas â chludiant i’r ysgol, a’r gorwariant ar gludiant i’r ysgol yn y sir.

 

Felly:

 

Penderfynwyd:

 

(i)           yn amodol ar y diwygiadau a’r ychwanegiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac a gytunwyd yn ystod y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad; a

(ii)          phenodi’r Cynghorydd Paul Keddie fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:  Perfformiad, Digidol ac Asedau, a phenodi’r Cynghorydd Martyn Hogg i gymryd lle’r Cynghorydd Jon Harland fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:   Pobl.

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12.55 – 13.00 p.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Gareth Sandilands, drosolwg cryno o’r materion a drafodwyd yng nghyfarfod y Grŵp Craffu Cyfalaf a gynhaliwyd y diwrnod cynt.   Rhai o’r materion a drafodwyd oedd y cynigion i drawsnewid safle Fferm Greengates yn warchodfa natur a’r ffordd orau i wario’r £0.5 miliwn + o arian grant a dderbyniwyd tuag at y gwaith.   Cafwyd trafodaethau hefyd am waith mewn perthynas â rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Soniodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Hugh Irving am gyfarfod diweddar o Fwrdd Prosiect Adeilad y Frenhines yr oedd wedi’i fynychu.   Yn y cyfarfod hwnnw, rhoddwyd gwybod i aelodau’r Bwrdd bod cynlluniau ar y trywydd iawn i Adeilad y Frenhines gael ei drosglwyddo i’r Cyngor erbyn canol mis Gorffennaf 2023.   Yn ogystal â hynny, roedd ceisiadau tendr wedi cael eu derbyn yn mynegi diddordeb mewn gweithredu’r cyfleuster newydd.   Roedd y Panel Gwerthuso Tendrau wedi gwerthuso’r ceisiadau hyn, a chyflwynwyd casgliadau’r broses werthuso i’r Bwrdd Prosiect, a luniodd argymhelliad mewn perthynas â gweithredwr a ffafrir ar gyfer y cyfleuster.   Byddai’r argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn y dyfodol agos er mwyn ceisio cymeradwyaeth i benodi’r gweithredwr.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: derbyn yr adborth a’r diweddariadau.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm.