Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Chris Evans a Terry Flanagan, Aelod Cyfetholedig dros Addysg (Sector Cynradd, Sector Rhiant-lywodraethwr).

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr canlynol gysylltiad personol gydag eitem rhif 5 - y Cynghorydd Ellie Chard fel llywodraethwr presennol yn Ysgol Tir Morfa ac fel cyn-weithiwr Ysgol Mair (yr hen ysgol gynradd cyn sefydlu Crist y Gair) a’r Cynghorydd Peter Prendergast yn ei rôl fel Is-gadeirydd presennol Corff Llywodraethu Crist y Gair.  

 

Eglurodd y Swyddog Monitro bod cysylltiad y Cynghorydd Chard yn hanesyddol ac felly nad oedd angen ei ddatgan mwyach.   Ac fe eglurodd i’r Cynghorydd Prendergast, yn ei gapasiti fel Is-gadeirydd y Corff Llywodraethu, fod ganddo gysylltiad personol ac sy’n rhagfarnu gyda’r eitem, ond gan ei fod yn llywodraethwr wedi’i benodi gan yr Awdurdod Addysg Lleol roedd yn gymwys am eithriad rhag cael ei nodi fel cysylltiad sy’n rhagfarnu.   Felly, roedd ei gysylltiad yn un personol yn unig at ddibenion y drafodaeth yn y cyfarfod presennol.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys wedi’i godi gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 318 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022 (copi ynghlwm).

10:05 a.m. – 10:10 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022.  Fe:

 

BENDERFYNWYD: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022 fel cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

Oherwydd natur gyfrinachol y wybodaeth a fyddai’n cael ei thrafod o dan yr eitem ganlynol, cynigodd y Cynghorydd Hugh Irving y dylid symud y cyfarfod i Ran II, eiliodd y Cynghorydd Carol Holliday y cynnig.   Roedd y Pwyllgor yn gytûn ac fe:

 

BENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 13 a 15 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

ADRODDIAD AROLWG CRIST Y GAIR

Ystyried adroddiad cyfrinachol (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Addysg ar yr ymateb i Adroddiad Arolwg Estyn diweddar.

10:10 a.m. – 11:00 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg, Geraint Davies, yr adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn amlinellu’r ymateb i Adroddiad Arolwg Estyn yn ddiweddar a arweiniodd at roi Ysgol Gatholig Crist y Gair dan Fesurau Arbennig.  

 

Yn ystod ei gyflwyniad, darparodd y Pennaeth Addysg rywfaint o gyd-destun i arolwg Estyn, a oedd yn cynnwys gwybodaeth gefndir am sefydlu’r ysgol, effaith Covid ar yr holl ddisgyblion a sefydliadau addysg gan gynnwys Ysgol Crist y Gair, a manylion y pum argymhelliad a wnaed gan Estyn, a oedd wedi’u nodi yn Adroddiad yr Arolwg sydd ar gael ar wefan Estyn.  

 

Yn ogystal â hyn, nododd yr holl gamau a gymerwyd gan Wasanaeth Addysg y Cyngor, Corff Llywodraethu’r Ysgol, yr Esgobaeth a GwE hyd yma gyda’r nod o fynd i’r afael ag argymhellion Estyn, a oedd yn cynnwys datblygu Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg (CGOA) a Chynllun Cefnogaeth ar y cyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol a GwE ar gyfer yr ysgol.   Roedd y mesurau hyn yn cynnwys penodi llywodraethwyr ychwanegol ar Gorff Llywodraethu’r Ysgol, penodi tîm arweinyddiaeth dros dro ar gyfer yr ysgol a darparu cefnogaeth ychwanegol i gynorthwyo i symud yr ysgol yn ei blaen.   Mae’r holl gamau hyn a’r mesurau a amlinellwyd yn y CGOA wedi’u derbyn gan Estyn ac mae darpariaeth y CGOA a chynlluniau gweithredu’r Awdurdod Addysg Lleol / GwE yn awr yn destun her a monitro rheolaidd.  

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau’r Pwyllgor bu i Aelod Arweiniol Addysg, Teuluoedd a Phlant, y Pennaeth Addysg, Swyddogion Addysg yr Awdurdod Addysg Lleol, cynrychiolwyr Ysgol Crist y Gair a’r Esgobaeth, ynghyd â chynrychiolwyr GwE:

 

·      amlinellu trefniadau llywodraethu a rheoli ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.  

·      darparu trosolwg o broses Arolwg Estyn, gan gynnwys y gwaith a wneir cyn Arolwg

·      amlinellu’r mathau o gefnogaeth a gynigiwyd i’r ysgol ers ei sefydlu

·      cadarnhau bod diogelu yn nodwedd allweddol ym mhob un o  arolygon Estyn.   Bod y mesurau sydd yn awr yn eu lle mewn ymateb i argymhelliad y rheoleiddiwr yn cael eu herio a’u monitro’n barhaus i sicrhau eu cadernid.   Hefyd, mae llywodraethwr ychwanegol wedi’u penodi i Gorff Llywodraethu’r Ysgol ac roedd y llywodraethwr wedi derbyn cyfrifoldeb am ddiogelu ar y Corff Llywodraethu.

·      cynghori’r cynhelir sawl digwyddiad hyfforddi ar gyfer arweinwyr ysgolion, staff a llywodraethwyr i sicrhau fod ganddynt y sgiliau perthnasol i fynd i’r afael â’r argymhellion a darparu’r cynlluniau gweithredu

·      cadarnhau bod y CGOA a Chynllun Cefnogi’r Awdurdod Addysg Lleol / GwE yn plethu â’r Cwricwlwm i Gymru, Rhaglen Cyfarwyddyd Crefyddol a Chod Perthnasoedd ac Addysg Rhyw a byddai’n sicrhau eu darpariaeth ar draws yr ysgol yn y dyfodol 

·      darparu sicrwydd bod yr holl bartneriaid sy’n ymwneud â’r ysgol yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd gyda nod gyffredin o gefnogi’r ysgol yn y dyfodol a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer yr holl ddysgwyr sy’n mynychu’r ysgol. 

 

Ar ddiwedd trafodaeth gynhwysfawr a thrylwyr, diolchodd y Pwyllgor i bawb am eu presenoldeb ac am gyfrannu’n adeiladol at y drafodaeth:

 

Penderfynwyd::

 

(i)           derbyn y wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth;

(ii)   cefnogi ymdrechion yr holl bartïon hyd yma i fynd i’r afael â’r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Arolwg Estyn ar gyfer Ysgol Crist y Gair; a

(iii)  gofyn bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi 2023 yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o ran gweithredu a darparu’r Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg (CGOA) a Chynllun Cefnogaeth ar y cyd yr Awdurdod Lleol a GwE yn dilyn arolwg Estyn o’r ysgol yn 2022.

 

 

AR YR ADEG HON (11.50 AM) CAFWYD EGWYL O 10 MUNUD.

AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 12.00 P.M.

 

SESIWN AGORED

 

Ar ôl cwblhau’r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CEFNDY 2022-23 pdf eicon PDF 291 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Dros Dro a'r Rheolwr Gwasanaeth Gweithredol i roi trosolwg o berfformiad presennol Cefndy o fewn y flwyddyn ariannol hon ac amodau'r farchnad y mae'n gweithredu oddi mewn iddi.

11:15 a.m. – 11:45 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, Adroddiad Perfformiad Cefndy 2022-23 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).  Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o berfformiad Cefndy ar hyn o bryd yn y flwyddyn ariannol 2022-23 ac amodau'r farchnad y mae'n gweithredu ynddi.

 

Cadarnhawyd bod Cefndy yn cynhyrchu cymhorthion byw amrywiol ac wedi bodoli ers oddeutu 40 mlynedd.   Roedd llawer o aelodau staff wedi gweithio yng Nghefndy ers sawl blwyddyn a’r cyfartaledd o ran hyd y gwasanaeth yw 17 mlynedd.

 

Eglurodd Pennaeth Dros Dro Cefnogaeth Gymunedol, Ann Lloyd, bod adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ers sawl blwyddyn.   Bu amhariad sylweddol ac ansefydlogrwydd o ran cost i gadwyni cyflenwi byd-eang ers dechrau pandemig Covid, gan gynyddu gallu Cefndy i gystadlu yn erbyn mewnforion.  Roedd hyn wedi cael effaith gadarnhaol gyda gwerthiant yn cynyddu o ran cwsmeriaid presennol ac roedd wedi gweld rhywfaint o fusnes ychwanegol gan gwsmeriaid newydd.

 

Roedd Cefndy wedi wynebu rhywfaint o bwysau cyllidebol na ellir ei ragweld yn ystod y flwyddyn ariannol hon gan gynnwys costau ynni ychwanegol, cynnydd uwch na'r disgwyl i gyflogau ac atgyweiriadau brys i adeiladau.

 

Gwnaed gwaith dros y 18-24 mis blaenorol i gynorthwyo i sefydlogi’r gwasanaeth.  

 

Yr adborth a gafwyd gan un o gwsmeriaid mwyaf Cefndy yw y dylai Cefndy fod yn adeiladu ar y ffaith eu bod yn Wneuthurwr Prydeinig, ac yn sicrhau gwerth cymdeithasol.   O ganlyniad i'r adborth, cynhaliodd y Prif Reolwr Marchnata Strategol, sesiwn i gefnogi'r tîm i ddatblygu cynllun gweithredu ynghylch cynyddu gwerthiant o un busnes i’r llall â chwsmeriaid presennol.  Roedd swyddogion hefyd yn ystyried cyfleoedd i ailddechrau perthnasoedd â chwsmeriaid blaenorol yn seiliedig ar y cyfleoedd presennol yn y farchnad a'r gallu i gystadlu (ar ystod o gynhyrchion) â mewnforion.

 

Gan fod rhai swyddi gwag yng Nghefndy, roedd yn gyfle i adolygu’r model busnes.

 

Roedd gwaith ar y gweill gan fod yr adeilad angen atgyweiriadau sylweddol.   Roedd angen disodli’r System Echdynnu i adlewyrchu newid mewn deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.   Roedd rhai eitemau o offer y tu hwnt i’w hoes ac nid oedd darnau sbâr ar gael mwyach.    Roedd achos busnes yn cael ei ddatblygu i’w gyflwyno i’r Grŵp Buddsoddi Strategol am £400mil.

 

Gan fod yr Atodiad yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol cynigodd y Cynghorydd Carol Holliday fod y cyfarfod yn symud i Ran II ar gyfer gweddill y drafodaeth, eiliodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y cynnig hwn.   Penderfynodd y Pwyllgor i :

 

WAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

 

·         gynghori er bod gan Cefndy bum cwsmer mawr yr oedd yn archwilio cyfleoedd datblygu â nhw, roedd yn cyflawni busnes gyda dros 100 o gwsmeriaid unigol gwahanol, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill

·         cynghori bod Cefndy yn darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr i bobl anabl.   Roedd Cefndy yn wahanol i Wasanaethau Cyfleoedd Gwaith y Cyngor gan fod y rhai a oedd yn cael eu cyflogi yng Nghefndy yn weithwyr cyflogedig y Cyngor ac felly’n destun amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor   

·         darparu manylion costau untro annisgwyl a brofwyd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, y pwysau annisgwyl eraill a’r mesurau a gymerwyd i fynd i’r afael â nhw ynghyd â mesurau lliniaru risg yn y dyfodol

·         cynghori bod yr holl gyfleoedd wedi’u harchwilio gyda’r nod o ddatblygu a chynnal y busnes ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cynyddu y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

RHAN I

SESIWN AGORED

 

Ar ôl cwblhau’r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

11:45 a.m. – 12:00 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).  Roedd pedair eitem wedi’u rhestru ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 16 Mawrth 2023 - 

 

(i)            Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru);

(ii)          Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai a Digartrefedd Sir Ddinbych;

(iii)         Safonau Gwasanaeth Llyfrgell 2021/2022; a

(iv)         Llwydni ac Anwedd yn Stoc Tai Cyngor Sir Ddinbych.

 

Roedd eitem (iv) wedi’i atgyfeirio at y Pwyllgor gan Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu yn eu cyfarfod ar 19 Ionawr 2023.   Yn ogystal â hyn, gwnaed ymholiadau gyda’r swyddogion perthnasol a fyddai’r adroddiadau sydd o dan (i) i (iii) ar gael ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor.   Disgwylir manylion pellach o ran Mesur Teithio Dysgwyr (Cymru) gan Lywodraeth Cymru, felly ni fyddai’r adroddiad hwn ar gael nes yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

 

Gofynnwyd am gynrychiolydd o bob Pwyllgor Craffu i’w penodi ar y Grŵp Craffu Cyfalaf.   Byddai’r Grŵp yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn a byddai’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol.   Cynigiodd y Cynghorydd Terry Mendies fod y Cynghorydd Gareth Sandilands yn cael ei benodi i’r Grŵp, ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Carol Holliday.   Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Hugh Irving yn dirprwyo yn absenoldeb y Cynghorydd Sandilands.

 

Eglurodd y Cydlynydd Craffu i’r aelodau y byddai Grwpiau Her Gwasanaeth yn cael eu hailsefydlu a byddai angen cynrychiolydd ar gyfer pob un o’r naw o wasanaethau yn y cyngor yn y dyfodol agos.   Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried pa wasanaethau sydd o ddiddordeb penodol iddynt gan efallai y byddant yn dymuno rhoi eu henwau ymlaen maes o law i wasanaethu fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Her y Gwasanaeth hwnnw.

 

Bu i’r Pwyllgor:

 

Benderfynu: yn amodol ar y wybodaeth yn yr adroddiad a chynnwys yr eitemau a gytunwyd ar gyfer y dyfodol yn y cyfarfod; i

 

(i)   gadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor, fel yr oedd yn atodiad 1 i’r adroddiad; a

(ii) phenodi’r Cynghorydd Gareth Sandilands fel cynrychiolydd i wasanaethu ar y Grŵp Craffu Cyfalaf, gyda’r Cynghorydd Hugh Irving yn cael ei benodi fel dirprwy gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 1.00 P.M.