Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Hugh Irving (Cadeirydd) a’r Cynghorydd Paul Keddie, ynghyd ag Aelod Cyfetholedig Kathleen Jones (Aelod Craffu Addysg yr Eglwys Gatholig).   Roedd y Cynghorydd Elen Heaton (Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wedi ymddiheuro ar gyfer eitem 6, yn ei rôl fel Aelod Arweiniol bu’n rhaid iddi fynychu cynhadledd genedlaethol oedd yn ymwneud â’i phortffolio.

 

Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Gareth Sandilands.

 

Croesawyd y Cynghorydd Andrea Tomlin i’w chyfarfod cyntaf fel un o gynrychiolwyr y Grŵp Annibynnol ar y Pwyllgor.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau Pwyllgor ac Aelodau Arweiniol canlynol gysylltiad personol yn eitem 5 yn eu rhinwedd fel llywodraethwyr ar gyrff llywodraethu’r ysgolion canlynol:

 

Y Cynghorydd Ellie Chard            Ysgol Tir Morfa, Rhyl

Y Cynghorydd Carol Holliday        Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn

Mr Neil Roberts                            Ysgol y Parc, Dinbych

Y Cynghorydd Gareth Sandilands Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn

Y Cynghorydd Emrys Wynne       Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn, Rhuthun

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod eu cysylltiadau yn bersonol yn unig gan fod eitem 5 yn cyfeirio at ysgolion a darpariaeth addysg y sir yn gyffredinol.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda'r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn y cyfarfod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 427 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022.  Felly:

 

Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

Ni chodwyd unrhyw faterion ar sail cynnwys y cofnodion.

 

5.

CATEGORÏAU YSGOLION YN ÔL DARPARIAETH CYFRWNG CYMRAEG pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Addysg yn amlinellu casgliadau ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar Gategoreiddio Iaith a’i oblygiadau ar gyfer Ysgolion a disgyblion Sir Ddinbych.

 

10:10 – 11:00

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Plant, Addysg a Theuluoedd yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru am gategoreiddio’r Gymraeg yn unol â’i uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan amlinellu goblygiadau posibl ar gyfer ysgolion a disgyblion Sir Ddinbych.

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg bod ysgolion yng Nghymru wedi’u dosbarthu i bump categori ers 2007, yn amrywio o gyfrwng Saesneg, cyfrwng Saesneg gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg, dwyieithog a chyfrwng Cymraeg.  Fe fydd yna dri chategori newydd o dan y system newydd arfaethedig yn y sector cynradd.   Roedd yna gydnabyddiaeth y gallai’r categorïau fod yn ddryslyd.

Categori newydd 1:            Iaith Saesneg (categori 5 yn hanesyddol)

Categori newydd 2: Dwyieithog

Categori newydd 3:            Cyfrwng Cymraeg (categori 1 yn flaenorol)

Fe fydd yna is-gategori rhwng pob un o’r categorïau hynny i ysgolion eu defnyddio yn ystod y cyfnod pontio.  Mae mwyafrif yr ysgolion yn Sir Ddinbych eisoes yn disgyn mewn i un o’r tri chategori.

 

Yn unol ag uchelgais Gymraeg Llywodraeth Cymru, byddai hyd yn oed disgwyl i ysgolion yng nghategori 1 (cyfrwng Saesneg) ddarparu 15% o gwricwlwm addysg ac allgyrsiol) trwy gyfrwng y Gymraeg fel isafswm.

 

Byddai’r ychydig ysgolion arferai fod yng nghategori 4 - yn darparu rhwng 20% a 50% o addysg yn Gymraeg - yn cael eu rhoi mewn i gategori pontio am hyd at 6 mlynedd tra’u bod yn paratoi i fod yn lleoliad dwyieithog.

 

Un o brif egwyddorion cyflwyno’r trefniadau newydd yw na ddylai ysgolion gynnig llai o ddarpariaeth Gymraeg yn y dyfodol na’r hyn a gynigiwyd yn y gorffennol.

 

Yn y sector uwchradd fe fydd yna 3 chategori newydd, ond byddai Categori 3 cyfrwng Cymraeg yn cael ei rannu mewn i ddau is-gategorïau. 

 

          Categori 3:              Cyfrwng Cymraeg

          Categori 3P:            Cyfrwng Cymraeg ddynodedig

 

Erbyn mis Ionawr 2024 rhagwelwyd y bydd categorïau yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, ffurflen statudol y mae’n rhaid i ysgolion ei llenwi ar gyfer Llywodraeth Cymru, wedi newid ac na fydd y categorïau presennol yn bodoli.

 

Petai yna newidiadau sylweddol o dan y broses aildrefnu - newid a reoleiddir o dan adran 42 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 - byddai’n rhaid i’r cynigion fod yn destun ymgynghoriad.  Byddai’r cynlluniau yn cael eu monitro yn rhan o waith Grŵp Strategol Addysg Gymraeg.   Roedd y Grŵp yma’n cynnwys dau aelod arweiniol a dau gynrychiolydd o’r Pwyllgorau Craffu. 

 

Fe ailadroddodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth bwysigrwydd y mesur i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd adnoddau wedi cael eu gweithredu i gynorthwyo staff addysgu i wella eu sgiliau Cymraeg, yn cynnwys cwrs sabothol Cymraeg 12 mis o hyd sy’n cael ei ddarparu gan Brifysgol Bangor. Mae’r cwrs hwn yn dysgu Cymraeg yn ogystal â’r fethodoleg o addysgu Cymraeg mewn ysgol, ac i allu sgwrsio yn Gymraeg yn rhan o fywyd dyddiol arferol mewn ysgolion. 

 

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg i athrawon yng Nghymru yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim yn ogystal â phobl ifanc 18 i 24 oed sydd yn dymuno parhau i wella eu sgiliau iaith.

 

Roedd Pennaeth profiadol bellach ar secondiad am y flwyddyn academaidd i weithio ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, oedd yn cynnwys ail gategoreiddio ysgolion, ac roedd swyddi pellach wedi cael eu hariannu trwy neilltuo cyllid grant i gynorthwyo â’r trefniadau pontio i ysgolion.

 

Fe gydnabyddir fod yna adegau pan nad oes gan rieni plant unrhyw wybodaeth am y Gymraeg, ond mae’n bwysig rhannu gohebiaeth o’r Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg gan dynnu sylw at ofyniad gan nifer o sefydliadau (e.e. Heddlu Gogledd Cymru)  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor ddiwygio ei raglen gwaith i’r dyfodol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).  Roedd yna bedwar eitem wedi’u rhestru ar gyfer y Pwyllgor Craffu Perfformiad nesaf ar 24 Tachwedd:

 

1.    Diweddariad ar Berfformiad y Cyngor (chwarter 2)

2.    Cofrestr Risg Gorfforaethol (adolygiad mis Medi)

3.    Cefndy Healthcare, gwerthuso dewisiadau ar gyfer darparu busnes yn y dyfodol, a

4.    Crist y Gair - ymateb i arolwg Estyn.

 

Fe awgrymwyd y gallai’r bedwaredd eitem fod yn drafodaeth reit fanwl a fyddai’n elwa o gyfarfod ymlaen llaw i drafod strategaeth gwestiynu.

 

Roedd adroddiad cynnydd am Gynllun Gweithredu Strategaeth Tai a Digartrefedd Sir Ddinbych wedi cael ei ohirio tan wanwyn 2023 ar gais y Gwasanaeth tra’n aros am gasgliad adolygiad o’r Strategaeth gan y Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd.

 

Roedd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 24 Tachwedd. Cafodd aelodau’r Pwyllgor eu hannog i gyflwyno ffurflenni atgyfeirio ar gyfer eitemau roeddynt yn teimlo oedd angen eu craffu.

 

Cyfeiriwyd y Pwyllgor i atodiad 3 yr adroddiad - rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet - os byddant yn dewis eitem a oedd angen ei graffu a chynnydd atodiad 4 gyda datrysiadau Pwyllgor er gwybodaeth.

 

Fe:

 

Benderfynwyd:- cadarnhau rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar yr uchod a diwygiadau, ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.

Cafodd y Pwyllgor egwyl am 10.55am cyn ailgychwyn am 11.05am.

 

7.

HAFAN DEG, Y RHYL pdf eicon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth Busnes a Chymunedau  ar effeithiolrwydd trosglwyddo’r cyfleuster a’r gwasanaethau i ddarparwr allanol, KL Care, gan gynnwys cynnydd y darparwr o ran datblygu ac ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael yn y ganolfan, a’r gwersi a ddysgwyd o Covid-19.

11:00 – 11:30

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth i Fusnesau a Chymunedau yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn ddiweddariad am effeithiolrwydd trosglwyddo’r cyfleuster a’r gwasanaethau a ddarperir yng nghanolfan ddydd Hafan Deg i ddarparwr allanol, gan ganolbwyntio ar y sefyllfa ar ôl y pandemig ac edrych ar y pwyllgor craffu i gefnogi i barhau â chynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth ac ymarfer monitro rheolaidd.

 

Clywodd y Pwyllgor bod Hafan Deg wedi cau ar gyfer busnes yn ystod y pandemig ond mae bellach wedi ailagor, mae’n gwbl weithredol ac yn boblogaidd ymysg dinasyddion.  Roedd yna rai meysydd a nodwyd i’w gwella yn unol â lleoliadau gofal cymdeithasol eraill.  Mae’r Cyngor yn bwriadu gweithio gyda’r darparwr i wella a datblygu’r gwasanaeth.  Yn y cyfamser, parhaodd y Tîm Contractau â’r gwaith monitro parhaol o ddarpariaeth gwasanaeth KL Care Ltd. yn Hafan Deg.

 

Dywedodd cynrychiolydd o’r darparwr gwasanaeth a oedd yn bresennol wrth y pwyllgor bod niferoedd presenoldeb ychydig yn is nag arfer ar hyn o bryd oherwydd salwch.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i ail ymgysylltu â bwytai archfarchnad lleol i gynnig teithiau cinio a the prynhawn i gleientiaid ac roedd disgwyl trefniant ar gyfer swper Nadolig yn fuan.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r pwyllgor, dywedodd swyddogion:

·       Cafodd y ganolfan ddydd ei gontractio allan yn wreiddiol yn 2018 yn sgil pryderon dros effeithiolrwydd cost gan nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio’n llawn ac roedd angen gwaith cynnal a chadw.  Cytunwyd y byddai pwy bynnag a fyddai’n rhedeg y gwasanaeth hefyd yn derbyn prydles yr adeilad ac yn ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol yn ogystal â’r gwasanaeth canolfan ddydd.

·       Roedd y ganolfan ddydd ar agor ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener ar hyn o bryd - rhwng 10:30am a 3:30pm.

·       Roedd gan y ganolfan fws mini a oedd yn cael ei ddefnyddio i gasglu dinasyddion yn rhad ac am ddim i ddod i’r ganolfan ddydd.

·       Roedd y gwasanaeth bws mini yn gweithio i’w gapasiti llawn. Roedd yn casglu cleientiaid o’r Rhyl a Phrestatyn.  Fe awgrymwyd defnyddio Deialu a Theithio os nad oedd seddi ar gael yn y bws mini.

·       Roedd y ganolfan yn cynnig y cyfleuster i ymolchi cleientiaid ond nid oedd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n aml.

·       Gallai’r ganolfan ddydd derbyn 25 o gleientiaid yn gyfforddus heb orfod cael staff ychwanegol, ar y pryd roedd yna 10 o gleientiaid ar gyfartaledd yn mynychu’r ganolfan ddydd.

·       Roedd y contract ar gyfer y ganolfan gofal dydd am 5 mlynedd i ddechrau, roedd gwaith yn parhau i ymestyn ei ddefnydd  trwy gydol y gymuned.  Byddai penderfyniad yn cael ei wneud yn y 6 mis nesaf ynglŷn â sut i symud ymlaen gyda’r contract.

·       Cyn Covid, roedd taflenni’n cael eu gadael mewn meddygfeydd teulu er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth yn y ganolfan ddydd, cytunwyd i ailgychwyn hyn.

·       Roedd yna bris penodol a gytunwyd ar gyfer y gwasanaeth gofal dydd, sef £54.60 fesul person, fesul diwrnod, a £6.00 am brydau a lluniaeth.  Fe ffurfiodd hyn rhan o’r contract rhwng y Cyngor a’r darparwr ac roedd yn unol â’r ffioedd a osodwyd yn rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau gofal dydd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i’r cynrychiolydd o KL Care am ddod i’r cyfarfod ac am ateb eu cwestiynau.  Yna:

 

Penderfynodd:- yr aelodau yn amodol ar yr uchod i –

 

(i)             dderbyn y wybodaeth a ddarparwyd;

(ii)  gofyn i aelodau etholedig gael adroddiad gwybodaeth am y cefndir i’r penderfyniad i gontractio gwasanaethau gofal dydd allan yn Hafan Deg; a

(iii)                  cefnogi’r gwaith o ymarfer monitro chwarterol, gyda bwriad o sicrhau bod cynlluniau ar gyfer y Ganolfan yn cael eu darparu a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.35am.