Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN A THRWY GYNHADLEDD FIDEO.

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorwyr Alan Hughes a Geraint Lloyd-Williams a’r aelod cyfetholedig Terry Flanagan am eu bod yn absennol.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiadau personol ag eitemau 5 a 6 a hwythau’n llywodraethwyr ar ysgolion Cyngor Sir Ddinbych:

Y Cynghorydd Hugh Irving – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Prestatyn

Y Cynghorydd Carol Holliday – Ysgol Clawdd Offa

Y Cynghorydd Ellie Chard – Ysgol Tir Morfa a hefyd yn gadeirydd Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Sir Ddinbych

Y Cynghorydd Gareth Sandilands – Ysgol Clawdd Offa

Neil Roberts – Ysgol y Parc

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda'r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn y cyfarfod.

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 302 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2022 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2022.  Felly:

 

Penderfynwyd: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2022 fel cofnod cywir.

 

Ni chodwyd unrhyw faterion ar sail cynnwys y cofnodion.

5.

CWRICWLWM CYMRU pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Brif Swyddog Addysg y Cyngor a Swyddogion GwE (copi ynghlwm) sy’n rhoi gorolwg ar weithredu Cwricwlwm Cymru a’r ffordd y mae GwE a’r awdurdod lleol yn cefnogi ei ddatblygiad yn ysgolion Sir Ddinbych

10:05am – 10:45am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) a oedd yn adolygu’r cynnydd wrth weithredu Cwricwlwm Cymru. Lluniwyd yr adroddiad mewn partneriaeth â GwE a fyddai’n cefnogi ysgolion wrth iddynt roi’r cwricwlwm newydd ar waith.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cwricwlwm yn dra gwahanol i’r un blaenorol, bod mwy o bwyslais ar sgiliau a bod llai o gyfarwyddo disgyblion. Anogid ysgolion i lunio’r cwricwlwm ar sail anghenion eu dysgwyr. Byddai’r cwricwlwm yn statudol ymhob ysgol gynradd yng Nghymru o fis Medi 2022 ymlaen ac ymhob ysgol uwchradd o fis Medi 2023 ymlaen.

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg nad oedd y cwricwlwm newydd yn cyfarwyddo disgyblion ond ei fod yn rhoi strwythur pendant er mwyn sicrhau bod y 16,500 o fyfyrwyr yn Sir Ddinbych yn tyfu i fod yn uchelgeisiol, galluog, mentrus, creadigol, iach, hyderus a gwybodus am faterion moesegol.

 

Roedd yn ofyniad statudol i gynnwys Moeseg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghwricwlwm Cymru o fis Medi 2022 ymlaen ac roedd yn bwnc gorfodol i ddysgwyr rhwng tair ac un ar bymtheg oed. Yn yr un modd, byddai’n ofyniad statudol i ddarparu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ond pennid y maes llafur yn lleol. Yn Sir Ddinbych roedd y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) wedi argymell mabwysiadu canllawiau Llywodraeth Cymru ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel y maes llafur cytunedig ar gyfer y sir.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai’r cwricwlwm yn seiliedig ar themâu ac yn canolbwyntio ar sgiliau yn hytrach na chynnwys, ac er y byddai modd addysgu pwnc ar ei ben ei hun, fel mathemateg, er enghraifft, gellid hefyd ei gynnwys wrth gyflwyno maes arall fel dyniaethau.

 

Roedd ymgynghori’n parhau ynglŷn ag arddull arholiadau TGAU a Lefel A a chymwysterau cyfwerth - hyd oni roddid y cwricwlwm newydd ar waith mewn ysgolion uwchradd - ond roedd disgwyliad serch hynny y byddai yno gymwysterau ym meysydd rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth ac yn y blaen.

 

Yn y gorffennol cyflwynwyd adroddiadau ar ganlyniadau addysgol, asesiadau cyfnodau allweddol a chymariaethau â chanlyniadau cenedlaethol yn gyson i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. Wrth newid y drefn o blaid addasu’r maes llafur yn lleol yn hytrach na chanolbwyntio cymaint ar ganlyniadau byddai angen newid y dull o adolygu perfformiad. Er y byddai profion safonedig yn parhau ni fyddai’r meincnodau blaenorol yn bodoli mwyach. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gytuno ar ddull ystyrlon o gyflwyno’r canlyniadau i bwyllgorau craffu yn y dyfodol.

 

Rhoes swyddogion Sir Ddinbych a GwE y wybodaeth ganlynol wrth ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor:

 

·         Cydnabuwyd yr effaith andwyol ar iechyd meddwl dysgwyr yn sgil y pwysau o eistedd nifer o arholiadau mewn cyfnod cymharol fyr. Rhagwelwyd y byddai ymgynghori â Llywodraeth Cymru a’r byrddau arholi’n golygu bod modd ymchwilio i gyflwyno asesiadau parhaus a ffyrdd eraill o leddfu’r pwysau.

·         Darparwyd ychwaneg o grantiau i ysgolion er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd a’i ddarparu.

·         Roedd y pwnc newydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn wahanol i’r hyn a addysgwyd o’r blaen ac yn ymdrin â systemau cred yn hytrach na chrefyddau ynddynt eu hunain.

·         Er yr anogid ysgolion i addasu’r cwricwlwm yn lleol roedd yno 27 o sgiliau craidd y byddai’n rhaid i’r cwricwlwm a fabwysiadwyd roi sylw iddynt. Asesid sgiliau a gwybodaeth y dysgwyr fel o’r blaen, ond byddai ‘hynt y daith’ yn newid ac roedd gan

·         GwE drefniadau rhagorol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â’r Athro Graham Donaldson, a luniodd y cwricwlwm newydd, a chlystyrau o ysgolion (lleol a chenedlaethol) er mwyn rhannu’r arferion gorau.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg eto mai dyma fan cychwyn y daith wrth fesur llwyddiant Cwricwlwm Cymru. Yn ôl pob tebyg byddai’n  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY) pdf eicon PDF 320 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth y Gwasanaethau Addysg, ynglŷn â chydymffurfiaeth y Cyngor â gofynion statudol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

10:45am – 11:15am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd a wnaeth yr Awdurdod Lleol ac ysgolion wrth gyflawni’r gofynion statudol o dan

Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddisodlodd God Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2002).

 

Rhoes y Pennaeth Addysg sicrwydd i’r Pwyllgor fod y newidiadau ym maes ADY yn deillio o ddarn allweddol o ddeddfwriaeth a oedd â’r nod o sicrhau fod ysgolion yn bodloni anghenion addysgol yr holl ddisgyblion. Roedd y cynnydd a wnaed yn y deuddeg mis diwethaf yn cynnwys:

·         yr Uwch Dîm Arwain yn darparu hyfforddiant helaeth i reolwyr canol a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol,

·         gweithio â’r Fforwm Cyllideb Ysgolion er mwyn sicrhau y dirprwyid cyllid i ysgolion,

·         gweithio’n rhanbarthol â Wrecsam, Conwy a Sir y Fflint wrth ddatblygu system TG o’r enw Eclipse a oedd yn ymdrin â’r holl brosesau newydd ym maes ADY, ac

·         Archwiliad Mewnol o weithredu’r drefn ADY a arweiniodd at sgôr sicrwydd uchel.

 

Dywedodd y swyddogion fod Eclipse yn darparu adroddiadau ar adnabod ADY mewn ysgolion a Chynlluniau Datblygu Unigol.  Ni ragwelwyd y byddai llawer o newid yn nifer yr achosion o ADY a gâi eu hadnabod, a oedd oddeutu 400 ar adeg llunio’r adroddiad.

 

Dechreuodd y drefn drawsnewid mewn ysgolion ym mis Ionawr 2022 pan ddechreuwyd symud o’r drefn Anghenion Addysgol Arbennig i’r system ADY. Nid oedd hynny’n golygu o reidrwydd y byddai rhywun â datganiad o AAA yn cael eu cydnabod i fod ag ADY. Ni ellid pennu niferoedd manwl gywir hyd oni ddeuai’r drefn drawsnewid i ben ym mis Medi 2024.

 

Rhoes swyddogion y wybodaeth ganlynol wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau:

·         darparwyd hyfforddiant a sesiynau cyswllt i drydydd partïon (grwpiau rhieni a llywodraethwyr, er enghraifft).

·         roedd gan bob ysgol fynediad ar y system Eclipse. Roedd pob clwstwr wedi penodi dau o Gydlynwyr ADY i gael hyfforddiant ar y system Eclipse. Byddent hwythau’n hyfforddi eraill wedyn.

·         rhoddwyd trefn sefydlu newydd ar waith ar gyfer Cydlynwyr ADY, a oedd yn cynnwys hyfforddiant ar Eclipse.

·         roedd y gwaith o drawsnewid ADY yn dod yn ei flaen yn unol â’r cynllun ac yn cael ei fonitro’n rhanbarthol ac yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru.

·         Nodwyd trawsnewid ADY yn wasgfa ar y gyllideb yn 2021/22 ac o ganlyniad i hynny neilltuwyd ychwaneg o gyllid i’r gwaith.

·         Cynhelid archwiliadau o ysgolion er mwyn sicrhau y dosrennid cyllid yn briodol. Roedd y drefn Map Darpariaeth yn golygu bod gofyn i ysgolion fewnbynnu gwir anghenion presennol y plentyn.  Roedd hynny’n cynorthwyo ysgolion i gynllunio’n fwy effeithiol ar gyfer cefnogi eu disgyblion.

 

Wedi trafodaeth fanwl,

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)   derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wnaed i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn barod i fodloni eu gofynion statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), 2018, a

(ii) gofyn am adroddiad arall i’r Pwyllgor mewn deuddeg mis ynglŷn â chydymffurfiaeth y Cyngor â gofynion y Ddeddf ac effeithiolrwydd y system Eclipse wrth adnabod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, eu monitro, eu rheoli a’u cefnogi.

7.

ADRODDIAD SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOFAL CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, ynglŷn ag Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Gofal Cymdeithasol sy’n seiliedig  ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

11:30am – 12:00pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw). Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i lunio asesiad ar y cyd o ddigonolrwydd a chynaladwyedd y farchnad gofal cymdeithasol. Lluniwyd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn unol â’r Cod Ymarfer (Llywodraeth Cymru, 2021a). Hwn oedd y tro cyntaf y lluniwyd Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ac roedd yn seiliedig ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.

 

Roedd yr adroddiad yn asesu digonolrwydd gofal a chymorth o ran bodloni’r anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, yn ogystal â sefydlogrwydd y farchnad.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dros Dro, Gwasanaethau Cymorth Busnes at y negeseuon allweddol ynglŷn â gofal cymdeithasol i oedolion yn Sir Ddinbych, yn ogystal â gostyngiad bychan yn nifer y lleoedd oedd ar gael mewn cartrefi gofal yn Sir Ddinbych. Nid oedd y lleoedd oedd ar gael (gofal preswyl sylfaenol) yn bodloni anghenion cleientiaid am ofal ar gyfer anghenion mwy cymhleth – gofal preswyl a gofal nyrsio i’r henoed bregus eu meddwl.

 

Nid mater hawdd oedd newid cartrefi preswyl i fedru bodloni anghenion yr henoed bregus eu meddwl. Roedd yr adeiladau’n aml yn anaddas ac nid oedd y ffioedd bob amser yn talu costau’r darparwyr.

 

Roedd datblygiadau mewn gofal iechyd a meddyginiaeth wedi cael effaith arwyddocaol ar anghenion gofal cymdeithasol. Roedd pobl ag anableddau dysgu’n symud o’r gwasanaethau plant i’r gwasanaethau oedolion gyda phecynnau gofal cymhleth y byddai angen eu darparu gydol eu hoes.

 

Oherwydd yr awydd i gleientiaid gadw’n annibynnol ac aros yn eu cartrefi eu hunain roedd y galw am ofal cartref wedi cynyddu. Roedd heriau â recriwtio a chadw staff ym maes gofal cartref yn ei gwneud yn anos fyth i sicrhau’r ddarpariaeth.

 

Roedd gofal seibiant i bobl â chyflyrau iechyd cymhleth – strôc, anaf i’r ymennydd ac yn y blaen – yn brin a byddai hynny’n destun adolygiad yn ystod ymarferion comisiynu yn y dyfodol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr adroddiad yn amlygu materion yr oedd Sir Ddinbych eisoes yn gwybod amdanynt. Yn benodol, prinder y lleoliadau maeth tymor byr oedd ar gael yn lleol, yn enwedig felly i blant ag anghenion cymhleth, yn fewnol ac yn y sector annibynnol. Canolbwyntid ar y lleoliadau penodol hynny wrth gomisiynu yn y dyfodol.

 

Er bod lleoliadau preswyl ar gael yn Sir Ddinbych tueddai’r rheiny fod yn rhai arbenigol ac yn destun meini prawf penodol. Roedd yn rhaid chwilio ymhellach am leoliadau mwy cyffredinol. Byddai’r gwaith comisiynu yn y dyfodol yn canolbwyntio ar Fwthyn y Ddôl, uned asesu ar y cyd â Chonwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Y meysydd dan sylw yn y dyfodol fyddai:

·         Y bwriad i hyrwyddo maethu’n nes at adref wrth gomisiynu, a

·         Rhoi cynllun gweithredu ar waith yn y 12-18 mis nesaf ar gyfer y tîm mewnol. Byddai hynny’n cynnwys adolygu’r gefnogaeth graidd a ddarperid i ofalwyr.

 

Rhoes swyddogion y wybodaeth ganlynol wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau:

 

·         Roedd yno brinder staff gofal cymdeithasol ac argyfwng recriwtio a chadw (ar bob lefel) ledled y Deyrnas Gyfunol.

·         Manteisiwyd ar bob cyfle i hyrwyddo / rhoi cyhoeddusrwydd i swyddi ym maes gofal cymdeithasol a gofal maeth, gan gynnwys cefndiroedd sgrin mewn cyfarfodydd ar-lein, ochrau cerbydau fflyd y Cyngor, ffeiriau swyddi ac yn y blaen.

·         Sefydlwyd bwrdd arbennig i ymchwilio i amryw ddulliau o roi hwb i recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol.  Un o’r meysydd dan ystyriaeth oedd amodau a thelerau.  Cydnabuwyd, fodd bynnag, y byddai ceisio mynd i’r afael â phroblemau recriwtio a chadw staff  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad drafft y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau /  Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (copi ynghlwm).

12:00pm – 12:30pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) gan hysbysu’r Pwyllgor ei fod yn adroddiad statudol yr oedd yn ofynnol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ei lunio er mwyn rhoi crynodeb o effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yr Awdurdod a phennu’r blaenoriaethau ar gyfer gwella. Mewn blynyddoedd diweddar canolbwyntiwyd ar gynnal adnoddau a’r gallu i gyflawni er mwyn darparu gwasanaethau statudol yn effeithiol a bodloni anghenion pobl Sir Ddinbych.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn adlewyrchiad didwyll a theg o’r adrannau Gwasanaethau Oedolion a Phlant a bod angen eu hystyried yng nghyd-destun y sefyllfa genedlaethol ym maes gofal cymdeithasol yn y cyfnod dan sylw – adfer wedi’r pandemig Covid a’i effeithiau hirdymor ar berfformiad a’r gallu i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Er gwaethaf hynny nodwyd nifer o lwyddiannau yn yr adroddiad.

 

Cydnabu’r Cyfarwyddwr y lluniwyd yr adroddiad ar sail gwaith y tîm gofal cymdeithasol cyfan yn Sir Ddinbych – gan gynnwys darparwyr cyhoeddus a phreifat a gofalwyr ffurfiol ac anffurfiol – a’i fod yn dyst i broffesiynoldeb, ymroddiad a gwaith caled pawb a weithiai i gefnogi oedolion a phlant yn Sir Ddinbych.

 

Rhoes swyddogion y wybodaeth ganlynol wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau:

 

·         Eid ati i ailgyhoeddi’r gwahoddiad i dendro er mwyn penodi partner adeiladu ar gyfer uned breswyl Bwthyn y Ddôl. Roedd datrysiadau eraill dan ystyriaeth yn y cyfamser ond roedd y Tîm Amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu ac ar waith.

·         At ei gilydd datrysid cwynion yn unol â’r terfynau amser heb fod angen eu huwchgyfeirio. Ychydig iawn o gwynion oedd yn mynd ymlaen i gam 2. Roedd a wnelo’r rhan helaeth o gwynion â chyfathrebu – neu ddiffyg cyfathrebu – ond roedd hyfforddiant a chynnal cyfarfodydd ar-lein yn ystod y pandemig wedi gwella’r sefyllfa.

·         Roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gofyn i Sir Ddinbych rannu’r data a gasglwyd a’r cwestiynau ar gyfer adolygiad ac adroddiad cenedlaethol o gwynion ynglŷn â gwasanaethau cymdeithasol. Dangosai hynny fod Sir Ddinbych yn sefydliad oedd yn dysgu, yn cymryd cwynion o ddifrif ac yn ymateb yn briodol.

·         Dosbarthwyd yr adroddiad cwynion ‘Eich Llais’ bob tri mis er gwybodaeth. Hysbyswyd yr aelodau y gallent wneud cais i ddod ag eitem gerbron Pwyllgor Craffu pe byddai rhywbeth yn yr adroddiad yn peri pryder.

·         Y blaenoriaethau i’w cyflawni yn y deuddeg mis nesaf oedd:

o   recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol,

o   sicrhau darpariaeth gwasanaethau statudol, a

o   sicrhau bod y dull o atal ac ymyrryd mor gadarn â phosib.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod, cadarnhau bod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2021-2022 yn rhoi cyfrif eglur o’r perfformiad yn ystod y flwyddyn dan sylw.

9.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor ddiwygio ei raglen gwaith i’r dyfodol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw). Yn ôl y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol roedd yno bedair o eitemau ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 29 Medi. Ni chafwyd cadarnhad, fodd bynnag, y byddai’r adroddiad ynglŷn â Hafan Deg ar gael erbyn hynny.

 

Câi’r tri o adroddiadau y gofynnwyd amdanynt yn gynharach yn y cyfarfod eu cynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Byddai’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu yn cwrdd ar 28 Gorffennaf a dylai aelodau lenwi’r ffurflen (atodiad 2) i gynnig eitemau i’r grŵp eu hystyried.

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar yr uchod, cadarnhau’r rhaglen gwaith i’r dyfodol oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ar ffurf drafft yn Atodiad 1.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm.