Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Martyn Holland

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Hysbyswyd yr aelodau na fyddai bod yn llywodraethwr ysgol yn eu hatal rhag cymryd rhan yn eitem 7 ar raglen y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 401 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 (copi ynghlwm).

10.05 am – 10.10 am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021.

 

Materion yn Codi – Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd yn unol â chais y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch ymwybyddiaeth o ddementia a hyfforddiant gofal a fu’n rhan o Friff Gwybodaeth y Pwyllgor a rannwyd â’r aelodau’n gynharach yn yr wythnos.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 a’u cymeradwyo fel rhai cywir.

 

 

5.

CYNNYDD AR GYFLAWNI STRATEGAETH DAI A DIGARTREFEDD SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cynllunio Strategol a’r Swyddog Tai (copi ynghlwm) ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar gyflawni’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Tai a Digartrefedd diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr 2020.

10.10 am – 10.40 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, a rannai’r cyfrifoldeb am gyflawni’r Strategaeth Tai a Digartrefedd.  Roedd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau, y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, yr Uwch-swyddog Cynllunio Strategol a Thai a’r Rheolwr Datblygu Tai hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ynglŷn â’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth gyflawni’r Strategaeth Tai a Digartrefedd ddiwygiedig a’r Cynllun Gweithredu a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir fis Rhagfyr 2020.  Roedd y Strategaeth yn cynnwys chwech o feysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ar sail chwech o brif themâu, ac roedd y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ynghlwm wrth yr adroddiad fel atodiad.  Roedd y Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd yn goruchwylio’r drefn o gyflawni’r cynllun gweithredu ynghyd â dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol gyda’r nod o hybu datblygiadau tai fforddiadwy.  Amlygodd y Cynghorydd Thomas y cynnydd a wnaed mewn meysydd allweddol, gan gynnwys lansio’r gwasanaeth paru tai gwag a’r gwaith a wnaed i greu cyflenwad o dai fforddiadwy, gan gynnwys tai Passivhaus sy’n defnyddio ynni’n effeithlon a gwaith oedd yn mynd rhagddo ar safleoedd yn Ninbych a Phrestatyn, ynghyd â’r cynnydd a wnaed wrth baratoi datblygiadau yn y dyfodol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Feeley sylw at yr adroddiad trylwyr a’r modd y diwygiwyd y Strategaeth er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael â digartrefedd, gan gynnwys thema benodol ynglŷn â’r pryderon a’r cynlluniau pennaf yn hynny o beth.  Roedd hi’n falch o ddweud y cyflwynwyd y cynllun Tai yn Gyntaf yn unol â’r cynllun a bod arian ar ei gyfer yn y cyllidebau presennol; roedd gwaith yn mynd rhagddo i greu llety dros dro am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych a hynny yn Epworth Lodge yn y Rhyl a llety Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych, a fyddai’n agor yn llawn ym mis Chwefror.  Roedd y Strategaeth yn hyrwyddo cadernid ac annibyniaeth a hefyd yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau corfforaethol.  Yn olaf, achubodd ar y cyfle i ddiolch i’r holl swyddogion am eu cyfraniadau.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai nad oedd y gwaith o gyflawni’r Strategaeth ond megis dechrau, gan ystyried fod y Cyngor wedi’i mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2020.  Byddai’r rhan helaeth o’r camau gweithredu, fodd bynnag, yn cael eu cyflawni mewn pryd er gwaethaf mân anawsterau mewn rhai meysydd, yn bennaf oherwydd Covid-19 a materion oedd a wnelont â’r Cynllun Datblygu Lleol.  Soniodd hefyd am waith y Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd yn cadw golwg ar gynnydd, a dywedodd ei bod yn galonogol bod y Pwyllgor yn craffu ar y cynllun gweithredu.

 

Dywedodd y Cadeirydd na nodwyd unrhyw broblemau o bwys gyda chynnydd y cynllun gweithredu.  Yna gofynnodd i’r Pwyllgor ganolbwyntio ar y mân broblemau a nodwyd, ar y sail bod y camau gweithredu eraill wedi’u cyflawni eisoes neu’n cadw at yr amserlen.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau/sylwadau fel a ganlyn –

 

·         Tai Teg oedd y gofrestr tai fforddiadwy a rhoddwyd sicrwydd y câi’r gofrestr ei hadolygu’n gyson a bod Cynghorwyr yn cael gwybod am unrhyw dai a oedd ar gael yn eu hardaloedd; roedd yno ddolen gyswllt at Tai Teg ar wefan y Cyngor

·         adeg y cyfarfod roedd yno 168 o aelwydydd yn ddigartref yn y sir, gan gynnwys 218 o unigolion, a bu cynnydd yn nifer y bobl dan fygythiad o fynd yn ddigartref yn bennaf oherwydd diddymu’r moratoriwm a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ar droi pobl allan yn ystod y pandemig Covid-19; roedd cryn waith  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELLOEDD pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) yn nodi manylion perfformiad y Cyngor mewn perthynas â 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-2020 (sydd wedi’i ymestyn i 2020-2021) a’r cynnydd a wnaed o ran datblygu llyfrgelloedd fel mannau lles a gwytnwch unigol a chymunedol.

10.40 am – 11.10 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, yr adroddiad gan y Pen Llyfrgellydd (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ynglŷn â pherfformiad y Cyngor wrth weithredu Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017 – 2020 (a ymestynnwyd hyd 2020 – 2021) a’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu llyfrgelloedd yn lleoedd a gyfrannai at les a chadernid unigolion a chymunedau.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Thomas y Pwyllgor fod awdurdodau llyfrgelloedd yng Nghymru dan ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon i’w trigolion, a bod yr adroddiad yn cymharu perfformiad Sir Ddinbych â’r safon genedlaethol.  Rhoes ganmoliaeth i’r gwasanaeth gwerthfawr a ddarperid yn Sir Ddinbych, gan nodi fod Covid-19 wedi cael effaith drom arno hefyd, ac achubodd y cyfle i ddiolch i’r staff am eu gwasanaeth rhagorol ar adegau anodd; symudodd rhai aelodau o staff i swyddi dros dro ddechrau’r pandemig fel rhan o’r drefn o ffonio preswylwyr yn rhagweithiol.  Roedd y data perfformiad ar gyfer 2020 – 21 yn cynnwys y deuddeg o hawliau craidd yr oedd Sir Ddinbych yn dal i’w bodloni, ynghyd â chwech o ddangosyddion ansawdd y cynhaliwyd hunanasesiad ar eu cyfer fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Darparwyd nifer o astudiaethau achos difyr ac addysgiadol ynglŷn â gweithgarwch y gwasanaeth.

 

Amlygodd y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid lwyddiant y gwasanaeth llyfrgelloedd a’r modd yr addaswyd y ddarpariaeth yn unol â’r gwahanol lefelau rhybudd Covid a gofynion y byd cyfoes, gan nodi fod lawrlwythiadau digidol wedi cynyddu 166% yn ystod y cyfnod clo cyntaf.  Cyfeiriodd at ymdrechion aruthrol y gwasanaeth llyfrgelloedd a oedd wedi arwain at yr adroddiad cadarnhaol, gan gydnabod serch hynny fod angen llawer iawn o waith er mwyn meithrin cadernid cymunedau a’u gallu i gynnal eu hunain, a bod gan y gwasanaeth llyfrgelloedd ran allweddol i’w chwarae yn hynny o beth. 

 

Yn ystod y drafodaeth croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol a chydnabu mor bwysig oedd y gwasanaeth llyfrgelloedd i les pobl ac mor werthfawr oedd ei gyfraniad i gymunedau.  Rhoes aelodau enghreifftiau o’r ddarpariaeth yn eu wardiau hwy, gan ganmol y cynlluniau a’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperid, gan gynnwys gwaith â phartneriaid, a rhoi diolch i’r holl staff.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid a’r Pen Llyfrgellydd gwestiynau fel a ganlyn –

 

·         yn unol â’r sefyllfa gyffredinol mewn canol trefi, nid oedd nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd wedi dychwelyd i’r lefelau a gafwyd cyn y pandemig, ac felly’r oedd hi ledled Cymru; roedd gwaith yn mynd rhagddo i ail-greu cysylltiadau ag ysgolion a dod â gwasanaethau partneriaid a gweithgareddau grŵp yn ôl er mwyn hybu niferoedd; cydnabuwyd hefyd fod angen i bobl fagu hyder er mwyn ailgydio mewn gwahanol weithgareddau a gwasanaethau yn y gymuned

·         cydnabuwyd bod y gwasanaeth llyfrgelloedd yn ymestyn y tu hwnt i waliau brics a mortar, a bod pobl yn defnyddio llyfrgelloedd mewn ffyrdd tra gwahanol bellach, fel y gwelwyd wrth i fwy o bobl ddefnyddio gwasanaethau’n ddigidol, gan gynnwys y Gwasanaeth Archebu a Chasglu

·         roedd bagiau atgofion i helpu pobl â dementia ar gael i’w benthyg yn yr un modd â llyfrau a bu’r rhain yn boblogaidd dros ben; derbyniwyd cyllid yn ddiweddar i ddarparu jig-sôs i bobl oedd yn byw â dementia a hyderid y byddai’r rheiny hefyd yr un mor boblogaidd

·         ar sail cyfraniadau ariannol Cyngor Tref Rhuddlan a Chyngor Dinas Llanelwy i’w llyfrgelloedd lleol, ynghyd â gwaith mewn partneriaeth a’r weledigaeth gytûn ar gyfer llyfrgelloedd yn gweithio mewn cymunedau, roedd y llyfrgelloedd hynny’n arbennig o lwyddiannus – awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn werth ehangu’r dull o weithio mewn partneriaeth i gynorthwyo llyfrgelloedd lleol mewn trefi a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DEFNYDDIO LLAI O BLASTIGAU UNTRO A LLEIHAU CARBON YN Y GWASANAETH PRYDAU YSGOL pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr Arlwyo a Glanhau (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd, a’r heriau,  mewn perthynas â lleihau’r defnydd o blastigau untro a lleihau carbon o fewn y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion.

11.20 am – 11.50 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, gan gynnwys y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a’r Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, y cyntaf yn dal y portffolio ar gyfer y maes gwasanaeth dan sylw a’r ail yn dal y portffolio ar gyfer yr amgylchedd, ynghyd â’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Pen Rheolwr Arlwyo a Glanhau.  Estynnwyd croeso cynnes hefyd i ddau ddisgybl o Gyngor Myfyrwyr Ysgol Dinas Brân a fyddai’n cael eu gwahodd i ofyn cwestiynau am y mater.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad gan y Pen Rheolwr Arlwyo a Glanhau, a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed, a’r heriau a gododd, wrth fynd ati i leihau plastig untro a charbon yn y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion, yn ogystal ag amcangyfrif o’r costau cysylltiedig.  Wrth osod y cyd-destun dywedodd fod yr adroddiad yn seiliedig ar y ddarpariaeth gyfredol ac y byddai gweithredu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl blant mewn ysgolion cynradd yn cael effaith arwyddocaol ar y gwasanaeth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor gan gyfeirio at y materion a ganlyn –

 

·         roedd dull ariannu cyfredol y gwasanaeth arlwyo ysgolion yn dibynnu ar incwm o werthu diodydd mewn ysgolion uwchradd, a werthid mewn poteli plastig untro yn bennaf.  Roedd y dewisiadau ar gyfer rhoi’r gorau i werthu diodydd mewn poteli plastig untro’n cynnwys (1) peidio â gwerthu unrhyw ddiodydd a bod y disgyblion yn dod â’u diodydd eu hunain i’r ysgol, a fyddai’n creu diffyg o £220,000, neu (2) gwerthu diodydd wedi’u tywallt i gynwysyddion y gellid eu hailddefnyddio

·         Arbrofwyd â dewis 2 yn Ysgol Glan Clwyd ond oherwydd y trafferthion a gafwyd a’r effaith ariannol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, daeth y gwasanaeth i’r casgliad na ellid rhoi’r dull ar waith yn yr holl ysgolion uwchradd oherwydd yr heriau ymarferol, prinder lle mewn rhai ysgolion a gwastraff ar ffurf cwpanau plastig na ellid eu hailgylchu; nid oedd yn ariannol ymarferol chwaith

·         roedd y gwasanaeth wedi cael hwyl ar leihau plastig untro mewn meysydd eraill ac wedi lleihau swm y deunydd pecynnu bwyd a gâi ei brynu a’i daflu.  Bu cynnydd, fodd bynnag, ym mhrisiau deunyddiau amgen y gellid eu hailgylchu ac roedd pryder nad oedd y myfyrwyr yn ailgylchu’r deunyddiau hynny.  Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig lle bo modd a châi bwyd ei weini ar blatiau, ond roedd llawer o ysgolion heb ystafelloedd bwyta digon mawr i’r disgyblion

·         camau gweithredu penodol y gwasanaeth wrth gyflawni’r swyddogaeth arlwyo heb ddefnyddio llawer o garbon, a heriau yn y dyfodol wrth wella cyfraddau ailgylchu ymysg disgyblion, swydd newydd i hyrwyddo newid ymddygiad, a thrafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o gael llai o gig coch ar fwydlenni, a oedd yn bwnc llosg.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts ymrwymiad y gwasanaeth i leihau plastig untro a charbon er gwaethaf yr heriau a gododd, a’r cynnydd a wnaed mewn nifer o feysydd.  Cyfeiriodd eto at effaith ariannol drom y camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad - £220,000 y flwyddyn wrth roi’r gorau i werthu diodydd mewn ysgolion uwchradd, a £197,000 y flwyddyn wrth werthu diodydd wedi’u tywallt i gwpanau y gellid eu hailddefnyddio.  Byddai’n rhaid gwneud iawn am y diffyg hwn drwy gynyddu’r cymhorthdal refeniw, codi prisiau prydau ysgol neu drosglwyddo’r costau i’r ysgolion.  Byddai darparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd hefyd yn cynyddu ôl troed carbon y gwasanaeth.  Soniwyd y câi pob ysgol ei thrin yn gyfartal o dan y dull ariannu presennol, ac oni  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

11.50 am – 12.05 pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

               

Trafodwyd y materion canlynol –

 

·         roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi rhoi eitem ar raglen y cyfarfod nesaf oedd i’w gynnal ar 17 Mawrth ynglŷn ag Absenoldebau a Throsiant Staff yn Sir Ddinbych yn ystod 2020/21 a 2021/22  hefyd wedi penderfynu symud y ddau o eitemau addysg oedd ar raglen 17 Mawrth i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf, fel y gallai’r Pwyllgor newydd eu hystyried yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai

·         roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu eisoes wedi penderfynu na ddylai Pwyllgorau Craffu gynnal unrhyw gyfarfodydd yn ystod y cyfnod cyn etholiad (o 18 Mawrth ymlaen) oni fyddai’n rhaid cael cyfarfod i drafod mater brys - felly, y cyfarfod olaf a drefnwyd yn ystod cyfnod cyfredol y Cyngor oedd yr un ar 17 Mawrth

·         anogwyd aelodau a ddymunai graffu ar bynciau penodol yng nghyfnod nesaf y Cyngor i gyflwyno ffurflenni cynnig yn syth i’r Cydlynydd Craffu.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys yr eitemau y gofynnwyd amdanynt yn ystod y cyfarfod a’r diwygiadau a nodwyd uchod, cadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

9.

GWYBODAETH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

12.05 pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Soniodd y Cadeirydd am gyfarfod â David Wilson o Archwilio Cymru lle trafodwyd swyddogaeth Pwyllgorau Craffu wrth ymchwilio i faterion fel absenoldebau staff, cadw staff a recriwtio.  Byddai’r Pwyllgor yn cael cyfle i gyflawni ei swyddogaeth yn hynny o beth yn y cyfarfod ym mis Mawrth, ac anogwyd yr holl aelodau i fod yn bresennol a chynnig her effeithiol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott y byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Glannau Afonydd yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 10 Mawrth 2022.

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cynrychioli’r pwyllgorau craffu ar Fwrdd Prosiect Adeiladau’r Frenhines, a dywedodd fod y sefyllfa’n dal yn heriol a bod swyddogion yn gweithio’n ddiwyd i ddatrys y problemau annisgwyl sy’n parhau.  Cyflwynid adroddiad ynglŷn â chynnydd y prosiect i’r Cabinet ym mis Chwefror.

 

Rhoes y Prif Weithredwr ganmoliaeth i safon y drafodaeth a’r craffu trylwyr yn ystod y cyfarfod, ac i gyfraniad myfyrwyr Ysgol Dinas Brân at y broses, gan nodi eu bod wedi hybu dealltwriaeth y Pwyllgor o gymhlethdod y sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi sylwadau’r cynrychiolwyr hynny a fu’n bresennol mewn amryw gyfarfodydd ar ran y Pwyllgor.

 

Wrth ddod â’r cyfarfod i ben diolchodd y Cadeirydd i swyddogion cymorth y Pwyllgor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 pm.