Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorwyr Geraint Lloyd-Williams a David Williams

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen -

 

Cynghorydd Arwel Roberts - Cadeirydd Grŵp Dementia Rhuddlan

 

Cynghorydd Paul Penlington – Ymddiriedolwr a Gwirfoddolwr gydag elusen Gofalwyr Ifanc ac mae ei wraig yn gweithio i elusen Gofalwyr Ifanc sy’n darparu gwasanaethau i’r Cyngor

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 343 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021.

 

Materion yn Codi –

 

Eitem 7 – Yr wybodaeth ddiweddaraf am Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (tudalen 10, pedwerydd pwynt bwled) – cadarnhawyd fod y broblem ynghylch llai o adnoddau ar gael i gynnal asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn broblem genedlaethol sy’n cael ei dwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn rheolaidd a sonnir am y mater hefyd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf yr ymgynghorir yn ei gylch dros y misoedd nesaf.

 

Eitem 8 - Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2020 i 2021 (tudalen 13, ail bwynt bwled) - cadarnhaodd y Cynghorydd Paul Penlington ei fod wedi derbyn y dolenni perthnasol i weld yr wybodaeth y gofynnodd amdani yn y cyfarfod diwethaf ynghylch manylion costau’n ymwneud â Phriffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2019 – 2020 A 2020 - 2021 pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno adroddiadau blynyddol drafft i’w craffu cyn eu cyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a’r Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn cyflwyno’r adroddiadau blynyddol drafft ar gyfer 2019 – 2020 a 2020 – 21 i’r Pwyllgor ar gyfer craffu cyn eu cyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru.  Esboniwyd y rhesymau dros gyflwyno’r ddau adroddiad gan gofio bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio’r angen i lunio adroddiad blynyddol ym Mawrth 2020 oherwydd pandemig Covid-19.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at y rôl arweiniol yr ymgymerodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol â hi yn ystod y pandemig ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan barhau hefyd gyda’r gwaith arferol, a hynny’n aml iawn dan bwysau ariannol.  Dangosai’r adroddiadau fod llawer wedi ei gyflawni o dan amgylchiadau hynod o anodd a gwelwyd cynnydd a gwelliannau mewn nifer o feysydd.  Er mai prif gyfrifoldeb y Cynghorydd Feeley yw Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, gwyddai fod gwasanaethau cyfun Addysg a Gwasanaethau Plant hefyd wedi darparu'r un gwasanaethau o ansawdd da i blant bregus.  Roedd hi’n falch o allu bod yn rhan o lansiad canolfan blant newydd arloesol Bwthyn y Ddol.  Roedd yr adroddiadau blynyddol yn adlewyrchu’n dda ar y timau sy’n gweithio ar draws y meysydd gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych a thalwyd teyrnged i’r staff gwych ac ymroddedig sy’n gweithio'n ddiflino i gynnig y gwasanaethau gorau bosibl.  Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Feeley ei bod yn hyderus y byddai Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn parhau i addasu a gwella a darparu’r gofal sydd ei angen ar drigolion y sir.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i’r holl gynghorwyr am eu cefnogaeth barhaus i wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Blant ac Oedolion.  Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai angen llunio adroddiad ar gyfer 2019 – 20, teimlwyd y dylid bod yn gyfredol a llunio’r adroddiad hwnnw, er mwyn dangos hefyd yr hyn a gyflawnwyd yn ystod cyfnod hynod o anodd nas gwelwyd ei debyg o’r blaen. Talodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol deyrnged i’r gweithlu gan gynnwys gofalwyr anffurfiol, gofalwyr maeth a’r rhai a fu’n darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol, ac i bawb a fu’n cynorthwyo.  Ni ellid adleoli pawb i weithio ar y rheng flaen ond gwnaeth pobl o bob rhan o’r awdurdod ac ar draws cymunedau fanteisio ar y cyfle i gynorthwyo mewn ffyrdd eraill a gwneud gwaith er mwyn darparu gwasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf bregus.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch o gyflwyno’r adroddiadau i’r aelodau gan bwysleisio cymaint a gyflawnwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf a chadarnhaoedd y byddai datblygiadau i’w gweld yn y meysydd gwaith hynny nad oedd wedi datblygu yn ôl y disgwyl.  Roedd hi’n werth nodi bod staff ar hyn o bryd yn ymdrin â chynnydd mewn achosion a throsglwyddiadau Covid-19 yn y gymuned ac mewn lleoliadau gofal.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn croesawu’r gwaith craffu roedd yr aelodau’n ei wneud ar yr adroddiadau ac esboniodd fod y Prif Reolwyr Ann Lloyd a James Wood hefyd yn bresennol i ateb cwestiynau.

 

Yn ystod trafodaeth hir, gwnaeth y Pwyllgor dalu teyrnged i'r ymrwymiad a’r ymroddiad a ddangoswyd gan bawb yn y maes gofal cymdeithasol wrth iddyn nhw weithio'n ddiflino o dan amgylchiadau hynod o anodd, ac i'r rhai sy’n parhau i wneud hynny, gan fynd y filltir ychwanegol er mwyn gofalu am y rhai mwyaf anghenus.  Manteisiodd y Pwyllgor ar y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod gwahanol agweddau ar yr adroddiadau gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion a oedd yn bresennol.

 

Roedd prif feysydd y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w adolygu ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i aelodau adolygu rhaglen waith y pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r materion canlynol:-

 

·         ni fydd yr adroddiadau a drefnwyd ynghylch Arholiadau Allanol ac Asesiadau Athrawon Dros Dro (Medi) ac Arholiadau Allanol wedi’u Gwirio (Ionawr) yn dod i law oherwydd diffyg data cymharol a data meincnodi. 

Wrth ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y gellid rhannu data arholiadau dros dro Sir Ddinbych gyda’r aelodau ond nad oes data cymharol ar gael o awdurdodau lleol eraill o ganlyniad i orchymyn gan Lywodraeth Cymru.  Serch hynny, mae nifer o faterion yn ymwneud ag addysg y dylid craffu arnyn nhw'n ddiweddarach yn y flwyddyn

·         cytunwyd y dylai cyfarfod mis Medi barhau gyda'r eitem yn ymwneud â Gofal Iechyd Cefndy ac os yw'n bosibl, dylid dwyn ymlaen yr adroddiad am System Rheolwyr Perthynas â Chwsmeriaid (CRM) i'r cyfarfod hwnnw a drefnwyd ar gyfer mis Tachwedd. 

Teimlai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai hefyd yn ddefnyddiol i’r aelodau pe bai’r adroddiad yn dangos sut mae pob gwasanaeth unigol yn bwydo i’r system CRM a’r pwysigrwydd a’r manteision i bob unigolyn a gwasanaeth drwy ddilyn y drefn gywir.  Cytunwyd y byddai’r Cydlynydd Craffu yn penderfynu a yw’r gwasanaeth mewn sefyllfa i baratoi'r adroddiad erbyn mis Medi a dylid hefyd cynnwys y materion a godwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts

·         gofynnwyd i’r aelodau gyflwyno unrhyw ffurflenni cynigion ynghylch testunau i’w craffu (gan gynnwys unrhyw destunau sy’n codi o Adroddiadau Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod) cyn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer Grŵp y Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 9 Medi.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiadau y cytunwyd arnyn nhw uchod, y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor fel y manylir amdani yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Hugh Irving wrth yr aelodau mai ef yw cynrychiolydd y Pwyllgor ar y grwpiau/fforymau canlynol -

 

·         Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chymunedau (Her Gwasanaeth) – yn anffodus ni lwyddodd i fynychu’r cyfarfod am yr heriau gwasanaeth a gynhaliwyd ar 14 Mehefin

·         Gwasanaethau Gwella Busnes a Moderneiddio (Her Gwasanaeth) – roedd y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin yn cynnwys llawer o drafodaeth am Covid-19 a’r gwaith adfer, a chytunwyd y byddai cofnodion y cyfarfod hwnnw'n cael eu rhannu gyda'r aelodau

·         Bwrdd Prosiect Adeilad y Frenhines – mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob pythefnos ar hyn o bryd er mwyn cadw llygad manwl ar y prosiect ac mae llawer o’r drafodaeth yn gyfrinachol ac ni ellir ei rhannu mewn cyfarfod cyhoeddus.  

Er bod y prosiect yn wynebu heriau, cadarnhawyd bod pawb yn gweithio er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau'n llwyddiannus.  Wrth ystyried y ffordd orau i symud ymlaen a sut i adrodd yn ôl wrth yr aelodau’n briodol, awgrymwyd y gallai’r prosiect fod yn destun ar gyfer craffu yn y dyfodol ac y dylai’r Cydlynydd Craffu ymdrin â’r mater a’r amserlenni ar gyfer craffu os credir bod hynny’n briodol.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Peter Scott yr aelodau y bydd cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael ei gynnal ar 26 Gorffennaf i ystyried gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen ar yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Ellie Chard y byddai’n cynrychioli’r Pwyllgor yn yr Her Gwasanaeth ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Plant ar 19 Gorffennaf a chadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’n cynrychioli’r Pwyllgor yn yr Her Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Cymunedol ar 19 Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a nodi'r adroddiadau ar lafar.

 

Wrth gloi’r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu ac am gyfrannu at y trafodaethau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05pm.