Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: VIA ZOOM

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Martyn Holland, Geraint Lloyd-Williams, Bob Murray a David G Williams.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 211 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw ddiddordeb personol neu ragfarnus yn yr eitem fusnes dan drafodaeth.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol neu â rhagfarn ei ddatgan yn yr eitem fusnes dan drafodaeth.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

 

4.

OSGOI A LLEIHAU PLASTIG YNG NGHYNGOR SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 220 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Perfformaid a Chynllunio Strategol (copi yn atodedig) sydd yn cyflwyno i’r Pwyllgor argymhellion y Grŵp Tasg a Gorchwyl ar y Defnydd o Blastigion mewn perthynas â Cham 2 o’i waith a dyfodol y Grŵp.

Penderfyniad:

Cynigiodd y Cynghorydd Peter Scott fod y tri argymhelliad a ffurfiwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen ac a amlinellwyd yn yr adroddiad, ynghyd â’r pedwerydd argymhelliad a gynigwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod, yn cael eu derbyn.  Eiliodd y Cynghorydd Hugh Irving gynnig y Cynghorydd Scott. 

 

Cymerwyd pleidlais ffurfiol ar y pedwar argymhelliad gyda’i gilydd.  Pleidleisiodd pob aelod o’r Pwyllgor oedd yn bresennol dros yr argymhellion. Ni ddangosodd unrhyw aelod o’r Pwyllgor oedd yn bresennol eu bod yn dymuno pleidleisio yn erbyn neu ymatal rhag pleidleisio ar unrhyw un o’r cynigion.  Felly, roedd y Pwyllgor yn unfrydol wedi:

 

Penderfynu: - ar ôl ystyried yr wybodaeth a gafwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen ar ei waith hyd yma -

 

(i)           o ystyried amgylchiadau presennol pandemig byd-eang COVID-19, na ddylai Cam 2 gwaith y Grŵp barhau a bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei ddirwyn i ben;

(ii)          bod cyfleoedd i leihau’r defnydd o blastigau yn nhrefniadau arlwyo a chaffael ysgolion, ynghyd ag unrhyw waith i’r dyfodol o ran osgoi a lleihau defnyddio plastigau yng nghyngor Sir Ddinbych (gan gynnwys ei Fodelau Cyflwyno Amgen megis Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn cael eu cydlynu o dan y Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol arfaethedig;

(iii)        ar ôl cytuno ar yr argymhellion uchod eu bod yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir i’w cymeradwyo; a

(iv)        bod cais yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i benderfynu ar y fforwm mwyaf effeithiol ar gyfer monitro gweithredu a chyflawni lleihau'r defnydd o blastigau o fewn Cyngor Sir Ddinbych a’r Strategaeth Ecolegol a Hinsawdd ehangach y Cyngor. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Defnyddio Plastig, adroddiad ar Osgoi a Lleihau Plastig yng Nghyngor Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cymeradwyodd y Cyngor Llawn, ddiwedd Mis Ionawr 2020, yr argymhellion a gynhwyswyd yng nghynllun gweithredu cychwynnol y Grŵp Tasg a Gorffen i leihau'r defnydd o blastigau mewn swyddfeydd dinesig (Cam 1).  Cytunodd y Cyngor Llawn hefyd ar gais y Grŵp i barhau â'i waith am 12 mis arall gyda'r bwriad o ddyfeisio dulliau o leihau'r defnydd o blastigau mewn dau faes penodol, sef arlwyo mewn ysgolion a chaffael (Cam 2).

 

O fewn ychydig wythnosau i'r penderfyniad uchod gael ei wneud fe darodd pandemig COVID-19 ac aeth y wlad i gyfnod clo. 

 

Amlinellodd yr adroddiad yr argymhellion arfaethedig yn dilyn cyfarfod diweddar Grŵp Tasg a Gorffen Defnyddio Plastig yr Aelodau lle cydnabu'r grŵp gyflawni Cam 1 o ran lleihau'r defnydd o blastigau mewn swyddfeydd dinesig ac ystyried y ffordd ymlaen mewn perthynas â'r dasg yr oedd wedi’i chael, ond nad oedd yn gallu ei ddatblygu o ran Cam 2 (Arlwyo mewn Ysgolion a Chaffael) oherwydd y pandemig.

 

Awgrymodd swyddogion a oedd yn ymwneud â'r Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol fod argymhelliad (ii) yn cynnwys y geiriau canlynol a amlygwyd mewn print bras 'Cyfleoedd i leihau'r defnydd o blastigau mewn arlwyo ysgolion a chaffael er mwyn lleihau allyriadau carbon, ynghyd ag unrhyw waith yn y dyfodol ar osgoi a lleihau plastigau yng Nghyngor Sir Ddinbych (gan gynnwys ei Fodelau Cyflawni Amgen( ADMs) e.e. dylid cydlynu Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (DLL) o dan y Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol arfaethedig.  

 

Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen o'r farn bod y cynnig i gydlynu'r gwaith o dan y Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol arfaethedig yn dangos ymagwedd gynaliadwy tuag at yr amgylchedd ac yn cyfrannu'n gadarnhaol yn gyffredinol at y nodau llesiant.

 

Yn ystod trafodaethau, awgrymwyd a chytunwyd y dylid cynnwys argymhelliad ychwanegol i'w gymeradwyo fel a ganlyn:

 

“gofyn i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu (SCVCG) benderfynu ar y fforwm mwyaf effeithiol ar gyfer monitro'r broses o weithredu a chyflawni lleihau'r defnydd o blastigau o fewn Cyngor Sir Ddinbych a Strategaeth Ecolegol a Newid Hinsawdd ehangach y Cyngor".   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Peter Scott y dylid cymeradwyo'r tri argymhelliad a luniwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen ac a amlinellir yn yr adroddiad, ynghyd â'r pedwerydd argymhelliad a gyflwynwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod.  Eiliodd y Cynghorydd Hugh Irving gynnig y Cynghorydd Scott. 

 

Cymerwyd pleidlais ffurfiol ar y pedwar argymhelliad.  Pleidleisiodd holl aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol o blaid yr argymhellion, ni nododd unrhyw aelod o'r Pwyllgor a oedd yn bresennol eu bod am bleidleisio yn erbyn unrhyw un o'r argymhellion nac ymatal rhag pleidleisio arnynt. Felly, yn unfrydol:

 

Penderfynwyd: - ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen ar ei waith hyd yma –

 

(i)           o ystyried yr amgylchiadau presennol oherwydd y pandemig byd-eang COVID-19, na ddylai Cam 2 gwaith y Grŵp fynd rhagddo a bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn cael ei ddiddymu;

(ii)          bod cyfleoedd i leihau'r defnydd o blastigau mewn arlwyo ysgolion a chaffael, ynghyd ag unrhyw waith yn y dyfodol ar osgoi a lleihau plastigau yng Nghyngor Sir Ddinbych (gan gynnwys ei Fodelau Cyflawni Amgen (ADMs) fel Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (DLL) yn cael ei gydlynu o dan y Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol arfaethedig;

(iii)         ar ôl cytuno ar yr argymhellion uchod, eu cyflwyno i'r Cyngor Sir i'w cymeradwyo; a

(iv)        gofynnir i'r Grŵp Cadeiryddion ac  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 10:05 A.M.