Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: via Video Conference

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Hugh Irving.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth aelodau’r Pwyllgor fod y Cynghorydd Irving yn yr ysbyty yn dilyn damwain yn ei gartref yn gynharach yn yr wythnos.  Dymunodd aelodau’r Pwyllgor gyfleu eu dymuniadau gorau am wellhad llawn a sydyn i'r Cynghorydd Irving.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Hugh Irving.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth aelodau'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Irving wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn damwain gartref yn gynharach yn yr wythnos.  Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor i'w dymuniadau da am adferiad llawn a buan gael eu cyfleu i'r Cynghorydd Irving.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiadau eu datgan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 393 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynwyd:  y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020.

 

Materion yn Codi

 

Tudalen 6 – Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod cyllid ar gyfer y gwaith adnewyddu i ddarparu ar gyfer adleoli’r gwasanaethau Cyfleoedd Gwaith i Neuadd y Sir a Dinbych wedi'i gadarnhau a'i fod wedi'i gynnwys yn y brîff gwybodaeth a ddosbarthwyd i'r Aelodau.

 

Tudalen 6 – Enwi a rhifo Strydoedd Cymru – Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y swyddog a oedd wedi bod yn delio â hyn wedi bod ar secondiad ond ei fod bellach yn ôl yn ei rôl arferol.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol agos.

 

Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad.  Ni chafwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020 fel cofnod gwir a chywir.

 

 

5.

THEMA ADFER COVID 19: BLAENORIAETHAU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 286 KB

Ystyried adroddiad sy'n darparu blaenoriaethau'r Cyngor yng ngoleuni’r argyfwng Covid 19 (copi ynghlwm).

10:05 a.m. – 10:50 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynwyd: - ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad ac yn ystod y drafodaeth ar yr argyfwng COVID-19, i gadarnhau fod fframwaith llywodraethu’r Cyngor yn parhau i fod yn briodol ar gyfer asesu, monitro a chyflawni blaenoriaethau corfforaethol yr Awdurdod.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Thema Adfer Covid 19: Adroddiad Blaenoriaethau Corfforaethol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) a'r Cabinet wedi nodi 14 Thema Adfer yng ngoleuni argyfwng Covid.   Ar gyfer pob un o'r Themâu Adfer, roedd templed safonol i'w ddefnyddio a gynhwyswyd yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Wedi’i gynnwys fel Atodiad 3 yr adroddiad roedd adroddiad drafft gan y Prif Weithredwr o'r enw "Covid 19 – Siâp y Cyngor yn y Dyfodol". Roedd yr adroddiad drafft hefyd wedi'i ystyried gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Cabinet.

 

Eglurodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Parth Cyhoeddus fod yr adroddiad yn ymwneud â chyflawni blaenoriaethau, nid manylion y blaenoriaethau.  Nid oeddent am ddyblygu gwaith drwy drafod manylion.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Etholiadau – ni chafwyd cyhoeddiad swyddogol gan Lywodraeth Cymru hyd yma y byddai etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021 yn cael eu gohirio.  Pe bai'r etholiadau'n cael eu gohirio am 12 mis, yna byddai Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn delio â hynny.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys cymunedau mewn gwaith i ehangu gwytnwch cymunedol.  Roedd pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at barodrwydd preswylwyr i groesawu gwaith gwytnwch yn eu cymunedau. 

·         Gan fod y rhan fwyaf o'r staff bellach yn gweithio gartref, codwyd cwestiwn ynghylch sut y mesurwyd cynhyrchiant. Cadarnhawyd bod y staff yn gynhyrchiol wrth weithio gartref.  Roedd Rheolwyr Atebol yn monitro ansawdd a maint y gwaith drwy Arfarniadau a oedd yn cynnwys amcanion ac yn cysylltu â Chynlluniau Gwasanaeth unigol a'r Cynllun Corfforaethol.

·         Bu'n siomedig i bawb fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2020 a oedd i fod i gael ei chynnal yn Ninbych wedi'i chanslo a bod digwyddiad 2021 wedi'i ganslo hefyd. Y gobaith nawr oedd y byddai'n cael ei chynnal yn Ninbych yn 2022.

 

Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad ac yn ystod y drafodaeth ar argyfwng COVID-19, i gadarnhau bod fframwaith llywodraethu presennol y Cyngor yn dal yn briodol ar gyfer asesu, monitro a chyflawni blaenoriaethau corfforaethol yr Awdurdod.

 

 

6.

ADOLYGIAD O'R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MEDI 2020 pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad mis Medi o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol (copi ynghlwm).

 11:00 a.m. – 11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhellion trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod i dderbyn a chadarnhau’r newidiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Adolygiad o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol, adroddiad Medi 2020 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Wedi'i atodi i'r adroddiad, rhestrodd Atodiad 2 y newidiadau craidd.

 

Roedd un risg newydd – Risg 46 Methiant i ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd i’r cam mabwysiadu.

 

Yn ystod yr adolygiad diweddaraf hwn, roedd effaith Covid-19 wedi bod yn ffactor pwysig, ac roedd nifer o risgiau wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r effaith hyd yma a goblygiadau'r dyfodol. O ganlyniad, roedd rhai risgiau wedi gweld eu sgoriau'n cynyddu o ran difrifoldeb.

 

Cadarnhawyd bod y Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi'i thrafod yn flaenorol yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio. Roedd y Pwyllgor hwnnw wedi codi'r risg a achosir gan droseddau cyffuriau Llinellau Sirol yn y sir, byddai'r elfen hon yn cael ei hystyried yn ystod yr adolygiad nesaf a drefnwyd o'r Gofrestr Risg.  Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor, cynghorodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion:

 

  • Llywodraethwyr Ysgol oedd yn gyfrifol am fesurau lliniaru risg mewn ysgolion unigol. Byddai unrhyw risgiau sylweddol yn cael eu codi gyda'r Adran Addysg am gymorth.
  • Roedd Canllawiau Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi ar sut i ddelio â hawliadau am y gwahanol grantiau cymorth busnes COVID-19.  Drwy ddilyn y dogfennau canllaw hyn wrth ymdrin â hawliadau dylai'r Cyngor liniaru'r risg o fod yn agored i hawliadau twyllodrus.
  • Roedd arian ychwanegol wedi'i gynnwys yng nghyllideb y flwyddyn ariannol gyfredol i fynd i'r afael â'r risgiau a achoswyd gan Glefyd Coed Ynn.
  • Roedd gan y Cyngor gyllidebau wrth gefn ar gael i ddelio â chost tywydd garw difrifol. Pe bai digwyddiadau o'r fath yn dod yn ddigwyddiadau tywydd garw mawr neu'n ddigwyddiad eithriadol h.y. pandemig, byddai awdurdodau lleol yn edrych tuag at lywodraethau cenedlaethol am gymorth ariannol.

 

Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhellion. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y sylwadau uchod i dderbyn a chadarnhau'r diwygiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

 

7.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

11:30 a.m. – 11:50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynwyd: - cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar y newidiadau uchod

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol. Atgoffwyd yr Aelodau y dylid llenwi'r ffurflen gynnig ar gyfer pynciau i’w craffu (atodiad 2) er mwyn i'r Grŵp Cadeiryddion a'r Is-gadeiryddion Craffu adolygu a dyrannu eitemau busnes.

 

Roedd yr eitemau i'w cyflwyno i'r cyfarfod ar 28 Ionawr 2021 fel a ganlyn:

·         Arholiadau/Cymwysterau Allanol 2020

·         Cludiant i Ddysgwyr ar gyfer Addysg Cyfrwng Cymraeg a'r Diffiniad o Ysgolion Categori 1

·         Gofal Iechyd Cefndy

Byddai Safonau Gwasanaethau Llyfrgelloedd 2019-20 yn cael eu symud o gyfarfod mis Ionawr i 18 Mawrth 2021 gan fod adroddiad asesu Llywodraeth Cymru wedi'i ohirio oherwydd pwysau a achoswyd gan COVID-19.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor wedi'i drefnu ar gyfer bore 22 Rhagfyr 2020 i drafod canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen Defnyddio Plastig a llunio argymhellion gan y Pwyllgor i'w cyflwyno i'r Cyngor Sir yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y gwelliannau uchod i gadarnhau rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

11:50 a.m. – 12:00 p.m.

 

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.  Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd yr holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynwyd: - derbyn yr adborth a gafwyd.

 

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei fod wedi mynychu Grŵp Buddsoddi Strategol lle'r oedd pontydd ac adfer ar ôl llifogydd wedi'u trafod.  Byddai'r eitemau hynny'n cael eu hanfon i'r Cabinet i'w trafod.

 

Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - derbyn yr adborth a gafwyd.

 

 

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.30 A.M.