Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: via Video Conference
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Hugh Irving. Dywedodd y
Cadeirydd wrth aelodau’r Pwyllgor fod y Cynghorydd Irving yn yr ysbyty yn dilyn
damwain yn ei gartref yn gynharach yn yr wythnos. Dymunodd aelodau’r Pwyllgor gyfleu eu
dymuniadau gorau am wellhad llawn a sydyn i'r Cynghorydd Irving. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd
Hugh Irving. Dywedodd y Cadeirydd wrth aelodau'r Pwyllgor fod y
Cynghorydd Irving wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn damwain gartref yn
gynharach yn yr wythnos. Gofynnodd
aelodau'r Pwyllgor i'w dymuniadau da am adferiad llawn a buan gael eu cyfleu
i'r Cynghorydd Irving. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiadau eu datgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd
cyn y cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 393 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020 (copi ynghlwm). Penderfyniad: Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid
yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu
bod yn dymuno ymatal. Penderfynwyd:
y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020 fel cofnod cywir.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad
a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020. Materion yn Codi – Tudalen 6 – Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod
cyllid ar gyfer y gwaith adnewyddu i ddarparu ar gyfer adleoli’r gwasanaethau
Cyfleoedd Gwaith i Neuadd y Sir a Dinbych wedi'i gadarnhau a'i fod wedi'i
gynnwys yn y brîff gwybodaeth a ddosbarthwyd i'r Aelodau. Tudalen 6 – Enwi a rhifo Strydoedd Cymru –
Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y swyddog a oedd wedi bod yn delio â hyn wedi
bod ar secondiad ond ei fod bellach yn ôl yn ei rôl arferol. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r
Cabinet yn y dyfodol agos. Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu bod o blaid yr
argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn
dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020 fel cofnod gwir a
chywir. |
|
THEMA ADFER COVID 19: BLAENORIAETHAU CORFFORAETHOL PDF 286 KB Ystyried adroddiad sy'n darparu blaenoriaethau'r Cyngor yng
ngoleuni’r argyfwng Covid 19 (copi
ynghlwm). 10:05 a.m. – 10:50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd yr
holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn
erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynwyd: - ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad ac yn ystod y
drafodaeth ar yr argyfwng COVID-19, i gadarnhau fod fframwaith llywodraethu’r
Cyngor yn parhau i fod yn briodol ar gyfer asesu, monitro a chyflawni
blaenoriaethau corfforaethol yr Awdurdod. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Thema Adfer Covid 19: Adroddiad
Blaenoriaethau Corfforaethol (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr Uwch Dîm
Arweinyddiaeth (UDA) a'r Cabinet wedi nodi 14 Thema Adfer yng ngoleuni argyfwng
Covid. Ar gyfer pob un o'r Themâu
Adfer, roedd templed safonol i'w ddefnyddio a gynhwyswyd yn Atodiad 2 i'r
adroddiad. Wedi’i gynnwys fel
Atodiad 3 yr adroddiad roedd adroddiad drafft gan y Prif Weithredwr o'r enw
"Covid 19 – Siâp y Cyngor yn y Dyfodol". Roedd yr adroddiad drafft
hefyd wedi'i ystyried gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Cabinet. Eglurodd yr Arweinydd
a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Parth Cyhoeddus fod yr adroddiad
yn ymwneud â chyflawni blaenoriaethau, nid manylion y blaenoriaethau. Nid oeddent am ddyblygu gwaith drwy drafod
manylion. Yn ystod y
trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Etholiadau – ni chafwyd cyhoeddiad swyddogol gan
Lywodraeth Cymru hyd yma y byddai etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021 yn cael
eu gohirio. Pe bai'r etholiadau'n cael
eu gohirio am 12 mis, yna byddai Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn delio â hynny. ·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys cymunedau mewn gwaith i
ehangu gwytnwch cymunedol. Roedd
pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at barodrwydd preswylwyr i groesawu gwaith
gwytnwch yn eu cymunedau. ·
Gan fod y rhan fwyaf o'r staff bellach yn gweithio
gartref, codwyd cwestiwn ynghylch sut y mesurwyd cynhyrchiant. Cadarnhawyd bod
y staff yn gynhyrchiol wrth weithio gartref.
Roedd Rheolwyr Atebol yn monitro ansawdd a maint y gwaith drwy
Arfarniadau a oedd yn cynnwys amcanion ac yn cysylltu â Chynlluniau Gwasanaeth
unigol a'r Cynllun Corfforaethol. ·
Bu'n siomedig i bawb fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
2020 a oedd i fod i gael ei chynnal yn Ninbych wedi'i chanslo a bod digwyddiad
2021 wedi'i ganslo hefyd. Y gobaith nawr oedd y byddai'n cael ei chynnal yn
Ninbych yn 2022. Roedd consensws yn
cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu
bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb
eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: - ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd
yn yr adroddiad ac yn ystod y drafodaeth ar argyfwng COVID-19, i gadarnhau bod
fframwaith llywodraethu presennol y Cyngor yn dal yn briodol ar gyfer asesu,
monitro a chyflawni blaenoriaethau corfforaethol yr Awdurdod. |
|
ADOLYGIAD O'R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MEDI 2020 PDF 233 KB Ystyried adroddiad
sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad mis Medi
o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol (copi ynghlwm). 11:00 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Roedd cytundeb ar
yr argymhellion trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd yr
holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn
erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynodd y
Pwyllgor: Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod i dderbyn a chadarnhau’r newidiadau i'r
Gofrestr Risg Gorfforaethol. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, yr Adolygiad o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol, adroddiad Medi
2020 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Wedi'i atodi i'r
adroddiad, rhestrodd Atodiad 2 y newidiadau craidd. Roedd un risg newydd –
Risg 46 Methiant i ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd i’r cam
mabwysiadu. Yn ystod yr
adolygiad diweddaraf hwn, roedd effaith Covid-19 wedi bod yn ffactor pwysig, ac
roedd nifer o risgiau wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r effaith hyd yma a
goblygiadau'r dyfodol. O ganlyniad, roedd rhai risgiau wedi gweld eu sgoriau'n
cynyddu o ran difrifoldeb. Cadarnhawyd bod y
Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi'i thrafod yn flaenorol yn y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio. Roedd y Pwyllgor hwnnw wedi codi'r
risg a achosir gan droseddau cyffuriau Llinellau Sirol yn y sir, byddai'r elfen
hon yn cael ei hystyried yn ystod yr adolygiad nesaf a drefnwyd o'r Gofrestr
Risg. Mewn ymateb i gwestiynau gan
aelodau'r Pwyllgor, cynghorodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion:
Roedd consensws yn
cytuno ar yr argymhellion. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu
bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb
eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y sylwadau uchod i dderbyn
a chadarnhau'r diwygiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 238 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11:30 a.m. – 11:50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Roedd cytundeb ar
yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni
chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd yr
holl aelodau eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn
erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynwyd: - cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar y newidiadau
uchod Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) yn gofyn am i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol. Atgoffwyd yr Aelodau y
dylid llenwi'r ffurflen gynnig ar gyfer pynciau i’w craffu (atodiad 2) er mwyn
i'r Grŵp Cadeiryddion a'r Is-gadeiryddion Craffu adolygu a dyrannu eitemau
busnes. Roedd yr eitemau i'w cyflwyno i'r cyfarfod ar 28 Ionawr 2021
fel a ganlyn: ·
Arholiadau/Cymwysterau Allanol 2020 ·
Cludiant i Ddysgwyr ar gyfer Addysg Cyfrwng
Cymraeg a'r Diffiniad o Ysgolion Categori 1 ·
Gofal Iechyd Cefndy Byddai Safonau Gwasanaethau Llyfrgelloedd 2019-20 yn cael eu
symud o gyfarfod mis Ionawr i 18 Mawrth 2021 gan fod adroddiad asesu
Llywodraeth Cymru wedi'i ohirio oherwydd pwysau a achoswyd gan COVID-19. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor
wedi'i drefnu ar gyfer bore 22 Rhagfyr 2020 i drafod canfyddiadau’r Grŵp
Tasg a Gorffen Defnyddio Plastig a llunio argymhellion gan y Pwyllgor i'w
cyflwyno i'r Cyngor Sir yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Roedd consensws yn cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd
pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd
neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y gwelliannau uchod i
gadarnhau rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 11:50 a.m. – 12:00 p.m. Penderfyniad: Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cynghorydd Arwel Roberts ei fod wedi mynychu Grŵp Buddsoddi Strategol
lle'r oedd pontydd ac adfer ar ôl llifogydd wedi'u trafod. Byddai'r eitemau hynny'n cael eu hanfon i'r
Cabinet i'w trafod. Roedd consensws yn
cytuno ar yr argymhelliad. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd pob aelod eu
bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd neb eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb
eu bod yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: - derbyn yr adborth a gafwyd. |
|
DAETH Y CYFARFOD I
BEN AM 11.30 A.M. |