Rhaglen
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 – GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL YN Y RHAN HON O’R CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019 (copi ynghlwm). |
|
PERFFORMIAD YSGOLION A CHANLYNIADAU ARHOLIADAU L2 DROS DRO Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi ynghlwm) ar berfformiad ysgolion Sir
Ddinbych a chanlyniadau arholiadau lefel 2 dros dro i gael eu hadolygu gan yr
aelodau. 10.05 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
OSGOI DEFNYDDIO A LLEIHAU LEFELAU PLASTIG YN SWYDDFEYDD CYNGOR SIR DDINBYCH Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion/cynllun gweithredu y Grŵp Tasg a
Gorffen Aelodau ar gyfer Defnyddio Plastig i'w ystyried cyn ei gyflwyno i'r
Cyngor Sir. 10.45 a.m. – 11.30 s.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ EGWYL
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ |
|
COD YMARFER PRIFFYRDD Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Rheoli Risg (copi ynghlwm) yn
ceisio barn aelodau ar y Cod Ymarfer Priffyrdd newydd cyn ei gyflwyno i’r
Cabinet i’w fabwysiadu’n ffurfiol. 11.45 a.m. - 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
~~~~~~~~~~~~~~~~ AMSER CINIO
~~~~~~~~~~~~~~~~ |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 2, 2019 i 2020 Ystyried
adroddiad ar y cyd rhwng y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad a’r
Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad sy’n cyflwyno'r wybodaeth
ddiweddaraf am gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2017 i 2022 ar ddiwedd chwarter
2 (Gorffennaf i Medi 2019) at ddibenion monitro. 1.00 p.m. - 1.45 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MEDI 2019 Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy’n
darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol
a’r Canllaw Rheoli Risg a cheisio barn yr aelodau amdanynt. 1.45 p.m. – 2.30 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 2.30 p.m. – 2.45 p.m. Dogfennau ychwanegol:
|
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 2.45
p.m. – 3.00 p.m. |
|
RHAN 2 - MATERION CYFRINACHOL Dim Eitemau. |