Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw Jones (y Cadeirydd) a Martyn Holland.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Yn sgil absenoldeb y Cynghorydd Huw Jones a oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, byddai’r Cynghorydd Hugh Irving, yr Is-gadeirydd yn cadeirio’r cyfarfod. Mynegodd yr Aelodau ddymuniadau gorau i’r Cynghorydd Jones am wellhad buan.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 557 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2019 (a gylchredwyd ymlaen llaw).

 

Cywirdeb – Nododd y Pwyllgor fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Nicola Stubbins yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: - y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

5.

HAFAN DEG, RHYL pdf eicon PDF 204 KB

Monitro effeithiolrwydd trosglwyddo'r cyfleuster a'r gwasanaethau i ddarparwr allanol ac effaith y trosglwyddiad ar ddefnyddwyr y gwasanaeth, staff, preswylwyr lleol a’r gymuned leol (gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o’r broses)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) gyda chefnogaeth y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Gweithiwr Cyswllt Gwasanaethau Mewnol Cefnogi Pobl a Phrif Reolwr – Gwasanaethau Cynnal.

 

Roedd rheolaeth Canolfan Ddydd Hafan Deg wedi’i drosglwyddo i ddarparwr allanol, KL Care. Roedd yr adroddiad yn adolygu’r broses drosglwyddo a’i heffaith ar unigolion.

 

Clywodd y Pwyllgor nad oedd y trosglwyddiad wedi cael unrhyw effaith negyddol ar ddefnyddwyr y gwasanaeth.  I ddechrau, ni chafwyd gymaint o ddefnyddwyr gwasanaeth ag y gobeithiwyd, fodd bynnag, fe wnaeth hynny helpu i sicrhau proses drosglwyddo rwydd ac roedd y niferoedd yn gwella.

 

Mewn ymateb i resymau dros pam fod llai o ddefnyddwyr na'r disgwyl, nododd y Gweithiwr Cyswllt Gwasanaethau Mewnol Cefnogi Pobl:

·         roedd lle i wella o ran y gwaith hysbysebu, roeddent bellach yn mynd i'r afael â hyn drwy ddosbarthu pamffled newydd yn fewnol ac yn allanol i'r Awdurdod;

·         roedd y cymhwysedd yn dod i ben be bai defnyddiwr gwasanaeth yn mynd i ofal preswyl;

·         gostyngiad yn y galw am ganolfannau gofal dydd traddodiadol a

·         chynnydd mewn gwasanaethau/dosbarthiadau/grwpiau amgen a ddarperir mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor:

·         fod naw cleient yn defnyddio’r Gwasanaeth Gofal Dydd ar hyn o bryd;

·         ni all meddygon teulu gyfeirio unigolion at ofal dydd, ond maent yn eu cyfeirio at y Tîm Adnoddau Cymunedol am asesiad o anghenion;

·         canolbwyntiwyd yn bennaf ar wytnwch ac annibyniaeth yn hytrach na gofal dydd;

·         roedd Llyw-wyr Cymunedol yn cyfeirio trigolion a allai fod yn unig;

·         roedd y ganolfan yn amrywio ei defnydd, gan gynnwys rhagor o weithgareddau megis boreau coffi a chlybiau cinio ar gyfer trigolion  War Memorial Court, i gynyddu potensial busnes;

·         roedd darpariaeth cludiant ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a llwybrau wedi’u trefnu i osgoi unrhyw oedi diangen;

·         pris sesiwn (bore neu brynhawn) oedd £45 - £50 p'un a oedd y ffi honno yn cael ei thalu gan yr Awdurdod neu'n breifat (fodd bynnag, nid oes unrhyw gleientiaid preifat) ac

·         roedd cap o £90 yr wythnos ar ffioedd gofal cymdeithasol. Caiff fforddiadwyedd ei fonitro a gall y ffioedd gael eu hepgor.

 

Cydnabuwyd bod demograffeg Sir Ddinbych yn newid a bod y Gwasanaeth yn esblygu i ddarparu ar ei gyfer. Byddai’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddull Canolfan Gymunedol yn y dyfodol, gyda’r bwriad o leihau’r risg o arwahanrwydd cymdeithasol.

 

 

Gan gyfeirio at y gwersi a ddysgwyd o’r broses (para. 4.6), fe wnaeth y Swyddogion sicrhau’r Pwyllgor mai problem weinyddol oedd achos yr oedi yn nhrosglwyddiad y pensiynau gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, roedd KL Care wedi cael eu derbyn gan Gronfa Cynllun Pensiwn Clwyd a ni fyddai hyn yn cael effaith andwyol ariannol ar staff.

 

Croesawodd Aelodau’r adroddiad gan awgrymu y dylid blaenoriaethu gwaith hysbysebu cyfleusterau’r Ganolfan Ddydd, soniwyd am Lais y Sir a meddygon teulu yn bennaf. Gofynnodd y pwyllgor i adroddiad gwybodaeth blynyddol, gan gynnwys cyflwyniad gan KL Care, gael ei gynnwys yng nghynllun gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

PENDERFYNWYD:

      I.        derbyn yr adroddiad Trosglwyddo i Ddarparwr Preifat - Canolfan Gofal Dydd - Hafan Deg a’r Asesiad o Effaith ar Les cysylltiol;

    II.        y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor mewn 12 mis i adolygu darpariaeth y gwasanaeth ac y dylid adolygu dogfen yr Asesiad o Effaith ar Les cyn y cyfarfod hwnnw.  Gwahodd cynrychiolwyr o KL Care i’r cyfarfod i gyd-gyflwyno’r adroddiad. 

 

6.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Arholiadau Allanol Dros dro ac Asesiadau Athrawon (para 4.8) – gohiriwyd yr eitem i gyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 28 Tachwedd oherwydd yr oedi yng ngwaith Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data cysylltiol.

 

Roedd 6 eitem posibl ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Tachwedd bellach. Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn ystyried cynnal y pwyllgor dros ddwy sesiwn (bore a phrynhawn) er mwyn trafod pob eitem ar y rhaglen. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal cyfarfod diwrnod llawn a gofynnwyd i Aelodau Arweiniol gael eu gwahodd i fynychu'r eitemau sy'n berthnasol i'w maes cyfrifoldeb nhw.

 

Grŵp Monitro Safonau Ysgolion (para 4.11) – Enwebwyd y Cynghorwyr Ellie Chard ac Arwel Roberts i gynrychioli'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion.

 

Cynghorwyd y Grŵp bod y broses ar gyfer Herio Gwasanaeth wedi’i symleiddio gan leihau cyfarfodydd sy'n ymofyn presenoldeb cynrychiolydd i un fesul Gwasanaeth. Roedd disgwyl i strwythur gwasanaeth newydd gael ei ryddhau yn nes ymlaen yn y diwrnod. Byddai’r Cydlynydd Craffu yn dosbarthu rhestr o’r gwasanaethau diweddaraf i Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu yn gofyn am enwebiad i benodi un i bob un.

 

Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at atodiad 2 yn yr adroddiad, ffurflen gynnig aelodau ar gyfer rhaglennu gwaith i'r dyfodol a chynghorodd y byddai'n rhaid cyflwyno'r ffurflenni erbyn 24 Hydref i gael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 31 Hydref.

 

Tynnwyd sylw Aelodau at yr adroddiadau amrywiol atodedig er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw adborth i’w adrodd.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL GOFAL IECHYD CEFNDY 2018/19 a CHYNLLUN BLYNYDDOL 2019/20

Ystyried perfformiad y cwmni yn ystod 2018/19 a’i Gynllun Blynyddol ar gyfer 2019/20

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem fusnes nesaf yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol ac yn dilyn hynny:

 

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad cyfrinachol gan Reolwr Gwasanaeth Masnachol a Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol Gofal Iechyd Cefndy (a gylchredwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn ystod 2018-19 a’i gynllun busnes ar gyfer 2019-20.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau mai pwrpas y busnes oedd “darparu cyflogaeth ystyrlon a oedd yn talu’n dda, i aelodau difreintiedig y gymuned”.   

 

Disgwyliwyd y byddai colli Grant Cynhaliaeth Cyflogwr Trawsnewidiol yr Adran Gwaith a Phensiynau, a arferai gael ei alw'n ‘Rhaglen Dewis Gwaith’, ym mis Mawrth 2021 yn cael effaith andwyol ariannol ar Ofal Iechyd Cefndy.  Roedd yr incwm o’r grant penodol hwn yn is na'r disgwyl yn ystod 2018/19 oherwydd bod rhai aelodau staff a oedd yn derbyn y grant wedi gadael y sefydliad.  Fodd bynnag, nid oedd yna unrhyw gynigion presennol i ddiwygio’r statws dim cymhorthdal gan yr Awdurdod.

 

Gyda’r bwriad o leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â cholli cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau, roedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor wedi cymryd rheolaeth o Wasanaethau Cyfarpar Cymunedol Integredig ledled Gwent, menter gymdeithasol a oedd yn cynnwys pum awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ardal Casnewydd, a weithredodd ar sail debyg i Ofal Iechyd Cefndy. 

 

Drwy weithredu’r ddwy fenter, gallai’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol leihau costau gweinyddu diangen wrth ehangu ei gynnyrch a photensial i gynhyrchu digon o incwm i barhau i ddarparu cyflogaeth werthfawr, ystyrlon, sy’n talu’n dda i unigolion difreintiedig ar sail niwtral o ran cost.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Rheolwr Gwasanaethau Masnachol Cefndy:

  • ddisgrifio’r farchnad gystadleuol y gweithredodd Cefndy o’i mewn, yn enwedig yr anawsterau a brofwyd wrth gystadlu yn erbyn mewnforion rhatach o economïau sy’n datblygu ar draws y byd;
  • cadarnhau bod costau gweithredu Cefndy fymryn yn uwch na nifer o’i gystadleuwyr, gan mai ei flaenoriaeth oedd cadw pobl dan anfantais mewn cyflogaeth gynhyrchiol yn hytrach na hawlio budd-daliadau;

·         rhoi gwybod bod Gofal Iechyd Cefndy yn adran o fewn Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, o ganlyniad, ni chaniatawyd iddo wneud elw sylweddol neu ymgeisio am gyllid/buddsoddiad menter gymdeithasol;

·         egluro eu bod yn chwilio am gyfleoedd ychwanegol i liniaru’r golled o ran cyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys dull darparu amgen ar gyfer y Gwasanaeth o bosibl.  At y diben hwn, sefydlwyd Tîm Prosiect i gefnogi’r gwaith

·          

·         amcangyfrif bod 20 – 25 o gyflogwyr Gofal Iechyd Cefndy yn drigolion Sir Ddinbych;

·         cadarnhau bod y swyddi yn cael eu gwerthuso a'u talu yn unol â chynllun gwerthuso swyddi Sir Ddinbych;

·         cynghori bod croeso i blant anabl a phlant sydd wedi’u hymddieithrio ymgymryd â phrofiad gwaith cyn belled nad oedd hyn yn ymyrryd â chynhaliaeth y busnes;

·         rhoi gwybod bod Cefndy ar hyn o bryd yn derbyn Grant Cefnogi Cyflogwr Trawsnewidiol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ond y byddai’r rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 20201;

·         cadarnhau eu bod yn ystyried y posibilrwydd o ymgymryd â gwaith gweithgynhyrchu is-gontract e.e. darparu prosesau gorchuddio â phowdr i fusnesau allanol ac ati. a

·         cynghori bod dulliau darparu amgen yn cael eu hystyried ac y byddai’r rhain yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu maes o law.

 

Diolchodd aelodau’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.