Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Huw Jones, David Williams, Peter Scott a'r Aelod Cyfetholedig, Kathleen Jones

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 69 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o gysylltiad personol ar gyfer eitem 5 ar y Rhaglen - Rheoli Cyrff Llywodraethu Ysgolion.

 

Ø  Ellie Chard, Llywodraethwr yn Ysgol Tir Morfa

Ø  Arwel Roberts – Llywodraethwr yn Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant

Ø  Geraint Lloyd-Williams - Llywodraethwr yn Ysgol Santes Ffraid

Ø  Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts -  Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras

Ø  Hugh Irving - Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

 

Ynghyd â:

Ø  Aelod cyfetholedig, Neil Chambers Roberts - Llywodraethwr yn Ysgol y Parc ac Ysgol Cefn Meiriadog

Ø  Aelod cyfetholedig, David James Lloyd - Llywodraethwr yn Ysgol y Llys

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Yn sgil absenoldeb y Cynghorydd Huw Jones a oedd yn gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad. Y Cynghorydd Hugh Irving, Is-Gadeirydd fyddai’n cadeirio’r cyfarfod. Anfonodd yr aelodau eu dymuniadau gorau am wellhad llwyr a buan i’r Cynhorydd Jones.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 406 KB

 

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019 (copi ynghlwm).

 

10.05am – 10.10am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019.

 

Tudalen 10 – prosiect ‘mesur y mynydd’ – gwybodaeth a chysylltiadau â’r adroddiad cenedlaethol yn y ddogfen atodol a ddarparwyd.

 

PENDERFYNWYD: - dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

 

 

 

5.

RHEOLI CYRFF LLYWODRAETHU YSGOLION. pdf eicon PDF 230 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg (copi ynghlwm) ar Reolaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod mesurau arfaethedig i geisio sicrhau fod cyrff llywodraethol ysgolion yn effeithiol and yn cydymffurfio â deddfwriaeth

 

10.10am – 11am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad y Rheolwr Cynllunio, Addysg ac Adnoddau ac atodiadau cysylltiol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn amlinellu swyddogaeth y Cyngor wrth reoli Cyrff Llywodraethu Ysgolion.  Soniodd mai diben yr adroddiad oedd rhoi eglurhad ar gwmpas, cylch gwaith a grymoedd yr Awdurdod mewn perthynas â sicrhau bod cyrff llywodraethu ysgolion yn cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol, cyflawni eu dyletswyddau i lenwi seddi gwag llywodraethwyr ysgolion, ac yn cydymffurfio â'r disgwyliadau statudol mewn perthynas â pholisïau, cyllid a gweithdrefnau.  Yn ystod ei ragarweiniad, tynnodd sylw aelodau at y data yn yr adroddiad ar nifer y llywodraethwyr a chlercod a oedd wedi cwblhau eu cyrsiau hyfforddi gorfodol.  Er bod y niferoedd a oedd wedi cwblhau’r cyrsiau hyn yn ymddangos yn gymharol isel ac y gallai fod yn destun pryder, gallai’r cyfraddau cwblhau gwirioneddol fod yn uwch oherwydd mai Clerc y Llywodraethwyr ar bob ysgol unigol a oedd yn gyfrifol am gasglu a chynnal y gofrestr ac felly roedd eu cywirdeb yn agored i wall dynol neu esgeulustod.  Roedd swydd Clerc y Corff Llywodraethu felly’n hollbwysig gan eu bod yn gyfrifol am gynnal cofrestr ac hefyd yn gyfrifol am sicrhau fod llywodraethwyr yn cynnal ac yn cwblhau pob cwrs hyfforddi.  Dylai cofnodion data hyfforddi fod yn fwy cywir yn y dyfodol gan fod nifer o fodiwlau hyfforddi ar gael rŵan ar y porth ar-lein.  Er bod y ffigyrau presennol ar gwblhau cyrsiau hyfforddi yn destun rhywfaint o bryder, roedd hefyd yn bwysig ystyried yr adborth eithriadol o gadarnhaol a gafwyd gan Estyn yn dilyn eu harolygiadau diweddar o ysgolion yn y sir (Atodiad 2 yr adroddiad) lle na wnaed unrhyw argymhellion llywodraethu.  Yn ogystal, roedd yr adborth a gafwyd gan lywodraethwyr yn ystod digwyddiad hyfforddiant traws sirol yn gadarnhaol gyda llywodraethwyr yn cydnabod fod pawb yn y maes Addysg ar hyn o bryd yn gweithio o fewn cyfyngiadau llym ar y gyllideb.  Wrth gyfeirio at erthygl ddiweddar yn y wasg leol ynghylch pryderon a godwyd ynglŷn ag ansawdd llywodraethwyr ysgolion, dywedodd yr Aelod Arweiniol bod llywodraethwyr yn gyffredinol yn gymwys wrth gyflawni eu swyddi ac roedd digon o gefnogaeth ar gael ac roedd yn hygyrch i’r rhai hynny a oedd yn teimlo bod ei angen arnynt.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelod Arweiniol, gwnaeth yr Aelod Arweiniol Addysg a Gwasanaethau Plant, y Prif Reolwr:  Moderneiddio Addysg, a’r Rheolwr Addysg, Cynllunio ac Adnoddau:

 

·         cadarnhau fod cael clerc effeithiol i gorff llywodraethu yn allweddol i sicrhau llwyddiant y corff llywodraethu a’r ysgol yn gyffredinol. 

Gyda’r bwriad o wireddu’r hyfforddiant gorfodol hwn,  roedd cyrsiau’n cael eu darparu i glercod cyrff llywodraethu ar eu rôl a’u cyfrifoldebau, sut i gyflawni eu rôl a'r hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt.  Roedd disgwyl i bob clerc gwblhau eu hyfforddiant gorfodol o fewn 12 mis i gael eu penodi;

·         nodwyd fod y ddeddfwriaeth yn ymwneud â chyrff llywodraethu ysgolion yn gymhleth. 

Er bod pob llywodraethwr yn wirfoddolwyr, roedd y cyfrifoldebau a osodwyd arnynt yn gynhwysfawr, roeddent yn gyfrifol am sicrhau bod eu hysgol yn cael ei llywodraethu a’i rheoli’n effeithiol.  Pe baent yn methu, byddai’n rhaid iddynt wynebu’r goblygiadau;

·         nodi bod swyddogaeth y Cyngor mewn perthynas â chyrff llywodraethu ysgolion wedi ei amlinellu yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. Roedd yr awdurdod yn darparu cefnogaeth i lywodraethwyr drwy’r atebolrwydd cyfyngedig oedd ganddo ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion, fel yr oedd GwE yn gwneud.

·         pwysleisiwyd bod cyrff llywodraethu ysgolion yn sefydliadau ymreolaethol. 

Er y gallai’r Cyngor drefnu hyfforddiant ar gyfer aelodau a chlercod cyrff llywodraethu a monitro perfformiad ysgolion, y cyrff llywodraethu oedd â grym cyffredinol mewn perthynas â gweithrediad  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

11.15am – 11.45am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Cododd y Cynghorydd Arwel Roberts y broblem barhaus o faw cŵn mewn parciau plant. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus ei fod yn fater i’r gwasanaeth cynllunio a gwarchod y cyhoedd, a chydnabu y gallai'r gwasanaeth fod wedi gwaethygu oherwydd y penderfyniad i roi'r gorau i ddefnyddio ymgynghorydd allanol.

Roedd yr Awdurdod wrthi’n caffael asiantaeth debyg ond roedd hynny’n dal i fod ar y gweill.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth y Cynghorydd Roberts y dylai lenwi Ffurflen Cynnig Aelodau yn gofyn i’r eitem ddychwelyd i’r pwyllgor craffu.

 

Holodd y Cynghorydd Martyn Holland pam fod y gofrestr risg ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Craffu a’r RhGD Llywodraethu Corfforaethol.

 

Eglurodd y Cydlynydd Craffu fod craffu perfformiad ond yn monitro’r agwedd berfformiad, a fod llywodraethu corfforaethol ar y llaw arall yn sicrhau fod risgiau priodol wedi eu cofrestru.

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

11.45am – 12pm

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.52