Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o gysylltiad personol ar gyfer eitem 5 ar y rhaglen, Canlyniadau Arholiadau Allanol a Wiriwyd ac Asesiadau Athrawon, gan y Cynghorwyr:

·         Huw Jones, llywodraethwr yn Ysgol Carrog ac Ysgol Caer Drewyn

·         Ellie Chard, llywodraethwr yn Ysgol Tir Morfa

·         Hugh Irving, llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

·         Arwel Roberts, llywodraethwr yn Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant

·         Emrys Wynne, llywodraethwr yn Ysgol Borthyn

·         Geraint Lloyd-Williams, llywodraethwr yn Ysgol y Santes Ffraid

·         Huw Hilditch-Roberts fel llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd a rhiant i blentyn mewn ysgol yn Sir Ddinbych

 

Ynghyd ag:

·         Aelod cyfetholedig, Neil Chambers Roberts, llywodraethwr yn Ysgol y Parc ac Ysgol Cefn Meiriadog

·         Aelod cyfetholedig, David James Lloyd, llywodraethwr yn Ysgol y Llys, Prestatyn

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 414 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2018 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2018.

 

Cywirdeb:

 

Dywedodd yr aelodau mai’r aelod cyfetholedig Neil Roberts a ddatganodd gysylltiad personol gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol y Parc.

 

Materion yn Codi:

 

Eitem 5 - Canlyniadau Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon - Tudalen 12 - Cadarnhaodd y Cadeirydd bod llythyr wedi’i anfon at Gymwysterau Cymru yn amlygu pryderon y Pwyllgor. Cadarnhaodd hefyd bod ymateb wedi’i dderbyn gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru.

 

Dywedodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc ei fod wedi derbyn ymateb gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynglŷn â phryderon y Pwyllgor. Pwysleisiodd y Cyng. Hilditch-Roberts pa mor bwysig yw hi i dderbyn ymateb i bryderon y Pwyllgor er lles plant Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

 

 

 

 

5.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU ALLANOL A WIRIWYD AC ASESIADAU ATHRAWON pdf eicon PDF 357 KB

Derbyn gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad ysgolion Sir Ddinbych yn arholiadau allanol 2018 (copi ynghlwm).

 

10.05 – 10.50 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn cynnwys gwybodaeth a wiriwyd ar berfformiad disgyblion Cyfnod Allweddol 4 ac ôl 16 ysgolion uwchradd Sir Ddinbych yn ystod arholiadau haf 2018.

 

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried y canlyniadau dros dro yng nghyfarfod mis Tachwedd 2018, roedd y Cadeirydd wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru yn mynegi pryderon yr aelodau ynghylch y cynnydd sylweddol yn y trothwy i gyrraedd gradd ‘C’ yn arholiadau TGAU haf 2018, yn arbennig yr arholiadau Saesneg, ac effaith andwyol hynny ar fyfyrwyr. Dosbarthwyd copi o’r ymateb a dderbyniwyd gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru i’r aelodau. Yn ei lythyr mae’r Prif Weithredwr yn mynegi bod pryderon tebyg wedi'u codi gan GwE ac, o ganlyniad, bod adolygiad o’r graddio wedi'i gynnal. Daeth yr adolygiad hwn i’r casgliad bod y trothwy wedi’i newid yn briodol ac felly nad oes angen unrhyw gam gweithredu pellach. Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod swyddogion addysg a deiliaid portffolio addysg wedi derbyn ymateb tebyg gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru, ac o ganlyniad, mae cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer canol mis Chwefror rhwng Cyfarwyddwyr Addysg Gogledd Cymru, deiliaid portffolio addysg, GwE a Phrif Weithredwr Cymwysterau Cymru i drafod dull graddio arholiadau allanol yn y dyfodol er mwyn sicrhau na fydd myfyrwyr yn y dyfodol yn dioddef chwit-chwatrwydd mewn ffiniau graddau. Mae ymarferwyr addysg yn derbyn y ffaith na fydd Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad pellach o raddau 2018, ac felly maent yn benderfynol na fydd arholiadau’r dyfodol yn destun cyfnewidioldeb o’r fath yn y ffiniau graddio. Cytunodd yr Aelod Arweiniol gyda barn aelodau’r Pwyllgor o ran nad yw Cymwysterau Cymru yn cydnabod effaith ei benderfyniad i weithredu cynnydd o’r fath yn y ffin ar gyfer gradd ‘C’ ar fywydau a rhagolygon gyrfa nifer o fyfyrwyr.

 

Bu i’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE wneud y sylwadau canlynol:

·         Bu iddynt bwysleisio pa mor siomedig yw swyddogion ac aelodau etholedig yn y ffaith nad yw canlyniadau 2018 a wiriwyd wedi newid er ymdrechion y rhanbarth i drafod y pryderon uchod gyda chynrychiolwyr Cymwysterau Cymru, Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a Llywodraeth Cymru ac ati (mae copi o lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at yr Aelod Arweiniol wedi’i gylchredeg i’r aelodau er gwybodaeth).

Tra bod cynrychiolwyr CBAC wedi cwrdd â swyddogion addysg, swyddogion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a deiliaid portffolio yn Rhanbarth De-ddwyrain Cymru (rhanbarth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg) i drafod pryderon tebyg, mae’r her yn cael ei harwain gan arweinwyr addysg gogledd Cymru (rhanbarth GwE).

·         Bu iddynt gynghori, oherwydd eu pryderon, eu bod yn archwilio darpariaethau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 mewn perthynas â monopoli CBAC dros arholiadau allanol yng Nghymru i weld a oes modd i ysgolion y sir gofrestru myfyrwyr i sefyll arholiadau a weinyddir gan fyrddau arholi cyfrifol eraill.

Cydnabuwyd mai dim ond CBAC sy’n gweinyddu arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Cadarnhawyd, pe bai ffin gradd 'C' arholiadau Saesneg haf 2018 wedi'i osod ar yr un lefel â'r flwyddyn flaenorol y byddai 107 o ddisgyblion eraill yn Sir Ddinbych, neu 700 ar draws Cymru, wedi cyrraedd gradd 'C'.  

 

Ymatebodd Aelod Arweiniol Addysg a swyddogion GwE fel a ganlyn i gwestiynau’r aelodau:

·         Bu iddynt gadarnhau bod y bwlch ym mherfformiad bechgyn a merched wedi cynyddu yn 2018, gyda mwy o ferched yn ennill Lefel 2 na bechgyn.

Nid yw cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall yn ystyrlon ar hyn o bryd oherwydd y newidiadau i ffiniau graddau a nifer y pynciau sy’n cael eu harholi.

·         Dywedwyd bod arholiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Yn y fan hon (11.30 a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40 a.m.

 

 

6.

SAFONAU LLYFRGELL pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried perfformiad y Cyngor ar ddechrau 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 a’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu llyfrgelloedd fel canolfannau cymunedol (copi ynghlwm).

 

10.50 – 11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Datblygu Seilwaith Cymunedol adroddiad y Prif Lyfrgellydd ar berfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 (a gylchredwyd ymlaen llaw). Hefyd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad mae cynnydd y gwasanaeth o ran datblygu llyfrgelloedd ar draws y sir yn ganolfannau cymunedol. 

 

Bu i’r Cadeirydd a’r aelodau longyfarch y gwasanaeth am eu perfformiad rhagorol wrth ddarparu yn erbyn y rhan fwyaf o'r Hawliau Craidd a’r Dangosyddion Ansawdd (DA), fel y manylir arnynt yn adroddiad Asesiad Blynyddol yr Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru (gweler Atodiad 4 i’r adroddiad). Bu iddynt hefyd ganmol y Cyngor ar yr ystod o wasanaethau a digwyddiadau a gynigir yn llyfrgelloedd y sir ar gyfer pobl o bob oed, a werthfawrogir yn fawr iawn gan drigolion.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, darparodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Marchnata a’r Prif Lyfrgellydd y sylwadau canlynol:

·         Cadarnhawyd bod, yn debyg i wasanaethau eraill, cyllideb y Gwasanaeth Llyfrgell wedi ei lleihau ac, o ganlyniad, nad yw wedi bodloni DA19 (gwariant fesul 1,000 o’r boblogaeth ar ddeunyddiau darllen) o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

·         Dywedwyd bod DA13 wedi ei fodloni’n rhannol (lefelau staff a chymwysterau) oherwydd bod staff llyfrgelloedd y sir yn darparu ystod o wasanaethau llyfrgell a Siopau Un Alwad. 

Er nad yw'r holl aelodau o staff hyn yn llyfrgellwyr cymwys, mae’r ystod o wasanaethau a ddarperir yn llyfrgelloedd y sir yn gofyn am ystod eang o sgiliau ac mae swyddogion yn hyderus bod staff y gwasanaeth yn meddu ar y sgiliau priodol i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth eu bod yn edrych ar ddewisiadau i ddatblygu cymhwyster ar gyfer staff y Gwasanaeth Llyfrgell a fyddai’n cefnogi datblygiad gyrfa o fewn y gwasanaeth. Dywedwyd hefyd bod mwy o ddynion wedi ymgeisio am swyddi gyda’r gwasanaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n groes i’r duedd hanesyddol.

·         Cadarnhawyd bod staff llyfrgell yn derbyn hyfforddiant ac yn mynychu sesiynau gloywi sgiliau yn rheolaidd.

Yn y dyfodol agos bydd staff yn derbyn hyfforddiant ar y System Rheoli Llyfrgell a’r system Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid. Cynhaliwyd dwy gynhadledd staff yn ystod flwyddyn, a bu i bob aelod o staff y Gwasanaeth Llyfrgell eu mynychu. 

·         Ceir pum swydd llyfrgellydd proffesiynol yn y gwasanaeth yn Sir Ddinbych.

·         Mae Coleg Llandrillo yn darparu cyrsiau lefel 3 a 7 mewn sgiliau llyfrgell yn ystod y flwyddyn academaidd.

·         Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor wedi defnyddio gwirfoddolwyr ifanc ers sawl blwyddyn bellach, a nod y cynllun hwn yw datblygu sgiliau pobl ifanc. 

Defnyddir gwirfoddolwyr i ategu a chefnogi’r ddarpariaeth, nid yn lle staff llyfrgell cyflogedig. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod ar bobl o bob oed eisiau rhoi o’u hamser i wirfoddoli, gyda nifer yn dymuno darparu gwasanaethau gwirfoddol mewn llyfrgelloedd. O ganlyniad mae’r Cyngor yn datblygu Strategaeth Wirfoddoli a Strategaeth Datblygu'r Gweithlu, gyda’r bwriad o gefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a pheidio â chyfaddawdu rôl staff hyfforddedig cyflogedig. Nod y Strategaeth Wirfoddoli fydd ychwanegu gwerth at wasanaethau, nid arbed arian.

·         Mae’r mater o osod cosbau ariannol am fethu dychwelyd llyfrau ar amser yn cael ei archwilio. 

Pe byddai’r arfer yn dod i ben yna byddai hynny’n cael effaith ar incwm y gwasanaeth, felly byddai angen edrych ar gynlluniau cynhyrchu incwm newydd. Yn ogystal, er mwyn sicrhau bod deunyddiau darllen ar fenthyg yn cael eu dychwelyd byddai angen amnest o ryw fath.

·         Cadarnhawyd bod gan y gwasanaeth ymgyrch farchnata ar waith ar nifer o lwyfannau’r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

·         Mae gan bob aelod a phreswyliwr rôl bwysig i’w chwarae o ran diogelu cynaliadwyedd tymor hir llyfrgelloedd y sir, drwy sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n rheolaidd a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD CENEDLAETHOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU AR REOLI GWASTRAFF YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 302 KB

Ystyried adroddiad SAC ar 'Reoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol’, i graffu ar y casgliadau ac ymateb Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor i fynd i'r afael â materion a godwyd yn yr adroddiad (copi ynghlwm).

 

11.45 – 12.20 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy cyd-adroddiad y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu a Phennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd (a gylchredwyd ymlaen llaw). Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno adroddiad cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru, sef Rheoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol (Atodiad 1). Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi disgwyl mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o godi cyfraddau ailgylchu ac, yn sgil hynny, lleihau’r gwastraff a gludir i safleoedd tirlenwi. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud pedwar argymhelliad, y rhan fwyaf at sylw Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi ystyried y pedwar argymhelliad ac mae ei sylwadau a’i ymateb i bob un wedi’u cynnwys yn yr adroddiad eglurhaol.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn:

·         Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyfle i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall y costau sy’n amrywio o un awdurdod lleol i’r llall mewn perthynas â gwasanaethau rheoli gwastraff

·         Mae argymhellion yr adroddiad yn cefnogi model ailgylchu gwastraff arfaethedig y Cyngor a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet

·         Disgwylir i Lywodraeth y DU ymgynghori yn y dyfodol agos ynghylch diwygio system cyfrifoldeb cynhyrchwyr y DU o ran deunydd pacio.

Dan y system newydd arfaethedig byddai cost lawn rheoli gwastraff deunyddiau pacio yn cael ei osod ar y busnesau hynny sydd wedi’u defnyddio, gyda’r bwriad o roi pwysau arnynt i ddylanwadu ar ddyluniad deunydd pacio

·         Mae’r llywodraeth yn archwilio a oes angen newid deunydd pacio/labeli er mwyn egluro i’r cyhoedd pa ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu a pha rai nad oes modd eu hailgylchu

·         Bydd trefniadau casgliadau â chymorth yn parhau yn ôl yr arfer pan fydd model ailgylchu gwastraff newydd y Cyngor yn cael ei roi ar waith.

Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth yn adolygu’r ddarpariaeth hon yn y dyfodol agos i sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio gan y trigolion hynny sydd angen cymorth

·         Yn y gorffennol mae Sir Ddinbych wedi bod yn gyndyn o fabwysiadu model glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu. Fodd bynnag, mae pethau wedi newid dros amser a byddai symud at fodel glasbrint Llywodraeth Cymru yn yr ychydig flynyddoedd nesaf yn fuddiol i Sir Ddinbych a’i thrigolion oherwydd goblygiadau ariannol peidio â chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.

Er nad yw mabwysiadu model glasbrint Llywodraeth Cymru yn ofyniad statudol mae’r cymhellion ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd yn gwneud y model hwn yn fuddiol i’r Cyngor

·         Roedd y Cyngor yn cytuno ag argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â gwella dulliau meincnodi cost a pherfformiad er mwyn sicrhau dull cyson at ddibenion dadansoddi data a chymharu

·         Byddai’r model ailgylchu newydd arfaethedig yn fwy cadarn yn erbyn grym y farchnad na’r system ailgylchu bresennol. 

Tra bydd grym y farchnad wastad yn ffactor, bydd y model newydd yn darparu cadernid ychwanegol i wasanaeth y Cyngor

·         I gychwyn, mae’r Cyngor yn cynnig cynnal adolygiad o’i wasanaethau rheoli gwastraff o leiaf unwaith bob saith mlynedd, sy’n cyd-fynd ag oes gyfartalog cerbydau gwastraff.

Fodd bynnag, mae strategaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran rheoli gwastraff yn newid yn rheolaidd h.y. bydd ymgynghoriadau yn cael eu cynnal yn fuan ynghylch cynllun dychwelyd ernes a diwygio cyfrifoldeb cynhyrchwyr o ran deunydd pacio ac ati. Yn dibynnu ar ganlyniadau’r ymgynghoriadau hyn, mae’n bosibl y bydd ffocws a blaenoriaethau rheoli gwastraff yn newid

·         Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn edrych ar faterion yn ymwneud â dyluniad y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff newydd, gan gynnwys y strategaeth addysg a chyfathrebu arfaethedig sy’n cael ei llunio cyn cyflwyno’r gwasanaeth newydd

·         Gwneuthurwyr a’r llywodraeth ganolog sydd â’r pwerau i benderfynu ar y cynwysyddion  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL CRAFFU pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Roedd copi o “ffurflen gynnig Aelodau” wedi’i chynnwys yn Atodiad 2. Dylid cyflwyno unrhyw gynnig i’r Cydlynydd Craffu. Mae Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac mae tabl gyda chrynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a gwybodaeth am y cynnydd wrth eu rhoi ar waith wedi’i gynnwys yn Atodiad 4.

 

Cadarnhawyd dyddiad y cyfarfod nesaf, eglurwyd nad yw’r eitem arfaethedig ar Gartref Gofal Preswyl Dolwen wedi datblygu digon i gyflwyno adroddiad arni i’r Pwyllgor yn ystod cyfarfod mis Mawrth, ac felly bydd yr eitem yn cael ei rhoi ar raglen arall yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu bod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion yn cyfarfod yn y prynhawn, a bod modd ychwanegu adroddiadau pellach i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol yn dilyn trafodaeth. 

 

Mae rhestr o gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Grwpiau Her Gwasanaeth, ynghyd ag atodlen o’r cyfarfodydd yn 2018-19, wedi’i chynnwys yn y “Briff Gwybodaeth”. Dywedodd y Cyng. Geraint Lloyd-Williams nad yw’n gallu mynychu cyfarfod nesaf y Grŵp Her Gwasanaeth y mae’n cynrychioli’r Pwyllgor arno. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Cadeirydd i fynychu’r cyfarfod ar ran y Pwyllgor Craffu Perfformiad. 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cyng. Rachel Flynn ac Ann Davies eu bod wedi mynychu cyfarfod Herio Perfformiad y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol. Bu iddynt fynegi pa mor addysgiadol a ddiddorol oedd y cyfarfod. Mae copïau o gofnodion y cyfarfod Herio Perfformiad hwn a chyfarfodydd Herio Perfformiad diweddar perthnasol eraill wedi’u dosbarthu i’r aelodau fel rhan o’r 'Briff Gwybodaeth’.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13:10 p.m.