Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd David Williams a’r Aelod
Cyfetholedig Mike Hall. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganwyd
cysylltiad personol gan y Cynghorwyr: · Ellie Chard - Llywodraethwr Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Mair · Martyn Holland – Llywodraethwr Ysgol Bro Famau · Huw Jones - Llywodraethwr Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog · Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol Y Castell ac Ysgol Dewi Sant · Peter Scott - Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy a Brynhyfryd · Graham Timms – Llywodraethwr Ysgol Dinas Bran |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. Ar y pwynt hwn fe
groesawodd y Cyngor y Prif Weithredwr newydd i’w chyfarfod cyntaf o’r
Pwyllgor. Dymunodd yn dda iddi yn ei rôl
newydd gyda’r Cyngor. Ymatebodd y
Prif Weithredwr ei bod yn edrych ymlaen at ei rôl newydd gan ddiolch i’r
cynghorwyr a’r staff am y croeso cynnes i’r Cyngor. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 494 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018. PENDERFYNWYD bod
cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018 yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo fel
cofnod cywir. |
|
CYNNYDD DISGYBLION O FLWYDDYN 10 I FLWYDDYN 11 (CA4) PDF 580 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi wedi'i amgáu) am ddarganfyddiadau’r
astudiaeth a gynhaliwyd am ddisgyblion Blwyddyn 10 o’u dewis bynciau i
gyrhaeddiad. 10:05 a.m. – 10:45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth
groesawu’r Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau
Plant a’r Uwch Swyddog Gwella Ysgolion – sy'n rhan o'r cyfarfod i gyflwyno'r
adroddiad cyntaf – hoffai’r Pwyllgor eu llongyfarch nhw am eu gwaith caled oedd
wedi arwain at Estyn, yn dilyn archwiliad diweddar, i ddatgan fod y Gwasanaeth
yn cyflawni canlyniadau da a gyda gwasanaethau addysg o safon a chyda
arweinyddiaeth a rheoli rhagorol. Mae
rhinweddau arwain y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wedi’u nodi fel “hynod
effeithiol a theilwng”, gydag aelodau yn ei llongyfarch ac yn gofyn iddi ddatgan
hynny hefyd i staff y Gwasanaeth. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl
Ifanc yr adroddiad (wedi'i ddosbarthu'n barod) a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor
ystyried darganfyddiadau'r astudiaeth a wnaed ar ddisgyblion Blwyddyn 10 o
ddewis pynciau i gyrhaeddiad. Yn ystod ei gyflwyniad fe
hysbysodd Aelod Arweiniol y Pwyllgor fod Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar
gyfer 2017-2022 yn cynnwys yr uchelgais i weld fod pob plentyn yn cyflawni’r
safonau disgwyliedig ar ddiwedd ysgol gynradd, yn cyflawni o leiaf 5 TGAU A* -
C (yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg) erbyn diwedd ysgol uwchradd. Mae Estyn wedi cyfeirio at yr uchelgais hwn yn ei adroddiad diweddar. Cynghorodd
y Pennaeth Gwasanaeth fod y Cyngor yn cydnabod bod diffyg mewn cyrhaeddiad yn
bodoli rhwng cyfnodau allweddol (CA) 2 a 4, gyda pherfformiad yn mynd ar ei
lawr yn sylweddol o tua 20% i 25% rhwng y ddau gyfnod allweddol. Mae Swyddogion wedi llunio nifer o fesuriadau ymyrraeth i gefnogi
disgyblion yn trosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd er mwyn gwneud yn
siŵr nad ydyn nhw'n cael eu heithrio neu
ymddieithrio yn y broses addysg ac o ganlyniad yn tangyflawni gan y byddai hynny'n cael effaith ar eu canlyniadau mewn bywyd. Wedi’i restru yn yr adroddiad oedd y gwahanol fathau o gefnogaeth a mesurau
ymyrraeth ar gael i ddisgyblion. Gellir dechrau nifer o fesurau
ymyrraeth pe bai disgybl yn dechrau rhoi i fyny ar y system addysg h.y. trwy
ddefnyddio’r system TRAC. Byddai’r system yn adnabod y
math mwyaf priodol o gefnogaeth i ddisgybl ar sail unigol, gan gynnwys yr
amgylchedd ddysgu mwyaf effeithiol sydd ei angen i gefnogi eu haddysg i sicrhau
fod y disgybl yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial. Fodd bynnag mae’n bwysig sylweddoli nad
yw’r holl ddisgyblion yn cyflawni'r trothwy cynhwysol Lefel 2 ar CA4, ond y nod
yw sicrhau y byddan nhw’n cyflawni eu gorau. Mae
Sir Ddinbych yn cofnodi pob disgybl unigol o'r
diwrnod y maent yn cael eu cynnwys ar system addysg y Sir tan y diwrnod y
byddant yn gadael. Er bod yr awdurdod lleol yn gwybod eu
disgyblion a’u hanghenion yn dda mae’n debyg ei fod angen dangos tystiolaeth
o’r prosesau a gwella cyfanswm ei wybodaeth.
Mae Atodiad 1 o’r
adroddiad yn cynnwys enghraifft o'r matrics olrhain a ddefnyddiwyd i fonitro
cynnydd disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig (AAA), neu sydd yn gymwys
am brydau ysgol am ddim, gyda Saesneg fel iaith ychwanegol neu wedi eu
hystyried yn ddisgyblion dros dro. Mae’r matrics yn rhoi proffil
o bob disgybl sydd o bosib angen cefnogaeth ychwanegol. Mae defnyddio’r matrics yn sicrhau fod yr holl ffactorau wedi eu cymryd i
ystyriaeth wrth benderfynu pa fath o gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen
arnynt. Wrth benderfynu ar y math a lefel o
unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen bydd swyddogion yn ystyried cofnod
presenoldeb disgyblion yn ogystal â’u hymddygiad ac
unrhyw waharddiadau o ysgolion. Er bod mesurau atebolrwydd ar fin newid eto yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19 a fyddai'n cymhlethu'r broses o adnabod anghenion cefnogaeth ymhellach, roedd pob ymdrech posib ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHEOLI YMDDYGIAD YN YSGOLION SIR DDINBYCH PDF 294 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg (copi wedi'i amgáu) sy'n gofyn i'r Pwyllgor
adolygu tueddiadau o ran gwaharddiadau o’r ysgol yn y sir i bennu os ydi
gwaharddiadau tymor byr yn cael effaith
niweidiol ar gyrhaeddiad y
disgyblion. 10:45 a.m.
– 11:15 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad a’r atodiadau
(wedi eu dosbarthu’n barod) a oedd yn crynhoi’r tueddiadau mewn gwaharddiadau
parhaol a thymor penodol fe gynghorodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a
Phobl Ifanc bod aelod wedi gofyn am yr adroddiad oherwydd ei bryderon
ynglŷn â’r nifer o waharddiadau tymor penodol o
bum niwrnod neu lai yn ysgolion y sir. Yn ystod ei
gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol er bod Estyn fel rhan o’r archwiliad
diweddar o Wasanaeth Addysg y Cyngor wedi archwilio’r maes penodol hwn, doedd y
corff heb wneud unrhyw argymhellion penodol mewn perthynas â pholisi neu
gyfraddau gwahardd o'r ysgol. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod gan y Cyngor
uchelgais a pholisi i gadw plant mewn ysgol a'u cefnogi nhw drwy eu haddysg.
Gwaharddiad parhaol o ysgol yw’r
weithred olaf un pan fydd yr holl ymyriadau eraill wedi methu, roedd y
gwaharddiadau dros y tymor byr felly yn uwch er mwyn mynd i’r afael â
phroblemau fel nad oedd angen gwahardd disgybl yn barhaol gan fod gwahardd yn
barhaol yn debygol o olygu y byddai disgybl ‘ddim mewn addysg, cyflogaeth na
hyfforddiant’ (NEET), wedi ymddieithrio, yn tangyflawni neu ddim yn cyflawni ac
felly yn effeithio ar ei ganlyniadau bywyd o/hi. Cynghorodd y Pennaeth Addysg a
Gwasanaethau Plant fod:
O ganlyniad
ni chaniateir i ysgolion anfon disgyblion adref ‘i dawelu’ ac ati gan fod
ganddynt ddyletswydd gofal statudol am y plentyn ac yn sicrhau ei ddiogelwch
o/hi;
Felly,
angen archwilio cefndir pob plentyn unigol er mwyn deall beth o bosib fyddai’n
achosi’r ymddygiad; ac
Wrth ymateb i gwestiynau aelodau
dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r Uwch
Swyddog Gwella Ysgolion – Uwchradd:
Os bydd eu hymddygiad yn dod yn fwy
heriol yna bydd yr Adran Addysg yn gweithio gyda'r ysgolion i'w helpu nhw, gan
gynnwys y trawsnewid o addysg gynradd i uwchradd ac addysg bellach os oes
angen. Mae swyddogion
wedi amlinellu'r broses a ddefnyddiwyd i ddylunio ymyrraeth briodol i gwrdd ag
anghenion unigol disgybl;
Fel gwasanaeth, cyfrifoldeb y Gwasanaeth Addysg yw sicrhau fod ysgolion unigol yn dilyn y gweithdrefnau cywir ac yn gweithredu mesurau ymyrraeth briodol i gefnogi'r disgybl dan sylw i gyflawni eu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MAWRTH 2018 PDF 230 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi wedi'i amgáu) sy’n
cyflwyno fersiwn Mawrth 2018 o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor ac yn
ceisio sylwadau’r Aelodau am y fersiwn ddiwygiedig. 11:25 a.m. – 12:00 a.m.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ag Asedau yr adroddiad a’r atodiadau (wedi’i
ddosbarthu yn barod) a oedd yn cyflwyno fersiwn ffurfiol wedi’i ddiweddaru i’r
Pwyllgor o Gofrestr Risg y Cyngor i’w ystyried. Fel rhan o’i gyflwyniad, fe dynnodd yr Aelod
Arweiniol sylw at y prif newidiadau a wnaed i’r gofrestr risg fel y rhestrwyd
yn Atodiad 1 yr adroddiad. Ar ddiwedd ei gyflwyniad fe eglurodd bod y risg ynghlwm ag ad-drefnu
llywodraeth leol wedi cael ei dynnu o’r gofrestr yn ddiweddar. Er hynny yn dilyn cyhoeddiad diweddar fod ad-drefnu
llywodraeth lleol yn cael ei ystyried unwaith eto mae'n bosib y bydd y risg yn
ymddangos unwaith eto pan fydd y Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cofrestr
Risg nesaf. Mewn
perthynas â’r risg newydd yn gysylltiedig â’r arian sydd yn dod yn ôl i Sir
Ddinbych o’r buddsoddiad a wnaed ar y Bargen Twf Rhanbarthol fe eglurodd ei fod
yn risg newydd a dieithr ar hyn o bryd ac felly dyna'r rheswm pam fod ei
sgoriau risg cychwynnol a gweddilliol union yr un fath ar hyn o bryd.
Y disgwyliad wrth i'r prosiect fynd
yn ei flaen yw bod y sgôr risg gweddilliol yn lleihau. Mae’r sgôr risg gweddilliol o ran gallu’r
Cyngor i gynnig cyllideb cytbwys wedi cynyddu.
Mae’r penderfyniad i gynyddu’r sgôr risg gweddilliol yn seiliedig wrth
symud ymlaen fod camau gweithredu angen sicrhau bod cyllidebau cytbwys yn cael
eu darparu a byddai angen gwneud rhai penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd
iawn a fyddai'n cael sylw negyddol iawn
yn y wasg a gyda'r potensial o niweidio enw da y Cyngor. Wrth ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad
ac Asedau a’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol:
Mae’r cofrestri hyn yn bwydo i mewn i’r Gofrestr Risg Corfforaethol mwy
strategol. Mae risgiau
wedi’u nodi yn y Cynlluniau Gwasanaethau yn cael eu rheoli fel rhan o'r broses
i gyflawni Cynllun Corfforaethol y Cyngor; ac
Ar ddiwedd y
drafodaeth roedd y Pwyllgor wedi: Penderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod i gael eu
gweithredu i gadarnhau y dileadau, yr ychwanegiadau a’r newidiadau i'r Gofrestr
Risg Gorfforaethol |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 229 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 12:00 p.m. – 12:15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol. Gofynnodd yr
aelodau os oedd cynrychiolydd o Kingdom am fynychu pan fyddai’r Pwyllgor yn
archwilio perfformiad y cwmni ar weithredu camau gorfodi ar ran y Cyngor yn ei
gyfarfod nesaf ar 7 Mehefin. Dywedodd y
Cydlynydd Craffu y dylid gofyn i swyddogion wahodd yr uwch swyddog mwyaf
priodol o’r cwmni i fynychu. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth yr aelodau fod yr Adroddiad Cenedlaethol
ar Reoli Gwastraff a oedd yn fod i gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yng nghyfarfod
Mehefin yn gorfod cael ei newid i'r hydref am fod yr adroddiad heb gael ei
gyhoeddi eto. Pwyllgor yn: PENDERFYNU yn
amodol ar y sylwadau a’r diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Cael diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12:15
p.m. – 12:30 p.m. Cofnodion: Canmolodd y Cynghorwyr
Arwel Roberts a Geraint Lloyd-Williams y cyfarfod
herio gwasanaeth diweddar a fynychodd y ddau.
Gofynnodd yr aelodau i’r rhestr diweddaraf o gynrychiolwyr y pwyllgor craffu ar Grwpiau Herio Gwasanaeth i gael ei
ddosbarthu iddyn nhw. Daeth y cyfarfod i ben am 12:42am |