Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peter Scott a’r Cynghorydd Martyn Holland.
Derbyniwyd ymddiheuriadau hefyd gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod
Arweiniol Datblygu Seilwaith Cymunedol. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Hysbyswyd y
Pwyllgor gan y Cadeirydd y dygwyd i’w sylw bod y cyhoeddiad diweddar ac
annisgwyl ynglŷn â chau
Coleg Dinbych wedi bod yn achos o bryder enfawr i’r aelodau, yn benodol diffyg
cyfathrebu Grŵp Llandrillo Menai gydag aelodau etholedig, rhanddeiliaid
a’r Cyngor ynglŷn â’i
fwriad i gau’r cyfleuster. Hysbyswyd yr Aelodau bod yr AS wedi trefnu cyfarfod
agored yn Eirianfa, Dinbych ar y diwrnod canlynol i drafod cau’r coleg.
Deallwyd hefyd fod y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wedi gwneud cais am
gyfarfod gydag awdurdodau’r coleg i drafod y penderfyniad i gau a’r
ddarpariaeth ar gyfer y myfyrwyr yn y dyfodol. Gofynnodd y Pwyllgor
i’r Cydlynydd Archwilio holi’r Pennaeth Gwasanaeth ynglŷn â’i chyfarfod ag awdurdodau’r Coleg ac i
rannu’r canlyniadau ag Aelodau. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 409 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 01 Chwefror 2018
(copi ynghlwm). 10:00am – 10:05am Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd
ar 1 Chwefror 2018. Nid oedd unrhyw fater yn codi. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod
Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2018 fel cofnod
cywir.
|
|
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELL PDF 219 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) sy’n tanlinellu perfformiad y
Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn safonau cenedlaethol. 10:05am – 10:35am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb
Aelod Arweiniol Datblygu Seilwaith Cymunedol, cyflwynodd y Pennaeth Cyfathrebu,
Cwsmeriaid a Marchnata adroddiad y Prif Llyfrgellydd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) a oedd yn amlinellu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn y
safonau cenedlaethol ac yn diweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiadau o fewn y
gwasanaeth yn Sir Ddinbych ac ar sail ranbarthol. Ynghlwm wrth yr adroddiad fel
atodiadau roedd copïau o asesiad ffurfiol Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a
Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru o wasanaeth llyfrgell y sir ar gyfer 2016-17
(Atodiad A) a pholisi codi tâl diwygiedig y Cyngor ar gyfer defnyddio gofodau’r llyfrgell i gynnal
gweithgareddau (Atodiad B). Yn ystod ei
chyflwyniad, hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gwasanaeth fod Gwasanaeth
Llyfrgell Sir Ddinbych wedi diwallu 17 o’r 18 Hawliad Craidd yn ystod 2016-17,
fel y gwnaeth drwy gydol cyfnod 5ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru (2014-2017). Dywedodd fod Sir Ddinbych wedi croesawu cynnwys dangosydd
ansawdd, yn ymwneud â pherfformiad y llyfrgell wrth gefnogi iechyd a lles, yn 6ed
Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, 2017 – 2020. Rhannwyd manylion
gydag Aelodau ynglŷn â’r gwaith ailwampio sydd bron â’i gwblhau yn Llyfrgell Llanelwy, y rhaglen
ailwampio a ariannwyd drwy grant yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
yn Llyfrgell Dinbych, a’r gwaith i newid y to yn Llyfrgell Y Rhyl. Cafodd yr
Aelodau eu briffio ynglŷn â’r defnydd cynyddol o lyfrgelloedd at ddibenion
darparu gwasanaethau cymunedol gan y Cyngor a sefydliadau partner, a oedd i gyd
yn cefnogi gwaith iechyd a lles ehangach y sefydliadau amrywiol. Roedd polisi codi tâl diwygiedig y Gwasanaeth Llyfrgell, ar gyfer
defnyddio gofodau’r llyfrgell i gynnal gweithgareddau cynlluniedig, yn cynnig
defnydd am ddim o’r gofodau llyfrgell er mantais gymunedol, gostyngiad ar gyfer
grwpiau cymunedol ac elusennau cofrestredig a dim ond archebion preifat/
masnachol neu grwpiau’n gwneud elw oedd yn gorfod talu’r ffioedd llogi yn
llawn. Cyflwynwyd y polisi diwygiedig hwn ym mis Ionawr ar gyfer archebion
newydd ac ym mis Ebrill 2018 ar gyfer y archebion grŵp rheolaidd. Rhannwyd
manylion hefyd o’r gwaith rhanbarthol a chenedlaethol a wnaed ar y cyd rhwng
gwasanaethau llyfrgell sirol at ddibenion cyflawni arbedion, cefnogi a gwella
darpariaeth y cynnig iechyd a lles, gwella'r ystod o ddeunydd darllen sydd ar
gael i ddefnyddwyr a chyfrwng ei argaeledd, hynny yw llyfrau, e-lyfrau,
e-lyfrau llafar ac ati. Gan ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth a’r Prif Lyfrgellydd: ·
roedd
Llyfrgell Rhuddlan ar agor ar foreau Sadwrn ar hyn o bryd gan fod Llyfrgell
Llanelwy wedi cau dros dro er mwyn cynnal gwaith ailwampio. Aelodau staff o
Lyfrgell Llanelwy oedd yn gweithio yn Rhuddlan ar foreau Sadwrn. Os oedd Aelodau a phreswylwyr
yn awyddus i Lyfrgell Rhuddlan barhau i agor ar foreau Sadwrn yn dilyn ail-agor
Llyfrgell Llanelwy byddai'n rhaid sicrhau adnoddau ariannol er mwyn cyflawni
hyn, un opsiwn fyddai cysylltu â Chyngor Tref Rhuddlan i wneud cais am
gefnogaeth ariannol bellach; ·
ar hyn o bryd
dim ond dau gyngor dinas, tref neu gymuned oedd yn darparu cefnogaeth ariannol
i’r Cyngor Sir ar gyfer darpariaeth gwasanaethau llyfrgell yn eu hardal, sef
Cyngor Dinas Llanelwy a Chyngor Tref Rhuddlan. Roedd Cyngor Dinas Llanelwy yn
penderfynu ar sail flynyddol a fyddai’n darparu cefnogaeth ariannol i Wasanaeth
Llyfrgell y Cyngor ai peidio. Wrth ystyried y posibilrwydd o adnoddau cyllid
gostyngol ar gyfer darpariaeth gwasanaethau yn y tymor canolig a’r tymor hir,
efallai y byddai’n rhaid i’r Gwasanaeth Llyfrgell ystyried cysylltu â’r holl
gynghorau dinas, tref a chymuned am gymorth ariannol er mwyn sicrhau
darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol; · byddent yn holi Adran Gwasanaethau Adeiladu’r Cyngor ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am dalu costau’r gwaith cynnal a ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHEOLI PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL 2017 - 2022 PDF 198 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy’n gofyn am
sylwadau'r Pwyllgor ar y fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer Cynllun Corfforaethol
y Cyngor 2017-2022. 10:35am – 11:05am
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid a Pherfformiad adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor ar y fframwaith a
luniwyd i reoli perfformiad darpariaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2017 -
2022. Yn ystod ei
gyflwyniad, tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw’r Aelodau at Atodiad 1 yr
adroddiad, a oedd yn amlinellu’r pum blaenoriaeth ac yn manylu ar y waelodlin
(Cyflwr Presennol), sef man cychwyn y daith i gyflawni’r blaenoriaethau a’r
trothwy llwyddiant arfaethedig (Cyflwr Dyfodol) a fyddai’n dynodi diwedd y
daith a chyflawniad y blaenoriaethau. At ddibenion cefnogi cyflawniad y blaenoriaethau,
datblygwyd cyfres o ddangosyddion penodol i gynorthwyo’r Cyngor â gwerthuso
cynnydd a chyflawniad cyffredinol o’i uchelgeisiau. Roedd y rhain wedi’u
cynnwys yn Atodiad A'r adroddiad. Yn ystod y camau cynnar hyn yn narpariaeth y
Cynllun, roedd lawer o’r dangosyddion hyn yn nodi perfformiad gwaelodlin, fodd
bynnag wrth i waith fynd rhagddo, y bwriad fyddai gweld perfformiad yn erbyn y
dangosyddion yn gwella’n gyson. Y nod yn y pen draw fyddai symud cyfeiriad y perfformiad yn erbyn pob
dangosydd o ‘goch’ i ‘wyrdd’. Roedd gan y Pwyllgor Archwilio rôl allweddol i’w
chwarae wrth sicrhau perfformiad da yn gyson a chyflawni’r Cynllun
Corfforaethol, yn ogystal â’r Cabinet a’r Byrddau Rhaglen a sefydlwyd i oruchwylio ei gyflawniad. Byddai
adroddiadau monitro perfformiad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio bob
chwarter, ac os mynegwyd pryderon ynglŷn ag unrhyw agwedd o gyflawni’r
Cynllun gallai’r Pwyllgor gyfarwyddo’r gwasanaeth / gwasanaethau perthnasol i
fynychu cyfarfod y Pwyllgor Archwilio i drafod y rhesymau dros berfformiad
gwael gyda’r Aelodau. Er mai cynllun
strategol y Cyngor oedd y Cynllun Corfforaethol, nid oedd modd iddo gyflawni’r
cynllun yn llwyr ar ei ben ei hun, roedd elfennau o rai blaenoriaethau yn
ddibynnol ar bartneriaid e.e. landlordiaid cymdeithasol cofrestredig,
datblygwyr preifat, y llywodraeth genedlaethol, y Bwrdd Iechyd, busnesau
preifat, cwmnïau gwasanaeth ac ati. Gan ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol: ·
fel rhan o ddatblygiad y Cynllun
Corfforaethol, roedd y dangosyddion y cytunwyd arnynt i fesur perfformiad a
chyflawniad wedi’i creu drwy ystyried beth fyddai’n nodi llwyddiant; ·
byddent yn archwilio
dulliau posibl ar gyfer cynnwys data a naratif eglurhaol ar y graffiau er
hwylustod; ·
byddai gwaith mewn
perthynas â chefnogi gofalwyr yn cael ei ddatblygu o dan nawdd y Bwrdd Rhaglen
Cymunedau a’r Amgylchedd a byddai’n cael ei adrodd fel rhan o adroddiadau
monitro perfformiad rheolaidd y Cynllun Corfforaethol maes o law; ·
er i rai aelodau gredu bod
rhai o’r ffyrdd ar draws y sir mewn cyflwr gwael a bod angen cyflawni gwaith
cynnal a chadw brys, roedd y data gan Lywodraeth Cymru yn nodi’r gwrthwyneb.
Defnyddiodd Llywodraeth Cymru system werthuso annibynnol i asesu cyflwr ffyrdd
y sir, cynhyrchodd y dull hwn asesiad yn seiliedig ar gyfartaledd eu cyflwr,
nid oedd yn ystyried eu cyflwr ar sail unigol. Atgoffodd y Cydlynydd Archwilio
y Pwyllgor y penderfynwyd yn y cyfarfod diwethaf i wahodd swyddog o Adran
Cynllunio Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i fynychu cyfarfod yn y dyfodol, i
drafod cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau priffyrdd yn y dyfodol gyda’r
aelodau. Nid
oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan swyddogion Llywodraeth Cymru
ynglŷn â’u hargaeledd i fynychu cyfarfod yn y dyfodol. ·
er bod angen gwaith dwys
gan bob un o wasanaethau’r Cyngor i gynhyrchu’r Cynllun Corfforaethol, ni
ddylai casglu’r data wedi hynny fod yn dasg lafurus; · er nad oes cyfeiriad penodol at ‘ddiwylliant’ yn y Cynllun Corfforaethol, y byddai mewn gwirionedd yn elfen gynhenid o sawl blaenoriaeth, yn benodol y flaenoriaeth yn gysylltiedig â’r Amgylchedd gan fod lles yn rhan fawr o’r flaenoriaeth honno. Roedd gan Asesiad Lles ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL INTERIM 2016-2018 PDF 206 KB Ceisio sylwadau a
chefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb Strategol Interim y Cyngor
2016-2018 (copi ynghlwm) 11:15am – 11:45am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol adroddiad y Tîm Cynllunio Strategol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Aelodau a chyflwynodd Gynllun Cydraddoldeb Strategol Interim Drafft 2016-18 y Cyngor i’r Pwyllgor. Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd yr Aelodau mai dyma’r tro cyntaf i’r Cynllun, a oedd yn amlinellu’r prosiectau a’r gweithgareddau allweddol a ddarparwyd gan y Cyngor yn unol â’r Cynllun Cydraddoldeb yn ystod 2017-18, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor. Yn flaenorol, cyflwynwyd y cynlluniau i’r Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol. Fodd bynnag, diddymwyd y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol ym Mawrth 2017. Wrth symud ymlaen, y bwriad fyddai adrodd ar ymrwymiad a chyfraniad y Cyngor at gydraddoldeb ac amrywiaeth drwy lunio adroddiadau monitro rheolaidd ar berfformiad y Cyngor wrth ddarparu ei Gynllun Corfforaethol, gan y dylai cydraddoldeb ac amrywiaeth ffurfio rhan annatod o fusnes cyfan y Cyngor. Eglurodd yr Aelod Arweiniol hefyd bod y Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei gyflwyno i aelodau er mwyn derbyn eu sylwadau, cyn ei gyfieithu a’i gyhoeddi yn unol â’r terfyn amser statudol, 31 Mawrth 2018. Dywedodd hefyd os oedd ar yr aelodau angen cyfleoedd hyfforddi a datblygu pellach ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i'w darparu. Roedd gwaith ar fynd ar hyn o bryd gydag Adran AD y Cyngor i sicrhau argaeledd y modiwl e-ddysgu ‘Cydraddoldeb’ ar gyfer aelodau staff ar lwyfan e-ddysgu’r Cyngor yn y dyfodol agos. Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol a’r Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad: ·
bod angen cynnal Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb/ Asesiadau o Effaith
ar Les ar gyfer polisïau cynllunio newydd neu ddiwygiedig ond nid oedd y rhain
yn berthnasol i geisiadau cynllunio unigol; ·
cadarnhaodd bod disgwyliad ar bob un o Wasanaethau’r Cyngor i ymgymryd ag
Asesiad o Effaith at Les a chadw at ddyletswyddau cydraddoldeb wrth ddatblygu
polisïau newydd neu adolygu polisïau cyfredol; ·
pwysleisiodd fod dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sydd wedi’u
nodi yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn berthnasol i sefydliadau sector
cyhoeddus yn unig ac nid oeddent yn berthnasol i fusnesau preifat. Fodd bynnag,
byddai’r wybodaeth a ddarperir i fusnesau preifat mewn perthynas â chyflwyno
ceisiadau cynllunio yn pwysleisio’r angen i’w cynigion gydymffurfio â gofynion
gwahaniaethu ar sail anabledd y Ddeddf Cydraddoldeb 2010; Yn ystod y drafodaeth ar gynnwys y Cynllun, awgrymwyd gan Aelodau’r Pwyllgor y dylid gwneud y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol i ddogfen y Cynllun, cyn i’r ddogfen honno gael ei chyfieithu a’i chyhoeddi: ·
dylid cynnwys geirfa i egluro’r acronymau a’r derminoleg a ddefnyddir yn y
ddogfen drwyddi draw. ·
dylid gwirio’r ddogfen er mwyn sicrhau bod yr holl sefydliadau wedi eu
cyfeirio atynt yn gywir ym mhob rhan o’r ddogfen, hynny yw ‘Urdd’ nid ‘URDD’. ·
at ddibenion eglurder a dealltwriaeth, dylid cynnwys naratif byr i egluro
rolau grwpiau penodol, hynny yw ‘Cydlynwyr Datblygu Cymunedol’ ac ati; ·
dylid cynnwys gwybodaeth ar y gwaith helaeth a wnaed ar draws y Cyngor ac
yn y gymuned leol i godi ymwybyddiaeth o ddementia; a ·
chynnwys ffotograffau er mwyn gwella edrychiad y ddogfen ac annog unigolion
i’w darllen. Ar ddiwedd y drafodaeth dechreuodd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion archwilio’r dulliau y gallai’r Cyngor eu defnyddio i ddylanwadu ar y gymuned ehangach yn y sir i fodloni safonau Cydraddoldeb tebyg i’r rheiny a fodlonwyd gan yr Awdurdod. Penderfynwyd: (i)
yn amodol ar y sylwadau a wnaed a chynnwys y newidiadau a’r ychwanegiadau a
awgrymwyd, i gefnogi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Interim 2016-2018 ac
argymell ei gyfieithu a’i gyhoeddi yn unol â’r
gofynion statudol; a (ii) bod adroddiad yn adolygu perfformiad y Cyngor wrth ddarparu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 224 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11.45am - 12.00pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y
Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Roedd copi o “ffurflen gynnig Aelodau” wedi’i chynnwys yn
Atodiad 2. Gofynnodd y Cydlynydd Archwilio i unrhyw gynigion gael eu cyflwyno
iddi hi. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad
3 ac roedd tabl gyda chrynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a
gwybodaeth am y cynnydd eu rhoi ar waith wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd a’r Cydlynydd
Archwilio, yn dilyn cyfarfod â Phennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r Prif
Reolwr Addysg, y daethpwyd yn amlwg bod yr wybodaeth a oedd angen ei chyflwyno
fel rhan o eitem fusnes addysg ar ‘Reoli Ymddygiad ac Absenoldeb yn Ysgolion
Sir Ddinbych’, yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn llawer rhy feichus i’w
thrafod fel un eitem fusnes yn ystod un cyfarfod. Gyda’r bwriad o wella
dealltwriaeth Aelodau o’r agweddau a’r pynciau amrywiol a geisiwyd, cynigodd
swyddogion gynnal gweithdy ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig ar
'Gynhwysiant a Lles mewn Addysg a Gwasanaethau Plant’ ym mis Mehefin 2018.
Byddai adroddiad Estyn, yn dilyn ei arolwg o Wasanaethau Addysg y Sir, ar gael
erbyn mis Mehefin. Yn dilyn y gweithdy hwn dylai fod yn haws i Aelodau ganfod
pa feysydd o berfformiad y gwasanaeth sydd angen eu harchwilio’n fanylach.
Awgrymwyd felly y dylid gohirio’r eitem ‘Rheoli Ymddygiad ac Absenoldeb yn
Ysgolion Sir Ddinbych’ a drefnwyd i'w gyflwyno i'r Pwyllgor ar 26 Ebrill, tan
yr oedd y gweithdy wedi’i gynnal. Awgrymwyd hefyd y dylid canslo’r cyfarfod
arbennig ar 10 Mai, at ddibenion gwahodd dwy ysgol uwchradd i gwrdd â’r
Pwyllgor i drafod eu Cynlluniau Gwella Ysgol, gan y byddai’n fwy priodol i
wahodd ysgolion i gyfarfodydd yn yr hydref yn dilyn cyhoeddiad canlyniadau
arholiad y flwyddyn academaidd bresennol. Cytunodd y Pwyllgor â’r uchod. Gofynnwyd i Aelodau gwblhau arolwg archwilio ar-lein a
ddosbarthwyd yn gynharach y mis hwn. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cwblhau’r arolwg
hwn gan y byddai’r canfyddiadau yn cael eu hadrodd i’r Cyngor Sir fel rhan o
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ym mis Mai 2018. Atgoffwyd Aelodau
hefyd am y digwyddiad hyfforddi ‘Archwilio Effeithiol ar gyfer Canlyniadau
Cadarnhaol’ a oedd yn cael eu gynnal yr wythnos ganlynol. PENDERFYNWYD
yn amodol
ar y sylwadau a’r diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12:00pm-12:05pm
Cofnodion: Adroddodd y
Cynghorydd Arwel Roberts ar gyfarfod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion a oedd
wedi’i fynychu’n ddiweddar. Bu i ddwy ysgol gael eu herio’n gadarn yn ystod y
cyfarfod mewn perthynas â’u
perfformiad wrth ddarparu addysg a materion rheoli ysgol. Adroddodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams ar gyfarfod Herio Gwasanaeth a oedd wedi’i
fynychu ar gyfer y Gwasanaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai, a oedd yn gyfarfod
effeithiol ac adeiladol. GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Dywedodd y
Cadeirydd fod yr eitem fusnes nesaf yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol ac yn
dilyn hynny: PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer
yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth
Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei
datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|
DIWEDDARIAD AR WASANAETHAU GOFAL MEWNOL Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cleient
(Gwasanaethau Cymorth Cymunedol) (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r manylion diweddaraf
i’r Pwyllgor ynglŷn â’r cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â
sefydliadau gofal cymdeithasol y Cyngor. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am
sylwadau'r Pwyllgor i'w cyflwyno i'r Cabinet mewn perthynas â chanlyniad
ymarfer tendr agored ar gyfer trosglwyddiad arfaethedig Canolfan Ddydd Hafan
Deg, Y Rhyl. 12:05pm-1:00pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyn dechrau
trafod yr eitem fusnes hon, hysbyswyd y Pwyllgor gan Gadeirydd y Grŵp Tasg
a Gorffen Gofal Cymdeithasol I Oedolion Mewnol, a Chadeirydd y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi cwrdd yn gynharach y
bore hwnnw i ystyried yr wybodaeth o fewn adroddiad cyfrinachol y Rheolwr
Gwasanaeth – Gwasanaethau Cleientiaid (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Hwn oedd
ail gyfarfod y Grŵp Tasg a Gorffen i drafod y cynnydd a wnaed hyd yma mewn
perthynas â darpariaeth
gwasanaethau gofal cymdeithasol yn sefydliadau gofal cymdeithasol a
chanolfannau dydd y Cyngor, yn dilyn penderfyniadau’r Cyngor yn 2016 i
archwilio dewisiadau eraill gyda chyrff perthnasol i ddarparu gwasanaethau ar
gyfer Awelon, (Rhuthun) a Chysgod y Gaer (Corwen) ac i ddechrau proses dendro
ar gyfer darpariaeth gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yn Hafan Deg (Rhyl) a
Dolwen (Dinbych). Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor drosolwg o’r trafodaethau a
gynhaliwyd yn y ddau gyfarfod Grŵp Tasg a Gorffen i’r Aelodau a dywedodd y
byddai’n adrodd sylwadau’r Pwyllgor, ac unrhyw argymhelliad yn dilyn eu
trafodaeth, i’r Cabinet pan oedd aelodau’r Cabinet yn ystyried y mater yn ystod
eu cyfarfod ym mis Ebrill 2018. Wrth gyflwyno’r
adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig, cafodd yr Aelodau eu briffio gan yr Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth ar y gwaith a wnaed gan y Grŵp Tasg a
Gorffen, y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a‘r Cabinet yn ystod cyfnod y Cyngor
blaenorol mewn perthynas ag archwilio dewisiadau cynaliadwy posibl ar gyfer
darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a oedd yn bodloni
disgwyliadau newidiol preswylwyr, ac yn cydymffurfio â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer
gwasanaethau gofal cymdeithasol a chydymffurfio hefyd â gofynion deddfwriaethol. Cafodd yr Aelodau
eu briffio gan Bennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r Rheolwr Gwasanaeth –
Gwasanaethau Cleientiaid ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas ag Awelon,
Cysgod y Gaer a Dolwen, cyn amlinellu’r broses a ddilynir mewn perthynas â chynnal proses dendro ar gyfer darparu
gwasanaethau gan Hafan Deg, Y Rhyl. Pwysleisiwyd bod y broses dendro wedi’i
chynnal yn unol â
rheoliadau caffael ac i swyddogion proffesiynol cymwys werthuso’r tendrau a
dderbyniwyd yn erbyn meini prawf pris ac ansawdd – rhoddwyd mwy o bwyslais ar
ansawdd y gwasanaeth na’r pris (60% ansawdd / 40% pris). Rhoddwyd gwybod i’r
Pwyllgor, pe bai’r ‘darparwr a ffefrir’ yn cael ei gymeradwyo a’i benodi, yn
dilyn proses gwerthuso tendrau, byddai’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r cwmni
er mwyn sicrhau bod holl ofynion yr Awdurdod, mewn perthynas â darpariaeth gwasanaeth, yn cael eu cynnwys
yn y cytundeb contract. Byddai hyn yn cynnwys ychwanegu cymalau at gytundeb
prydles y cyfleuster yn ymwneud â chydymffurfio gyda manylion y brydles, costau cynnal a chadw, a sicrhau
argaeledd lleoedd yn yr adeilad, er mwyn i grwpiau eraill e.e. preswylwyr War
Memorial Court, sefydliadau’r trydydd sector ac ati gael eu llogi pan nad yw
deiliad y brydles yn eu defnyddio. Gan ymateb i
gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth a’r Rheolwr
Gwasanaeth – Gwasanaethau Cleientiaid: ·
bod y ‘darparwr a ffefrir' wedi ymgymryd â
gwaith yn ei Gynllun Busnes (ynghlwm wrth yr adroddiad) i ehangu a datblygu'r
ystod o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn Hafan Deg, hynny yw,
cefnogaeth i ofalwyr, cynhwysiad cymdeithasol a lleihau arwahanrwydd ac ati. ·
gallai darparwyr annibynnol, megis y ‘darparwr a
ffefrir’, gael mynediad at grantiau’r 3ydd sector ar gyfer darparu gwasanaethau
penodol. Nid oedd yr opsiwn hwn i sicrhau cyllid ar gael i'r awdurdod lleol. ·
byddai contract y Cyngor â’r ‘darparwr a ffefrif’ yn dilyn yr un trefniadau
monitro contract llym â chontractau darparwyr eraill sydd wedi’u comisiynu gan
y Cyngor; · byddai rhaglen drosglwyddo yn cael ei ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
RHAN 1 Cyn dod â’r cyfarfod i
ben, hysbyswyd yr Aelodau gan y Cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod Pwyllgor olaf y
Prif Weithredwr cyn iddo adael yr Awdurdod. Diolchodd y Cadeirydd a’r Aelodau
iddo am ei gyfraniad i’r Cyngor a’i gefnogaeth o waith y Pwyllgor a dymunwyd yn
dda iddo ar gyfer y dyfodol. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.20pm |